Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mercher, 12fed Mehefin, 2024 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Taylor Strange, Governance Officer  E-bost: democratic.services@newport.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

None

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The minutes of the meeting held on 12 June 2024 were submitted.

 

3.

Rheoli Datblygu Amserlen Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(1) Bod penderfyniadau yn cael eu cofnodi fel y dangosir ar yr Atodlen Ceisiadau Cynllunio sydd ynghlwm; Atodiad A.

 

(2) Bod y Rheolwr Datblygu a Chynllunio â’r caniatâd i lunio unrhyw ddiwygiadau i amodau neu resymau dros wrthod yn sgil yr Atodlen Ceisiadau Cynllunio sydd ynghlwm.

 

4.

Archwilio Cymru - Adolygiadau Cynllunio - Cyngor Dinas Casnewydd pdf icon PDF 188 KB

Please see the attached appendix via the council's webpage.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymru a nododd y Pwyllgor y canfyddiadau. Isod ceir y cwestiynau a godwyd mewn perthynas â'r adroddiadau.

 

Cwestiynau Aelodau'r Pwyllgor:

 

§  Holodd y Cynghorydd Watkins am ble byddai'r data sy’n ymwneud â chael dealltwriaeth glir o safleoedd fel yr amlygwyd ar dudalen 54 y pecyn adroddiadau yn cael ei storio.

 

Nododd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu mai'r dymuniad fyddai cadw gwybodaeth am safleoedd tir llwyd yng Nghasnewydd gyda'r data hwn yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru, ond nododd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu ymhellach y byddai angen mwy o arweiniad arnynt gan Lywodraeth Cymru i greu'r system orau ar gyfer storio a rhannu data o'r fath.

 

§  Gofynnodd y Cynghorydd Watkins a allai aelodau naill ai roi mewnbwn ar y newidiadau arfaethedig yn dilyn yr adolygiad o hyfforddiant neu a allent gael sesiwn i drafod eu barn ar y newidiadau.

 

Nododd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu fod yr hyfforddiant yn ymwneud â hyfforddiant staff cynllunio a thynnwyd sylw at y ffaith y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio unwaith bod yr adolygiad a'r hyfforddiant wedi’u cwblhau. Nodwyd y gellid cynnal sesiwn adolygu ar gyfer aelodau yn dilyn yr adolygiad a chwblhau'r hyfforddiant staff

 

§  Tynnodd y Cynghorydd Reynolds sylw at yr awydd i gael hyfforddiant gloywi yn ogystal â mwy o hyfforddiant mewn perthynas â rolau aelodau ar y Pwyllgor Cynllunio. Hoffai'r Cynghorydd Reynolds hefyd gael adolygiad o’r prosesau mewn perthynas â phrotocolau siaradwyr cyhoeddus.

 

Tynnodd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu sylw at y ffaith fod gan yr aelodau bob amser yr opsiwn i ofyn i'r Adran Gynllunio am ragor o hyfforddiant a rhoddodd wybod i'r Pwyllgor y gallai hyn gael ei ychwanegu at un o agendâu’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol i drafod pa hyfforddiant y byddai aelodau'n dymuno ei gael.

 

Nododd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu hefyd mai un o'r argymhellion oedd ymchwilio i'r prosesau a'r cod ymarfer, felly byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Routley am ansawdd yr adroddiad a ddarparwyd a llongyfarchodd y swyddogion cynllunio, yr Adran Gynllunio ac Archwilio Cymru am y gwaith a wnaed.