Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 12fed Hydref, 2022 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Dirprwy Arweinydd, Cynghorydd D Davies.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd yr Arweinydd ei chydweithwyr fod cyfarfod Cabinet mis Medi wedi'i ganslo oherwydd marwolaeth drist y Frenhines Elizabeth II.   Gan hynny, cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol, ar 13 Gorffennaf 2022, yn gywir.

 

 

4.

Monitro Cyllideb Refeniw Gorffennaf pdf icon PDF 742 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'w chydweithwyr yn y Cabinet.  Hwn oedd yr adroddiad monitro refeniw cyntaf a gyflwynwyd i'r Cabinet yn y flwyddyn ariannol hon, ac esboniai ragolygon cyfredol yr Awdurdod ym mis Gorffennaf 2022.

 

Yn erbyn cyllideb net o £343miliwn, roedd sefyllfa refeniw mis Gorffennaf ar hyn o bryd yn rhagweld gorwariant o £3.1miliwn, a oedd yn cynrychioli tua 1% o amrywiant yn erbyn y gyllideb. Cafwyd y gorwariant hwn ar ôl defnyddio holl gronfeydd wrth gefn y gyllideb refeniw o £4.9 miliwn a oedd wedi'u cynnwys yng nghyllideb refeniw 2022/23, fel y cytunwyd gan y Cabinet ym mis Chwefror 2022.

 

Fel yr adlewyrchwyd yn adroddiad cyllideb 2022/23, ac yn adroddiad alldro 2021/22, roedd y flwyddyn ariannol hon yn cynnig cyfle am fwy o sefydlogrwydd, o gymharu â'r ddwy flynedd cynt, gyda'r posibilrwydd y gallai effeithiau pandemig Covid-19 ddechrau lleihau. Fodd bynnag, roeddem yn gwybod y byddai Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru yn dod i ben, ac y byddai unrhyw gostau'n gysylltiedig ag adfer, a'r heriau a brofwyd wrth geisio cyrraedd lefelau incwm y gorffennol, yn disgyn ar ysgwyddau'r Cyngor.

 

Er bod symiau mawr wedi'u neilltuo wrth gefn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn 2022/23 i ymdrin ag effeithiau etifeddol Covid, roedd dau fater newydd wedi codi ers cytuno ar y gyllideb, a'r rheiny'n dyngedfennol:

 

§  Roedd cynnig amodol y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol (NJC) a'r cynnig cyflogau athrawon ar gyfer 2022/23 yn uwch na'r hyn a neilltuwyd ar eu cyfer (cyfartaledd o +4% yn uwch yn achos yr NJC a +1% yn uwch yn achos yr Athrawon)

 

§  Cafodd cynnydd oherwydd chwyddiant dros y chwe mis diwethaf, a oedd yn parhau i gynyddu, effaith ar gyllideb y Cyngor, er enghraifft, tanwydd a chontractau allanol mawr fel trafnidiaeth ysgol. Parhaodd swyddogion i reoli'r rhain o fewn adnoddau presennol, hyd y bo'n ymarferol bosibl.

 

Fel y dangosai'r adroddiad a'i atodiadau, ynghyd ag effaith y dyfarniadau cyflog, esboniwyd y sefyllfa gyfredol fel a ganlyn:

 

§  Bu gorwariant sylweddol mewn rhai meysydd galw allweddol ac roedd risgiau eraill yn dod i'r amlwg o fewn meysydd gwasanaeth.

 

§  Gwrthbwyswyd y rhain yn rhannol gan arbedion yn erbyn (i) symiau wrth gefn y gyllideb refeniw, a ddarparwyd i'r Cyngor (ii) cynllun gostyngiadau'r dreth Gyngor a (iii) chyllidebau eraill nad oeddent yn gysylltiedig â gwasanaethau.

 

Roedd rhai meysydd o fewn yr Awdurdod yn adrodd gorwariant sylweddol yn erbyn gweithgareddau penodol. Roedd y gorwariant hwn yn gysylltiedig â meysydd gweithgarwch a oedd yn seiliedig ar y galw, fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, a chanddynt felly risg gynhenid o newid pe bai lefelau'r galw'n newid o'r rhagolygon cyfredol ar gyfer gweddill y flwyddyn.

 

Dyma'r meysydd allweddol a oedd yn cyfrannu at y rhagolygon o £3.1 miliwn:

 

(i)           Cynnydd yn y galw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol, gan gynnwys lleoli plant y tu allan i'r ardal a lleoliadau brys. Roedd y ddau faes hyn ar eu pen eu hunain yn cyfrannu gorwariant o bron i £2.9 miliwn at sefyllfa  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Monitro Rhaglen Gyfalaf Chwarter 1 - 2022/23 pdf icon PDF 409 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a oedd yn rhoi trosolwg o ddiweddariad y cyllidebau cyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a gweddill ffenestr y rhaglen gyfalaf, ochr yn ochr â'r alldro a ragwelwyd, fel y nodwyd ym mis Gorffennaf eleni.

 

Dyma oedd adroddiad monitro cyfalaf cyntaf blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Yr adroddiad diwethaf a dderbyniodd y Cabinet ar gyfer y Gyllideb Cyfalaf oedd adroddiad alldro 2021/22, a nodai gyfanswm y gyllideb cyfalaf wrth fynd i mewn i 2022/23. Bryd hynny, cyfanswm y gyllideb ar gyfer eleni oedd £117.4m, a gynrychiolai gynnydd sylweddol mewn lefelau gwariant o gymharu â'r blynyddoedd cynt.

 

Dros yr haf, cynhaliodd swyddogion ymarfer i adolygu'r proffil gwariant a ragwelwyd ar gyfer pob cynllun, gyda'r nod o sicrhau bod cyllideb ddechreuol fwy realistig yn cael ei defnyddio i adrodd yn ei herbyn yn ystod y flwyddyn.

 

Penllanw'r ymarfer hwn oedd ailbroffilio cyfanswm o £51.8m i'r blynyddoedd nesaf.

 

Drwy gynnal yr ymarfer hwn, a lleihau cyllideb 2022/23, byddai'r lefelau llithriant a fyddai'n cael eu hadrodd drwy gydol y flwyddyn yn gostwng, o gymharu â'r blynyddoedd cynt.

 

Yn ogystal â'r ymarfer ailbroffilio cafwyd nifer o ychwanegiadau a diwygiadau i'r rhaglen, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig ag ychwanegu cynlluniau penodol a gyllidir drwy grant. Cyfanswm y rhain yw £25.550m, a manylir arnynt yn Atodiad A, gan ddangos yr effaith ar draws amryw o flynyddoedd ariannol, gydag £15.8m wedi'i ychwanegu at 2022/23 yn unig. Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r ychwanegiadau hyn i'r rhaglen.

 

Cyfanswm effaith net yr ychwanegiadau a'r diwygiadau hyn oedd gostwng cyfanswm y gyllideb ar gyfer 2022/23 i £81.4m.

 

Yn wahanol i'r blynyddoedd cynt, nid oedd cais i'r Cabinet gymeradwyo llithriant yn y cyfnod hwn o'r flwyddyn. Y lle hynny, byddai llithriant yn cael ei nodi ym mhob adroddiad monitro, a dim ond yn adroddiad terfynol y flwyddyn y byddai gofyn am gymeradwyaeth i drosglwyddo'r cyfanswm i'r blynyddoedd nesaf. Y bwriad oedd creu mwy o eglurder ac atebolrwydd, oherwydd byddai'r adroddiadau yn erbyn cyllideb sefydlog, yn hytrach na chyllideb a oedd yn newid bob chwarter.

 

Yn erbyn y gyllideb ddiwygiedig o £81.4m yn 2022/23, roedd cyfanswm o £80.9m o wariant alldro wedi'i ragamcanu.

 

Roedd yr amrywiant hwn yn cynnwys £433k o lithriant a £106k o danwariant a gorwariant net "gwirioneddol".

 

Roedd lefel y llithriant a oedd yn cael ei adrodd yn sylweddol is na'r blynyddoedd cynt, oherwydd yr ymarfer ailbroffilio a ddisgrifiwyd yn flaenorol.

 

Nid oedd unrhyw eitemau llithriant mawr i'w hamlinellu hyd yma, ond roedd nifer o gynlluniau yr oedd angen eu monitro'n agos wedi'u hamlygu er gwybodaeth. Roedd y rhain yn cynnwys y Bont Gludo a'r Ganolfan Hamdden, lle gallai'r risg o oedi pellach olygu bod llithriant yn cael ei nodi yn hwyrach yn y flwyddyn.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu sefyllfa gyfredol y lle sydd ar gael o ran cyfalaf.

 

Ar ôl ei ddiweddaru ar gyfer ymrwymiad newydd diweddar, a chynnydd cyfwerth mewn adnoddau, roedd cyfanswm y lle yn dal i fod yn £2.354m, ac yn cynnwys y canlynol:

 

-         £57k o le  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Corfforaethol (Chwarter 1) pdf icon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr eitem nesaf a gyflwynodd yr Arweinydd oedd diweddariad ar Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer diwedd Chwarter Un (1 Ebrill 2022 hyd 30 Mehefin 2022).


Gofynnwyd i aelodau'r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad hwn a pharhau i fonitro'r risgiau hyn a'r camau a oedd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r risgiau a nodwyd.


Roedd Polisi Rheoli Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn galluogi'r weinyddiaeth hon a swyddogion i nodi, rheoli a monitro'n effeithiol y risgiau hynny a allai ein hatal rhag cyflawni ein blaenoriaethau strategol a chyflawni ein dyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

 

Byddai Adroddiad Risg Chwarter Un hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor ar ddiwedd mis Medi 2022 i adolygu proses rheoli risg a threfniadau llywodraethu'r Cyngor.

 

Ar ddiwedd chwarter un roedd gan y Cyngor 44 o risgiau wedi'u cofnodi ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor.


Roedd y risgiau hynny yr ystyriwyd eu bod yn achosi'r risg fwyaf sylweddol o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol a gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu huwchgyfeirio i'w monitro ar Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor.
 

Ar ddiwedd chwarter tri roedd 16 o risgiau wedi'u cofnodi ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

·        Wyth Risg Ddifrifol (15 i 25);

·        Wyth Risg Fawr (saith i 14);

 

O gymharu â chwarter pedwar, nid oedd unrhyw risgiau newydd nac/neu risgiau wedi'u huwchgyfeirio, ac nid oedd yr un risg wedi cau.


Roedd pedair risg ar ddeg yn dal ar yr un sgôr â chwarter 4 2021/22.


Cynyddodd un sgôr risg, a gostyngodd un sgôr risg ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

Bu newid yng Nghyfeiriad y Sgôr Risg.

 

Cydbwyso Cyllideb Tymor Canolig y Cyngor (sgôr risg wedi cynyddu o naw i 12) - Cafodd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ei ddiweddaru'n ddiweddar am y tro cyntaf ers pennu cyllideb refeniw 2022/23.
 

Oherwydd yr argyfwng chwyddiant presennol, roedd hi'n amlwg y byddai pwysau o ran costau'n cynyddu'n sylweddol o gymharu â'r rhagdybiaethau gwreiddiol.


Rhagwelwyd y byddai cynnydd sylweddol mewn cyflogau, costau ynni a gwasanaethau a gomisiynir. Yn ogystal â hynny, nododd gwasanaethau bwysau mewn nifer o feysydd, yn enwedig y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig â'r galw a'r capasiti o fewn gwasanaethau.


Roedd y tybiaethau cyllido'n dal i fod yr un peth i raddau helaeth, ac felly roedd potensial am fwlch sylweddol yn y gyllideb.


Byddai'n heriol iawn mynd i'r afael â'r bwlch hwn yn y gyllideb, yn enwedig ac ystyried faint o arbedion a oedd eisoes wedi'u nodi a'u sicrhau yn y blynyddoedd cynt.


Pandemig Covid-19 (gostwng sgôr risg o 16 i 12) - Er bod Covid yn dal i achosi risg ac yn cael ei fonitro drwy gr?p GOLD strategol y Cyngor, roedd yr effaith gyffredinol ar wasanaethau wedi gostwng.
 

Ar ddiwedd Chwarter 1 gostyngwyd y risg i adlewyrchu hyn, ond roedd yr effaith ar absenoldeb staff yn dal i gael ei monitro.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at y risg seiberddiogelwch, a oedd wedi'i hamlinellu yn yr adroddiad yn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cynllyn Corfforaethol pdf icon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar ddatblygiad Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2022-27.

 

Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Casnewydd gyhoeddi Cynllun Corfforaethol a esboniai sut y byddai'r Cyngor yn gwneud gwaith datblygu cynaliadwy i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, a'i saith nod llesiant.

 

Roedd Cynllun Corfforaethol blaenorol 2017-22 yn esbonio ymrwymiad y Cyngor i adeiladu ar lwyddiant ac adeiladu Casnewydd well. Dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, roedd y Cynllun wedi'i gyflawni yng nghyd-destun dau ddigwyddiad mawr byd-eang - pandemig Covid ac yn fwy diweddar, yr argyfwng costau byw.

 

Er gwaethaf yr heriau hyn, roedd Cyngor Casnewydd a'i bartneriaid yn parhau i gyflawni newid a gwella gwasanaethau. Byddai manylion pellach yn cael eu rhoi i'r Cabinet hwn fis nesaf, yn rhan o adroddiad blynyddol y Cyngor.

 

Dros y pum i ugain mlynedd nesaf, roedd disgwyl i Gasnewydd weld newid sylweddol, ac mae'n rhaid inni ystyried y cyfleoedd a fyddai'n gwella llesiant y ddinas, yn darparu twf economaidd ac yn cefnogi cymunedau cydlynol a diogel.

 

Byddai llawer o heriau a newidiadau y byddai'n rhaid i Gasnewydd baratoi amdanynt hefyd, ac ymaddasu iddynt, fel y newid hinsawdd, cynaliadwyedd gwasanaethau, newid technolegol a'r angen parhaus i ddarparu gwasanaethau angenrheidiol i'n cymunedau mwyaf difreintiedig ag agored i niwed.

 

Wrth ddatblygu’r Cynllun hwn, ystyriodd Cyngor Casnewydd flaenoriaethau ar raddfa Genedlaethol (Llywodraeth Cymru), ar raddfa Ranbarthol (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) a lleol (Nodau Maniffesto ein Cabinet).

 

Dros y pum mlynedd nesaf byddai pedwar Amcan Llesiant Cyngor Casnewydd yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

1.      Mae Casnewydd yn ddinas sy'n ffynnu ac yn tyfu, sy'n cynnig addysg ardderchog ac yn anelu i gynnig cyfleoedd i bawb.

2.      Mae Casnewydd yn ddinas sy’n ceisio gwarchod a gwella ein hamgylchedd gan leihau ein hôl troed carbon a pharatoi am ddyfodol cynaliadwy a digidol.

3.      Mae Casnewydd yn ddinas gefnogol lle mae cymunedau a gofal wrth galon yr hyn a wnawn.

4.      Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn sefydliad cynhwysol sy'n rhoi lle creiddiol i werth cymdeithasol, tegwch a chynaliadwyedd.

 

Ym mis Medi bu Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu'r Cyngor yn craffu ar yr Amcanion Llesiant drafft hyn.

 

Roedd y Cabinet yn croesawu'r adborth cadarnhaol hwn gan y Pwyllgor ar yr amcanion, a byddai'n ystyried argymhellion y Pwyllgor cyn cyflwyno fersiwn derfynol y Cynllun gerbron y Cabinet a'r Cyngor ym mis Tachwedd.

 

Gofynnwyd i breswylwyr hefyd am eu barn am Amcanion Llesiant y Cynllun Corfforaethol a’u pwysigrwydd wrth ddarparu gwasanaethau.  Mae'r canlyniadau wedi dangos bod dros 70% o drigolion yn ystyried bod y pedwar amcan naill ai'n bwysig iawn neu'n bwysig i Gasnewydd.

 

Byddai fersiwn terfynol o'r Cynllun Corfforaethol yn cael ei chyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor ym mis Tachwedd cyn cyhoeddi'r Cynllun yn Gymraeg ac yn Saesneg i breswylwyr.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Roedd y Cynghorydd Lacey o'r farn fod hon yn ddogfen flaengar a oedd wedi'i hystyried yn ofalus ac roedd am sicrhau preswylwyr nad ymarfer rhoi tic yn y bocs yn unig oedd hyn. Dyma'r amcanion a oedd yn sail i  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol pdf icon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'r Cabinet.  Dyma oedd Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gynnydd yn erbyn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24.


O dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) roedd yn ofynnol i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar ei gynnydd yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol a geir yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol.


Datblygwyd Amcanion Cydraddoldeb Cyngor Casnewydd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol a buont yn destun ymgysylltu helaeth â'r gymuned. Er bod y Cynllun yn gwireddu gweledigaeth strategol ar gyfer cydraddoldeb yng Nghasnewydd, sicrhawyd, drwy gynnwys cymunedau ar lawr gwlad, ei fod hefyd yn cynnig canlyniadau pendant i gymunedau lleol.


Adolygwyd Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 21/22 gan Bwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu'r Cyngor ym mis Medi ac roedd eu sylwadau wedi'u cynnwys yn Adroddiad y Cabinet.

 

Roedd effaith y pandemig yn parhau i achosi heriau wrth gyflawni yn erbyn rhai meysydd gwaith yn 2021/22, ond roedd gwaith cydraddoldeb Casnewydd yn parhau i fod yn hyblyg, gan ymateb i heriau a oedd yn dod i'r amlwg, yn enwedig yn gysylltiedig â mynediad at wybodaeth, addysg a'r wythnos mynd i'r afael â throseddau casineb.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Heddlu am eu cefnogaeth wych mewn perthynas â Throseddau Casineb.

 

Roedd yr Arweinydd wedi'i phenodi'n Llefarydd ar ran CLlLC ar gyfer Cydraddoldeb, Ymfudo ac Atal Tlodi.


Roedd dyddiadau arwyddocaol, fel Mis Hanes LHDT+, Ramadan, Diwrnod Cofio'r Holocost, Mis Pride, Wythnos Ffoaduriaid, Diwrnod Windrush, Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Mis Hanes Pobl Ddu ac Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb oll yn cael eu cydnabod a'u hyrwyddo ar draws y ddinas. Roedd y T?r Dinesig hefyd yn cael ei oleuo i ddathlu hyn.


Roedd Asesiadau Effaith Tegwch a Chydraddoldeb, gan gynnwys y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn erbyn polisi/penderfyniadau, yn cael eu cynnal yn barhaus yn erbyn ystod o benderfyniadau.  Cyfeiriwyd at ein harfer da yn ddiweddar mewn adroddiad cenedlaethol gan Archwilio Cymru.


Dosbarthwyd £415,000 i 79 o brosiectau cymunedol, o dan oruchwyliaeth gr?p llywio cymunedol cynrychioliadol, gan gydweithio'n agos â Chomisiwn Tegwch Casnewydd.

 

Roedd rhwydweithiau staff ar gyfer staff anabl, LHDTC+ a lleiafrifol ethnig yn parhau i gynnig llwyfan i staff o grwpiau wedi'u tangynrychioli gael dylanwadu ar bolisi'r gweithlu, darpariaeth gwasanaeth a phenderfyniadau strategol

 

Yn sgil y gefnogaeth sylweddol a roddwyd i Ddinasyddion yr UE yng Nghasnewydd, bu modd i breswylwyr cymwys gyflwyno ceisiadau hwyr i Gynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE ar ôl y dyddiad cau.

 

Cyflwynwyd sesiynau ymwybyddiaeth i aelodau uwch o staff gwasanaethau cwsmeriaid ar Gydraddoldeb, Troseddau Casineb a Chynllun Preswylion Sefydlog yr UE.


Yn ystod y flwyddyn cafodd dros 2,665 o bobl gefnogaeth drwy gynlluniau cymorth lle bo'r angen i gael mynediad at lety a chadw llety, gan gynnwys oedolion ag anableddau dysgu a ffoaduriaid

 

O ran data'r gweithlu, arhosodd cynrychiolaeth lleiafrifol ethnig y Cyngor yn debyg eleni er i niferoedd y staff gynyddu rhyw fymryn, a gostyngodd y bwlch rhwng cyflogau'r rhywiau dros y cyfnod hwn.

 

Roedd gan y Cyngor waith i'w wneud o hyd i wella'r gynrychiolaeth o staff lleiafrifol ethnig ar bob  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Blynyddol Cynllun Newid Hinsawdd pdf icon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd yn falch iawn o gyflwyno'r adroddiad blynyddol rhagarweiniol ar gyfer ein Cynllun Newid Hinsawdd.

 

Fel sefydliad sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, datganwyd argyfwng ecolegol a hinsawdd gennym fis Tachwedd diwethaf a dywedwyd y byddem yn datblygu cynllun sefydliadol clir ar gyfer y Newid Hinsawdd, mewn ymgynghoriad â'n dinasyddion, ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a fyddai'n nodi'r camau y byddai angen inni eu cymryd i'r perwyl hwn.

 

Ym mis Mawrth eleni, gwnaethom gytuno fel Cabinet ar ein Cynllun Newid Hinsawdd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Roedd y cynllun hwn yn esbonio sut y byddem ni fel sefydliad yn lleihau allyriadau carbon y cyngor i garbon sero net erbyn 2030 ac

yn adolygu'r gwasanaethau yr oedd y cyngor yn eu darparu i sicrhau eu bod yn cefnogi taith y ddinas tuag at garbon sero net a hefyd wrth ymaddasu i effeithiau'r newid hinsawdd.

 

Byddai’r cynllun yn weithredol o 2022-27, ac roedd yr adroddiad rhagarweiniol hwn yn nodi lle’r oeddem arni ar ddechrau’r cynllun, a hefyd yn manylu ar rai o’r prosiectau pwysig a oedd eisoes ar y gweill.

 

Roedd y cynllun yn ddogfen allweddol i'r Cyngor ac erbyn hyn yn pennu ein trywydd fel sefydliad er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a'u heffeithiau. 

 

Roedd yr Arweinydd yn croesawu'r adroddiad cadarnhaol ac yn edrych ymlaen at gael gweld sut y byddai'r gwaith hwn yn datblygu yn y dyfodol.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth i wneud sylwadau.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Forsey fod ein hallyriadau carbon eisoes wedi gostwng yn sylweddol, gan ragori ar y targedau a osodwyd yn ein Cynllun Rheoli Carbon. Roedd y Cynghorydd Forsey yn edrych ymlaen at weld gostyngiadau pellach wrth inni barhau i ôl-osod adeiladau cyngor, ac ychwanegu mwy o gerbydau trydan o fewn y fflyd.

 

Er hynny, roedd llawer mwy i'w wneud o hyd fel sefydliad i liniaru ac ymaddasu i'r argyfyngau natur a hinsawdd, ac roedd ein Cynllun Newid Hinsawdd yn ein gosod ar y trywydd iawn ar gyfer y daith honno, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu ar ran cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol. Fel Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y newid hinsawdd a bioamrywiaeth, roedd y Cynghorydd Forsey yn falch o weld yr adroddiad rhagarweiniol cadarnhaol hwn, a byddai'n monitro cynnydd y cynllun yn agos ac yn gofyn am ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd i sicrhau ein bod yn parhau i fwrw ymlaen ar y cyflymder angenrheidiol.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Soniodd y Cynghorydd Hughes fod Casnewydd wedi ymrwymo i ymateb i'r newid hinsawdd er budd cenedlaethau'r dyfodol. Aeth y Cynghorydd Hughes ymlaen i ddiolch i'r Cynghorydd Forsey a'r staff am eu gwaith caled.

 

Penderfyniad:

 

Bod y Cabinet yn adolygu cynnydd ac yn cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Rhagarweiniol sydd ynghlwm.

 

10.

Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent - Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad pdf icon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad, sef dogfen statudol yr oedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru i bob partner statudol ei chynhyrchu bob tair blynedd. Rhaid cyhoeddi adroddiad trosolwg rhanbarthol hefyd ar yr un amserlen. Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd i gynhyrchu ASF rhanbarthol.

 

Mae'r ASF yn esbonio'r graddau y mae'r gwasanaethau a gomisiynir yn sefydlog o fewn y rhanbarth, yn seiliedig ar eu hôl-troed lleol i gefnogi pobl sydd angen gofal a chymorth.

 

Mae'r chwe sefydliad comisiynu yng Ngwent ar hyn o bryd yn comisiynu 106 o gartrefi gofal a 109 o ddarparwyr gofal cartref i oedolion h?n ar draws y rhanbarth.

 

Cartrefi Gofal

Cyn pandemig COVID-19, nid oedd rhyw lawer o bryder ynghylch lleoedd gwag mewn cartrefi gofal, a hyfywedd ariannol darparwyr. Roedd ar y rhan fwyaf o ddarparwyr angen meddiannaeth o 90% o leiaf er mwyn aros yn hyfyw yn ariannol. Roedd gwelyau gwag mewn cartrefi gofal yn cael eu monitro'n wythnosol ar raddfa leol a rhanbarthol. Fodd bynnag, cafodd pandemig COVID-19 gryn effaith ar ddarpariaeth gofal a chymorth yng Ngwent.

 

Gofal Cartref

Oherwydd pandemig COVID-19 a phrinder staff, roedd gwasanaethau gofal cartref ar hyn o bryd ar lefelau critigol ac ar brydiau nid oeddent yn gallu bodloni’r galw’n llawn. Roedd staff yn parhau i adael y sector oherwydd cyflogau a thelerau ac amodau gwael, a chostau cyflogaeth (fel gyrru a bod wedi'u cofrestru). Dros y misoedd diwethaf, gwaethygwyd y sefyllfa hon eto gan yr argyfwng costau byw, ac yn enwedig y cynnydd mewn costau tanwydd. Gan fod staff yn brin, cafwyd mwy o oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai lleol, gan greu tagfeydd ar draws y system ehangach.

 

Roedd cynnydd ar hyn o bryd yn nifer yr unigolion a oedd angen gofal gartref, a phryder hefyd y byddai hyn yn parhau yn dilyn pandemig COVID-19. Roedd nifer y pecynnau ofal a oedd yn cael eu dychwelyd i'r comisiynwyr hefyd yn destun pryder, gyda thros 70 o ddarparwyr yn dychwelyd dros 950 o oriau wythnosol bob wythnos. Yn sgil hyn, rhoddodd comisiynwyr y flaenoriaeth i'r dinasyddion mwyaf agored i niwed a chanddynt anghenion cymhleth.

 

Roedd y dull Partneriaeth â chartrefi gofal ac asiantaethau gofal cartref a sefydlwyd yn ystod y pandemig o gymorth i adeiladu perthynas waith gadarnhaol â darparwyr i'w helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau ymatebol o ansawdd da yn ystod cyfnod argyfyngus. Roedd hefyd yn cynnig llwyfan ddefnyddiol i ymgysylltu â darparwyr i drafod mesurau atal a rheoli haint ac i ystyried materion parhad busnes. Roedd seminarau'n parhau i gael eu cynnal yn fisol ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan ALlau, BIPAB a darparwyr gwasanaeth fel ei gilydd.

 

Gwasanaethau Plant

O ran gwasanaethau preswyl a lleoliadau maeth, roedd gwasanaethau plant yn annigonol ar hyn o bryd i fodloni anghenion y rhanbarth. Roedd y galw am wasanaethau maeth ar hyn o bryd yn fwy na'r cyflenwad ac roedd hi'n aml yn anodd cael  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Adroddiad Pwysau Allanol NCC pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a oedd yn eitem sefydlog, i'w gydweithwyr. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bu nifer o effeithiau economaidd byd-eang o ganlyniad i bandemig Covid, a rhyfel parhaus Wcrain a effeithiodd ar y cyflenwad byd-eang o fwyd, ynni (nwy a thrydan) a thanwydd.


Roedd y cynnydd mewn costau byw nid yn unig yn effeithio ar aelwydydd ond hefyd yn effeithio ar fusnesau yng Nghasnewydd a oedd yn wynebu penderfyniadau anodd i dalu’r costau hyn.


Roedd hi'n bwysig i'r rhai oedd yn cael trafferth gysylltu â'r Cyngor a allai roi cyngor a helpu unigolion gyda'u biliau.

 

Yn ddiweddar, sefydlodd y Cyngor gr?p gorchwyl a gorffen i ymateb mewn modd cydgysylltiedig i'r argyfwng costau byw yng Nghasnewydd, a datblygu datrysiadau hirdymor mewn partneriaeth â sefydliadau'r trydydd sector i gefnogi cymunedau sy'n agored i niwed ac yn ddifreintiedig.


Roedd Cyngor Casnewydd yn cefnogi mentrau Llywodraeth Cymru drwy weinyddu Rhyddhad y Dreth Gyngor i aelwydydd ym Mandiau A a B.


Yn ogystal â'r arian a ddarparwyd i'r cartrefi hyn, byddai Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn £1,249,653 arall a fyddai'n cael ei ddosbarthu i breswylwyr drwy gynllun dewisol.


Er mwyn ceisio mynd i'r afael â thlodi bwyd a lliniaru pwysau ariannol ar deuluoedd yn ystod y cyfnod ansicr hwn, roedd Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig Prydau Ysgol am Ddim i bob disgybl Derbyn, Blwyddyn a Blwyddyn 2 a oedd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol o fis Medi 2022.
 

Roedd y Cyngor hefyd yn cynnig y Grant Datblygu Disgyblion er mwyn helpu i dalu costau gwisg ac offer ysgol.


Drwy weithio mewn partneriaeth â GAVO, lansiodd Cyngor Dinas Casnewydd y Grant Sefydliadau Bwyd Cymunedol gwerth £100k. Gallai sefydliadau hawlio hyd at £5k i gefnogi costau parhaus yn gysylltiedig â'r cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau.

 

Roedd yr adroddiad hwn hefyd yn amlygu'r modd yr oedd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar gyllid y Cyngor.

 

Roedd  Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau i groesawu teuluoedd o Wcrain i'r ddinas a oedd wedi'u dadleoli gan y rhyfel parhaus yn Wcrain, gan eu helpu i ganfod lloches sicr a diogel.


Croesawodd Casnewydd lawer o deuluoedd o Wcrain i Gasnewydd a’u helpu i ymgartrefu yn y ddinas gan gynnig mynediad i ysgolion, gofal iechyd a gwasanaethau eraill.


Oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy'n ceisio lloches yn sgil problemau byd-eang, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ddull 'Gwasgaru Llawn' lle'r oedd yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol ddatblygu'n ardal wasgaru.


Byddai Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Bartneriaeth Ymfudo Strategol i ystyried effaith y cynlluniau hyn ar Gasnewydd.

 

Yn ogystal â'r cynllun hwn, gorfodwyd newidiadau i'r Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol ar gyfer Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches (UASC). Ym mis Awst cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y byddai'r cynllun yn cael ei ehangu i gynnwys pob Awdurdod Lleol, a arweiniodd at bwysau ychwanegol ar leoliadau i blant ledled Casnewydd.


Parhaodd Timau a Gwasanaethau'r Cyngor i deithio'r ail filltir er mwyn cydweithio a chydlafurio i sicrhau bod unigolion  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

OneNewport - Crynodeb o Fusnes

Click here to open the link.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cabinet y crynodeb o faterion.

 

13.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dyma oedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith.

 

Gofynnwyd am gael derbyn y rhaglen a oedd wedi'i diweddaru.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith