1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

        i.           To receive any apologies for absence.

      ii.           To receive any declarations of interest.

     iii.           To receive any announcements by the Presiding Member.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.i Ymddiheuriadau

Dywedodd yr aelod llywyddol y cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr aelodau fel y dangosir uchod.

 

1.ii Datganiadau o Fuddiant

Dim.

 

1.iii Datganiadau'r aelod llywyddol

Diolchodd yr aelod llywyddol i'r holl staff am barhau â'u gwaith yn ystod y tywydd poeth.

Diolchodd hefyd i'r Deon am wasanaeth y Sul Dinesig ar 26 Mehefin 2022 ac atgoffodd yr aelodau am ei neges i ACau, aelodau llywyddol a chynghorwyr ynghylch parchu eu safle mewn awdurdod.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 206 KB

To confirm and sign the minutes of 1 March and 17 May 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion 1 Mawrth a 17 Mai 2022 fel cofnod cywir.

 

 

3.

Penodiadau pdf icon PDF 97 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Harvey y penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad, fel y cytunwyd gan y Rheolwyr Busnes, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol a nodir isod. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Fouweather.

 

Penderfynwyd: Bod y penodiadau a nodir yn yr adroddiad i'r Cyngor yn cael eu cytuno, ynghyd â'r penodiadau ychwanegol a ganlyn.

 

Penodiadau Corff Llywodraethu

 

Corff Llywodraethu

Nifer y Lleoedd Gwag / Ailbenodiadau

Enwebiadau a Dderbyniwyd

Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair

Ailbenodiad

Nicholas Clark

Ysgol Uwchradd Llyswyry

Newydd

Y Cynghorydd Mark Howells

Ysgol Gynradd Langstone

Newydd

Y Cynghorydd Martyn Kellaway

Ysgol Gynradd Llanfarthin

Newydd

Y Cynghorydd William Routley

Ysgol Basaleg

Newydd

Y Cynghorydd John Harris

Canolfan Gyflawni’r Bont

Newydd

Y Cynghorydd Stephen Marshall

Ysgol Gyfun Caerllion

Newydd

Y Cynghorydd Claire Baker-Westhead

Ysgol Gyfun Caerllion

Newydd

Y Cynghorydd Stephen Cocks

Ysgol Gynradd Lodge Hill Caerllion

Newydd

Y Cynghorydd Claire Baker-Westhead

Ysgol Charles Williams

Newydd

Y Cynghorydd Stephen Cocks

Ysgol Gynradd Crindai

Newydd

Y Cynghorydd Lauren James

Ysgol Bartneriaeth Gaer a Maes-glas

Newydd

Y Cynghorydd Dimitri Batrouni

Ysgol Gynradd Langstone

Newydd

Y Cynghorydd Martyn Kellaway

Ysgol Gynradd Llanfarthin

Newydd

Y Cynghorydd William Routley

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas

Newydd

Jonathan Gibbons

Ysgol Gynradd Maerun

Newydd

Y Cynghorydd Rhian Howells

Ysgol Gynradd Maerun

Newydd

Y Cynghorydd Allan Screen

Ysgol Gynradd Milton

Newydd

Y Cynghorydd Tim Harvey

Ysgol Gynradd Milton

Newydd

Y Cynghorydd Matthew Pimm

Ysgol Gynradd Monnow

Newydd

Neil Griffiths

Ysgol Uwchradd Casnewydd

Newydd

Y Cynghorydd Lauren James

Ysgol Gynradd T?-du

Newydd

Y Cynghorydd Bev Davies

Ysgol Gynradd St Andrews

Newydd

Y Cynghorydd James Peterson

Ysgol Gynradd Sant Gwynllyw

Newydd

Y Cynghorydd Pat Drewett

Ysgol Gymraeg Casnewydd

Newydd

Y Cynghorydd Malcom Linton

Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig

Newydd

Y Cynghorydd Alex Pimm

 

Penodiadau Pennaeth Gwasanaeth

Hysbyswyd y Cyngor bod David Walton wedi'i benodi gan y Panel Penodiadau fel y Pennaeth Tai a Chymunedau newydd.

 

4.

Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2021/22 pdf icon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2021/22. Adolygwyd yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet ac ni wnaed unrhyw sylwadau a oedd angen sylw'r Cyngor. Roedd yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwn yn unol â chyfrifoldeb y Cyngor llawn am osod strategaeth Rheoli’r Trysorlys y Cyngor a'r ddangosyddion a’r terfynau amrywiol oedd yn rheoli'r gweithgaredd hwn.

Roedd yr adroddiad yn egluro gweithgareddau benthyca a buddsoddi’r Cyngor yn 2021/22 a’i sefyllfa yn erbyn y dangosyddion a’r terfynau a osodwyd.

O ran benthyca, gellir gweld gwahaniaeth sylweddol o'i gymharu â'r sefyllfa ddisgwyliedig. Roedd gan y Cyngor ofyniad hirdymor i fenthyca ac, wrth fynd ar drywydd strategaeth fenthyca fewnol, fel arfer dylai fod ag ychydig iawn o fuddsoddiadau (arian dros ben), y byddai’n eu buddsoddi yn y tymor byr.

 

Oherwydd effeithiau parhaus pandemig COVID-19, yn dilyn ail flwyddyn o lithriant gwariant cyfalaf sylweddol, ni wireddwyd y benthyca disgwyliedig. Roedd yr ‘angen’ i fenthyca yno a byddai'n digwydd ond golygai llithriant na wireddwyd hyn mor gyflym â'r disgwyl.

Roedd yr ail flwyddyn hon o danwariant sylweddol a'r cynnydd canlyniadol mewn cronfeydd wrth gefn, sydd eto i'w gwario, hefyd yn golygu bod adnoddau arian parod yn llawer uwch na'r disgwyl. Roedd hyn yn caniatáu i rai benthyciadau bach a oedd yn aeddfedu gael eu had-dalu heb eu hailariannu ac i lefelau arian sbâr fod yn uchel ac iddynt gael eu buddsoddi.

 

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, sefyllfa dros dro oedd hon a chan fod y Cyngor bellach yn gweithio i ddal i fyny ar brosiectau cyfalaf a chyda’r cymorth ariannol sy’n gysylltiedig â COVID-19 bellach wedi dod i ben, dylai’r cyngor yn gyntaf weld adnoddau arian parod a buddsoddiadau yn lleihau, ac yna ailddechrau benthyca, yn unol â gofynion dros amser.

Roedd swyddogion yn cynnal adolygiad manwl o'r rhaglen gyfalaf i gael gwell dealltwriaeth o amserlenni cyflawni; byddai hyn yn cael ei adrodd maes o law.

 

O ran y dangosyddion a’r terfynau, amlygodd yr adroddiad un maes lle na chyflawnwyd y rhain, a oedd yn anarferol.

 

Roedd y dangosydd yn ymwneud ag amlygiad y Cyngor i newidiadau mewn cyfraddau llog. Mae costau benthyca yn cynyddu os yw'r gyfradd llog yn cynyddu a byddai ein hincwm o weithgareddau buddsoddi yn gostwng pe bai'r gyfradd llog yn gostwng. 

 

Ond mewn perthynas â'r dangosydd, nodwyd bod y mater wedi'i amlygu oherwydd dehongliad gwahanol o fenthyciadau LOBO (yr opsiynau i fenthyca neu i fenthyg) y Cyngor fel benthyciadau llog amrywiol yn hytrach na benthyciadau cyfradd llog sefydlog. Felly, roedd yn fater mwy ‘technegol’ yn hytrach nag un a achoswyd gan benderfyniadau benthyca a wnaed. Yn wir, roedd yr adroddiad yn cadarnhau, o ystyried natur y benthyciadau LOBO hyn, pe bai'r gyfradd llog yn cynyddu, roedd yn fwy tebygol o wneud arbediad cyllidebol yn hytrach na bod yn agored i'r risg y byddai costau'n cynyddu.

 

O ran y terfyn, digwyddodd y toriad hwn oherwydd bod y swm a fuddsoddwyd yn llawer mwy na'r hyn a ragwelwyd wrth osod y dangosydd.  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg pdf icon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y ddogfen, gan amlygu ei bod yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu adroddiad cynnydd blynyddol yn unol â Safonau’r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o gyflawniadau allweddol yn ystod y flwyddyn, a meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Y rhain oedd y canlynol:

 

§  Gweithio gyda chymunedau ffoaduriaid, mudol ac ethnig lleiafrifol i wreiddio’r Gymraeg yn well fel rhan o ymdeimlad cyffredin o hunaniaeth ar draws y ddinas, yn enwedig yng nghyd-destun datblygiad ein pedwaredd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

 

§  Gwella, datblygu, a dechrau'r gwaith o gyflwyno Polisi Sgiliau Iaith Gymraeg newydd. Rhoddwyd prosesau ar waith i ganiatáu cyflawni'r flwyddyn nesaf. 

 

§  Ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a'n cymunedau i lywio'r gwaith o ddatblygu ein Strategaeth Iaith Gymraeg pum mlynedd newydd, a basiwyd gyda chefnogaeth lawn y Cyngor.

 

§  Datblygu trefniadau partneriaeth creadigol y tu allan i’r sector cyhoeddus a gwirfoddol i godi proffil y Gymraeg ar draws Casnewydd. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda Chlwb Rygbi'r Dreigiau a Chlwb Pêl-droed Sir Casnewydd i hyrwyddo'r Gymraeg.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf, gan gynnwys y canlynol:

 

§  Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i gyflawni’r Strategaeth Iaith Gymraeg pum mlynedd newydd a sefydlu fframwaith monitro perfformiad i asesu cyflawniad amcanion.

 

§  Ymgysylltu pellach â chymunedau amrywiol Casnewydd i hyrwyddo’r Gymraeg, codi ymwybyddiaeth ac amlygrwydd yr iaith, a pharhau i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg a chynwysoldeb yr iaith.

 

§  Ymgorffori ein strwythur rheoli perfformiad newydd ar draws y Cyngor.

 

§  Cyflwyno ein fideos hyfforddi Cymraeg newydd i bob aelod o staff.

 

§  Parhau i gwmpasu ac ystyried cyrsiau Cymraeg ar gyfer siaradwyr sydd wedi rhoi’r gorau i siarad yr iaith, neu’r rhai sydd angen hwb i’w hyder.

 

Sylwadau gan gynghorwyr:

 

Ategodd y Cynghorydd Al-Nuaimi yr adroddiad, a ddylai gael ei gefnogi gan yr holl aelodau, ac roedd yn falch iawn o weld y gwahaniaeth a gyflawnwyd dros y blynyddoedd. Cafwyd trafodaeth ddiddorol yn y Pwyllgor Craffu ac roedd y Cynghorydd Al-Nuaimi eisiau tynnu sylw at ddau beth. Diolchodd y Cynghorydd Al-Nuaimi yn gyntaf i'r Prif Swyddog Addysg am ei heglurhad ynghylch y lleoedd gweigion mewn meithrinfeydd gyda chynllun ar waith i hybu'r Gymraeg mewn addysg blynyddoedd cynnar. Yn ail, roedd yn darged uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050; dylai adroddiadau rheolaidd nodi cynnydd ynghylch y targed hwn bob blwyddyn er mwyn ei gyflawni a sut y'i cyflawnwyd.

 

Roedd y Cynghorydd Davies yn ymwybodol bod swyddogion addysg yn ddiolchgar am y cymorth a ddarparwyd gan y Swyddog Iaith Gymraeg a bod Cyngor Dinas Casnewydd wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan Lywodraeth Cymru. Roedd y Cynghorydd Davies felly am gyfleu ei diolch am hyn.

 

Mynegodd y Cynghorydd Hughes ei ddiolch yn Gymraeg:

 

Fel yr Hyrwyddwr Aelod Etholedig dros y Gymraeg am y llynedd, rwy'n falch o gefnogi gwaith ein swyddogion wrth hyrwyddo'r Gymraeg ac wrth godi proffil y Gymraeg o fewn y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus: PSPO - Rheoli Cwn pdf icon PDF 995 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Tai a Rheoleiddio yn falch o gyflwyno'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus newydd ar gyfer rheoli c?n i'w gymeradwyo.

 

Cyn 2015, roedd rheoli c?n yn cael ei reoli o dan Orchmynion Rheoli C?n safle-benodol ar gyfer gwahanol fannau agored sy’n eiddo i’r Cyngor. O fis Hydref 2014, cyflwynodd Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 y defnydd o Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus fel p?er newydd i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys perchnogaeth c?n anghyfrifol.

 

Roedd hyn yn golygu bod y Gorchmynion Rheoli C?n a oedd yn bodoli eisoes yn cael eu dirwyn i ben a'u disodli gan Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Dull Cyngor Dinas Casnewydd, yn unol ag awdurdodau lleol eraill, oedd cyfuno’r holl faterion sy’n ymwneud â rheoli c?n ac ymddygiad c?n mewn gorchymyn ehangach, a fyddai o fudd i bob aelod o’r gymuned sy’n defnyddio tir sy’n eiddo i’r Cyngor ac yn cael ei reoli ganddo – perchnogion c?n a’r cyhoedd yn gyffredinol.

 

Barnwyd bod angen y gorchymyn i reoli ymddygiad anghyfrifol wrth fynd â ch?n am dro / er mwyn cael ymarfer corff a oedd yn cael effaith andwyol ar ddefnydd a mwynhad pobl eraill o fannau agored cyhoeddus. Roedd hyn yn amrywio o fethu â chael gwared ar faw i ymddygiad afreolus anifeiliaid tuag at bobl, anifeiliaid eraill a bywyd gwyllt. Roedd yr angen i reoli ymddygiad mewn meysydd chwarae, meysydd chwaraeon ffurfiol a mynwentydd yn arbennig o arwyddocaol, ac roedd digwyddiadau yn yr ardaloedd hyn yn arwain at gwynion ffurfiol i'r awdurdod.

 

Roedd y mesurau rheoli a ymgorfforwyd i’r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn cynnwys gwahardd c?n yn gyfan gwbl o ardaloedd sensitif penodol megis mannau chwarae i blant, gofyniad i g?n fod dan reolaeth ac ar dennyn mewn mannau cyhoeddus penodol eraill, a gofyniad cyffredinol i berchnogion c?n lanhau baw c?n.

 

Yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau statudol, roedd yn ofynnol i'r Cyngor ymgynghori â'r Heddlu, y cyhoedd yn gyffredinol a rhanddeiliaid allweddol megis clybiau a chymdeithasau perchnogion c?n a rhoi sylw i unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad cyn penderfynu bwrw ymlaen â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

 

Goruchwyliwyd y broses o ymgysylltu â'r cyhoedd ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol gan y Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu.

 

Cytunodd y pwyllgor ar yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2021, ac ar ôl hynny, cynhaliwyd ymgynghoriad helaeth.

 

Roedd hyn yn cynnwys ymgysylltu â grwpiau allweddol, gan gynnwys, er enghraifft, glybiau chwaraeon, cyrff llywodraethu chwaraeon, y Clwb Cenel, Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau, yr Ymddiriedolaeth Natur neu'r RSPB.

 

Yn ogystal, cafodd baneri a hysbysiadau eu cynhyrchu a'u rhoi o amgylch y gwahanol safleoedd a'u gosod ar gatiau yn hysbysu'r cyhoedd. Postiwyd y ddolen i’r ymgynghoriad ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu i godi ymwybyddiaeth. Dangoswyd y canlyniad bod mwyafrif clir o blaid gweithredu'r gorchymyn.

 

Cyflwynwyd canlyniad yr ymgynghoriad i’r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu ym mis Ionawr 2022.  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cofnodion Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 685 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd gan yr aelod llywyddol gofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gerbron y Cyngor a gofynnodd am yr eilydd, y Cynghorydd Corten.

8.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn cychwyn gyda chwestiynau, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol i’r Cyngor:

 

Coleg Gwent

Roedd cydweithwyr yn ymwybodol bod cynigion i greu campws coleg yng nghanol y ddinas, gan ddarparu cyfleusterau addysg bellach o’r radd flaenaf, yn cymryd cam arall ymlaen.

 

Lansiwyd ymgynghoriad cyn cynllunio cyn i gais amlinellol gael ei gyflwyno ar y cyd gan y Cyngor a Choleg Gwent.

 

Roedd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda Choleg Gwent a Llywodraeth Cymru ar ei gynlluniau i ddod â darpariaeth addysg bellach i galon canol y ddinas.

 

Byddai Ardal Wybodaeth Casnewydd yn cynnig amgylcheddau dysgu rhagorol ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch, gan helpu i ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn cyflwyno cais i Gronfa Ffyniant Bro llywodraeth y DU i gefnogi Sefydliad Technoleg Cenedlaethol mewn lleoliad yng nghanol y ddinas. Byddai sefydliad o'r fath yn darparu addysg a hyfforddiant technegol lefel uwch o ansawdd uchel, a fyddai'n ased gwerthfawr arall y mae mawr ei angen ar y ddinas.

 

Roedd y datblygiadau hyn yn rhan o’n prif gynllun ar gyfer canol y ddinas, sef prosiectau adfywio a fyddai’n darparu cyfleoedd cyflogaeth, dysgu a hyfforddiant, yn creu cymysgedd mwy amrywiol o ddefnyddiau, ac yn gwneud Casnewydd yn lle deniadol i fyw ynddo, gweithio ynddo ac ymweld ag ef.

 

Roedd manylion yr ymgynghoriad cyn cynllunio ar gael ar wefan y Cyngor, ac roedd yr Arweinydd yn annog cydweithwyr i edrych, a rhannu a chyflwyno eu barn.

 

Gan barhau â'r thema sgiliau ac addysg, roedd yr Arweinydd yn falch o ddweud bod yr arlwy dysgu cymunedol diweddaraf wedi'i lansio'n barod ar gyfer dechrau mis Medi. Ar ôl ychydig flynyddoedd anodd, oherwydd y pandemig, rydym yn falch iawn o allu cyflwyno cynnig estynedig a helaeth – gan gynnwys sgiliau hanfodol, cymwysterau TGAU, ieithoedd modern, Iaith Arwyddion Prydain, llythrennedd digidol a sgiliau byw’n annibynnol – i bynciau fel carbon llythrennedd, lle gallai dysgwyr ddeall eu hôl troed carbon a chymryd camau i leihau eu heffaith ar y blaned.

 

O'r wythnos nesaf ymlaen, byddai Canolfan Ffordd y Brenin yn gartref i lyfrgell dros dro newydd. Byddai’r uned, sydd wedi’i lleoli’n agos iawn at brif adeilad y llyfrgell, yn sicrhau y gallem barhau i ddarparu gwasanaethau benthyca, mynediad at gyfrifiaduron cyhoeddus, a rhai adnoddau ymchwil deuluol tra oedd gwaith gwella’n cael ei wneud ar y llyfrgell ganolog a’r amgueddfa.

 

Ar ôl cwblhau'r gwaith, byddai rhai gwasanaethau yn yr Orsaf Wybodaeth yn cael eu darparu o'r adeilad sydd newydd ei adnewyddu. Byddai staff canolfan gyswllt y Cyngor hefyd yn gweithio yno.

 

Daeth hyn yn dilyn y penderfyniad i osod dau lawr o’r hen orsaf reilffordd yn Queensway i Tramshed Tech i greu gofod cydweithio ar gyfer busnesau newydd yn y sectorau digidol, technoleg a chreadigol.

 

Roedd lloriau uwch yr adeilad eisoes wedi’u meddiannu gan Academi Meddalwedd Genedlaethol fawreddog Prifysgol Caerdydd, gan wneud yr hen orsaf reilffordd yn gartref i entrepreneuriaid digidol blaengar y dyfodol.

 

Aeth ein Rhwydwaith Staff Pride ein hunain mewn partneriaeth â Chasnewydd Fyw a PROUD i lansio Prosiect Celf Haf y  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

        i.           Deputy Leader and Cabinet Member for Education and Early Years

      ii.           Cabinet Member for Community and Wellbeing

     iii.           Cabinet Member for Strategic Planning, Regulation and Housing

    iv.           Cabinet Member for Social Services

      v.           Cabinet Member for Organisational Transformation

    vi.           Cabinet Member for Climate Change and Bio-Diversity

   vii.           Cabinet Member for Infrastructure and Assets

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd deg cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau’r Cabinet:

 

Cwestiwn 1 – Dirprwy Arweinydd / Aelod y Cabinet: Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar

 

Y Cynghorydd Morris:

A allech esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldeb mewn Saesneg clir, gan gynnwys eich gweledigaeth bersonol ar gyfer y rôl ac enwau’r uwch-swyddogion sy’n adrodd i chi?

 

Ymateb:

 

Diolch am eich cwestiwn. 

 

Fi yw Aelod y Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar. Fe welwch y cyfrifoldebau sy’n ymwneud â’r rôl hon wedi’u nodi yn Atodiad 1 o Eitem 2 ar ein hagenda heddiw – Cofnodion 17 Mai 2022. Gall aelodau ddod o hyd i hwn ar dudalen 33 y pecyn adroddiad. 

 

Fy ngweledigaeth yw’r weledigaeth a rennir a nodir gan y weinyddiaeth Lafur yn ein hymrwymiadau maniffesto i bobl Casnewydd. Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail i'r Cynllun Corfforaethol y bydd y cynlluniau Maes Gwasanaeth yn cael eu datblygu ohono. 

 

Rwy’n gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Addysg, Sarah Morgan, sy’n Bennaeth Gwasanaeth yn y maes hwn, a hefyd gydag uwch-swyddogion eraill. Mae'r holl aelodau etholedig wedi cael manylion y Tîm Gweithredol a Phenaethiaid Gwasanaeth fel rhan o'u cyfnod sefydlu.

 

Cwestiwn 2 – Aelod y Cabinet: Cymuned a Llesiant

 

Y Cynghorydd Morris:

A allech esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldeb mewn Saesneg clir, gan gynnwys eich gweledigaeth bersonol ar gyfer y rôl ac enwau’r uwch-swyddogion sy’n adrodd i chi?

 

Ymateb:

Diolch am eich cwestiwn. Fi yw Aelod y Cabinet dros Gymunedau a Llesiant. Mae fy nghyfrifoldebau sy'n ymwneud â’r rôl hon wedi’u nodi yn Atodiad 1 i Eitem 2 ar ein hagenda heddiw – cofnodion 17 Mai 2022. Gall aelodau ddod o hyd i hyn ar dudalen 33 y pecyn adroddiad. Fy ngweledigaeth yw’r weledigaeth a rennir a nodir gan ymrwymiadau maniffesto Llafur i bobl Casnewydd. Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail i'r Cynllun Corfforaethol y bydd y cynlluniau Maes Gwasanaeth yn cael eu datblygu ohono. Rwy'n gweithio'n agos gyda'm cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth ar gyfer Pobl, Polisi a Thrawsnewid. Mae'r holl aelodau etholedig wedi cael manylion y Tîm Gweithredol a Phenaethiaid Gwasanaeth fel rhan o'u cyfnod sefydlu ar ôl etholiad mis Mai.

 

 

Cwestiwn 3 – Aelod y Cabinet: Cynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai

 

Y Cynghorydd Morris:

A allech esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldeb mewn Saesneg clir, gan gynnwys eich gweledigaeth bersonol ar gyfer y rôl ac enwau’r uwch-swyddogion sy’n adrodd i chi?

 

Ymateb:

Diolch i'r Cynghorydd Morris am eich cwestiwn.

 

Fi yw Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai.

 

Mae fy nghyfrifoldebau sy'n ymwneud â'r rôl hon wedi'u nodi yng nghofnodion 17 Mai ar dudalen 33 a hefyd yn Atodiad 1 i Eitem 2 ar ein hagenda heddiw.

 

Fy ngweledigaeth yw’r weledigaeth a rennir a nodir gan y weinyddiaeth Lafur yn ein hymrwymiadau maniffesto i bobl Casnewydd. Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail i'r Cynllun Corfforaethol y bydd y cynlluniau Maes Gwasanaeth yn cael eu datblygu ohono.

 

Rwy'n gweithio gyda Chyfarwyddwr Strategol yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ogystal â gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol.

 

Rwyf hefyd yn gweithio gyda'r Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd, y  ...  view the full Cofnodion text for item 9.