1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

        i.           To receive any apologies for absence.

      ii.           To receive any declarations of interest.

     iii.           To receive any announcements by the Presiding Member.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.i  Ymddiheuriadau

 

Ni dderbyniwyd yr un.

 

1.ii  Datganiadau o Ddiddordeb

 

Datganodd y Cynghorwyr Horton a Marshall ddiddordeb dan Eitem 8.

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 180 KB

To confirm and sign the minutes of the last meeting.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion 11 Ionawr 2023 yn amodol ar y canlynol:

 

Eitem 10 Enwebu Maer 2023/24

Yr oedd y Cynghorydd Evans am nodi  fod pleidlais unfrydol dros i’r Cynghorydd T Watkins fod yn Faer am 2023/24

 

Eitem 12 Cwestiynau i’r Arweinydd

Yr oedd y Cynghorydd Evans am gofnodi fod Cwestiynau’r Cyngor wedi dychwelyd at broses cwestiynau agored yn 2016.

 

3.

Penodiadau pdf icon PDF 94 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried y penodiadau arfaethedig sydd yn yr adroddiad

 

Cynigiodd y Cynghorydd Clarke y penodiadau sydd yn yr adroddiad, y cytunwyd arnynt gan y Rheolwyr Busnes, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol isod.

 

Eiliodd y Cynghorydd Fouweather yr adroddiad.

 

Penderfynwyd: Cytuno i’r penodiadau a ganlyn.

 

Penodiadau Cyrff Llywodraethol

 

Corff Llywodraethol

Nifer llefydd gwag/ailbenodiadau

Enwebiadau a dderbyniwyd

Ysgol Gynradd Langstone

Ail-benodiad

Garrie Tillett

Ysgol Gynradd Monnow Primary

Ail-benodiad

Jason Jordan

Ysgol Uwchradd Lliswerry

New Appointment

Y Parchedig DadFather Glen Wilkins

Ysgol Uwchradd Lliswerry

Penodiad Newydd

Adam Smith

Ysgol Gymraeg Ifor Hael

Penodiad Newydd

Joseph Chambers

Caerleon Lodge Hill

Penodiad Newydd

Jason Hughes

Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon

Penodiad Newydd

Peredur Griffiths

Jubilee Park

Penodiad Newydd

Martin Bentley

Ysgol Gynradd

Penodiad Newydd

Suzanne Evans

Ysgol Gynradd Milton

Penodiad Newydd

Stephen Blewett

 

Penodiad i BGC Rhanbarthol Gwent

Cynghorwyr Stowell-Corten a Farzina Hussain

4.

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd yr Aelod Llywyddol y Prif Uwch-Arolygydd Carl Williams, Comander Plismona Lleol dros Gasnewydd a Sir Fynwy, a roddodd ddiweddariad i aelodau’r cyngor ar faterion yr heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.

 

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i holi cwestiynau i’r Prif Uwch-Arolygydd Williams.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Uwch-Arolygydd ar ran yr holl aelodau etholedig am ymwneud a chynghorwyr a gweithio mewn partneriaethau ar lefel ward. Yr oedd yn gynhyrchiol iawn ac o gymorth mawr ar yr adeg hon. Diolchodd hefyd i’r Prif Arolygydd Davies am y wybodaeth a anfonwyd at yr holl gydweithwyr, a’i cafodd o gymorth mawr.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at droseddau casineb, a dweud ei bod hi a’i chydweithwyr wedi mynychu gwylnos y tu allan i Westy’r Westgate i goffau a thalu teyrnged i fywyd Brianna Ghey. Yr oedd yn brofiad dwys gweld cynrychiolwyr o bob cymuned ond yn enwedig ein cymuned draws, a gwrando arnynt yn talu teyrnged ond hefyd yn sôn am eu hofnau; yr oedd hynny yn cynnwys mamau yn siarad am y plant a’r bobl ifanc hefyd. Yng ngoleuni hyn, pa sicrwydd allai’r Prif Uwch-Arolygydd roi fod yr holl gymunedau yng Nghasnewydd yn ddiogel. 

 

Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd mai’r rhain yw rhai o’r digwyddiadau mwyaf dirdynnol, ac mai safbwynt Heddlu Gwent yw na ddylid goddef ymddygiad fel hyn. Yr oedd swyddogion yn arbenigo mewn troseddau casineb ar gael adeg digwyddiadau i roi mwy o gefnogaeth. Mae’r polisi o ddim goddefgarwch yn fodd o ddwyn y bobl hyn i gyfrif, ac y mae sicrwydd gan y tîm plismona cymdogaeth yn hanfodol er mwyn dangos fod yr heddlu yn cyd-sefyll ac y cymerir y camau llymaf. Yn ddiweddar, rhoddwyd y cynllun gweithredu hil a chynllun gweithredu ar drais yn erbyn menywod ar y gofyniad plismona statudol. Mae angen heddlu sy’n cynrychioli ac yn gweithredu’n briodol a heb oddef y math hwn o ymddygiad ym mhob ardal.

 

Cwestiynau i’r Heddlu gan Gynghorwyr:

 

§  Soniodd y Cynghorydd Harvey y bu rhai digwyddiadau o geisio byrgleriaeth yn wardiau Alway a Somerton.  Bu’r Cynghorydd mewn cysylltiad â’r tîm plismona lleol, ond yr oedd yr arolygydd i ffwrdd ar hyn o bryd, a gofynnodd felly am dimau ychwanegol i batrolio Alway, Somerton a chyffiniau ward Ringland. Sicrhaodd y Prif Uwch-Arolygydd  y Cynghorydd Harvey nad oed dyr heddlu yn goddef byrgleriaeth, a byddai’n ystyried rhoi patrolau ychwanegol yn yr ardal. Tra byddai’r arolygydd i ffwrdd, gallai swyddogion eraill gynorthwyo. Bu gostyngiad mewn byrgleriaeth o dai ledled Casnewydd, ond er hynny, mae un yn ormod.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Routley at dyllau yn ffordd yr A48, cylchfan Coldra wrth Hillcroft. Gofynnodd yr Aelod Llywyddol am i hyn gael ei godi gyda’r Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau, nid yr Heddlu.

 

§  Cododd y Cynghorydd Cleverly fater y problemau o gwmpas adeilad Betws yn ei Blodau. Ers mis Hydref diwethaf, digwyddodd fandaliaeth gan gr?p o bobl ifanc, ac fe ddigwyddodd eto dros y penwythnos. Yr oedd Cynghorwyr y Betws wedi dod i gysylltiad â’r SCHH lleol, ond wedi gofyn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

2023/24 Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys pdf icon PDF 4 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad.

 

Adroddiad blynyddol oedd hwn, yn canoli ar gynlluniau gwario cyfalaf y Cyngor, eu heffaith ariannol o ran benthyca, a’r strategaeth fuddsoddi am y flwyddyn.

 

Yr oedd yn bwysig nodi, er i’r Cabinet gymeradwyo’r rhaglen gyfalaf fanwl, mai’r Cyngor llawn yn y pen draw oedd yn cymeradwyo’r terfynau benthyca a’r dangosyddion cynghorus oedd yn yr adroddiad.

 

Mae’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio hefyd wedi ystyried yr adroddiad yn eu cyfarfod diweddaraf, ac wedi rhoi sylwadau, Yn yr achos hwn, yr oedd eu sylwadau yn cefnogi’r strategaethau arfaethedig, heb godi pryderon.

 

Yr oedd y Cyngor yn dechrau ar raglen gyfalaf newydd, gyda’r rhaglen bresennol yn dod i ben ym Mawrth eleni. Byddai rhaglen bum-mlynedd newydd mewn grym o fis Ebrill.

 

Er bod y rhaglen yn cael ei hadolygu bob pum mlynedd, y bwriad oedd symud at agwedd dreigl at reoli’r rhaglen gyfalaf, sy’n golygu y bydd y rhaglen gyffredinol, a fforddiadwyedd benthyca, yn cael ei adolygu yn flynyddol.

 

Byddai’r newid yn rhoi mwy o hyblygrwydd i reoli’r rhaglen, gyda threfniadau llywodraethiant cryfach, ac y mae’r manylion yn yr adroddiad.

 

Oherwydd y cyd-destun ariannol heriol iawn, yr oedd y rhaglen yn cynnwys yn unig gynlluniau sydd eisoes yn digwydd a rhai a gymeradwywyd eisoes, oedd wedi eu dwyn ymlaen o’r rhaglen bresennol, a symiau blynyddol, gan gynnwys gweithgareddau fel rheoli asedau yn flynyddol ac adnewyddu’r fflyd.

 

Oherwydd heriau fforddiadwyedd, nid oedd unrhyw arian rhydd benthyca newydd wedi ei gynnwys yn y strategaeth, sy’n golygu mai cyfyngedig yw’r arian cyfalaf rhydd (a ddefnyddir i gyflawni cynlluniau newydd neu i dalu costau cynyddol cynlluniau presennol). O’r herwydd, rhaid manteisio ar bob cyfle i gynyddu’r arian rhydd o ffynonellau unwaith-am-byth er mwyn dal i ymateb i bwysau fel y maent yn ymddangos.

 

Yr oedd yn bwysig i’r Cyngor nodi, er nad oedd unrhyw fenthyca newydd wedi ei gynnwys yn y rhaglen, y byddai benthyca a gymeradwywyd eisoes yn dod i’w rhan dros y blynyddoedd nesaf. Bydd hyn yn cynyddu’r Gofyniad Cyllido Cyfalaf cyffredinol, a lefel dyledion y Cyngor. Mae’r terfynau benthyca a gynigir yn yr adroddiad, y mae gofyn i’r Cyngor gymeradwyo heddiw, yn cadw hyn mewn cof.

 

Hefyd, cyllidebwyd eisoes ar gyfer canlyniadau refeniw benthyca ychwanegol (e.e., llog taladwy ar fenthyciadau) yn dilyn buddsoddiad cyllideb a wnaed yn 2021/22.

 

Yr oedd yn hanfodol i’r strategaeth arfaethedig fod yn fforddiadwy, darbodus a chynaliadwy. Yr oedd y gyllideb refeniw fyddai ei hangen i dalu costau cyllido cyfalaf yn cadarnhau fod y strategaeth yn fforddiadwy.

 

Gellid sicrhau darbodaeth trwy sicrhau bod lefel y gwariant cyfalaf yn gymesur yng nghyd-destun y gyllideb yn gyffredinol. Hefyd, mae’r terfynau benthyca a argymhellir yn cyd-fynd â’r cynlluniau gwario cyfalaf ehangach.

 

Llwyddwyd i gael cynaliadwyedd trwy sicrhau bod yr ymrwymiad tymor-hir i gael costau cyllido cyfalaf wedi ei adlewyrchu yn y cynllun ariannol tymor canol a bod y cyllid refeniw angenrheidiol ar gael tra byddai’r ymrwymiad ariannol yn parhau.

 

O ran Rheoli’r Trysorlys, yr oedd yr adroddiad yn rhoi manylion am  agwedd y Cyngor at  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cyllideb 2023/24 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig pdf icon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol yr adroddiad a dweud mai dyma un o’r cyllidebau mwyaf anodd a welodd, a gofynnodd i gydweithwyr y cyngor drin yr eitem hon â pharch.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad am y gyllideb a Threth y Cyngor 2023/24 i’w chydweithwyr. Yr oedd yn rhan annatod o brosesau gosod  cyllideb y Cyngor ac yn dilyn cynigion manwl y gyllideb y cytunodd y Cabinet arnynt yn ein cyfarfod ym mis Chwefror, pryd y gwnaethom argymell codiad o 8.5% yn Nhreth y Cyngor.

 

Atgoffodd yr Arweinydd bawb, fel y weinyddiaeth, mai’r Cabinet oedd yn gwneud penderfyniadau am ddyrannu adnoddau, a’r Cyngor llawn yn gwneud y penderfyniad terfynol am lefel Treth y Cyngor yn unig. Bydd y Cyngor yn cytuno ar Dreth y Cyngor am 2023/24 a thrwy hyn, cyfanswm cyllideb net y Cyngor.

 

Yr oedd yr argymhellion manwl wedi eu gosod allan yn yr adroddiad ei hun. I grynhoi, gofynnir i’r Cyngor:

 

Nodi’r ymarferiad ymgynghori helaeth a gwblhawyd ac a ystyriwyd gan y Cabinet wrth roi manylion y gyllideb derfynol.

 

Nodi argymhellion y Pennaeth Cyllid am isafswm balans y Gronfa Gyffredinol a chadernid y gyllideb yn gyffredinol.

 

Yn fwyaf pwysig, ystyried a chymeradwyo codiad Treth y Cyngor i Gyngor Dinas Casnewydd o 8.5%, cyfradd treth Band D o £1,380.13, a’r gyllideb refeniw gyffredinol a welir yn Atodiad 1.

 

Wrth wneud hynny, cymeradwyo cynnig ffurfiol treth y cyngor sydd yn Atodiad 3 ac sy’n ymgorffori praeseptiau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a Chynghorau Cymuned.

 

Yn ogystal â hyn, gofynnwyd i’r Cyngor nodi’r Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r cyd-destun, nodi’r ffaith fod y Cabinet wedi cymeradwyo’r cynllun a’r ffaith fod hyn yn destun adolygu cyson, a nodi a chymeradwyo strategaeth arian wrth gefn y Cyngor a phrotocol y gronfa drawsnewid.

 

Aeth yr Arweinydd yn gyntaf trwy gynigion y gyllideb gyda’r Cyngor.

 

Proses y gyllideb arbennig hon oedd un o’r rhai mwyaf heriol yn ddiweddar. Yr oedd lefelau uchel o chwyddiant, oedd yn effeithio ar drigolion a busnesau fel ei gilydd, hefyd yn effeithio’n sylweddol ar gyllid y Cyngor. Yr oedd hyn yn amlwg o ran dyfarniadau cyflog a chostau ynni, yn ogystal â’r taliadau a wnawn i’n darparwyr gwasanaeth. Ynghyd â chynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau, rhai yn arbennig, arweiniodd at gyllideb lom a bwlch sylweddol rhwng costau a ragwelir a’r cyllid sydd ar gael.

 

Ymdriniwyd â’r bwlch cyllideb  hwnnw, a chael cyllideb gytbwys, mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, arbedion ar draws amryw o wasanaethau, a’r cynnydd a argymhellir yn Nhreth y Cyngor.

 

Er bod angen arbedion i gydbwyso’r gyllideb, fe wnaethom geisio lleihau’r effaith ar wasanaethau gymaint ag oedd modd, yn ogystal â buddsoddi’n helaeth mewn nifer o wasanaethau. Gosodwyd y buddsoddiadau hanfodol hyn allan yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Chwefror, gan ystyried yr adborth o’r ymgynghori cyhoeddus.

 

Byddai’r blaenoriaethau allweddol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn gweld cryn fuddsoddi wrth i ni barhau i adfer o’r ddwy flynedd  ddiwethaf. Maent yn cynnwys yr isod:

 

·        Gan gynnwys y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Ardrethi Annomestig Cenedlaethol: Cynlluniau Rhyddhad Ardrethi Dewisol 2023/24 pdf icon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno’r eitem nesaf ar yr agenda, oedd yn ymdrin â chynllun rhyddhad ardrethi Llywodraeth Cymru am 2023/24. Yr oedd hyn yn gymwys i bob busnes manwerthu, lletygarwch a hamdden yn y ddinas oedd yn cwrdd â’r meini prawf cymhwyso sydd yn yr adroddiad ac yn rhoi gostyngiad o 75% mewn ardrethi. Y mae’n dilyn cynlluniau rhyddhad tebyg fu ar waith ers 2020/21.

 

Gofynnwyd i’r Cyngor gytuno i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru am 2023-24 trwy wneud y penderfyniadau priodol sydd yn yr adroddiad, yn ôl gofynion Adrannau 47(1)(a) a 47(3) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

 

Fel yr awgryma’r argymhellion, ‘adroddiad trefniadol’ oedd hwn oherwydd er mai cynllun Llywodraeth Cymru ydyw, mae’n cael ei weithredu gan awdurdodau lleol gan ddefnyddio eu pwerau disgresiynol eu hunain dan adran 47 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Yr oedd defnyddio’r disgresiwn hwn yn un i’r Cyngor llawn ystyried a’i arfer, oedd yn werthfawr i’r busnesau hynny oedd yn gymwys.

 

Yr oedd y cynllun yn cael ei gyllido’n llawn gan Lywodraeth Cymru ac yn galluogi’r busnesau hynny yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch i elwa o’r gostyngiad o 75% mewn ardrethi busnes yn 2023-24. Yr oedd y cynllun yn ymdrin â phob busnes sydd mewn eiddo yn gweithredu yn y sectorau hyn.

 

Unwaith iddo gael ei fabwysiadu, byddai’r p?er disgresiynol yn cael ei arfer gan y Pennaeth Cyllid dan bwerau dirprwyedig. Yr oedd y penderfyniad ffurfiol wedi ei ddangos yn yr adroddiad.

 

Yr oedd y rhyddhad yn gweithio mewn ffordd debyg i gynlluniau tebyg, ac yr oedd gofyn i fusnesau wneud cais am y rhyddhad ardrethi. Yr oedd yr un cais, i’r busnesau hynny yng nghanol y ddinas, hefyd yn cael ei ddefnyddio i ganiatáu iddynt gyrchu cynllun lleol y Cyngor ei hun, ac yn rhoi rhyddhad o 25%. Byddai’n cael ei ddyfarnu’n awtomatig ar yr un pryd a dyfarniad Llywodraeth Cymru. Golygai hyn y byddai busnesau cymwys yn derbyn rhyddhad ardrethi o 100% dros y flwyddyn ariannol nesaf. Anogodd yr Arweinydd bob busnes manwerthu cymwys i wneud cais am y cynllun  hwn.

 

Eiliodd y Cynghorydd D Davies yr adroddiad.

 

Sylwadau Cynghorwyr:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd D Davies y byddai’r 75% o ryddhad ardrethi yn gwneud gwahaniaeth mawr yn yr amseroedd anodd hyn gyda chefnogaeth arian Llywodraeth Cymru a Dinas-Ranbarth Caerdydd ond dan arweiniad Cyngor Dinas Casnewydd oherwydd eu gweledigaeth a’u penderfyniad. Yr oedd y  Cynghorydd D Davies felly yn croesawu’r adroddiad.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Thomas yn gobeithio y byddai busnesau yn manteisio ar hyn i’w helpu i ffynnu a gwneud yn dda yng Nghasnewydd.  Yr oedd y Cynghorydd Thomas yn arbennig o falch gan fod canol y ddinas yn ward Stow Hill.

 

§  Ar ran y gr?p Ceidwadol, yr oedd y Cynghorydd Evans yn llawn gefnogi’r adroddiad.

 

Penderfynwyd:

 

Cytunodd y Cyngor yn unfrydol i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru am 2023-24 trwy wneud y penderfyniadau priodol sydd yn yr adroddiad, yn ôl gofynion  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cynllun Llesiant Gwent 2023/28 pdf icon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i roi diweddariad ar ddatblygu Cynllun Llesiant Gwent 2023-28 a chymeradwyo’r cynllun fel un o Aelodau Statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent.

 

Yr oedd gofyniad statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn mynnu bod cyrff gwasanaethau cyhoeddus yn cynhyrchu Cynllun Llesiant i osod amcanion ynghylch sut y byddai’n gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal trwy gyfrannu at y saith Nod Llesiant Cenedlaethol.

 

Cynhaliodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ei gyfarfod cyntaf ym mis Hydref 2021 pryd y cytunwyd i bob un o’r BGC, gan gynnwys UnCasnewydd, uno i ffurfio BGC Gwent, a thrwy hynny gryfhau trefniadau partneriaeth ar draws y rhanbarth. Yr oedd y cynllun llesiant felly yn seiliedig ar asesiadau anghenion ar draws Gwent, gan gynnwys chwe ardal leol Casnewydd.

 

Fel Cadeirydd partneriaeth UnCasnewydd, a ddaeth yn gr?p cyflwyno lleol, hysbysodd yr Arweinydd gydweithwyr y buasent yn cydweithio’n agos gyda’r holl bartneriaid i gyflwyno amcanion y cynllun terfynol yn lleol ac yn rhanbarthol, a’u bod wedi dechrau datblygu cynllun cyflwyno lleol.

 

Dangosodd dadansoddiad o’r asesiadau anghenion y themâu allweddol y dymuna’r trigolion eu blaenoriaethu. Y themâu hyn oedd sylfaen cynllun drafft a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnod ymgynghori statudol rhwng misoedd Hydref a Rhagfyr 2022. 

 

Yn dilyn adborth o’r ymgynghoriad gan randdeiliaid ac aelodau’r cyhoedd, newidiwyd y Cynllun, a’r un newydd hwn sydd yn awr yn cael ei rannu gyda’r Aelodau.

 

Tynnodd yr Arweinydd  sylw’r Cyngor at y ddau Amcan Lles:

 

o   Yr ydym eisiau creu Gwent sydd yn decach, mwy cyfartal a chynhwysol i bawb

 

o   Yr ydym eisiau Gwent sy’n barod o ran yr hinsawdd, lle rhoddir gwerth ar ein  hamgylchedd a’i amddiffyn, er ein lles yn awr ac i genedlaethau’r dyfodol

 

Cefnogwyd y rhain gan y pum cam yn y cynllun. Yn dilyn cymeradwyo gan yr holl bartneriaid statudol, bydd BGC Gwent yn cymeradwyo’n derfynol ganol Ebrill, ac yn cyhoeddi ym Mai 2023.

 

Byddai cynllun cyflwyno rhanbarthol manylach yn cael ei ddatblygu wedi’r cyhoeddi, ynghyd â fframwaith rheoli perfformiad.

 

Yr oedd Casnewydd yn gweithio gyda phartneriaid UnCasnewydd a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu cynllun gweithredu lleol i ymdrin ag anghenion penodol ein cymunedau ledled y ddinas.

 

Penderfynwyd:

 

Adolygodd a derbyniodd y Cyngor Gynllun Lles Gwent.

 

 

Caeodd yr Aelod Llywyddol y cyfarfod.