1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Canolfan Dinesig

Cyswllt: Anne Jenkins  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

      i.        To receive any apologies for absence.

     ii.        To receive any declarations of interest.

    iii.        To receive any announcements by the Mayor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.i Ymddiheuriadau

 

Fel uchod.

 

1.ii Datgan Buddiant

 

Dim.

 

1.iii Cyhoeddiadau'r Maer

 

Dim.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 170 KB

To confirm and sign the minutes of the last meeting.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd bod cofnodion 28 Medi 2021 yn gywir.

3.

Penodiadau pdf icon PDF 94 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried y penodiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad

 

Dywedodd y Cynghorydd Harvey wrth y Cyngor fod yr Is-bwyllgor Penodi wedi penodi Cyfarwyddwr Strategol newydd ar gyfer yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion newydd yn ddiweddar, fel yr amlinellir isod.  Llongyfarchodd y Cynghorydd Harvey Paul Jones a Mary Ryan ar gael eu penodi'n llwyddiannus.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Harvey y penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad, fel yr oedd y Rheolwyr Busnes wedi cytuno arnynt, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol a nodir isod.

 

Penderfynwyd: Cytuno ar y penodiadau canlynol.

 

PenodiadauCyrff Llywodraethu

CorffLlywodraethu

Nifer y Swyddi Gwag / Ailbenodiadau

Enwebiadau a Gafwyd

Ysgol Gynradd Maerun

1

Richard White

Ysgol Gynradd T? Du

1

Yvonne Forsey

Ysgol John Frost

1

Debbie Jenkins

Ysgol Maes Ebwy

1

Stephen Marshall

Ysgol Gynradd Maendy

1

Farzina Hussain

Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon

1

Graham Berry

Ysgol Basaleg

1

Laura Lacey

Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli

 

 

3

Shereen Williams

Jonathan Gibbons

Eirian Jones

Ysgol Feithrin Casnewydd

 

2

Carmel Townsend

Asum Mahmoud

Partneriaeth Ysgol Gynradd y Gaer a Maes-glas

 

 

4

Stephen Marshall

Beverley Perkins

Anne Drewett

John Reynolds

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas

1

Robert Green

CanolfanGyflawni'r Bont

1

David Mayer

 

RôlCyfarwyddwr Strategol y Cyngor

Paul Jones, Cyfarwyddwr Strategol yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

RôlPennaeth Gwasanaeth

Mary Ryan, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

 

PenodiadauMewnol

Panel Maethu: Cynghorydd Davies i gymryd lle'r Cynghorydd Berry

 

Eiriolwyr

Eiriolwr BAME: Cynghorydd Hussain i gymryd lle'r Cynghorydd Rahman

Eiriolwr Gofalwyr: Cynghorydd Guy i gymryd lle'r Cynghorydd Berry

 

CyrffAllanol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Cynghorydd Lacey i gymryd lle'r Cynghorydd J Watkins

Bwrdd Draenio Cil-y-coed: Cynghorydd Lacey i gymryd lle'r Cynghorydd Berry

Casnewydd Fyw: Cynghorydd Hughes i gymryd lle'r Cynghorydd Rahman

4.

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Prif Uwcharolygydd Tom Harding a’r Uwcharolygydd Mike Richards yn bresennol ac fe gafwyd y newyddion diweddaraf ganddynt am flaenoriaethau plismona lleol cyfredol, cyn gofyn am gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Gofynnodd y Maer i'r Arweinydd ddweud ambell air.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch iawn o glywed am y bartneriaeth ariannu strydoedd mwy diogel a roddwyd ar waith yn ddiweddar a llongyfarchodd yr Arolygydd Cantwell a'r Arolygydd George am ennill gwobr PCC am waith partneriaeth.

 

Aeth yr Arweinydd yn ei blaen i ddweud bod cynnydd yn nifer y deunyddiau tramgwyddus sy'n cael eu gosod o amgylch canol y ddinas, ynghyd â gosod posteri'n anghyfreithlon, yng nghyswllt pobl trawsryweddol, ac roedd hi'n gofyn am sicrwydd y byddai'r heddlu'n ymdrin â'r mater.  Sicrhaodd y Prif Uwcharolygydd Harding yr Arweinydd fod pob un o’r troseddau casineb yr adroddir amdanynt wrth yr heddlu yn cael eu harchwilio bob bore a’u trosglwyddo i swyddog hyfforddedig a fyddai'n ymdrin â'r digwyddiad mewn modd priodol, ac anogodd trigolion i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiad, gan fod hyn yn cael ei ystyried yn fater difrifol. Soniodd yr Uwcharolygydd Richards hefyd fod gan yr heddlu aelod trawsryweddol o staff i ymdrin ag unrhyw broblemau mewn modd priodol.

 

Yn y cyfarfod blaenorol, roedd yr Arweinydd wedi codi'r heriau yr adroddwyd amdanynt ym Malpas, ac roedd yn falch o weld bod yr heddlu wedi cynyddu eu presenoldeb o amgylch Hosbis Dewi Sant.  Roedd yr Arweinydd hefyd yn falch iawn o glywed bod moped wedi'i atafaelu a bod y pryderon a godwyd gan drigolion ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd yn cael sylw. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd pa sicrwydd y gallai’r heddlu ei roi i drigolion ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, a sut i roi gwybod am achosion o hynny, gan fod trigolion yn aml yn amharod i gysylltu â'r heddlu.  Sicrhaodd yr Uwcharolygydd Richards yr Arweinydd y byddai'r heddlu mor ymatebol â phosibl i'r materion hyn er mwyn sicrhau bod cymunedau'n rhoi gwybod amdanynt.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am eglurhad ynghylch y berthynas sydd gan gynghorwyr â'r Arolygydd, ac a oedd gan aelodau etholedig hawl i gael cyfarfodydd misol â'r Arolygydd.  Sicrhaodd yr Uwcharolygydd Richards yr Arweinydd y gellid disgwyl perthynas waith dda â'r cynghorwyr.  Yn ogystal â hynny, byddai Arolygydd newydd ar gyfer Gorllewin Casnewydd yn ei swydd erbyn diwedd yr wythnos, gan fod bwlch wedi bod am gwpl o wythnosau, ac ymddiheurodd yr Uwcharolygydd Richards am hyn.  Byddai'r Uwcharolygydd Richards yn pwysleisio pwysigrwydd cyfarfod yn rheolaidd â chynghorwyr.

 

Cododd yr Arweinydd hefyd ddiogelwch personol yr aelodau yng ngoleuni bygythiadau terfysgol diweddar a llofruddiaeth Syr David Amess.  Roedd yr Arweinydd wedi cael cefnogaeth gan heddlu Gwent yn gysylltiedig â phroblem aflonyddu ddiweddar ond yn siomedig ynghylch y gwahaniaeth yn lefel y cyswllt rhwng heddluoedd ledled Cymru ac Arweinwyr Cyngor.  Mewn rhai awdurdodau byddai'r heddlu'n cysylltu'n uniongyrchol â'r Arweinwyr, ond nid oedd hyn wedi digwydd yng Ngwent, a byddai'r Arweinydd wedi gwerthfawrogi rhywfaint o sicrwydd gan yr heddlu.  Ymddiheurodd y Prif Uwcharolygydd Harding am y ffaith nad oedd yr Arweinydd yn teimlo bod ei diogelwch yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Hysbysiad o Gynnig: Cynnig i Gyngor Dinas Casnewydd ddatgan Argyfwng Hinsawdd

To receive the following motion for which the necessary notice has been provided.

 

Newport City Council resolves to:

Declare an Ecological and Climate Emergency.

·         Newport City Council will continue the good work that we have started and reduce our carbon emissions to net zero carbon by 2030.

·         Review the services we provide to ensure they support the city’s journey to both net zero carbon and adapting to the impacts of climate change by 2050.

·         Develop a clear Climate Change Organisational plan, in consultation with our citizens, for the next five years that will set out the actions we need to take to achieve this.

·         Develop a city-wide Local Area Energy Plan, in collaboration with experts from the public, private and third sector to develop innovative solutions to decarbonise heat, electricity and local transport and realise local renewable energy production.

·         Work with One Newport partners and the public to develop a city-wide Climate Strategy to enable city-wide net zero carbon and adaptation to climate change by 2050 and integrate best ecological practice into each area of the council’s activity, allowing us to lead the city by example.

·         Publicise this declaration of an ecological and climate emergency to residents and businesses in Newport and support and influence action by partners through partnerships and support and enable action by citizens to reduce their own carbon emissions.

The motion is to be proposed by the Leader and seconded by Councillor Jason Hughes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Cynnig a ganlyn i’r Cyngor a chadw ei hawl i siarad yn ddiweddarach yn y drafodaeth.

 

Datgan Argyfwng Ecolegol a Hinsawdd.

 

§  Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau â’r gwaith da yr ydym wedi’i ddechrau ac yn lleihau ein hallyriadau carbon i garbon sero net erbyn 2030.

§  Adolygu'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i sicrhau eu bod yn cefnogi taith y ddinas  tuag at garbon sero net, ac wrth ymaddasu i effeithiau'r newid hinsawdd erbyn 2050.

§  Datblygu cynllun sefydliadol clir ar gyfer y Newid Hinsawdd, mewn ymgynghoriad â'n dinasyddion, ar gyfer y pum mlynedd nesaf a fydd yn nodi'r camau gweithredu ar gyfer cyflawni hynny.

§  Datblygu Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer y ddinas gyfan, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i ddatblygu datrysiadau arloesol i ddatgarboneiddio gwres, trydan a thrafnidiaeth leol a gwireddu cynlluniau i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol.

§  Gweithio gyda phartneriaid Casnewydd yn Un a’r cyhoedd i ddatblygu Strategaeth Hinsawdd ar gyfer y ddinas gyfan er mwyn galluogi sero net ac ymaddasu i'r newid hinsawdd drwy'r ddinas gyfan erbyn 2050, ac ymgorffori arfer gorau ecolegol ym mhob rhan o weithgarwch y Cyngor, gan ein galluogi i arwain drwy esiampl.

§  Rhoi cyhoeddusrwydd i’r datganiad hwn o argyfwng ecolegol a hinsawdd ymhlith trigolion a busnesau yng Nghasnewydd, a chefnogi a dylanwadu ar gamau gweithredu gan bartneriaid drwy bartneriaethau a chefnogaeth a galluogi dinasyddion i weithredu er mwyn gostwng eu hallyriadau carbon eu hunain.

 

Cadwodd yr Arweinydd ei hawl i siarad ar ôl i'r drafodaeth ddod i ben.

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Hughes, a wnaeth hefyd gadw ei hawl i siarad.

 

Ni chynigiwyd unrhyw ddiwygiadau.

 

Sylwadau ar y Cynnig gan y Cynghorwyr:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Jeavons fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd mawr dros y pedair blynedd diwethaf gan sicrhau gostyngiad o bron 30% mewn allyriadau carbon. Roedd hyn yn cynnwys gosod bylbiau LED ynni isel yn lle bylbiau traddodiadol yn yr holl oleuadau stryd, a chyflwyno amryw o systemau solar PV ar draws ei ystâd.  Yn fuan, byddai'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad ar ei strategaeth newid hinsawdd uchelgeisiol. Gydag ymrwymiad i sero net erbyn 2030 neu'n gynt.

 

Aeth y Cynghorydd Jeavons ymlaen i ddweud bod gan y Cyngor fflyd o ychydig dros 200 o gerbydau, a'i fod yn symud i ffwrdd yn gyflym oddi wrth gerbydau diesel a phetrol. Erbyn diwedd y flwyddyn byddai 25% o'r fflyd yn drydan, gan gynnwys pob car a fan fach.

 

Roedd y Cyngor hefyd yn gweithio ar beiriannau a cherbydau pwrpasol mwy heriol, ac yn ddiweddar rhoddodd yr RCV cyntaf ar waith yng Nghymru, a byddai pum cerbyd arall yn ymuno â'r fflyd dros y misoedd nesaf.  Erbyn 2030, byddai holl fflyd y Cyngor yn rhedeg ar drydan.

 

Byddai newid ceir a faniau yn arbed 75 tunnell o CO2 y flwyddyn. Roedd hyn yn cyfateb i'r swm y byddai 100 o goed yn ei amsugno dros 75 mlynedd.  Mae pob RCV trydan yn arbed  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Canol y Ddinas (PSPO) pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Maer i'r Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio gyflwyno'r adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio wrth yr aelodau fod yr adroddiad yn argymell y dylai'r Cyngor benderfynu cymeradwyo a mabwysiadu Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) diwygiedig ar gyfer Canol y Ddinas am gyfnod pellach o dair blynedd, fel y nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Pwrpas Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) oedd atal unigolion a grwpiau rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus mewn man cyhoeddus, lle roedd yr ymddygiad hwnnw'n amharu, neu'n debygol o amharu, ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal leol. Dim ond y Cyngor a allai wneud PSPO ond gallai'r Heddlu a Swyddogion y Cyngor gyflawni gwaith gorfodi. Gallai unrhyw un a fyddai'n torri'r PSPO dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig neu fod yn agored i ddirwy yn y llys ynadon.

 

Lluniwyd y PSPO Canol Dinas cyntaf yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd 2015, yn dilyn ymgynghori helaeth â'r cyhoedd a goruchwyliaeth gan y swyddogaeth Graffu. Cafodd y PSPO gwreiddiol wedyn ei ddisodli gan Orchymyn diwygiedig yn 2018. Roedd yn rhaid adolygu'r PSPO bob tair blynedd i ystyried a oedd angen parhau â'r mesurau rheoli.

 

Yn unol â'r ddeddfwriaeth â'r canllawiau statudol, roedd yn ofynnol i'r Cyngor ymgynghori â'r Heddlu a'r gymuned ehangach. Roedd canlyniadau'r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac ymatebion y cyhoedd i'r ymgynghoriad ehangach wedi'u cynnwys yn yr Adroddiad.

 

Heddlu Gwent oedd yn gorfodi cyfyngiadau'r PSPO cyfredol yn bennaf, ac roedd cydweithwyr o'r Heddlu wedi bod yn ymwneud â´r broses adolygu ac yn bresennol yn nau gyfarfod y Pwyllgor Rheoli Craffu. Roeddent o blaid parhau â chyfyngiadau'r PSPO ac yn hyderus y byddai'r mesurau rheoli hyn o gymorth iddynt reoli canol y ddinas yn fwy effeithiol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu sylwadau'r Heddlu a'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ac roeddent yn fodlon bod yr angen am PSPO yn parhau yng nghanol y ddinas.  Roeddent yn argymell y dylid ei adnewyddu ar yr un telerau ag o'r blaen, ond gan gynnwys un mesur rheoli ychwanegol yn gysylltiedig â defnydd peryglus o e-feiciau a e-sgwteri. Fodd bynnag, y Cyngor llawn oedd i benderfynu'n derfynol ynghylch mabwysiadu unrhyw PSPO.

 

Wrth ystyried yr angen am unrhyw PSPO a'i effaith, roedd yn rhaid i'r Cyngor roi sylw i'w ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, a'i ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ac felly roedd Asesiad Effaith Tegwch a Chydraddoldeb wedi cael ei gynnal, a oedd hefyd wedi'i atodi i'r adroddiad hwn. Ystyriwyd bod y mesurau rheoli a gynigiwyd yn ffordd resymol a chymesur o atal neu leihau effaith niweidiol y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Canol y Ddinas.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Truman fod y Cyngor yn penderfynu cymeradwyo PSPO Canol y Ddinas fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Sylwadau gan Gynghorwyr:

 

§  Fel Cadeirydd y Pwyllgor Craffu fu'n adolygu'r PSPO newydd, diolchodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb Strategol 2020/21 pdf icon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Maer i'r Arweinydd gyflwyno'r adroddiad uchod i'r Cyngor.

 

O dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) roedd yn ofynnol i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar ei gynnydd yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol a geir yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol. Roedd y Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gyhoeddi data cydraddoldeb staff, a oedd yn yr adroddiad hwn hefyd. Roedd yr Adroddiad Blynyddol hwn yn trafod y flwyddyn gyntaf o gyflawni yn erbyn Amcanion Cydraddoldeb Strategol newydd y Cyngor, a gyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2020.

 

Datblygwyd yr Amcanion newydd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol a buont yn destun ymgysylltu helaeth â'r gymuned. Er bod y Cynllun yn gwireddu gweledigaeth strategol ar gyfer cydraddoldeb yng Nghasnewydd, sicrhawyd, drwy gynnwys cymunedau ar lawr gwlad, ei fod hefyd yn cynnig canlyniadau pendant i gymunedau lleol.

 

Roedd y pandemig yn creu cryn heriau wrth gyflawni yn erbyn rhai meysydd gwaith, er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau cwsmeriaid. Fodd bynnag, cafwyd cynnydd mewn meysydd eraill o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19. Bu'n rhaid i waith cydraddoldeb y Cyngor am eleni fod yn hyblyg, gan ymateb i heriau a ddeuai i'r amlwg, yn enwedig o ran mynediad i wybodaeth, addysg ac ymdrin â throseddau casineb ar sail hil.

 

Teimlwyd effeithiau ymadawiad y DU â'r UE yn ddwys yn ein cymunedau ymfudol o'r UE eleni, a pharhaodd y ffocws ar helpu pobl i aros yng Nghasnewydd a diogelu eu hawliau. Roedd y Cyngor wedi ystyried effeithiolrwydd ein trefniadau monitro drwy gydol y flwyddyn a chymryd camau i'w gwella.

 

Eleni parhaodd y Cyngor i ddangos ei ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn amryfal ffyrdd, gan gynnwys ymrwymo i Bolisi Dim Goddefgarwch i Hiliaeth yng Nghymru gan Gyngor Hil Cymru a Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr. Nodwyd dyddiadau pwysig gennym - gan gynnwys Mis Balchder, Hanes Pobl Ddu 365, Wythnos Ffoaduriaid, Diwrnod Cofio'r Holocost a Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.  Yn gynharach eleni, dosbarthwyd £100,000 o gyllid i brosiectau cymunedol ar lawr gwlad yn rhan o'r rhaglen Cyllidebu Cyfranogol, a sefydlwyd Gr?p Rhanddeiliaid Hygyrchedd i gynghori ar brosiectau'r cyngor, gyda ffocws ar fynediad i bobl anabl.

 

Mae'r Cyngor wedi sefydlu nifer o rwydweithiau staff er mwyn rhoi cefnogaeth well i'n cydweithwyr sydd o gefndiroedd lleiafrifol. Roedd gan y cyngor bellach rwydwaith staff Amrywiaeth (lleiafrifoedd ethnig), LGBTQ+ ac Anabledd. Roedd dadansoddiad o ddata ein gweithlu yn amlygu meysydd allweddol i'w gwella, gan gynnwys gwella lefelau data cydraddoldeb cofnodedig, alinio categorïau cofnodi yn well â data'r cyfrifiad, a deall pam bod lefelau'r ymadawyr yn uwch ar gyfer grwpiau neilltuol (ee, pobl o gefndir lleiafrifol ethnig a phobl anabl).

 

Roedd gan y Cyngor waith i'w wneud o hyd i wella'r gynrychiolaeth o staff lleiafrifol ethnig ar bob lefel o fewn y sefydliad, a  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2020/21 pdf icon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Maer i'r Cynghorydd Hourahine gyflwyno Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Safonau 2020/21 i'r Cyngor.

 

Dyma oedd yr wythfed adroddiad blynyddol, a drafodai'r cyfnod o fis Tachwedd 2020 hyd fis Tachwedd 2021, ac a oedd yn dilyn ymlaen o'r adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Cyngor ym mis Tachwedd 2020.

 

Yn flaenorol, roedd yr Adroddiad Blynyddol hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar sail wirfoddol.  Fodd bynnag, ers mis Mai 2022, roedd hi bellach yn ofyniad statudol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i'r Pwyllgor Safonau gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cyngor. Yn ogystal â hynny, roedd yn rhaid i Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesaf gynnwys asesiad o'r graddau yr oedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol ar y Cyngor wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau newydd i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad o fewn eu grwpiau.

 

Roedd y Pwyllgor wedi cyfarfod ar chwe achlysur dros y deuddeg mis diwethaf, gyda'r holl gyfarfodydd wedi'u cynnal o bell yn unol â Phrotocolau'r Cyngor. 

 

Am y tro cyntaf eleni, galwyd ar y Pwyllgor Safonau i gynnal gwrandawiad camymddwyn ac i orfodi sancsiwn ar aelod etholedig. Nid oedd hyn yn adlewyrchu'n dda ar y Cyngor, ac felly ystyriwyd y dylai'r achos hwn fod yn wers lesol i'r holl aelodau. Roedd copi llawn o'r penderfyniad felly wedi'i atodi i'r Adroddiad Blynyddol hwn, ac roedd yr holl aelodau'n cael eu hannog i ddarllen a nodi'r rhesymau wrth wraidd y penderfyniad.

 

Ni phenderfynwyd yn ffurfiol ar unrhyw gwynion o dan Gamau 1 a 2 y Protocol Datrys yn Lleol, ac ni chyfeiriwyd unrhyw gwynion i sylw'r Pwyllgor Safonau o dan Gam 3 yn ystod 2020/21.

 

Roedd yr adroddiad yn cadarnhau bod tair cwyn wedi'u cyfeirio i sylw'r Ombwdsmon am Gynghorwyr y Ddinas dros y flwyddyn ddiwethaf, a bod wyth cwyn wedi'u gwneud ynghylch cynghorwyr cymuned. Ar wahân i un achos o gamymddwyn, ni dderbyniwyd bod angen cynnal ymchwiliad ffurfiol i'r cwynion eraill, er i'r Ombwdsmon ysgrifennu at ddau gynghorydd cymuned i'w hatgoffa ynghylch eu rhwymedigaethau o dan y Cod, ac i'w rhybuddio i beidio bod yn ymosodol nac yn amharchus tuag at aelodau o'r cyhoedd yn y dyfodol, ac i beidio dwyn anfri ar eu swydd.

 

Roedd y gofynion hyfforddi ar gyfer Cynghorwyr Cymuned, cynghorau cymuned a'u clercod yn parhau i gael eu monitro a'u hadolygu'n rhan o flaenraglen waith y Pwyllgor, yn enwedig wrth inni symud tuag at y cylch nesaf o etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022.

 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, cwblhaodd dau o'r aelodau annibynnol a oedd wedi gwasanaethu hiraf ar y Pwyllgor, Phil Westwood (Cadeirydd blaenorol y Pwyllgor) a Tracey Britton, eu hail dymor swydd, a dymunai'r Pwyllgor fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddynt am eu hymroddiad a'u gwaith caled ar hyd y blynyddoedd. Roedd hi'n bleser gan y Pwyllgor gael croesawu Richard Morgan a Gill Norton fel aelodau  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2020/21 pdf icon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Maer i'r Cynghorydd Hourahine gyflwyno Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Safonau 2020/21 i'r Cyngor.

 

Dyma oedd yr wythfed adroddiad blynyddol, a drafodai'r cyfnod o fis Tachwedd 2020 hyd fis Tachwedd 2021, ac a oedd yn dilyn ymlaen o'r adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Cyngor ym mis Tachwedd 2020.

 

Yn flaenorol, roedd yr Adroddiad Blynyddol hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar sail wirfoddol.  Fodd bynnag, ers mis Mai 2022, roedd hi bellach yn ofyniad statudol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i'r Pwyllgor Safonau gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cyngor. Yn ogystal â hynny, roedd yn rhaid i Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesaf gynnwys asesiad o'r graddau yr oedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol ar y Cyngor wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau newydd i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad o fewn eu grwpiau.

 

Roedd y Pwyllgor wedi cyfarfod ar chwe achlysur dros y deuddeg mis diwethaf, gyda'r holl gyfarfodydd wedi'u cynnal o bell yn unol â Phrotocolau'r Cyngor. 

 

Am y tro cyntaf eleni, galwyd ar y Pwyllgor Safonau i gynnal gwrandawiad camymddwyn ac i orfodi sancsiwn ar aelod etholedig. Nid oedd hyn yn adlewyrchu'n dda ar y Cyngor, ac felly ystyriwyd y dylai'r achos hwn fod yn wers lesol i'r holl aelodau. Roedd copi llawn o'r penderfyniad felly wedi'i atodi i'r Adroddiad Blynyddol hwn, ac roedd yr holl aelodau'n cael eu hannog i ddarllen a nodi'r rhesymau wrth wraidd y penderfyniad.

 

Ni phenderfynwyd yn ffurfiol ar unrhyw gwynion o dan Gamau 1 a 2 y Protocol Datrys yn Lleol, ac ni chyfeiriwyd unrhyw gwynion i sylw'r Pwyllgor Safonau o dan Gam 3 yn ystod 2020/21.

 

Roedd yr adroddiad yn cadarnhau bod tair cwyn wedi'u cyfeirio i sylw'r Ombwdsmon am Gynghorwyr y Ddinas dros y flwyddyn ddiwethaf, a bod wyth cwyn wedi'u gwneud ynghylch cynghorwyr cymuned. Ar wahân i un achos o gamymddwyn, ni dderbyniwyd bod angen cynnal ymchwiliad ffurfiol i'r cwynion eraill, er i'r Ombwdsmon ysgrifennu at ddau gynghorydd cymuned i'w hatgoffa ynghylch eu rhwymedigaethau o dan y Cod, ac i'w rhybuddio i beidio bod yn ymosodol nac yn amharchus tuag at aelodau o'r cyhoedd yn y dyfodol, ac i beidio dwyn anfri ar eu swydd.

 

Roedd y gofynion hyfforddi ar gyfer Cynghorwyr Cymuned, cynghorau cymuned a'u clercod yn parhau i gael eu monitro a'u hadolygu'n rhan o flaenraglen waith y Pwyllgor, yn enwedig wrth inni symud tuag at y cylch nesaf o etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022.

 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, cwblhaodd dau o'r aelodau annibynnol a oedd wedi gwasanaethu hiraf ar y Pwyllgor, Phil Westwood (Cadeirydd blaenorol y Pwyllgor) a Tracey Britton, eu hail dymor swydd, a dymunai'r Pwyllgor fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddynt am eu hymroddiad a'u gwaith caled ar hyd y blynyddoedd. Roedd hi'n bleser gan y Pwyllgor gael croesawu Richard Morgan a Gill Norton fel aelodau annibynnol newydd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid nodi a chytuno ar yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:

Derbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2020/21 a nodi'r flaenraglen waith.

 

10.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddiadau'r Arweinydd:

 

·         Diwrnod Rhuban Gwyn 2021

Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni ar ddydd Iau 25 Tachwedd.

 

Mae’n ddigwyddiad blynyddol sy’n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diddymu Trais yn Erbyn Menywod.

 

Eleni rydym yn gofyn i drigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol ymrwymo i #Her30.

 

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth ynghylch y 30 o blant yng Ngwent yr effeithir arnynt bob dydd yn eu cartrefi gan achosion o gam-drin domestig, lle mae'n rhaid galw'r heddlu.

 

Gallai #Her30 fod yn rhywbeth rydych chi'n ei wneud ar eich pen eich hun, gydag ambell aelod o'r teulu neu fel rhan o gr?p. Gall pobl, teuluoedd, ysgolion, sefydliadau, timau chwaraeon a grwpiau cymunedol osod eu heriau eu hunain gan ganolbwyntio ar y rhif 30 ac fe’u hanogir i bostio eu gweithredoedd i gefnogi'r ymgyrch ar-lein.

 

Mae gweithdai addysgol a chynlluniau gwersi'n cael eu rhoi ar waith mewn ysgolion ar draws Gwent i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd perthnasoedd iach ymhlith plant a phobl ifanc.

 

Gall cam-drin domestig fod ar sawl ffurf, gan gynnwys corfforol, rheolaeth drwy orfodaeth, camdriniaeth seicolegol a chamdriniaeth ariannol.

 

Ar y cyd â'n partneriaid mae'n hanfodol ein bod nid yn unig yn sefyll yn erbyn ymddygiad dinistriol o'r fath ond ein bod hefyd yn annog y rhai sy'n ei brofi i geisio cymorth.

 

·         Cynllun newid hinsawdd

Mae'r newid hinsawdd ymhlith yr heriau byd-eang sy'n diffinio ein cenhedlaeth.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai pawb ohonom yn ymwybodol o ganlyniadau COP26 a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Glasgow, a’r angen dybryd i bawb ddod ynghyd i gyfyngu ar godiadau tymheredd byd-eang, ac i adeiladu byd sy'n gynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol.

 

Fel cyngor, rydym eisoes wedi gwneud dechrau da, gan sicrhau gostyngiad o 29 y cant i'n hallyriadau uniongyrchol a chynhyrchu ynni dros y tair blynedd diwethaf.

 

Fodd bynnag, gwyddom fod gennym lawer mwy o waith i'w wneud, ac rwy'n falch ein bod bellach wedi cyflwyno ein drafft o'r cynllun newid hinsawdd ar gyfer ymgynghoriad.

 

Mae'r cynllun newid hinsawdd uchelgeisiol yn esbonio sut y bydd y Cyngor yn gweithio tuag at droi'n garbon niwtral erbyn 2030, a sut y byddwn yn defnyddio ein gwasanaethau i gefnogi gweithredu ynghylch y newid hinsawdd ledled y ddinas.

 

Mae'n canolbwyntio ar chwe thema gyflawni allweddol:

 

- diwylliant ac arweinyddiaeth sefydliadol

- ein hadeiladau

- ein tir

- trafnidiaeth a symudedd

- y nwyddau a’r gwasanaethau rydym yn eu caffael

- ein rôl ehangach

 

Mae'r Cyngor yn gofyn am farn trigolion, busnesau a rhanddeiliaid er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir cyn inni gwblhau'r cynllun yn derfynol yn fuan yn 2022.

 

·         Gwobr amgylcheddol

Gan barhau ar yr un trywydd, cyhoeddodd yr arweinydd ei bod yn falch dros ben o fod wedi derbyn gwobr Sefydliad Eithriadol ar ran Cyngor Dinas Casnewydd yn nghyfres gyntaf y Gwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol a ddyfarnwyd yn ddiweddar. 

 

Roedd y wobr yn cydnabod ymrwymiad ac angerdd ein staff i gyflawni newid gwirioneddol i'n sefydliad ac i Gasnewydd.

 

Mynegodd yr Arweinydd ddiolch i'r rhai sy'n gweithio'n ddi-flino ac yn  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for City Services

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Assets

   iv.        Cabinet Member for Sustainable Development

     v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cwestiwn 1 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd Mogford:

Ystyried Mesurau i Leihau Allyriadau (Gwenwynig) ar draws y Ddinas.

 

Gyda'r pwyslais newydd ar frwydro yn erbyn y newid hinsawdd yng Nghymru, a oes gan yr Aelod Cabinet gynllun neu weledigaeth i sicrhau bod modd sicrhau'r mynediad gorau posib i ganolfannau ailgylchu lleol o ran pellter a'r amser a gymerir i'w cyrraedd.

 

Enghraifft ymarferol o hyn yw canolfan ailgylchu Five Lanes ar yr A48. Mae llawer o drigolion yn gorfod teithio'n hirach o ran amser a phellter i ganolfan ailgylchu CDC a all fod yn daith gron o hyd at 20 milltir a mwy yn hytrach na theithio ychydig filltiroedd mewn rhai achosion.

 

O'i gwneud hi'n haws ac yn gyflymach teithio i'r ganolfan ailgylchu agosaf, onid yw'r aelod cabinet hefyd yn gweld potensial i hynny leihau achosion o dipio anghyfreithlon yn ogystal â sicrhau gostyngiad buddiol mewn allyriadau o gerbydau?

 

Ymateb:

Penderfynodd Cyngor Sir Fynwy atal mynediad gan drigolion Casnewydd i'w Ganolfan Ailgylchu Five Lanes yn ôl yn 2019; ac er ei bod yn drueni gennym weld bod hyn yn achosi anghyfleustra i drigolion yn yr ardal, yn anffodus Cyngor Sir Fynwy sydd i benderfynu ynghylch rheolau mynediad i'w safleoedd ailgylchu, ac nid oedd gennym unrhyw reolaeth dros hynny.

 

Mae Cynllun Corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd, yn manylu ar gynlluniau i adeiladu ail gyfleuster ailgylchu gwastraff y cartref, yn nwyrain y Ddinas. Hefyd, mae holl wastraff ailgylchadwy cyffredin y cartref yn cael ei gasglu'n wythnosol gan holl drigolion Casnewydd, yn ogystal â chasgliadau gwastraff cyffredin a gwastraff gardd. Gellir trefnu casgliad arbennig ar gyfer eitemau swmpus ar gais.

 

I gloi, nid ydym wedi gweld unrhyw gydberthynas rhwng tipio anghyfreithlon a mynediad i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae tipio anghyfreithlon yn weithgarwch troseddol a fyddai y tu hwnt i ystyriaeth y mwyafrif helaeth o'n trigolion. Cyflawnir cyfran sylweddol o dipio anghyfreithlon gan weithredwyr masnachol, nad ydynt yn cael defnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, ac y mae rheidrwydd cyfreithiol iddynt waredu eu gwastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

 

Atodol:

'Pe bai gan y Cyngor diddordeb mewn cytundeb i gyd-gyllido cyfleusterau fel Five Lanes yn y dyfodol, byddem yn barod i gymryd rhan yn y trafodaethau hynny'. Roedd hyn wedi'i gynnwys mewn e-bost a gafwyd ar 25 Medi 2019 oddi wrth Gyngor Sir Fynwy.  A oedd y cynnig hwn wedi'i dderbyn, ac a fyddai'n fuddiol i'r ddau gyngor rannu'r cyfleuster hwn.

 

Ymateb:

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod Cyngor Sir Fynwy wedi cau'r cyfleusterau hyn i drigolion yn 2019.  Roedd sgyrsiau wedi cael eu cynnal yn y gorffennol, ond heb unrhyw arwyddion cadarnhaol.

 

Cwestiwn 2 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd Kellaway:

Rwyf wedi derbyn nifer o negeseuon e-bost gan drigolion sy'n pryderu ynghylch perygl llifogydd yn Llanwern. Efallai eich bod yn cofio'r glaw a gafwyd dros y Nadolig ym mis Rhagfyr 2020 a achosodd ddifrod i gartrefi trigolion gan beri i rai trigolion orfod symud allan.

 

Pa sicrwydd y gallwch chi a'r weinyddiaeth ei rhoi i drigolion na fyddant yn gweld  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Cwestiynau i Gadeiryddion Pwyllgorau

To provide an opportunity to pose questions to the Chairs of the Committees in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Chair.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Committee Chairs in the following order:

 

      i.        Scrutiny Committees

a.    Overview and Scrutiny Management Committee

b.    Performance Scrutiny Committee – People

c.     Performance Scrutiny Committee – Place and Corporate

d.    Performance Scrutiny Committee – Partnerships

     ii.        Planning Committee

    iii.        Licensing Committee

   iv.        Democratic Services Committee

 

 

 

For information: 

 

A digest of recent decision schedules issued by Cabinet, Cabinet Members and Minutes of recent meetings of Committees has been circulated electronically to all Members of the Council.

 

Dogfennau ychwanegol:

13.

Live Event (Click on the link below to view the Council Meeting)

Dogfennau ychwanegol: