Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 13eg Medi, 2023 9.30 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

 

2.

Datgan Buddiannau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023 eu derbyn fel cofnod gwir.

 

4.

Monitro'r Gyllideb Refeniw pdf icon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad cyntaf ar yr agenda a oedd yn esbonio’r rhagolygon presennol ar gyfer cyllideb refeniw’r Cyngor a'r cyfleoedd a'r risgiau ariannol sydd i’w gweld yn niweddariad mis Gorffennaf.

  

Hwn oedd yr adroddiad monitro refeniw cyntaf i gael ei gyflwyno i'r Cabinet ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

 

Yn erbyn cyllideb net o £373m, roedd y rhagolygon yn adlewyrchu tanwariant o ychydig dros £3 miliwn. Roedd hyn yn ystyried y gyllideb wrth gefn a'r tanwariant disgwyliedig yn ystod y flwyddyn yn erbyn cyllidebau ariannu cyfalaf. 

  

Er y rhagwelwyd tanwariant cyffredinol, nodwyd y rhagwelwyd y byddai gwasanaethau, gyda'i gilydd, yn gorwario £3.7m, ac eithrio ysgolion. Rhoddodd y diweddariad hwn gadarnhad bod rhai o'r risgiau hysbys ar ddechrau'r flwyddyn wedi dod yn ffaith a'u bod yn achosi gorwariant sylweddol, yn enwedig o fewn y Gwasanaethau Plant. Fel y rhagwelwyd, ar hyn o bryd roedd yn bosibl gwrthbwyso gorwariant gwasanaethau gyda'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol a'r tanwariant o fewn ariannu cyfalaf. 

  

Roedd y meysydd allweddol a oedd yn cyfrannu at y rhagolygon tanwariant  o £3m yn cynnwys:

  

(i)               Mwy o alw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol gan gynnwys plant y tu allan i'r ardal a lleoliadau brys. Roedd y ddau faes hyn yn unig yn cyfrannu gorwariant o bron i £4.5m i’r sefyllfa gwasanaethau gyffredinol.

  

(ii)              Roedd y cynnydd yn y galw o fewn y gwasanaeth preswyl ac amhreswyl oedolion yn cyfrannu £2m hefyd at y sefyllfa gwasanaethau gyffredinol. Fodd bynnag, roedd hyn yn cael ei wrthbwyso gan orgyflawni incwm gofal cymunedol oherwydd bod nifer cynyddol o ddefnyddwyr yn cyfrannu at eu gofal.

  

(iii)            Roedd pwysau sylweddol yn amlwg o fewn Tai a Chymunedau, mewn perthynas â digartrefedd. Er i'r Cyngor ddyrannu cynnydd sylweddol yng nghyllideb 2023/24 i fynd i'r afael ag effaith barhaus y gorwariant a gafwyd y llynedd, roedd costau wedi cynyddu ymhellach a rhagwelwyd gorwariant o £711k. Roedd hwn yn faes a brofodd gynnydd sylweddol mewn costau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn dilyn nod polisi Llywodraeth Cymru i leihau digartrefedd yn sylweddol.

  

(iv)            Rhagwelwyd tanwariant yn erbyn cyllidebau nad oeddent yn ymwneud â gwasanaethau, yn benodol y cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac ariannu cyfalaf. Roedd arbedion yn y meysydd hyn, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn fwy na gwrthbwyso’r gorwariant gwasanaethau net, gan arwain at danwariant cyffredinol i'r Cyngor cyfan.

  

(v)             Roedd diffyg disgwyliedig yn erbyn cyflawni arbedion 2023/24 ac arbedion y flwyddyn flaenorol o dros £1.6m. Y ddau wasanaeth a oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r diffyg oedd Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau. O fewn Tai a Chymunedau, nid oedd yn bosibl dangos tystiolaeth o gyflawni'r arbed hwn, yn enwedig o ystyried y gorwariant cyffredinol yn y maes hwn. O fewn y Gwasanaethau Oedolion, dim ond cyflawniad rhannol oedd yn cael ei ragweld, yn rhannol oherwydd diffyg adnoddau i ymgymryd â'r gwaith i gyflawni'r arbedion. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai'r rhain yn cael eu cyflawni'n llawn yn barod ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.  

 

Gan fod amrywiant ysgolion yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf pdf icon PDF 380 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad nesaf i'w ystyried, sef adroddiad monitro ac ychwanegiadau’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer mis Gorffennaf 2023.

  

Hwn oedd adroddiad monitro cyntaf y flwyddyn ar weithgarwch cyfalaf a oedd yn rhoi trosolwg o'r rhaglen gyfalaf wedi'i diweddaru, ochr yn ochr â'r sefyllfa alldro a ragwelwyd ym mis Gorffennaf eleni.

  

Amlinellodd yr adroddiad y newidiadau a wnaed i'r rhaglen yn dilyn ymarfer ailbroffilio a gwblhawyd yn ddiweddar a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am lefel yr hyblygrwydd cyfalaf a oedd ar gael. Nododd yr adroddiad hefyd yr ychwanegiadau at y rhaglen a nodwyd a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer yr ychwanegiadau hyn. 

 

Amlinellodd adran gyntaf yr adroddiad y symudiad yn y gyllideb gyfalaf ers yr adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Cabinet, sef adroddiad Alldro 22/23. 

  

Gwerth net ychwanegiadau a diwygiadau i'r rhaglen gyfalaf bresennol ers hynny oedd £5.9m, a rhoddwyd dadansoddiad o'r ychwanegiadau hyn yn Atodiad A.  Roedd gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r ychwanegiadau a'r diwygiadau hyn.

  

O ganlyniad i'r ychwanegiadau hynny, ym mis Gorffennaf 2023, cynyddodd y gyllideb bresennol ar gyfer 2023/24 i dros £100m, a oedd yn anodd iawn ei gyflawni, o gymharu â lefel y gwariant yr aethpwyd iddo mewn blynyddoedd blaenorol. 

  

Felly cynhaliwyd ymarfer i adolygu'r proffil gwariant disgwyliedig ar gyfer pob cynllun dros yr haf, gyda'r nod o sicrhau cyllideb ddechreuol fwy realistig i adrodd yn ei herbyn yn ystod y flwyddyn. O ganlyniad, gostyngwyd y gyllideb eleni £15.8m, gyda chynnydd cyfatebol yn y blynyddoedd i ddod. Hyd yn oed yn dilyn yr ymarfer hwnnw, fodd bynnag, roedd y rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 yn dal i fod yn £84.9m, a oedd yn dal yn sylweddol ac yn heriol ei chyflawni'n llawn.

  

Fel rhan o'r argymhellion i'r adroddiad hwn, gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r llithriad a nodwyd yn dilyn yr ymarfer ailbroffilio. Fodd bynnag, gan ddilyn yr un dull â'r llynedd, byddai unrhyw lithriad pellach a nodwyd drwy gydol y flwyddyn dim ond yn destun cymeradwyaeth fel rhan o'r adroddiad alldro terfynol, ar ôl i’r sefyllfa derfynol ddod yn hysbys. 

  

Nododd yr adroddiad hefyd lefel yr hyblygrwydd cyfalaf a oedd ar gael ar hyn o bryd, y gellid ei defnyddio i gefnogi cynlluniau newydd a blaenoriaethau a oedd yn dod i'r amlwg. 

  

Roedd hyn bellach yn £11.942m, ar ôl cynyddu £2.2m ers alldro yn dilyn ein penderfyniad yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Gorffennaf i drosglwyddo rhan o'r tanwariant refeniw o 2022/23 i'r gronfa gwariant cyfalaf wrth gefn. 

  

Ers hynny, roedd swm dros dro o £600k wedi’i ymrwymo i’r hyblygrwydd, mewn perthynas â dymchwel posibl Ysgol Gynradd Millbrook. Roedd y penderfyniad hwnnw'n destun adroddiad ar wahân o fewn y cyfarfod hwn a phe bai cytundeb arno, byddai'n lleihau'r hyblygrwydd i £11.3m. 

 

Er y gallai lefel yr hyblygrwydd ymddangos yn rhesymol ar hyn o bryd, roedd angen rheoli'n dynn y defnydd ohono o hyd, fel bod y Cyngor yn gallu ymateb i faterion hanfodol, wrth iddynt ddod i'r amlwg. Roedd hyn yn gofyn am flaenoriaethu clir o'r materion mwyaf dybryd a brys yn unig.  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Dymchwel Ysgol Gynradd Millbrook pdf icon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Arweinydd y wybodaeth ddiweddaraf am safle'r ysgol a chyfeiriodd at yr ohebiaeth ddiweddar gyda rhieni, staff a llywodraethwyr a gadarnhaodd fod y Cyngor yn bwriadu datblygu prosiect adeilad ysgol newydd yn hytrach nag atgyweirio ac ailfeddiannu'r adeilad presennol.

  

O ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw adeilad gwag a darfodedig, gofynnodd yr adroddiad am gymeradwyaeth y Cabinet i ddymchwel adeilad presennol yr ysgol yn gynnar. 

 

Rhoddwyd gwybod i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2022 am broblemau sylweddol yn ymwneud ag adeilad Ysgol Gynradd Millbrook ac o ganlyniad, symudwyd yr ysgol i Ganolfan Hyfforddi Oedolion Brynglas wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.

  

Daeth yr ymchwiliadau hyn i'r casgliad na ellid ailfeddiannu adeilad yr ysgol heb waith gwella helaeth, ac felly parhaodd yr ysgol i weithredu o Frynglas tra bod y Cyngor yn ystyried yr ateb mwyaf priodol ar gyfer y safle.

  

Mae adeilad Ysgol Gynradd Millbrook wedi'i adael yn wag ers mis Medi 2022, ond yn ystod y misoedd diwethaf mae wedi dioddef llawer o dresmasu, fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.  

  

Roedd y Cyngor wedi dweud bod prosiect adeilad ysgol newydd yn cael ei ddatblygu, gan fod yr ysgol bresennol bellach yn ddarfodedig.  O ystyried y risgiau, gofynnwyd am gymeradwyaeth i’w ddymchwel yn gynnar. 

  

Rhoddwyd amcangyfrif o £600,000 ar gyfer y gwaith hwn, a cheisiwyd cymeradwyaeth hefyd i ddyrannu cyllid o'r Hyblygrwydd Cyfalaf ar gyfer y cynllun hwn.

  

Fodd bynnag, gellid cynnwys y costau dymchwel fel rhan o'r prosiect adeilad ysgol newydd cyffredinol a byddent hefyd yn elwa o’r gyfradd ymyrraeth y cytunwyd arni gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Cydnabu'r Cynghorydd Davies ei bod yn flwyddyn anodd iawn i'r ysgol, y staff, y teuluoedd ac, yn bwysicach, y plant.  Roedd pawb yn gweithio’n galed i sicrhau bod Canolfan Hyfforddi Oedolion Brynglas yn lle diogel ar gyfer dysgu a diolchodd yr Aelod Cabinet i bawb a oedd yn cymryd rhan yn hyn.  Nid dyma'r ffordd yr oeddem am symud ymlaen, fodd bynnag, byddai hwn yn gyfle enfawr a fyddai o fudd i fywydau plant. Roedd angen dymchwel yr ysgol gan fod y safle'n denu fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Yr ateb synhwyrol oedd dymchwel yr ysgol i ddechrau gwneud cynlluniau i ailadeiladu.  

 

Penderfyniad:  

 

Cytunodd y Cabinet y dylid datgan nad oes angen adeilad presennol Ysgol Gynradd Millbrook a bod trefniadau yn cael eu gwneud i’w ddymchwel, a chymeradwyodd y Cabinet ddyrannu £600,000 o Hyblygrwydd Cyfalaf y Cyngor i ariannu'r cynllun.    

 

7.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd pdf icon PDF 465 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad nesaf i gydweithwyr ar Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN).

  

Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gymeradwyo’n gyntaf ymatebion y Cyngor i sylwadau a dderbyniwyd ar yr ymgynghoriad ar Opsiynau Twf a Gofodol ac, yn ail, ac yn bwysicach, i gymeradwyo'r Strategaeth a Ffefrir ac argymell i'r Cyngor y dylid dechrau ymgynghoriad cymunedol ffurfiol o fis Hydref ymlaen. 

  

Roedd yr argymhellion hyn yn unol â'r amserlen yn y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor ac a gadarnhawyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023.

 

O ran yr ymgynghoriad ar Opsiynau Twf a Gofodol, roedd hwn yn gam anffurfiol o ymgynghori a gynhaliwyd am chwe wythnos rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023. Defnyddiwyd yr ymatebion a gafwyd i lywio'r Strategaeth a Ffefrir arfaethedig.

  

Rhoddodd y papur opsiynau ddadansoddiad lefel uchel o'r amrywiol opsiynau o ran twf tir ar gyfer tai a chyflogaeth yn y dyfodol, hyd at 2036, sef oes y CDLlN.  

  

Wrth ystyried twf, roedd yn bwysig cofio bod Casnewydd wedi’i nodi fel Ardal Dwf Genedlaethol yn Cymru’r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma haen uchaf y Cynllun Datblygu at ddibenion cynllunio ac mae angen i bob cynllun lefel leol fod yn unol â'r cynllun cenedlaethol. 

  

Roedd yr Arweinydd yn falch o roi gwybod bod 68 o’r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi’u derbyn gan amrywiaeth eang o randdeiliaid.  Roedd yr ymatebion hyn wedi’u crynhoi yn Adroddiad y Cabinet a'u cynnwys yn llawn yn Atodiad A, ynghyd ag ymateb arfaethedig y Cyngor. 

  

Cafwyd derbyniad cyffredinol bod angen i Gasnewydd dyfu'n gynaliadwy, gan gynnwys nodi tir ar gyfer tai a chyflogaeth newydd. 

  

Nododd ymatebion y Cyngor sut y dylid mynd i'r afael â'r materion a godwyd neu sut y byddent yn cael sylw. 

 

Ailadroddodd yr Arweinydd bwysigrwydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac ochr yn ochr â llawer iawn o dystiolaeth gefndir ac adroddiadau, fe'u defnyddiwyd i lywio'r Strategaeth a Ffefrir. Roedd y ddogfen lawn yn Atodiad B.

  

Er mwyn datblygu Strategaeth a Ffefrir yn ffurfiol, mae angen cyfnod ymgynghori ffurfiol, ac mae'r rheoliadau'n nodi y dylai hyn fod am o leiaf chwe wythnos. Nodwyd y byddai'r ymgynghoriad arfaethedig yn dechrau ym mis Hydref ac yn rhedeg am wyth wythnos. Mae'r cynllun ymgynghori yn cynnwys dulliau amrywiol o ymgysylltu ac ymarferion i sicrhau bod cynulleidfa eang yn cael ei chyrraedd. 

  

O ran y strategaeth ei hun, roedd y strategaeth gyffredinol ar gyfer 9,570 o gartrefi newydd a 8,640 o swyddi newydd.  Gyda'r lefel hon o dwf, gellid cyflawni'r Weledigaeth y cytunwyd arni o wneud Casnewydd yn gyrchfan y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef. Roedd hyn hefyd yn cyd-fynd â dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer twf yng Nghasnewydd. 

  

Er mwyn cyflawni'r twf hwn, cynigiwyd strategaeth ofodol hybrid a oedd yn canolbwyntio ar Dir a Ddatblygwyd yn Flaenorol, ond hefyd yn cydnabod bod angen rhywfaint o faes glas o fewn aneddiadau cyfagos i gyflawni'r strategaeth, ochr yn ochr â  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Diweddariad ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol (Chwarter 1) pdf icon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr eitem nesaf a gyflwynwyd gan yr Arweinydd oedd diweddariad ar Gofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor ar gyfer diwedd Chwarter 1 (1 Ebrill 2023 i 30 Mehefin 2023).

  

Gofynnwyd i Aelodau'r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad hwn a monitro'r risgiau hyn yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol.

  

Roedd Strategaeth Rheoli Risg a Chofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor yn galluogi’r weinyddiaeth hon a swyddogion i nodi, rheoli a monitro'n effeithiol y risgiau hynny a allai atal cyflawni'r blaenoriaethau strategol ac ymgymryd â dyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

  

Byddai adroddiad risgiau Chwarter 1 hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor yn ddiweddarach y mis hwn i adolygu proses rheoli risg a threfniadau llywodraethu'r Cyngor.

 

Ar ddiwedd Chwarter 1, roedd gan Gyngor Dinas Casnewydd 43 o risgiau wedi'u cofnodi ar draws un ar ddeg o wasanaethau’r Cyngor.  Cafodd y risgiau hynny yr ystyriwyd eu bod yn peri’r risg fwyaf sylweddol wrth gyflawni Cynllun Corfforaethol y Cyngor ac wrth ddarparu ein gwasanaethau eu huwchgyfeirio i Gofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor i'w monitro.  

  

Ar ddiwedd Chwarter 1, cofnodwyd 15 o risgiau yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol.

        9 o Risgiau Difrifol (15 i 25).

        6 o Risgiau Mawr (7 i 14).

  

Wrth gymharu â Chwarter 4, roedd un risg, Methu â chwblhau'r cynllun Archwilio Mewnol blynyddol a gafodd ei huwchgyfeirio o'r Gwasanaethau Cyllid: 

  

§ Mae tîm Archwilio Mewnol y Cyngor yn darparu gwasanaeth pwysig sy'n sicrhau bod gan wasanaethau'r Cyngor drefniadau rheolaeth fewnol, llywodraethu a rheoli risg effeithiol ar waith.

§ Roedd colli staff o'r tîm yn y chwarter diwethaf yn ddigynsail ac ymgysylltodd y Cyngor â gwasanaeth ymgynghori allanol i gael cymorth ychwanegol yn y cyfamser i wneud gwaith archwilio tra bod y Cyngor yn cynnal ymgyrch recriwtio.   

§ Byddai diweddariadau a sicrwydd rheolaidd hefyd yn cael eu rhoi i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor, gan yr Arweinydd, a Phrif Weithredwr y Cyngor.   

§ Adroddwyd y 14 o risgiau a oedd yn weddill gyda'r un sgôr risg â chwarter 4.

 

Penderfyniad:  

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys diweddariad Chwarter 1 ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol.

 

9.

Adroddiad Blynyddol Newid Hinsawdd pdf icon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Adroddiad Blynyddol y Cynllun Newid Hinsawdd ar gyfer 2022/23.

  

Diben yr adroddiad oedd cyflwyno allyriadau sefydliadol ar gyfer 2022/23 ynghyd â diweddariad ar y prosiectau a oedd yn cefnogi ymdrechion datgarboneiddio.

  

Hwn oedd adroddiad blynyddol llawn cyntaf y Cynllun Newid Hinsawdd a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2022.  Nododd y Cynllun Newid Hinsawdd sut y byddai'r Cyngor yn cyflawni Sero Net fel sefydliad erbyn 2030 yn unol â'n hymrwymiadau.

 

Ar y cyfan, mae allyriadau carbon i lawr - ac eithrio caffael, mae allyriadau gweithredol wedi gostwng 7.69% ers 2021/22.  Diolchodd yr Arweinydd i bawb am eu hymdrechion ar hyn.

 

Mae newid hir-ddisgwyliedig yn y ffordd yr oedd gofyn i'r Cyngor adrodd am allyriadau caffael wedi arwain at ffigur cyfredol, a oedd yn llawer is na'r hyn a adroddwyd yn flaenorol.  Fel ymateb i newidiadau yn y canllawiau adrodd, cychwynnwyd ymgysylltiad y Cyngor gyda'i gadwyn gyflenwi i ddechrau llunio ffigurau manylach, sy'n benodol i Gasnewydd.

  

Gyda Chynllun Ynni Ardal Leol ledled y ddinas bellach ar waith, mae camau gweithredu ym Mlwyddyn 2 y cynllun newid hinsawdd â ffocws llawer tynnach ar allyriadau sefydliadol. 

  

Mae gan y rhan fwyaf o gamau gweithredu ar gyfer Blwyddyn 2 y cynllun ddyddiadau cwblhau yn ystod y flwyddyn sy'n galluogi rheoli perfformiad yn well. 

 

Manylyn pwysig i'w nodi oedd yr argymhelliad ar gyfer gwahanu Cynlluniau Gweithredu o'r prif Gynllun Sefydliadol. Byddai Cynlluniau Gweithredu ar gael i'r cyhoedd, ond mae eu gwahanu o’r Cynllun ei hun yn golygu nad oes angen diwygio ac ailgyhoeddi’r Cynllun cyfan yn flynyddol.

  

Roedd prosiectau Newid Hinsawdd nodedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

  

          Cyflwyno hyfforddiant Llythrennedd Carbon i aelodau ac uwch reolwyr a chyflawni statws Achrediad Efydd.

          Sefydlu’r Rhwydwaith Newid Hinsawdd i Staff sydd â dros 30 o aelodau sy'n cyfarfod bob mis.

          Gosod paneli solar pellach drwy Egni, y cwmni solar cydweithredol cymunedol.        Gosod Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer yn Ysgol Gyfun Caerllion.

          Cyflawni Statws Dinas Coed y Byd i gydnabod y gwaith o reoli ein stociau coed.

          Cwblhau Pont Devon Place i gefnogi teithio llesol ar draws y ddinas.

          Newidiadau i brosesau caffael i gefnogi datgarboneiddio trwy'r pryniannau mwy a wneir. Cyn bo hir byddai angen cymeradwyaeth gan y tîm newid hinsawdd ar bob caffaeliad dros £75,000.  

  

Yn y flwyddyn i ddod, y prif feysydd ffocws ar gyfer y Cynllun Newid Hinsawdd fyddai: 

          Datgarboneiddio gwres yn barhaus yn ein hadeiladau, gan ddileu'r angen i ddefnyddio tanwydd ffosil lle bo hynny'n bosibl.

          Cyflwyno gwefru cerbydau trydan yn eang.

          Gwerthuso’r posibilrwydd o ddatgarboneiddio'r tir yr ydym yn berchen arno.  

          Datblygu cynllun cyfathrebu mewnol ac allanol i sicrhau ein bod yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â staff a'r cyhoedd.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Forsey at danau gwyllt, lefelau'r môr sy’n codi a stormydd ofnadwy eleni. Mis Gorffennaf oedd y mis poethaf a gofnodwyd erioed; roedd adroddiad Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn disgwyl mwy o foethdonnau mewn blynyddoedd i ddod.  Mae hyn yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Pwysau Allanol Cyngor Dinas Casnewydd (CDC) - Costau Byw pdf icon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am yr adroddiad misol ar bwysau allanol yr oedd trigolion, busnesau, cymunedau a'r Cyngor yn eu hwynebu a rhoddodd amlinelliad o sut yr oedd y Cyngor yn cydweithio i roi cyngor, arweiniad a chymorth ar draws Casnewydd. 

  

Roedd y prif bwysau a amlygwyd yn adroddiad y mis hwn yn gysylltiedig â'r argyfwng costau byw, tai a digartrefedd parhaus. 

 

Roedd yr argyfwng costau byw hefyd yn cyfrannu at y pwysau parhaus ar wasanaethau tai a digartrefedd yn y ddinas a barhaodd i fod yn uchel gyda rhenti preifat yn fwy na'r Gyfradd Lwfans Tai Lleol a oedd yn cael ei dalu i drigolion mewn llety rhent preifat. 

 

Roedd Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Casnewydd yn Un yn parhau i eirioli dros weithio mewn partneriaeth fel rhywbeth sy'n hanfodol i gefnogi trigolion a busnesau ac anogon nhw drigolion a oedd yn profi anawsterau i gysylltu â'r Cyngor i gael gwybodaeth a’u cyfeirio i’r cyngor a'r cymorth a oedd ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu drwy fynd i’n tudalennau cymorth a chyngor ar y wefan. 

  

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth am y pwysau a oedd yn cael eu hwynebu mewn cymunedau ac am sut yr oedd swyddogion o bob rhan o'r Cyngor a'n hasiantaethau partner yn parhau i gydweithio i gydlynu a rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad i drigolion.

  

Roedd swyddogion ar draws y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithasau Tai, drwy Raglen Llety Trosiannol Llywodraeth Cymru a ryddhawyd yn ddiweddar, i gynyddu llwyddiant o ran atal digartrefedd a sicrhau'r bod cymaint o gartrefi newydd yn cael eu darparu.

  

Hwyluswyd digwyddiadau rhad ac am ddim a chost isel drwy gydol yr haf i roi cymorth ac arweiniad yn ogystal ag eitemau fel cynnyrch mislif am ddim a gwisgoedd ysgol ail-law.  

  

Roedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi bod Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi cymorth ariannol ac ymarferol ychwanegol i gymunedau dros wyliau'r ysgol i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yn ystod y cyfnod, gan weithio mewn partneriaeth â GAVO a Casnewydd Fyw ar fentrau'r haf gyda chinio am ddim, cymorth ychwanegol drwy fanciau bwyd, a rhoi talebau archfarchnad i oddeutu 1,000 o'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghasnewydd.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Harvey at yr effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar deuluoedd incwm deuol yn ogystal â'r rhai’n cael cymorth.

  

§ Diolchodd y Cynghorydd Davies i Casnewydd Fyw a gefnogodd blant yn ystod yr haf.  Ym Mharc Beechwood, cafwyd Diwrnod Hwyl yr Haf. Roedd hwn yn ddiwrnod rhad ac am ddim a gynhaliwyd gan Casnewydd Fyw a gwirfoddolwyr.  Roedd hefyd deithiau cerdded mewn welintons gyda dros 70 o blant yn bresennol yn gwneud y mwyaf o'r diwrnodau gwlyb.  

 

Penderfyniad:  

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad ar weithgarwch y Cyngor i ymateb i'r ffactorau allanol ar gymunedau, busnesau a gwasanaethau cyngor Casnewydd

11.

Casnewydd yn Un - Crynodeb o Fusnes pdf icon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cabinet y Crynodeb o Fusnes.

 

12.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hwn oedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith.

  

Penderfyniad:  

 

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith.