Agenda and minutes

Cyngor - Dydd Mawrth, 27ain Ebrill, 2021 5.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Anne Jenkins  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cofnodion pdf icon PDF 232 KB

To confirm and sign the minutes of the last meeting.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2021.

 

Eitem 4 Rhybudd o Gynnig: Ffordd liniaru’r M4

 

Gofynnodd y Cynghorydd M Evans am gywiro’r ystadegyn dan yr eitem uchod o 8% i 98% oedd yn cyfeirio at yr ardal o fewn y llwybr du heb ei gyffwrdd.

 

Eitem 6 Cyllideb refeniw a Chynigion Terfynol y CATC

 

Yr oedd datganiad y Cynghorydd M Evans i’w gywiro lle’r oedd yn croesawu’r cynigion am daliadau parcio ac nid oedd yn cefnogi’r taliadau parcio y cyfeirir atynt yn y Cofnodion.

 

Penderfynwyd: Cytuno ar gofnodion 3 Mawrth 2021 yn amodol ar yr uchod.

 

2.

Penodiadau pdf icon PDF 89 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried y penodiadau arfaethedig sydd yn yr adroddiad

 

Cynigiodd y Cynghorydd Harvey y penodiadau sydd yn yr adroddiad, fel y cytunwyd gan y Rheolwyr Busnes, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol isod.

 

Penderfynwyd: Cytuno ar y penodiadau a ganlyn.

 

Penodiadau Cyrff Llywodraethol

 

Corff Llywodraethol

Nifer llefydd gwag / ailbenodiadau

Enwebiadau a dderbyniwyd

Ysgol Gynradd Caerleon Lodge

 

Rob Isaac

Ysgol Gynradd St Patrick

 

Matthew Pimm

Ysgol Gymraeg Bro Tyrnon

 

Julie Watkins

 

Penodiadau Allanol

 

Sefydliad

Nifer llefydd gwag / Penodiadau newydd

Enwebiadau a dderbyniwyd

Ymddiriedolaeth Raven House

1

Cynghorydd J Hughes

 

 

3.

Rhestr Tâl Aelodau 2021/22 pdf icon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad.

 

Yr oedd y Cynghorydd Ferris yn falch o gyflwyno a mabwysiadu’n ffurfiol y Rhestr Tâl Aelodau am 2021/2022 fel y’i gosodwyd allan yn yr Atodiad i’r adroddiad.

 

Panel Tâl Annibynnol Cymru (PTAC) oedd y corff oedd â’r dasg o osod lefelau tâl i gynghorau yng Nghymru. Yr oedd y PTAC yn pennu cyflogau sylfaenol a rhai uwch, a hefyd gyfraddau ac amodau treuliau oedd yn cael eu talu gan awdurdodau cyhoeddus.

 

Cyhoeddodd y PTA ei Adroddiad Blynyddol am 21/22, oedd yn unol â’r adroddiad drafft a ystyriwyd yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Tachwedd 2020. Pennodd y PTAC y dylid cael cynnydd am chwyddiant o £150 i gyflog blynyddol sylfaenol pob aelod etholedig, oedd yn codi’r cyflog sylfaenol i £14,368.  Byddai hyn yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2021.

 

Byddai cyflogau uwch-swyddogion yn cael eu codi ar yr un gyfradd chwyddiant o 1.06%.  Yr oedd cyflogau unigol uwch-swyddogion wedi ei eu gosod allan yn yr Atodiad a byddai enwau’r aelodau perthnasol yn cael eu hychwanegu at y cynllun cyhoeddedig unwaith i’r penodiadau gael eu cadarnhau yn CCB y Cyngor ym mis Mai.

 

Yr oedd symiau’r cyflogau yn cael eu gosod gan y PTA ac nid oedd disgresiwn i’r Cyngor newid y ffigyrau.

 

Nid oedd unrhyw newidiadau pellach i gynllun lwfansau llynedd.

 

Yn olaf, yn ôl gofyniad y PTA, atgoffodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yr aelodau o’u hawl i gael ad-daliad o gostau gofal, yn ddienw ac yn gyfrinachol, lle maent yn gymwys.

 

Penderfynwyd:

Fod y Cyngor yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Rhestr Tâl Aelodau am 2021/22 fel sydd wedi ei osod allan yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

4.

Ardrethi Annomestig Cenedlaethol: Cynlluniau Rhyddhad Ardrethi Dewisol Covid-19 pdf icon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cyngor.

 

Creodd pandemig covid-19 amodau masnachu anodd i lawer o fusnesau’r ddinas, ac mewn ymateb i hyn, darparodd Llywodraeth Cymru fesurau a fwriadwyd i helpu busnesau am nad oeddent yn gallu masnachu fel arfer.

 

Mae’r adroddiad hwn yn gosod allan ddau gynllun rhyddhad ardrethi a roddodd gymorth uniongyrchol i fusnesau’r ddinas.

 

Yr oedd y cynllun cyntaf yn estyniad o Gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i 2021-22, oedd yn gwneud i ffwrdd â’r gofyniad i dalu ardrethi busnes i drethdalwyr cymwys am ail flwyddyn.

 

Yr ail gynllun oedd y Cynllun Estynedig Rhyddhad Ardrethi Hamdden a Lletygarwch. Fe’i cyflwynwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, ac yn rhoi cymorth yn benodol i fusnesau hamdden a lletygarwch mwy, gan wneud i ffwrdd â’r angen i dalu ardrethi busnes am 2020-21 a 2021-22.

 

Yr oedd angen i’r Cyngor gymeradwyo’r cynlluniau hyn gan fod rhyddhad ardrethi yn cael ei roi dan ddarpariaethau rhyddhad ardrethi disgresiynol. Gan i’r ddau gynllun gael eu derbyn yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, a bod angen gweithredu ar frys i sicrhau bod busnesau yn elwa’n syth, cymeradwywyd y cynlluniau gan yr Arweinydd dan y darpariaethau brys.

 

Yr oedd hyn yn sicrhau nad oedd yn rhaid i drethdalwyr bryderu am dalu ardrethi yn 2021-22 a bod y rhyddhad wedi ei gymhwyso’n gyflym i’w cyfrifon ardrethi, a’r hysbysiadau yn cael eu cyhoeddi cyn i’r rhandaliad cyntaf fod yn ddyledus ym mis Ebrill.

 

Yr oedd yr adroddiad hwn yn ceisio cadarnhad ôl-weithredol i’r penderfyniadau i fabwysiadu’r cynlluniau.

 

Sylwadau’r Cynghorwyr:

 

Cefnogodd y Cynghorydd Al-Nuaimi yr adroddiad ac yr oedd yn falch o weld help yn cael ei roi i fusnesau yn amserol gan y Cyngor trwy benderfyniad brys yr Arweinydd. Diolchodd hefyd i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am y cymorth a dderbyniwyd fel cyngor a chymuned. Y gobaith oedd y byddai’r rhyddhad hwn yn rhoi busnesau mewn lle gwell.

 

Ategodd y Cynghorydd Fouweather y sylwadau uchod a phwysleisio pwysigrwydd rhoi gwybod i fusnesau bach am yr help hwn trwy hysbysebion gan y Cyngor. Gobeithiai y byddai hyn yn cael ei wneud, ac y byddai nifer dda o fusnesau yn gwneud cais am yr help hwn.

 

Penderfynwyd:

Fod y Cyngor yn cytuno i fabwysiadu:

 

1.               Gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru am 2021-2, a

2.               Cynllun Estynedig Rhyddhad Ardrethi Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru am 2020-21 a 2021-22 trwy wneud y penderfyniadau priodol, yn ôl gofynion Adrannau 47(1)(a) a 47(3)  Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ac a osodir allan yn yr Atodiad i’r adroddiad hwn.

 

5.

Polisi Tâl a Gwobrwyo 2021/22 pdf icon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae Polisi Tâl a Gwobrwyo’r Cyngor i’r gweithlu yn adroddiad blynyddol y mae angen i’r Cyngor ei fabwysiadu. Mae’r polisi hwn yn gosod allan y mecanweithiau mewnol am dalu swyddogion y Cyngor ac yn crybwyll unrhyw newidiadau ers ei fabwysiadu ddiwethaf. 

 

Cymeradwywyd y polisi ddiwethaf ym mis Tachwedd 2020 ac nid oedd newidiadau yn cael ei gynnig iddo eleni. Fodd bynnag, nodwyd y byddai’r bwlch tâl blynyddol rhwng y rhywiau hefyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Yr oedd yr Arweinydd yn falch o adrodd fod y bwlch tâl cymedrig wedi lleihau am yr ail flwyddyn o 1.92% o’r hyn yr adroddwyd arno llynedd o 3.6%. Adroddodd yr Arweinydd ym mis Tachwedd fod bwlch cymedrig 2019 wedi cau yn gyfan gwbl, gan i’r dadansoddiad o’r data ddangos fod y pwynt cymedrig o dâl yr awr yr un fath i ddynion a menywod.

 

Bu newid bychan i hyn, ac yr oedd bwlch tâl cymedrig o 0.57% am 2020.

Yr oedd bwlch tâl rhwng y rhywiau yn y Cyngor yn dal i gymharu’n ffafriol â chynghorau eraill ledled Cymru a chyfartaledd y DU o 17% ond byddwn yn dal ati i ymdrechu i ddileu’r bwlch tâl rhwng dynion a menywod a gyflogir gan y Cyngor.

 

Yr oedd y Cyngor wedi ymrwymo i gynnal archwiliadau cyflog cyfartal bob tair blynedd, ac yr oedd hyn i fod i’w wneud yn y flwyddyn galendr hon.

 

Penderfynwyd:

Fod y Cyngor yn cymeradwyo ac yn cyfoesi’r Polisi Tâl a Gwobrwyo er mwyn cwrdd â’r gofyniad statudol am gymeradwyo a chyhoeddi datganiad polisi tâl gan y Cyngor yn flwyddyn.

 

 

6.

Cofnodion y Pwyllgor Safonau: 15 Ebrill 2021 pdf icon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfarfu’r Pwyllgor ar 15 Ebrill 2021 lle’r argymhellwyd fod y Cyngor yn mabwysiadu’r Cod Ymddygiad Gweithwyr newydd a’i gynnwys yn y Cyfansoddiad. 

 

7.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd y canlynol cyn bwrw ymlaen â’r Cwestiynau.

 

·        Cyllid a ddyfarnwyd am ganolfan hamdden

Fis diwethaf, rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad i’r Cyngor am y ganolfan hamdden a lles newydd yng nghanol ein dinas.

 

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gadarnhau fod y cyngor wedi llwyddo i sicrhau £7 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru tuag at y prosiect.

 

Byddai’r ganolfan unswydd yn rhoi’r cyfleusterau diweddaraf i drigolion ac yn paratoi’r ffordd i ail-ddatblygu safle bresennol Canolfan Casnewydd i roi cyfleuster addysg bellach newydd sbon i Goleg Gwent.

 

Yr oedd gwaith yn digwydd ar gynigion terfynol a dyluniadau cyn cyflwyno cais cynllunio llawn, a ddisgwylir yn nes ymlaen eleni.

 

·        Cyllid i’r Bont Gludo

Cafodd un arall o brosiectau arweiniol y Cyngor hwb gan y newyddion cadarnhaol fod  grant gwerth £1.5m wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect trawsnewid y Bont Gludo.

 

Byddai’r arian yn ategu’r £8.75m a ddyfarnwyd gan Gronfa Treftadaeth Genedlaethol y Loteri, a chyllid cyfalaf o £1m a ymrwymodd y cyngor hefyd i’r prosiect.

 

Byddai’r Arweinydd yn edrych ymlaen yn fawr at agor y cyfleusterau newydd gwell yn 2023.

 

·        Terfynau cyflymder 20mya

Bu ein timau yn gweithio’n galed i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya ar draws nifer o strydoedd preswyl yn chwech o wardiau ein dinas.

 

Yr oedd y mesurau yn cael eu cyflwyno i helpu i wella diogelwch ar strydoedd preswyl i gefnogi pobl i deimlo’n hyderus i ddewis dulliau teithio llesol fel cerdded a beicio – rhywbeth yr oedd y cyngor yn mynd ati i’w hyrwyddo trwy gynlluniau teithio llesol.

 

·        Teithio llesol

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gadarnhau y bydd Casnewydd yn elwa o bron i £10m o arian Llywodraeth Cymru i wella nifer o lwybrau teithio llesol ledled y ddinas.

 

Mae’r cyllid o £8m wedi ei neilltuo o godi pont droed newydd yn Devon Place, gan ei gysylltu ar draws prif lein y rheilffordd i Queensway.

 

Neilltuwyd £100k ychwanegol i wella llwybr cyswllt y gamlas rhwng y Betws a Malpas. Byddai £61k yn helpu i ddatblygu llwybrau teithio llesol ym Mhwll Llyswyry, gan roi dewis oddi ar y ffordd i gysylltu â’r ardal o gwmpas â Phentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.

 

Byddai’r cyngor hefyd yn derbyn £751k mewn grantiau craidd, fyddai’n mynd tuag at ddatblygu cynlluniau a nodwyd fel rhan o adolygiad map teithio llesol 2017/18. Diolchodd yr Arweinydd i bawb oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd ymgynghoriad pellach ar lwybrau arfaethedig newydd ar sail awgrymiadau a dderbyniwyd yn dechrau toc.

 

·        Cerbyd sbwriel trydan

Fis diwethaf, yr oeddem yn falch iawn o lansio cerbyd casglu sbwriel trydanol cyntaf Cymru.

 

Yr oedd yn cael ei ddefnyddio ar rowndiau casglu o gwmpas y ddinas, a byddai’n gwasanaethu ardaloedd fel Caerllion, a nodwyd fel blaenoriaeth o ran helpu i wella lefelau ansawdd aer.

 

Byddai’r cerbyd yn lleihau allyriadau carbon o ryw 25-35 tunnell y flwyddyn o gymharu â cherbydau safonol heb fod yn rhai trydan.

 

Yr oedd yn rhan o brosiect ehangach i roi cerbydau newydd i’r cyngor gyda  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for City Services

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Assets

   iv.        Cabinet Member for Sustainable Development

     v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cwestiwn 1 - Aelod Cabinet: Trwyddedu a Rheoleiddio

 

Gofynnodd y Cynghorydd J Watkins y cwestiwn canlynol i’r Aelod Cabinet:

 

O gofio dyfarniadau diweddar am yr effaith yr oedd ansawdd aer gwael yn gael ar iechyd, ac o gofio marwolaeth drist y ferch fach yn Llundain a briodolwyd i lygredd aer, pa gynlluniau oedd gan y Cyngor i weithredu’n gadarnhaol ar ansawdd aer yn y system unffordd yng Nghaerllion, o gofio nad yw blynyddoedd o fonitro wedi arwain at ddim neu fawr ddim gweithredu hyd yma far?

 

Ateb:

 

Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Watkins am holi’r cwestiwn hwn. Un o’r materion a amlygwyd gan y Crwner yn ei adroddiad ar farwolaeth drasig y ferch druan hon yn Llundain oedd yr angen i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am effaith llygredd aer ar iechyd y cyhoedd.

 

Gobeithio y bydd hyn yn help i gyfleu’r neges i’r gymuned yn ehangach fod angen gweithredu, gan nad yw mwy o fonitro a rheoleiddio ynddynt eu hunain yn ddigon i ymdrin â’r problemau amgylcheddol hyn.

 

Bu Uwch-Swyddog Gwyddonol y Cyngor mewn gweithdy ar ansawdd aer yn ddiweddar, lle cafodd air â Rosamund Kissi-Debra (mam y ferch fu farw yn Llundain) am yr heriau o gyfleu negeseuon am ansawdd aer i gymunedau a hwyluso newid ymddygiad i wella ansawdd aer.  Byddai codi ymwybyddiaeth ac ymwneud â’r cyhoedd yn rhan hanfodol o strategaeth y Cyngor hwn i ymdrin ag ansawdd aer, yng Nghaerllion a mannau eraill yn y ddinas

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet hefyd na allai’r Cyngor ond gweithredu o fewn y rheoliadau presennol am reoli  safonau ansawdd aer, ac mai mater i’r sawl sy’n llunio deddfau a pholisïau fydd sefydlu fframwaith clir i wneud y gwaith hwn.

 

I droi at faterion penodol i Gaerllion, yr oedd yn hollol anghywir dweud nad oedd y gwaith monitro helaeth a wnaed gan swyddogion Iechyd Amgylchedd heb arwain at weithredu hyd yma. Ymysg camau pendant a gymerwyd yng Nghaerllion mae:

 

Nifer o fesurau i ymdrin â phroblemau ansawdd aer oherwydd allyriadau cerbydau yng Nghaerllion, er enghraifft:

 

·        Defnyddio cerbydau trydan i gasglu sbwriel ar lwybrau yng Nghaerllion.

·        Defnyddio bysus trydan ar lwybrau yng Nghaerllion.

·        Parhau â chynllun Eco Stars, oedd yn hwyluso defnyddio llai o danwydd mewn fflyd cerbydau o gwmpas Casnewydd, gan gynnwys Caerllion.

·        Defnyddio’r broses o reoli datblygu i fyny seilwaith cerbydau ynni isel iawn mewn datblygiadau newydd, e.e., pwyntiau gwefru cerbydau trydan fel rhan o ddatblygiad Redrow ar safle’r Brifysgol.

·        Defnyddio cyfleoedd datblygu i fynnu mesurau lliniaru megis camau rheoli atal oedi i gerbydau adeiladu sy’n gwneud gwaith adnewyddu yn Ysgol Charles Williams.

·        Ymwneud a chymuned Caerllion lle bo modd ynghylch pryderon, gwaith cynllunio a phrosiectau sydd ar fin digwydd, e.e., pryderon gan y gymuned leol am lwybrau traffig adeiladu yn ôl ac ymlaen o safle datblygu’r Brifysgol sydd wedi arwain at fwy o fonitro.

·        Yr oedd materion ansawdd aer yn annatod ynghlwm a mentrau ehangach am newid hinsawdd a chynaliadwyedd, a  bydd y gwaith hefyd yn effeithio’n llesol ar holl ardal Casnewydd gan gynnwys Caerllion.

 

Camau ar y gweill/at y  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 11 Mai 2021 am 5pm - CCB y Cyngor

Dogfennau ychwanegol: