1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Anne Jenkins  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cofnodion pdf icon PDF 185 KB

To confirm and sign the minutes of the last meeting.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2021.

 

Nododd y Cynghorydd M Evans y dylai ei gwestiwn atodol i’r Arweinydd ddarllen Canolfan Gynadledda Ryngwladol, nid Canolfan Gynadledda’r Byd.

 

Penderfynwyd: Cymeradwyo Cofnodion 26 Ionawr 2021 yn amodol ar yr uchod.

 

2.

Penodiadau pdf icon PDF 93 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried y penodiadau arfaethedig a osodir allan yn yr adroddiad

 

Cynigiodd y Cynghorydd Harvey y penodiadau a osodir allan yn yr adroddiad, ac y cytunodd y Rheolwyr Busnes iddynt, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol isod.

 

Penderfynwyd: Cytuno ar y penodiadau isod.

 

Penodiadau Mewnol

 

Pwyllgor / Penodiad

Nifer llefydd gwag/newydd

Enwebiadau a Dderbyniwyd

Pwyllgor Cynllunio

1

Cynghorydd Spencer i gymryd lle’r Cynghorydd Berry

Pwyllgor Archwilio

1

Cynghorydd R Hayat i gymryd lle’r Cynghorydd Lacey

Pwyllgor Craffu Perfformiad – Lle a Chorfforaethol

1

Cynghorydd Linton i gymryd lle’r Cynghorydd Critchley

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog  ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

1

Cynghorydd Wilcox

Active Travel Champion

 

Cynghorydd Forsey

 

Penodiadau Cyrff Llywodraethol

 

Corff Llywodraethol

Nifer llefydd gwag/ailbenodiadau

Enwebiadau a Dderbyniwyd

Ysgol Uwchradd Casnewydd

1

Cynghorydd Cockeram

Meithrinfa Kimberley

1

Tynnu ymaith y Cynghorydd Cockeram

Ysgol Gynradd Cwrt Malpas

1

William Langsford

Ysgol Gynradd Monnow

1

Emma Ashmead

Ysgol Gynradd St Andrews

1

Kevin Howells

Ysgol John Frost

1

Becky Sims

Ysgol Gynradd Lliswerry

1

Lashanth Vithiyatharan

 

Penodiadau Allanol

 

Sefydliad

Nifer llefydd gwag/newydd

Enwebiadau a Dderbyniwyd

Bwrdd Trafnidiaeth Casnewydd

1

Cynghorydd J Cleverly

 

Yn ychwanegol at y penodiadau uchod, hysbysodd y Cynghorydd Harvey y Cyngor o’r angen i roi goddefeb pellach i’r Cynghorydd Critchley am ei absenoldeb parhaus oherwydd afiechyd, yn unol ag adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972: 

 

Cynigiwyd hyn gan y Cynghorydd Harvey a’i eilio gan y Cynghorydd Routley.

 

Penderfynwyd:

Cymeradwyo parhad absenoldeb y Cynghorydd Critchley ar sail afiechyd am 6 mis pellach.

 

3.

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch-arolygydd Mike Richards ddiweddariad ar flaenoriaethau plismona lleol, cyn gwahodd cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Gwahoddodd y Maer yr Arweinydd i ddweud gair.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Uwch-arolygydd M Richards a’i gyd-swyddogion am eu gwaith mewn partneriaeth o ran gorfodi rheoliadau Covid, oedd wedi addysgu a hysbysu pobl yn hytrach na’u cosbi. Er hynny, yr oedd swyddogion wedi cymryd y camau gorfodi priodol lle bo angen, yn erbyn y sawl oedd wedi torri’r rheoliadau yn gyson ac mewn modd mwy difrifol.

 

Apeliodd yr Arweinydd at gydweithwyr yng nghyswllt digwyddiad oedd yn destun ymchwiliad gan yr IPOC i beidio â holi ynghylch hyn.

 

Yn olaf, ar lefel leol, cyfarfu’r Arweinydd a chydweithwyr o ward Malpas â Paul Turner, oedd yn ychwanegiad i’w groesawu at y tîm plismona, ac yn llawn brwdfrydedd a syniadau da.

 

Cwestiynau gan Gynghorwyr:

 

Yr oedd y Cynghorydd Rahman wedi codi pwnc gyda’r Arolygydd Cawley ynghylch diffyg llefydd parcio o gwmpas Ffordd Harrow, Ffordd Rugby a Ffordd Bedford. Yr oedd trigolion wedi defnyddio biniau i gadw’r llefydd hyn, a bu Gwasanaethau’r Ddinas yn ymdrin â hyn. Daeth yn fater corfforol, er hynny, gydag ymladd, ac yr oedd pryder y byddai pethau’n gwaethygu. Awgrymodd yr Arolygydd ddiwrnod cymunedol, tebyg i’r hyn a ddigwyddodd cyn y clo, a holodd y Cynghorydd Rahman a allai’r Uwch-arolygydd Richards ddarparu’r fan gymunedol gydag adnoddau o Orsaf Heddlu Maendy i hwyluso hyn. Byddai’r Uwch-arolygydd yn dod i gysylltiad â’r Arolygydd Cawley.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jeavons i’r heddlu am eu hymyriad gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Ffordd Cromwell, ac yr oedd yn edrych ymlaen at weld mwy o bresenoldeb yr heddlu yn yr ardal honno. Byddai’r Uwch-arolygydd yn sicrhau y bydd yr adnoddau priodol ar gael.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Lacey at ddigwyddiad diweddar lle torrodd llanciau i mewn i Ysgol Gynradd Ringland a rhai rhan o’r ardal chwarae ar dân; daliwyd hyn ar TCC. Yr oedd hyn yn dilyn patrwm tebyg i danau eraill oedd wedi eu cynnau yn ardal Ringland, a gofynnodd y  Cynghorydd Lacey a allai’r Arolygydd Cawley edrych i mewn i hyn. Yr oedd yr Uwch-arolygydd yn ymwybodol o’r digwyddiad hwn, a byddai’n ei drafod gyda’r Arolygydd Cawley ac yn cysylltu â’r cynghorydd o ran adnabod y rhai dan amheuaeth.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at ganfasio o ddrws i ddrws ym mis Ionawr a holodd a oedd hyn yn dderbyniol dan drefniadau clo Lefel 4 Covid. Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd nad oedd canfasio gwleidyddol o ddrws i ddrws yn cael ei ganiatáu dan y cyfyngiadau clo cyfredol, a byddai’n cysylltu â’r Cynghorydd Davies am y g?yn hon.

 

Soniodd y Cynghorydd Whitehead fod y cae ger Ysgol Rougemont yn cael ei ddefnyddio’n aml gan sgramblwyr. Gyda’r tywydd yn gwella, gallai hyn ddigwydd yn amlach, gan darfu ar y trigolion yn ogystal â tharfu ar wersi yn yr ysgol. Awgrymodd y Cynghorydd Whitehead y gellid rhoi creigiau wrth y fynedfa i’r cae i atal y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yr oedd yr Uwch-arolygydd wedi gweld cynnydd yn y math hwn o ymddygiad  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Rhybudd o Gynnig: Ffordd Liniaru'r M4

This Council acknowledges the need for an M4 Relief Road around Newport and calls on the Welsh Government to issue a special directive ordering the implementation of an advisory referendum within the Newport Local Authority boundary area.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y cynnig canlynol, y rhoddwyd y rhybudd priodol ohono. Fe’i cynigiwyd gan y Cynghorydd M Evans a’i eilio gan y Cynghorydd Routley.

 

Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod yr angen am Ffordd Liniaru’r M4 o gwmpas Casnewydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfarwyddeb arbennig yn gorchymyn gweithredu refferendwm ymgynghorol yn ardal ffin awdurdod lleol Casnewydd.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd M Evans y cynnig trwy ofyn i gynghorwyr ystyried gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu refferendwm.  Byddai hyn yn rhoi cyfle i Senedd Cymru drafod manteision ymwneud â’r etholwyr ar fater oedd yn effeithio ar bawb ledled y ddinas. Soniodd y  Cynghorydd M Evans, yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus gan Gomisiwn Annibynnol, y penderfynwyd y dylid cael ffordd liniaru’r M4. Penderfynodd y Prif Weinidog, serch hynny, i beidio â thrafod yr argymhelliad hwn ac felly nid aethpwyd ymlaen i adeiladu’r ffordd liniaru.

 

Yr oedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn gofyn i gynghorau ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymwneud â’r cyhoedd.

 

Soniodd y Cynghorydd M Evans fod Arweinyddion blaenorol wedi cefnogi ffordd liniaru’r M4. Byddai refferendwm na fyddai’n rhwymo yn arwydd o gryfder teimladau trigolion Casnewydd, un ffordd neu’r llall. Byddai hyn yn fwy ystyrlon na deiseb, a’r gobaith oedd y byddai’n arwain y ffordd mewn democratiaeth o ran gwrando ar lais pobl Casnewydd mewn ffordd anwleidyddol.

 

Eiliodd y Cynghorydd Routley y cynnig yn ffurfiol a chadw’r hawl i siarad yn nes ymlaen yn y ddadl.

 

Gwahoddodd y Maer aelodau i gynnig gwelliant.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mudd am gynnig gwelliant i’r cynnig, a eiliwyd gan y Cynghorydd Hughes.

 

Nododd y Cynghorydd H Townsend hefyd y gallai hithau fod eisiau cynnig gwelliant pellach i’r cynnig.

 

Esboniodd y Swyddog Monitro mai un gwelliant fyddai’n cael ei glywed ar y tro, felly gwahoddwyd yr Arweinydd i siarad yn gyntaf.

 

Cyn i’r Arweinydd fynd ymlaen, gofynnodd y Cynghorydd C Evans am bwynt o drefn, a cheisio eglurhad am y llwybr arfaethedig. Cadarnhaodd mai’r llwybr du oedd dan sylw.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i siarad ar y gwelliant isod:

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn wastad wedi cydnabod y farn gyhoeddus am Ffordd Liniaru’r M4 o gwmpas Casnewydd. Yr ydym yn cydnabod fod yn rhaid i ni weithredu heddiw am well yfory.

 

Mae’r Cyngor hwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus unrhyw alwadau am refferendwm ymgynghorol neu ymgynghoriad cyhoeddus arall o fewn ffin awdurdod lleol Casnewydd  yng nghyd-destun ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, sydd yn sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Gwnaeth yr Arweinydd sylw am y gwelliant gan ddweud fod y rhan fwyaf o gynghorwyr yn ogystal â’r cyhoedd wedi bod yn eistedd mewn traffig yn dymuno am well ffordd i wella’r seilwaith. Bu digon o gyfle yn y gorffennol i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynigion am ffordd liniaru’r M4. Yn y cyfamser, yr oedd Covid wedi newid bywydau pawb; nid oedd modd mynd yn ôl, ond yr oedd yn bosib newid ein bywydau er gwell, o ran y ffordd yr ydym yn byw  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021/22 pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cyngor.

 

Cyflwynwyd y Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys  i’r Pwyllgor Archwilio ac y mae eu sylwadau yn yr adroddiad.  Cadarnhaodd y Cabinet  y strategaethau yn eu cyfarfod diweddaraf, ac y mae gofyn i’r Cyngor gymeradwyo’r strategaethau gan gynnwys y terfynau benthyca a’r dangosyddion cynghorus a rheoli trysorlys sydd ynddynt. 

 

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys y Strategaethau Cyfalaf a Rheoli Trysorlys sydd, yn y bôn, yn (i) cadarnhau’r rhaglen gyfalaf, fel rhan o’r Strategaeth Gyfalaf, a (ii) y gwahanol derfynau benthyca a dangosyddion eraill oedd yn rheoli gweithgareddau benthyca a buddsoddi’r Cyngor, fel rhan o Strategaeth Rheoli'r Trysorlys.

 

Mae’r naill strategaeth a’r llall yn ofynion Cod Cynghorus CIPFA, sy’n gosod allan y gofynion ac yn sicrhau, o fewn y fframweithiau a osodir yn y dogfennau hyn, fod cynlluniau gwariant cyfalaf yn:

 

§  Fforddiadwy – bod gwariant a rhaglenni cyfalaf o fewn terfynau cynaliadwy a bod lle iddynt o fewn lefelau cyllido cyfredol a’r rhai a ragwelir at y dyfodol

 

§  Darbodus - Rhaid i gynghorau osod terfynau benthyca - a elwir yn derfynau ‘gweithredol’ ac ‘awdurdodedig’ sy’n adlewyrchu eu cynlluniau cyfalaf fforddiadwy a chost eu cyllido. O ran gweithgareddau buddsoddi, rhaid i gynghorau ystyried y cydbwysedd rhwng diogelwch, hylifedd ac elw sydd yn adlewyrchu eu hawch hwy am risg ond sydd yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch a hylifedd dros elw. 

 

§  Cynaliadwy – Rhaid i gynlluniau cyfalaf cynghorau a chost refeniw cyllido’r benthyciadau/dyledion cyfredol a rhai’r dyfodol a gymerir ar gyfer hynny fod yn gynaliadwy yn nhermau cyllid cyffredinol y Cyngor a’i effaith ar hynny. 

 

Er mai’r Cabinet oedd yn gwneud penderfyniadau am ba brosiectau cyfalaf a gwariant i’w gwneud, y Cyngor llawn sy’n cymeradwyo’r ‘terfynau benthyca’ i’r rhain gadw o’u mewn. Mae llawer o brosiectau yn cael eu cyllido o grantiau cyfalaf, derbyniadau cyfalaf ac arian penodol wrth gefn nad yw’n cael effaith ar lefelau benthyca, ond lle mae angen benthyca, rhaid i’r rhaglen gadw o fewn y terfynau hynny.

 

Yr oedd hyn yn faes pwysig o lywodraethiant rheoli ariannol yn gyffredinol, oherwydd unwaith i lefelau benthyca gael eu cymryd, maent yn cloi’r Cyngor i atebolrwydd tymor-hir am gostau refeniw ad-dalu’r benthyciadau hyn (costau IDR) a chostau llog benthyciadau allanol – a adwaenir gyda’i gilydd fel ‘costau cyllido cyfalaf’.

 

Rhaglen gyfalaf

Aeth  rhaglen gyfalaf  y Cyngor i 2024/25 (hon oedd y rhaglen gyfalaf 5-mlynedd wreiddiol hyd at 2022/23 a estynnwyd o ddwy flynedd ar gyfer prosiectau a gymerai fwy na 5 mlynedd i’w cwblhau). Yr oedd yn rhaglen gyfalaf  sylweddol ac yn cynnwys £211.4m o brosiectau a gymeradwywyd eisoes, ynghyd â buddsoddiadau newydd fel benthyca i wario ar Ddinas-Ranbarth Caerdydd £17.3m, £19.7m i’r cynllun hamdden newydd a £4.5m o fenthyca heb eto ei ymrwymo ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, sy’n gyfanswm buddsoddiad o £252.9m ar gyfer y rhaglen yn diweddu 2024/25.

 

Yr oedd hwn yn fuddsoddiad mawr i seilwaith allweddol y ddinas. Ymysg prosiectau allweddol mae:

 

§  Ein cynllun hamdden newydd yng nghanol y ddinas -£19.7m.  Byddai hefyd yn paratoi’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cynigion Terfynol y Gyllideb Refeniw a'r Cynllun Ariannol Tymor Canol (CATC) pdf icon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cyngor. Yn dilyn argymhelliad y Cabinet, bydd angen i’r Cyngor adolygu a phenderfynu ar lefel treth y cyngor a chyfanswm y gyllideb refeniw net am 2021/22.

 

Cyfarfu’r Cabinet ar 22 Chwefror 2021 a rhoi’r argymhellion am y gyllideb ar eu ffurf derfynol. Mae’r adroddiad hwn yn gosod allan y gyllideb gyffredinol a argymhellir ar gyfer 2021/22, y terfynau arian gwasanaeth sy’n deillio o hyn, codiad yn nhreth y cyngor ac arian cyffredinol y cyngor wrth gefn. Argymhellwyd cynnydd o 3.7%  yn nhreth y cyngor (i £1,242.20 y flwyddyn am Band D) i Gyngor Dinas Casnewydd.  Yr oedd codiad o 3.7% ar dreth y cyngor yn gynnydd o 66 ceiniog yr wythnos, 76 ceiniog yr wythnos ac 85 ceiniog yr wythnos i eiddo ym mandiau Band B, C a D.

 

I droi at y gyllideb i ddechrau, dywedodd yr Arweinydd er nad oedd y Cyngor yma i gytuno ar y manylion, am mai’r Cabinet oedd yn gyfrifol am lle i wario’r adnoddau a pha rai, yr oedd yn bwysig nodi rhai pwyntiau allweddol:

 

1. Yr oedd yn binacl tua chwe mis o waith caled, o gytuno ar ragdybiaethau’r gyllideb i ffurfio sail ein cynllunio i roi’r cynigion ar eu ffurf derfynol yr wythnos ddiwethaf, wedi cyfnod o ymgynghori ar ein cyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gennym yn gynnar ym mis Ionawr. Gwnaethom hyn dan amodau anodd, yn gweithio o bell a than gryn ansicrwydd am gyllidebau oedd yn datblygu yn y cyfnod heriol hwn. Yr oedd llawer o aelodau etholedig wedi cymryd rhan yn hyn, o aelodau’r Cabinet, i’r rhai ar y pwyllgorau Craffu, y Comisiwn Tegwch a llawer o lywodraethwyr ysgolion. Diolchodd yr Arweinydd i bawb oedd wedi chwarae eu rhan, a swyddogion y  Cyngor sydd wedi gweithio’n ddiflino a delio ar yr un pryd â chefnogi’r ddinas a’r trigolion trwy’r 12 mis diwethaf.

 

2. Byddai cyllid y Cyngor yn cynyddu’n sylweddol y flwyddyn nesaf, ac yr oedd hyn yn rhoi rhai dewisiadau a chyfle i fuddsoddi mewn gwasanaethau allweddol, gan gynnwys paratoi’r Cyngor a’r ddinas ar gyfer her adfer o’r 12 mis diwethaf. Tra bod y Grant Cynnal Refeniw yn cyfrif am tua 76% o’n cyllid cyffredinol, yr oedd Treth y Cyngor yn dal yn elfen bwysig. Gyda Threth Cyngor o 3.7% byddai’r cyllid yn cynyddu o ychydig dros £15m.

 

3. Yr oedd y Cabinet yn dal i wneud arbedion oherwydd bod y buddsoddiadau arfaethedig yn fwy na’r gyllideb oedd ar gael, felly yr oedd arbedion yn angenrheidiol. Dangosodd y cynigion drafft am y gyllideb o ran arbedion ein bod ar y trywydd iawn. Ni fyddai’r rhan fwyaf o’r arbedion yn cael dim neu fawr ddim effaith ar wasanaethau, ac yr oeddent wedi eu dirprwyo i Benaethiaid Gwasanaeth i’w gweithredu. O’r rhai yr ymgynghorwyd arnynt, dau gynnig yn unig a gafodd adborth negyddol gan y trigolion. Dywedodd yr Arweinydd ei bod wedi gwrando ac fe ddileodd un arbediad nad oedd yn cael ei hoffi (codi tâl yn y CAGC) a lleihau’r codiad yn Nhreth  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd y canlynol cyn bwrw ymlaen at gwestiynau.

 

§  Yr wythnos ddiwethaf, yn ogystal â rhoi’r gyllideb ar ei ffurf derfynol, rhoddodd y Cabinet ganiatâd i un o’r prosiectau mwyaf cyffrous i ddod gerbron y cyngor yn y blynyddoedd diwethaf.

 

Byddai canolfan hamdden a lles newydd gwerth miliynau o bunnoedd ar safle allweddol ar lan yr afon yng nghanol y ddinas yn paratoi’r ffordd hefyd i gampws addas i’r 21ain ganrif yng nghanol y ddinas i Goleg Gwent.

 

Gyda’i gilydd, mae hyn yn golygu buddsoddiad o fwy na £100 miliwn yng nghanol y ddinas, fydd yn dod â mwy o bobl a bywiogrwydd yno. Bydd yn costio tua £4 miliwn, sy’n ymddangos yn bris bychan i’w dalu am y fath drawsnewidiad i’r rhan hon o ganol y ddinas; gan ddarparu cyfleusterau hamdden o’r radd flaenaf i’r trigolion a gwell amgylchedd dysgu ar gampws newydd sbon i’n pobl ifanc.

 

Mae’r amseroedd hyn yn rhai heriol, ond nid oes modd i ni aros yn llonydd na rhoi’r gorau i ymdrechu i wella bywydau pobl. Bydd y datblygiadau hyn yn dod a budd mawr i gymaint o bobl, ac yr ydym yn edrych ymlaen ar ymwneud mwy â’r trigolion wrth i’r cynigion hyn ddatblygu. Dangosodd yr ymateb i’r ymgynghoriad fod y cynlluniau wedi denu cefnogaeth cymaint o bobl yn y ddinas.

 

§  Yr oedd y cyngor yn ymgynghori gyda thrigolion, busnesau a grwpiau cymunedol am ein map rhwydwaith teithio llesol, i helpu i lunio dyfodol teithio llesol yng Nghasnewydd.  Yr ydym eisiau gwybod lle’r hoffai pobl weld llwybrau cerdded a beicio newydd yn cael eu datblygu, yn ogystal â’r hyn y gellir ei wneud i wella’r llwybrau presennol.

 

Anogodd yr Arweinydd bawb sydd heb gymryd rhan eisoes i ymwneud â’r hyn oedd yn ddarn pwysig o waith i’r ddinas a chenedlaethau’r dyfodol, gyda dinas fydd yn fwy gwyrdd, yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd ac yn anad dim, yn fwy diogel.

 

§  Llongyfarchodd yr Arweinydd y timau cynllunio ac adfywio a gafodd eu henwebu am wobr am eu gwaith ar gynllun tair arloesol Central View yn Stryd Masnach.

 

Cyrhaeddodd y cyngor y rownd olaf yng ngwobrau Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefi (RTPI) am ragoriaeth cynllunio yn 2021. Yr oedd ar y rhestr fer am ragoriaeth mewn cynllunio yn y categori cynlluniau tai bychain. Ni oedd un o ddau gyngor Cymreig yn unig i gyrraedd y rownd derfynol, gyda chystadleuwyr o bob cwr o’r DU yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

 

Yr oedd Central View yn gynllun tai o ansawdd uchel i bobl dros 55 oed yn Stryd Masnach, a ddatblygwyd gan ddefnyddio cyllid o gymdeithas tai Gr?p Pobl, y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Byddwn yn dod i wybod fis nesaf a gawsom ein dewis fel enillydd, ond mewn maes mor safonol o bob cwr o’r wlad, roedd cael ein henwebu yn unig yn anrhydedd ynddo’i hun ac yn werth ei gydnabod.

 

§  Yn nes ymlaen y mis hwn, byddwn yn cyrraedd carreg filltir na fuasai neb wedi ei dymuno, oherwydd ar  ...  view the full Cofnodion text for item 7.