1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Anne Jenkins  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

      i.        To receive any apologies for absence.

     ii.        To receive any declarations of interest.

    iii.        To receive any announcements by the Mayor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

i.              Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

ii.             Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

iii.            Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 132 KB

To confirm and sign the minutes of the last meeting dated 27 February 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Chwefror a 28 Gorffennaf 2020.

 

Penderfynwyd: Bod Cofnodion 27 Chwefror a 28 Gorffennaf 2020 yn cael eu cofnodi fel cofnod cywir.

 

3.

Penodiadau pdf icon PDF 77 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried y penodiadau arfaethedig a nodir yn yr adroddiad

 

Cynigiodd y Cynghorydd Harvey y penodiadau a nodir yn yr adroddiad, fel y cytunwyd gan y Rheolwyr Busnes, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol a nodir isod.

 

Penderfynwyd: Bod y penodiadau canlynol yn cael eu cytuno.

 

Penodiadau Mewnol

 

Dim.

 

Penodiadau i Sefydliadau Allanol

 

Sefydliad

Nifer o Swyddi Gwag / Olynyddion

Enwebiadau a gafwyd

Ardal Gwella Busnes

1

Bydd yr Arweinydd yn cymryd lle’r Cynghorydd D Harvey

 

Penodiadau Cyrff Llywodraethu

 

Sefydliad

Enwebiadau a gafwyd

Nifer o Swyddi Gwag / Olynyddion

 

 

 

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas

Andrea Mulcahy

Ail-benodi

Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff

David Fouweather

Ail-benodi

Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon

David Fouweather

Diwedd cyfnod y swydd

Ysgol Mount Pleasant

Dilwyn Gurney

Penodi fel llywodraethwr yr ALl

Corff Llywodraethu Dros Dro - Ysgol Cyfrwng Cymraeg 4

Sheereen Williams

Er gwybodaeth yn unig

Corff Llywodraethu Dros Dro - Ysgol Cyfrwng Cymraeg 4

Y Cyng Tracey Holyoake

Er gwybodaeth yn unig

Corff Llywodraethu Dros Dro - Ysgol Cyfrwng Cymraeg 4

Y Cyng Jason Hughes

Er gwybodaeth yn unig

Ysgol Gynradd Glasllwch

Matthew Evans

Ail-benodi

Ysgol Uwchradd Llanwern

Ray Truman

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Alway

Ray Truman

Ail-benodi

Ysgol Bassaleg

Margaret Cornelious

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Pentre-poeth

Margaret Cornelious

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Crindau

Paul Cockeram

Ail-benodi

Ysgol Feithrin Kimberley

Paul Cockeram

Ail-benodi

Ysgol Gynradd High Cross

Sally Mlewa

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî

Sally Mlewa

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Langstone

Ray Mogford

Ail-benodi

Ysgol Gyfun Caerllion

Ray Mogford

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Llanmartin

Martyn Kellaway

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Glan Llyn

Martyn Kellaway

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Llanganna

John Davies

Ail-benodi

Ysgol Uwchradd Llanwern

Ray Truman

Ail-benodi

Partneriaeth Ysgol Gynradd Eveswell a Somerton

John Guy

Ail-benodi

Ysgol Uwchradd Llanwern

John Guy

Ail-benodi

Ysgol Uwchradd Llyswyry

Kenneth Critchley

Ail-benodi

Ysgol Gynradd St Andrew’s

Kenneth Critchley

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Maendy

Majid Rahman

Ail-benodi

Ysgol Maes Ebbw

Majid Rahman

Ail-benodi

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas

Andrea Mulcahy

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Llys Malpas

Jane Mudd

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Maerun

Thomas Suller

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Mynwy

Valerie Delahaye

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Bryn Hyfryd

Stephen Bowen

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Llys Malpas

Stephen Bowen

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Bryn Hyfryd

Kelly Jones

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Mynwy

Kelly Jones

Ail-benodi

Ysgol Uwchradd Casnewydd

David Mayer

Ail-benodi

Ysgol Uwchradd Casnewydd

Valerie Delahaye

Ail-benodi

Ysgol Gynradd y Gaer

Valerie Delahaye

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant

David Hutchings

Ail-benodi

Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon

David Hutchings

Ail-benodi

Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff

Mark Whitcutt

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Sant Gwynllyw

Miqdad Al-Nuaimi

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Sant Gwynllyw

Kate Thomas

Ail-benodi

Ysgol Gyfun Gwent Is-Coed

John Harris

Ail-benodi

Ysgol Gyfun Gwent Is-Coed

Elin Maher

Ail-benodi

Ysgol Uwchradd Llanwern

Elin Maher

Ail-benodi

Ysgol Gyfun Gwent Is-Coed

Christopher Chapman

Ail-benodi

Ysgol Uwchradd Sant Joseff

Christopher Chapman

Ail-benodi

Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon

Shereen Williams

Ail-benodi

Ysgol Gymraeg Ifor Hael

Olwen Allender

Ail-benodi

Ysgol Gymraeg Ifor Hael

Glyn Jarvis

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî

Chris Lacey i gymryd lle Rehman Hayat

Penodiad newydd

 

Yn ogystal â'r penodiadau uchod, hysbysodd y Cynghorydd Harvey’r Cyngor o'r angen i  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwcharolygydd M Richards y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am faterion cyfredol yr heddlu cyn gwahodd cwestiynau gan y cynghorwyr.

 

Roedd troseddu wedi gostwng yn ystod y pum mis diwethaf gyda 2,000 yn llai o droseddau; byddai Covid wedi chwarae rhywfaint o ran yn hyn.  Roedd byrgleriaethau wedi lleihau o gymharu â lluoedd eraill yng Nghymru.  Ym mis Awst roedd mis o drosedd isel gyda 40/50 yn llai o ddigwyddiadau na’r flwyddyn flaenorol.  Ym mis Mai a Gorffennaf eleni ymdriniodd y tîm rhagweithiol ag atafaelu 200 o gerbydau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyflenwi cyffuriau.  Atafaelwyd meintiau enfawr o gyffuriau Dosbarth A gwerth £5 miliwn.  Arweiniodd Ymgyrch Washington at arestio saith gwerthwr cyffuriau a derbyniodd y rhan fwyaf ohonynt ddedfrydau sylweddol.

 

Canol Casnewydd -  roedd mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth yn ogystal ag ymdrin â chardota a chamddefnyddio cyffuriau ger y brif orsaf fysiau.   Newidiodd economi'r nos yn ystod y pandemig ac roedd nifer yr ymwelwyr yn isel iawn.  Diolchodd yr Uwcharolygydd i M Cridland, Rheolwr Gwasanaethau Rheoliadol, Safonau Masnachol a’r Tîm Trwyddedu am gefnogaeth wrth ymweld â chlybiau nos.  Llwyddodd yr Heddlu, yn gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol ar ddechrau’r cyfnod cloi i roi cartrefi i 100 o bobl sy’n cysgu ar y stryd, cafodd hyn effaith gadarnhaol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a chardota.

 

Gorllewin Casnewydd - bu llawer o fyrgleriaethau o siediau yn y misoedd ar ddechrau’r haf yn Allt-yr-yn a chafodd nifer o bobl eu harestio a’u cyhuddo.  Cafodd cyfarfod llywodraethu aml-asiantaeth newydd ei sefydlu; Pilgwenlli Ddiogelach a fynychwyd gan aelodau a thrigolion.  Bu 25 o arestiadau yn ardal Pilgwenlli ym mis Awst gyda nifer o gerbydau’n cael eu hatafaelu.  Roedd gwersyll y Teithwyr yn Sandpiper Way, Dyffryn a gyrhaeddodd ym mis Mai bellach wedi mynd.  Bu nifer o alwadau ynghylch beiciau oddi ar y ffordd yn ardaloedd Betws, Malpas a Shaftesbury, cafodd nifer o’r beiciau hyn eu hatafaelu.  Roedd yr Uwch-arolygydd yn rhan o’r gr?p Llan-bedr Gwynll?g a Gwynll?g; PRAID a gyfarfu’n ddiweddar.  Bu digwyddiad hyll ddydd Sadwrn 12 Medi lle tarfodd nifer o deithwyr yn reidio o gwmpas ar drapiau merlod yn llwyr ar Ganol y Ddinas, digwyddodd hyn yn rhwng 2.30pm a 6pm.  Nid oedd yr Heddlu yn gwybod ei fod yn digwydd, cwrddodd y Teithwyr mewn maes parcio tafarn yn Nyffryn cyn gorymdeithio drwy Gasnewydd.  Byddai’r Heddlu yn monitro’r safleoedd trwyddedig yn rheolaidd yn y dyfodol.  Roedd timau ymddygiad gwrthgymdeithasol Maesglas hefyd yn ymchwilio i’r materion.

 

Dwyrain Casnewydd - Nid oedd ceir yn criwsio yn ardal Spytty yn digwydd ar ôl cyfarfod diweddar gyda’r Heddlu.  Rhoddodd yr Arolygydd Cawley y wybodaeth ddiweddaraf i’r Uwch-arolygydd gan ddweud wrtho fod ymddygiad gwrthgymdeithasol o dan Bridge George St, Corporation Road, Old Barn Estate a Black Ash yn flaenoriaethau.  Roedd tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol Caerllion hefyd yn treulio mwy o amser yn y maes hwn.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Uwch-arolygydd Richards a’r Heddlu am eu gwaith caled yn ystod y pandemig.  Roedd y Cyngor a’r Heddlu wedi gweld cyfnod heriol ac ar bob  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cyfraddau Annomestig Cenedlaethol: Rhyddhad Dewisol: Cynllun Rhyddhad Cyfradd Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch pdf icon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad uchod, gan amlygu bod y pandemig covid-19 wedi arwain at gau pob busnes nad yw’n hanfodol yn gynharach eleni.  Fel ymateb i hyn, darparodd Llywodraeth Cymru gyfres o fesurau â’r bwriad o helpu busnesau yr effeithir arnynt yn niweidiol gan fethu masnachu.

 

Un o’r mesurau hyn oedd cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi newydd i fusnesau yn y sectorau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch a ddileodd yr angen i dalu unrhyw ardrethi yn 2020-21.

 

Roedd ar y cynllun pwysig hwn angen ei gymeradwyo oherwydd ei fod yn seiliedig ar y darpariaethau rhyddhad ardrethi dewisol.  Gan nad oedd y Cyngor yn eistedd ar y pryd, ac oherwydd yr angen i weithredu’n gyflym, cymeradwywyd y cynllun gan yr Arweinydd o dan ddarpariaethau brys.

 

Roedd hyn yn dileu pryder trethdalwyr yn talu eu hardrethi yn 2020-21 a chafodd y rhyddhad ardrethi ei gymhwyso’n gyflym i’w cyfrifon ardrethi a chyhoeddwyd hysbysiadau cyn bod y rhandaliad cyntaf yn ddyledus ym mis Ebrill.

 

Ceisiodd yr adroddiad hwn gymeradwyaeth a chadarnhad ôl-weithredol ffurfiol o’r penderfyniad yn cytuno i fabwysiadu’r cynllun.

 

Penderfynwyd:

Cytunodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2020-21 trwy bennu a phenderfynu’n briodol, fel sy’n ofynnol gan Adrannau 47(1)(a) a 47(3) yn y drefn honno o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, fel y nodir yn yr Atodiad i’r adroddiad hwn.

 

6.

Adroddiad Rheoli'r Trysorlys sy'n cwmpasu'r Flwyddyn Ariannol 2019/20 pdf icon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad hwn, gan fanylu ar weithgareddau rheoli’r trysorlys y Cyngor ar gyfer 2019/20.  Roedd yn adroddiad ôl-syllol yn cadarnhau bod yr holl fenthyciadau a buddsoddiadau yr ymgymerwyd â nhw yn ystod y flwyddyn ariannol yn ddisgwyliedig ac yn unol â’r cyfyngiadau y cytunwyd arnynt a osodwyd gan y Cyngor llawn.  Hefyd cadarnhaodd fod Dangosyddion Darbodus 2019/20 ar gyfer rheoli’r trysorlys wedi cael eu bodloni yn unol â’r rhai a bennwyd gan y Cyngor.

 

Strategaeth bresennol y Cyngor oedd ariannu gwariant cyfalaf drwy leihau buddsoddiadau (ein benthyca mewnol) yn hytrach nag ymgymryd â benthyca newydd lle y gall, h.y. gwnaethom ohirio cymryd benthyca hirdymor newydd ac ariannu gwariant cyfalaf o adnoddau arian parod y Cyngor ei hun - yn bennaf arian wrth gefn.  Trwy ddefnyddio’r strategaeth gallai’r Cyngor hefyd leihau taliadau arian parod ar adeg pan fo risg gwrthbleidiol yn parhau’n gymharol uchel, yn enwedig gyda’r goblygiadau economaidd presennol yn ystod Covid-19.

 

Roedd lefel y benthyca mewnol tua £87 miliwn, a thrwy ddefnyddio’r strategaeth hon amcangyfrifwyd bod y Cyngor wedi arbed tua £2.6 miliwn mewn costau refeniw yn seiliedig ar gyfraddau llog cyfredol.  Ni ellid cynnal y strategaeth hon gan y byddai’r cyngor yn lleihau ei gronfeydd wrth gefn dros y tymor canolig, er enghraifft, cronfeydd PFI wrth gefn, felly byddai angen i’r cyngor ‘gyfnewid’ y benthyca mewnol am fenthyca go iawn yn y dyfodol.  

 

Roedd lefel y benthyca allanol a gynhaliwyd gan y Cyngor ar 31 Mawrth 2020 yn sylweddol o hyd sef £166 miliwn, byddai hyn yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod wrth i’n gallu benthyca’n fewnol leihau fel y defnyddiwyd y cronfeydd wrth gefn fel y nodir uchod. 

 

O’r £166 miliwn hwn, roedd yn bwysig nodi yr ymgymerwyd â £15 miliwn ychwanegol o fenthyca er mwyn galluogi’r Cyngor i fod ar y blaen wrth gefnogi’r ymateb i Covid-19 a gweinyddu grantiau busnes i fusnesau yng Nghasnewydd, cyn i’r cyllid gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

 

Y balans buddsoddi ar 31 Mawrth 2020 oedd £12.5 miliwn, gan fynd â’r benthyca net i £153.8m, roedd hyn yn gynnydd o £17.2 miliwn ers y flwyddyn flaenorol.  Nodwyd y byddai’r Cyngor yn cadw balans buddsoddi gofynnol er mwyn bodloni gofynion cael eu hystyried fel corff proffesiynol at ddibenion cydymffurfio.

 

Hefyd manylodd yr adroddiad ar fuddsoddiadau nad ydynt yn rhan o’r trysorlys fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys buddsoddiadau mewn eiddo a berchnogir yn uniongyrchol, fel unedau masnachol a diwydiannol, benthyciadau i fusnesau a landlordiaid a chyfranddaliadau lleol mewn is-gwmnïau; yn ein hachos ni, Trafnidiaeth Casnewydd.  Cyfanswm gwerth y buddsoddiadau hyn ar 31 Mawrth 2020 oedd £14.5 miliwn.

 

Cymeradwyodd y Cabinet yr adroddiad ym mis Gorffennaf felly cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cyngor llawn nawr i’w gymeradwyo.

 

Diolchodd y Cynghorydd M Rahman i’r Arweinydd am gymryd y camau cyflym a rhyddhau’r arian ar gyfer busnesau, a achubodd teuluoedd a busnesau oedd yn methu.

 

Penderfynwyd:

I’r Cyngor nodi a chymeradwyo’r adroddiad ar weithgareddau rheoli’r trysorlys ar gyfer 2019/20, a oedd yn unol â’r Strategaeth Rheoli Trysorlys  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 pdf icon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd yn falch o allu cyflwyno trydydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol yr awdurdod i’r Cyngor. Roedd y cynllun yn esblygiad o’r cynllun 2016-2020, gyda mwy o amcanion sy’n seiliedig ar ganlyniadau a gafodd ei ddatblygu gan weithio’n agos mewn partneriaeth â gwahanol dimau ar draws yr awdurdod ac ar y cyd â rhanddeiliaid a chymunedau allweddol. 

 

Roedd gan yr Amcanion Cydraddoldeb o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, gymysgedd da o amcanion â ffocws mewnol, fel ein hymrwymiadau i wella amrywiaeth ein gweithlu trwy fwy o gamau cadarnhaol, a mwy o amcanion â ffocws allanol fel yr ymrwymiad parhaus i wella cydlyniad cymunedol ledled y ddinas. Y cydbwysedd hwn o hunanfyfyrio mewnol ac ymrwymiad sy’n canolbwyntio am allan i wella cydraddoldeb mewn meysydd allweddol y gymdeithas oedd cryfder y strategaeth hon ac roedd yn gam cadarnhaol ymlaen i Gyngor Dinas Casnewydd.  

 

Roedd yr ychydig fisoedd diwethaf, ac mae’n si?r yr ychydig fisoedd i ddod, yn heriol, ac wedi amlygu llawer o’r anghydraddoldebau strwythurol a chymdeithasol a barhaodd mewn cymdeithas, o’r protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys byd-eang, i adael yr Undeb Ewropeaidd a goblygiadau pandemig byd-eang COVID-19.  Roedd y Cyngor ei hun ar groesffordd gymdeithasol wrth iddo geisio adfer a dysgu gan ddigwyddiadau a effeithiodd ar Gasnewydd, ond a oedd wedi effeithio ar grwpiau penodol yn y cymunedau mor ddifrifol.

 

Parhaodd y Cyngor i ymdrechu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus teg i'r holl drigolion yn wyneb cefndir economaidd sy’n gynyddol heriol, heb ganiatáu i’r grymoedd sy’n rhannu cymdeithas greu amgylchedd o anoddefgarwch a gelyniaeth, byddai’r Strategaeth hon yn helpu i gyflawni’r nod hwn.

 

Diolchodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Gymuned ac Adnoddau, y Cynghorydd David Mayer a’r Cynghorydd Mark Whitcutt am eu cyfraniadau i’r cynllun a’r Gr?p Cydraddoldeb Strategol dros y pedair blynedd diwethaf.

 

Cymeradwyodd y Cabinet y strategaeth yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf a chynigiodd yr Arweinydd bod y Cyngor llawn yn mabwysiadu’r strategaeth hon.  

 

Trafodwyd y materion canlynol:

 

Croesawodd y Cynghorydd Rahman, gan siarad fel Hyrwyddwr BAME, yr adroddiad a diolchodd i’r Cynghorydd Mayer a’r cynghorwyr am eu hamser yn llunio barn rhannu’r adroddiad gan yr holl gymunedau.  Cyfarfu’r Arweinydd â grwpiau eraill i drafod sicrhau cydlyniant cymunedol.  Ymgynghorwyd ag aelodau’r cyhoedd ar-lein a thrwy grwpiau ffocws, gan roi Casnewydd ar flaen y gad o ran cynghorau eraill. 

 

Cefnogodd y Cynghorydd Wilcox gan ychwanegu ei fod yn garreg filltir wrth symud ymlaen.   Parhaodd y cynllun i fod yn glir o ran sut i ddarparu gwasanaethau i Gasnewydd.  Roedd y delweddau a’r graffeg yn gam ymlaen o ran sut roeddent yn siarad â phobl.  Byddai’r Gr?p Cydraddoldeb Strategol yn cefnogi darparu a byddai’r pwyllgor craffu â chyfrifoldeb dros fonitro cynnydd.  Ychwanegodd y Cynghorydd Wilcox y byddai’n hoffi gweld cyfle i bobl ifanc a grwpiau ieuenctid fwydo i mewn i fonitro rywbryd pan fyddwn yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd, oherwydd bod ganddynt rôl hanfodol i’w chwarae at y dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Whitcutt am eu sylwadau graslon parthed ei rôl flaenorol gan  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol, cyn bwrw ymlaen â chwestiynau:

 

Archwilio gwasanaethau amddiffyn plant ar y cyd

Ar ddiwedd y llynedd, roedd gwasanaethau plant ac addysg yn rhan o’r archwiliad aml-asiantaeth cyntaf o’i fath.

 

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth ei Mawrhydi Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ac Estyn arolygiaeth fanwl i wasanaethau amddiffyn plant yn y ddinas.

 

Gwerthusodd sut yr ymatebodd y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Heddlu Gwent, a'r Gwasanaeth Prawf i gam-fanteisio ar blant.

 

Canfu'r arolygiad ar y cyd lawer o gryfderau yn yr holl wasanaethau a gwnaethpwyd argymhellion lle y teimlwyd y gellid gwneud gwelliannau.

 

Roedd yn ddyfarniad a groesawyd yn fawr, ac roedd ganddo lawer o bethau cadarnhaol i’w dweud am wasanaethau’r cyngor yn y maes pwysig iawn hwn.

 

Roedd gan y cyngor staff ymroddedig iawn yn gwneud gwaith hanfodol mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill i geisio cadw plant yn ddiogel rhag niwed corfforol, rhywiol neu emosiynol.

 

Derbyniwyd yr argymhellion er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn ardal Casnewydd yn cael ei ddiogelu ac y gofelir amdano yn iawn.

 

Cynlluniau gofal plant yr haf

Gofalwyd am fwy na 300 o blant a’u diddanu mewn lleoliadau saff a diogel mewn cynlluniau a gynhelir gan y Cyngor a’i bartneriaid.

 

Yn ystod cau’r ysgolion, darparwyd gofal i blant gweithwyr allweddol a phlant sy’n agored i niwed gan ddefnyddio arian Covid-19, daeth hyn i ben cyn gwyliau’r ysgol a phenderfynodd y Cyngor i gamu i mewn a pharhau â darpariaeth gofal plant gan ddefnyddio rhywfaint o arian Llywodraeth Cymru a rhodd gan First Campus.

 

Yn ogystal â chynlluniau ar gyfer plant rhwng dwy a 12 oed, roedd hefyd cynllun gofal arbenigol, yn gweithio gyda Chyswllt Cymunedol Dyffryn, Clybiau Plant Cymru a Chasnewydd Fyw er mwyn cynnig cymaint o leoedd â phosibl.

 

Dros bum wythnos, bu modd i dros 268 o blant gweithwyr allweddol ddefnyddio'r cynlluniau a chafodd dros 60 o blant agored i niwed leoedd.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r holl staff, a’n partneriaid, a ddarparodd gofal plant a First Campus ar gyfer ei gyfraniad caredig a hael.

 

Cymeradwyaeth am gynllun sydd â’r nod o atal pobl ifanc rhag bod yn rhan o drosedd ddifrifol a threfnedig

Roedd trosedd ddifrifol a threfnedig yn broblem genedlaethol ac mae atal pobl ifanc rhag cael eu hysglyfaethu a dod yn rhan o’r fath droseddolrwydd yn bryder mawr.  Roedd gan Gasnewydd bartneriaeth lwyddiannus gyda Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau, gan ddarparu ymyriadau i bobl ifanc sy’n agored i niwed sydd mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i drosedd ddifrifol a threfnedig.

 

Bu’r tîm yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth St Giles, Crimestoppers a Barnardo’s i ddarparu rhaglen arloesol a addysgodd pobl ifanc am y risg o drosedd ddifrifol a threfnedig, gan eu hannog i adrodd am eu pryderon i bob un o’r naw ysgol uwchradd yng Nghasnewydd.  Roedd y bartneriaeth yn gweithio i ddarparu mwy o ymyriad a dargedir o bobl ifanc risg uchel.  Yn gynharach y mis hwn, cymeradwywyd  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dydd Mawrth 5pm ar 24 Tachwedd 2020.