Agenda and minutes

Cyngor - Dydd Mawrth, 22ain Tachwedd, 2022 5.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

        i.           To receive any apologies for absence.

      ii.           To receive any declarations of interest.

     iii.           To receive any announcements by the Presiding Member.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.i Ymddiheuriadau

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

1.ii Datgan Buddiant

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.

 

1.iii Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol

Dywedodd yr Aelod Llywyddol mai dyma oedd cyfarfod olaf Gareth Price, Swyddog Monitro. 

 

Achubodd yr Arweinydd, y Cynghorwyr Evans, Whitehead, Jordan, Morris ac Al-Nuaimi oll ar y cyfle i ddweud ychydig eiriau personol o ddiolch wrth Gareth am ei waith caled a'i gefnogaeth dros ei 39 o flynyddoedd yn gweithio i'r Cyngor, gan ddymuno ymddeoliad hir a hapus iddo.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr hefyd i Gareth am ei waith rhagorol a'i gryfder a'i gefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Ategodd yr Aelod Llywyddol hefyd sylwadau'r cydweithwyr.  Byddai drws Gareth bob amser ar agor.  Mynegodd yr Aelod Llywyddol hefyd ddiolch i Gareth am ei gefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.

 

Mynegodd Gareth Price hefyd ychydig o eiriau o ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 151 KB

To confirm and sign the minutes of the last meeting.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnodion 27 Medi 2022, yn amodol ar y canlynol:

 

Roedd y Cynghorydd Lauren James wedi'i nodi'n bresennol, ond roedd hi wedi gyrru ymddiheuriad.

Dylai Eitem 3, Penodi Cynghorwyr, fod wedi cyfeirio at y Cynghorydd Clarke yn hytrach na'r Cynghorydd James.

3.

Penodiadau pdf icon PDF 93 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Clarke y penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad, fel y cytunwyd gan y Rheolwyr Busnes, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol a nodir isod.

Eiliwyd y penodiadau gan y Cynghorydd Fouweather a'u rhoi i bleidlais.

 

Penderfynwyd: Cytuno ar y penodiadau a nodir yn yr adroddiad i'r Cyngor, ynghyd â'r penodiadau ychwanegol a ganlyn.

 

CorffLlywodraethol

Nifer y Lleoedd Gwag / Ailbenodiadau

Enwebiadau a Gafwyd

Ysgol Uwchradd Llanwern

Ailbenodi

Mark Spencer

Ysgol Sain Silian

Ailbenodi

Deborah Davies

Ysgol Sain Silian

Ailbenodi

Tracy McKim

Ysgol Sain Silian

Ailbenodi

Phillip Hourahine

Ysgol Gynradd Glan Wysg

Newydd

Paul Bright

Ysgol Gynradd Pillgwenlli

Newydd

Saeed Adan

 

4.

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

wybodaethddiweddaraf i aelodau’r cyngor am faterion yr Heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.

 

Gofynnodd yr Aelod Llywyddol i'r Arweinydd ofyn cwestiwn i'r Prif Arolygydd Lawton.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Prif Arolygydd am gefnogaeth a gafwyd gan yr Heddlu ar gyfer y digwyddiadau a gynhaliwyd gan y Cyngor, fel yr ?yl Fwyd, Sul y Cofio a dathliad goleuadau'r Nadolig.

 

Ar ran aelodau'r ward a'r trigolion, diolchodd yr Arweinydd i'r Prif Arolygydd am bresenoldeb parhaus yr Heddlu yn Ward Malpas, yn arbennig, o amgylch Ffordd Pillmawr dros yr wythnos ddiwethaf.

 

Cwestiynau i’r Heddlu a godwyd gan y Cynghorwyr:

 

§  Gofynnodd y Cynghorydd Morris a oedd unrhyw newyddion ynghylch canllawiau gan Senedd y Deyrnas Unedig ar feiciau trydan  Wrth i'r Nadolig nesáu, roedd ymgyrch diogelwch lleol yn cael ei lansio i annog rhieni i brynu cyfarpar diogelwch a llyfr cod y ffordd fawr wrth brynu e-feic er mwyn diogelu plant ifanc.  Roedd y Cynghorydd Morris a chydweithwyr y ward wedi cyfarfod â Jessica Morden, AS y DU a'r Heddlu.  Dywedodd y Prif Arolygydd fod yr Heddlu yn dal i ddisgwyl am wybodaeth.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at y ffaith bod Ceiswyr Lloches a ffoaduriaid yn cael eu lleoli yng Nghasnewydd heb i'r heddlu gael gwybod am hynny.  Gan nad oedd hyn yn peri problem yn achos y rhan fwyaf o leoliadau, ond gallai pobl â chefndiroedd troseddol fod yn cael eu lleoli yn y ddinas.  A allai'r Heddlu wneud unrhyw beth i unioni hyn? Dywedodd y Prif Arolygydd fod yr Heddlu, yn ogystal â'r Awdurdod Lleol, yn cael gwybod gan y Swyddfa Gartref os oedd unrhyw droseddwr yn cael ei leoli yma. Roedd yr Heddlu yn dibynnu ar y Swyddfa Gartref i dderbyn yr wybodaeth hon.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Cleverly at y tanau diweddar yn ardal Betws.  Roedd un digwyddiad yn cynnwys perchennog siop sglodion lleol, lle cafodd ei gar danfon ei roi ar dân, a digwyddiad arall yn cynnwys preswylydd yn Lambourne Hill, lle cafodd ei gar ef hefyd ei roi ar dân. Nid oedd y Prif Arolygydd yn gwybod am hyn, a byddai'n ymchwilio i'r digwyddiadau ac yn adrodd yn ôl wrth y Cynghorydd Cleverly.

 

§  Mynegodd y Cynghorydd Harvey ddiolch i'r Prif Arolygydd ar ran cydweithwyr a phreswylwyr ward Alway am y mentrau strydoedd diogelach.  Darparwyd larymau ffenestr a marciau d?r diogel, a groesawyd gan y preswylwyr. Pan gyflwynwyd y cynnig, dywedodd y Prif Arolygydd mai dyna oedd o swm mwyaf o arian yr oeddent wedi'i dderbyn gan y Swyddfa Gartref. Rhan o'r fenter hefyd oedd ymchwilio i'r achosion wrth wraidd ymddygiad gwrthgymdeithasol a dioddefwyr troseddau.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Whitehead am adroddiad diweddar y Ward, a'i fod wedi sylwi ar gynnydd sydyn mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig yn ardal siopa Betws. Roedd yr heddlu wedi addo patrolau, ond nid  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cynllyn Corfforaethol pdf icon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelod Llywyddol i'r Arweinydd gyflwyno a chynnig yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

Yn rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, roedd yn ofynnol i Gyngor Casnewydd ddatblygu mewn modd cynaliadwy i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. 

 

Roedd hi'n ddyletswydd ar y Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol ac anstatudol i gefnogi dinasyddion, busnesau a rhanddeiliaid.   Roedd y Cynllun hwn yn rhoi'r flaenoriaeth i ffocws strategol hirdymor y Cyngor ac yn bodloni gofynion y Ddeddf Llesiant.

 

Cafodd Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor (2022-27) ei ddatblygu drwy gyfres o weithdai rhwng uwch swyddogion ac Aelodau Cabinet y Cyngor.

 

Roedd y Cynllun hwn hefyd yn ystyried y cyfleoedd a'r risgiau byrdymor a hirdymor i'r Cyngor, ei breswylwyr, ei economi a'r amgylchedd. 

 

Wrth ddatblygu'r Cynllun, roedd y Cyngor wedi ymgynghori â phreswylwyr ar themâu'r Amcan Llesiant, ac fe groesawyd y themâu hynny. 

 

Dros y pum mlynedd nesaf, datganiad cenhadaeth Cyngor Casnewydd fyddai gweithio i sicrhau 'Casnewydd uchelgeisiol, decach a gwyrddach i bawb.'

 

I gefnogi’r nod hwn, byddai pedwar Amcan Llesiant yn cael eu gosod i gyflawni’r blaenoriaethau strategol hyn:

 

1.    Yr Economi, Addysg a Sgiliau - Mae Casnewydd yn ddinas sy'n ffynnu ac yn tyfu, sy'n cynnig addysg ardderchog ac yn anelu i gynnig cyfleoedd i bawb.

2.    Yr Amgylchedd a Seilwaith – Mae Casnewydd yn ddinas sy’n ceisio gwarchod a gwella ein hamgylchedd gan leihau ein hôl troed carbon a pharatoi am ddyfodol cynaliadwy a digidol.

3.    Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cymunedol o Safon - Mae Casnewydd yn ddinas gefnogol lle mae cymunedau a gofal wrth galon yr hyn a wnawn.

4.    Cyngor Cynhwysol, Teg a Chynaliadwy - Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn sefydliad cynhwysol sy'n rhoi lle creiddiol i werth cymdeithasol, tegwch a chynaliadwyedd

 

Byddai'r pum mlynedd nesaf yn heriol wrth inni gydbwyso Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a chyflawni ein blaenoriaethau strategol ar yr un pryd.  Byddai angen i'r Cyngor wneud penderfyniadau arloesol a thrawsnewidiol, ac mae'n rhaid cydnabod nad yw Cyngor Dinas Casnewydd yn gallu cyflawni'r amcanion hyn ar ei ben ei hun. Dyma pam y cadwyd at egwyddorion allweddol drwy gydol y broses o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol:

 

·         Teg a Chynhwysol - Byddwn yn gweithio i greu cyfleoedd tecach, i leihau anghydraddoldeb yn ein cymunedau, ac i annog ymdeimlad o berthyn.

·         Grymuso - Byddwn yn gweithio gyda chymunedau, grwpiau a phartneriaid ac yn eu cefnogi i ffynnu.

·         Cyngor sy'n gwrando - Bydd barn cymunedau, defnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid yn llywio’r gwasanaethau a ddarparwn a’r lleoedd yr ydych yn byw ynddynt.

·         Canolbwyntio ar y Dinesydd - Bydd pawb sy’n gweithio ac yn cynrychioli Cyngor Dinas Casnewydd yn rhoi’r dinesydd yn gyntaf, gan ganolbwyntio ar werthoedd creiddiol ein sefydliad.

 

Byddai'r Cynllun Corfforaethol hefyd yn cael ei danategu gan raglenni a phrosiectau allweddol gyda'r nod o wella economi a chymunedau Casnewydd a darparu gwasanaethau'r Cyngor.

Byddai pob un o feysydd gwasanaeth y Cyngor yn datblygu cynllun gwasanaeth a fyddai'n amlinellu ei flaenoriaethau strategol ei hun i gefnogi cyflawni Cynllun Corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd a gwella gwasanaethau'r Cyngor yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol pdf icon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelod Llywyddol i'r Arweinydd gyflwyno'r eitem nesaf, sef Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar y cynnydd yn erbyn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad.  O dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) roedd yn ofynnol i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar ei gynnydd yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol a geir yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol.

 

Datblygwyd Amcanion Cydraddoldeb Cyngor Casnewydd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol a buont yn destun ymgysylltu helaeth â'r gymuned.

 

Cafodd yr Adroddiad Blynyddol hwn ar Gydraddoldeb Strategol ei adolygu gan Bwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu a Chabinet y Cyngor, ac roedd eu sylwadau wedi'u cynnwys yn yr adroddiad terfynol.

 

Roedd effaith y pandemig yn parhau i achosi heriau wrth gyflawni yn erbyn rhai meysydd gwaith yn 2021/22, ond roedd gwaith cydraddoldeb Casnewydd yn parhau i fod yn hyblyg, gan ymateb i heriau a oedd yn dod i'r amlwg, yn enwedig yn gysylltiedig â mynediad at wybodaeth, addysg a mynd i'r afael â throseddau casineb.

 

Rhoddodd yr Arweinydd uchafbwyntiau o'r flwyddyn ddiwethaf i'w gydweithwyr yn y Cyngor, gan gynnwys yr hyfforddiant Arweinyddiaeth Gynhwysol a gwblhawyd gan bron 300 o Uwch Arweinwyr a Rheolwyr a phenodiad diweddar yr Arweinydd fel Llefarydd CLlLC dros Gydraddoldeb, Mudo ac Atal Tlodi.

 

Roedd dyddiadau arwyddocaol, fel Mis Hanes LGBT+, Ramadan, Diwrnod Cofio'r Holocost, Mis Pride, Wythnos Ffoaduriaid, Diwrnod Windrush, Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Mis Hanes Pobl Ddu ac Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb oll yn cael eu cydnabod a'u hyrwyddo ar draws y ddinas.

Roedd Asesiadau Effaith Tegwch a Chydraddoldeb, gan gynnwys y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn erbyn polisi/penderfyniadau, yn cael eu cynnal yn barhaus yn erbyn ystod o benderfyniadau.  Cyfeiriwyd at ein harfer da yn ddiweddar mewn adroddiad cenedlaethol gan Archwilio Cymru.

 

Dosbarthwyd £415,000 i 79 o brosiectau cymunedol, a oruchwyliwyd gan gr?p llywio cymunedol cynrychioliadol, gan gydweithio'n agos â Chomisiwn Tegwch Casnewydd.

 

Roedd rhwydweithiau staff ar gyfer staff anabl, LGBTQ+ a lleiafrifol ethnig yn parhau i gynnig llwyfan i staff o grwpiau wedi'u tangynrychioli gael dylanwadu ar bolisi'r gweithlu, darpariaeth gwasanaeth a phenderfyniadau strategol.

 

Yn sgil y gefnogaeth sylweddol a roddwyd i Ddinasyddion yr UE yng Nghasnewydd, bu modd i breswylwyr cymwys gyflwyno ceisiadau hwyr i Gynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE ar ôl y dyddiad cau.

 

Cyflwynwyd sesiynau ymwybyddiaeth i aelodau uwch o staff gwasanaethau cwsmeriaid ar Gydraddoldeb, Troseddau Casineb a Chynllun Preswylion Sefydlog yr UE.

 

Paratoi ysgolion am ofynion y Cod Addysg Statudol Cydberthynas a Rhywioldeb.

 

Yn ystod y flwyddyn cafodd dros 2,665 o bobl gefnogaeth drwy gynlluniau cymorth lle bo'r angen i gael mynediad at lety a chadw llety, gan gynnwys oedolion ag anableddau dysgu a ffoaduriaid.

 

Arhosodd cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig y cyngor yn debyg eleni er gwaethaf cynnydd bach yn nifer y staff, ac roedd ein bwlch rhwng cyflogau'r rhywiau wedi gostwng dros  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Blynyddol Cynllun Newid Hinsawdd pdf icon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnoddyr Aelod Llywyddol i'r Arweinydd gyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor, sef yr adroddiad blynyddol rhagarweiniol ar gyfer ein Cynllun Newid Hinsawdd.

 

Fel sefydliad sy’n gyfrifol yn fyd-eang, datganodd y Cyngor argyfwng ecolegol a hinsawdd fis Tachwedd diwethaf a dywedodd y byddai’r Cyngor yn: 

 

§  Datblygucynllun Sefydliadol clir ar gyfer y Newid Hinsawdd, mewn ymgynghoriad â dinasyddion, ar gyfer y pum mlynedd nesaf a fyddai'n nodi'r camau gweithredu ar gyfer cyflawni hynny.

§  Ym mis Mawrth eleni cytunodd y Cyngor ar y Cynllun Newid Hinsawdd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.  Roedd y cynllun hwn yn esbonio sut y byddem:

Yn gostwng allyriadau carbon y cyngor i sero net erbyn 2030

ac

Yn adolygu'r gwasanaethau yr oedd y cyngor yn eu darparu i sicrhau ei fod yn cefnogi taith y ddinas  tuag at garbon sero net a hefyd wrth ymaddasu i effeithiau'r newid hinsawdd.

 

Roedd y cynllun yn weithredol o 2022-2027, ac adroddiad rhagarweiniol oedd hwn a esboniai ein sefyllfa ar ddechrau'r cynllun ac a fanylai ar rai o'r prosiectau pwysig a oedd eisoes ar y gweill.

 

Roedd y cynllun yn ddogfen allweddol i'r Cyngor ac erbyn hyn yn pennu ein trywydd fel sefydliad er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a'u heffeithiau. 

 

Cynigioddyr Arweinydd y dylid derbyn yr adroddiad a gofynnodd i'r Aelod Llywyddol a allai'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth eilio'r cynnig a dweud ychydig eiriau.

 

Eiliodd y Cynghorydd Forsey y cynnig a dweud wrth ei gydweithwyr fod y Cyngor eisoes wedi cyflwyno gostwng allyriadau carbon i raddau sylweddol, gan ragori ar y targedau a osodwyd yn y Cynllun Rheoli Carbon.  Roedd y Cynghorydd Forsey yn edrych ymlaen i weld gostyngiadau pellach wrth inni barhau i ôl-osod adeiladau cyngor, a sicrhau cynnydd pellach yn nifer y cerbydau trydan o fewn ein fflyd.

 

Er hynny, roedd llawer mwy i'w wneud o hyd fel sefydliad i liniaru ac ymaddasu i'r argyfyngau natur a hinsawdd, ac roedd ein Cynllun Newid Hinsawdd yn ein gosod ar y trywydd iawn ar gyfer y daith honno, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu ar ran cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol.

 

Fel Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y newid hinsawdd a bioamrywiaeth, roedd y Cynghorydd Forsey yn falch o weld yr adroddiad rhagarweiniol cadarnhaol hwn, a byddai'n monitro cynnydd y cynllun yn agos ac yn gofyn am ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd i sicrhau ein bod yn parhau i fwrw ymlaen ar y cyflymder angenrheidiol.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§  Argymhellodd y Cynghorydd Davies y dylai'r cynghorwyr wylio'r animeiddiad drwy glicio ar ddolen ar glawr yr adroddiad.  Roedd y Cynghorydd Davies yn falch fod ysgolion wedi'u cloi i mewn i'r cynllun hwn. Roedd Basaleg yn cael ei chodi ar ffurf ysgol niwtral o ran carbon, ac roedd ffocws hefyd ar ôl-osod, fel y gwelwyd eisoes yn Ysgol Feithrin Kimberley - Ysgol Bryn Derw  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol i Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gyflwyno’r adroddiad.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Fouweather Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2021/22 i’r Cyngor.

 

Roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor roi adroddiad blynyddol i'r Cyngor ar y gwaith yr oedd wedi'i gyflawni dros y 12 mis diwethaf ac ar ei flaenraglen waith.

 

Roedd yr adroddiad blynyddol yn trafod y cyfnod o fis Tachwedd 2021 hyd fis Tachwedd 2022.  Roedd y Pwyllgor yn gr?p gwleidyddol gytbwys a oedd yn cydweithio mewn ffordd amhleidiol i ystyried agweddau amrywiol ar y Cyfansoddiad, a materion eraill a oedd yn effeithio ar drefniadau llywodraethu'r Cyngor.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Fouweather y dylid derbyn yr Adroddiad Blynyddol, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Stowell-Corten.

 

Penderfynwyd:

Bod y Cyngor yn cytuno ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor er mwyn bodloni gofynion y

Mesur Llywodraeth Leol.

9.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Fel Aelod o’r Pwyllgor Safonau, cyflwynodd yr Aelod Llywyddol yr adroddiad i’r Cyngor.

 

Roedd y Cynghorydd Cockeram yn falch o gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2021/22 y Pwyllgor Safonau i'r Cyngor.

 

Dyma oedd nawfed adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau, ac roedd yn trafod y cyfnod o fis Tachwedd 2021 hyd fis Tachwedd 2022, ac yn dilyn ymlaen o'r adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Cyngor ym mis Tachwedd 2021.

 

Yn flaenorol, roedd yr Adroddiad Blynyddol hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar sail wirfoddol.  Fodd bynnag, ers mis Mai 2022, roedd hi bellach yn ofyniad statudol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i'r Pwyllgor Safonau gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cyngor. Yn ogystal â hynny, roedd yr Adroddiad Blynyddol statudol hwn yn cynnwys asesiad o'r graddau yr oedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol ar y Cyngor wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau newydd i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad o fewn eu grwpiau.

 

Mae'r Pwyllgor wedi cyfarfod bum gwaith dros y deuddeg mis diwethaf. Roedd cyfarfodydd cynharaf y Pwyllgor wedi cael eu cynnal o bell ond, ers mis Mai 2022, roedd y cyfarfodydd wedi cael eu cynnal ar sail "hybrid", gyda rhai aelodau'n bresennol yn gorfforol ac eraill yn ymuno o bell. 

 

Y llynedd, galwyd ar y Pwyllgor Safonau am y tro cyntaf i gynnal gwrandawiad ynghylch achos o gamymddwyn ac i orfodi cosb ar aelod etholedig. Eleni, roedd yn braf cael adrodd na chafodd, unwaith eto, unrhyw gwynion difrifol am gamymddwyn eu cyfeirio i sylw'r Pwyllgor Safonau gan yr Ombwdsmon dros y 12 mis diwethaf, ac na chafodd unrhyw gwynion eu cyfeirio i'w penderfynu gan y Pwyllgor o dan Gam 3 y Protocol Datrysiadau Lleol yn ystod 2021/22.

 

Roedd yr Adroddiad yn cadarnhau bod chwe chwyn wedi'u cyfeirio i sylw'r Ombwdsmon ynghylch Cynghorwyr y Ddinas dros y 12 mis diwethaf, ac y gwnaed pum cwyn dros y cyfnod hwn ynghylch cynghorwyr cymuned. Wrth gyflwyno'r adroddiad blynyddol hwn i'r Cyngor, dim ond un g?yn a oedd heb ei datrys ac ni chafodd yr un o'r 10 cwyn arall eu derbyn ar gyfer ymchwiliad.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi cyfarfod ag arweinwyr y grwpiau yn gynharach yn y mis, ac roedd yn falch â lefel yr ymrwymiad a ddangoswyd a lefelau cyffredinol yr hyfforddiant yr oedd Cynghorwyr wedi'i dderbyn. Er hynny, byddai'n fuddiol cynnal sesiynau hyfforddi pellach ar y Cod Ymddygiad i'r Cynghorwyr hynny nad oeddent wedi gallu bod yn bresennol yn yr hyfforddiant cynefino ar 16 Mai. Nid oedd hi'n ymddangos bod unrhyw broblemau o bwys o ran safonau ymddygiad na chwynion yr oedd angen mynd i'r afael â nhw.

 

Roedd yr Adroddiad Blynyddol hefyd yn cynnwys blaenraglen waith ddrafft ar gyfer y 12 mis nesaf.  Byddai'r gofynion hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr y Ddinas, cynghorau cymuned a'u clercod yn parhau i gael eu monitro a'u hadolygu yn rhan o flaenraglen waith  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: 18 Hydref 2022 pdf icon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Cofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 18 Hydref wedi'u hatodi i bapurau'r Agenda.

 

Roedd y cofnodion yn cynnwys dau argymhelliad i'r Cyngor:

 

§  Y dylai'r Cyngor fabwysiadu'n ffurfiol y Canllaw statudol i'r Cyfansoddiad, fel y'i cytunwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd;

§  Y dylai'r Cyngor fabwysiadu'n ffurfiol y newidiadau i'r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r trefniadau ar gyfer rhannu swyddi'r Cabinet a phenodi Cynorthwywyr Gweithredol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Fouweather, fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yr argymhellion yn ffurfiol, ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Stowell-Corten. Cynhaliwyd pleidlais ar yr argymhellion a'u cymeradwyo yn sgil hynny.

 

Penderfynwyd:

§  Y dylai'r Cyngor fabwysiadu'n ffurfiol y Canllaw statudol i'r Cyfansoddiad, fel y'i cytunwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd;

Y dylai'r Cyngor fabwysiadu'n ffurfiol y newidiadau i'r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r trefniadau ar gyfer rhannu swyddi'r Cabinet a phenodi  

11.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn dechrau ateb y cwestiynau, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol:

 

Y Nadolig a Sadwrn Busnesau Bach

Ddydd Sadwrn diwethaf, cynhaliwyd digwyddiad Cyfrif i Lawr at y Nadolig yng nghanol y ddinas. Roedd hi'n anhygoel gweld cynifer o bobl yn dod ynghyd i nodi dechrau dathliadau'r ?yl. Diolch i Casnewydd NAWR ac i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y prynhawn.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai eleni'n flwyddyn anodd i lawer - unigolion a busnesau fel ei gilydd, a pharhaodd i annog pobl i siopa'n lleol a gwario'n ddoeth. 

 

I'r perwyl hwnnw, roedd y Cyngor hefyd yn cefnogi'r Sadwrn Busnesau Bach a fyddai'n cael ei gynnal ddydd Sul 3 Rhagfyr.  Roedd Casnewydd yn ffodus iawn o gael busnesau bach ac annibynnol anhygoel a oedd yn cynnig ystod o wasanaethau a chynnyrch nad oedd modd i'r siopau cadwyn mwy eu hefelychu.

 

Roedd adloniant stryd wedi cael ei drefnu ar gyfer y diwrnod i ychwanegu at yr awyrgylch, a gobeithiwyd y byddai canol y ddinas yn orlawn o bobl yn cefnogi busnesau, ac o bosib yn cael hyd i anrhegion personol ac unigryw.

 

Byddai mwy o newyddion ar ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â gwybodaeth gan ein masnachwyr lleol am eu cynigion arbennig eu hunain.

 

Yr Angel Cyllyll

 

Yng nghanol y ddinas dros y penwythnos, safai Angel Cyllyll trawiadol yn gadarn a Sgwâr Wysg.

 

Rydym wedi cefnogi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a ddaeth â'r ffigur goruchel hwn i'r ardal yn rhan o daith genedlaethol i atal trais.

 

Cafodd y cerflun 27 troedfedd ei wneud o fwy na 100,000 o gyllyll, a byddai'n sefyll yng Nghasnewydd hyd ddiwedd y mis, yn symbol amlwg i'n hatgoffa o effeithiau dinistriol trais ac ymddygiad ymosodol.

 

I gefnogi hyn, roedd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ac addysgiadol wedi cael eu trefnu, a'r gobaith oedd y byddai'r Cyngor yn codi ymwybyddiaeth ac yn cychwyn trafodaethau pwysig.

 

Cymorth gyda chostau byw

 

Yn gynharach yn y mis hwn cynhaliodd y Cyngor ddigwyddiad gwybodaeth costau byw yn theatr Glan yr Afon. Roedd nifer dda iawn o bobl yn bresennol ar y diwrnod, a chyda'i bartneriaid bu modd i'r Cyngor helpu llawer o bobl i dderbyn cymorth a chyngor a oedd yn dyngedfennol dros y cyfnod heriol hwn.

 

Roedd gwaith yn parhau yn gysylltiedig â hyn, a byddai gweithgareddau allgymorth pellach yn cael eu cynnal, ac adran gynghori benodol yn cael ei chynnwys ar wefan y Cyngor. Yn dilyn digwyddiad strategol gyda phartneriaid allweddol, roeddem hefyd yn datblygu ein gwaith cydgysylltiedig â phartneriaid i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein cymunedau.

 

Diwrnod Hawliau Gofalwyr

 

Eleni byddai Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn cael ei gynnal ddydd Iau 24 Tachwedd, ac roedd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch hawliau gofalwyr di-dâl a chydnabod eu cyfraniad i'n cymdeithas.

 

I nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr, byddai ein tîm cyswllt cymunedol y cynnal digwyddiad gwybodaeth yn Theatr Glan yr Afon, a byddai wrth law rhwng 1pm a 6pm i roi gwybodaeth a chyngor i ofalwyr di-dâl o bob oedran a chefndir.  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

        i.           Deputy Leader and Cabinet Member for Education and Early Years

      ii.           Cabinet Member for Community and Wellbeing

     iii.           Cabinet Member for Strategic Planning, Regulation and Housing

    iv.           Cabinet Member for Social Services

      v.           Cabinet Member for Organisational Transformation

    vi.           Cabinet Member for Climate Change and Bio-Diversity

   vii.           Cabinet Member for Infrastructure and Assets

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceir 1 cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau'r Cabinet:

 

Cwestiwn 1 – Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar

 

Cynghorydd Routley

 

Yng nghyfarfod diweddar y Cabinet, dywedasoch eich bod wedi cael adroddiadau am blant ysgol sy'n crynu gan newyn ac sy'n llwgu mewn rhai ysgolion.

 

Beth ydych chi, Aelod Cabinet, wedi'i wneud i godi'r mater hwn a lliniaru'r dioddefaint.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Davies

 

Diolch ichi am eich cwestiwn, yr wyf yn falch o’i ateb.

 

Rydych chi wedi fy nyfynnu i heb esbonio'r cyd-destun pam fy mod yn siarad am newyn a thlodi ymhlith plant. Roeddwn yn ymateb i'r diweddariad a gyhoeddwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd ar ein hymateb i bwysau allanol sy'n effeithio ar Wasanaethau Cyngor. Mae'r papur yn rhoi disgrifiad eglur o effaith yr argyfwng costau byw ar ein cymunedau.

 

Yn wir, dros y 18 mis diwethaf, mae cymunedau ar draws Casnewydd yn wynebu pwysau ariannol digynsail yn deillio o gynnydd chwyddiant mewn costau ynni, bwyd, morgeisi a rhent, ynghyd â chostau eraill sy'n gysylltiedig â chadw chartref.

 

Ar hyn o bryd, mae sefyllfa ariannol y DU yn dal i fod ar ymyl y dibyn er gwaethaf datganiad yr hydref a gyhoeddwyd y dydd Iau diwethaf, a fydd yn gadael diffyg yng nghyllideb Cymru. Ni fydd yr £1.2 biliwn ychwanegol yn ymdrin â'r cynnydd mewn costau oherwydd y chwyddiant aruthrol, nac yn gwneud iawn am hynny, ac mae'r swm hwnnw mewn gwirionedd £300 miliwn yn llai na'r hyn a bennwyd y llynedd. Ar ben hynny, ar ôl y gyllideb hon dengys gwaith dadansoddi'r OBR yn glir y bydd incwm gwario gwirioneddol yn gostwng i'w lefel isaf ers dechrau cofnodion yr ONS yn 1956. Ar raddfa fyd-eang rydym yn colli tir o gymharu â'n partneriaid economaidd, a phwy sy'n goruchwylio'r llanast yma? Y Torïaid - deuddeng mlynedd o gamreolaeth ac aflerwch. Fel gweinyddiaeth Lafur yng Nghasnewydd, rydym yn gweithio'n galed i gefnogi ein preswylwyr a'u helpu i oroesi dros yr argyfwng hwn mewn costau byw. Rwy'n grediniol na fyddem yn gorfod gwneud hyn pe bai Llywodraeth Lafur mewn grym.

 

Gan ddychwelyd i'm sylwadau yng nghyfarfod y Cabinet wythnos diwethaf, mae'r camau rydym wedi'u cymryd hyd yma yn cynnwys sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen er mwyn helpu teuluoedd i fanteisio ar gymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â sesiynau galw heibio yn  Pill ac ar Lan yr Afon lle bu Cyngor Dinas Casnewydd a'i bartneriaid yn rhoi cyngor, cefnogaeth ac arweiniad. Y bwriad yw cydgysylltu cymorth fel bod ein preswylwyr mwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn cael y gefnogaeth a’r cymorth sydd ei angen arnynt. Cynhaliwyd uwchgynhadledd yn ddiweddar er mwyn gallu cydgysylltu cynlluniau i sicrhau mynediad lleol at fanciau bwyd ac ystafelloedd cynnes yn barod am y gaeaf.

 

Yn fy ateb i'r Arweinydd yn y Cabinet, rhestrais y camau sy'n cael eu cymryd o fewn ein hysgolion i sicrhau bod plant yn cael eu bwydo a bod teuluoedd yn cael cymorth. Mynegais yn glir nad oeddwn, pan gefais fy ethol yn wreiddiol 10 mlynedd yn ôl, yn rhagweld  ...  view the full Cofnodion text for item 12.