Agenda and minutes

Cyngor - Dydd Mawrth, 20fed Gorffennaf, 2021 5.00 pm

Lleoliad: Canolfan Dinesig

Cyswllt: Anne Jenkins  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Mayor's Announcements

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwydyr Aelodau y gallent wahodd y Maer i unrhyw ddigwyddiadau yn eu ward. 

 

Yroedd y Maer hefyd yn gobeithio y gallai helpu i hyrwyddo a dathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud ganb ofalwyr maeth.

 

Yroedd y Maer hefyd yn bwriadu ymweld a chanolfan ailgylchu gwastraff i hyrwyddo’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan staff yng Nghasnewydd.

 

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 195 KB

To confirm and sign the minutes of the last meeting.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CyflwynwydCofnodion 29 Mehefin 2021i’w cymeradwyo.

 

Cytunwyd:

I gymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

3.

Penodiadau pdf icon PDF 92 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

I ystyried y penodiadau arfaethedig sydd yn yr adroddiad

 

Cynigiodd y Cynghorydd Harvey y penodiadau a osodir allan yn yr adroddiad, fel y cytunwyd gan y Rheolwyr Busnes, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol isod.

 

Penderfynwyd:Cytuno i’r penodiadau a ganlyn.

 

Penodiadaui Gyrff Llywodraethol

CorffLlywodraethol

Niferswyddi gwag / Ail-benodiadau

Enwebiadau a Dderbyniwyd

Ysgol Gynradd St Julians

1

Deborah Davies

Ysgol Gynradd Pentrepoeth

1

David Williams

Ysgol Gynradd Jubilee Park

1

Elizabeth Thomas

Ysgol Gynradd Jubilee Park

1

Sally Mlewa

Ysgol Gynradd Parc Tredegar

1

Trevor Watkins

Ysgol Gynradd Parc Brynderw

1

Catherine Jones

Ysgol Bryn Derw

1

Paula Halsall

Ysgol St Julians

1

Farzina Hussain

Ysgol Maes Ebbw

1

Vicky Barry

 

Yn ychwanegol at y penodiadau yn yr adroddiad, argymhellodd y Cabinet y dylid penodi Sarah Morgan yn Aelod o Fwrdd Partneriaeth Strategol Partneriaeth Addysgol Cymru – WEPCo Ltd.

4.

Adroddiad Rheoli'r Trysorlys pdf icon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn cyflwyno’r adroddiad, gofynnodd yr Arweinydd i gydweithwyr dderbyn ymddiheuriadau ar ei rhan hi a’r Pennaeth Cyllid gan mai’r sefyllfa canol-blwyddyn oedd ym mhecyn Agenda’r aelodau, ac nid yr adroddiad am yr hyn a gynhyrchwyd. Y fersiwn ar y wefan oedd yn un gywir.  Yr oedd yr Arweinydd wedi paratoi briffiad cynhwysfawr i gynghorwyr ar y cynnyrch oedd yn esbonio’r sefyllfa a beth oedd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn 2020/21 o ran Rheoli Trysorlys.

 

Yroedd yr adroddiad yn cyflawni cyfrifoldeb y Cyngor i dderbyn a chymeradwyo adroddiad ar gynnyrch rheoli’r trysorlys bob blwyddyn. Yr oedd yr adroddiad yn ymwneud â chynnyrch 2020/21 ac fe’i hadolygwyd gan y Pwyllgor Archwilio a’r Cabinet, ac ni wnaed unrhyw sylwadau made.

 

Yroedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth a ganlyn:

 

·                manylioncyllido cyfalaf, benthyca, ail-drefnu dyledion a thrafodion buddsoddi

·                adroddiadauar oblygiadau risg penderfyniadau a thrafodion y trysorlys

·                manylion am gynnyrch trafodion rheoli’r trysorlys yn 2020/2021 sy’n cadarnhau cydymffurfio â’r terfynau trysorlys a osodwyd gan y Cyngor.

 

Cawsaipandemig Covid effaith ar Reoli Trysorlys yn ystod 2020/21. Ers dyddiau cynnar y pandemig, rhaid oedd i’r Cyngor fonitro cynnydd sylweddol mewn gweithgareddau llif-arian trwy gydol 2020/21, o wneud grantiau busnes a’r Cynllun Rhyddhad Trethi Busnes yn benodol, a hefyd trwy eu costau eu hunain a lefel incwm is. Rhoes Llywodraeth Cymru gefnogaeth llif-arian sylweddol yn syth er mwyn sicrhau bod gan Gynghorau ddigon o gyllid i weinyddu’r cynllun trethi busnes a grantiau busnes. Ad-dalwyd Cynghorau am y costau ac incwm is. Ochr yn ochr â’r llithriad yng nghyflwyno eu cynlluniau cyfalaf eu hun a thanwariant  ar y gyllideb refeniw, golygodd hyn fod llif arian yn fwy cadarnhaol nablwyddyn normal’, a arweiniodd at lai o fenthyca a llawer mwy o weithgareddau buddsoddi tymor-byr.

 

Foddbynnag, ni wnaeth hyn leihau’r angen am ymrwymiad benthyca’r Cyngor,  ond fe arafwyd graddfa’r benthyciadau a gymerwyd tuag at lefel yr ymrwymiad hwnnw.

 

Arwaethaf yr uchod, yn unol â’r Strategaeth Rheoli Trysorlys, yr oedd y Cyngor yn dal i fuddsoddi yn y tymor byr ac yn benthyca i reoli llif arian o ddydd i ddydd yn 2020/21.

 

Gan droi at weithgareddau benthyca yn benodol, yr oedd y flwyddyn ariannol yn gymharol dawel, fel y gwelir yn Atodiad B i’r adroddiad:

 

·         Ad-dalodd y Cyngor fenthyciad tymor-byr a gymerwyd ym Mawrth 2020 er mwyn cael llif arian ac i hwyluso talu grantiau busnes yn gynnar yn Ebrill. Ad-dalwyd hyn gan Lywodraeth Cymru, yn ôl y cynllun, ym Mehefin 2020.

·         Ym Mawrth 2021 bu’r Awdurdod yn benthyca ar sail tymor-byr er mwyn talu am weithgareddau arferol.

·         Yn olaf, rhaid oedd gwneud y lleiafswm o fenthyca tymor-hir newydd yn ail hanner y flwyddyn ariannol, sef cyfanswm o £94k. Yr oedd y  benthyca hwn o ‘Salix’ a oedd yn ddi-log ac yn gysylltiedig â phrosiect effeithlonrwydd ynni penodol.  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol (BGC) pdf icon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd yr adroddiad i’r Cyngor.  Yr oedd yradroddiad, fyddai’n cael ei dderbyn gan bob awdurdod lleol yng Ngwent, yn cyfoesi aelodau am ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarthol ‘Gwent’ ac ar y rownd nesaf o Asesu Cynlluniau Lles Lleol.

 

Byddai’raelodau yn ymwybodol o ‘Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus UnCasnewydd  neu’r ‘BGC’ a rôl bwysig y bartneriaeth hon. Hyd yma, bu gan ardal pob awdurdod lleol yng Ngwent ei BGC ei hun. 

 

Yroedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn galluogi cyfuno dau neu fwy o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) petai hyn yn eu helpu i gyfrannu at gyrraedd nodau lles.

 

Yroedd partneriaid ledled Gwent yn cydnabod manteision gweithio gyda’i gilydd fel rhanbarth ac adeiladu ar bartneriaeth anffurfiol ‘G10’ sy’n bodoli eisoes, a chynigiwyd ein bod yn gweithio gyda’n gilydd fel un BGC Gwent.  Yr oedd hyn yn golygu cael un Asesiad Lles i’r rhanbarth, ac un Cynllun Lles. Byddai ôl troed y corff rhanbarthol yn cyd-fynd yn well ag amrywiaeth o bartneriaethau sy’n bod eisoes mewn sefyllfa sy’n gynyddol gymhleth.

 

Amlinelloddyr adroddiad y trefniadau ar gyfer ffurfio BGC Gwent o fis Medi eleni ymlaen, ac er mai penderfyniad i’r BGC oedd hwn,  yr oedd newidiadau hefyd i Gyngor Dinas Casnewydd fel partner allweddol. Gofynnwyd i’r Cyngor felly nodi’r newidiadau, a chymeradwyo’r newidiadau llywodraethiant a chyfansoddiadol angenrheidiol, i roi’r trefniadau arfaethedig ar waith.

 

Partneriaethleol

Yroedd yr adroddiad a atodwyd yn cael ei gyflwyno ym mhob un o’r pum ardal awdurdod lleol yn rhanbarth Gwent.  Ymgynghorwyd â’n BGC ‘UnCasnewyddni a chytunwyd ar y newid arfaethedig i ddod i rym o fis Medi ymlaen. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid yn UnCasnewydd i sicrhau bod ein partneriaeth leol gref yn parhau, ac y mae hyn yn cynnwys parhau i gyflwyno’r Cynllun Lles cyfredol (2018-2023).

 

Byddai’rCyngor hefyd yn adolygu’r trefniadau ar gyfer Partneriaeth Craffu lleol ac yn parhau i weithio gydag aelodau Craffu ar yr agwedd bwysig hon. Yr oedd hyn yn cynnwys Craffu Rhanbarthol ar y BGC newydd, ond yn lleol, roedd y dasg o graffu ar bartneriaeth Casnewydd yn parhau.

 

Byddai BGC ar draws y rhanbarth hefyd yn ystyried pwysigrwydd cynnal y partneriaethau lleol cryf oedd yn bodoli ym mhob ardal er mwyn cyflwyno’r Cynllun Lles a gwaith partneriaeth arall.

 

Byddidyn dal i gyflwyno’r Cynlluniau Lles sy’n bodoli eisoes ledled Gwent trwy  bartneriaethau lleol a byddant yn cael eu goruchwylio dan y trefniadau craffu lleol presennol tan wanwyn 2023.

 

Cynigion       

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, dyma’r cynigion y gofynnwyd i’r Cyngor eu nodi a’u cymeradwyo:

 

1.    Cyfuno’rByrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydlu BGC Gwent rhanbarthol;

2.    Y trefniadau llywodraethiant a chylch gorchwyl arfaethedig y BGC;

3.    Datblygu un Cynllun Lles rhanbarthol;

4.    SefydluCydbwyllgor Craffu rhanbarthol i adolygu a chraffu ar waith BGC Gwent

5.    Awdurdodi’rSwyddog priodol i wneud y newidiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn cychwyn ar y cwestiynau, rhoddodd yr Arweinydd y diweddaraf i’r Cyngor o ran y cyhoeddiadau isod:

 

·         Dinas Diwylliant

Yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i sicrhau fod pobl yn teimlo’n dda am fyw, gweithio, ymweld a buddsoddi yn ein dinas. 

 

Yr oedd y Cyngor am fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo hyder a balchder mewn cymunedau yn ogystal ag arddangos Casnewydd i’r byd yn ehangach. 

 

Ar 19 Gorffennaf, cyflwynodd y Cyngor fynegiant o ddiddordeb mewn dod yn Ddinas Diwylliant y DU am 2025.

 

Y mae Casnewydd yn ddinas gyda thraddodiad a threftadaeth diwylliannol balch, yn borth i dde Cymru, gyda chymunedau cyfoethog ac amrywiol o ran diwylliant ac iaith.

 

Yr oedd Casnewydd hefyd yn rhan o ranbarth ehangach yr hen Went, gyda chyswllt annatod rhwng y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Y mae Casnewydd yn rhannu hanes cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd, ar sylfaen ein treftadaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol.

 

Mae’r mynegiant hwn o ddiddordeb yn gyfle i amlygu beth sydd gan y ddinas a’r rhanbarth i’w gynnig, a’i ddefnyddio i sbarduno newid.

 

Y gobaith yw y byddai hyn yn herio ac yn llunio barn pobl am Gasnewydd, ac yn adrodd i’r byd ddiwylliant unigryw a hanes hir Casnewydd, gan gynnwys gorymdaith y Siartwyr dros ddemocratiaeth. Byddid hefyd yn adrodd hanesion y bobl o bob cwr o’r byd a ddewisodd Gasnewydd yn gartref dros y canrifoedd.

 

Byddai’r aber a’r gwastadeddau yn cael eu dathlu, fel gan y sawl y gallwn ddal i weld olion eu traed yn llaid yr aber heddiw.

 

Byddai’n helpu i ail-danio brwdfrydedd y ddinas dros gerddoriaeth, celf a doniau cynhenid, i wrando ar farddoniaeth, perfformiadau a cherddoriaeth yn dod o bob cwr, boed fawr neu fach.

 

Yr oedd y Cyngor hefyd eisiau creu llwyfan cryfach i fudiadau gyda’r un diddordebau i gydweithredu yn hytrach na chystadlu am adnoddau. Y nod oedd datblygu rhaglen weithredu ar y cyd, a chyd-gynllunio i hyrwyddo pwysigrwydd cyfoeth diwylliannol Casnewydd i’r trigolion a’r byd yn ehangach.

 

Yr oedd gan Gasnewydd record gref o weithio mewn partneriaeth a chyflwyno gwelliannau i’w hamgylchedd a’i chymunedau, ac wrth gwrs, o ddigwyddiadau mawr ar raddfa ryngwladol.

 

Petai’r bid yn mynd ymlaen i’r cam nesaf, byddai’r Cyngor yn datblygu ac yn cyflwyno bid manwl. Petai hwn yn llwyddo, byddai Casnewydd yn cyflwyno rhaglen blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau – gyda chefnogaeth partneriaid gwych ledled y ddinas a’r rhanbarth – fyddai’n dathlu diwylliant amrywiol Casnewydd ac yn helpu i’w hagor i hyd yn oed fwy o bobl – yn lleol, rhanbarthol, yn genedlaethol a rhyngwladol. 

 

·         Y Bont Gludo – cyllid ychwanegol

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o adrodd y cafwyd £80,000 o grant ychwanegol gan Sefydliad Wolfson i helpu i dalu am brosiect trawsnewid y Bont Gludo.

 

Y mae’r grant yn ategu’r £8.75m a ddyfarnwyd yn flaenorol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, £1.5m gan Lywodraeth Cymru a’r £1m o gyllid cyfalaf a neilltuodd y Cyngor i’r prosiect.

 

Yr oedd y Sefydliad yn cydnabod arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol y Bont Gludo, a  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for City Services

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Assets

   iv.        Cabinet Member for Sustainable Development

     v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae pedwar cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau’r Cabinet:

 

Cwestiwn 1 – Aelod Cabinet: Trwyddedu a Rheoleiddio

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Truman, rhoddwyd yr ateb ysgrifenedig isod i gwestiwn y Cynghorydd J Watkins.

 

Cynghorydd J Watkins:

O gofio lefelau annerbyniol ocsid nitrus ac ansawdd aer gwael ar draws y system unffordd yng Nghaerllion, a all yr Aelod Cabinet esbonio pam nad yw ansawdd yr aer y tu allan i Ysgol Gynradd Charles Williams yn cael ei fonitro? Ysgol yw hon sydd yng nghanol y system hon ac sydd felly yn gadael plant ifanc yn agored i afiechydon oherwydd ansawdd wael yr aer.

 

Ateb:

Mae Iechyd Amgylchedd yn ymwybodol iawn o bryderon y gymuned leol yng Nghaerllion am ansawdd aer, ac wedi bod yn ymwneud â’r pennaeth a Chymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Charles Williams. Arweiniodd hyn at waith monitro tiwbiau tryledu yn yr ysgol o Orffennaf 14 2021. Bydd hyn yn darparu data fydd yn rhoi eglurder ynghylch safle’r ysgol ar sbectrwm ansawdd aer a arsylwir ar draws Caerllion.

 

Foddbynnag, o gofio natur y data am ansawdd aer a gafwyd yn y lleoliadau monitro agosaf at yr ysgol, ni ragwelir y bydd unrhyw dorri ar yr amcan ansawdd aer o ran nitrogen deuocsid yn Ysgol Charles Williams.

 

 

Cwestiwn 2 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau’r Ddinas

 

Cynghorydd Mogford:

 

Cwestiwn am ddiogelwch y ffyrdd sydd gennyf i, ac a yw’n fwriad gan Gyngor Dinas Casnewydd gyflwyno mwy o gyfyngiadau 20mya ar ein ffyrdd?

 

Ar 7 Mai 2019 dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn y Senedd –

 

Gwyddom fod parthau 20mya yn arafu cyflymder traffig, yn lleihau damweiniauyn enwedig damweiniau i blant – ac yr ydym am weld hynny yn dod yn sefyllfa ddiofyn ledled Cymru.’ 

 

Mae’nsi?r nad ef oedd y person cyntaf i ynganu’r geiriau doeth hyn am beryglon traffig yn goryrru. Yn Ward Langstone, buom yn erfyn am gyfyngiadau o’r fath ers blynyddoedd.

 

Allai’raelod cabinet roi’r diweddaraf i’r Cyngor am gyflwyno parthau 20 mya yng Nghasnewydd ac esbonio pa ymgynghori lleol sydd ar y gweill i gefnogi unrhyw benderfyniadau a gymerir yn lleol?

 

Ayw’r Aelod Cabinet yn ystyried mai ffyrdd a mynedfeydd i ysgolion a ddefnyddir yn rheolaidd gan blant ddylai gael y flaenoriaeth uchaf o ran gosod cyfyngiadau cyflymder?

 

Ateb:

CyhoeddoddLlywodraeth Cymru yn ddiweddar y bydd cyflwyno terfynau 20mya yn ffurfio rhan o’i rhaglen waith gychwynnol. Newid polisi cenedlaethol yw hwn, ac felly, Llywodraeth Cymru sy’n arwain yr ymgynghori. Cafodd ei lansio yr wythnos ddiwethaf ac fe’i ceir ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn lleol, mae ymgynghori yn digwydd trwy broses GRhT statudol.

 

Mae Casnewydd eisoes wedi cyflwyno ardaloedd treialu ledled y ddinas ac yr ydym yn aros am ganllawiau manwl gan Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno’n llawn. Disgwylir i hyn ddigwydd ymhen 18 mis.

 

Bydddiogelwch mewn ysgolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a  ...  view the full Cofnodion text for item 7.