Agenda and minutes

Cyngor - Dydd Mawrth, 28ain Medi, 2021 5.00 pm

Lleoliad: Canolfan Dinesig

Cyswllt: Anne Jenkins  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

      i.        To receive any apologies for absence.

     ii.        To receive any declarations of interest.

    iii.        To receive any announcements by the Mayor.

Dogfennau ychwanegol:

2.

Cofnodion pdf icon PDF 168 KB

To confirm and sign the minutes of the last meeting.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion 20 Gorffennaf 2021 i’w cymeradwyo.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Routley at Eitem 7, Cwestiwn pedwar ar dudalen 16 o'r Cofnodion, sef cwestiwn y Cynghorydd Matthew Evans i'r Aelod Cabinet Hamdden a Diwylliant.  Ceisiodd y Cynghorydd Routley godi pwynt ynghylch cywirdeb gyda'r Cynghorydd Harvey ond fe'i gwrthodwyd. Gofynnodd i hyn gael ei nodi yn y Cofnodion.

 

Cytunwyd:

Cymeradwyo bod y cofnodion yn gywir, yn amodol ar yr ychwanegiad hwn.

3.

Penodiadau pdf icon PDF 91 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried y penodiadau a oedd wedi'u cynnig yn yr adroddiad

 

Yn ddiweddar, roedd yr Is-bwyllgor Penodi wedi penodi Cyfarwyddwyr Strategol newydd, fel yr amlinellir isod.  Llongyfarchodd y Cynghorydd Harvey Sally-Ann Jenkins a Rhys Cornwall ar gael eu penodi'n llwyddiannus.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Harvey y penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad, fel yr oedd y Rheolwyr Busnes wedi cytuno arnynt, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol a nodir isod.

 

Penderfynwyd: Cytuno ar y penodiadau canlynol.

 

Fel Cadeirydd Bwrdd Trafnidiaeth Casnewydd, datganodd y Cynghorydd Harvey fuddiant yn y penodiad nesaf, a gofynnodd i'r Arweinydd gynnig Robert Greene, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol i gymryd lle Owen James fel aelod o Fwrdd Trafnidiaeth Casnewydd.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Fouweather.

 

Penodiadau i Gyrff Llywodraethol

Corff Llywodraethol

Nifer y Swyddi Gwag / Ailbenodiadau

Enwebiadau a Gafwyd

Ysgol Basaleg

1

David Williams

Ysgol Basaleg

1

Richard White

Ysgol Uwchradd Llyswyry

1

RogerJeavons

Ysgol Gynradd Sain Silian

1

Mark Jenkins

Ysgol Gynradd Glan Llyn

1

Alison Harries

Ysgol Gyfun Caerllion

1

William Routley

Ysgol Gyfun Caerllion

1

Paul Warren

Ysgol Gynradd Clytha

1

Peter Bray

Ysgol Gynradd Gatholig Sant Gabriel

1

Clare Heath

 

RôlCyfarwyddwr Strategol y Cyngor

CyfarwyddwrStrategolGwasanaethau Cymdeithasol – Sally-Ann Jenkins

Cyfarwyddwr Strategol – Trawsnewid a'r Ganolfan Gorfforaethol – Rhys Cornwall

 

Penodiadau Mewnol

Canolfan Gyflawni'r Bont – Cynghorydd D Mayer

 

Cyrff Allanol

Y Cynllun Ffowndri Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC) – Cynghorydd D Harvey

Bwrdd Trafnidiaeth Casnewydd – Robert Green

4.

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwcharolygydd Mike Richards y newyddion diweddaraf am y blaenoriaethau presennol o ran plismona lleol, cyn gofyn am gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Achubodd y Maer ar y cyfle i ddiolch i swyddogion yr heddlu a gymerodd ran mewn taith feicio noddedig o Gasnewydd i Aberhonddu yn ddiweddar, gan ddechrau yng Ngorsaf Heddlu Canol Casnewydd, i godi arian er budd Ymddiriedolaeth Canser yr Arddegau.

 

Bu'r Maer hefyd yn bresennol yng Nghlwb Ieuenctid Shaftesbury i gyflwyno gwobr i'r gr?p ieuenctid, ac roedd hefyd am ddiolch i'r swyddogion hynny a oedd yn bresennol am eu gwaith caled a'u cefnogaeth yn y gymuned.

 

Gofynnodd y Maer i'r Arweinydd ddweud ambell air.

 

Rhoddodd yr Arweinydd adborth ynghylch y gweithgareddau plismona cadarnhaol a gyflawnwyd ar draws y ddinas.  Roedd yr Arweinydd wrth ei bodd yn cael bod yn bresennol yn Niwrnod Hwyl Cymdeithas Cymuned Yemen Casnewydd, a gynhaliwyd yn y Pil, ac yng Ng?yl Maendy ym Mharc y Jiwbilî, ac roedd hi'n braf gweld yr heddlu, a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn bresennol yn y digwyddiadau hyn. Roedd yr holl gynrychiolwyr hyn yn cymryd rhan yn y gymuned ac yn cymryd rhan yn frwd yn y gweithgareddau.  Roedd hyn yn adlewyrchiad cadarnhaol o'r gwaith caled sy'n digwydd yn gysylltiedig â chyfranogiad yr heddlu - da iawn bawb a gyfrannodd at hyn.

 

Cododd yr Arweinydd ddau fater - roedd a wnelo'r cyntaf â'r ymgeisiau i losgi'n fwriadol yn ward Malpas, ac roedd nifer yr ymgeisiau i losgi'n fwriadol yn y cae ger Hosbis Dewi Sant yn destun pryder neilltuol.  Pa waith parhaus oedd yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân yn ei wneud i atal hyn.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at ddefnydd gwrthgymdeithasol o feiciau oddi ar y ffordd yn wardiau Malpas a Betws, a'r modd yr oedd yr Heddlu a Chartrefi Dinas Casnewydd yn mynd i'r afael â hyn.  Cydnabu'r Arweinydd nad cyfrifoldeb yr Heddlu yn unig oedd hyn, ond roedd am wybod beth oedd yn cael ei wneud a chael sicrwydd bod gwaith ar y gweill i drechu hyn.

 

Sicrhaodd yr Uwcharolygydd M Richards yr Arweinydd y byddai'n ymchwilio i'r ymgais i losgi'n fwriadol ger Hosbis Dewi Sant.  Drwy gydweithio â'r Gwasanaeth Tân, yr Awdurdod Lleol a landlordiaid cymdeithasol, gan gynnwys y tri sector ar draws Casnewydd, drwy gyfarfodydd gorchwyl, byddai diweddariad yn cael ei roi i'r Arweinydd ynghylch yr ymgeisiau i losgi'n fwriadol, ar cynnydd hyd yma.

 

Roedd sefyllfa'n gysylltiedig â beiciau oddi ar y ffordd hefyd dan ystyriaeth ar y cyd â'r partneriaid uchod.  Roedd y problemau'n gysylltiedig â beiciau oddi ar y ffordd hefyd yn cael eu harchwilio'n fanwl iawn drwy ddull partneriaeth.

 

Cwestiynau gan y Cynghorwyr:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Marshall at gwynion gan breswylwyr ynghylch rasio ar y ffyrdd, llygredd s?n ar Ffordd Ddosbarthu'r De a Tesco, Heol Caerdydd, a allai fod wedi symud o Tesco, Sbyty.  Roedd pryderon hefyd ynghylch y defnydd o gyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn siopau Maesglas. 

A chan gyfeirio at bostiad Trydar yr Heddlu ynghylch masnachwyr twyllodrus, gofynnodd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Rhybudd o Gynnig: Datganiad Bioamrywiaeth Caeredin

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Cynnig a ganlyn i'w chyd-aelodau, a chadw ei hawl i siarad yn ddiweddarach yn y drafodaeth:

 

Yr ydym ni Gyngor Dinas Casnewydd yn galw ar Bartïon y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i:

 

1.     Gymryd camau cryf a dewr er mwyn trawsnewid pethau, fel yr amlinellir yn adroddiad asesu byd-eang IBPES, i roi terfyn ar golli bioamrywiaeth.

2.      Cydnabod rôl hanfodol llywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol, er mwyn gwireddu gweledigaeth 2050 y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020, a chenhadaeth 2030 fel y'i nodir yn y ddogfen Drafft Sero; a chynnwys y gydnabyddiaeth honno'n eglur drwy holl destun y fframwaith, gan gynnwys y fframwaith monitro ar gyfer y nodau a'r targedau.

3.      Cefnogi mabwysiadu COP15, sef Penderfyniad penodol newydd i gynnwys llywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol o fewn fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020;sy'n adeiladu ar y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ar gyfer Llywodraethau Is-genedlaethol, Dinasoedd ac Awdurdodau Lleol Eraill (2011-2020) fel y cafodd ei gymeradwyo o dan Benderfyniad X/22ac sy'n codi'r uchelgais ar gyfer gweithredu'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020 yn is-genedlaethol, mewn dinasoedd ac yn lleol dros y degawd nesaf.

4.      Sefydlu llwyfan aml-randdeiliad sy'n sicrhau cynrychiolaeth o lywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol i gefnogi gweithredu fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020.

 

Yr ydym ni, Cyngor Dinas Casnewydd yn sefyll yn barod i wynebu'r her o gyflawni, ochr yn ochr â Phartïon, fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020, ac i chwarae rhan gryfach yng ngweithrediad y fframwaith, drwy Gynllun Gweithredu wedi'i adnewyddu a llawer mwy dwys i lywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol ar gyfer y degawd sydd i ddod, a

 

Bod y Cyngor hwn yn penderfynu cefnogi datganiad Caeredin ynghylch bioamrywiaeth, ac yn awdurdodi'r Arweinydd i lofnodi'r datganiad ar ran y Cyngor.

 

 Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Hughes, a oedd hefyd wedi cadw ei hawl i siarad.

 

Ni chynigiwyd unrhyw ddiwygiadau.

 

Sylwadau ar y Cynnig gan y Cynghorwyr:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Lacey wrth ei chyd-aelodau y byddai'n esgeulus iddi beidio siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, fel hyrwyddwr bioamrywiaeth y ddinas.

 

Roedd gan Gasnewydd gyfoeth o ecosystemau morol a thirol, ac fel aelodau etholedig y ddinas hon roedd hi'n ddyletswydd arnynt i wneud popeth o fewn eu gallu i warchod yr ecosystemau hynny.

 

Er bod llawer iawn o waith wedi'i wneud i droi Casnewydd yn ddinas sy'n gyfeillgar â gwenyn, a llwyddiant mawr y gwaith hwnnw, nid oedd hynny'n ddigon ynddo'i hun.

 

Roedd angen i'r Cyngor gydweithio ag eraill i warchod a gwella bioamrywiaeth, gan rannu arfer da ar draws y rhanbarthau hyn a chymryd camau dewr ac arloesol a fyddai'n creu canlyniadau cyd-fuddiannol am genedlaethau i ddod.

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Truman y cynnig i wella a gwarchod yr amgylchedd.

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Whitehead y cynnig a chytuno bod bioamrywiaeth yn bwysig iawn. Soniodd hefyd fod nifer yr adroddiadau am jac y neidiwr a oedd yn mygu'r nant ym Metws wedi cynyddu, a gobeithiai y byddai hyn yn cael ei ddatrys yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2020-21 pdf icon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Lacey yn falch o gyflwyno Adroddiad Craffu Blynyddol 2019/20 i'r Cyngor.

 

Un o swyddogaethau Cynghorau yng Nghymru a Lloegr yw craffu, ac fe'i cyflwynwyd yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 2000, gan greu swyddogaethau Cabinet a Chraffu ar wahân mewn Awdurdodau Lleol. Cafodd rôl craffu ei chryfhau yn sgil pasio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Mae'r Ddeddf y ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor roi adroddiad blynyddol i'r Cyngor ar y gwaith y mae wedi'i gyflawni dros y 12 mis diwethaf, a'i flaenraglen waith. Ers cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae gan y swyddogaeth Graffu hefyd rôl statudol i graffu ar waith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Egwyddor sylfaenol trefniadau Craffu yw sicrhau bod y broses benderfynu'n agored, yn atebol ac yn dryloyw.

 

Cyflawnir y swyddogaeth graffu yng Nghyngor Dinas Casnewydd gan bedwar pwyllgor craffu. Mae'r pwyllgorau hyn wedi'u ffurfio o Aelodau Etholedig nad ydynt yn aelodau o Gabinet y Cyngor, ynghyd â chynrychiolwyr wedi'u cyf-ethol. Dyma'r pwyllgorau: Pwyllgor Craffu Perfformiad Lleoedd a Materion Corfforaethol, Pwyllgor Craffu Perfformiad Pobl, Pwyllgor Craffu Perfformiad Partneriaethau a'r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu.

 

Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi gwybod i’r Cyngor ac i bartïon eraill a buddiant beth yw rôl y pwyllgorau craffu, a pha waith a gyflawnwyd ganddynt yn ystod blwyddyn y Cyngor yn 2019/20.

 

Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys y cyfnod rhwng Mai 2019 ac Ebrill 2020.  Mae’r Adroddiad yn amlygu’r gwaith pwysig a wnaed gan y Pwyllgorau Craffu yn ystod y cyfnod hwn, er gwaethaf yr aflonyddwch a achoswyd gan gyfyngiadau cyfnodau clo Covid-19. Roedd y cyfnod adrodd yn heriol, gyda llai o gyfarfodydd wedi'u cynnal yn y 6 mis cyntaf nag arfer, gan fod y Cyngor yn canolbwyntio adnoddau ar ymateb y Cyngor i Covid-19.

 

Er gwaethaf y digwyddiad digynsail hwn, mae’r Pwyllgorau Craffu Perfformiad ar gyfer Lleoedd a Materion Corfforaethol, a Phobl wedi bod yn craffu ar berfformiad, gan gynnwys sut mae’r Cyngor wedi addasu ac ymateb i’r heriau a wynebir gan wasanaethau a chymunedau oherwydd y pandemig.

 

Mae'r ddau Bwyllgor hefyd wedi derbyn adroddiadau ar ymatebion y Cabinet i Argymhellion blaenorol y Pwyllgorau ynghylch cynigion y Gyllideb Ddrafft, yn rhan o'r cylch gwaith Craffu i fesur ac asesu effaith a gwerth yr Awdurdod.

 

Mae adroddiadau eraill yn cynnwys adroddiadau ar Deithio Llesol, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gorfodi Cyfyngiadau COVID a Fusnesau.

 

Bu'r Pwyllgor Craffu Perfformiad Partneriaethau yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Cynllun Llesiant a gyflwynwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac yn cyflwyno sylwadau i'w rhannu â'r BGC.

 

Yn yr un modd, bu'r Pwyllgor hefyd yn craffu ar berfformiad yn erbyn Cynllun Llesiant 2020-21 ac yn cyflwyno sylwadau i'w hystyried gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cyflwynwyd cynnig i drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl gan bartneriaid o'r Bwrdd Iechyd, a Chynllun Busnes 2021-22 gan bartneriaid o'r Gwasanaeth Addysg, i'w hystyried ac i dderbyn sylwadau gan y Pwyllgor.

 

Effeithiodd y pandemig ar y camau a gynlluniwyd ar gyfer y cyfnod adrodd, ond roedd y Cynghorydd Lacey yn falch o adrodd bod yr hyfforddiant i aelodau craffu ar Ddeddf  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

 

·         Gwasanaeth bws Fflecsi

Roedd hi'n wych gweld cynllun bws Fflecsi yn cael ei ehangu ar draws y ddinas dros yr haf.

 

Yn dilyn llwyddiant y peilot fflecsi cyntaf yng Nghymru a gafodd ei lansio yn Nh?-du a Sain Silian, roedd partneriaeth rhwng y Cyngor, Trafnidiaeth Cymru a Bws Casnewydd yn golygu bod fflyd o naw bws newydd sbon bellach yn gwasanaethu pob rhan o Gasnewydd.

 

Roedd y bysus fflecsi yn gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn galluogi preswylwyr i fynd ar amrywiaeth llawer ehangach o deithiau, o'r peth cyntaf yn y bore hyd at yn hwyr yn y nos. Cam arall ymlaen yn ein hymrwymiad i fod yn ddinas wyrddach.

 

·         Gwasanaethau wyneb yn wyneb

Yn dilyn blwyddyn heriol iawn o ran darparu gwasanaethau allweddol, roedd yr Arweinydd yn falch iawn fod nifer o wasanaethau wyneb yn wyneb bellach wedi ailgychwyn.

 

Roedd staff canolfan gyswllt Cyngor Dinas Casnewydd bellach yn gweithio o swyddfa dros dro ar Lannau'r Afon, ac roedd apwyntiadau ar gael i breswylwyr ag ymholiadau ynghylch tai, budd-dal tai, y dreth gyngor a phenodeion.

 

Fodd bynnag, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, byddai staff y Cyngor yn parhau i weithio gartref lle bynnag y bo modd, ac roeddem yn annog pobl i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein a ffôn ar gyfer y mwyafrif o ymholiadau.

 

Ein cynllun tymor hwy oedd symud y gwasanaethau hyn i'r Llyfrgell Ganolog a'r Amgueddfa, yng nghanol ein dinas.

 

·         Gorymdaith Rhyddid

Yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor, roeddem yn falch o ddyfarnu Rhyddid y Ddinas i'r Lleng Brydeinig Frenhinol, i gydnabod y rhan yr oedd wedi'i chwarae yng nghymuned y lluoedd arfog am 100 o flynyddoedd.

 

Byddai hyn yn cael ei ddathlu'n ffurfiol ddydd Iau 28 Hydref drwy gynnal Gorymdaith Rhyddid drwy'r ddinas. Roedd yr Arweinydd am i gynifer o bobl ag a oedd yn bosibl gymryd rhan er mwyn helpu i ddangos ein gwerthfawrogiad o'r sefydliad anhygoel hwn.  Gofynnodd yr Arweinydd i'r rhai a oedd yn bresennol nodi'r dyddiad yn eu dyddiadur, ac i gadw golwg am fanylion pellach yn nes at yr amser.

 

·         HMS Hafren

Gan barhau â'r thema filwrol, roedd hi hefyd yn anrhydedd cael HMS Hafren wedi'i hailgysylltu'n ffurfiol â'r ddinas.

 

Gollyngodd y llong ei hangor ddiwethaf yn Nociau Alexandra, ac arfer Rhyddid y Ddinas, yn hwyr yn 2017 cyn yr oedd i fod i gael ei datgomisiynu.

 

Fodd bynnag, ni chafodd HMS Hafren ei gwerthu gan y Llynges Frenhinol oherwydd Brexit, a phenderfynwyd ei chadw a'i hailgomisiynu - mae hi hyd yn oed wedi cael côt newydd o baent!

 

Byddai’n dychwelyd i’r ddinas ym mis Tachwedd a byddai cynrychiolwyr yn ymuno â ni ar gyfer gwasanaeth a Gorymdaith y Cofio. Edrychwn ymlaen i groesawu'r llong, ei Chapten a'i chriw yn ôl i'r ddinas.

 

·         Cynllunio canolfannau hamdden

Atgoffodd yr Arweinydd y rhai a oedd yn bresennol hefyd fod ymgynghoriad bellach wedi dechrau ar y cais cynllunio ar gyfer y ganolfan hamdden arfaethedig yng nghanol y ddinas, a bod modd gweld y cynlluniau ar ein porth  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for City Services

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Assets

   iv.        Cabinet Member for Sustainable Development

     v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yna bedwar cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau'r Cabinet:

 

Cwestiwn 1 – Aelod Cabinet: Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cynghorydd J Watkins:

Tybed a all yr Aelod Cabinet esbonio'r Polisi a'r sail resymegol ar gyfer ceisiadau am fannau parcio i bobl sy'n anabl, ac sydd angen y cyfleuster.

 

A yw'r Aelod Cabinet o'r farn fod y polisi'n deg a'i fod yn bodloni anghenion y rhai sydd angen ymgeisio, ac a yw o'r farn fod y Polisi'n wahaniaethol.

 

Ymateb:

Roedd llwybr clir wedi'i sefydlu i ddarparu Man Parcio i Bobl Anabl, gyda pholisi a phroses a oedd ar gael i bawb.

 

Roedd y polisi a'r broses i gefnogi darparu man parcio i bobl anabl eisoes wedi bod drwy broses ddemocrataidd. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad o'r modd y gellid rheoli'r ddarpariaeth i dargedu'r rhai â'r mwyaf o angen o fewn cyllideb benodol, a galluogi'r gwasanaethau da sylw i amserlennu a rheoli'r gwaith angenrheidiol.

 

Yn y gorffennol, ac o dan y system gyfredol, mae gormod o geisiadau wedi cael eu gwneud am fannau parcio ac nid yw'r mannau hynny bob amser wedi cael eu darparu mewn modd teg. Roeddem yn cydnabod nad oedd y system gyfredol, o bosib, yn bodloni gofynion penodol pob unigolyn, ond nid oedd yr un system a fyddai'n gweddu i bob sefyllfa. Roedd y broses gyfredol yn sicrhau tegwch a bod y meini prawf y sefydlwyd ac y cytunwyd arnynt yn cael eu defnyddio ar gyfer pob cais.

 

Roedd y polisi a’r broses bresennol yn caniatáu un garfan flynyddol, a oedd yn cynnwys ffenestr o 3 mis i'r rhai a oedd yn cysylltu ac yn bodloni'r trothwy cychwynnol i wneud cais am ystyriaeth. Y rheswm dros y system hon oedd sicrhau bod y broses ar agor yn deg, yn hytrach na'i bod yn wasanaeth "y cyntaf i'r felin" bob blwyddyn.

 

Roedd y dull symlach a oedd yn cael ei ddefnyddio bellach yn ein galluogi i adolygu ceisiadau mewn modd teg a chyfartal, fel bod y rhai mwyaf anghenus yn derbyn ystyriaeth am wasanaeth y mae llawer gormod o alw amdano. Byddai'r gallu i wneud cais ar sail ad hoc, neu y tu allan i'r meini prawf cytunedig drwy gydol y flwyddyn yn tanseilio'r dull teg hwn. Roedd hi'n anochel y byddai achosion brys yn codi, gan greu her, ond er mwyn ceisio sicrhau bod adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg ac yn rhesymol, dyma oedd y broses a'r defnydd mwyaf deallus o adnoddau.  

 

Roedd y broses symlach hon yn galluogi Gwasanaethau'r Ddinas i reoli'r gofynion cyfreithiol. Roedd y rheiny'n gostus ac yn cymryd amser i'w gweithredu. Byddai dull ad hoc yn anodd iawn i'w reoli yng nghyd-destun y gofynion cyfreithiol, a byddai'n cynyddu cyfanswm y costau ac o bosib yn cynyddu'r amser a gymerir i ddarparu man parcio.

 

Roedd fframwaith ymgeisio un cohort yn galluogi'r defnydd gorau o gyllideb benodol, ac felly'n golygu bod modd darparu mwy o fannau parcio.  Byddai prosesu un man parcio ar y tro yn cynyddu costau'n sylweddol ac felly'n lleihau cyfanswm y mannau parcio y gellid eu  ...  view the full Cofnodion text for item 8.