1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 172 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion 14 Ionawr yn gywir.

 

4.

Strategaeth Gyfalaf a Rheolaeth Trysorlys 2022/23 pdf icon PDF 4 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'r Cabinet a hysbysai ei chyd-aelodau fod y strategaethau Rheoli Cyfalaf a'r Trysorlys blynyddol, wedi'u dwyn gerbron y cyfarfod hwn o'r Cabinet ar ôl cael eu hadolygu, ac ar ôl derbyn sylwadau arnynt gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 27 Ionawr.

 

Roedd yn ofynnol i'r Cabinet gymeradwyo'r strategaethau cyn eu cyflwyno gerbron y Cyngor llawn i'w cymeradwyo'n derfynol. Roedd yn ofynnol iddynt hefyd gymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf fanwl a oedd wedi'i chynnwys yn un o atodiadau'r adroddiad hwn.

 

Roedd sylwadau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn a, lle bo'n briodol, roedd yr adroddiad wedi'i ddiwygio'n unol â'r sylwadau hynny.

 

Roedd y ddwy strategaeth yn ofynnol yng Nghod Darbodus CIPFA, yn rhan hollbwysig o gynlluniau ariannol tymor byr, canolig a hir, ac roedd cyswllt annatod rhyngddynt â phroses bennu'r gyllideb refeniw.

 

Pwrpas y Strategaeth Gyfalaf oedd disgrifio sut roedd y Cyngor yn mynd ati i wneud penderfyniadau ynghylch gwariant cyfalaf, ac wrth wneud hynny, dangos bod y penderfyniadau hynny wedi'u gwneud yn unol ag amcanion gwasanaethau a chan roi ystyriaeth i risg, gwobrwyo ac effaith.

 

Roedd cysylltiad annatod rhwng y Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, a oedd ei hun yn trafod ymagwedd y Cyngor at reoli ei arian parod, gan gynnwys, yn bennaf, yr ymagwedd at weithgareddau benthyca a buddsoddi.

 

Agwedd allweddol ar strategaeth Rheoli'r Trysorlys oedd y terfynau benthyca, a oedd yn y pen draw'n cael eu cymeradwyo gan y Cyngor, ac a oedd yn rhan o'r gyfres o ddangosyddion darbodus sy'n rheoli gweithgareddau rheoli arian parod y Cyngor. 

 

Roedd y Strategaeth Gyfalaf yn ddogfen a ganolbwyntiai ar y tymor hir, gan ystyried y 10 mlynedd nesaf o leiaf. Oherwydd y ffocws hwn ar yr hirdymor, roedd hi'n hanfodol i benderfyniadau adlewyrchu'r angen i gynlluniau cyfalaf fod yn fforddiadwy, yn ddarbodus a chynaliadwy.  Yn y bôn, roedd hyn yn golygu'r canlynol:

 

·        Byddai gwariant cyfalaf a ariennir gan ddyled heddiw yn creu ymrwymiad hirdymor i'r Cyngor ad-dalu'r benthyciad hwnnw a'r llog a ddeilliai ohono.

·        Byddai'r ymrwymiad hwnnw i dalu costau cyllido cyfalaf yn cael ei gynnwys yn rhan o'r gyllideb refeniw.

·        Er y gallai'r ymrwymiad hwnnw fod yn fforddiadwy nawr, roedd yn rhaid gallu cynnal yr ymrwymiad dros y tymor hir.

·        Nid oedd modd lleihau nac osgoi costau cyllido cyfalaf, wedi iddynt gael eu cloi i mewn, gan olygu y byddai unrhyw heriau cyllidebol yn y dyfodol yn effeithio ar lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau a blaenoriaethau eraill, yn hytrach nag ar y gyllideb cyllido cyfalaf.

 

Oherwydd eu pwysigrwydd, roedd sylwebaeth y Pennaeth Cyllid o fewn yr adroddiad yn ymdrin yn benodol â'r ffactorau hyn. 

 

Fel yr amlinellwyd ar y dechrau, er bod y Cabinet yn gwneud penderfyniadau ynghylch y prosiectau sy'n ffurfio'r Rhaglen Gyfalaf, y Cyngor llawn a oedd yn pennu'r terfynau benthyca yr oedd yn rhaid cadw atynt.

 

Er bod llawer o brosiectau'n cael eu cyllido o ffynonellau fel grantiau, derbyniadau cyfalaf ac o gronfeydd wrth gefn penodol, byddai nifer ohonynt na  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cyllideb Refeniw a CATC: Cynigion Terfynol 2022/23 pdf icon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a hysbysai'r Cabinet ynghylch y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac adroddiad cyllideb refeniw 2022/23. Dyma oedd un o adroddiadau pwysicaf y Cyngor, ac roedd angen ei ystyried yn ofalus.

 

Roedd yr adroddiad yn cynrychioli penllanw chwe mis o waith caled, o adolygu a chytuno ar ragdybiaethau cyllidebol yn sail ar gyfer ein gwaith cynllunio, hyd at y cam terfynol hwn lle byddai cyllid yn cael ei ddyrannu i'n blaenoriaethau allweddol. 

 

Roedd proses y gyllideb yn wynebu heriau eleni.  Roedd y Cyngor nid yn unig ar drothwy'r drydedd flwyddyn o weithio drwy'r pandemig a'r holl broblemau cysylltiedig, ond roedd drafft setliad Llywodraeth Cymru, sy'n cyllido 76% o'r gyllideb, wedi'i dderbyn yn hwyr iawn ar 21 Rhagfyr. Roedd hyn yn golygu na ellid cwblhau'r gwaith terfynol a manwl yn gysylltiedig â'r gyllideb o fewn yr amserlen arferol.

 

Roedd setliad eleni, fodd bynnag, yn cynnwys setliad cyllido aml-flwyddyn, a oedd yn cynnig lefel resymol o sicrwydd. Roedd cynnwys gwerthoedd dangosol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn cefnogi ein capasiti i gynllunio am y tymor hir.

 

Roedd y setliad a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yn llawer uwch na'r hyn a oedd wedi'i gynnwys yn y rhagdybiaethau cynllunio, gan olygu nad oedd angen canfod unrhyw arbedion newydd o fewn y gyllideb.

 

Adroddwyd 'balans mewn llaw' yng nghyfarfod mis Ionawr y Cabinet, ac roedd yr adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o'r buddsoddiadau a fyddai'n cefnogi blaenoriaethau allweddol. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi adborth manwl o'r broses ymgynghori.

Bu'r Cabinet yn ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad, ynghyd â materion cyd-destunol eraill allweddol, a byddai'n pennu ein meysydd buddsoddi yng nghyllideb 2022/23.

 

Nid oedd y Dreth Gyngor ond i gyfrif am 24% o'r cyllid yng nghyllideb refeniw'r Cyngor, ond roedd yn dal i fod yn rhan hollbwysig o gyllid cyffredinol y Cyngor.

 

Nid oedd y Cyngor Llawn ond yn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch lefel y Dreth Gyngor. 

 

Roedd Grant Cynnal Refeniw'r Cyngor wedi cynyddu'n sylweddol, bron £25m, ond roedd hyn ar yr amod bod y Cyngor yn talu amryw o bwysau o ran costau a buddsoddiadau wedi'u pennu gan ddylanwadau allanol, gan gynnwys y canlynol ymhlith eraill:

           costau ychwanegol cyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal o 1 Ebrill 2022

           y costau'n gysylltiedig â chytundeb cyflogau'r athrawon

           y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr o fis Ebrill 2022

           rheoli effeithiau gweddilliol parhaus costau uwch a'r gostyngiad mewn incwm yn sgil pandemig Covid, gan gydnabod na fyddai'r gronfa galedi yn parhau y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol hon.

 

 Bu'r Cyngor yn ymgynghori ar gynnydd o 3.7% i'r Dreth Gyngor a oedd yn ychwanegu £2.7m o gyllid posibl ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Fel cyfanswm, cafwyd cynnydd o £27.5m i gyllid ein cyllideb ddrafft. 

 

           Roedd rhai buddsoddiadau cychwynnol mewn cyllidebau drafft yn amlygu'r canlynol fel blaenoriaethau allweddol:  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Deilliannau Disgyblion Cyfnod Allweddol 4 a 5 wedi'u Gwirio pdf icon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'w chyd-aelodau ar y Cabinet, a amlygai'r canlynol:

 

Canlyniadau Haf 2021

Mae’r gwaith o gyfrifo a chyhoeddi mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 a mesurau perfformiad etifeddol y chweched ar gyfer blynyddoedd academaidd 2020 i 2021 a 2021 i 2022 wedi'i ohirio.

Ni fyddai data dyfarniadau cymhwyster yn cael eu defnyddio i adrodd ar ddeilliannau cyrhaeddiad mewn ysgol, nac ar raddfa awdurdod lleol a chonsortiwm lleol, ac ni cheir eu defnyddio i ddwyn ysgolion i gyfrif am ddeilliannau eu dysgwyr.

Byddai hyn yn cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau data arferol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, gyda rhai datganiadau wedi'u gohirio am flwyddyn neu fwy o'r blynyddoedd yr amharwyd arnynt gan y coronafeirws, neu am gyfnod a oedd heb ei benderfynu.

Roedd yn dal yn ofynnol i bob ysgol a darparydd ôl-16 gynnal hunanwerthusiad effeithiol i gefnogi gwelliant parhaus. Yn rhan o hyn byddai'r ysgolion, gyda chefnogaeth awdurdodau lleol a chonsortia lleol, yn defnyddio'r wybodaeth lefel dysgwyr a oedd ganddynt yn gysylltiedig â chyrhaeddiad, a deilliannau eraill i fyfyrio ar eu trefniadau presennol, a gwella'r trefniadau hynny.

Ni fyddai ysgolion yn cael eu gosod mewn categorïau ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022. Roedd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion er mwyn helpu i ddarparu'r cymorth i ysgolion yr oedd arnynt ei angen er mwyn gwella a gweithredu ein diwygiadau uchelgeisiol yn llwyddiannus.

Cafodd Rheoliadau Perfformiad Ysgolion a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 eu dirymu yn 2020, gan olygu nad oedd yn ofynnol mwyach i ysgolion osod a chyhoeddi targedau.)

 

Cwricwlwm i Gymru a Chanllawiau Gwella Ysgolion Drafft Llywodraeth Cymru

 

Byddai cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion a lleoliadau a ariennir nas cynhelir yng Nghymru o fis Medi 2022, Cwricwlwm i Gymru (CiG).

 

Ym mis Mawrth 2020 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ganllawiau gwella ysgolion drafft.  Nod y cynigion newydd oedd:

 

·        Cryfhau pwysigrwydd ac effeithiolrwydd hunanarfarniadau a chynlluniau gwella gan ysgolion, sy'n defnyddio ystod eang o dystiolaeth.

·        Canolbwyntio ar hunanwerthusiadau ysgolion a blaenoriaethau gwella fel man cychwyn ar gyfer gwaith gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

·        Ystyried perfformiad ysgol yn ei ystyr ehangaf, gan werthuso ysgolion yn eu cyd-destun eu hunain, gan ddefnyddio ystod eang o dystiolaeth, cynlluniau gwella a chefnogaeth bwrpasol i gefnogi hynny.

·        Sicrhau bod prosesau hunanarfarnu’r ysgol yn nodi cryfderau a blaenoriaethau ar gyfer gwella, a gaiff eu cyfuno mewn cynllun datblygu ysgol strategol cyfun.

·        Adeiladu ar hunanwerthusiadau a chynlluniau datblygu ysgolion i weithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gytuno ar y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt i wella.

·        Canfod ysgolion â chryfderau a'r capasiti i gydweithio ag ysgolion eraill i'w cefnogi.

 

Data ar gyfer Aelodau Etholedig

 

Defnyddiodd ysgolion ystod o wybodaeth werthusol a data ar gynnydd yn sail ar gyfer arfer a darpariaeth yn y dyfodol, ac i fireinio hynny, gan siapio'u blaenoriaethau ar gyfer gwella.  Roedd yr aelodau'n parhau i dderbyn data ar:

 

·        Canlyniadau arolygiadau Estyn (o Dymor y Gwanwyn 2022) a chynnydd ysgolion mewn categorïau statudol (o dymor yr Hydref  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Strategaeth Bum Mlynedd yr Iaith Gymraeg pdf icon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn gyntaf, dywedodd yr Arweinydd wrth ei chyd-aelodau am farwolaeth Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, ddydd Sul 13 Chwefror. Roedd Aled yn gyn-Arweinydd Cyngor Wrecsam ac yn Aelod Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru yn 2011.

 

Roedd yn rhaid i'r Cyngor fodloni nifer o Safonau'r Gymraeg, a oedd yn cael eu gorfodi gan Gomisiynydd y Gymraeg.

 

Roedd Safon 145 yn gosod rhwymedigaeth ar y Cyngor i gyhoeddi strategaeth bum mlynedd a fyddai'n esbonio sut roeddem yn cynnig hyrwyddo a galluogi'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghasnewydd.

 

Roedd y Safonau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Strategaeth gynnwys targed % ar gyfer cynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, a datganiad i esbonio sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni.

 

Roedd hi'n bleser gan yr Arweinydd gael cyflwyno ein hail Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg a oedd yn adeiladu ar y cysylltiadau, y gwaith da a'r cynnydd a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf.

 

Roedd y Strategaeth yn cynrychioli esblygiad o’n cynllun ar gyfer 2017 – 2022, gyda ffocws ar gyflawni gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yng Nghasnewydd a oedd yn cynnwys ein holl gymunedau amrywiol, gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol a bodloni rhwymedigaethau statudol.

 

Roedd y Strategaeth yn rhoi adlewyrchiad o Gasnewydd fel dinas Gymreig â chyfoeth o gymunedau amlddiwylliannol ac amlieithog. Roeddem am ddathlu’r Gymraeg fel rhan o’n hunaniaeth gyffredin, a chynyddu cyfleoedd i bawb weld, clywed, dysgu, defnyddio a charu ein hiaith genedlaethol.

 

Roedd hefyd yn cyfuno gwaith cyffrous yn gysylltiedig â'r Gymraeg ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd a'n gwaith gyda'n partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus drwy ein Bwrdd Sgiliau Cywir.

 

Yn ogystal â chanolbwyntio ar dyfu ystod y partneriaid a'r rhanddeiliaid a oedd yn ymgysylltu â'r Gymraeg, roeddem yn parhau â'n hymrwymiad i ddatblygu ein strwythurau a'n polisïau mewnol i gefnogi staff sy'n dymuno dysgu'r Gymraeg, neu ddefnyddio'u sgiliau yn y gwaith.

 

Byddai’r Strategaeth hon yn sbardun a ffocws ar gyfer y pum mlynedd nesaf wrth inni barhau i godi proffil y Gymraeg ar draws y ddinas, gan gefnogi Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a chreu Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cyng. Jason Hughes, Aelod Eiriolwr y Gymraeg, ddweud ambell air.

 

Rhannodd y Cynghorydd Hughes ei deimladau ynghylch marwolaeth Aled, gan fynegi cydymdeimlad â'i deulu a'i ffrindiau.

 

Mae’r strategaeth yn cyflwyno gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y Gymraeg yng Nghasnewydd-Bod pawb yn gallu gweld; clywed; dysgu, defnyddio a charu'r Gymraeg.

 

Er bod ein targed ar gyfer twf yn canolbwyntio ar addysg, rydym yn cydnabod bod angen uchelgais ehangach ar gyfer y Gymraeg yng Nghasnewydd er mwyn gwneud yr iaith yn hygyrch a gynhwysol fel y gall ein holl drigolion ymgysylltu a hi.

 

I gyflawni hyn rydym wedi datblygu tair thema strategol sy'n canolbwyntio ar Addysg, Cymunedau a Diwylliant, a Chyflogaeth a Sgiliau.

 

Cafodd cyfres o gamau gweithredu sy'n ymwneud â'r themâu hyn eu cynnwys yn y strategaeth a  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Porth y Gorllewin pdf icon PDF 143 KB

Cofnodion:

Sefydlwyd Porth y Gorllewin ym mis Tachwedd 2019. Partneriaeth strategol ydoedd a anelai i ddarparu pwerdy economaidd ar hyd coridorau'r M4 a'r M5, gan sbarduno twf ar y naill ochr a'r llall i Afon Hafren.  Fel un o bum dinas, roedd Casnewydd yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y bartneriaeth, ac yn debygol o elwa ar fanteision cydweithio gwell.  Fel partneriaeth, roedd gennym bron 4.4 miliwn o breswylwyr, oddeutu 160,000 o fusnesau a thua 2.1 miliwn o swyddi.  Roedd gennym hefyd gysylltedd ardderchog â thraffyrdd a ffyrdd pwysig, 2 faes awyr a 9 porthladd. 

 

Ers mis Gorffennaf 2020, ehangwyd aelodaeth bwrdd y bartneriaeth i gynnwys cynrychiolwyr o bartneriaethau economaidd lleol, prifysgolion a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Roedd y Bwrdd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr wedi'u penodi o fyd busnes, ac yn eu plith yr oedd Ian Edwards, Prif Weithredwr y Celtic Manor Resort. 

 

Cynhaliwyd Adolygiad Economaidd Annibynnol yn nhymor yr Hydref 2021 a ystyriai gryfderau a chyfleoedd economaidd Porth y Gorllewin, a'r modd y gellid arwain a chydgysylltu'r rhain i ysgogi datblygiad economaidd y rhanbarth.  Dyma'r tair thema a'r ffrydiau gwaith cysylltiedig a nodwyd.

 

·        Arloesi - roedd gan Lywodraeth y DU darged uchelgeisiol i sicrhau cynnydd o £9bn ychwanegol y flwyddyn mewn gwariant cyhoeddus ar ymchwil a datblygu erbyn 2024/25, ac roedd y bartneriaeth yn archwilio'r potensial am Gronfeydd Arloesi.

·        Sero Net – roedd toriad o 80% mewn allyriadau erbyn 2050 ymhlith polisïau creiddiol Llywodraeth Cymru ac roedd Llywodraeth y DU wedi ymrwymo'n gyfreithiol i ostwng allyriadau i Sero Net erbyn 2050.  Mae £12bn o gymorth eisoes wedi'i neilltuo i gyflawni hyn. Mae'r potensial am ynni'r llanw yn Aber Afon Hafren yn cael ei archwilio, yn ogystal â chyfleoedd am hydrogen.

·        Cysylltedd – hefyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a’r DU. Roedd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar seilwaith rheilffyrdd strategol ac yn mapio rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol a rhanbarthol ‘delfrydol’ 2050 i ddeall lle’r oedd y bylchau, pa arbedion carbon y gellid eu sicrhau drwy newid dulliau teithio, a beth fyddai'r manteision economaidd i'r rhanbarth. 

 

Roedd y bwrdd partneriaeth hefyd wedi ymrwymo i wella proffil ac amlygrwydd Porth y Gorllewin drwy gyfathrebu a digwyddiadau wedi'u targedu.  Byddai'r Gynhadledd Agoriadol sydd i'w chynnal ar 8 Mawrth 2022 yn yr ICCW yn ddigwyddiad allweddol.  Roedd cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu ehangach hefyd yn cael ei ddatblygu a fyddai'n golygu cynhyrchu prosbectws newydd ac ailddylunio ac ailfrandio'r wefan.

 

Roedd y bwrdd partneriaeth yn awyddus i fod yn bresennol mewn digwyddiadau rhyngwladol pwysig, gan gynnwys yr MIPM ym mis Mehefin, lle gellid hyrwyddo cyfleoedd y rhanbarth ymhlith cwmnïau a buddsoddwyr rhyngwladol.  Byddai Porth y Gorllewin yn cael ei gynrychioli ar stondinau a oedd wedi'u meddiannu eisoes gan Awdurdod Cyfun Gorllewin Lloegr a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd/Caerdydd.  Roedd diddordeb hefyd mewn cael ardal benodol yn Fforwm Buddsoddi mewn Eiddo Tirol a Seilwaith y DU ym mis Mai.  Yn rhan o Borth y Gorllewin, byddai gan Gasnewydd bresenoldeb yn y digwyddiadau hyn ac mae deunydd hyrwyddo yn cael ei ddatblygu i gyflwyno Casnewydd i gynulleidfa ryngwladol a dylanwadol.

 

Roedd y bartneriaeth yn  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Diweddaru Covid pdf icon PDF 180 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad i'r Cabinet ynghylch yr adroddiad uchod. 

 

Ar ôl cyflwyno'r adroddiad diwethaf i’r Cabinet hwn ym mis Ionawr, roedd amrywiant Omicron wedi cyrraedd uchafbwynt yng Nghasnewydd ac yng Nghymru.  Fodd bynnag, dros y pythefnos diwethaf roedd cyfradd yr achosion wedi gostwng yn sylweddol.

 

Mewn ymateb i hyn, llaciodd Llywodraeth Cymru y cyfyngiadau'n ôl i lefel 0, gan olygu y gallai aelwydydd a busnesau ddychwelyd i fusnes arferol, ond gan gadw'r angen am bellter cymdeithasol a gorchuddion wyneb wrth fynd i mewn i leoliadau dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

 

Safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylai gwasanaethau'r sector cyhoeddus weithio gartref lle bo modd. 

 

Roedd gwasanaethau'r Cyngor yn parhau i weithredu'n ôl yr arfer, hyd eithaf eu gallu, ond roedd galw a phwysau parhaus o hyd o fewn rhai gwasanaethau rheng flaen.

 

Roedd yr adroddiad hwn ac adroddiad Pontio o'r UE, y naill a'r llall, yn amlygu'r pwysau a'r ansicrwydd parhaus o flaen aelwydydd ledled Casnewydd a Chymru, a chyda'r argyfwng costau byw a achoswyd oherwydd y cynnydd ym mhrisiau ynni, bwyd a chostau tanwydd.

 

Roedd Cyngor Casnewydd yn ogystal â Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd a busnesau a oedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r pwysau hyn. Roedd Cyngor Casnewydd wedi ymrwymo £100,000 yn ychwanegol er mwyn ymdrin â thlodi bwyd, gan gefnogi grwpiau ac elusennau bwyd.

 

Roeddem hefyd yn cefnogi cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Llywodraeth Cymru a oedd wedi'i ymestyn hyd 28 Chwefror, â'r symiau wedi codi o £100 i £200. 

 

Fel Aelodau Etholedig Casnewydd roedd hi'n bwysig inni gefnogi aelwydydd a phobl a oedd yn profi anawsterau, gan eu helpu i dderbyn y cymorth a'r arweiniad cywir dros y cyfnod anodd hwn. 

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Achubodd y Cynghorydd Truman ar y cyfle i ddiolch i'r Timau Amgylcheddol a Safonau Masnach a wnaeth ailgydio yn eu rôl monitro ac olrhain dros gyfnod y Nadolig yn sgil y cynnydd sydyn oherwydd Omicron, ac a oedd bellach yn parhau â'u harolygiadau. Cytunai'r Arweinydd â hyn a diolchodd yr Arweinydd hefyd i'r staff am eu cefnogaeth barhaus.

 

§  Yng ngoleuni amrywiant Omicron, ychwanegodd y Cynghorydd Davies fod ysgolion yn cynllunio i reoli cynnydd mewn lefelau salwch.  Braf oedd nodi bod athrawon wedi ymaddasu er mwyn sicrhau na fyddai dosbarthiadau ysgol ar stop.  Roedd hi'n anodd peidio cael y tîm llawn o staff addysgu a chymorth, a diolchwyd iddynt am eu hymdrechion, ac i'r Gwasanaeth Addysg am ei gefnogaeth barhaus a diflino.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Jeavons i Wasanaethau'r Ddinas am eu cyfraniad ac am barhau i gasglu gwastraff drwy gydol Omicron a'r tywydd garw.  Diolchodd y Dirprwy Arweinydd hefyd i'r staff am eu cyfundrefn cynnal a chadw dros y gaeaf.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet wedi ystyried a nodi cynnwys yr adroddiad, ac y byddai'r Cabinet/aelodau'r Cabinet yn derbyn diweddariadau gan swyddogion yn rhan o'u portffolio.

 

10.

Adroddiad Diweddaru Brexit pdf icon PDF 149 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a hysbysu ei chyd-aelodau am y cynnydd hyd yma.  Roedd dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r Farchnad Sengl. 

 

Drwy gydol y flwyddyn gwnaethom barhau i weld effeithiau eang, nid yn unig yn sgil ymadael â'r UE ond hefyd yn sgil effeithiau byd-eang Covid oherwydd cynnydd yn y galw o fewn economïau a tharfu ar gyflenwadau.

 

Cynyddodd costau byw i aelwydydd yng Nghasnewydd a Chymru drwy gydol y flwyddyn, gyda chyflogau heb fod yn ddigonol i dalu'r costau ychwanegol hyn, 

 

Mewn aelwydydd incwm isel y gwelwyd effaith fwyaf y codiadau hyn, ac roedd disgwyl i brisiau ynni godi eto yn 2022.

 

Fel yr adroddwyd yn yr Adroddiad i'r Cabinet ar Adfer ar ôl Covid, roedd Llywodraeth Cymru ac elusennau/sefydliadau dielw eraill yn cynnig cymorth ariannol i aelwydydd dros y cyfnod hwn, a hefyd yn cynnig cyngor ar ddyledion a chyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth. 

 

Parhaodd Cyngor Casnewydd i weinyddu grantiau a chymorth ariannol i gartrefi a busnesau yn y Ddinas.

 

·        Roedd hyn yn cynnwys prosesu dros 7,000 o geisiadau am daliadau Tanwydd y Gaeaf a thalu'r grant i 6,253 o aelwydydd.

·        Ar gyfer busnesau, roedd grantiau Ardrethi Annomestig wedi'u talu i 510 o fusnesau, gan greu cyfanswm o £1.3m.

 

Roed hi'n bwysig i aelwydydd a oedd yn gymwys i dderbyn y grant ymgeisio, er mwyn gallu eu helpu gyda'u costau ynni drwy'r cyfnod anodd hwn. 

 

Hefyd, i Fusnesau yng Nghasnewydd roedd hi'n bwysig gwneud cais am y grant Ardrethi Annomestig, a hefyd i ymweld â'n gwefan a Busnes Cymru i weld pa gymorth a chyngor ariannol a oedd ar gael.

 

I ddinasyddion yr UE / AEE sy'n byw yng Nghasnewydd, roedd dros 10,000 o geisiadau am statws sefydlog wedi'u cwblhau, gyda 920 o geisiadau'n disgwyl penderfyniad (ar sail ffigurau'r Swyddfa Gartref hyd fis Medi 2021).

 

Ailbwysleisiodd y Cabinet ei gefnogaeth tuag at ddinasyddion yr UE/AEE sy'n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd, a'r ffaith bod gan bob un ohonynt ran i'w chwarae er mwyn gwneud Casnewydd yn ddinas wych i fyw a gweithio ynddi. 

 

Roedd y Cabinet hwn yn annog unrhyw un a oedd yn disgwyl am benderfyniad neu a oedd ei chael hi'n anodd cwblhau eu cais i gysylltu â'r Cyngor a sefydliadau eraill fel Cyngor ar Bopeth. 

 

Roedd Cyngor Casnewydd a'i bartneriaid yn parhau i gynnwys ac ymgysylltu â phreswylwyr o'r UE.  Roedd hi'n bwysig cael adborth o'r digwyddiadau hyn er mwyn inni ddeall sut y gallem barhau i gefnogi ein dinasyddion.

 

Roedd yn galonogol gweld bod 85% o ddinasyddion yr UE a fynychodd y digwyddiadau yn teimlo’n hapus yn byw yng Nghasnewydd ond roedd y Cabinet yn ymwybodol o’r heriau parhaus yr oeddent yn eu hwynebu i sicrhau bod Casnewydd yn parhau i fod yn ddinas ddiogel a chroesawgar.

 

Roedd y Cyngor yn parhau i weld cynnydd yn nifer y gwladolion o'r UE a thu hwnt yr oedd angen cymorth arnynt gan wasanaethu'r Cyngor, ond nad oeddent yn gallu gofyn am gymorth arian cyhoeddus. 

 

Roedd gr  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dyma oedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith. 

 

Cynnig i dderbyn y rhaglen wedi'i diweddaru.

 

Penderfyniad:

 

Bod y Cabinet yn cytuno ar y Rhaglen Waith.