Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mawrth, 24ain Medi, 2024 5.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

i.                I dderbyn unrhywn ymddiheuriadau am absenoldeb.

ii.              I dderbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

iii.             I dderbyn unrhyw cyhoeddiadau gan yr Aelod Llywyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.i Ymddiheuriadau

 

Y Cynghorwyr Cleverly, Townsend, Sterry a Linton.

 

1.ii       Datgan Buddiannau 

 

Datganodd y Cynghorydd Adan fuddiant dan Eitem 5: Hysbysiad o Gynnig.

Datganodd y Cynghorwyr Marshall, Thomas, Adan, Al-Nuaimi a Perkins fuddiant dan Eitemau 7-9: Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMCau).

2.

Cofnodion pdf icon PDF 183 KB

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2024 yn amodol ar y canlynol:

 

Roedd y Cynghorydd Al-Nuaimi o'r farn nad oedd y cofnodion yn gywir ac awgrymodd y diwygiadau canlynol:

 

Eitem 5 Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys: 

 

Anogodd y Cynghorydd Al-Nuaimi fod angen i’r Cyngor/Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf ymateb i'r nodyn a ddosbarthwyd gan Ymgyrch Undod Palesteina Casnewydd. Roedd y nodyn wedi cyhoeddi crynodeb o fuddsoddiadau a ffigurau ar gyfranogiad y Gronfa Bensiwn mewn cynlluniau a weithredir yn y Tiriogaethau Palesteinaidd a feddiannir gan Israel.

 

Penderfynwyd:

Cytunodd y Cyngor i'r diwygiadau fel yr amlinellwyd uchod gan y Cynghorydd Al-Nuaimi.

 

Materion yn Codi:

 

Eitem 10: Cwestiynau’r Arweinydd 

 

Dywedodd y Cynghorydd Routley ei fod wedi cyflwyno cwestiwn yn y bleidlais ond nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod i ofyn y Cwestiwn yn bersonol. Dywedodd y Cynghorydd Routley nad oedd wedi derbyn ymateb ysgrifenedig eto.  Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai'r Cynghorydd Routley yn cael ymateb ar ôl iddo gyflwyno Cwestiwn ar Unrhyw Adeg yn unol â'r Rheolau Sefydlog i'r swyddogion perthnasol.

3.

Penodiadau pdf icon PDF 93 KB

Ystyried unrhyw benodiadau arfaethedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried y penodiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad

  

Cynigiodd y Cynghorydd Drewett y penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad, fel y cytunwyd gan y Rheolwyr Busnes fel y nodir isod.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Evans.

 

Penderfynwyd: Bod y penodiadau canlynol yn cael eu cytuno.

 

Penodiadau Cyrff Llywodraethu

 

Corff Llywodraethu

Penodiadau/Ymddiswyddiadau

Enw

Ysgol Uwchradd Llan-wern  

Ymddiswyddo

John Guy

Ysgol Uwchradd Llan-wern  

Penodi 

Hugh Knight

Ysgol Gynradd Bryn Hyfryd

Ailbenodi

Dilwyn Gurney

Ysgol Gynradd T?-du

Ymddiswyddo 

Chris Lacey

Ysgol Gynradd T?-du

Penodi

Chris Lacey

Partneriaeth Ysgol Gynradd Eveswell a Somerton

Ymddiswyddo

John Guy

Partneriaeth Ysgol Gynradd Eveswell a Somerton

Penodi 

Gregory Morgan

Ysgol Gyfun Gwent Is-Coed

Ymddiswyddo

Christopher Chapman

Ysgol Gyfun Gwent Is-Coed

Penodi

Rhian Howells

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas

Ymddiswyddo 

Robert Green

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas

Penodi

Robert Pitt

Ysgol Gynradd Pentre-poeth

Ymddiswyddo

Rhian Howells

Ysgol Gynradd Pentre-poeth

Penodi

TamzinSimmonds

Ysgol Gynradd Bryn Hyfryd

Ymddiswyddo

Yvonne Forsey

Ysgol Gynradd Bryn Hyfryd

Penodi

Chris Carter

Ysgol Gynradd High Cross

Ymddiswyddo

Beverley Davies

Ysgol Gynradd High Cross

Penodi

Yvonne Forsey

 

Cyrff Allanol

 

Gr?p Comisiynu GCA: 

Y Cynghorydd D Davies a'r Cynghorydd P Bright yn ddirprwyon

 

Bwrdd Trafnidiaeth Casnewydd: 

Y Cynghorydd M Linton i gymryd lle'r Cynghorydd A Screen

Aelodaeth bellach i gael ei chytuno gan y Cynghorydd K Thomas

 

Comisiwn Tegwch:

Y Cynghorydd Routley

 

Cyngor Llyfrau Cymru: 

Y Cynghorydd E Stowell-Corten

 

Archifau Gwent:   

Y Cynghorydd P Drewett i gymryd lle'r Cynghorydd C Baker-Westhead

 

Bwrdd Ardal Draenio Mewnol: 

Y Cynghorydd Yvonne Forsey (Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth)

Y Cynghorydd Phil Hourahine 

Y Cynghorydd Stephen Cocks

Y Cynghorydd Rhian Howells

Y Cynghorydd Trevor Watkins

Y Cynghorydd Allan Screen

Y Cynghorydd Ray Mogford

Y Cynghorydd Mark Howells

Y Cynghorydd Alan Morris

Y Cynghorydd Andrew Sterry

Y Cynghorydd James Peterson

 

4.

Materion yr Heddlu

Neilltuir tri deg munud ar gyfer cwestiynau i gynrychiolydd Heddlu Gwent.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol Uwch-arolygydd Heddlu Gwent, J White, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cyngor am faterion yr heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.

 

Ar ôl i’r Uwch-arolygydd annerch y Cyngor, gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i annerch yr Uwch-arolygydd White.

 

Diolchodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Batrouni, i’r Uwch-arolygydd White am ei ddiweddariad, yn enwedig ar y gostyngiad mewn trosedd ac awgrymodd gyfarfod i fynd i'r afael ar y cyd â negyddiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol a all achosi gorbryder diangen ymhlith trigolion. Cytunodd yr Uwch-arolygydd White a dywedodd fod gan yr heddlu swyddog cyfathrebu corfforaethol pwrpasol, a'r gobaith oedd y byddai adborth mwy cadarnhaol, yn enwedig ar Facebook, yn tawelu meddyliau trigolion ac yn herio camwybodaeth.

 

Cwestiynau i'r Heddlu a ofynnwyd gan y Cynghorwyr:

 

§     Rhoddodd y Cynghorydd Lacey ffigurau mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod rhwng mis Ionawr 2020 a mis Rhagfyr 2022 a gofynnodd pa gamau a oedd yn cael eu cymryd gan yr heddlu i fynd i'r afael â hyn ac a oedd mwy i'w wneud o ran cymorth i ddioddefwyr i gryfhau'r ymdrechion hyn yn lleol.  Cyflwynodd yr Uwch-arolygydd White ddull newydd o'r enw Materion Ansawdd Cam-drin Domestig.  Adolygodd Uwch Swyddogion yng Nghasnewydd samplau dip o ddigwyddiadau Cam-drin Domestig i sicrhau eu bod yn cefnogi dioddefwyr yn briodol yn ogystal ag edrych ar hysbysiadau amddiffyn rhag Cam-drin Domestig a chymryd camau cadarn i arestio troseddwyr. Roedd mwy o waith i'w wneud hefyd drwy weithio gyda phartneriaid a chodi addysg ac ymwybyddiaeth gyda busnesau a gyrwyr tacsis ynghylch diogelu.

 

§     Cyfeiriodd y Cynghorydd R Howells at y Gr?p Cymunedol Cyfeillion y Ffordd at Natur o fewn ward Maerun a Pharc Tredegar.  Roedd yr ardal yn cael ei defnyddio gan feiciau baw ar oriau anghymdeithasol yn y ddôl ac ar dir cyfagos Llywodraeth Cymru. Gofynnodd y Cynghorydd R Howells pa gamau y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â hyn gan nad oedd yn cael ei adrodd yn aml oherwydd ei fod yn digwydd yn hwyr yn y nos. Anogodd yr Uwch-arolygydd White drigolion i roi gwybod am hyn er mwyn i'r heddlu ddeall maint y mater. Roedd gan yr heddlu dîm troseddau gwledig pwrpasol yn ogystal â mynediad at ddronau a allai gefnogi hyn. Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd Welty y byddai'n cysylltu gyda'r Cynghorydd R Howells i drafod ymhellach.

 

§     Cododd y Cynghorydd Morris dân gwyllt a'r effaith a gafodd ar anifeiliaid anwes, yn enwedig gan fod tân gwyllt yn aml yn cael ei oleuo yn y cyfnod cyn Noson Tân Gwyllt hyd at fis Rhagfyr.  Gofynnodd y Cynghorydd Morris beth mae'r heddlu yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn.  Dywedodd yr Uwch-arolygydd White fod gweithrediad pwrpasol blynyddol o Galan Gaeaf i Noson Tân Gwyllt yn ogystal â gwaith ataliol yn ystod yr wythnosau/misoedd cyn y dyddiadau.  Mae'r heddlu'n cydweithio'n agos â Safonau Masnach a'r Arolygydd Giles i addysgu pobl am y defnydd priodol o dân gwyllt.  Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd White y byddai'n cysylltu gyda'r Cynghorydd Morris  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cynnig i'r Cyngor: Lwfans Tanwydd y Gaeaf

Cododd y Cynghorydd Evans y Cynnig a ganlyn:

 

Bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar y lwfans tanwydd gaeaf yn gadael hyd at 30,000 o bensiynwyr yn etholaethau San Steffan dros Gasnewydd, yn meddwl tybed a ddylid gwresogi eu cartrefi y gaeaf hwn, neu roi bwyd ar eu bwrdd.

 

 

Mae'r toriad hwn yn golygu y gallai mwy na £4 miliwn gael ei dynnu o'u pocedi.

 

 

Mae’r Cyngor hwn yn annog Llywodraeth y DU i adfer y taliad tanwydd gaeaf yn llawn i gefnogi pensiynwyr yng Nghasnewydd.

 

 

Mae’r Cynnig i’w gynnig gan y Cynghorydd Evans a’i eilio gan y Cynghorydd Routley.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Evans i gyflwyno'r Hysbysiad o Gynnig, gyda'r Cynghorydd Routley i’w eilio.

 

Bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar y lwfans tanwydd gaeaf yn gadael hyd at 30,000 o bensiynwyr yn etholaethau San Steffan sy'n cwmpasu Casnewydd, yn meddwl a ddylent wresogi eu cartrefi y gaeaf hwn, neu roi bwyd ar eu bwrdd.

  

Mae'r toriad hwn yn golygu y gallai mwy na £4 miliwn gael ei dynnu allan o'u pocedi.

  

Mae'r Cyngor hwn yn annog Llywodraeth y DU i adfer y taliad tanwydd gaeaf yn llawn i gefnogi pensiynwyr yng Nghasnewydd.

 

Darllenodd y Cynghorydd Evans yr Hysbysiad o Gynnig a manteisiodd ar y cyfle i ychwanegu:

 

"Rwy’n credu bod Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, yn crynhoi'r sefyllfa'n braf.

  

"Mae Age Cymru yn credu'n gryf mai torri’r taliad tanwydd gaeaf y gaeaf hwn, heb bron ddim rhybudd a dim mesurau iawndal i amddiffyn pensiynwyr tlawd ac agored i niwed, yw'r penderfyniad anghywir.??   

  

"Mae pobl wedi bod yn rhannu gyda ni sut y byddan nhw'n ei chael yn anodd y gaeaf hwn heb y taliad tanwydd gaeaf, rydyn ni wedi clywed gan bobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor sydd angen cael cartref cynnes ac y bydd angen iddyn nhw dorri nôl ar fwyd i sicrhau bod eu cartrefi'n gynnes."

  

Gyda phrisiau tanwydd yn cynyddu a llawer o bensiynwyr yn byw ychydig uwchlaw'r trothwy, i fod yn gymwys i gael credyd pensiwn, heb os, bydd y polisi hwn yn achosi i nifer fawr o bensiynwyr ddiffodd eu gwres y gaeaf hwn, o Alway i Allt-yr-ynn a Th?-du i Ringland'.

  

Cefnogodd y Cynghorydd Routley y cynnig a chadwodd yr hawl i siarad.

 

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr aelodau i gynnig y Diwygiad.

 

Cynigiodd yr Arweinydd y Diwygiad canlynol i'r cynnig:

 

Diwygiad yr Arweinydd i'r Hysbysiad o Gynnig:

 

Mae'r Cyngor yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i gynnal prawf modd ar y lwfans tanwydd gaeaf ac y gallai hynny roi rhai pensiynwyr mewn sefyllfa ariannol anodd y gaeaf hwn.  Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio'n ddiflino i gefnogi'r pensiynwyr yr effeithir arnynt yng Nghasnewydd trwy'r dull hwn:        Nodi’r pensiynwyr hynny sydd â'r angen mwyaf.

           Gweithio ochr yn ochr â sefydliadau'r trydydd sector i nodi'r pensiynwyr hynny nad ydynt yn hawlio credyd pensiwn, er gwaethaf y ffaith eu bod yn gymwys i’w gael.

           Manteisio i'r eithaf ar Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru i gefnogi pensiynwyr Casnewydd yn ystod y gaeaf hwn.

           Ymchwilio i gynlluniau pwrpasol i gynnig cymorth pellach.

  

Yn y cyfamser, gall trigolion ffonio llinell gymorth Credyd Pensiwn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0700 991234.

 

Eiliodd y Cynghorydd Lacey y diwygiad i'r cynnig gan dynnu sylw at y ffaith ei fod yn rhoi ymateb ymarferol, sy'n canolbwyntio ar weithredu i'r heriau sy'n wynebu rhai o bensiynwyr Casnewydd. Roedd y diwygiad yn cynnig cynllun clir i wneud i hynny ddigwydd drwy gymryd camau i helpu'r rhai mewn angen.

 

Roedd y cynnig gwreiddiol yn canolbwyntio ar lythyr i lywodraeth y DU. Drwy weithredu'n  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2023-2024 pdf icon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Lleihau Tlodi i gyflwyno'r adroddiad. 

 

Rydw i’n hapus i rannu'r adroddiad yma heddiw.

 

Mae'r adroddiad monitro blynyddol hwn yn nodi cynnydd Cyngor Dinas Casnewydd yn erbyn ei ymrwymiadau Cymraeg yn ystod blwyddyn ariannol 2023-2024.

 

Mae angen cyhoeddi'r adroddiad monitro atodedig ar wefan y Cyngor yn unol â chyfrifoldebau statudol dan Safonau'r Gymraeg.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Fouweather yr adroddiad ac ychwanegodd mai'r unig ffordd i wella Addysg Gymraeg oedd gwella'r ddarpariaeth mewn ysgolion Saesneg eu hiaith. 

 

Penderfynwyd:

Cymeradwyodd y Cyngor Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2023-24.

 

7.

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Canol y Ddinas (GDMC) pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Lleihau Tlodi i gyflwyno'r adroddiad. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Drewett y gallai cynghorwyr fod eisiau cyfeirio at GDMCau yn eu hwardiau nad oeddent ar agenda'r Cyngor ac y byddai'n hapus i drafod hyn y tu allan i'r cyfarfod.

 

Mae'r GDMC wedi bod ar waith ar gyfer ardal Canol y Ddinas ers sawl blwyddyn. Sefydlwyd y Gorchymyn diweddaraf ar 13 Rhagfyr 2021 a byddai'n dod i ben ar 12 Rhagfyr 2024.  

 

Amlinellodd y Cynghorydd Drewett waharddiadau'r GDMC a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad a'u cynnwys yn y Papurau Agenda.

 

Felly, gofynnwyd i'r Cyngor ystyried adnewyddu GDMC Canol y Ddinas a chytuno i’w adnewyddu.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§     Gobaith yr Arweinydd oedd y byddai'r adroddiad yn derbyn cefnogaeth unfrydol.

 

§     Ychwanegodd y Cynghorydd Fouweather fod hyn mewn grym ar sawl ffurf dros y 10 mlynedd diwethaf ac roedd yn siomedig bod yr ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn wael.

 

§     Cytunodd y Cynghorydd Al-Nuaimi gyda'r Cynghorydd Fouweather ac roedd yn siomedig gyda'r ymatebion.  Ond yn gyffredinol cefnogodd yr adroddiad.

 

§     Cefnogodd y Cynghorydd Evans yr adroddiad.

 

§     Croesawodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a gofynnodd pa mor gyflym y byddai hyn yn cael ei fabwysiadu er mwyn gweld canlyniadau. Ymatebodd y Cynghorydd Drewett gan ddweud bod gwelliannau eisoes yn digwydd a'r gobaith oedd y bydd hyn yn parhau.

 

§     Croesawodd y Cynghorydd M Howells ddatganiad agoriadol y Cynghorydd Drewett ynghylch ardaloedd eraill a byddai'n cysylltu ag ef ar ôl y cyfarfod, gan ychwanegu ei gefnogaeth i'r adroddiad.

 

Penderfynwyd:

Adnewyddodd y Cyngor Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Canol y Ddinas. 

 

8.

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Maesglas (GDMG) pdf icon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Lleihau Tlodi i gyflwyno'r adroddiad. 

 

Amlinellodd y Cynghorydd Drewett waharddiadau'r GDMC a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad a'u cynnwys yn y Papurau Agenda.

 

Gofynnwyd i'r Cyngor gytuno ar estyn GDMC Maesglas.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§     Cefnogodd y Cynghorwyr Marshall, Perkins, Whitehead a Thomas y GDMC.

§     Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather i'r Cynghorydd Drewett edrych ar fesurau atal ac ymgysylltu â throseddwyr.

 

Penderfynwyd:

Estynnodd y Cyngor Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Maesglas.

 

9.

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Pilgwenlli (GDMG) pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Lleihau Tlodi i gyflwyno'r adroddiad. 

 

Amlinellodd y Cynghorydd Drewett waharddiadau'r GDMC a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad a'u cynnwys yn y Papurau Agenda.

 

Gofynnwyd i'r Cyngor gytuno i adnewyddu GDMC Pilgwenlli.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Adan at fesurau newydd a ychwanegwyd yn yr adroddiad gan Heddlu Gwent a'r gobaith oedd y byddent yn dilyn hyn i fyny.  Cefnogodd y Cynghorydd Adan yr adroddiad hefyd.

 

Penderfynwyd:

Adnewyddodd y Cyngor Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Pilgwenlli.

 

10.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2023-2024 pdf icon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Hourahine, Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu i gyflwyno'r adroddiad.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Hourahine bynciau a drafodwyd dros y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer pob un o'r Pwyllgorau Craffu Perfformiad.

 

Roedd y camau gweithredu a gynlluniwyd ar gyfer y cyfnod adrodd wedi’u cwblhau ac roeddent wedi gwella'r swyddogaeth graffu. Roedd camau gweithredu yn y dyfodol yn ceisio parhau’r gwelliant hwn ac  ymgysylltu â rhanddeiliaid ymhellach ar bob lefel mewn democratiaeth leol. 

 

Roedd y Cynghorydd Hourahine yn edrych ymlaen at gadeirio'r pwyllgor Trosolwg a Chraffu a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'w gydweithwyr craffu ac Aelodau'r Cabinet, Swyddogion yr Awdurdod Lleol a phartneriaid am eu cefnogaeth barhaus.

  

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§  Roedd y Cynghorydd Fouweather o’r farn bod Craffu wedi gwella dros y blynyddoedd ac roedd am ddiolch i swyddogion am eu gwaith ar y pwyllgor craffu, gan ychwanegu bod yr holl fynychwyr yn barchus ac yn gwrtais.  Roedd y Cynghorydd Fouweather yn falch nad oedd Aelodau'r Cabinet a oedd yn mynychu yn troi at swyddogion am gyngor mwyach gan eu bod wedi dysgu eu briff ac yn gallu ateb cwestiynau.

 

Penderfynwyd:

Gwnaeth y Cyngor adolygu, nodi a gwneud sylwadau ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu ar gyfer 2023-24 a chymeradwyodd y camau gweithredu wedi’u nodi yn adran 4 yr adroddiad hwnnw.

 

11.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2023-2024 pdf icon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Mr Andrew Mitchell i gyflwyno'r adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad blynyddol yn ymdrin â'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024.

 

Roedd y Cadeirydd yn falch o adrodd na chafodd unrhyw gwynion difrifol am gamymddwyn eu cyfeirio at y Pwyllgor Safonau gan yr Ombwdsmon yn ystod y cyfnod adrodd ac na chafodd unrhyw gwynion eu cyfeirio i'w penderfynu gan y Pwyllgor dan Gam 3 y Protocol Datrysiad Lleol. Parhaodd y gofynion hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr Dinas, cynghorau cymuned a'u clercod i gael eu monitro fel rhan o flaenraglen waith y Pwyllgor. 

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith yn ystod y cyfnod hwn ac roedd yn edrych ymlaen at gyflawni rhaglen waith y Pwyllgor yn ystod 2024.

 

Diolchodd y Cadeirydd hefyd i Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd a gefnogodd y Cadeirydd a'i gyd-aelodau pwyllgor. 

  

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§  Ar ran yr holl aelodau, ychwanegodd y Cynghorydd Routley fod pob pwyllgor yn elwa o gefnogaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Penderfynwyd:

Derbyniodd y Cyngor Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2023/24 a nododd y flaenraglen waith.

 

12.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

I roi cyfle i Gynghorwyr ofyn cwestiynau i Arweinydd y Cyngor yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor.

 

Proses:

Ni neilltuir mwy na 15 munud yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau i Arweinydd y Cyngor.

 

Rhaid cyfeirio’r cwestiwn drwy’r Maer neu’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y sawl sy’n cael ei holi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyn bwrw ymlaen â chwestiynau, rhoddodd yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol.

 

Cyhoeddiadau’r Arweinydd

 

G?yl Fwyd

Ein digwyddiad arddangos nesaf oedd G?yl Fwyd Casnewydd ar 11, 12 a 13 Hydref.

  

Yr Urdd

Bydd Casnewydd yn cynnal Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf erioed yn 2027, gan annog y Gymraeg drwy dargedu'r bobl ifanc.

  

Cyllid i Ysgolion

Dyrannodd y Cabinet £600,000 o gyllid ychwanegol i ysgolion uwchradd y ddinas.

Ymwelodd yr Arweinydd â phob ysgol uwchradd ar ddiwedd tymor yr haf i siarad â phenaethiaid am eu gwaith a chael syniad o'r heriau yr oeddent yn eu hwynebu. 

 

Roedd y cyllid ychwanegol i’w gael drwy ddefnyddio arian a oedd ar gael drwy danwariant gweddilliol y flwyddyn flaenorol ac fe'i targedwyd i leddfu pwysau amrywiol ar draws ysgolion uwchradd ein dinas.

 

Roedd yn bwysig sicrhau bod disgyblion ysgolion uwchradd yn cael cymaint o gyfle i ennill profiad ac ennill cymwysterau yr oedd eu hangen arnynt. Byddai'r cymorth hwn yn helpu i ddiogelu'r cyfleoedd hynny ac yn galluogi ysgolion i barhau i ddarparu addysg o safon i bobl ifanc y ddinas.

 

Hwyl yr Haf a Sblash ’Newydd

Mae dros 1,000 o blant a phobl ifanc - a'u teuluoedd - wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim dros wyliau'r haf a drefnwyd gan wasanaeth ieuenctid a chwarae'r Cyngor.

Roedd dros 500 o oriau o sesiynau'n cynnwys cynlluniau chwarae, aros a chwarae, gwneud breichledi, gwneud pitsa a bomiau bath, aml-chwaraeon, creu podlediadau, brwydrau NERF, a gweithdai crochenwaith. Aeth cannoedd o bobl i’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn Rodney Parade ym mis Awst a oedd yn llwyddiant ysgubol, er gwaethaf y cawodydd.

 

Roedd cynlluniau eisoes yn cael eu gwneud ar gyfer gwyliau'r Hydref a'r Nadolig.

 

Un o uchafbwyntiau eraill yr haf oedd agoriad Sblash 'Newydd a'r cyfleusterau chwarae newydd ym Mharc Tredegar.

 

Byddai'n ailagor y gwanwyn nesaf ac roedd hyd yn oed mwy o welliannau i'r ardal a'r cyfleusterau ar y ffordd.

 

Roedd yr Arweinydd ac Arweinydd yr wrthblaid i fod i fynd ddydd Gwener yr wythnos nesaf, gan geisio codi arian i elusennau'r Maer - canolfan blant Sparkle a'r gr?p gwirfoddol SARA (Cymdeithas Achub Ardal Hafren).

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'w gydweithwyr ymuno â nhw am 4.30pm i'w gwylio yn cael eu socian gan y bwced mawr.

 

Marc ansawdd

Mae gwasanaeth ieuenctid a chwarae Casnewydd wedi derbyn gwobr fawreddog gan Gyngor Gweithlu Addysg y Cyngor, gan gyflawni marc ansawdd arian ar gyfer gwaith ieuenctid.

 

Roedd tîm Casnewydd eisoes wedi ennill y wobr efydd ac er mwyn ennill arian bu'n rhaid arddangos ei fod yn hyrwyddo arfer cynhwysol, yn dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn bodloni anghenion pobl ifanc.

 

Llongyfarchodd yr Arweinydd yr holl staff.

 

Rhestrodd yr Arweinydd lwyddiannau eraill yn fyr hefyd, gan gynnwys Gwobr y Faner Werdd yng Nghoed Ffawydd yn ddiweddar.

 

Aeth yr Arweinydd gyda thîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Cyngor ddydd Llun ar gyfer Wythnos Gweithredu, gan gwrdd â thrigolion canol y ddinas a thrafod a mynd i'r afael â phroblemau.

 

Roedd yr Arweinydd hefyd yn cynnal ymweliadau ward, gan ddechrau  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

Rhoi cyfle i ofyn cwestiynau i Aelodau'r Cabinet yn unol â'r Rheolau Sefydlog.

 

Proses:

Ni fydd mwy na 10 munud yn cael eu dyrannu yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau i bob Aelod Cabinet.

 

Rhaid i aelodau gyflwyno eu cwestiynau arfaethedig yn ysgrifenedig ymlaen llaw yn unol â’r Rheolau Sefydlog.  Os na all aelodau ofyn eu cwestiwn ar lafar o fewn yr amser a neilltuwyd, bydd y cwestiynau sy'n weddill yn cael eu hateb yn ysgrifenedig.  Bydd y cwestiwn a'r ymateb yn cael eu hatodi i'r cofnodion.

 

Rhaid cyfeirio’r cwestiwn drwy’r Maer neu’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y sawl sy’n cael ei holi.

 

Bydd cwestiynau’n cael eu gofyn i Aelodau’r Cabinet yn y drefn ganlynol:

 

ff.         Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg a Blynyddoedd Cynnar

ii.         Aelod Cabinet dros Gymuned a Llesiant

iii.         Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai

iv.        Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

v.         Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol

vi.        Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bio-amrywiaeth

vii.        Aelod Cabinet dros Isadeiledd ac Asedau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cwestiwn 1: Cwestiwn i’r Aelod Cabinet dros Dai a Chynllunio

  

Y Cynghorydd Evans:

Mae rhai enghreifftiau da o dai amlfeddiannaeth, ond yn anffodus prin ac anaml yw’r rhain. Mae eraill yn difetha cymdogaethau gydag is-safon wael, llety gyda ffryntiadau llawn tyfiant ac anniben a gall y nifer ohonynt newid cymeriad ardal. Beth mae'r Aelod Cabinet yn mynd i'w wneud i leihau a gwaredu tai amlfeddiannaeth o ansawdd gwael?

  

Ymateb gan y Cynghorydd Adan:

Mae cynlluniau trwyddedu gorfodol ac ychwanegol yn galluogi rheoleiddio safonau diogelwch mewn tai amlfeddiannaeth gan sicrhau bod "deiliad y drwydded" a'r "rheolwr" yn 'Addas ac yn Briodol’ i ymgymryd â'r rolau hyn. Mae'r cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer tai amlfeddiannaeth yng Nghasnewydd bellach wedi'i gyflwyno am bum mlynedd arall gan helpu i reoleiddio a gwella amodau eiddo ar gyfer iechyd a diogelwch trigolion ac mae'n aros am ystyriaeth drwy'r broses ddemocrataidd. 

 

Mae hyn yn cyfyngu ar y cyfle i landlordiaid 'twyllodrus' weithredu yng Nghasnewydd. Mae gan swyddogion bwerau eraill hefyd i reoleiddio amodau pob eiddo ar draws y ddinas. Mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn darparu trothwyon i atal gor-grynodiadau o dai amlfeddiannaeth mewn ardal (gydag uchafswm trothwy o 15%). Bydd y polisi tai amlfeddiannaeth yn cael ei ystyried ymhellach a'i ymgorffori yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus maes o law.

 

Atodol:

Roedd y Cyngor wedi erlyn amcangyfrif o dri allan o'r 450 o gwmnïau ac eisiau sicrwydd mai diogelwch trigolion oedd y flaenoriaeth.

 

Ymateb:

Roedd y Cyngor o dan bwysau eithafol yngl?n â'r gyllideb ac adnoddau. Cymerwyd camau i liniaru hyn trwy dechnoleg. Nid oedd yn briodol gwneud sylw ar achosion unigol ond roedd camau’n cael eu cymryd i nodi landlordiaid ac roedd y Cyngor yn annog gwybodaeth dan arweiniad y gymuned i helpu gydag erlyniadau.

 

Cwestiwn 2: Cwestiwn i’r Aelod Cabinet dros Dai a Chynllunio

  

Y Cynghorydd Reeks:

Yn dilyn fy nghwestiynau parhaus am y Strategaeth Toiledau Lleol dros y chwe mis diwethaf, mae'r Aelod Cabinet bellach wedi cadarnhau bod y strategaeth wedi'i hadolygu yn unol â phennod 10 y strategaeth wreiddiol a'i bod ar gael ar-lein. Mae Pennod 10 yn nodi amserlenni a nodir gan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, nad ydynt fel y gwyddom wedi cael eu dilyn, ac mae hefyd yn nodi "y bydd y Cyngor yn cyhoeddi datganiad o'r camau y mae wedi'u cymryd yn unol â'r strategaeth" – unwaith eto nid yw hyn wedi'i wneud. Yn y bôn, mae'r adolygiad a gynhaliwyd wedi cwtogi’r 16 pwynt cynllun gweithredu gwreiddiol i 14, gan ddileu camau gweithredu fel pwynt 1 a sicrhaodd yn wreiddiol y byddai'r Cyngor yn diogelu toiledau hygyrch i'r cyhoedd ar gyfer y dyfodol a phwynt 13 a oedd yn astudiaeth ddichonoldeb ynghylch darparu toiledau cyhoeddus dros nos i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrwy hynny gynorthwyo'r heddlu gyda’u dyletswyddau. Yn syml, mae'r cynllun gweithredu newydd yn dweud bod pob pwynt yn "parhau". 

 

A all yr Aelod Cabinet esbonio pam mai ychydig iawn o weithredu sydd wedi bod ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 13.