Agenda and minutes

Cyngor - Dydd Mawrth, 23ain Ionawr, 2024 5.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

        i.           To receive any apologies for absence.

      ii.           To receive any declarations of interest.

     iii.           To receive any announcements by the Presiding Member.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.i Ymddiheuriadau

 

Y Cynghorwyr Whitehead a Routley.

 

1.ii Datgan Buddiannau

 

Datganodd y Cynghorydd Mogford fuddiant mewn perthynas ag Eitem 10.

Datganodd y Cynghorydd Reynolds fuddiant mewn perthynas ag Eitem 5.

 

1.iii Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol

 

Dyma'r cyfarfod olaf i Elizabeth Bryant, Pennaeth y Gyfraith a Safonau sy'n gadael i weithio i Gyngor Plymouth. Dymunodd yr Aelod Llywyddol a chydweithwyr y Cyngor y gorau iddi ar gyfer y dyfodol.

 

Gofynnodd yr Aelod Llywyddol am funud o dawelwch am farwolaeth ddiweddar ?r y cyn-Gynghorydd Margaret Cornelious, Ken.

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 187 KB

To confirm and sign the minutes of the last meeting.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023 yn amodol ar y canlynol:

 

Roedd y Cynghorydd Lacey yn bresennol yn y cyfarfod ar 28 Tachwedd, cafodd hyn ei gywiro ar gyfer y Cofnodion cymeradwy.

3.

Penodiadau pdf icon PDF 95 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried y penodiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad

 

Cynigiodd y Cynghorydd Clarke y penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad, fel y cytunwyd gan y Rheolwyr Busnes fel y nodir isod.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Reeks.

 

Penderfynwyd: Bod y penodiadau canlynol yn cael eu cytuno.

 

Penodiadau Cyrff Llywodraethu

 

Corff Llywodraethu

Penodiadau/Ymddiswyddiadau

Enw

Ysgol Gynradd Pilgwenlli

Ailbenodiad

Edward Watts

Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair 

Ailbenodiad

Charles Ferris

Ysgol Gymraeg Ifor Hael

Ailbenodiad

Jan Cleverly

Ysgol Gymraeg Casnewydd

Ailbenodiad

Alan Speight

Ysgol Gynradd Ringland

Trosglwyddwyd i rôl llywodraethwr amgen

ShaninoorAlom

Ysgol Gynradd Ringland

Penodiad

StaceyDrew

 

4.

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol Uwch-arolygydd Heddlu Gwent, J White, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cyngor am faterion yr heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.

 

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i siarad gerbron yr Uwch-arolygydd White.

 

Croesawodd yr Arweinydd adborth yr Uwch-arolygydd White ar ddwyn meddiangar, a oedd yn ganlyniad cadarnhaol i berchnogion siopau.

 

Mynegwyd pryder gan drigolion a chynghorwyr ward yngl?n â'r groesfan y tu allan i'r ysgol ar Almond Drive.  A allai'r heddlu ychwanegu hyn at eu patrolau a sicrhau bod swyddogion yr heddlu yn bresennol yn yr ardal yn fwy aml? 

 

Byddai'r Uwch-arolygydd yn codi hyn gyda'r Arolygydd Welty a byddai'n sicrhau bod yr ymdrechion mwyaf posibl ar waith wrth symud ymlaen.

 

Cwestiynau i'r Heddlu a ofynnwyd gan y Cynghorwyr:

 

§  Gofynnodd y Cynghorydd Morris a oedd canllaw pendant ar yr hyn a ganiatawyd ynghylch parcio ar balmentydd. Dywedodd yr Uwch-arolygydd fod y palmant yn rhan o'r briffordd ac os oedd y car ar y palmant ac ar ffordd lle mae llinellau melyn dwbl, yna’r Awdurdod Lleol oedd yn gyfrifol am orfodi cosbau.  Fodd bynnag, pe bai'r cerbyd yn achosi rhwystr neu niwed diangen trwy barcio mewn man peryglus, gallai'r Heddlu ymdrin â hyn.  Roedd yr Uwch-arolygydd yn hapus i drafod yn fanylach y tu allan i'r cyfarfod.

 

§  Talodd y Cynghorydd Al-Nuaimi deyrnged i'r Arolygydd ar gyfer canol y ddinas, Richard Shapland a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ward Stow Hill am y digwyddiadau mewn perthynas â dwyn o siopau a'r achos o atafaelu canabis yn ddiweddar. Roedd yr Arolygydd Shapland hefyd wedi mynd i gyfarfod ward diweddar. Diolchodd yr Uwch-arolygydd i'r Cynghorydd Al-Nuaimi am godi hyn a byddai'n cyfleu ei ddiolch i'r Arolygydd.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd James at ddelio cyffuriau ar Wheeler Street, mynegodd trigolion bryderon ynghylch nodwyddau a ganfuwyd y tu allan i ddrysau ffrynt trigolion.  Dywedodd y Cynghorydd James fod trigolion wedi codi hyn gydag aelodau ward Shaftesbury a'r heddlu ers chwe mis. Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd fod yr Arolygydd Welty wedi dychwelyd i'r ardal honno a fyddai'n cryfhau'r cymorth yn Shaftesbury.  Gwnaeth yr Uwch-arolygydd hefyd annog trigolion i gysylltu â swyddogion cymorth cymunedol lleol ac adrodd am faterion gan fod yr heddlu yn gwerthfawrogi pwysigrwydd gwybodaeth dan arweiniad y gymuned. Dywedodd yr Uwch-arolygydd y byddai'n cysylltu â'r Arolygydd Welty ac y byddai hyn yn cael ei weithredu.

 

§  Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch bod yr Arolygydd Welty yn dod yn ôl i Shaftesbury ac roedd hefyd am ddweud diolch ar ran trigolion. Dywedodd yr Uwch-arolygydd fod canlyniadau cadarnhaol yn cael eu mesur yn ôl perfformiad ac y cysylltir â'r Arolygydd Welty i gysylltu â'r Cynghorydd James.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hourahine fod rhagflaenydd yr Uwch-arolygydd yn sôn am fentrau newydd yn dod i Gasnewydd ynghylch beiciau oddi ar y ffordd. Gofynnodd y Cynghorydd Hourahine a allai'r Uwch-arolygydd ymchwilio i'r hyn y gellid ei wneud yngl?n ag ymateb rhagweithiol gan yr heddlu. Dywedodd yr Uwch-arolygydd mai'r camau pwysicaf oedd atal gwerthu’r beiciau hyn, ac  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Rhybudd o Gynnig: Nodweddion Gwarchodedig ar gyfer Pobl sydd wedi Profiad o Ofal

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol Arweinydd y Cyngor i gyflwyno'r cynnig, gyda'r Cynghorydd Marshall i’w eilio:

 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cydnabod bod y Pwyllgor Addysg Plant a Phobl Ifanc a sefydlwyd gan Senedd Cymru yn argymell bod profiad o fod mewn gofal yn dod yn nodwedd warchodedig yn neddfwriaeth y DU ac yn cefnogi'r Siarter Rhianta Corfforaethol yng Nghymru y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyhoeddi'n ddiweddar gan wahodd sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i ddod yn Rhiant Corfforaethol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru.

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

·         Mae pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu rhwystrau sylweddol sy'n effeithio arnynt drwy gydol eu bywydau.

 

·         Er gwaethaf gwydnwch llawer o bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, nid yw cymdeithas yn ystyried eu hanghenion yn rhy aml.

 

·         Mae pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn aml yn wynebu gwahaniaethu a stigma ar draws tai, iechyd, addysg, perthnasau, cyflogaeth ac yn y system droseddol.

 

·         Gall pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal brofi cymorth anghyson mewn gwahanol ardaloedd daearyddol.

 

·         Fel rhieni corfforaethol, mae gan gynghorwyr gyfrifoldeb ar y cyd am ddarparu'r gofal a'r diogelu gorau posibl i'r plant sy'n derbyn gofal gennym ni fel awdurdod.

 

·         Fel rhieni corfforaethol bydd Cyngor Casnewydd yn ymrwymo i weithredu fel mentoriaid, clywed lleisiau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac ystyried eu hanghenion mewn unrhyw agwedd ar waith y Cyngor.

 

·         Bydd cynghorwyr yn hyrwyddo'r plant yn ein gofal ac yn herio'r agweddau negyddol a'r rhagfarn sy'n bodoli ym mhob agwedd ar gymdeithas.

 

Mae’r Cyngor hwn, felly, yn penderfynu:

 

·         Ei fod yn cydnabod bod pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn gr?p sy'n debygol o wynebu gwahaniaethu.

 

·         Ei fod yn cydnabod bod gan Gyngor Casnewydd ddyletswydd i roi anghenion pobl ddifreintiedig wrth wraidd y gwaith o wneud penderfyniadau drwy gydgynhyrchu a chydweithio.

 

·         Y dylid asesu penderfyniadau, gwasanaethau a pholisïau a wneir ac a fabwysiedir gan y Cyngor yn y dyfodol drwy Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb i gael gwybod am effaith newidiadau ar bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ochr yn ochr â'r rheiny sy'n rhannu nodwedd warchodedig yn ffurfiol.

 

·         Bod y Cyngor, wrth gyflawni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus, yn cynnwys profiad o fod mewn gofal wrth gyhoeddi ac adolygu Amcanion Cydraddoldeb ac yn cyhoeddi gwybodaeth yn flynyddol yn ymwneud â phobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig mewn gwasanaethau a chyflogaeth.

 

·         Galw'n ffurfiol ar bob corff arall i drin profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig tan y gellir ei gyflwyno gan ddeddfwriaeth.

 

·         Bod y Cyngor yn parhau i chwilio’n rhagweithiol am leisiau pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal a gwrando arnynt wrth ddatblygu polisïau newydd yn seiliedig ar eu barn.

 

Cadwodd y Cynghorydd Mudd yr hawl i siarad ar ddiwedd y drafodaeth.

 

Cadwodd y Cynghorydd Marshall yr hawl i siarad ar ddiwedd y drafodaeth.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Davies, er bod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor pdf icon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno'r adroddiad cyntaf a oedd yn manylu ar y Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor ar gyfer 2024-25 a oedd angen cymeradwyaeth y Cyngor.

 

Mae Gostyngiad y Dreth Gyngor yn rhoi gostyngiadau i aelwydydd incwm isel gan leihau'r dreth gyngor y maent yn agored i'w thalu.

 

Yn wahanol i Loegr, mae cynllun Cymru gyfan sy'n cynnig fframwaith ar gyfer asesu ceisiadau ac yn dileu'r loteri cod post a allai ddeillio o gynlluniau unigol.

 

Mae'n rhaid i'r Cyngor gymeradwyo’r cynllun Cymru gyfan, ynghyd â rhai meysydd yn ôl disgresiwn.

 

Mae'r adroddiad heddiw hefyd yn nodi rhai diwygiadau technegol i'r cynllun. Mae'r diwygiadau technegol i'r cynllun yn gymharol fach eu natur ac maent yn ymdrin â didyniadau person annibynnol a chynyddu lwfansau personol yn flynyddol, yn ogystal â rhai newidiadau rheoleiddio technegol fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

Mae meysydd lle mae gan y Cyngor ddisgresiwn wrth weithredu rhai agweddau ar y cynllun sy'n fuddiol i'r Cyngor ac i dderbynwyr y gostyngiad.

 

Pe na bai’r cynllun yn yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu'n ffurfiol, byddai'r meysydd yn ôl disgresiwn yn cael eu colli, a byddai'r cynllun Cymru gyfan safonol diofyn yn berthnasol yn lle hynny.

 

Eiliodd y Cynghorydd Harvey yr adroddiad.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Davies fod gan Gasnewydd un o'r Trethi Cyngor isaf yng Nghymru, fodd bynnag, mae trigolion bob amser a fyddai'n ei chael yn anodd talu am amrywiaeth o resymau. Mae'n bwysig bod y rheiny sy'n derbyn budd-daliadau yn gwneud cais am gymorth.  Mae'r arian a neilltuwyd yn benodol yng nghyllideb y Cyngor yn cefnogi'r unigolion hyn.  Mae hyn hefyd yn berthnasol i'r rheiny sy'n gymwys i gael disgownt fel pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, neu'r rheiny a aseswyd fel rhai sydd â nam meddyliol, gan olygu gostyngiad o 25% mewn taliadau. Mae Gofalwyr Cofrestredig sy'n derbyn Lwfans Gofalwr hefyd yn gymwys. 

 

 

Penderfynwyd:

Bod y Cyngor yn cymeradwyo’n unfrydol y Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor ar gyfer 2024/25 yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 ("y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") wrth arfer ei ddisgresiwn lleol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

7.

Premiymau Treth y Cyngor pdf icon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad nesaf a oedd yn delio â chartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y ddinas a'r posibilrwydd o gyflwyno premiymau Treth Gyngor ar gyfer yr eiddo hyn. Mae galw cynyddol am dai a phrinder tai yn y ddinas â chostau 'ariannol' i'r Cyngor a chostau 'cymdeithasol' o ran effaith hyn ar unigolion a theuluoedd.

 

Yn ogystal â diffyg cyffredinol o ran nifer y tai sydd ar gael, mae gan Gasnewydd nifer fawr barhaus o eiddo gwag: Byddai premiymau Treth Gyngor, pe byddent yn cael eu cyflwyno, yn annog perchnogion i gymryd camau i adfer eu heiddo i’w defnyddio eto.

 

Yn ei gyfarfod ym mis Ionawr ac yn dilyn ymarfer ymgynghori â’r cyhoedd, penderfynodd y Cabinet argymell y dylai'r Cyngor fabwysiadu'r cynnig i gyflwyno premiymau treth gyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y ddinas. Nododd yr adroddiad y cynnig.

 

 

Byddai premiymau treth gyngor, pe byddent yn cael eu cyflwyno, yn golygu bod perchnogion ail gartrefi a'r rheiny a oedd yn gadael eiddo'n wag am fwy na blwyddyn yn gorfod talu treth gyngor ychwanegol.

 

Yr amcan oedd annog perchnogion i gymryd camau i adfer eiddo i’w defnyddio eto.

 

Tra bod llai o ail gartrefi, dylid sicrhau dull gweithredu cyson ar gyfer yr eiddo hyn sy’n cael eu tanddefnyddio.

 

Crynhodd yr adroddiad y gefnogaeth gan y cyhoedd i'r ddau newid hyn fynd rhagddynt fel y nodwyd yn y 470 o ymatebion a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Felly, roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion i fabwysiadu premiymau treth gyngor yng Nghasnewydd, ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

 

Roedd y ddeddfwriaeth yn rhoi rhai eithriadau a oedd yn atal premiwm rhag cael ei godi mewn rhai amgylchiadau. Yn dilyn adborth o'r ymgynghoriad ac i fynd i'r afael â phryderon rhanddeiliaid, argymhellwyd rhai eithriadau 'lleol' cyfyngedig ychwanegol.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§  Roedd gan y Cynghorydd Evans farn gymysg ar yr adroddiad a chyfeiriodd at ffigyrau yn y cynllun corfforaethol fel rhai annigonol.  Er ei fod yn cydnabod bod angen gweithredu radical, mae eiddo gwag yn fater cymhleth na ellir mynd i'r afael ag ef o bosibl dan y dull gweithredu hwn. Er bod eithriadau statudol i dalu premiymau, dylid gweithredu dull mwy pragmatig.  Dim ond 15 ail gartref sydd yng Nghasnewydd ac nid oedd y Cynghorydd Evans yn credu y dylai eu treth gyngor ddyblu ac efallai na fyddai'n werth ei chasglu na mynd ar ei thrywydd. Nid oedd y Cynghorydd Evans yn erbyn cymryd camau rhesymol yn erbyn yr ôl-groniad o eiddo gwag sy'n difetha'r ddinas ond ni allai gefnogi'r newidiadau mewn perthynas ag ail gartrefi ac felly byddai'n ymatal rhag cefnogi'r adroddiad.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at gartrefi gwag y cefnwyd arnynt yng Nghasnewydd a dywedodd y gallai un t? a oedd mewn cyflwr gwael ac yn cael effaith negyddol ym marn cymdogion gael ei ddefnyddio ar gyfer un o’r dros 9,000 o bobl gofrestredig yng Nghasnewydd sydd angen cartrefi fforddiadwy yn ogystal â hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Blynyddol Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol y Cyfarwyddwr Strategol, Trawsnewid a Chorfforaethol i gyflwyno'r adroddiad.

 

Hwn oedd yr Adroddiad Blynyddol cyntaf gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Casnewydd. Roedd yr adroddiad yn edrych ar waith a wnaed gan y Pwyllgor yn y flwyddyn 2022/23 ac roedd yn cynrychioli arfer gorau.

 

Newidiwyd rôl a swyddogaeth y Pwyllgor Archwilio blaenorol o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Creodd hyn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio presennol. Roedd cylch gorchwyl y Pwyllgor yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Mae'r pwyllgor yn cynnwys tri Aelod Lleyg – Mr Gareth Chapman (Cadeirydd), Mr Don Reed (Is-gadeirydd) a Dr Norma Barry, ynghyd â phum Aelod Etholedig, y Cynghorwyr Cocks, Harris, Horton, Jordan, a Mogford.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Strategol i holl Aelodau'r Pwyllgor am eu her a'u hasesiad o drefniadau llywodraethu amrywiol. Mae hyn yn rhan hanfodol o brosesau sicrwydd y Cyngor a dylai gwaith cadarn y Pwyllgor roi lefel o gysur i'r Cyngor ynghylch rheoli rheolaethau ariannol, risg a threfniadau llywodraethu ar y cyd.

 

Crynhodd yr adroddiad y gweithgareddau allweddol a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2022/23.

 

Daeth yr Adroddiad Blynyddol i'r casgliad bod y Pwyllgor wedi gweithredu yn unol â'r gofynion a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chyflawni ei ddyletswyddau deddfwriaethol.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Evans.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§  Gwnaeth y Cynghorydd Cocks fel aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fyfyrio ar drylwyredd archwilio mewnol a swyddogion.  Roedd hefyd yn rhoi golwg aruthrol ar waith y swyddogion yn ystod hinsawdd ariannol anodd a pha mor dda yr oeddent yn darparu gwasanaethau.

 

Penderfynwyd:

§  Derbyniodd y Cyngor fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi cyflawni ei gyfrifoldebau deddfwriaethol a chytunodd ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor.

§  Diolchodd y Cyngor i aelodau'r pwyllgor am eu her gadarn a'u gwaith caled yn ystod y flwyddyn.

9.

Amserlen Cyfarfodydd 2024/25 pdf icon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol yr eitem hon i’r Cynghorwyr gan roi'r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau ar gyfer 2024/25.

 

Penderfynwyd:

Mabwysiadu’r amserlen o gyfarfodydd ar gyfer trefniadau mis Mai 2024 i fis Mai 2025, gan gydnabod ei bod yn agored i newid a diwygio er mwyn bodloni anghenion rhaglenni gwaith pob pwyllgor neu gr?p arall.

 

10.

Enwebiad Maer 2024/25

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelod Llywyddol i'r Arweinydd gyflwyno'r eitem hon ynghylch enwebu’r Maer ar gyfer 2024/25.

 

Cynigiodd yr Arweinydd y Cynghorydd Ray Mogford yn ffurfiol fel y Maer ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2024/25, a eiliwyd gan Arweinydd yr Wrthblaid, y Cynghorydd Matthew Evans.

 

Roedd y Cynghorydd Mogford yn gynghorydd ar gyfer Ward Langstone ers 2012 ac roedd yn eistedd ar nifer o bwyllgorau gan gynnwys Cynllunio, Llywodraethu ac Archwilio ac ar hyn o bryd roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Roedd y Cynghorydd Mogford hefyd ar fwrdd llywodraethwyr Ysgolion Cynradd Langstone a Llanfarthyn.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddymuno'n dda i Ray a Sallie am eu cyfnod yn swyddfa'r Maer ar gyfer 2024/25.

 

Cefnogodd Arweinydd yr Wrthblaid, y Cynghorydd Evans enwebu’r Cynghorydd R Mogford fel y Maer ar gyfer 2024/25.

 

Penderfynwyd:

Cefnogodd y Cyngor enwebu’r Cynghorydd R Mogford fel y Maer.

 

 

11.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn dechrau gyda chwestiynau, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol i'r Cyngor:

 

Cyhoeddiad Tata

 

Ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, gwnaeth Tata ei gyhoeddiad ysgytwol am golli nifer enfawr o swyddi yn ei fusnesau dur yn y DU, yn bennaf yn Port Talbot y mae’r gweithwyr yno’n cynnwys trigolion Casnewydd.

 

Roedd ei ddatganiad hefyd yn sôn am y posibilrwydd o ddileu swyddi yng ngwaith dur Llan-wern yma yn y ddinas.

 

Mae'r Cyngor yn deall y gallai hyd at 300 o swyddi gael eu colli yng ngwaith dur Llan-wern dros y blynyddoedd nesaf ac y bydd 2,500 o bobl yn colli eu swyddi yn Port Talbot. Dyma ergyd ofnadwy arall i ddiwydiant a fu unwaith mor bwysig i economi Casnewydd a De Cymru.

 

Rwy'n si?r ein bod ni i gyd yn meddwl am y gweithwyr hynny, a'u teuluoedd, sydd bellach yn wynebu cyfnod arall o ansicrwydd wrth aros i gael gwybod sut y bydd y cyhoeddiad yn effeithio arnynt.

 

Bydd ein tîm gwaith a sgiliau ar gael i gynnig cyngor a chymorth i’n trigolion sy'n wynebu colli eu swyddi naill ai yn Llan-wern neu Port Talbot pan fo angen.

 

Mannau Cynnes

 

Rwy'n falch o ddweud i gydweithwyr ein bod unwaith eto wedi gallu cefnogi mannau cynnes yng Nghasnewydd y gaeaf hwn.

 

Hyd yma, mae 16 grant wedi'u dyfarnu i sefydliadau ledled y ddinas sy'n cynnig amgylchedd diogel, croesawgar a chyfforddus i drigolion a allai fod yn ei chael yn anodd gwresogi cartrefi neu sydd mewn perygl o gael eu hynysu.

 

Mewn partneriaeth â GAVO, mae mwy na £35,000 eisoes wedi'i roi gan ddefnyddio cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin llywodraeth y DU.

 

Mae'n dilyn llwyddiant cynllun tebyg y llynedd pan roddwyd grantiau i 21 gr?p a gyflwynodd 448 sesiwn, gyda dros 6,300 o bobl yn bresennol.

 

Dyma un o'r ffyrdd rydym yn cefnogi sefydliadau a thrigolion yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus.

 

Mae llawer iawn o waith rhagorol ledled y ddinas gyda chymorth yn cael ei rhoi gan ein staff a'n partneriaid. Mae hyn wedi cynnwys rhoi talebau siopa, aelodaeth Casnewydd Fyw a thocynnau pantomeim i ofalwyr, a chymorth ariannol i fanciau bwyd.

 

Un arall o'r mentrau hynny oedd ystod eang o weithgareddau am ddim i deuluoedd a phlant a gynhaliwyd ledled y ddinas yn ystod gwyliau Nadolig diweddar ysgolion. Ac fel budd ychwanegol, roeddem hefyd yn gallu partneru gyda Bws Casnewydd i gynnig trafnidiaeth am ddim ar gyfer y sesiynau hynny.

 

Casgliadau coed Nadolig

 

Gwnaethom ddechrau'r flwyddyn newydd gyda chynllun positif arall - casglu coed Nadolig go iawn.

 

Roedd trigolion yn gallu trefnu casgliad carreg drws am ddim – cafodd dros 2,000 o gasgliadau eu trefnu, ac mae pob coeden wedi gwneud ei ffordd i'n cyfleuster compostio mewnol i'w thorri’n ddarnau a'i chompostio.

 

Ardaloedd chwarae newydd a gwell

 

Yn gynharach y mis hwn, cefais yr anrhydedd o ymuno â myfyrwyr Heddlu Bach o Ysgol Gynradd Llys Malpas, y Maer a’r Faeres a chydweithwyr yn y Cabinet i nodi cwblhau'r ardal chwarae newydd a gwell yn Darwin Drive ym Malpas.

 

Mae'r  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

        i.           Deputy Leader and Cabinet Member for Education and Early Years

      ii.           Cabinet Member for Community and Wellbeing

     iii.           Cabinet Member for Strategic Planning, Regulation and Housing

    iv.           Cabinet Member for Social Services

      v.           Cabinet Member for Organisational Transformation

    vi.           Cabinet Member for Climate Change and Bio-Diversity

   vii.           Cabinet Member for Infrastructure and Assets

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cwestiwn 1: Yr Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau:

 

Y Cynghorydd Reeks:

Mae cyllideb arfaethedig 2024/2025 yn ceisio codi refeniw drwy gynyddu taliadau ar draws meysydd parcio gan gynnwys maes parcio Canolfan Ffordd y Brenin 9%, a allai atal mwy o siopwyr rhag mynd i ganol y ddinas.

 

Oni fyddai'r Aelod Cabinet yn cytuno â mi, trwy reoli'r maes parcio ei hun yn well, fel peidio â chael y goleuadau'n rhedeg drwy'r nos ac agor y maes parcio ar holl ddiwrnodau gemau Rodney Parade i ddod â mwy o fasnach i'r maes parcio, y gellid codi mwy o refeniw o bosibl, ac na fyddai siopwyr yn cael eu cosbi am ddod â'u masnach i ganol y ddinas?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Lacey:

Mae maes parcio Ffordd y Brenin yn cynnig cyfleuster ardderchog i ymwelwyr â'r ddinas, gan fod yn faes parcio modern yn agos at atyniadau'r Ddinas. Mae'r cyfleuster, sy'n defnyddio goleuadau ynni-effeithlon, yn gweithredu goleuadau lefel argyfwng pan nad yw'r maes parcio yn cael ei ddefnyddio. Ynghyd â'n gwaith arall o leihau allyriadau carbon gweithgareddau'r Cyngor, fel y cynnydd yn ein fflyd cerbydau trydan ein hunain, rydym ar hyn o bryd yn bwrw ymlaen â chynllun i osod system paneli solar ar do Ffordd y Brenin a fydd yn darparu ynni ar gyfer y maes parcio.

 

Mae'r maes parcio fel arfer ar agor bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig a Dydd Calan, gyda’i agor ar Ddydd San Steffan yn cael ei ystyried yn flynyddol. O'r herwydd, byddai unrhyw alw ar ddiwrnodau gemau Rodney Parade yn cael ei ateb ac eithrio ar y ddau ddiwrnod hynny y flwyddyn. Os bydd Ffordd y Brenin ar gau, bydd meysydd parcio eraill y Cyngor ar gael.

 

Cwestiwn 2: Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth

 

Y Cynghorydd Mogford:

O fewn cynllun corfforaethol blaenorol Cyngor Dinas Casnewydd (CDC) (2017-2022) nodwyd "Rydym wedi adfer y rhaglen wastraff a sbwriel "Balchder yng Nghasnewydd" ac wedi sefydlu mentrau dim goddefgarwch ar gyfer tipio anghyfreithlon ledled y ddinas."

 

Mewn ymateb diweddar i'm 'cwestiwn ar unrhyw adeg' ynghylch lefelau pryderus o dipio anghyfreithlon yn y ddinas, nododd yr Aelod Cabinet yn syml "O ran tipio anghyfreithlon mae gan Gasnewydd y gyfradd erlyn llwyddiannus ail uchaf yng Nghymru"

 

Fodd bynnag, os edrychwn yn fanwl ar yr ystadegau ar gyfer y cyfnod blaenorol 2022/2023 (ffynhonnell Llywodraeth Cymru) roedd 5,631 o ymchwiliadau a gynhaliwyd gan CDC a llai na 40 o ddirwyon a roddwyd (dim ond 14 erlyniad a wnaed).

 

A all yr Aelod Cabinet gadarnhau, gan barhau fel rhan o'r cynllun corfforaethol ac yn awr dan ei goruchwyliaeth; bod y weinyddiaeth hon gan CDC wir wedi sefydlu a chynnal dull dim goddefgarwch o ymdrin â thipio anghyfreithlon ac, os felly, pam mae'r Aelod Cabinet yn credu bod y duedd yn parhau’n un sydd ag achosion cynyddol o dipio anghyfreithlon ledled Casnewydd?  

 

Ymateb gan y Cynghorydd Forsey:

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi cynyddu'r adnoddau sydd ar gael i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon, trwy ehangu'r tîm ymgysylltu a  ...  view the full Cofnodion text for item 12.