Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 14eg Mehefin, 2023 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Davies a Batrouni.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd Cofnodion 10 Mai fel rhai cywir.

4.

Adroddiad Blynddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cabinet.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol, fel y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol dynodedig, ei dyletswydd statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 fel y’i diwygiwyd, i gynhyrchu adroddiad blynyddol i’r Cyngor.

 

Yn unol â’r uchod, yr oedd yr adroddiad yn gosod allan asesiad personol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol o berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth gyflawni swyddogaethau gofal cymdeithasol dros y 12 mis a aeth heibio.

 

Adegyr adroddiad, yr oedd  y canllaw ynghylch ei fformat yn cael ei ystyried mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru. Yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â’r cyfnod 2022/2023, ac ymgorfforodd y Cyfarwyddwr gymysgedd o astudiaethau achos ac enghreifftiau gan y staff i ddangos gwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd yr Uwch-dîm Rheoli a ail-strwythurwyd ei wreiddio yn y gwasanaeth. Effeithiwyd yn drwm ar gyflwyno gofal cymdeithasol yn ystod 2022/2023 gan waith i adfer o’r pandemig covid, a materion costau byw.

 

Arwaethaf problemau a heriau sylweddol 2022/2023, yr oedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn fodlon fod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio a’i ddyletswyddau statudol.

 

Yroedd yr Arweinydd yn falch o nodi, ar waethaf anawsterau 2022/2023, y gallodd staff y gwasanaethau cymdeithasol edrych y tu hwnt i’r galwadau lu, a pharhau i arloesi wrth ddatblygu gwasanaethau rhagorol.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Hughes i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol am gynhyrchu’r adroddiad, ynghyd â phawb a gyfrannodd, gan gynnwys y Pwyllgor Craffu Perfformiad - Pobl. Dywedodd y Cynghorydd Hughes y bu hon yn flwyddyn heriol dros ben i ofal cymdeithasol, gyda chanlyniadau Covid, a galwadau ar y gwasanaethau yn cynyddu, tra nod heriau i gyllidebau a’r gweithlu yn genedlaethol. Ar waethaf hyn, teimlai’r Cynghorydd Hughes fod Casnewydd yn parhau yn arloesol ac wedi ymrwymo i drawsnewid gwasanaethau, a chanolbwyntio ar yr un pryd ar atal a chynhwysiant, a chydweithredu gyda phartneriaid, ac ar les y staff. Dywedodd y Cynghorydd Hughes mai elfen allweddol y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd i gefnogi trigolion yn eu cartrefi cyhyd ag y bo modd, a bod hyn yn amrywio o gael plant i aros gyda’u teuluoedd, i gefnogi oedolion i fyw yn annibynnol, a rhoi cefnogaeth i’r sawl sy’n gadael yr ysbyty. Yr oedd y galw am ofal a chefnogaeth yn erbyn cefndir o doriadau yn y gyllideb yn golygu ei bod yn amser anodd i’r staff, trydydd partïon a’r sector wirfoddol wrth ymdrin â phroblemau cenedlaethol fel yr argyfwng costau byw. Tynnodd y Cynghorydd Hughes sylw at y ffaith fod yr adroddiad yn rhoi sawl enghraifft lle mae Casnewydd yn arwain y ffordd ac yn cael eu cydnabod yn genedlaethol am eu cyfraniad eithriadol i ofal cymdeithasol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Hughes fod y Cyngor wedi ennill Achrediad Gofalwyr, a diolchodd i’r Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Diogelu Blynyddol pdf icon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yreitem nesaf a gyflwynwyd gan yr Arweinydd oedd yr Adroddiad Diogelu Blynyddol. Yr oedd yr adroddiad hwn yn werthusiad o berfformiad 2022/23 gan yr awdurdod lleol gan y Pennaeth Diogelu Corfforaethol.

 

Cadarnhaoddyr Arweinydd mai adroddiad interim oedd hwn oherwydd newidiadau yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru  a chydamseru’r cylch adrodd. Byddaiadroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn gynnar y flwyddyn nesaf, a ychwanegir at y Rhaglen Waith.

 

Diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion bregus yw’r flaenoriaeth uchaf i Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Mae’r Polisi Diogelu Corfforaethol yn gosod allan ddyletswydd ac ymrwymiad y Cyngor i ddiogelu a hyrwyddo iechyd, lles a hawliau dynol oedolion a phlant mewn perygl.

 

Mae’radroddiad hwn felly yn asesu’r camau a gymerodd y Cyngor a’u hymateb i ddiogelu.

 

Cyflwynwydyr adroddiad i’r Pwyllgor Goruchwylio a Rheoli Craffu ar 2 Mehefin 2023. Yr oedd yr Arweinydd  yn falch o adrodd fod trafodaeth adeiladol a buddiol ymysg aelodau’r Pwyllgor ar gynnwys yr adroddiad.

 

Nododdyr adroddiad yr heriau oedd yn cael eu hwynebu ledled y Cyngor ynghylch diogelu oherwydd bod pwysau Covid a chyfyngiadau’r pandemig yn dal i gael effaith.

 

Parhaodd Hwb Diogelu y Gwasanaethau Plant i weld cynnydd mewn cyfeiriadau yn ystod y cyfnod hwn. Y mae hyn yn adlewyrchu’r problemau mewn ysgolion, y blynyddoedd cynnar a lleoliadau ieuenctid, ac i asiantaethau sy’n bartneriaid i’r Cyngor. I’r plant a’u teuluoedd, mae agwedd ddiogelu effeithiol a chadarn yn hanfodol ac fe allai newid bywydau. Yr oedd cyfeiriadau yn dod yn bennaf o’r heddlu ac addysg/ysgolion.

 

Arwaethaf y pwysau, dangosodd canlyniadau’r hunanasesiad diogelu lefel uchel iawn o gydymffurfio â gofynion statudol a phenderfyniad i barhau i roi’r flaenoriaeth uchaf i ddiogelu i’n holl ddinasyddion ym mhob maes o’r Cyngor.

 

Mae’rCyngor yn parhau i werthuso Diogelu Corfforaethol, gan sicrhau bod y strwythurau llywodraethu ac adrodd yn gadarn ac yn addas at y diben ar y rhagdyb fod diogelu yn fusnes i bawb yng Nghyngor Dinas Casnewydd.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Llongyfarchodd y Cynghorydd Marshall swyddogion am lunio’r adroddiad, a oedd yn ei farn ef yn ein hatgoffa nid yn unig o gyfrifoldeb y Cyngor i amddiffyn aelodau bregus cymdeithas, ond cyfrifoldeb pawb yn y Cyngor hefyd. Teimlai’r Cynghorydd Marshall mai peth da oedd gweld trefniadau cadarn yn eu lle, i gefnogi’r hwb diogelu a’r modd yr oedd ymchwiliadau yn cael eu cynnal. Tynnodd y Cynghorydd Marshall sylw hefyd at y mesurau atal ac ymyrryd oedd yn effeithiol, ac yn helpu’r Cyngor i fynd ati i ymdrin â phroblemau cyn iddynt waethygu. Crybwyllodd y Cynghorydd Marshall hefyd waith oedd yn cael ei wneud ar lefel Ranbarthol Gwent; gyda’r adroddiad  yn canolbwyntio ar gydweithredu mewn partneriaethau a chynllun gweithredu ar y cyd am ddiogelu corfforaethol trwy gyfarfodydd rheolaidd. Dywedodd y Cynghorydd Marshall fod hwn yn faes anodd i weithio ynddo, a diolchodd i’r staff.

 

§  Ategodd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2022/23 pdf icon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y gweithgaredd rheoli trysorlys am 2022/23 a chadarnhaodd fod gweithgareddau’r trysorlys yn ystod y flwyddyn yn cydymffurfio â’r Strategaeth Trysorlys a ystyriwyd ac a osodwyd yn flaenorol gan Aelodau.

 

Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cymharu gweithgaredd gyda’r sefyllfa diwedd-blwyddyn am 2021/22 ac yn rhoi manylion am symudiadau trwy gydol 2022-23, ynghyd â’r rhesymau dros y symudiadau hynny. Dyma’r ail o ddau adroddiad y mae’r Cabinet yn dderbyn ar reoli’r trysorlys yn ystod y flwyddyn.

 

Cyflwynodd yr adroddiad y wybodaeth a ganlyn:

 

·                Y strategaeth trysorlys y cytunwyd arni yn flaenorol.

·                Manylion am weithgaredd benthyca a buddsoddi trwy gydol y flwyddyn

·                Ystyriaethau economaidd ehangach fel y pandemig a’r hinsawdd economaidd

·                Cyfoesiad ar god Rhyngwladol y Trysorlys ar dalu am fuddsoddi masnachol

·                Golwg tymor canol i hir ar yr angen am fenthyca.

a

·                gorffen gydag archwiliad o weithgaredd yn erbyn dangosyddion darbodus, gan gadarnhau cydymffurfio.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn cadarnhau fod y Cyngor wedi buddsoddi mewn tri o fondiau gorchudd yn y flwyddyn 2022-23, cyfanswm o £10m, yn unol â Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Mai ac fe’i cadarnhawyd i’w ystyried gan y Cabinet, a’r Cyngor yn y pen draw.

 

Ymysg uchafbwyntiau allweddol yr oedd lefel y benthyca, sef £138.6m ar 31 Mawrth 2023, a’i fod wedi gostwng o £3.5m o gymharu â lefelau 2021-22.

 

Yr oedd y gostyngiad hwn yng nghyswllt sawl benthyciad a ad-dalwyd fesul dipyn dros einioes y benthyciad, ac adbrynu benthyciad aeddfedu Bwrdd Benthyca Gwaith Cyhoeddus (PWLB) bychan ar ddiwedd Medi, nad oedd angen ei ail-gyllido.

 

Gostyngodd lefel y buddsoddiadau hefyd o £11m i £47.2m, wrth i’r Cyngor ddefnyddio’r cyfryw adnoddau fel dewis mwy cost-effeithiol i drefnu benthyca allanol newydd.

Yn yr adroddiad yr oedd dangosydd blaengar o’r enw’r Meincnod Atebolrwydd, oedd yn darlunio gofyniadau benthyca’r Cyngor yn awr ac at y dyfodol. Yn y dyfodol, byddai hyn yn cael ei rannu gyda’r Cabinet yn rheolaidd yn dilyn newidiadau diweddar yn y canllawiau. Yr oedd hwn yn ddangosydd pwysig gan ei fod yn dangos yr effaith mae penderfyniadau cyfredol ynghylch gwariant cyfalaf yn gael ar y gofyniad benthyca tymor-hir.

 

I amlygu rhai o’r pwyntiau pwysig, yr oedd y dangosydd yn dangos, rhwng 2023 a 2025, mai cynyddu wnaeth yr angen gros am fenthyca, ond fod yr angen am fenthyca gwirioneddol wedi cynyddu’n gyflymach. Y rheswm am hyn oedd bod ymrwymiadau’r Rhaglen Gyfalaf wedi ychwanegu at yr angen i fenthyca, ond ar yr un pryd, rhagwelwyd y byddai’r gallu benthyca mewnol yn gostwng wrth i gronfeydd wrth gefn gael eu defnyddio ac i lefelau buddsoddi ostwng.

 

Yn ystod yr un cyfnod, gostwng wnaeth benthyciadau mewn gwirionedd wrth i fenthyciadau gael eu had-dalu. Golyga fod cyfuniad o hyn, a’r cynnydd llym yn yr angen i fenthyca, y gall fod angen benthyciadau newydd o ryw £50m erbyn diwedd 2025.

 

Mae angen y Cyngor i fenthyca yn y tymor hir, ynghyd â’r angen i ail-gyllido benthyciadau, yn golygu y gallai’r Cyngor wynebu lefel uwch o gyfraddau llog na’r hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Pwysau allanol NCC - Costau Byw pdf icon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddoddyr adroddiad hwn gyfoesiad i aelodau am y prif bwysau allanol sy’n wynebu’r cyngor, busnesau, trigolion a chymunedau dros y mis a aeth heibio.

 

Parhau a wnaeth yr argyfwng costau byw, gyda Banc Lloegr yn cyhoeddi codiad mewn cyfraddau llog ar ddiwedd Mai, a’r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol yn adrodd am gynnydd cyson ym mhrisiau bwyd a diodydd di-alcohol ym mis Ebrill.

 

Yng Nghasnewydd, yr oedd pwysau trwm ar dai a gwasanaethau digartrefedd yn y ddinas, a achoswyd gan amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys effaith yr argyfwng costau byw ar gyllid aelwydydd, rhenti uchel yn y sector rhentu preifat, a heriau wrth ddatblygu prosiectau tai newydd.

 

Yroedd Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Casnewydd yn Un yn parhau i eirioli dros weithio mewn partneriaeth fel elfen hanfodol o gefnogi trigolion a busnesau.

 

Yroedd yr Arweinydd yn falch o groesawu busnesau i Gasnewydd yn ddiweddar iawn fel rhan o’r rhaglen gwneud lle, i ystyried rhai o’r heriau a wynebir.

 

Yroedd yr adroddiad yn gyfle arall i gydweithwyr yn y Cabinet i annog trigolion a allai fod yn wynebu trafferthion i gysylltu â’r cyngor am wybodaeth a chyfeirio at y cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael. Mae modd gwneud hyn wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu trwy fynd at y tudalennau cyngor a chefnogaeth ar wefan y Cyngor.

 

Yroedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sut yr oedd swyddogion a phartneriaid yn gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau i hwyluso a hyrwyddo cefnogaeth leol a chenedlaethol.

 

Mae swyddogion yn dal i weithio’n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i hyrwyddo gwybodaeth gywir i deuluoedd ac unigolion, gan gynnwys ymwybyddiaeth o becyn cymorth Costau Byw i Randdeiliaid.

 

Yn dilyn y digwyddiad Costau Byw yn y Riverfront, mae’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i drafod sut y gellir cynnal y rhain mewn mannau eraill ledled y ddinas, ac y mae cyfeiriad e-bost unswydd i drigolion anfon ymholiadau a chael eu cyfeirio at y mudiad gorau i’w cefnogi. 

 

Yn ychwanegol, cadarnhawyd Cyllid Lluosog trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gefnogi trigolion i wella lefelau rhifedd, gan ganolbwyntio ar gynhwysiant ariannol.

 

Mae’rCyngor hefyd yn recriwtio tîm penodol yn y gwasanaeth tai i helpu i atal digartrefedd a sicrhau fod gan bobl y sgiliau a’r gwytnwch ariannol i symud ymaith o ddigartrefedd yn y tymor hir.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Harvey ei bod wedi bod mewn cyfarfod cynllunio strategol yn gynharach y diwrnod hwnnw am ddigartrefedd a’r argyfwng costau byw ac yr oedd am ddiolch i’r staff  am eu gwaith caled. Diolchodd y Cynghorydd Harvey hefyd i’r Arweinydd am ei chefnogaeth.

 

§  Diolchoddyr Arweinydd i’r Cynghorydd Harvey am ei gwaith i fwrw ymlaen â’r agenda hon yn yr awdurdod.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Marshall i’r cysylltwyr cymunedol a’r staff yn y cyngor a allai helpu’r sawl oedd â phryderon am y dyfodol. Ychwanegodd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Dogfen Gryno UnNewport (er gwybodaeth/ymwybyddiaeth) pdf icon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CynhwyswydDogfenGryno Casnewydd yn Un er gwybodaeth i’r Cabinet.

 

Yroedd y Crynodeb hefyd yn nodwedd yn y drafodaeth ar Gynllun Meistr Pilgwenlli.

9.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hwnoedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith, a chaiff yr adroddiad Diogelu ei ychwanegu at y rhaglen.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith.