1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd Cofnodion 15 Chwefror fel cofnod cywir.

4.

TOMs (Themâu, Canlyniadau a Mesurau) Craidd Cyngor Dinas Casnewydd ar gyfer Mesur Gwerth Cymdeithasol mewn Contractau pdf icon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o ‘Themâu, Canlyniadau a Mesurau’ neu ‘TOM’s’ ar weithgaredd caffael wrth brynu nwyddau a gwasanaethau, a fwriadwyd i gyflwynogwerth cymdeithasoli gymunedau a’r ddinas.  

 

Yroedd yr adroddiad yn gosod allan restr faith o’r mesurau craidd i’w defnyddio wrth brynu nwyddau a gwasanaethau.

 

Yroedd Cyngor Dinas Casnewydd yn cydnabod y gallai’r ffordd y mae’n rheoli gwariant gyda chyflenwyr, darparwyr gwasanaeth a chontractwyr wneud cryn wahaniaeth i flaenoriaethau o ran gwella lles cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol y ddinas trwy sicrhau gwerth ychwanegol yn y tymor hir a buddion cymdeithasol trwy wneud hyn.

 

Llwyddodd y TOMs i gael y gwerth cymdeithasol ychwanegol hwn trwy fframwaith fesur oedd yn caniatáu datgloi gwerth cymdeithasol trwy ei integreiddio i weithgaredd caffael. Datblygwyd y fethodoleg ar y cyd â Rhwydwaith Caffael Cenedlaethol CLlLC a Thasglu Cenedlaethol Gwerth Cymdeithasol Cymru, gweithgor traws-sectorol sydd yn cyfuno mudiadau o’r sectorau cyhoeddus a phreifat.

 

O restr o dros 90 o fesurau yn y fframwaith cenedlaethol, gweithiodd tîm caffael y Cyngor gyda swyddogion o bob adran o’r Cyngor i ddatblygu rhestr graidd o ryw 45 mesur, sefrhestr hir’ y Cyngor hwn o fesurau i’w defnyddio yn lleol.

 

Byddaitendrau’r Cyngor am gontractau yn ymgorffori nifer llai o’r rhain (rhyw 2-5 yn bennaf) sydd yn addas i natur y gwasanaethau a’r nwyddau a gafaelir,  a bydd y rhain yn cael eusgorioochr yn ochr â’r meini prawf eraill, pris ac ansawdd. Dangosir y rhain yn yr Atodiad i’r adroddiad.

 

Byddangen defnyddio mesurau yng nghyswlltôl troed carbon’ ein cyflenwyr, a’i ostwng, fel diofyn. Trwy wneud hyn, mae neges glir yn cael ei roi i’n holl gyflenwyr a phartneriaid ein bod am gynnwys gwerth cymdeithasol a buddion allweddol eraill wrth wario’r bunt yng Nghasnewydd.

 

Yn ychwanegol at y mesurau penodol hyn, byddai ein tendrau yn dweud yn glir ein bod, fel Cyngor, yn annog ein cyflenwyr yn gryf i dalu i’w staff o leiaf y ‘cyflog byw go-iawn’, ac yr oedd gwybodaeth a gasglwyd trwy TOM’s ar berfformiad cyflenwyr yn hyn o beth yn ogystal â sicrhau eumeini prawf gwaith teg’ yn gadarn, o ran sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trin yn deg.  

 

Gofynnwydi’r Cabinet gymeradwyo Rhestr Graidd Cyngor Dinas Casnewydd o TOMs a gymeradwywyd ar gyfer mesur cyflwyno Gwerth Cymdeithasol trwy Gomisiynu, Caffael a Rheoli Contractau, ac adrodd yn gysylltiedig â hynny.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Yroedd y Cynghorydd D Davies yn croesawu’r adroddiad oedd yn sicrhau cyflwyno gwerthoedd cymdeithasol, yn hyrwyddo datblygu cadwyni cyflenwi lleol, ac yn ateb amcanion lles y Cyngor. Rhoddodd y  Dirprwy Arweinydd enghraifft o hyn ar waith wrth flaenoriaethu cadwyni cyflenwi lleol gyda phwyslais ar gyflogi gweithwyr lleol. Byddai hyn yn helpu’r Cyngor  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol (Chwarter 3) pdf icon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd GofrestrRisg Gorfforaethol y Cyngorar gyfer diwedd Chwarter tri (1 Hydref tan 31 Rhagfyr 2022) i gydweithwyr.

 

Yroedd Polisi Rheoli Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn galluogi’r weinyddiaeth hon a swyddogion i adnabod, rheoli a monitro’r risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyrraedd blaenoriaethau strategol a chynnal ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

 

Byddai’radroddiad risg Chwarter tri yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor yn nes ymlaen y mis hwn i adolygu prosesau a threfniadau llywodraethiant rheoli risg y Cyngor.

 

O ystyried yr heriau ariannol, y galwadau a’r pwysau cynyddol ar wasanaethau’r Cyngor, a’r argyfwng costau byw, nodwyd fod sawl risg wedi codi’rSgôr Risg Targed’, oedd yn golygu fod y Cyngor yn gorfod derbyn / goddef mwy o risg. 

 

Nidoedd hon yn sefyllfa y byddai unrhyw weinyddiaeth Cyngor eisiau ei rheoli, ond byddai’r Cabinet a’r uwch-swyddogion yn sicrhau bod y rhain yn cael eu monitro’n agos, a lle bo hynny’n briodol, yn gweithredu.

 

Arddiwedd Chwarter tri, yr oedd gan Gyngor Casnewydd 47 risg wedi eu cofnodi ar draws unarddeg maes gwasanaeth y Cyngor.

 

Cafodd y risgiau hynny y tybiwyd oedd y rhai mwyaf i gyflwyno Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’u gwasanaethau eu codi i Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor i’w monitro. 

 

Arderfyn Chwarter tri, cofnodwyd 14 risg ar y Gofrestr Risg Corfforaethol.

 

·         Saith Risg Ddifrifol (15 i 25).

·         Saith Risg Fawr (7 i 14).

 

O gymharu â Chwarter dau, nid oedd unrhyw risgiau newydd a/neu waeth ac arhosodd 13 risg ar yr un sgôr a Chwarter dau.

 

Cafoddsgôr un risg, Clefyd Gwywo’r Ynn, ei ostwng o 16 i 12 am i’r Cyngor wneud gwaith sylweddol ar ei stoc o goed ledled y ddinas.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Tynnodd y Cynghorydd Davies sylw at y ffaith mai pwrpas y gofrestr risg oedd nodi risgiau lefel uwch a allai gael effaith ar Gynllun Corfforaethol y Cyngor, ac fel Aelodau Cabinet, fod yn rhaid iddynt liniaru’r risgiau hyn a nodwyd yn eu portffolios. Fel Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar, yr oedd y Cynghorydd Davies yn ymwybodol o’r pwysau ariannol yr oedd ysgolion yn eu hwynebu. Yr oedd y Cynghorydd Davies eisiau tawelu meddyliau trigolion Casnewydd fod ysgolion yn gweithio’n galed i sicrhau fod cyngor a chefnogaeth broffesiynol ar gael i bob ysgol wrth gynllunio eu cyllidebau.

 

Penderfyniad

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys cyfoesiad Chwarter dau y Gofrestr Risg Corfforaethol.

6.

Adolygu Polisi: Adborth Cwsmeriaid - Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion pdf icon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd yr adroddiad nesaf, sef adolygiad polisi o’r Polisi Adborth Cwsmeriaid - Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion.

 

Pwrpasyr adroddiad oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r polisi diwygiedig.

 

Y prif sbardun oedd symleiddio a mireinio’r polisi ac amlinellu sut yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn gweinyddu adborth gan gwsmeriaid. 

 

Y mae’r polisi yn dal yn berthnasol ac yn parhau i adlewyrchu’r gofynion statudol a deddfwriaethol diweddaraf.

 

Ceiradroddiad blynyddol hefyd ar gwynion, sylwadau a chanmoliaeth am berfformiad, ac yr oedd hyn ar y rhaglen waith yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Prif flaenoriaeth yr adolygiad oedd symleiddio a mireinio’r polisi ac amlinellu’n glir ar yr un pryd sut mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweinyddu cwynion am Wasanaethau Corfforaethol a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Seiliwyd y  polisi Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion ar y ddogfen enghreifftiol a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Safonau Cwynion. O ganlyniad i adolygiadau i’r polisi, bydd disgwyliadau trigolion yn cael eu rheoli o’r cychwyn a phroses gwynion glir yn cael ei dilyn.

 

Y mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus; mae’n annibynnol ar holl gyrff y llywodraeth a chyhoeddodd bolisi enghreifftiol yn rhoi cyfarwyddyd ar sut i drin cwynion yn 2020. Cafodd eu hadborth ei ystyried yn y newidiadau i’r polisi.

 

Y mae’r polisi yn dal yn berthnasol ac yn parhau i adlewyrchu’r gofynion statudol a deddfwriaethol diweddaraf.

 

Fel cyngor sy’n gwrando, rydym yn rhoi gwerth ar gwynion, a  bydd adborth yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i wella’r gwasanaethau a ddarperir.

 

Nidyw diffyg cwynion o raid yn arwydd o wasanaethau gwych, yn union fel nad yw cynnydd mewn cwynion yn golygu bod y gwasanaethau yn wael.

 

o   Symleiddio a mireinio’r Polisi.

o   Manylion am feini prawf gwrthod.

o   Eglurderrhwng prosesau am gwynion Corfforaethol a Gwasanaethau Cymdeithasol.

o   Gostyngiadyn y cyfnod ar gyfer derbyn cwynion Corfforaethol o 12 mis i 6 mis.

o   Cynnwysmanylion am fonitro perfformiad.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Pwysleisiodd y Cynghorydd Batrouni fod yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn ysgrifennu at bob cyngor i wneud yn si?r fod y system gwynion a chanmoliaeth yn gyson, a bod Cyngor Dinas Casnewydd yn cydymffurfiol, yn ôl y gofyn. Hefyd, nid yn unig yr oedd y Cyngor yn cadw at y gofynion hynny, ond yn anelu at ragoriaeth, oedd yn broses na fyddai fyth yn diweddu. Bydd y Cyngor yn parhau i ymdrin â chwsmeriaid, yn delio â phryderon trigolion ac yn dysgu o’u sylwadau, yn gwynion ac yn feirniadaeth.

 

§  Ategodd y Cynghorydd Davies sylwadau’r Cynghorydd Batrouni a deall mai adolygiad oedd yr adroddiad o’r modd y mae cwynion yn cael eu rheoli. Proses yw hon i sicrhau ein bod yn gwrando ar y trigolion ac yn ymateb i’w pryderon. Yr oedd y Cynghorydd Davies hefyd yn croesawu’r ffaith fod y ddogfen yn hawdd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad Pwysau Allanol NCC pdf icon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd yr adroddiad nesaf, sef adolygiad polisi o’r Polisi Adborth Cwsmeriaid - Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion.

 

Pwrpasyr adroddiad oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r polisi diwygiedig.

 

Y prif sbardun oedd symleiddio a mireinio’r polisi ac amlinellu sut yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn gweinyddu adborth gan gwsmeriaid. 

 

Y mae’r polisi yn dal yn berthnasol ac yn parhau i adlewyrchu’r gofynion statudol a deddfwriaethol diweddaraf.

 

Ceiradroddiad blynyddol hefyd ar gwynion, sylwadau a chanmoliaeth am berfformiad, ac yr oedd hyn ar y rhaglen waith yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Prif flaenoriaeth yr adolygiad oedd symleiddio a mireinio’r polisi ac amlinellu’n glir ar yr un pryd sut mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweinyddu cwynion am Wasanaethau Corfforaethol a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Seiliwyd y  polisi Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion ar y ddogfen enghreifftiol a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Safonau Cwynion. O ganlyniad i adolygiadau i’r polisi, bydd disgwyliadau trigolion yn cael eu rheoli o’r cychwyn a phroses gwynion glir yn cael ei dilyn.

 

Y mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus; mae’n annibynnol ar holl gyrff y llywodraeth a chyhoeddodd bolisi enghreifftiol yn rhoi cyfarwyddyd ar sut i drin cwynion yn 2020. Cafodd eu hadborth ei ystyried yn y newidiadau i’r polisi.

 

Y mae’r polisi yn dal yn berthnasol ac yn parhau i adlewyrchu’r gofynion statudol a deddfwriaethol diweddaraf.

 

Fel cyngor sy’n gwrando, rydym yn rhoi gwerth ar gwynion, a  bydd adborth yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i wella’r gwasanaethau a ddarperir.

 

Nidyw diffyg cwynion o raid yn arwydd o wasanaethau gwych, yn union fel nad yw cynnydd mewn cwynion yn golygu bod y gwasanaethau yn wael.

 

o   Symleiddio a mireinio’r Polisi.

o   Manylion am feini prawf gwrthod.

o   Eglurderrhwng prosesau am gwynion Corfforaethol a Gwasanaethau Cymdeithasol.

o   Gostyngiadyn y cyfnod ar gyfer derbyn cwynion Corfforaethol o 12 mis i 6 mis.

o   Cynnwysmanylion am fonitro perfformiad.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Pwysleisiodd y Cynghorydd Batrouni fod yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn ysgrifennu at bob cyngor i wneud yn si?r fod y system gwynion a chanmoliaeth yn gyson, a bod Cyngor Dinas Casnewydd yn cydymffurfiol, yn ôl y gofyn. Hefyd, nid yn unig yr oedd y Cyngor yn cadw at y gofynion hynny, ond yn anelu at ragoriaeth, oedd yn broses na fyddai fyth yn diweddu. Bydd y Cyngor yn parhau i ymdrin â chwsmeriaid, yn delio â phryderon trigolion ac yn dysgu o’u sylwadau, yn gwynion ac yn feirniadaeth.

 

§  Ategodd y Cynghorydd Davies sylwadau’r Cynghorydd Batrouni a deall mai adolygiad oedd yr adroddiad o’r modd y mae cwynion yn cael eu rheoli. Proses yw hon i sicrhau ein bod yn gwrando ar y trigolion ac yn ymateb i’w pryderon. Yr oedd y Cynghorydd Davies hefyd yn croesawu’r ffaith fod y ddogfen yn hawdd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Dogfen Gryno Casnewydd yn Un

To view the One Newport Summary, please click on the following link:

 

https://sway.office.com/Ve9K7TbLyBeroBUA?ref=Link

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cabinet y crynodeb o fusnes.

9.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hwn oedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith. 

 

Derbyn y rhaglen a gyfoeswyd.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith.