Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 11eg Tachwedd, 2020 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 163 KB

Cofnodion:

Cadarnhawydcofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020 fel rhai cywir. 

 

4.

Monitro cyllideb refeniw mis Medi pdf icon PDF 603 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi’r sefyllfa fonitro refeniw fel yr oedd ym Medi. Mae’n dangos tanwariant bychan o bron i £1.7m; mae hyn yn cynnwys £1.4m o arwain wrth gefn heb ei ymrwymo, a fydd, os bydd ei angen, yn gostwng y tanwariant cyffredinol. Dywedodd yr Arweinydd efallai y bydd angen yr arian wrth gefn tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan na wyddom beth fydd effaith ail don Covid-19. Felly, efallai y bydd yn rhai i wariant y Cyngor fod uwchlaw’r hyn sydd ar gael o Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru. 

 

Mae’rtanwariant ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn gadarnhaol i’r Cyngor ac yn welliant ar y sefyllfa flaenorol yr adroddwyd arni i’r Cabinet ym mis Gorffennaf. Mae adroddiad monitro mis Medi yn rhoi eglurhad am y cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru o ran colli incwm a chynyddu gwariant yn sgil Covid-19.

 

Mater cadarnhaol arall yr adroddwyd amdano yw’r gwelliant yn rhagolygon y meysydd gwasanaeth, gan gynnwys gwelliant o £400k mewn arbedion. 

 

Nodwyd y materion allweddol canlynol ar gyfer y gyllideb, a gofynnwyd i Benaethiaid Gwasanaeth eu hadolygu a rhoi camau lliniaru ar waith i’w datrys:

 

·        Arwaethaf y gwelliant a nodwyd yn flaenorol, mae £1.1m o arbedion eto i’w gwneud. Mae hyn yn bennaf oherwydd pandemig Covid sydd wedi eu hoedi, ond wrth i’r pandemig barhau, mae perygl y gall oedi cyn cyflwyno’r arbedion hyn fynd drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf. Felly mae angen i Benaethiaid Gwasanaeth gytuno ar gamau i liniaru’r oedi hwn os na chyflwynir yr arbedion.

 

·        Fel yr adroddwyd yn y misoedd blaenorol, mae mwy o alw mewn llawer maes o ofal cymdeithasol gan gynnwys gwariant ar Asiantaethau Annibynnol Maethu Plant, sydd yn debyg o orwario o £450k a Lleoliadau Brys yn y sefyllfa bresennol yn rhagweld gorwariant o £354k. 

 

·        Mae sefyllfa’r ysgolion wedi newid ers y rhagolygon blaenorol, ac yn dangos gorwariant eleni o £1.3m, fydd yn golygu y byddant mewn sefyllfa gyffredinol o ddiffyg gwerth £186k.  Mae hon yn sefyllfa heriol iawn, ac yr ydym yn cydnabod fod ysgolion yn mynd trwy amser digynsail ac ansicr.  Fodd bynnag, wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, gyda Llywodraeth Cymru yn cadarnhau yr ad-delir costau cynyddol glanhau a thalu am staff sy’n gysylltiedig â Covid-19 trwy’r gronfa galedi, mae posibilrwydd y bydd y sefyllfa’n gwella. 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y gwnaed iawn am y gorwariant trwy arbedion ar draws meysydd gwasanaeth, gan gynnwys cryn arbedion mewn staffio, a hefyd arbedion yn y gyllideb ar gyfer Cynllun Gostwng Treth y Cyngor o £900k.   Fodd bynnag, £500k o orwario ar incwm Treth y Cyngor a gasglwyd yn gwrthweithio hyn. Gostyngodd yr incwm yn sylweddol ers dechrau’r pandemig, a bydd yn rhaid gosod swm o’r neilltu ar ddiwedd y flwyddyn rhag ofn iddo beidio cael ei gasglu. Mae’n bwysig nodi fod sefyllfa Cynllun Gostwng Treth  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Monitro Rhaglen Gyfalaf ac Ychwanegiadau - Medi 2020 pdf icon PDF 349 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad i’r Cabinet ar y sefyllfa monitro cyfalaf fel ar ddiwedd Medi a’r newidiadau i’r rhaglen ers yr adroddiad diwethaf. Mae hefyd yn rhoi cyfoesiad am yr adnoddau cyfalaf sydd ar gael a’r derbyniadau cyfalaf.

 

Dywedodd yr Arweinydd, o ran cyfoesiadau i’r rhaglen ers yr adroddiad diwethaf i’r Cabinet ym mis Awst, mae gan Gasnewydd raglen gyfalaf helaeth o fuddsoddi mewn nifer o gynlluniau pwysig ledled Casnewydd o fuddsoddi mewn ysgolion, gweithgareddau adfywio, treftadaeth a chynlluniau effeithlonrwydd ynni. Yn dilyn ychwanegiadau o fwy na £2.4m, mae’r rhaglen gyfalaf yn awr yn £206.7m.

 

Ymysg ychwanegiadau i’r rhaglen mae: buddsoddi pellach yn Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B, gan gynnwys defnyddio arian Adran 106 a sicrhawyd a nifer o grantiau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys buddsoddi mewn cerbydau trydan casglu sbwriel,  a chefnogaeth i fusnesau trwy gydol pandemig Covid-19.

 

Dengys y sefyllfa fonitro am 2020/21 lithriad pellach i flynyddoedd i ddod o £3.8m; mae hyn yn adlewyrchu proffil cyflwyno cynlluniau am weddill y flwyddyn. Mae tanwariant bychan hefyd ar brosiectau a gwblhawyd o £470,000, yn bennaf yng Ngwasanaethau’r Ddinas.

 

Mae’r adnoddau cyfalaf sydd ar gael (arian rhydd) yn dangos sefyllfa debyg i’r un a adroddwyd gynt o ryw £21m.  Fodd bynnag, cadarnhaodd yr Arweinydd, wrth i’r Cyngor ddod at ddiwedd y rhaglen bum-mlynedd hon ac edrych ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol, rhaid adlewyrchu ar effaith refeniw yr arian rhydd hwn dros y CATC ac edrych ar baramedrau cyflwyno’r rhaglen gyfalaf nesaf. Bydd hyn yn rhan o’r strategaeth gyfalaf, sy’n cael ei hadolygu a’i chyfoesi’n flynyddol ac edrychir ar strategaeth cyfalaf tymor-hir y Cyngor.  Trafodir hyn gan y Cabinet, gyda’r Cynllun Ariannol Tymor Canol, ym mis Chwefror.

 

O ran y derbyniadau cyfalaf, yr oedd yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo defnyddio’r £2.03 miliwn o dderbyniadau cyfalaf er mwyn talu premiymau benthyciadau oedd yn daladwy pan ad-dalwyd benthyciadau yn gynnar yn 2015/16.  Er bod hyn wedi rhoi arbediad net ar y pryd, yr oedd premiwm taladwy o ryw £500,000 y flwyddyn. Mae ychydig dros £2 miliwn yn weddill i’w dalu, a gellir defnyddio derbyniadau cyfalaf i dalu hyn, a galluogi rhoi arbediad i’r CATC yn 2021/22 o £507,000, sy’n gadael balans o £3.1m o dderbyniadau nas ymrwymwyd, gan gynnwys £1.1m am dderbyniadau Cyd-fentrau Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet:

 

-        nodi’r sefyllfa fonitro a chymeradwyo’r ychwanegiadau a’r llithriad sydd yn yr adroddiad;

-        nodi’r adnoddau cyfalaf sydd ar gael, gan adlewyrchu y caiff hyn ei gyfoesi fel rhan o’r strategaeth gyfalaf sydd i ddod; a,

-        cymeradwyo defnyddio derbyniadau cyfalaf a nodi balans gweddill y derbyniadau cyfalaf

Gwahoddodd yr Arweinydd gydweithwyr y Cabinet i roi sylwadau:

 

Canmolodd y Cynghorydd Giles y gwaith rhagorol yn Rhaglen Band B i Ysgolion a’r gwaith cyson sy’n gysylltiedig â hyn. Llongyfarchodd y gwasanaeth addysg a’r ysgolion am eu gwaith caled.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at dudalen 48 yr agenda - Gwasanaethau plant a Phobl Ifanc - a holodd am y cyfeiriad fod y prosiect yn cael ei gyllido gan ddyraniad  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru pdf icon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn amlinellu canfyddiadau Archwilio Cymru o’i  adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol, ymateb y cyngor, a’r camau a roddwyd ar waith. Gofynnodd yr Arweinydd i’r Cabinet nodi fod yr adolygiad wedi ei gynnal yn 2019, gan gymryd i ystyriaeth y fantolen fel ar Fawrth 2019, a chyn effaith Covid-19.  Felly rhaid deall yr adroddiad yn y cyd-destun hwnnw, er bod nifer o ganfyddiadau ac argymhellion yn dal yn briodol.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi  trosolwg eang o gynaliadwyedd ariannol y Cyngor gan roi nifer o ganfyddiadau ac argymhellion . I grynhoi, y casgliad yw fod: gan y Cyngor sefyllfa ariannol cymharol gryf, ond wedi cydnabod yn ddiweddar yr angen i ddatblygu agwedd fwy strategol a chynaliadwy i gydgyfnerthu’r sefyllfa”.  Cadarnhaodd yr Arweinydd eu bod yn cydnabod hyn, a bydd y Prif Weithredwr a benodwyd yn ddiweddar yn gweithio gyda chydweithwyr Newid Busnes a Chyllid i ddatblygu agwedd fwy strategol gyda Thimau Rheoli Strategol a Chorfforaethol y Cyngor. Yr oedd yr Arweinydd yn cydnabod y bydd hyn yn heriol oherwydd ansicrwydd cyllido gan Lywodraeth Cymru, a waethygwyd gan bandemig Covid-19. Mae cyhoeddiad setliad ariannol Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei oedi.

 

Mae’r adroddiad yn cadarnhau fod gan y Cyngor record dda o gyflwyno’i weithgareddau o fewn y gyllideb ac o gyflwyno arbedion.  Fodd bynnag, yr oedd yr Arweinydd yn cydnabod y daw hyn yn fwy heriol gan fod yr arbedion a gynigir yn fwy cymhleth a heriol i’w cyflwyno.

 

Mae’r adroddiad yn cydnabod fod gan y Cyngor lefel uchel o arian wrth gefn y gellir ei ddefnyddio, ac er bod hynny yn rhoi peth gwytnwch ariannol, mae’r rhan fwyaf o bell ffordd wedi eu clustnodi ar gyfer prosiectau penodol, ac y mae’r darlun wedi ei anffurfio braidd oherwydd bod a wnelo tua 50% o’r arian wrth gefn a thalu costau PFI y Cyngor yn y dyfodol. Nodwyd, petai’r arian wrth gefn yn cael ei ddefnyddio i dalu am bethau yn y tymor byr, bydd angen cael arian yn ei le. I grynhoi, nid oes atebion hawdd na fydd yn cael effaith, ond y mae’r arian wrth gefn yn rhoi peth gallu fel ateb os nad oes yr un ateb arall. 

 

Nododd yr adroddiad fod canfyddiadau manwl yn Atodiad 1 (Cymraeg) ac Atodiad 2 (Saesneg). 

 

Yr oedd yr Arweinydd yn falch fod Archwilio Cymru wedi gwneud sylwadau mor gadarnhaol am reolaeth ariannol y Cyngor.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet nodi canlyniad yr adolygiad, ymateb y Cyngor a rhoi’r camau angenrheidiol a godwyd ar waith. 

 

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd y Cabinet a chymeradwyo yn unfrydol:

 

i)                 i nodi canlyniadau’r adroddiad ac,

ii)                i’r swyddogion roi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd eu maes gwasanaeth, gan roi’r camau rheoli angenrheidiol ar waith.

 

7.

Archwilio Cymru - Archwiliad o Gynllun Gwella 2020-21 Cyngor Dinas Casnewydd (Tystysgrif Cydymffurfiaeth) pdf icon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhau fod y dystysgrif cydymffurfio wedi ei chyhoeddi gan Archwilio Cymru yn dilyn eu harchwiliad o berfformiad y Cyngor am 2019/20.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd mai Archwilio Cymru oedd Archwilwyr Allanol y Cyngor, ac y mae ganddynt ddyletswydd i sicrhau fod cyrff cyhoeddus fel Cyngor Casnewydd yn meddu ar y trefniadau angenrheidiol i sicrhau darbodaeth, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd wrth ddefnyddio ei adnoddau i gyflwyno gwasanaethau’r  Cyngor.

 

Mae gwaith Archwilio Cymru hefyd yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 trwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn datblygu yn gynaliadwy er mwyn cwrdd ag anghenion cenedlaethau’r dyfodol a chadw at egwyddor y pum ffordd o weithio.

 

Gofynnodd yr adroddiad i’r Cabinet nodi sylwadau Archwiliwr Cyffredinol Cymru yn y dystysgrif a atodir i’r adroddiadigadarnhau fod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau dan adran 15(6) i (9) y Mesur ac wedi gweithredu yn unol â chanllaw Llywodraeth Cymru i gyflawni ei ddyletswyddau.

 

Gofynnwydi’r Cabinet:

 

i)                 nodi canlyniad cadarnhaol y Dystysgrif Cydymffurfio o ran cwrdd â’i ddyletswydd statudol dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd y Cabinet a chymeradwyo’r adroddiad yn unfrydol a nodi fod y Dystysgrif Cydymffurfio yn gadarnhaol ac yn cadarnhau fod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau  dan Fesur Llywodraeth Leol 2009 o ran Cynllunio Gwella.

 

 

8.

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20 pdf icon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn cadarnhau, dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010), fod gofyn i’r Cyngor adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaeth yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol sydd yn eu CynllunCydraddoldeb Strategol. Mae Deddf Cydraddoldeb hefyd yn mynnu bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi data am gydraddoldeb staff, ac y mae manylion hyn yn yr adroddiad 

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd mai dyma’r pedwerydd Adroddiad Blynyddol a’r un olaf am gynnydd a osodir allan yn y CynllunCydraddoldeb Strategol am 2016/2020 a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2016.  Mae CynllunCydraddoldeb Strategolnewydd y Cyngor wedi ei dderbyn gan y Cabinet a chytuno arno yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf ac fe’i cyhoeddir ar wefan y Cyngor.

 

Esboniodd yr Arweinydd, ers gweithredu’r CynllunCydraddoldeb Strategol blaenorol yn 2016, fod y Cyngor wedi adeiladu ar eu hymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaeth, ac wedi ymwneud â’r staff, wedi ymgynghori â rhanddeiliaid allanol ac wedi ymwneud mwy â’r gymuned. Defnyddiwyd mesurau’r naw Amcan Cydraddoldeb i ddangos llwyddiannau yn ogystal â nodi lle i wella. Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gadarnhau fod newidiadau wedi eu gwneud a bod y llwybr ymlaen yn edrych yn dda, ac o ddysgu’r gwersi hyn, gall y Cyngor symud ymlaen yn gadarnhaol.

 

Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys uchafbwyntiau o’r flwyddyn a aeth heibio, ac yn eu mysg:

 

  • Cyflwynwyd y Cynllun Prentisiaeth yn llwyddiannus ac yr oedd CDC yn rownd derfynol gwobr Cyflogwr Hyfforddi’r Flwyddyn yr ACT yn 2019;
  • Sefydlwyd Cyfarfod Dinasyddion yr UE’ a gweithiodd y Cyngor mewn partneriaeth â mudiadau’r trydydd sector yn ogystal â chymunedau lleol yr UE i ddatblygu gwaith yn  y maes hwn;
  • Rhoi’rRhwydwaith B.A.M.E. ar waith, sydd yn parhau i adeiladu a gwella, er mwyn sicrhau bod lleisiau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu clywed mewn penderfyniadau;
  • Mae’r Academi Ddysgu Seiliedig ar Waith’ wedi creu clybiau swyddi, cyrsiau hyfforddi a darpariaeth hyfforddi unswydd 13-wythnos i gefnogi pobl ifanc sy’n chwilio am waith;
  • Cymrydrhan ynRhaglen Dinasoedd CynhwysolPrifysgol Rhydychencyfnewid gwybodaeth am gymunedau mudol;
  • Dathloddcynllun Lighthouse 55+ i bobl h?n ei ben-blwydd cyntaf, gan gefnogi dros 250 o bobl eleni ;
  • Adsefydlwydnaw o deuluoedd (40 o bobl) dan Gynllun Adsefydlu Pobl Fregus;
  • Yr oedd gwaith paratoi yn 2019/20 ar gyfer y cynllun tai gyda chefnogaeth i chwech o bobl ifanc ddigartref wedi agor y llwybr i’r cynllun agor yn gynnar yn 2020/21. Yr oedd hyn yn bosib yn unig diolch i’r gweithio gwych mewn partneriaeth dan dimau a phartneriaid fel Cartrefi Dinas Casnewydd a Llamau;
  • Cwblhaodd y Cyngor ei ymgynghoriad statudol ar Strategaeth Hygyrchedd Ysgolion, sydd â’r nod o wella ac uwchraddio cyfleusterau mynediad i ysgolion yng Nghasnewydd;
  • Mae gwaith datblygu i hyrwyddo’r iaith Gymraeg mewn cymunedau lleiafrifol ledled Casnewydd wedi cynyddu, diolch i Swyddog Polisi unswydd, a recriwtio Swyddog Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg;
  • Mae’rCyngor wedi parhau  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a chynnydd Cyngor Dinas Casnewydd pdf icon PDF 335 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth i’r Cabinet ar adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn rhoi argymhellion i’r Cyngor yng ngoleuni’r adroddiad.

 

Mae’radroddiad yn rhoi manylion am asesiad y Comisiynydd o welliannau y dylai cyrff cyhoeddus wneud i gyrraedd y nodau lles a gwreiddio egwyddor datblygu cynaliadwy yn y ffordd maent yn gweithio. Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys y pwyntiau isod:

 

·        Atgoffa am brif ddyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;

·        Yr wyth maes i ganolbwyntio arnynt  ac argymhellion lefel uchel sydd yn adroddiad y Comisiynydd; a,

·        Crynodebo’r cynnydd a wnaeth y Cyngor i weithredu’r Ddeddf, a’r camau nesaf.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd mai un o ddyletswyddau’r Comisiynyddyw cyhoeddiAdroddiadCenedlaethau’r Dyfodol, sydd yn cynnwys asesiad y Comisiynyddo’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus wneud i gyrraedd y nodau lles.

 

Mae adroddiad y Comisiynyddyn gosod allan nifer o feysydd i gyrff cyhoeddus ganoli arnynt:

 

·        Arweinyddiaeth a Newid

·        Defnydd Tir, Cynllunio a Chreu Lle

·        Trafnidiaeth

·        Tai

·        Dad-garboneiddio a Newid Hinsawdd

·        Sgiliau at y Dyfodol

·        ProfiadauAndwyol mewn Plentyndod

·        System Iechyd a Lles

 

O ran sefyllfa Casnewydd, mae’r Comisiynydd yn cydnabod mai taith yw gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn sefydliad. Cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn dangos fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd cyson tuag at weithredu’r Ddeddf dros y pedair blynedd diwethaf, yn fewnol a thrwy weithio gyda’r BGC.  Fodd bynnag, mae meysydd lle mae angen cynnydd o hyd, a nodwyd y  camau nesaf yn yr adroddiad dan bob un o’r meysydd canolbwyntio.

 

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o weld y cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf, ac yr oedd yn arbennig o falch i adrodd fod y Cyngor yn ehangu nifer yr unedau tai gyda chefnogaeth i ymateb i gynnydd yn y galw oherwydd Covid-19, a thrwy hynny sicrhau y gall y rhai mwyaf bregus yn y ddinas wella eu tai a’u lles. Hefyd, mae’r Cyngor yn symud tuag at ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 trwy amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys prosiect ynni adnewyddol cymunedol, fydd yn cynyddu nifer y paneli solar ar doeau yn y ddinas o 25%.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd ymrwymiad y Cyngor i gymryd agwedd gynaliadwy, ac yr oedd wedi penodi Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy gyda phortffolio i fwrw ymlaen â hyn.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy i roi sylwadau.  Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r swyddogion am y gwaith a wnaed i ddatblygu adroddiad y Cabinet o’r wybodaeth yn adroddiad manwl y Comisiynydd sydd yn diffinio’r camau nesaf i’r Cyngor.  Dros y pum mlynedd a aeth heibio, gwnaeth y Cyngor gynnydd cyson, ac yr oedd yr Aelod Cabinet yn arbennig o falch o’r gostyngiad hyd yma yn ôl troed carbon Casnewydd, ac y mae’n edrych ymlaen at weld mwy o gynnydd gyda hyn. Cadarnhaodd, fel Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Adroddiad Blynyddol ar Reoli Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion 2020 pdf icon PDF 214 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sydd yn cadarnhau fod angen i bob corff cyhoeddus yng Nghymru gofnodi ac ymateb i adborth gan drigolion yn unol â’r canllawiau a’r ddeddfwriaeth a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon).  Mae gofynion statudol ychwanegol y mae’n rhaid eu hateb am gwynion ynghylch Gofal Cymdeithasol. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar berfformiad cyffredinol ynghylch canmoliaeth, sylwadau a chwynion, a pherfformiad corfforaethol yn fwy manwl.

 

Mae adborth ar yr uchod yn cael ei gofnodi ar lwyfan Fy Nghasnewydd. Mae’r adroddiad yn crynhoi’r cwynion a dderbyniwyd yn 2019/2020 ac yn gwneud argymhellion am gamau fydd yn gwella’r gwasanaeth a ddarperir gan y Cyngor.

 

Nododd yr adroddiad fod yr Ombwdsmon yn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn gwrando ar adborth gan y cyhoedd ac yn ei ddefnyddio i lunio gwasanaethau a gwella yn barhaus.  Mae hyn yn golygu bod â systemau i gofnodi, dadansoddi ac adrodd am yr adborth a geir gan drigolion.

 

Pasiodd yr Ombwdsmon ddeddfwriaeth newydd llynedd (Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019), ac yn ddiweddar iawn, cyhoeddwyd polisïau enghreifftiol newydd a chanllawiau yn sail i hyn. Mae strwythur a chynnwys yr adroddiad blynyddol yn adlewyrchu’r newidiadau.

 

Mae’rCyngor yn derbyn llawer o ganmoliaeth gan drigolion am y gwasanaethau a ddarperir, a hon oedd y flwyddyn lawn gyntaf i’r trigolion allu defnyddio cyfrifon cwsmeriaid, ffurflenni gwe ac ap i gofnodi’r rhain yn rhwydd a chyflym. Nodwyd bod y rhan fwyaf o’r ganmoliaeth a gofnodir am Wasanaethau’r Ddinas, gan mai dyma’r gwasanaeth amlycaf sy’n ymwneud fwyaf bob dydd â’r trigolion. Er bod yr Ombwdsmon yn gofyn i’r Cyngor gofnodi canmoliaeth, nid yw’n gofyn am ddata am y niferoedd hyn, ond y mae’r adroddiad yn cydnabod fod canmoliaeth yn adlewyrchiad cadarnhaol am y gwasanaethau a ddarperir i’r trigolion.

 

Mae sylwadau hefyd yn ffordd o gofnodi adborth gan gwsmeriaid sy’n anhapus â pholisïau a phenderfyniadau’r Cyngor. Gwasanaethau’r Ddinas a dderbyniodd y nifer fwyaf o sylwadau am bolisïau am yr un rhesymau ac y derbyniodd y mwyaf o gwynion. Dylid nodi bod hon yn flwyddyn gweithredu newidiadau polisi oedd yn effeithio ar bawb, a newidiadau fel cyflwyno biniau llai i gwrdd â thargedau ailgylchu, a throsglwyddo’r  cyfrifoldeb am orfodi parcio sifil i’r Cyngor - cynhyrchodd hyn lefelau llawer uwch nac arfer o adborth. Mae hyn, ynghyd â’r ffordd syml a hawdd i drigolion gyflwyno eu hadborth, wedi cyfrannu at y cynnydd mewn niferoedd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cadarnhaodd yr adroddiad na fydd modd gwneud cymhariaeth deg tan 2021, pan fydd gwerth dwy flynedd lawn o ddata wedi ei gofnodi ar y system newydd.

 

Mae nifer y cwynion a dderbyniwyd gan y Cyngor yn cyfrif am 1.84% o gyfanswm y cysylltiadau gan gwsmeriaid a gofnodwyd gan wasanaethau’r Ddinas llynedd. Cofnodwyd mwy o gwynion eleni, ond ni wnaeth hyn arwain at fwy o adolygiadau ffurfiol na chyfeirio achosion at yr  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Strategaeth Toiledau Lleol pdf icon PDF 151 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n cadarnhau fod Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017(y Ddeddf) yn gosod rheidrwydd ar awdurdodau lleol i feddwl yn strategol am gyfleusterau toiledau sydd ar gael i’r cyhoedd, a gwahoddodd yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio i wneud sylwadau pellach.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet fod gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru fabwysiadau a gweithredu Strategaeth Toiledau Lleol yn ôl gofynion Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017; er nad yw’r ddyletswydd i baratoi Strategaeth yn mynnu bod awdurdodau lleol yn darparu a chynnal toiledau cyhoeddus yn uniongyrchol.

 

Cyflwynwyd y Strategaeth i’r Pwyllgor Craffu ym mis Tachwedd 2019 ac ystyriwyd yr adborth o’r pwyllgor hwnnw, alle bo angen, ymgorffori hynny yn y Strategaeth, ond ni wnaed unrhyw newidiadau arwyddocaol. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet yr ymgynghorwyd â’r Penaethiaid Gwasanaeth ar y Strategaeth cyn ei chyflwyno i’r Cabinet.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Cabinet y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig i’r Cabinet.

 

Gofynnwydi’r Cabinet yn ffurfiol gymeradwyo a mabwysiadu’r StrategaethToiledau Lleol Local a’r Cynllun Gweithredu.

 

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd y Cabinet yn unfrydol i gymeradwyo a mabwysiadau’r strategaeth a’r cynllun gweithredu.

 

 

12.

Diweddariad Ymateb ac Adferiad Covid 19 Cyngor Dinas Casnewydd pdf icon PDF 264 KB

Cofnodion:

Wrthgyflwyno’r adroddiad hwn, diolchodd yr Arweinydd yn gyntaf o waelod calon i bobl Casnewydd ar ran y Cyngor am bopeth a wnaethant ers Mawrth 2020 a hefyd yn ystod y toriad tân Covid-19 diweddar i gadw pawb yn ddiogel a chyfyngu ar ledaeniad y clefyd. Gobaith yr Arweinydd oedd gweld gostyngiad yn ffigyrau Covid a fydd yn ganlyniad da i waith caled pawb, fel y gallwn oll symud ymlaen gyda’n gilydd fel dinas. 

 

Yr oedd yr adroddiad yn rhoi cyfoesiad am gynnydd Cyngor Casnewydd a’i bartneriaid o ran cefnogi’r ddinas i gydymffurfio a’r mesurau cloi lleol a chefnogi cymunedau Casnewydd fel rhan o Nodau Adfer Strategol y  Cyngor. 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cabinet ym mis Mehefin wedi cadarnhau’r pedwar Nod Adfer Strategol fydd yn cefnogi cyflwyno Amcanion Lles y Cyngor a hefyd yn sicrhau y gall  gwasanaethau’r Cyngor ddychwelyd yn ddiogel a rheoli achosion o’r clefyd yn y dyfodol. 

Ers yr last adroddiad diwethaf i’r Cabinet ym mis Hydref, rhoddodd Llywodraeth Cymru ‘doriad tânar waith o 23 Hydref ymlaen i bara 17 diwrnod. Arweiniodd hyn at gau pob busnes heb fod yn rhai hanfodol (gan gynnwys tafarnau, bariau a bwytai); cynghori pob aelwyd i aros gartref a gweithio o gartref (lle bo modd); a chael dim ond disgyblion cynradd, a blwyddyn 7 ac 8 i ddychwelyd i’r ysgol. 

 

I Gyngor Casnewydd a’i bartneriaid golygodd hyn gau lleoliadau Adfywio Cymunedol (ac eithrio Dechrau’n Deg), ysgolion (i grwpiau blwyddyn penodol), cyfleusterau Casnewydd Fyw a’r safle Gwastraff Cartref.

Mae Lloegr bellach wedi gosod cyfnod clo cenedlaethol am bedair wythnos tan 2 Rhagfyr a gofynnwyd i drigolion yng Nghymru beidio â theithio yn ôl ac ymlaen i Loegr (onid oes esgus rhesymol) i’w helpu i leihau lledaeniad Covid.

Bydd y cyfnod hyd at y Nadolig yn beryglus i bob rhan o Gymru, gan gynnwys Casnewydd, wrth i ymdrechion gael eu gwneud i leihau lledaeniad Covid-19 a sicrhau bod gwasanaethau hanfodol y ddinas, e.e. ysbytai, meddygfeydd, ysgolion, gwasanaethau’r Cyngor a busnesau yn aros ar agor ac y gallant redeg yn ddiogel o fewn y gofynion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Dyna pam ei bod yn bwysig i drigolion a busnesau gydymffurfio â rheolau newydd Lywodraeth Cymru.  Mae Cyngor Casnewydd yn dal i weithio’n agos  gyda’i bartneriaid, grwpiau cymunedol a phartneriaid y trydydd sector i gyfleu’r rheolau hyn i’r trigolion a busnesau ac i gefnogi’r mwyaf bregus yn ein cymunedau.

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i bwysleisio i bawb mor bwysig oedd cadw  at y rheolau. Apeliodd i’r cyhoedd, petai’r gwasanaeth Profi ac Olrhain yn cysylltu, i ddilyn y cyswllt hwnnw gan y buoch mewn cysylltiad â rhywun a brofodd yn bositif am covid-19.  Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol, ac ni fydd pobl yn cael eu barnu, ond y mae’n gam pwysig i geisio atal y clefyd hwn  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Diweddariad ar Brexit Cyngor Dinas Casnewydd/Trafodaethau Masnach Paratoadau pdf icon PDF 144 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet sydd yn gosod allan baratoadau Cyngor Casnewydd am drefniadau masnach wedi 31 Rhagfyr a chyfoesiad am y TrafodaethauMasnach Brexit rhwngLlywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet ar Covid-19, prif ganolbwynt y Du a Chyngor Casnewydd fu ymateb i argyfwng Covid-19.  Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn, mae Llywodraeth y DU wedi parhau i drafod gyda’r  UE. 

Ers y cyfoesiad diwethaf, mae Gr?p Gorchwyl a Gorffen  swyddogion y Cyngor ar Brexit wedi parhau i gadw llygad fanwl ar safbwynt y DU, a pharatoi gymaint ag sydd modd ar gyfer pa bynnag drefniant a wneir. Mae hyn yn cynnwys cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fel rhan o rôl y Cyngor yn Fforwm Gwytnwch Lleol Gwent sydd yn sail hefyd i baratoadau’r Cyngor ei hun.  Fodd bynnag, pa hwyaf y bydd y trafodaethau hy  yn parhau, daw’n fwy heriol i wasanaethau’r Cyngor (gan gynnwys partneriaid) a busnesau yng Nghasnewydd i gynllunio’n effeithiol.

Ers yr adroddiad diwethaf, gwnaeth y Cyngor y canlynol:

·        Cefnogibusnesau a’u hannog i baratoi trwy’r Tîm Datblygu economaidd a chyfeirio busnesau at dudalennu Llywodraeth Cymru.

·        Monitro’rholl risgiau i gadwyni cyflenwi gyda’r cyflenwyr allweddol, gweld pa gyflenwadau sydd ar gael, a’r oblygiadau cost gan gynnwys oblygiadau tariffau a TAW.

·        Aros am holl ofynion rheolaethol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (Pwysleisiodd yr Arweinydd gymaint o bwysau mae hyn yn roi ar staff y cyngor sydd eisoes dan straen oherwydd pandemig Covid-19)

·        Fel rhan o ymateb y Cyngor i Covid-19 a chefnogaeth i fanciau bwyd yn y ddinas, sefydlwyd gweithgor i wella ymwneud a nodi pwysau mewn cymunedau sy’n dioddef effeithiau Covid -19 ac unrhyw drefniadau newydd posib.

·        Parhaui gefnogi ac annog partneriaid y Cyngor a grwpiau cymunedol i wneud cais am Gynllun Statws Sefydlu yr UE, e.e., trwy hysbysebion radio. Hyd yma, gwelodd Casnewydd dros 6,630 o geisiadau, ac y mae mwy o dargedu yn digwydd i annog cymunedau i ymgeisio. 

Mae’rtabl yn Atodiad 1 yr adroddiad yn rhoi manylion llawn yr holl feysydd sy’n dod dan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn amlwg yn sefyllfa sydd yn parhau, ac nad oes ateb clir ar y gorwel, ac na roddwyd canllawiau gan Lywodraeth y DU i awdurdodau lleol fod wedi paratoi yn well.

Lleisiodd y Cynghorydd Truman bryder fod Casnewydd yn awdurdod porthladd o bwys, ac eto fod swyddogion y cyngor yn dal i aros am safonau monitro a gwirio mewnforion wedi Brexit.  Yr oedd yn falch o adrodd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu hyfforddiant i’r swyddogion i wneud y gwaith hwn, ond ni all yr hyfforddiant gychwyn hyd nes y gwyddom yr union ofynion.

Gofynnwydi’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi paratoadau’r Cyngor ar gyfer Brexit.    

Penderfyniad:

 

Nododd y  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Rhaglan Waith pdf icon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y rhaglen a gyfoeswyd.

 

Wrthgau’r cyfarfod, ymddiheurodd yr Arweinydd am y problemau technegol a’r tarfu a achoswyd yn gynharach yn y cyfarfod, a diolchodd i bawb am eu hamser a’u hamynedd tra bod hyn yn cael ei ddatrys.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1800.

 

 

15.

PSB: Crynodeb o Fusnes Medi 2020 pdf icon PDF 130 KB

Cofnodion:

Nododd y Cabinet Grynodeb o Fusnes y BGC.

 

16.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Cofnodion:

Dydd Mercher 16 Rhagfyr 2020 am 4pm.