Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Anne Jenkins Governance Team Leader
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhagofynion i. To receive any apologies for absence. ii. To receive any declarations of interest. iii. To receive any announcements by the Presiding Member. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1.i Ymddiheuriadau
Y Cynghorwyr Reeks, Whitehead, M Howells, P Bright, a M Pimm.
Tua awr cyn dechrau'r cyfarfod, nodwyd nam caledwedd a effeithiodd ar yr offer darlledu yn siambr y cyngor. Er gwaethaf ymdrechion niferus i unioni'r nam a chyfranogiad cyflenwr y system, parhaodd yr offer i fod yn ddiffygiol ar yr amser cychwyn a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod heb unrhyw obaith y byddai'n cael ei atgyweirio ar yr un diwrnod. Cadwyd cworwm yn y cyfarfod yn rhinwedd nifer aelodau'r Cyngor a oedd yn bresennol yn y siambr. Felly, drwy gytundeb yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro, y Prif Weithredwr, yr Arweinydd ac Arweinydd yr Wrthblaid, aeth y cyfarfod yn ei flaen yn absenoldeb yr aelodau hynny a oedd wedi bwriadu ymuno o bell.
Cofnodwyd yr aelodau hynny fel a ganlyn: Y Cynghorwyr Mayer, Routley, Mudd, Jordan, Baker-Westhead, James, D a T Harvey a chydnabuwyd bod yr unigolion hynny wedi bwriadu ymuno â'r cyfarfod ond eu bod wedi eu hatal rhag gwneud hynny oherwydd methiant y system a oedd y tu hwnt i'w rheolaeth.
1.ii Datgan Buddiannau
Dim wedi’u derbyn.
1.iii Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol
Croesawodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Evans yn ôl i gyfarfod y Cyngor ac roedd yn falch o weld ei fod yn teimlo'n well. Estynnodd y Cynghorydd Evans ei ddiolch i bawb ar draws y llawr am eu dymuniadau da.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
To confirm and sign the minutes of the following meetings: 23 April and 21 May 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd diwethaf a gynhaliwyd ar 23 Ebrill a 21 Mai 2024 yn amodol ar y canlynol:
Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 21 Mai - Eitem 5: Teitl yr Aelod Cabinet oedd Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth.
Eiliodd y Cynghorydd Davies gymeradwyaeth y Cofnodion.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
To consider any proposed appointments. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyried y penodiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad
Cynigiodd y Cynghorydd Drewett y penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad, fel y cytunwyd gan y Rheolwyr Busnes fel y nodir isod.
Eiliwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Evans.
Penderfynwyd: Bod y penodiadau canlynol yn cael eu cytuno.
Penodiadau Cyrff Llywodraethu
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Materion yr Heddlu 30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Llywydd Uwch-arolygydd Heddlu Gwent, J White, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cyngor am faterion yr heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.
Pan oedd yr Uwch-arolygydd wedi annerch y Cyngor, gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i annerch yr Uwch-arolygydd White.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Uwch-arolygydd White am ei waith parhaus yn ei rôl a diolchodd i'r tîm a oedd yn amddiffyn trigolion ledled y ddinas.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at e-bost gan breswylydd a oedd yn teimlo nad oedd canol y ddinas yn flaenoriaeth i'r heddlu a gofynnodd a allai’r Uwch-arolygydd White gynnig rhywfaint o sicrwydd i drigolion ar y mater hwn.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd White fod mwy o swyddogion yn ymweld rhwng 5pm a 10pm yn ogystal â swyddogion sifft nos pwrpasol yn gweithio yng nghanol y ddinas. Fe wnaeth swyddogion yr heddlu hefyd ddarparu mwy o bresenoldeb ychwanegol gan yr heddlu pan fydden nhw'n cael eu galw yno i gefnogi arestiad unigolion.
Cwestiynau i'r Heddlu a ofynnwyd gan y Cynghorwyr:
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Morris at 'fechgyn yn rasio' yng Ngorllewin Casnewydd gan achosi problemau ar nos Sul yn arbennig, dywedodd yr Uwch-arolygydd White fod yr Arolygydd Rowlands wedi dweud y bu ymgysylltu cynnar â'r gyrwyr hyn yn werth chweil wrth eu hatal rhag goryrru. Gellid gwneud mwy gydag asiantaethau partner hefyd o ran dull gweithredu, ac roedd yr heddlu yn ceisio mynd i'r afael â hyn.
§ Roedd trigolion wedi cysylltu â'r Cynghorydd Fouweather yngl?n â'u cyn swyddog ar y stryd J Harris a fyddai’n cerdded y strydoedd yn Allt-yr-yn yn rheolaidd. A allai trigolion gael y presenoldeb hwnnw yn ôl, neu gwnstabl arbennig yn gweithio? Cytunodd yr Uwch-arolygydd White mewn egwyddor, ond yn anffodus nid oedd gan dimau plismona y niferoedd staff yr oedd eu hangen i gyflawni pob cais ac felly roedd yn rhaid iddyn nhw fynd lle roedd eu hangen. Roedd timau plismona yn y gymdogaeth yn cynnal mwy o ymgysylltiad yn lle hynny. Bu toriadau staff hefyd ymhlith Swyddogion Diogelwch Cymunedol, felly roedd yr Heddlu yn edrych ar ble roedd angen Swyddogion Diogelwch Cymunedol a swyddogion.
§ Soniodd y Cynghorydd Adan hefyd fod angen swyddogion 'ar y stryd' ym Mhilgwenlli, yn enwedig ar Commercial Road a Dolphin Street oherwydd materion diogelwch cymunedol. Roedd yr adborth a gafodd y Cynghorydd Adan gan fasnachwyr yn yr ardaloedd hynny hefyd yn peri pryder. Yng ngoleuni hyn, gofynnodd y Cynghorydd Adan pa fesurau rhagweithiol yr oedd yr heddlu yn bwriadu eu defnyddio. Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd White fod tîm heddlu Pilgwenlli yn cymryd camau rhagweithiol a'u bod yn gweithio mewn partneriaeth â Safonau Masnach. Roedd Ymgyrch Firecrest wedi bod ar waith i fynd i'r afael â gwerthu tybaco ffug. Cynhaliwyd hyn dros gyfnod o chwe mis gan arwain at gyflwyno gwarantau ac atafaelu gwerth £1.6 miliwn o dybaco ffug. Canmolwyd yr ymdrechion hyn gan Safonau Masnach y DU, fel un o'r cofnodion atafaelu mwyaf. Roedd chwiliadau stopio a chofnodion cudd-wybodaeth ar waith hefyd. Gyda mwy o Swyddogion Diogelwch Cymunedol ym Mhilgwenlli a ... view the full Cofnodion text for item 4. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys - 2023/2024 PDF 433 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad cyntaf, a oedd yn amlinellu'r gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor ar gyfer 2023-2024 a chadarnhaodd fod gweithgareddau'r trysorlys a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn yn cydymffurfio â Strategaeth y Trysorlys a ystyriwyd yn flaenorol ac a osodwyd gan yr Aelodau.
Diben yr adroddiad oedd hysbysu'r Cyngor am weithgareddau'r trysorlys a gynhaliwyd yn y flwyddyn ariannol 2023/24.
Amlinellodd yr adroddiad weithgareddau benthyca a buddsoddi yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys cydymffurfio â’r dangosyddion ariannol y cytunwyd arnynt. Rhoddodd yr adroddiad hefyd ragolwg ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a'r tymor canolig.
Roedd yr adroddiad eisoes wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet, ac nad oedd wedi cael unrhyw sylwadau eraill gan y Cabinet i’r Cyngor eu hystyried.
Yn ystod y flwyddyn, gostyngodd cyfanswm y benthyca o £138.6 miliwn i £137.1 miliwn.
· Roedd y symudiad hwn yn cynnwys ad-dalu benthyciadau Opsiwn Rhoddwr Benthyciadau Opsiwn Benthyciwr gwerth cyfanswm o £15 miliwn, a gafodd eu disodli gan werth £15 miliwn o fenthyca gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. · Talwyd y benthyciadau Opsiwn Rhoddwr Benthyciadau Opsiwn Benthyciwr oherwydd bod y benthyciwr wedi arfer ei opsiwn i gynyddu'r cyfraddau llog a manteisiodd y Cyngor ar y cyfle i adael y trefniant bryd hynny. · Roedd benthyciadau newydd y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus y benthyciadau hirdymor newydd cyntaf i'r Cyngor mewn nifer o flynyddoedd, er mai dim ond i ddisodli benthyciadau hirdymor presennol y cawsant eu trefnu. · Cafwyd cynnydd yn y benthyciadau Salix di-log a ddefnyddiwyd ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni. · Talwyd dau fenthyciad Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus bach ac ad-dalwyd nifer o fenthyciadau Cyfrannau Cyfartal y Prif Swm mewn rhandaliadau dros y flwyddyn.
Gostyngodd y buddsoddiadau o £47.2 miliwn i £13.9 miliwn
· Roedd disgwyl i hyn ddigwydd, gan fod cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio fel y cynlluniwyd a gostyngodd cynnydd y rhaglen gyfalaf gapasiti benthyca mewnol. · O'r balans diwedd blwyddyn, parhaodd £10 miliwn i gael ei ddal mewn bondiau gwarantedig hirdymor, er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cadw ei statws cleientiaid proffesiynol, sy'n golygu y gallai gael mynediad at gyfraddau benthyca gwell.
Nododd yr adroddiad y cydymffurfiwyd â'r holl ddangosyddion darbodus.
Dangosodd y rhagolygon ar gyfer y blynyddoedd nesaf y canlynol:
· Roedd angen sylfaenol i fenthyca yn dod i'r amlwg, wrth i’r rhaglen gyfalaf gael ei chyflwyno, a’r cronfeydd wrth gefn gael eu defnyddio. · Byddai hyn yn fwyaf tebygol o arwain at fenthyca allanol newydd. · Roedd disgwyl hyn a chaniataodd y gyllideb ariannu cyfalaf ar gyfer hynny. · Roedd hefyd angen ailgyllido rhai benthyciadau mawr (tua £20 miliwn) tua diwedd y flwyddyn a chynlluniwyd ar gyfer hyn hefyd. · Roedd risg y gallai fod angen talu’r ORhBOB sy'n weddill, ond y gobaith oedd y gellid cael cyfraddau llog cyfwerth, os nad gwell, ar gyfer unrhyw fenthyciadau newydd a oedd eu hangen. · Byddai swyddogion yn monitro cyfraddau llog yn ofalus, er mwyn sicrhau bod y cyfraddau gorau yn cael eu defnyddio ar gyfer unrhyw fenthyca newydd, mewn cydweithrediad â chynghorwyr allanol y trysorlys.
Eiliodd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol - 2023/24 PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Lacey, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r Adroddiad Diogelu blynyddol, a oedd yn dangos sut y gwnaeth Cyngor Dinas Casnewydd gyflawni ei rwymedigaethau o ran diogelu.
Hwn oedd y seithfed adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at Ddiogelu Corfforaethol ac ymrwymiad Cyngor Dinas Casnewydd i gadw plant ac oedolion mewn perygl mor ddiogel â phosibl.
Dangosodd yr adroddiad yr hyn yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn ei wneud i sicrhau bod yr holl staff yn gwybod ac yn deall sut i nodi ac adrodd unrhyw bryderon diogelu sydd ganddynt.
Roedd y polisi Diogelu Corfforaethol yn ymdrin â holl swyddogaethau a gwasanaethau'r Cyngor ac yn berthnasol i holl weithwyr y Cyngor, aelodau etholedig, gofalwyr maeth, unigolion sy'n ymgymryd â lleoliadau gwaith, gwirfoddolwyr ac unrhyw un sy'n gwneud gwaith ar ran y Cyngor, gan gynnwys unrhyw gontractwyr annibynnol.
Roedd yr adroddiad yn cofnodi y cydymffurfiwyd â gofynion hyfforddiant gorfodol ac yn edrych yn wrthrychol ar sut i wella data adrodd.
Dangosodd yr adroddiad sut roedd diogelu yn ystyriaeth ym mhob maes gwasanaeth. Cynhaliwyd hunanasesiad diogelu gan feysydd gwasanaeth yn flynyddol felly roedd cyfarwyddiaethau yn glir am eu gwybodaeth a'u hymwybyddiaeth o ddiogelu a gallent weithio gyda chymorth i wneud gwelliannau a magu hyder lle bo angen.
Eiliodd y Cynghorydd Marshall yr adroddiad.
Penderfynwyd:
Derbyniodd y Cabinet yr Adroddiad Diogelu Blynyddol gan y Pennaeth Diogelu Corfforaethol.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol - 2023/24 PDF 163 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Lacey, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r adroddiad. Fel yr Aelod Cabinet newydd, diolchodd y Cynghorydd Lacey i'r Cynghorydd Jason Hughes a'r Cynghorydd Stephen Marshall am eu hymrwymiad, eu cyfraniad a'u diwydrwydd dyladwy fel yr Aelodau Cabinet blaenorol.
Rhoddodd adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol drosolwg blynyddol o'r gwaith ar draws Oedolion, Plant ac Atal a Chynhwysiant. Roedd yr astudiaethau achos yn rhoi cipolwg ar y gwaith ar hyd a lled Casnewydd i gefnogi'r dinasyddion mwyaf agored i niwed. Roedd effaith y gwasanaethau yn hanfodol, ac roedd y straeon yn rhoi bywyd i'r data.
Dywedodd y Cynghorydd Lacey ei bod yn braf, er gwaethaf yr heriau a'r pwysau, fod staff yn gallu cyflawni rhagoriaeth a chynnal eu hymrwymiad a'u brwdfrydedd. Roedd dros fil o aelodau staff yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac roedd eu gwaith ymroddedig yn sail i'r gofal a'r gefnogaeth i ddinasyddion.
Ychwanegodd y Cynghorydd Lacey ei bod yn fraint bwrw ymlaen â gwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol gyda'r staff a chroesawodd y cyfle i ddysgu mwy a darparu cymorth dros y flwyddyn i ddod.
Roedd gan y Cyfarwyddwr Strategol, fel y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol dynodedig, ddyletswydd statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i roi adroddiad blynyddol i’r Cyngor.
Roedd yn ofynnol i'r adroddiad nodi asesiad personol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth gyflawni ei swyddogaethau gofal cymdeithasol yn ystod y 12 mis blaenorol.
Roedd yr adroddiad hwn yn ymdrin â'r cyfnod 2023/2024. Cafodd cymysgedd o astudiaethau achos ac enghreifftiau gan staff i ddangos gwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol dderbyniad da y llynedd a defnyddiodd yr adroddiad hwn yr un fformat. Roedd y data i gefnogi'r deunyddiau ansoddol ar gael yn yr atodiadau.
Er gwaethaf problemau a heriau sylweddol 2023/2024, roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn fodlon bod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â'i ddyletswyddau statudol.
Roedd staff y gwasanaethau cymdeithasol yn gallu edrych y tu hwnt i'r gofynion di-baid a pharhau i ddarparu arloesedd, datblygiad parhaus gwasanaethau ac yn wir rhagoriaeth.
Diolchodd y Cynghorydd Lacey i'r holl staff a soniodd hefyd fod Sally Ann Jenkins, Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymddeol a chroesawodd Sally i ddweud ychydig o eiriau am yr adroddiad a gwaith caled ac ymroddiad y swyddogion yn y gwasanaethau cymdeithasol.
Sylwadau gan y Cynghorwyr:
§ Soniodd y Cynghorydd Fouweather y trafodwyd yr adroddiad yn y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Phobl yn ddiweddar, a’i bod yn adrodd stori dda am y gwaith caled a wnaed gan y gwasanaethau cymdeithasol. Adlewyrchodd y Cynghorydd Fouweather mai hwn oedd y portffolio mwyaf heriol a oedd gan Gyngor Dinas Casnewydd. Roedd y Cynghorydd Fouweather yn poeni am lefelau salwch staff a'r cynnydd yn nifer y bobl ifanc a oedd yn mynd i'r ddalfa a gofynnodd am y cymorth y mae pobl ifanc 19+ oed yn ei dderbyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol fod salwch staff yn uchel ond ei fod yn cael sylw ... view the full Cofnodion text for item 7. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Strategaeth Trais Difrifol Gwent PDF 141 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Drewett, Aelod Cabinet dros Gymunedau a Lleihau Tlodi i gyflwyno Asesiad Anghenion Strategol Diogelwch Cymunedol Casnewydd Ddiogelach a chynllun ar gyfer 2024 i 2029.
Roedd gan Gyngor Dinas Casnewydd gyfrifoldeb o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn (1998) i lunio a gweithredu cynllun i leihau trosedd ac anhrefn yn yr ardal drwy’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol leol, Casnewydd Ddiogelach.
Roedd y bartneriaeth bwysig hon yn cynnwys Heddlu Gwent a phartneriaid perthnasol eraill a chefnogodd ddull amlasiantaethol o ymdrin â phroblemau cymhleth.
Roedd rhan o'r cyfrifoldeb partneriaeth yn cynnwys cynnal Asesiad Anghenion Strategol ar gyfer Diogelwch Cymunedol. Prif nod yr asesiad hwn oedd nodi'r achosion, patrymau a materion diogelwch cymunedol sylweddol, megis Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trais Difrifol, Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Roedd yr Asesiad Anghenion Strategol a gyflwynwyd gyda'r adroddiad yn werthusiad o'r darlun cyfredol o ddiogelwch cymunedol yng Nghasnewydd, yn seiliedig ar ddata meintiol gan amrywiol asiantaethau a mewnwelediadau ansoddol gan ddinasyddion a phartneriaid.
Cafodd hyn ei ystyried yn flaenorol gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad; Partneriaethau, ac roedd eu sylwadau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Argymhellwyd hyn yn llwyddiannus gan y Cabinet i'r Cyngor i'w fabwysiadu'n ffurfiol.
Cafodd y dogfennau hyn eu hystyried gan y bartneriaeth a’u hargymell hefyd gan y Cabinet i'w mabwysiadu gan y Cyngor Llawn.
Eiliwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Davies.
Sylwadau gan y Cynghorwyr:
§ Soniodd y Cynghorydd D Davies fod yr asesiad manwl a'r data yn dangos lefelau uchel o droseddu ond ei bod yn galonogol bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn y ddinas. Credai'r Cynghorydd D Davies ei bod yn bwysig nodi bod hyn o ganlyniad i ddull amlasiantaethol. Byddai hyn yn helpu i ddarparu dull wedi'i dargedu sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at ymddygiad gwrthgymdeithasol a chanlyniadau'r arolwg bysiau a wi-fi yn yr ystyr bod pobl yn teimlo y gallent fod yn ddioddefwr trosedd yng Nghasnewydd, a oedd yn peri pryder. Roedd trigolion wedi blino ar esgusodion ac yn dymuno camau gweithredu pendant ac felly'n gobeithio y byddai'r dull hwn yn rhoi’r ddinas yn ôl ar y trywydd iawn.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Adan at y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus oedd ar fin cael ei adolygu, a byddai hyn yn cael ei gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ac ychwanegodd fod y Cynghorydd Drewett yn gweithio o fewn y gymuned ac y dylid rhoi amser iddo wneud argraff ar drigolion Casnewydd.
§ Cefnogodd y Cynghorydd Al-Nuaimi yr adroddiad yn llawn ond nododd fod diogelwch menywod a merched o'r pwys mwyaf ac y dylai goleuadau stryd yn y ddinas aros ymlaen er eu diogelwch nhw.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Fouweather at asiantaethau cyffuriau a oedd yn darparu methadon yng Nghasnewydd gan ei fod yn teimlo y gallai hyn fod yn ffactor o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dywedodd y Cynghorydd Fouweather nad oedd pobl yn teimlo'n ddiogel ar ôl 4pm a bod angen ystyried troseddwyr a throsedd yng Nghasnewydd. Roedd canol y ddinas yn lle gwych ond roedd angen iddo fod ... view the full Cofnodion text for item 8. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Strategaeth Trais Difrifol Gwent PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Drewett, Aelod Cabinet dros Gymunedau a Lleihau Tlodi i gyflwyno Asesiad Anghenion Strategol a Strategaeth Dyletswydd Trais Difrifol.
Daeth y Ddyletswydd Trais Difrifol yn gyfraith ledled Cymru a Lloegr ddiwedd mis Ionawr 2023 a gosododd ofyniad gorfodol ar awdurdodau lleol i weithio gydag 'awdurdodau penodedig' eraill i ddatblygu cynllun a strategaeth i leihau ac atal trais difrifol.
Nodwyd bod datblygu'r Asesiad Anghenion Strategol a’r Strategaeth wedi’u cynnal mewn cydweithrediad â phartneriaid ledled Gwent, fodd bynnag, roedd y ddyletswydd yn berthnasol i Gyngor Dinas Casnewydd.
Y pedair blaenoriaeth strategol a nodwyd i gyflawni'r weledigaeth 'i greu Gwent Heb Drais' oedd:
· Gwell defnydd o ddata i lywio gweithredu · Blaenoriaethu mynd i'r afael â'r ffactorau risg ar gyfer trais gydag ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth · Cysylltu’r dotiau i ddeall yn well a sicrhau'r effaith fwyaf · Mabwysiadu dull seiliedig ar le a oedd yn defnyddio profiad lleol, yn gwrando ar leisiau cymunedol ac yn cael ei gryfhau drwy lywodraethu rhanbarthol
Yng Nghasnewydd, cafodd canfyddiadau'r asesiad a'r pedair blaenoriaeth eu hymgorffori yng Nghynllun Diogelwch Cymunedol Casnewydd Ddiogelach, sydd ar agenda heddiw hefyd.
Cafodd y ddwy ddogfen eu hystyried gan y pwyllgor craffu partneriaethau, ac roedd eu sylwadau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Hwn oedd yr asesiad anghenion strategol a’r strategaeth gyntaf ar gyfer Gwent cyfan, a diolchodd y Cynghorydd Drewett i'r holl bartneriaid a gymerodd ran am eu gwaith ar hyn.
Roedd nod y strategaeth o greu 'Gwent Heb Drais' yn un y gallai pawb ei gefnogi.
Eiliwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd.
Sylwadau gan y Cynghorwyr:
§ Ychwanegodd yr Arweinydd y gallai canfyddiad amrywio'n sylweddol o'r data caled, fel y crybwyllwyd yn yr eitem flaenorol. Felly, roedd yr Arweinydd yn dymuno symud i le o ddefnyddio data sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gallu dwyn y cyngor i gyfrif gyda ffeithiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Penderfynwyd: Cymeradwyodd a mabwysiadodd y Cyngor yr Asesiad Anghenion Strategol Dyletswydd Trais Difrifol drafft a'r Strategaeth Trais Difrifol sydd ynghlwm i'r adroddiad hwn.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.
Process: No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.
The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyn dechrau’r cwestiynau, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol i'r Cyngor:
Microsoft i greu 120 o swyddi pan fydd yn agor canolfan ddata newydd yn Celtic Way, safle hen ffatri Quinn Radiators, yn ogystal â chreu swyddi adeiladu yn ystod y gwaith datblygu.
Mae canolfannau data yn darparu'r seilwaith ffisegol ar gyfer y dechnoleg rydym yn dibynnu arni yn y gwaith ac yn ein bywydau personol. Pryd bynnag y byddwch yn agor ap ar eich ffôn, yn ymuno â dosbarth neu gyfarfod rhithwir, yn tynnu ac yn cadw lluniau, neu’n chwarae gêm gyda'ch ffrindiau ar-lein, rydych yn defnyddio canolfan ddata.
Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn ein dinas gan arweinydd yn y diwydiannau technoleg byd-eang.
Lansiwyd rhaglen haf y gwasanaeth ieuenctid a chwarae ac roedd sesiynau am ddim ar gael i'w harchebu ar-lein.
Roedd amrywiaeth enfawr o weithgareddau gan gynnwys hwyl dan do ac yn yr awyr agored, sgiliau syrcas, sesiynau coginio a chrochenwaith, number tots a mwy.
Bydd y rhai sy’n mynychu yn cael cludiant am ddim i’r digwyddiad ar Fws Casnewydd drwy ddangos eu tocyn Eventbrite i'r gyrrwr.
Roedd mwy o ddigwyddiadau yn y llyfrgelloedd hefyd, gan gynnwys sialens ddarllen yr haf - a’r thema eleni yw "Crefftwyr Campus".
Digwyddiad yr haf ar y llong
Bydd Ffair Haf Ganoloesol flynyddol Canolfan y Llong yn dychwelyd ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf rhwng 10am a 4pm.
O weithdai crefft ac arddangosiadau i weithgareddau teuluol, bydd llawer i'w weld a'i wneud drwy gydol y dydd, ac mae mynediad am ddim.
Mae Canolfan y Llong ar agor ar ddydd Gwener ac ar ddydd Sadwrn rhwng 10am a 4pm tan ddydd Sadwrn 2 Tachwedd.
Mae G?yl Sblash Mawr yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn a dydd Sul. Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim gyda gweithgareddau i bobl o bob oedran.
Mae’r ?yl yn cynnwys première o Daydreams and Jellybeans Ballet Cymru, Syrcas Fach, Beirdd ar y Bws, cerddoriaeth fyw, Xtreme Gaming, Big Mac's Wholly Soul Band, adloniant stryd a mwy.
Wal Graffiti
Mae ail wal graffiti bwrpasol wedi ei hagor yng Nghasnewydd.
Mae'r lle yng Nglanfa Jac, ar hyd glan yr afon ym Mhilgwenlli, yn rhoi lle i artistiaid arddangos eu gwaith, wrth ddod ag ychydig o liw i'r ardal, ac yn lleihau lefel y graffiti mewn ardaloedd anawdurdodedig.
Fe'i sefydlwyd fel rhan o brosiect a arweinir gan y cyngor, gan weithio mewn partneriaeth â Heddlu Gwent a chadetiaid gwirfoddol yr heddlu, a helpodd i glirio'r wal yn barod i'w hagor, a Chartrefi Dinas Casnewydd, sydd, yn garedig, wedi rhoi'r wal i'r prosiect.
Mae hyn yn dilyn llwyddiant ein wal graffiti gyntaf ym mharc Glebelands a agorodd y llynedd.
Newport City Radio DAB
Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus i Newport City Radio.
Mae ein gorsaf radio gymunedol yn symud i safle newydd sbon yng Nghanolfan Kingsway gyda'i agoriad mawreddog heddiw – a'r symud hynod gyffrous i Ddarlledu Sain Digidol.
Rydym yn dymuno pob lwc i'r orsaf a'i holl wirfoddolwyr anhygoel.
Cwestiynau’r Arweinydd ... view the full Cofnodion text for item 10. |