1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020 fel cofnod cywir. 

 

 

 

4.

Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys pdf icon PDF 4 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd ei fod yn cynnwys y Strategaeth Cyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a bod angen i gyfarfod y Cyngor llawn eu cymeradwyo.  Cadarnhaodd yr adroddiad:

 

(i)                    y rhaglen cyfalaf, yn rhan o’r Strategaeth Cyfalaf, a’r

(ii)                   gwahanol derfynau benthyca a dangosyddion eraill yn rhan o Strategaeth Rheoli’r Trysorlys.

Mae'r Strategaeth Cyfalaf yn nodi'r cyd-destun hirdymor (10 mlynedd) ar gyfer gwneud penderfyniadau cyfalaf ac mae'n dangos bod yr awdurdod lleol:

 

-       yn cymryd penderfyniadau cyfalaf/buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth;

-       yn rhoi ystyriaeth i risg/gwobr ac effaith; 

-       yn ystyried stiwardiaeth, gwerth am arian, gochelgarwch, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.  

Mae cynlluniau cyfalaf yr Awdurdod wedi'u cysylltu'n gynhenid â gweithgareddau rheoli'r trysorlys y mae'n ymgymryd â nhw, felly mae Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn cael ei chynnwys ar y cyd ag adroddiad y Strategaeth Cyfalaf.  Mae'r adroddiad yn nodi bod effaith refeniw'r ddwy strategaeth wedi'i chynnwys yn yr adroddiad cysylltiedig ar y gyllideb refeniw.  Atodiadau i’r adroddiad wedi eu cynnwys:

 

·         Atodiad 1 – manylion y rhaglen gyfalaf bresennol;

·         Atodiad 2 - y Strategaeth Cyfalaf tymor hirach, ac,

·         Atodiad 3 - Strategaeth a Rheolaeth y Trysorlys.

Canolbwyntiodd yr Arweinydd yn gyntaf ar Strategaeth Cyfalaf 2019/20 i 2028/29 sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth cyfalaf y Cyngor ac mae'n unol â'r gofyniad a osodir ar Awdurdodau Lleol gan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (2017) i bennu Strategaeth Cyfalaf. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod Cod CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a  Chyfrifeg) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol benderfynu ar eu Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (DSRhT) a'r Dangosyddion Darbodus (DDau) yn flynyddol; mae hyn yn gofyn am gymeradwyaeth gan gyfarfod llawn o’r cyngor yn dilyn argymhelliad gan y Cabinet.  Cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd hyn yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru a'i ddwyn i sylw'r Cyngor yn ôl yr angen.

 

Mae meysydd allweddol yn cynnwys:

 

(i)                    ymestyn rhaglen cyfalaf 5 mlynedd bresennol 2022/23 tan 2024/25 ar gyfer y prosiectau hynny a gymeradwywyd sydd y tu hwnt i'r rhaglen gyfredol a'i chost ariannu;

(ii)                   yr amcanestyniad tymor hirach ar gyfer costau ariannu cyfalaf.

O ran y rhaglen cyfalaf 5 mlynedd – cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cabinet, ym mis Chwefror 2018, wedi cymeradwyo rhaglen cyfalaf 5 mlynedd newydd o 2018/19 i 2022/23 - mae paragraff 13 yr adroddiad yn cyfeirio at hyn.  Eglurodd yr Arweinydd fod y strategaeth cyfalaf yn amlinellu'r broses ar gyfer cymeradwyo prosiectau i'r rhaglen cyfalaf, gan sicrhau eu bod yn bodloni blaenoriaethau gwasanaeth allweddol ac, yn gyffredinol, yn cadw o fewn cyrraedd i fforddiadwyedd. 

 

Yn 2020/21, mae gan y Cyngor gynlluniau cyfalaf gwerth £44.6 miliwn.  Dros y rhaglen 5 mlynedd a fydd yn dod i ben 2024/25, mae'r rhaglen yn un uchelgeisiol gyda:

 

·         tua £186 miliwn o brosiectau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo;

·         tua £16 miliwn o arian cyfalaf ychwanegol ar gyfer prosiectau pellach, gwerth cyfanswm o £202 miliwn.

·         Mae'r Cyngor yn buddsoddi dros £70 miliwn yn ei ysgolion, yn ei asedau hanesyddol a diwylliannol megis y Bont Gludo, yn cefnogi  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cyllideb Refeniw a MTFP: Cynigion Terfynol pdf icon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'r Cabinet a chadarnhaodd ei fod yn cynnwys canlyniadau'r ymgynghoriad ar y  gyllideb ddrafft a nodwyd yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr 2019 a'r sefyllfa bresennol ar amlen ariannu'r Cyngor ar ôl derbyn y grant cynnal refeniw drafft ar gyfer 2020/21.

 

O ystyried yr uchod, mae angen i’r Cabinet gytuno’r cynigion cyllideb terfynol, gan gynnwys lefel y Dreth Gyngor a argymhellwyd.  Caiff lefel y Dreth Gyngor ei hadolygu a'i chytuno yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Iau 27 Chwefror 2020.

 

Roedd y gyllideb ddrafft yn seiliedig ar nifer o dybiaethau, a'r un allweddol oedd setliad y Grant Cynnal Refeniw ond hefyd, er enghraifft, ar bethau fel lefelau darpariaeth ar gyfer codiadau cyflog a chynnydd mewn prisiau contractau.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd, ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, fod yr awdurdod wedi cael:

 

·         cadarnhad o’r grant cynnal refeniw;

·         cadarnhad o’r symiau ardollau;

·         cadarnhad o gynnydd isafswm cyflog y DU (sy'n effeithio ar nifer o brisiau contractau gofal cymdeithasol allweddol);

·         mae trafodaethau cyflog cenedlaethol ar gyfer staff Llywodraeth Leol wedi parhau;

·         mae cwpl o gynigion newydd ar gyfer arbedion yn y gyllideb wedi'u cadarnhau hefyd, nad oes angen ymgynghori'n ehangach â'r cyhoedd yn eu cylch, ac sy'n cael eu gweithredu o dan ddirprwyaethau Penaethiaid Gwasanaethau.

Dangosir y sefyllfa ar ddyddiad heddiw a sut y mae'r sefyllfa wedi newid ers y gyllideb ddrafft a adroddwyd ym mis Rhagfyr 2019 yn nhabl 2 yr adroddiad.   Yn gryno:

·         roedd bwlch yn y gyllideb o tua £5.6 miliwn bryd hynny;

·         roedd y grant cymorth refeniw yn well na'r disgwyl yn rhoi tua £7.3 miliwn yn fwy o gyllid nag a dybiwyd i ddechrau;

·         arbedion o tua £5.2 miliwn a nodwyd eisoes ym mis Rhagfyr 2019 a nodwyd dau gynnig arall a oedd yn cyfateb i £300,000;

·         ystyried a chymeradwyo pwysau cost pellach o £1.8 miliwn (a ddangosir yn nhabl 1) gan y Cabinet a manteisio ar y cyfle i atal y ddibyniaeth ar gronfeydd wrth gefn er mwyn mantoli'r gyllideb.

 

Manylir ar y pwysau o ran costau ac arbedion newydd o fewn yr atodiadau  ar gyfer costau a chynilion yn yr adroddiad sydd wedi arwain at sefyllfa heddiw o falans o £3.9 miliwn mewn llaw.

Wrth ystyried beth i'w wneud â'r balans mewn llaw, ystyriodd y Cabinet yr adborth i'r ymgynghoriad ar y gyllideb – ar y cynigion drafft eu hunain a'r asesiadau effaith drafft cysylltiedig ar degwch a chydraddoldeb (AEDCh).  Lle bo angen, mae'r AEDCh wedi cael ei ddiweddaru ac mae'r Cabinet wedi ystyried y rhain wrth ddod i benderfyniad terfynol.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o weld y gwaith yr oedd y Comisiwn tegwch wedi'i wneud ar ddatblygu matrics newydd i gynorthwyo eu hymateb i'r ymgynghoriad.

 

 

Diolchodd yr Arweinydd i'w chydweithwyr yn y Cabinet am y sylw a dalwyd i'r broses ymgynghori a'r diwydrwydd a roddwyd i'r ymatebion a ddaeth i law; diolchodd yr Arweinydd i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad hefyd.  Mae manylion yr ymarfer a nifer yr ymatebion a gafwyd wedi'u cynnwys yn adran 6 yr adroddiad; Nododd yr arweinydd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Canlyniadau Cyfnod Allweddol 4: Haf 2019 pdf icon PDF 782 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd fod adroddiad ar ganlyniadau cyfnod allweddol 4 yn cael ei adrodd i'r Cabinet bob blwyddyn. Mae 2019 yn nodi'r set gyntaf o ddata a ryddhawyd yn unol â'r mesurau perfformiad interim, felly, ni fu'n bosibl gwneud cymariaethau â chyrhaeddiad blaenorol.  Amlinellodd yr Arweinydd y mesurau perfformiad dros dro:

Y mesur Capio Naw:

§  Llythrennedd

§  Rhifedd

§  Gwyddoniaeth

§  6 TGAU neu gymwysterau cyfatebol

o   Llythrennedd

o   Rhifedd

o   Gwyddoniaeth

o   Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y mesurau perfformiad interim yn seiliedig ar sgôr pwyntiau:

·         Yn y sgôr Capio Naw, mae'r hyn sy'n gyfwerth â 9 TGAU gradd C yn 360 pwynt

 

·         Mae llinell ffit orau o ran ysgolion unigol â'r rhanbarth wedi'i chynhyrchu yn seiliedig ar gyrhaeddiad a chanran Prydau Ysgol am Ddim o bob ysgol.

Cyflwynodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau i siarad yn fanylach am yr adroddiad.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Giles mai er gwybodaeth yn unig y mae'r adroddiad ac mae'n nodi canlyniadau haf 2019 o ddysgwyr Cyfnod Allweddol 4 yn ysgolion Casnewydd.

Mae'r mesurau perfformiad interim yn gweithio ar system sgorio pwyntiau, yn hytrach nag adrodd ar ganran y dysgwyr a gyrhaeddodd safon benodol, a chanolbwyntio ar yr ysgolion unigol yn hytrach na chyfuno data â lefel awdurdod lleol.

 

Mae'r adroddiad yn cynnwys llinell ffit orau sy'n seiliedig ar berfformiad pob ysgol ar draws Consortiwm De-ddwyrain Cymru.  Yn seiliedig ar y llinell ffit orau, mae nifer o ysgolion yng Nghasnewydd a berfformiodd yn unol â, neu'n well na, y disgwyliad a fodelwyd yn haf 2019.  Mae'r rhain yn cynnwys Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant, Ysgol Uwchradd Llanwern, Ysgol Bassaleg, Ysgol St Julian ac Ysgol Uwchradd Casnewydd.  Dwedodd yr Aelod Cabinet ei bod yn bwysig ystyried bod rhai ysgolion yng Nghasnewydd yn gwasanaethu poblogaethau amrywiol, gan gynnwys nifer sylweddol o ddysgwyr sydd efallai'n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol neu sydd â chyfraddau symudedd uchel i mewn ac allan o'r ddinas, felly nid yw cymharu perfformiad yn uniongyrchol rhwng ysgolion bob amser yn briodol.

 

Mae'r adroddiad yn cynnwys tabl sy'n dangos y gwahaniaeth ym mherfformiad dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn erbyn y rhai nad ydynt yn gymwys.  Un o flaenoriaethau Gwasanaeth Addysg y Cyngor yw lleihau'r bwlch ym mherfformiad y ddau gr?p hyn o ddysgwyr.  Fodd bynnag, wrth ddadansoddi'r tabl hwn mae'n bwysig nodi maint carfan y ddau gr?p o ddysgwyr.  Mae gan rai ysgolion ganran lawer llai o ddysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o gymharu ag eraill.  Unwaith eto, mae'r gwahaniaeth hwn ym maint y garfan yn golygu nad yw'n briodol cymharu'r bwlch rhwng perfformiad ysgolion.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet ei bod yn bwysig nodi mai dim ond un Mesur yw'r data perfformiad hwn a ddefnyddir i asesu pa mor dda y mae ysgol yn gwneud.

 

Mae categoreiddio cenedlaethol yn llywio faint o gymorth allanol sydd ei angen ar ysgol i wella:

 

§  Mae ysgolion categoreiddiad coch yn cael hyd at  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad Brexit pdf icon PDF 132 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y paratoadau Brexit a gynhelir gan y Cyngor, a chadarnhaodd ei fod yn ddilyniant i'r adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Hydref 2019.

Cadarnhaodd yr adroddiad, i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar 31 Ionawr ac mae wedi dechrau ar Gyfnod Pontio o 11 mis.

Rhagwelir na fydd unrhyw newidiadau sylweddol i'r modd y mae busnesau yng Nghasnewydd/y DU yn masnachu gyda'r UE neu mewn perthynas â symud pobl rhwng yr UE a'r DU a'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu yn y Cyngor.

Bydd yn bwysig i leisiau Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gael eu clywed ar y cyfleoedd, y risgiau a'r effeithiau posibl i fusnesau a thrigolion sy'n byw yng Nghasnewydd a Chymru.

Mae gan y DU tan 1 Gorffennaf 2020 i ymestyn y cyfnod pontio y tu hwnt i'r 31 Rhagfyr 2020 (Mae potensial i ymestyn hyn hyd at 31 Rhagfyr 2022).  Fodd bynnag, ar y cam hwn mae Llywodraeth y DU wedi datgan na fydd yn ystyried ymestyn y terfyn amser ar ôl y flwyddyn hon.

Os na chytunir ar gytundeb masnach a'i fod ar waith erbyn diwedd 2020, bydd yn rhaid i'r DU syrthio'n ôl ar delerau Sefydliad Masnach y Byd a bydd yn arwain at Brexit heb gytundeb.  

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod swyddogion y Cyngor yn parhau i fonitro'r risgiau posibl a'r effeithiau ar ddarparu gwasanaethau yng Nghasnewydd drwy Gr?p Gorchwyl a Gorffen Brexit y swyddogion dan arweiniad y Cyfarwyddwr Lle.

Mae Aelodau Cabinet a Swyddogion o’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen hefyd yn cynrychioli’r Cyngor ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Llywodraeth Cymru (LlC) a chyfarfodydd Cymru gyfan/rhanbarthol eraill ar Brexit.

Mae risg Brexit y Cyngor yn parhau i gael ei monitro drwy Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor sy'n cael ei hadrodd i'r Cabinet a'r Pwyllgor Archwilio bob chwarter.  

Ers yr adroddiad diwethaf, mae'r Cyngor wedi ymgymryd â'r gweithgareddau canlynol:

Mae Gwasanaeth Cofrestrydd y Cyngor wedi lansio gwasanaeth gwirio hunaniaeth i gefnogi ceisiadau Statws Preswylydd Sefydlog yr UE.

o  Mae ffigurau'r Swyddfa Gartref (Medi 2019) yn dangos i 2,290 o geisiadau CPSDdUE gael eu cwblhau ar gyfer dinasyddion yr UE yng Nghasnewydd.

o  Mae'r Cyngor yn cydlynu'r ddarpariaeth wythnosol o ran darpariaeth ar gyfer dinasyddion yr UE mewn partneriaeth â holl wasanaethau'r sector gwirfoddol a ariennir i gefnogi ceisiadau i'r CPSDdUE.

 

Ym mis Rhagfyr 2019 derbyniodd y Cyngor Grant Tlodi Bwyd o £80,000 gan CLlLC/Llywodraeth Cymruer mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi sy'n gysylltiedig â bwyd a allai gael ei achosi o ganlyniad i Brexit. 

o  Caiff yr arian hwn ei ddefnyddio i dargedu ardaloedd anghenus drwy Hybiau'r Cyngor a bydd hefyd ar gael i elusennau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau cymunedol i wneud ceisiadau am gyllid i'w galluogi i gyflawni eu mentrau a darparu manteision hirdymor i'r ddinas.

 

Derbyniodd y Cyngor £45,000 drwy CLlLC ar gyfer y rhaglen grant atal digartrefedda fydd yn galluogi'r Cyngor i  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Strategaeth Twf Economaidd pdf icon PDF 120 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd bod Strategaeth Twf Economaidd Casnewydd wedi'i mabwysiadu yn 2015.  Roedd y Strategaeth yn ymrwymo i weledigaeth a fframwaith 10 mlynedd ar gyfer adeiladu economi Casnewydd drwy:

a.    Gyflawni ffyniant a rennir;

b.    Creu amgylchedd economaidd rhagorol, a,

c.     Symud Casnewydd yn uwch ar y gadwyn werth.

Cytunwyd ar nifer o ganlyniadau a nodau i sicrhau y gall pobl yng Nghasnewydd gyflawni eu potensial; mae gan Gasnewydd amgylchedd cystadleuol; mae Casnewydd yn lle gwell i fyw, ac mae gan fusnesau yng Nghasnewydd gyfle i ffynnu.

Cadarnhaodd yr Arweinydd, er bod y canlyniadau a'r nodau hyn yn parhau'n berthnasol, ar ôl pum mlynedd, bod angen ailedrych ar y Strategaeth a sicrhau ei bod yn parhau'n addas at y diben ac yn gyson ag amcanion strategol ehangach y Cyngor.

Mae Casnewydd fel Dinas wedi newid ers 2015 ac mae bellach yn ddinas fwy cystadleuol; yn cael dylanwad cynyddol mewn sectorau gwerth uchel; yn elwa o sector twristiaeth sy'n ehangu'n gyflym ac sy'n gartref i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru newydd sbon; mae'n darparu mwy o gyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer gweithwyr yn y dyfodol, ac, mae'n croesawu partneriaethau rhanbarthol newydd ac ymrwymiadau'r cyngor yng Nghynllun Llesiant Casnewydd.

Mae'r adroddiad yn cadarnhau bod Strategaeth 2015 wedi cael nifer o lwyddiannau o ran sicrhau twf economaidd gan gynnwys:

o   Cynnydd o 11.7% mewn cyflogau wythnosol gros cyfwerth ag amser llawn;

o   Cynnydd o 14.9% yn y cyfraddau dechrau busnes;

o   Cynnydd o 1.7 miliwn yn nifer yr ymwelwyr, ac,

o   Cynnydd o £405 miliwn yn GYC Casnewydd.

Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn cydnabod bod rhywfaint o waith i'w wneud o hyd, gan leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau; gwella canfyddiad y cyhoedd o Gasnewydd, ac annog a chefnogi preswylwyr hunangyflogedig.

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y strategaeth wedi'i diweddaru yn cydnabod cryfderau a heriau'r ddinas ac yn cynnig nodau newydd i gefnogi'r canlyniadau gwreiddiol.  Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i bethau megis: cynyddu canran trigolion Casnewydd sydd ag NVQ lefel 4 ac uwch; mynd i'r afael â phrinder sgiliau mewn sectorau allweddol, gan gynnwys digidol, lletygarwch ac adeiladu; cefnogi'r gwaith o ddarparu mwy o ofod swyddfa Gradd A, a llety ar gyfer gweithio, yn ogystal â darparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd da; datblygu rhaglen lleihau carbon ar gyfer y sefydliad sydd â gweledigaeth carbon niwtral, a chynnal canol y ddinas fel lle deniadol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

Caiff yr holl nodau hyn eu cynnwys yn y cynllun cyflawni manwl sydd wedi'i gynnwys yn nogfen y Strategaeth wedi'i diweddaru.

Croesawodd yr Arweinydd sylwadau gan ei chyd-aelodau yn y Cabinet. 

Cytunodd cyd-Aelodau'r Cabinet ar y canlynol:

§  Casnewydd yw'r Porth i Gymru ac mae ganddi bopeth sy’n angenrheidiol i ddarparu ansawdd bywyd da i'w dinasyddion ac i ymwelwyr. 

§  Mae angen positifrwydd yn hytrach na negyddiaeth i adeiladu ar enw da Casnewydd a meithrin mwy o falchder lleol a dinesig;

§  Mae cynnydd mewn prisiau tai yn ddangosydd o bobl sydd eisiau byw yng Nghasnewydd;  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet i’r rhaglen wedi’i diweddaru.

 

10.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher 18 Mawrth 2020, am 4.00 pm yn Ystafell Bwyllgor 1, yn y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd.