1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

        i.           To receive any apologies for absence.

      ii.           To receive any declarations of interest.

     iii.           To receive any announcements by the Presiding Member.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.i  Ymddiheuriadau

Byddyr Aelod Llywyddol yn adrodd am unrhyw ymddiheuriadau. 

 

1.ii  DatganiadauDiddordeb

 

1.iii  Cyhoeddiadau’r Aelod Llywyddol

 

Arweiniodd y Cynghorydd Cockeram funud o dawelwch er cof am y cyn-gynghorwyr David Hando a Paul Hannon.

 

Cymerodd y Cynghorwyr Morris, Davies, Evans, Whitehead a Harvey gyfle i fynegi rhai geiriau o gydymdeimlad am y cyn-Gynghorwyr. 

 

Yroedd y Cynghorydd Harvey wedi addo i David Hando y câi wahoddiad i dorri’r dywarchen gyntaf yn y ganolfan ymwelwyr newydd ym Mhont Gludo Casnewydd. Gan gadw hyn mewn cof, ac fel yr Aelod Cabinet dros Gymuned a Lles, byddai’n addas gosod plac yn y ganolfan ymwelwyr i goffau cyfraniad a gwaith caled David Hando.

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 185 KB

To confirm and sign the minutes of the last meeting.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

DerbyniwydCofnodion 22 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir.

3.

Penodiadau pdf icon PDF 90 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried y penodiadau arfaethedig a osodir allan yn yr adroddiad

 

Cynigiodd y Cynghorydd Clarke y penodiadau a osodwyd allan yn yr Adroddiad, fel y cytunwyd arnynt gan y Rheolwyr Busnes, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol a osodir allan isod.

 

Eiliodd y Cynghorydd Fouweather yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:Cytuno ar y penodiadau a ganlyn.

 

Penodiadaui Gyrff Llywodraethol

 

Sefydliad

Enwebiadau a Dderbyniwyd

NiferLlefydd gwag/newydd

Ysgol Gynradd Lliswerry

Penodiad

Andrew Sterry

 

4.

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawoddyr Aelod Llywyddol yr Uwch-Arolygydd Vicki Townsend, a roddodd gyfoesiad i aelodau’r cyngor am faterion yr Heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.

 

Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol y Dirprwy Arweinydd i annerch yr Uwch-Arolygydd Townsend.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i’r UA Townsend am ddod i’r cyngor llawn, a diolch yn benodol i’r Heddlu ar ran ei holl gydweithwyr yn y cyngor, ac yn enwedig y Prif Arolygydd John Davies am y wybodaeth a rannodd gyda’r cynghorwyr ar ddechrau’r Flwyddyn newydd. Yr oedd y llythyr newyddion a ddarparodd yn amlinellu’r blaenoriaethau daearyddol mewn wardiau, oedd yn llawn gwybodaeth ac o gymorth. Yr hyn a groesawyd yn arbennig oedd ei fwriad i gwrdd â’r holl gynghorwyr yn bersonol ym mis Chwefror, a fyddai’n gyfle da i leisio pryderon y trigolion ac i weithio gyda’r heddlu i leihau troseddau yn yr ardaloedd lleol. Yr oedd yn dda gwybod y cynhelid y cyfarfodydd hyn yn chwarterol yn y dyfodol, gan y byddai hyn yn cryfhau cysylltiadau gydag aelodau etholedig a’u tîm heddlu lleol.

 

Cyfeirioddyr adroddiad hefyd at waith campus Tîm Safonau Masnach y Cyngor sy’n gweithio’n agos gyda’r heddlu ac sydd wedi cael canlyniadau cadarnhaol: yr oedd angen nodi a chanmol hyn.

 

Cwestiynaui’r Heddlu a Godwyd gan y Cynghorwyr:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd M Evans at orfodi’r terfyn cyflymdra 20mya ledled y ddinas, a gofynnodd a fyddai cynnal hyn yn effeithio ar adnoddau’r heddlu. Sicrhaodd yr Uwch-Arolygydd y Cynghorydd Evans na fyddai swyddogion rheng-flaen yn cael eu symud o ddyletswyddau eraill i drin materion gorfodi terfynau cyflymder.

 

§  Cyfleodd y Cynghorydd Al Nuaimi ei ddiolch hefyd i arolygwyr canol y ddinas oedd yn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd, a dymunodd y gorau hefyd i Sean Conway oedd wedi gadael ei swydd, a chroesawodd Hannah Welty. Holodd y Cynghorydd Al-Nuaimi yr Uwch-Arolygydd am brosiect Angel y Cyllyll ac am adborth am effeithiolrwydd yr hyn oedd wedi ei osod yng nghanol y ddinas. Amlinellodd yr Uwch-Arolygydd yr adborth cadarnhaol ar Angel y Cyllyll, a pha mor dda yr oedd y gymuned yn ei dderbyn. Yr oedd y gwaith cyffredinol yn cael ei oruchwylio gan Matt Edwards, heddwas oedd yn gweithio ym mhencadlys yr heddlu  ac yn edrych ar yr effeithiau ehangach. Serch hynny, yr oedd yn rhy gynnar i roi adroddiad ar hyn o bryd, ond byddai modd rhoi cyfoesiad am ganfyddiadau’r adroddiad yn y cyfarfod nesaf.

 

§  Fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, nododd y Cynghorydd M Howells y diffyg adborth gan yr heddlu i geisiadau cynllunio. Hefyd, wrth siarad â heddweision lleol, yn aml, nid ydynt yn ymwybodol o’r ceisiadau hyn a theimlent y gallant wneud cyfraniad. Holodd y Cyng. Howells sut y gallai’r cyngor a’r heddlu felly gydweithio i sicrhau gwell cyfathrebu yn y dyfodol, yn enwedig o ran ceisiadau am Dai Amlbreswyliaeth (TA). Cytunodd yr Uwch-Arolygydd yr  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Chwe Misol ar Reoli'r Trysorlys - 2022/23 pdf icon PDF 464 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad, a amlygodd, fel ar 30 Medi 2022, fod benthyciadau yn £140.6m, gostyngiad o £1.5m o gymharu â lefelau union symiau 2021-22.

 

Achoswyd y gostyngiad hwn yn bennaf gan fenthyciadau Rhandaliadau Cyfartal y Prifswm (RhCP), oedd yn talu’r prif swm yn ôl dros einioes y benthyciad (ac o’r herwydd yn denu llai o gostau llog), fel dewis yn lle benthyciadau aeddfedrwydd y Cyngor lle byddai’r prif swm yn cael ei ad-dalu ar ddiwrnod terfynol y benthyciad.

 

Dywedodd y swyddogion, wrth i gyfraddau log godi, mai cynyddu hefyd wnaiff y tebygolrwydd y bydd ein benthyciadau Cynnig y Benthycwr Cynnig y Benthyciwr (CBCB) yn cael eu galw i mewn. Golygodd hyn fod y sawl a wnaeth y benthyciad wedi gofyn am newid cyfraddau’r cyfleusterau hyn tuag i fyny; mewn ymateb, gwnaeth y benthyciwr (y Cyngor) naill ai dderbyn y gyfradd uwch neu setlo’r ddyled.

 

Ni wnaed unrhyw geisiadau o’r fath i alw i mewn yn hanner cyntaf 2022-23, ond petaent yn cael eu gwneud  yn ail hanner y flwyddyn, rhagwelai’r swyddogion y buasai benthyciadau mwy traddodiadol yn cymryd eu lle yn y man, oni fyddai digon o gymhelliant i dderbyn y newid yn y gyfradd llog.

 

Yroedd y rhagolwg gwariant cyfalaf presennol yn golygu peth llithriad, felly ni ddisgwyliwyd y byddai angen cymryd mwy o fenthyciadau tymor-hir yn y flwyddyn ariannol hon. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cau allan ystyried benthyca allanol petai’r sefyllfa yn ffafriol, fel ffordd o reoli risgiau yn y gyfradd llog, gan gydnabod fod rheidrwydd i fenthyca yn y tymor hir ar y Cyngor o hyd. Byddai unrhyw benderfyniad i wneud hyn yn cael ei gymryd yn unol â chyngor gan ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor, ac yn unig lle byddai budd ariannol clir o wneud hynny.

Lefel y buddsoddiadau ar 30 Medi 2022 oedd £50m, a ostyngodd o £8.2m ers union symiau 2021-22, oherwydd bod y Cyngor yn defnyddio adnoddau o’r fath fel dewis mwy cost-effeithiol na threfnu benthyciadau allanol newydd. 

 

Rhagwelwydmai parhau i ostwng fyddai lefelau buddsoddi yn  ystod 2022/23 fel dewis yn lle benthyca, hyd nes y cyrhaeddir isafswm balans o £10m yn y pen draw, a fyddai’n dal i gael ei fuddsoddi er mwyn cydymffurfio â Chyfarwyddeb y Farchnad mewn Offerynnau Ariannol a ’r Gyfarwyddeb a Deilliadau (MiFIDII). 

 

Disgwyliadau’rfarchnad oedd y byddai cyfraddau llog yn dechrau dychwelyd i lefelau mwy traddodiadol yn chwarter olaf 2022-23, a doeth felly fyddai peidio â chymryd unrhyw benderfyniadau am fenthyca tymor-hir yn y tymor byr tra bod cyfraddau’n uwch na’r hyn maent yn debygol o fod y flwyddyn ganlynol.

 

Yragwedd hon yw conglfaen benthyca mewnol effeithiol; hyd yn oed pan fod cyfraddau llog yn codi, yr oedd cost benthyciadau newydd yn dal yn ddrutach nag unrhyw elw ar fuddsoddiadau. Felly, mae’n dal yn synhwyrol defnyddio balansau arian presennol  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor pdf icon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad am GynllunGostyngiadau Treth y Cyngor  i’r Cyngor.

 

Yn wahanol i Loegr, un cynllun oedd dros Gymru gyfan oedd yn rhoi fframwaith i asesu ceisiadau, ac yn gwneud i ffwrdd â’r loteri cod post allai ddeillio o gynlluniau unigol.

 

Byddai’nrhaid i’r cynllun Cymru gyfan, ynghyd â rhai meysydd dewisol, gael eu cymeradwyo’n flynyddol gan y Cyngor er mwyn i’r cynllun allu gweithredu.

 

Yroedd adroddiad heddiw yn ceisio caniatâd y Cyngor i fabwysiadu’r cynllun am 2023-24.  Yn yr adroddiad hefyd yr oedd rhai gwelliannau technegol i’r cynllun.

 

Rhai mân oedd y gwelliannau technegol ac yn ymdrin â chynyddu lwfansau personol a didyniadau i rai heb fod yn ddibynyddion, yn ogystal â rhai newidiadau technegol i reoliadau, fel y manylwyd amdanynt yn yr adroddiad.

 

Yroedd mannau lle’r oedd gan y Cyngor ddisgresiwn o ran rhedeg y cynllun, sef:

 

1.     Disgresiwni ymestyn gostyngiad treth cyngor i’r sawl oedd yn dechrau gweithio.

 

2.     Disgresiwni gynyddu swm y Pensiynau Anabledd Rhyfel a Phensiynau Gweddwon Rhyfel na fyddai’n cael eu cyfrif wrth weithio allan incwm yr hawliwr.

 

3.     Disgresiwni wella’r broses o hysbysu am benderfyniadau uwchlaw isafswm y gofynion.

 

4.     Disgresiwni ôl-ddyddio cymhwyso gostyngiadau treth cyngor y tu hwnt i’r cyfnod safonol o dri mis.

 

Pe na bai’r cynllun yn yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu’n ffurfiol, byddai’r meysydd disgresiynol yn cael eu colli a byddai’r cynllun diofyn safonol Cymru-gyfan yn gymwys yn ei le.

 

Eiliodd y Cynghorydd Harvey yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:

Cymeradwyodd y Cyngor GynllunGostyngiadau Treth y Cyngor  am 2023/24 yn unol  â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor  (Gofynion Rhagnodedig a Chynlluniau Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 ("Rheoliadau’r Gofynion Rhagnodedig ") wrth arfer ei ddisgresiynau lleol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

7.

Adroddiad Blynddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad, gan roi gwybod i’r cydweithwyr fod gan y Cyfarwyddwr Strategol, fel y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol  dynodedig, ddyletswydd statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ac fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i gynhyrchu adroddiad blynyddol i’r Cyngor.

 

Yroedd yr adroddiad yn gosod allan asesiad personol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor o’r perfformiad o ran cyflawni ei swyddogaethau gofal cymdeithasol yn ystod y 12 mis a aeth heibio. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â’r cyfnod 2021/22 ac fe’i gosodwyd allan yn y fformat a nodwyd yn y canllawiau.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, gwelodd y Cyngor ail-strwythuro ei dîm Uwch-Reoli a phenodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol parhaol. Daeth cyflwyno gofal cymdeithasol yn ystod 2021 a 2022 yn drwm dan ddau ddylanwad: Covid yn gyntaf a chyfyngiadau’r pandemig, a phroblemau costau byw yn dod yn dynn ar eu sodlau.

 

Yng ngoleuni cyfyngiadau penodol 2021-22, yr oedd yr adroddiad yn adlewyrchu heriau a newidiadau’r cyfnod. Ar waethaf y problemau lu a wynebwyd, yr oedd y  Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn fodlon fod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol.

 

Yroedd staff ar draws yr holl Wasanaethau Cymdeithasol yn dal i gyflwyno’r rhan fwyaf o’r darpariaethau, ac yn manteisio ar weithio hybrid mewn rhai meysydd allweddol. Y mae manteision y math hwn o weithio yn parhau i wella a chyfoethogi arferion.

 

Yroedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o nodi, ar waethaf anawsterau 2021-2022, fod staff y gwasanaethau cymdeithasol yn gallu edrych y tu hwnt i’r galwadau cyson a hefyd yn gallu cyflwyno gwasanaethau arloesol oedd yn dal i ddatblygu.

 

Eiliodd y Cynghorydd Marshall yr adroddiad.

 

SylwadauCynghorwyr:

 

§  Y Cynghorydd Cockeram oedd yr aelod cabinet pan gwblhawyd adroddia for 2021/22. Arweinwyr y tîm oedd Sally-Ann Jenkins a Chris Humphries. Bu’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd o nerth i nerth. Er hynny, yr oedd rhai problemau, megis y diffyg mewn cyllid a welwyd hefyd mewn cyflogau am ofal cartref. Yr oedd yr Aelod Llywyddol yn siomedig mai dim ond pedwar neges o ganmoliaeth a dderbyniodd y gwasanaethau cymdeithasol yn y flwyddyn gyfan o gymharu â chynghorau eraill. Rhaid oedd cofnodi canmoliaeth fyddai’r awdurdod yn dderbyn, a dywedodd nad adlewyrchiad ar y staff oedd y diffyg canmoliaeth.

 

§  Cytunodd y Cynghorydd Hughes â barn yr Aelod Llywyddol, ac ategodd ddiolchiadau’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cynghorydd Cockeram a’r cyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Chris Humphries, gan obeithio ei bod yn mwynhau ei hymddeoliad. Yr oedd yn swydd anodd, yn enwedig yn ystod y pandemig. Aethai’r staff y tu hwnt i’w dyletswyddau i roi gofal i drigolion y ddinas., gan ymaddasu’n fuan a pharhau yn arloesol o ran eu hymatebion, er eu bod dan bwysau enbyd. Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Diogelu Blynyddol pdf icon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd ar Adroddiad Blynyddol interim ar Ddiogelu. Gwerthusiad oedd yr adroddiad hwn o berfformiad yr Awdurdod Lleol gan y Pennaeth Diogelu Corfforaethol.

 

Adroddiad interim oedd hwn oherwydd newidiadau yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru. Byddid yn cyflwyno adroddiad llawn i’r Cabinet yn gynnar y flwyddyn nesaf yn unol â’r canllawiau newydd.

 

Diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion bregus oedd y flaenoriaeth uchaf i Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Mae’r Polisi Diogelu Corfforaethol yn gosod allan ddyletswydd ac ymrwymiad y Cyngor i ddiogelu a hyrwyddo iechyd, lles a hawliau dynol oedolion a phlant sydd mewn perygl.

 

Yroedd yr adroddiad hwn yn asesu camau ac ymatebion rhagweithiol y  Cyngor o ran diogelu, ac fe’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu ar 30 Medi 2022. Cafwyd trafodaeth adeiladol a buddiol ar y cynnwys.

 

Nododdyr adroddiad yr heriau ar draws y Cyngor o ran diogelu oherwydd pwysau Covid a chyfyngiadau’r pandemig.

 

Gweloddyr Hwb Diogelu i Wasanaethau Plant gynnydd o 13.9% yn nifer yr achosion a gyfeiriwyd yn ystod 2021/22. Yr oedd yn adlewyrchiad o’r problemau a gosodd mewn ysgolion, a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar ac ieuenctid ac i asiantaethau sy’n bartneriaid. I blant a theuluoedd, yr oedd agwedd effeithiol a chadarn at ddiogelu yn hanfodol, a gallai newid bywydau.

 

Arwaethaf y pwysau, yr oedd canlyniad yr hunanasesiad diogelu ar bob maes yn y Cyngor yn dangos lefel uchel iawn o gydymffurfio â’r gofynion statudol a phenderfyniadau i barhau i roi’r flaenoriaeth uchaf i ddiogelu ein holl ddinasyddion.

 

Yroedd yn dda nodi fod Canllawiau Diogelu Corfforaethol newydd Llywodraeth Cymru (Mawrth 2022) yn cynnwys erfyn Hunanasesu Diogelu Casnewydd fel model o arfer da. Yr oedd y canllawiau a gyhoeddwyd yn seiliedig ar themâu tebyg yn deillio o archwilio mewnol ac yn annog safoni peth o’r data perfformiad fel bod modd mesur yn haws pa mor bell yr aethpwyd fel meincnod gydag awdurdodau lleol eraill.

 

Nodwydyn yr adroddiad yr heriau o sicrhau bod yr holl staff, gwirfoddolwyr ac Aelodau yn cyrchu’r hyfforddiant ac yn ymwneud ag ef ym mhob maes diogelu. Dyma faes fyddai’n parhau i alw am ffocws a blaenoriaeth dros y flwyddyn i ddod.

 

Yroedd y Cyngor yn gweithio i sicrhau fod diogelu yn digwydd ym mhob maes gwasanaeth a bydd yn gweithio dros y flwyddyn i ddod gyda’r Canllawiau Diogelu Corfforaethol i sicrhau y parheir i gydymffurfio.

 

Eiliodd y Cynghorydd Marshall yr adroddiad.

 

Cynghorydd Comments:

 

§  Ystyriodd y Cynghorydd Cockeram ei bod yn bwysig i gydweithwyr nodi fod Adroddiad Diogelu Blynyddol Cyngor Dinas Casnewydd yn cael ei ystyried yn arfer da ledled Cymru, a diolchodd i’r swyddogion am eu holl waith.

 

§  Ategodd y Cynghorydd Marshall fod y mater hwn yn un o’r blaenoriaethau uchaf i Gasnewydd.  Amlygodd yr adroddiad ymdrechion y Cyngor fel rhan o’r ddyletswydd i amddiffyn plant a bod yn gyfrifol am eu hiechyd a’u lles. Yr oedd yn gadarnhaol hefyd fod  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Amserlen Cyfarfodydd - 2023/24 pdf icon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nod y rhestr arfaethedig o gyfarfodydd oedd hwyluso’r broses o wneud penderfyniadau trwy’r Cyngor rheolaidd, Pwyllgorau Gweithredol a Rheolaethol. Yr oedd rhestr y cyfarfodydd hefyd yn gosod patrwm cyfarfodydd y Pwyllgorau Craffu a chyrff eraill.

 

Nid oedd y dyddiadur yn cynnwys dyddiadau cyfarfodydd Aelodau unigol o’r Cabinet gan y buasent hwy yn penderfynu pryd y byddai angen cwrdd i wneud penderfyniadau, yn hytrach na chael eu rhwymo gan ddyddiadur cyfarfodydd. Wrth gwrs, ni fyddai hyn yn effeithio ar hawliau aelodau i ymgynghori ar benderfyniadau arfaethedig nac i ofyn am gwrdd â’r Aelod Cabinet cyn i benderfyniadau gael eu cymryd.

 

Awgrymwydgadael dyddiadau, amseroedd a lleoliadau pob cyfarfod ac eithrio rhai’r Cyngor i bob pwyllgor unigol. Awgrymwyd y dylai’r gwahanol bwyllgorau a grwpiau ystyried anghenion Cynghorwyr oedd ag ymrwymiadau gwaith neu eraill ar unrhyw adeg yn ystod y dydd.

 

Byddai’rrhestr yn parhau fel canllaw, fe ellid ei newid i gwrdd ag anghenion rhaglen waith pob pwyllgor neu gr?p arall.

 

Eiliodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:

Mabwysiadodd y Cyngor y rhestr o gyfarfodydd fel sail i’r trefniadau o Fai 2023 tan Fai 2024, gan gydnabod y galli newid i gwrdd ag anghenion rhaglenni gwaith pob pwyllgor neu gr?p arall.

10.

Enwebiad Maer - 2023/24

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i enwebu’r Maer am 2023/24.

 

Yroedd yn bleser gan y Dirprwy Arweinydd cynnig yn ffurfiol y Cynghorydd Watkins fel Maer am 2023/24, ac eiliwyd hyn gan  y Cynghorydd M Evans.

 

Penderfynwyd:

Enwebodd y Cyngor y Cynghorydd Trevor Watkins yn Faer am 2023/24.

 

 

11.

Cofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: 13 Rhagfyr 2022 pdf icon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnoddyr Aelod Llywyddol i’r cydweithwyr nodi cofnodion y PwyllgorGwasanaethau Democrataidd er gwybodaeth.

 

12.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, oherwydd ymddiheuriadau’r arweinydd, y byddid yn darparu ateb ysgrifenedig petai aelodau am gyflwyno cwestiwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd M Evans, er ei fod yn deal nad oedd darpariaeth yn y Rheolau Sefydlog i’r Dirprwy Arweinydd siarad, fod ei gydweithwyr Ceidwadol o’r farn y gallai’r Dirprwy Arweinydd ddirprwyo am yr  eitem hon yn absenoldeb yr Arweinydd.

 

Ategodd y Cynghorydd Morris sylwadau’r Cynghorydd M Evans a chredodd fod cwestiynau wedi eu trin gan y Dirprwy Arweinydd yn y gorffennol.

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol gydweithwyr fod y cyn-Arweinydd, y Cynghorydd D Wilcox wedi cyflwyno cwestiynau agored i’r Arweinydd yn 2016.  Byddai Swyddogion yn cyfeirio at y Rheolau sefydlog i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fel rhan o’u cylch gorchwyl wrth ystyried unrhyw welliannau arfaethedig i gyfansoddiad y cyngor. Byddai’n rhaid i unrhyw newidiadau arfaethedig, boed wedi eu hargymell gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd  neu beidio, yn gorfod cael eu trafod gan y Cyngor llawn a byddai angen pleidlais fwyafrifol o’r aelodau oedd yn bresennol ac yn pleidleisio i gael eu derbyn.

 

13.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

        i.           Deputy Leader and Cabinet Member for Education and Early Years

      ii.           Cabinet Member for Community and Wellbeing

     iii.           Cabinet Member for Strategic Planning, Regulation and Housing

    iv.           Cabinet Member for Social Services

      v.           Cabinet Member for Organisational Transformation

    vi.           Cabinet Member for Climate Change and Bio-Diversity

   vii.           Cabinet Member for Infrastructure and Assets

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr oedd tri chwestiwn ysgrifenedig i Aelodau’r Cabinet:

 

Cwestiwn 1: Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai

 

Cynghorydd Mark Howells:

Fel rhan o’r pwyllgor cynllunio ers f’ethol eleni, daeth yn amlwg fod cynnydd mewn ceisiadau cynllunio i droi eiddo yn TA.

 

Rwy’n siwr y bydd yr Aelod Cabinet yn cytuno mai’r rhain yw’r ceisiadau mwyaf dadleuol sy’n denu’r mwyaf o feirniadaeth gyhoeddus, ac os na chânt eu hystyried yn ofalus, y gallant greu cryn broblemau mewn cymunedau lleol. Mae gwrthdaro yn aml yn codi rhwng barn y cyhoedd, barn ac ystyriaethau Aelodau, a barn Swyddogion y Cyngor yn unol â chyfyngiadau deddfwriaethol. Y mis hwn yn unig, daeth cais gerbron y pwyllgor oedd yn ddadleuol, ac yr oedd  anghydweld rhwng Swyddogion ac Aelodau am yr agwedd iawn i’w chymryd.

 

Nid yw’r canllaw cynllunio atodol am TA yn help. Daeth i rym yn 2017 ac y mae wedi hen ddyddio a heb  ddal i fyny â newidiadau yn y gyfraith ar dai a chynllunio ers hynny. Nid yw’n cynrychioli barn yr Aelodau yn gyffredinol, ac ategir hyn ymhellach gan gefnogaeth drawsbleidiol yn y pwyllgor cynllunio ar y materion hyn.

 

Sylwaf fod adroddiad y Cabinet ar 11 Ionawr ynghylch yr amserlenni i gyflwyno’r CDLl heb gynnwys unrhyw wir ymrwymiad i newid y CCA oherwydd cyfyngiadau amser. O ystyried y problemau ynghylch TA, a theimladau cryf y cyhoedd yn eu cylch, fy nadl i yw na all y CCA am TA aros tan ar ôl 2026 i gael eu cyfoesi, ac y dylid edrych ac ymgynghori arnynt fel mater o frys er mwyn darparu gwell fframwaith i bennu’r ceisiadau hyn sydd yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn ymdrechu i fod yn gyngor sy’n gwrando.

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet felly ymrwymo i gyfarwyddo’r Swyddogion i gyfoesi’r CCA am y modd mae’r cyngor hwn yn delio â throsi i TA rhag blaen?

 

Ymateb y Cynghorydd James Clarke:

Rydym yn cydnabod y gall ceisiadau cynllunio am TA yn aml fod yn ddadleuol. Yn wir, gall TA sy’n cael eu rheoli’n wael a lle mae llawer ohonynt gyda’i gilydd arwain at broblemau sy’n effeithio ar drigolion lleol, ac yn aml y tenantiaid eu hunain. Fodd bynnag,  rhaid i ni gofio hefyd y gall TA sy’n cael eu rheoli’n dda integreiddio’n dda gyda’r gymuned leol a’u bod yn aml yn gyfle i gartrefu amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl ifanc broffesiynol. Felly dylid gochel rhag pardduo pob TA.

 

O ran y datganiad fod cynnydd mewn ceisiadau am TA, hoffwn gadarnhau nad yw hyn yn wir. Dengys y cofnodion cynllunio fod 30 cais wedi eu pennu yn 2020/21, 21 cais yn 2021/22 ac 16 cais yn y flwyddyn ariannol bresennol. Rwy’n tybio mai’r hyn a wêl y Cyng. Howells fel aelod sydd newydd ei ethol yw nifer uchel o gyfeiriadau i’r Pwyllgor Cynllunio, a chamddehongli hyn fel cynnydd mewn ceisiadau fel y cyfryw.

 

Fel cyn-aelod o’r Pwyllgor Cynllunio ac yn awr fel yr Aelod Cabinet  sy’n gyfrifol am Gynllunio, rwy’n gyfarwydd iawn â phryderon aelodau a’u hofnau  ...  view the full Cofnodion text for item 13.