Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu Rheolwr Craffu a Llywodraethu
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhagofynion i. To receive any apologies for absence. ii. To receive any declarations of interest. iii. To receive any announcements by the Presiding Member. Cofnodion: 1.i Ymddiheuriadau
Y Cynghorwyr Fouweather, Screen, Kellaway a Cleverly
1.ii Datganiadau o Ddiddordeb Dim. |
||||||||||||||||
To confirm and sign the minutes of the last meeting. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cytunwydar Gofnodion Chwefror 28 2023, yn amodol ar y canlynol:
Gofynnodd y Cynghorydd M Howells am i’r Cwestiwn i Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gael ei gynnwys yn y Cofnodion, gan iddynt gael eu gadael allan o bapurau’r Agenda. |
||||||||||||||||
To consider any proposed appointments. Cofnodion: I ystyried y penodiadau arfaethedig a osodir allan yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Clarke y penodiadau a osodwyd allan yn yr Adroddiad, gyda chytunwyd y Rheolwyr Busnes, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol isod.
Eiliodd y Cynghorydd Routley yr adroddiad.
Penderfynwyd:Cytuno i’r penodiadau a ganlyn.
Penodiadaui Gyrff Llywodraethol
PenodiadCyrff Allanol i Fwrdd Draeniad Caldicot a Gwynll?g Cynghorwyr A Screen a P Drewett. |
||||||||||||||||
Materion yr Heddlu 30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative. Cofnodion: Cyflwynoddyr Aelod Llywyddol yr Uwch-Arolygydd Jason White, a roddodd gyfoesiad i aelodau’r cyngor ar faterion yr Heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.
Llongyfarchoddyr Aelod Llywyddol yr Uwch-Arolygydd White ar ei ddyrchafiad.
Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i annerch yr Uwch-Arolygydd White.
Llongyfarchoddyr Arweinydd yr Uwch-Arolygydd ar ei ddyrchafiad. Cyfeirioddyr Arweinydd at nodyn briffio a anfonwyd yn ddiweddar at aelodau gan y Prif Arolygydd Davies, a oedd yn fuddiol iawn. Yr oedd yn tynnu sylw at y mannau lle’r oedd cysylltiadau’r heddlu, ac yn amlinellu’r prif faterion ledled y ddinas. Yr oedd cefnogaeth i hyn, gyda’r cynghorwyr yn cytuno fod y nodyn briffio yn dra defnyddiol. Gofynnodd yr Arweinydd a oedd yr Heddlu yn bwriadu parhau a hyn. Dywedodd yr Uwch-Arolygydd y byddai’r fformat briffio yn parhau, ond y byddai rhai newidiadau ymhlith y swyddogion; yr oedd Carl Williams yn parhau fel Prif Uwch-Arolygydd , a’r Uwch-Arolygydd White yn cymryd lle Vicki Townsend. Byddai’r Prif Arolygydd Davies yn aros yng Nghasnewydd ond yn cymryd drosodd rôl flaenorol yr Uwch-Arolygydd. Byddai Amanda Thomas hefyd yn delio a materion cymdogaeth.
Cwestiynaui’r Heddlu a godwyd gan y Cynghorwyr:
§ Yroedd y Cynghorydd Jordan am gyfleu ei ddiolch i’r Arolygydd Hannah Welty a’r tîm a fu’n delio â lladrad o siop bapur newydd yn y Betws yn ddiweddar, a arweiniodd at arést. Yr oedd Ysgol Millbrook yn y Betws wedi ei thargedu gan lanciau a dorrodd i mewn ac achosi difrod. Yr oedd y Pennaeth yn yr ysgol ar un achlysur pan dorrwyd i mewn, a llwyddodd i seinio’r larwm, gan beri i’r llanciau ffoi. Gollyngodd un llances ei phwrs, ac felly roedd modd gwybod pwy ydoedd. Torrwyd i mewn hefyd i adeilad Dechrau’n Deg, ac Ysgol Ifor Hael. Gofynnodd y Cynghorydd Jordan am fwy o bresenoldeb yr heddlu ar droed o gwmpas yr ardal. Cytunodd yr Arolygydd i gynyddu nifer patrolau’r heddlu yn ôl y cais. Cadarnhaodd y Ditectif Arolygydd fod yr heddlu yng Nghasnewydd yn awyddus iawn i nodi troseddwyr yn fuan, a bod ganddynt record dda o ymdrin â lladradau a throseddau treisgar. Dywedodd yr Uwch-Arolygydd, dros y 4-6 wythnos yng Nghanol a Gorllewin Casnewydd, fod yr Heddlu wedi nodi ac arestio 12 o unigolion, a bod gwaith atal ac ymyrryd yn mynd rhagddo. O ran y byrgleriaethau ym Millbrook a Dechrau’n Deg, dywedodd yr Uwch-Arolygydd fod yr Heddlu wedi buddsoddi’n drwm mewn system o’r enw ‘Wnawn ni Ddim Prynu Trosedd’, oedd wedi ei hanelu at atal troseddau. Yr oedd swyddogion yn helpu i atal troseddau a chadw cymunedau’n ddiogel, gan roi cyngor ar atal troseddau a lleihau aildroseddu.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd M Howells at gerbydau’n ymgasglu a cheir yn rasio ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Yr oedd hyn yn arfer digwydd ar safle ... view the full Cofnodion text for item 4. |
||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig: City of Sanctuary This Council is concerned by the UK government’s illegal immigration bill which proposes to detain and later remove anyone who arrives in the UK on a small boat, meaning the Home Office will not consider any of their Asylum claims regardless of whether they have fled war or persecution for being a minority.
These people seeking sanctuary will then be deported back to the country they have fled from or a ‘safe’ third country. This third country could be Rwanda or another country deemed safe by UK Government but which may have a questionable record on human rights. The likely effect of this legislation will be to punish the most vulnerable people from across the world.
Questions have been raised surrounding the legality of the Bill and whether it is compliant with the European Convention on Human Rights (ECHR) and consistent with the 1951 Refugees Convention. The Prime Minister has also stated in writing that if you come to the UK illegally “You can’t benefit from our modern slavery protections”.
This Council also notes the language which has been used to support this Bill, which has the potential to cultivate and provide a platform for a culture of abuse, racism and even violence against refugees and minorities.
As an experienced dispersal area this council has made a firm commitment in our Corporate Plan to establish Newport as a City of Sanctuary. This Council and the people of Newport have welcomed and accepted refugees and asylum seekers. We have a proud history of integration and inclusion. Our city is a more interesting, diverse and tolerant city because of this.
This Council calls in to question the action of the UK Government in bringing forward this legislation, and calls upon the prime minister and his ministers to withdraw these proposals.
We call upon the Leader of Council to write to the prime minister in the strongest possible terms to outline our concerns.
We would also request the Leader of the council commits to ensuring that Newport City Council gives full support to all partners and stakeholders in Newport currently working towards City of Sanctuary status.
Cofnodion: Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Corten i gyflwyno’r cynnig, gyda’r Cynghorydd Clarke i eilio. Mae’rCyngor hwn yn pryderu am Fesur Mewnfudo Anghyfreithlon llywodraeth y DU sydd yn cynnig cadw ac yna symud unrhyw un sy’n cyrraedd y DU ar gwch bychan, sy’n golygu na fydd y Swyddfa Gartref yn ystyried unrhyw rai o’u ceisiadau am loches, hyd yn oed os ydynt wedi ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth am fod yn perthyn i leiafrif.
Bydd y bobl hyn sy’n ceisio lloches wedyn yn cael eu hanfon yn ôl i’r wlad y maent wedi ffoi ohoni neu i drydedd wlad ‘ddiogel’. Gallai’r wlad hon fod yn Rwanda, neu wlad arall y tybia Llywodraeth y DU sydd yn ddiogel, ond a all fod â record amheus o ran hawliau dynol. Effaith debygol y ddeddfwriaeth hon fydd cosbi’r bobl fwyaf bregus o bob cwr o’r byd.
Codwydcwestiynau am gyfreithlondeb y Mesur ac a yw’n cydymffurfio â Chonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop (CHDE) ac yn gyson â Chonfensiwn Ffoaduriaid 1951. Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi nodi’n ysgrifenedig, os dewch i’r DU yn anghyfreithlon “Na allwch elwa o’n mesurau gwarchod rhag caethwasiaeth fodern”.
Mae’rCyngor hwn hefyd yn nodi’r iaith a ddefnyddiwyd i gefnogi’r Mesur hwn, sydd â photensial i feithrin a rhoi llwyfan i ddiwylliant o ddifenwi, hiliaeth a hyd yn oed drais yn erbyn ffoaduriaid a lleiafrifoedd.
Fel ardal wasgaru brofiadol, mae’r cyngor hwn wedi ymrwymo’n gadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i sefydlu Casnewydd fel Dinas Noddfa. Mae’r Cyngor hwn a phobl Casnewydd wedi croesawu a derbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae gennym hanes balch o integreiddio a chynhwysiant. Mae ein dinas yn fwy diddorol, amrywiol a goddefgar o’r herwydd.
Mae’rCyngor hwn yn cwestiynu gweithred Llywodraeth y DU yn dwyn y ddeddfwriaeth hon gerbron a geilw ar y Prif Weinidog a’i weinidogion i dynnu’r cynigion hyn yn ôl.
Galwnar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog i leisio ein pryderon yn y modd cryfaf posib.
Gofynnwnhefyd i Arweinydd y Cyngor ymrwymo i sicrhau bod Cyngor Dinas Casnewydd yn rhoi cefnogaeth lawn i bob partner a rhanddeiliad yng Nghasnewydd sydd ar hyn o bryd yn gweithio tuag at statws Dinas Noddfa.
Sylwadaugan Gynghorwyr:
§ Soniodd y Cynghorydd Drewett am hanes ei deulu fel un sy’n ddisgynnydd i fewnfudwyr. Cyfeiriodd y Cynghorydd Drewett am ddigwyddiad gan y Groes Goch yn Ngwesty’r Westgate ddwy neu dair blynedd yn ôl dan y teitl Rhoi Llais. Siaradodd ceiswyr lloches yn y digwyddiad am eu profiadau ers cyrraedd Casnewydd a’u balchder gyda’r croeso cynnes a gawsant, y cyfeillgarwch a wnaed, a’r cyfleoedd oedd ar gael. Dywedodd y Cynghorydd Drewett fod gan Gasnewydd draddodiad balch o gefnogi mewnfudwyr, a’i fod yn cefnogi’r cynnig yn gryf.
§ Soniodd y Cynghorydd Davies am ymchwil i hanes ei theulu ei hun, lle’r oedd ei ... view the full Cofnodion text for item 5. |
||||||||||||||||
Datganiad Tâl a Gwobrwyo PDF 164 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Esbonioddyr Uwch-Gyfreithiwr Cyfreitha wrth aelodau’r Cyngor y gwrthdrawiad buddiannau ynghylch yr eitem uchod, oedd a wnelo â’r Prif Weithredwr a’r Uwch-Swyddogion, felly gofynnwyd i’r Prif Weithredwr a’r Uwch-Swyddogion adael Siambrau’r Cyngor ar y pwynt hwn.
Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad, oedd â dwy eitem i’w hargymell i’r Cyngor llawn. Yr oedd hyn yn gofyn i gydweithwyr adolygu a chytuno ar y Polisi Tâl a Gwobrwyo blynyddol, ac alinio Gwyliau Prif Swyddogion.
Adroddiadblynyddol oedd y Polisi Tâl a Gwobrwyo i’r gweithlu, oedd angen i’r Cyngor ei fabwysiadu. Yr oedd y polisi yn gosod allan y mecanweithiau mewnol ar gyfer talu swyddogion y Cyngor, ac yn dangos unrhyw newidiadau neu gyfoesiadau ers ei fabwysiadu ddiwethaf yn 2022.
Yroedd unrhyw newidiadau a wnaed dros y 12 mis diwethaf wedi eu cefnogi gan y prosesau democrataidd priodol lle byddai angen, a’u nodi yn yr adroddiad.
Pan adroddodd yr Arweinydd ddiwethaf fod bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y Cyngor yn dal i gymharu’n ffafriol â Chynghorau eraill ledled Cymru a’r DU, rhagwelwyd y byddai hyn yr un fath pan fydd y Cyngor hwn yn cyfoesi ‘r data tâl yn nes ymlaen y mis hwn. Yr oedd yr Arweinydd yn falch o adrodd y gwelodd y Cyngor ostyngiad yng nghymhareb y tâl rhwng y swyddogion sy’n derbyn y cyflogau isaf a’r rhai uchaf, sydd yn golygu llai o fwlch.
Yroedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu sut yr oedd y Cyngor yn alinio gwyliau swyddogion, a thelerau ac amodau eraill, fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i gytundeb statws sengl yn 2015. Yn nyfarniad cyflog 2022/23, cafodd yr holl swyddogion, ac eithrio am Brif Swyddogion, ddiwrnod ychwanegol o wyliau fel rhan o’r dyfarniad cyflog.
Er mwyn sicrhau parhad o ymrwymiad y Cyngor i statws sengl, lle bo modd, argymhellwyd y dylid alinio gwyliau Prif Swyddogion hefyd i gynnwys y diwrnod ychwanegol o wyliau a ddyfarnwyd i swyddogion y Cyngor been awarded.
Eiliodd y Cynghorydd Batrouni yr adroddiad.
Penderfynwyd:
Fod y Cyngor 1. Yn adolygu a chytuno ar y Polisi Tâl a Gwobrwyo er mwyn cwrdd â’r gofyniad statudol am gymeradwyo a chyhoeddi datganiad polisi tâl yn flynyddol gan y Cyngor. Adolygu a chytuno aliniad gwyliau Prif Swyddogion. |
||||||||||||||||
Strategaeth Gyfranogi: Cyfarfodydd Ward PDF 176 KB Cofnodion: Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno’r Fframwaith arfaethedig ar gyfer ail-gyflwyno Cyfarfodydd Ward fel dull gwerthfawr o ymwneud â thrigolion.
Yroedd yr adroddiad yn ceisio caniatâd y Cyngor i fabwysiadu’r fframwaith fyddai’n gosod allan amlder, trefn busnes a darparu cefnogaeth i Gyfarfodydd Ward.
Ym mis Mai 2022, gwnaeth y Cyngor ymrwymiad i gefnogi trigolion i ymwneud mwy mewn penderfyniadau, ac annog mwy o amrywiaeth yn y sawl sy’n gwneud penderfyniadau trwy fabwysiadu Strategaeth Gyfranogi.
Dan y strategaeth hon, nod y Cyngor oedd adeiladu ar y rhaglen bresennol o ymwneud ac ymgynghori â’r cyhoedd i gael gwell cyfranogiad yn y prosesau democrataidd.
Dangosodd adborth o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyfranogi fod y trigolion eisiau i’r Cyngor ymchwilio i ddulliau amgen o ymgynghori, ac yr oedd Cyfarfodydd Ward yn un o’r sawl ffordd y gall y Cyngor gefnogi dwyn y cyhoedd i mewn i wneud penderfyniadau.
Wrthddatblygu’r fframwaith arfaethedig, amlygodd aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y nodweddion allweddol a oedd yn eu barn hwy yn rhan hanfodol o drefniadau cyfarfodydd ward; yr oedd y nodweddion hyn yn helpu i sicrhau bod trigolion yn cael cyfle i ymwneud â phenderfyniadau pwysig, ac i osod eu hagenda eu hunain, gan adlewyrchu’r materion oedd yn bwysig i bob cymuned.
Mae diffinio fframwaith y cytunir arno am y cyfarfodydd ward, sydd yn cynnwys dau Gyfarfod Ward y flwyddyn gyda chefnogaeth lawn i bob ward, yn cydnabod ymrwymiad y Cyngor i ymwneud â’r trigolion ar benderfyniadau allweddol sy’n effeithio ar eu cymunedau mewn modd amserol.
Byddaidefnyddio un o’r cyfarfodydd ward rheolaidd i ganolbwyntio ar osod cyllidebau a chefnogi trigolion i ymwneud â’r r broses hon wyneb yn wyneb yn annog adborth gwerthfawr ac ystyrlon fyddai’n llunio canlyniadau’r penderfyniadau a wneir.
Hefyd, byddai ai gyfarfod ward gyda chefnogaeth, oddeutu chwe mis wedi’r cyfarfod ward i osod cyllideb, yn gyfle pellach i hyrwyddo ymwybyddiaeth o swyddogaethau’r Cyngor gan gynnwys crynodeb o gynnydd yn erbyn amcanion a phrosiectau allweddol.
Lle byddai Aelodau yn dymuno cynnal trydydd cyfarfod mewn blwyddyn, byddai cefnogaeth weinyddol yn cael ei roi o ran archebu lleoliadau addas mewn cymunedau i gyfarfodydd ward, ond ni fyddai cefnogaeth gan swyddogion yn y cyfarfodydd hyn.
Pwyntpwysig yw y byddai’r ddau gyfarfod ward gyda chefnogaeth yn gyfle i’rtrigolion osod eu pwyntiau trafod eu hunain, felly gallai’r gymuned helpu i osod agenda fyddai’n llwyfan i drafod yr hyn sydd o bwys yn eu cymuned.
Tra byddai’r fframwaith arfaethedig yn cefnogi cyfarfodydd ym mhob ward petae angen, mater i aelod/au y ward fyddai pennu a ddylid cynnal cyfarfodydd ward yn eu cymuned hwy.
Efallai y byddai’n well gan Aelodau gyfathrebu gyda’u trigolion mewn ffordd wahanol, megis cymorthfeydd ward, gwaith achos, e-byst neu gyfryngau cymdeithasol, er enghraifft.
Yroedd Cyfarfodydd Ward yn ddewis y gellir ei ddefnyddio i wella cyfathrebu, ond ni fyddant yn cymryd lle unrhyw ... view the full Cofnodion text for item 7. |
||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Craffu 2021/22 PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu, y Cynghorydd Hourahine, i gyflwyno AdroddiadBlynyddol Craffu 2021/2022 i’r Cyngor. Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi gwybod i’r Cyngor ac eraill sydd â diddordeb am rôl pwyllgorau craffu, a’u gwaith yn ystod blwyddyn fwrdeistrefol 2021/22.
Y mae Craffu yn swyddogaeth Cynghorau yng Nghymru a Lloegr ac fe’i cyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a gyflwynodd swyddogaethau Cabinet a Chraffu ar wahân mewn awdurdodau lleol.
Cryfhawydrôl craffu gyda phasio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Y mae’r Ddeddf hon yn mynnu bod y Pwyllgor yn adrodd yn flynyddol i’r Cyngor ar y gwaith a wnaed dros y 12 mis a aeth heibio, a’i raglen waith at y dyfodol. Ers cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae gan graffu hefyd rôl statudol o graffu ar waith y Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus.
Egwyddorsylfaenol trefniadau Craffu oedd sicrhau fod y broses o wneud penderfyniadau yn agored, atebol a thryloyw.
Roedd y swyddogaeth graffu yng Nghyngor Dinas Casnewydd yn cael ei gyflawni gan bedwar pwyllgor craffu, gydag Aelodau Etholedig nad oeddent yn rhan o bwyllgor gwaith y Cyngor. Yr oedd a wnelo tri o’r pwyllgorau hyn â pherfformiad dan Lle a Chorfforaethol, Pobl, a Phartneriaethau. Mae Rheoli Trosolwg a Chraffu yn ystyried polisïau, strategaethau a chynlluniau sy’n trawstorri ac yn cael effaith ar y Cyngor cyfan.
Yroedd yr adroddiad blynyddol yn ymdrin â’r cyfnod o Fai 2021 tan fis Ebrill 2022 a hwn oedd adroddiad blynyddol olaf y tymor pum-mlynedd yn arwain at yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022.
Yn ystod y cyfnod hwn, bu ail-strwythuro a olygodd fod ffurf y Cyngor wedi newid; fodd bynnag, ni chafodd hyn effaith sylweddol ar y meysydd gwasanaeth yr oedd pob Pwyllgor yn craffu arnynt.
Amlygoddyr adroddiad y gwaith pwysig a wnaed gan Graffu dros y flwyddyn, pan gyfarfu’r pedwar pwyllgor yn rheolaidd.
Yroedd Pwyllgorau Perfformiad yn ystyried cyfoesiadau rheolaidd ar gynlluniau gwasanaeth ar gyfer eu meysydd perthnasol, a defnyddiwyd y sylfaen hon o dystiolaeth i graffu ar berfformiad mewn cyd-destun ehangach. Mae cyfoesiadau’r cynlluniau gwasanaeth yn cynnwys gwybodaeth ariannol, cysylltiadau ag amcanion corfforaethol, nodau lles a gwaith tuag at nodau a osodwyd y tu allan i’r Cyngor.
Yroedd cyfoesiadau diwedd blwyddyn hefyd yn cynnwys manylion am y modd yr ymaddasodd y Cyngor ac ymateb i’r heriau a wynebwyd gan wasanaethau a chymunedau oherwydd y pandemig, a sut y darparwyd cefnogaeth i drigolion a busnesau.
Gwnaednifer o argymhellion i’r Cabinet yn canmol ansawdd y cyfoesiadau, ac i hyrwyddo llwyddiannau allweddol yng Nghasnewydd fel bod trigolion yn cael gwybod am gamau oed dyn rhoi cefnogaeth yn ystod y pandemig ac ar ei ôl.
Yn ystod y cyfnod hwn, derbyniodd Pwyllgorau adroddiadau am ymatebion y Cabinet i argymhellion a wnaed Pwyllgorau yn flaenorol i gynigion y Gyllideb Ddrafft, gan ... view the full Cofnodion text for item 8. |
||||||||||||||||
Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.
Process: No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.
The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned. Cofnodion: Cyn cychwyn ar gwestiynau, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol:
Agor y bont newydd
Yr wythnos ddiwethaf, yr oedd yr Arweinydd gyda’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters AoS, a’r Maer, yn agoriad swyddogol pont teithio llesol newydd canol y ddinas.
Yr oedd y bont yn cymryd lle’r hen danffordd ac yn rhoi i drigolion ac ymwelwyr lwybr mwy diogel a hygyrch ar draws y rheilffordd. Yr oedd yn cysylltu cymunedau a chanol y ddinas, rhywbeth y dywedodd y trigolion yn glir eu bod eisiau wrth ymateb i’r ymgynghoriadau ar deithio llesol.
Yr oedd hwn yn brosiect cymhleth, wedi ei arwain gan Gyngor Dinas Casnewydd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru. Codwyd y bont ar y safle gan gontractwyr ac isgontractwyr oedd oll yn gwmnïau Cymreig, oedd o les uniongyrchol i’r economi lleol a chymunedau.
Yr oedd adeiladu’r bont newydd yn gam arall ymlaen i gyflwyno cynlluniau adfywio ehangach i ganol y ddinas, a gwnaeth lawer i wella’r fan gyhoeddus o gwmpas y ganolfan drafnidiaeth bwysig hon, gan wneud yr ardal yn fwy deniadol o lawer i’r holl ddefnyddwyr. Yr oedd y gwelyau plannu yn gynaliadwy, diolch i system ddraenio oedd yn dal ac yn cyfeirio d?r atynt.
Marathon Yr oedd yn bleser gan Gyngor Dinas Casnewydd groesau miloedd o redwyr a gwylwyr i’r ddinas ychydig dros wythnos yn ôl i farathon ABP Casnewydd Cymru a’r 10k. Nid oedd y tywydd ar ei orau yn ystod y dydd, ond yr oedd yn berffaith i’r cystadleuwyr, gan osod tair record newydd.
Yr oedd Casnewydd ar y sgrin fach eto pan gafodd y ras a’r pigion eu darlledu ddydd Gwener. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, i’r holl wirfoddolwyr lleol a’r sawl fu’n gweithio’n galed i wneud y digwyddiad yn llwyddiant.
Coroni Yr oedd penwythnos y Coroni ar y gorwel; felly hefyd y cynlluniau am ddigwyddiadau cymunedol. Yr uchafbwynt eleni oedd y Cinio Mawr ym Mharc Beechwood, ar ddydd Sul, Mai 7 o hanner dydd tan 4pm.
Gyda chefnogaeth gan Radio Dinas Casnewydd, Gr?p Parc Beechwood a Chasnewydd Fyw, byddai cerddoriaeth fyw, diddanwyr ar grwydr, cyfleusterau chwaraeon a chrefft i’r teulu cyfan.
Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi y byddai’r Cyngor yn gallu cefnogi partïon stryd eto eleni. Yr oedd ceisiadau yn cael eu prosesu, a byddai’r rhai llwyddiannus yn cael eu cefnogi gyda rheoli traffig ar y dydd.
Yr oedd mwy o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau adeg y Coroni ar gael ar ein gwefan.
Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru Wedi’r coroni, y digwyddiad mawr nesaf oedd Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru.
Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi mai yng Nghasnewydd y cynhelid y digwyddiad eleni ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin, gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau.
Byddai’r diwrnod yn cychwyn am 10am gydag arddangosfeydd milwrol ar lan yr afon, a mudiadau fel y Lleng Brydeinig, y Gymdeithas Forwrol Frenhinol, Help for Heroes, Canolfan Cyn-Filwyr Casnewydd, GAVO a llawer mwy, gyda stondinau yn y theatr a’r ganolfan gelfyddydau.
Byddai gorymdaith yng ... view the full Cofnodion text for item 9. |
||||||||||||||||
Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.
Process: No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.
Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders. If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing. The question and response will be appended to the minutes.
The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.
Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:
i. Deputy Leader and Cabinet Member for Education and Early Years ii. Cabinet Member for Community and Wellbeing iii. Cabinet Member for Strategic Planning, Regulation and Housing iv. Cabinet Member for Social Services v. Cabinet Member for Organisational Transformation vi. Cabinet Member for Climate Change and Bio-Diversity vii. Cabinet Member for Infrastructure and Assets Cofnodion: Yroedd un cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau’r Cabinet.
Cwestiwn 1 – Dirprwy Arweinydd/ Aelod Cabinet: Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar
Wrthi nifer y datblygiadau tai newydd yng Nghasnewydd gynyddu, mae’n dod yn gynyddol amlwg fod ein hysgolion presennol yn cael trafferth i gwrdd â’r galw.
Fel Aelod Cabinet, pa gamau ydych chi’n eu cymryd i liniaru’r argyfwng presennol o ran lleoliadau i ddisgyblion sy’n effeithio ar nifer o deuluoedd?
Pa fesurau y byddwch chi a’ch gweinyddiaeth yn eu cymryd i ymdrin â’r straen emosiynol sy’n dod i ran rhieni oherwydd bod cynifer o geisiadau yn cael eu gwrthod?
Ymatebgan y Cynghorydd Davies Cyhoeddwydcynigion o lefydd yng ngr?p blwyddyn Derbyn Medi 2023 ar 17 Ebrill, ac er i gyfran uchel o ymgeiswyr lwyddo i gael lle yn eu dewis ysgol, methodd lleiafrif o ysgolion cynradd y mae’r Cyngor yn awdurdod derbyn iddynt (2/37) ateb y galw am lefydd gan ddisgyblion oedd yn byw yn eu dalgylchoedd. Mae hyn yn siomedig; fodd bynnag, mae rhieni yn wastad yn cael eu hannog i gynnwys dewisiadau lluosog wrth wneud eu ceisiadau er mwyn ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn derbyn cynnig sy’n eu bodloni. Bydd y Tîm Derbyniadau Ysgolion yn dal i weithio gyda theuluoedd heb gynnig cyfredol i sicrhau lle mewn ysgol arall i’w plant, a’u cefnogi gyda’r broses hon.
Arwaethaf hyn, mae digon o lefydd yn gyffredinol ledled y ddinas yn y sector cynradd, ac y mae’r Cyngor felly yn parhau i gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol o ran addysg statudol; mae’n anorfod, fodd bynnag, nad yw hyn yn wastad yn cyd-fynd â dewis rhieni. Bydd datblygu ysgol newydd ar ddatblygiad Whiteheads, ac adleoli Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli yn sgil hynny, yn golygu y bydd mwy o lefydd cynradd ar gael yng ngorllewin y ddinas, a bydd dwy ysgol gynradd a arweinir gan ddatblygwyr yn agor yn nwyrain y ddinas dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae holl ysgolion cynradd Casnewydd yn perfformio i safonau uchel, ac y mae ein polisi Cludo o’r Cartref i’r Ysgol yn cefnogi plant oed ysgol gynradd Casnewydd y mae eu hysgol agosaf sydd ar gael ddwy filltir neu fwy o’u cyfeiriad cartref.
O ran y sector uwchradd, bydd niferoedd derbyn cyhoeddedig dwy ysgol uwchradd yn cynyddu’n ffurfiol o Fedi 2023 ymlaen i helpu i ateb y galw trosiannol, ac unwaith eto, mae digon yn gyffredinol o lefydd yn y sector i garfan Blwyddyn 7Medi 2023. Byddwn yn parhau i adrodd a monitro’r rhagolygon am alw’r dyfodol am lefydd uwchradd, trwy’r gr?p Cynllunio Llefydd mewn Ysgolion, a defnyddir y data fel sail i brosiectau cyfalaf y dyfodol. |
||||||||||||||||
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf Cofnodion: Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 16 Mai a hwn fydd CCB y Cyngor.
Diolchoddyr Aelod Llywyddol i’r holl gynghorwyr am eu gwaith caled, ac yn enwedig i’r aelodau etholedig newydd am y gwaith yn eu wardiau. |