1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Councillor Marshall.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CyflwynwydCofnodion 22 Mawrth a’u derbyn yn amodol ar y canlynol.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at Eitem 7 Cyfoesiad am Bwysau Allanol CDC - PGT yn cyfeirio at y Grant Datblygu Disgyblion (GDD).

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Harvey at Eitem 7 Cyfoesiad am Bwysau Allanol CDC - Cynhaliwyd sesiynau Mannau Cynnes yn ystod Rhagfyr 2022 tan fis Chwefror 2023 nid Tachwedd 2023.

4.

Datganiad tâl a gwobr pdf icon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, gadawodd yr uwch-swyddogion y cyfarfod.

 

Cyfeirioddyr Uwch-Gyfreithiwr (Cyfreithia) ar Ddeddf Lleoleiddio 2011, oedd yn mynnu bod awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn cynhyrchupolisi datganiad tâlyn flynyddol. Y mae’r ddeddfwriaeth yn gosod allan nifer o ofynion statudol y mae’n rhaid eu cynnwys mewn unrhyw ddatganiad polisi tâl. Mae’r Polisi Tâl a Gwobr yn amlinellu’r sefyllfa bresennol o ran tâl a gwobrwyo yn y Cyngor. Mae hyn yn cael ei adolygu a’i adrodd wrth y Cyngor bob blwyddyn er mwyn sicrhau ateb egwyddorion tegwch, cydraddoldeb, atebolrwydd a gwerth am arian i’r awdurdod a’i drigolion. Adolygwyd Polisi Tâl a Gwobr 2023/24, ac ni chynigiwyd unrhyw newidiadau eleni ar wahân i’r codiadau arferol mewn gwerth. Nodwyd y gwnaed  newidiadau i beth darpariaeth yn 2022/23 gyda chytundeb yr Aelod Cabinet priodol; adroddwyd am y newidiadau hyn wrth y Cabinet ac yna’r Cyngor. Byddai’r datganiad hwn yn dod i rym yn syth wedi iddo gael ei gadarnhau’n llawn gan y Cyngor. Yn ychwanegol at y cyfoesiad polisi tâl blynyddol, gofynnwyd i’r Cabinet ac yna’r Cyngor ystyried alinio’r cynnydd mewn gwyliau blynyddol a geir yn nyfarniad tâl yr NJC, a roed ddiwrnod yn ychwanegol o wyliau blynyddol i’r rhai oedd yn dod dan ddyfarniad tâl yr NJC o Ebrill 2023, i gynnwys hefyd brif swyddogion, er mwyn cysondeb.

 

Ychwanegoddyr Arweinydd fod dwy eitem yn yr adroddiad i’w hargymell i’r Cyngor llawn, oedd yn gofyn i’r Cabinet adolygu ac argymell y Polisi Tâl a Gwobr ac alinio Gwyliau Prif Swyddogion i’r Cyngor.

 

Yroedd Polisi Tâl a Gwobrwyo’r Cyngor am y gweithlu yn adroddiad blynyddol yr oedd yn rhaid i’r Cyngor ei fabwysiadu. Y mae’r polisi yn gosod allan y mecanweithiau mewnol o ran talu swyddogion y Cyngor ac yn rhoi cyfoesiad am unrhyw newidiadau ers ei fabwysiadu ddiwethaf yn 2022.

 

Yroedd unrhyw newidiadau a wnaed dros y 12 mis diwethaf wedi eu cefnogi gan y prosesau democrataidd priodol lle byddai angen, a’u nodi yn yr adroddiad.

 

Y mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y Cyngor yn dal i gymharu’n ffafriol â Chynghorau eraill ledled Cymru a’r DU, a rhagwelir y byddai hyn yr un fath pan fydd y Cyngor hwn yn cyfoesi ‘r data tâl yn nes ymlaen y mis hwn. Yr oedd yr Arweinydd yn falch o adrodd y gwelodd y Cyngor ostyngiad yng nghymhareb y tâl rhwng y swyddogion sy’n derbyn y cyflogau isaf a’r rhai uchaf, sydd yn golygu llai o fwlch.

 

Yroedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu sut yr oedd y Cyngor yn alinio gwyliau swyddogion, a thelerau ac amodau eraill, fel rhan o ymrwymiad y  Cyngor i gytundeb statws sengl yn 2015.   Yn nyfarniad cyflog 2022/23, cafodd yr holl swyddogion, ac eithrio am Brif Swyddogion, ddiwrnod ychwanegol o wyliau fel rhan o’r dyfarniad cyflog. Er mwyn sicrhau parhad o  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Strategaeth Ddigidol pdf icon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yradroddiad nesaf a gyflwynodd yr Arweinydd oedd y Strategaeth Ddigidol am 2023 i 2027.  Pwrpas yr adroddiad oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r strategaeth newydd.

 

Dyma oedd ail Strategaeth Ddigidol y Cyngor, a ddatblygwyd ar adeg pan oedd technoleg ddigidol yn gynyddol bwysig i gyflwyno gwasanaethau.

 

Yroedd y strategaeth yn dilyn datblygu a chytuno ar y Cynllun Corfforaethol newydd, ac fe’i datblygwyd yn unol â dyheadau’r Cynllun Corfforaethol. Datblygwyd y strategaeth yn dilyn ymwneud helaeth â dinasyddion, busnesau, gweithwyr ac Aelodau Etholedig Casnewydd.

 

Yroedd pedair thema i’r strategaeth, gyda chamau oedd yn cefnogi un neu fwy o’r themâu:

 

§  TrawsnewidDigidol - Byddwn yn trawsnewid gwasanaethau trwy ddefnydd arloesol o dechnoleg ddigidol sy’n effeithiol, yn hawdd i’w ddefnyddio ac wedi ei gynllunio o gwmpas anghenion y defnyddwyr.

 

§  SgiliauDigidol a Chynhwysiant - Byddwn yn datblygu sgiliau digidol ein dinasyddion, gweithwyr a’n haelodau, ac yn cefnogi gwell mynediad at dechnoleg ddigidol.

 

§  Data a Chydweithredu -Byddwn yn gwella cyflwyno gwasanaethau trwy well defnydd o ddata a mwy o gydweithredu wedi ei adeiladu ar systemau a phrosesau diogel.

 

§  SeilwaithDigidol a Chysylltedd -Byddwn yn anfon seilwaith digidol a chysylltedd gwych i’r ddinas a’r cyngor.

 

Llywiwyd y strategaeth gan egwyddorion pwysig:

 

§  Arloesol derbyn ffyrdd newydd o weithio a thechnoleg newydd

§  Gyrrir dan ddata - penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth gadarn

§  Canoli ar y defnyddiwr - defnyddwyr wrth galon yr hyn a wnawn

§  Cynhwysol gwasanaethau ar gael i gwrdd ag anghenion unigol

§  Cydweithredol cydweithio yn fewnol ac allanol

§  Diogel systemau a data yn cael eu gwarchod

§  Gwyrdd technoleg ddigidol yn cynnal dyheadau sero net y cyngor

 

Mae’rstrategaeth yn gosod allan weledigaeth y cyngor am sut y defnyddiodd dechnoleg i drawsnewid cyflwyno gwasanaethau, cefnogi gwella lles y trigolion, gwella sgiliau digidol y trigolion a galluogi busnesau i ffynnu yng Nghasnewydd.

Mae hon yn weledigaeth ddigidol uchelgeisiol sydd yn croesawu arloesedd wedi ei gyflwyno mewn partnership a’r Cyd-Wasanaeth Adnoddau a phartneriaid allweddol eraill.

 

Mae’ncydnabod yr angen am fod yn gyson wyliadwrus i warchod data’r cyngor rhag seibr-ymosodiadau a bygythiadau eraill.

 

Datblygwydcynllun gweithredu, a cheir adroddiadau blynyddol am gynnydd yn yr Adroddiad Digidol.

 

Dyma rai camau cychwynnol i’w nodi:

 

§  Gweithreduprosiect y  Gronfa Band Eang Leol (CBEL) yng nghartrefi gofal preswyl y cyngor i oedolion

§  Ail-ddatblygu gwefan y cyngor

§  Datblygudefnydd y sefydliad o ddata fel ased ar y cyd â Hwb Gwybodaeth Casnewydd (HGC)

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Yroedd y Cynghorydd Batrouni yn falch iawn o’r Strategaeth Ddigidol; bu’n broses faith, a chafwyd llawer o drafodaethau gyda chydweithwyr, ac yr oedd yn hanfodol i’r Cyngor a’i wasanaethau at y dyfodol. Yr oedd newid yn digwydd yn sydyn, ac yr oedd yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol eisiau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Pwysau allanol NCC - Costau Byw pdf icon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd y cyfoesiad misol am y prif bwysau allanol sy’n wynebu’r cyngor, busnesau,  trigolion, a chymunedau.

 

Yroedd aelodau yn ymwybodol fod yr argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar y ddinas, a bod hyn wedi ei waethygu gan filiau bwyd ac ynni uwch, oed dyn effeithio ar lawer o drigolion a busnesau.

 

Er bod prif achosion yr argyfwng costau byw y tu hwnt i reolaeth y cyngor, yr oedd yr adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y modd yr oedd y Cyngor yn helpu i hwyluso, cydgordio a gweithio gyda’i bartneriaid a chymunedau i liniaru rhai o’r effeithiau.

 

Anogoddyr Arweinydd drigolion oedd yn cael anhawster i gysylltu â’r cyngor am wybodaeth a chael eu cyfeirio at y cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ymweld â’r tudalennu cefnogaeth a chyngor ar y wefan.

 

Byddaiaelodau’n gweld o’r adroddiad fod y cyngor yn gweld cryn nifer o ymholiadau am drigolion yn gysylltiedig â’r pwysau cyson yn dilyn cyhoeddi biliau treth cyngor.

 

Byddaibiliau trethi Annomestig Cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi toc, yn dangos y gwerthoedd trethadwy yn dilyn yr ail-brisio a wnaed gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Amcangyfrifir y byddai tua chwarter y trethdalwyr yn gweld gostyngiad yn eu biliau ac y byddai nifer tebyg yn gweld cynnydd.

 

Cyflwynwydyr adroddiad hwn yng nghyd-destun codi cyfraddau llog gan Fanc Lloegr y mis diwethaf, ac nid oedd llawn effaith hyn wedi ei deimlo eto.

 

Fel Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd ein partneriaeth UnCasnewydd, yr oedd yr angen i ni weithio ar y cyd yn glir.

 

Yroedd gan Gasnewydd bartneriaethau cryf, ac yr oedd y rhain yn dal i liniaru rhai o’r effeithiau a deimlid gan y trigolion.

 

Yroedd yr adroddiad yn rhoi manylion am rai o’r ymyriadau a hwyluswyd yn ystod y cyfnod, a gwybodaeth am ymgynghoriadau gyda thrigolion, a chydweithio yn y cyfnod sydd i ddod.

 

Tynnoddyr Arweinydd sylw’r Aelodau at y digwyddiad costau byw yn Theatr y Riverfront ar 26 Ebrill oedd yn cael ei gefnogi gan lawer o bartneriaid a mudiadau, i gynnig cyngor a chefnogaeth i’r trigolion wrth reoli arian a chael yr incwm mwyaf.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Yroedd y Cynghorydd Harvey yn edrych ymlaen at y digwyddiad yn Theatr y Riverfront ar 26 Ebrill. Yr oedd digwyddiad llynedd yn llwyddiant, gyda D?r Cymru yn bresennol ac yn rhoi help ariannol i’r trigolion.  Yr oedd costau byw ar flaenau meddyliau pawb, gyda rhai teuluoedd yn cael trafferth bwydo eu plant a banciau bwyd yn mynd yn brin o fwyd. Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Les Cymunedol i’r Arweinydd am gefnogi trigolion trwy eu cyfeirio at y Cyngor a’r Aelodau Cabinet er mwyn rhoi cyngor am lle i gael cefnogaeth ariannol. Pwysleisiodd y Cynghorydd Harvey ei bod yn bwysig  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hwnoedd yr adroddiad blynyddol rheolaidd ar y rhaglen waith. 

 

Cynnigderbyn y rhaglen wedi ei chyfoesi.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith.