Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 17eg Gorffennaf, 2024 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Adan fuddiant yn Eitem 5.

Datganodd y Cynghorwyr Stowell-Corten a Drewett fuddiant yn eitem 6. Datganodd y Cynghorydd Forsey fuddiant yn Eitem 8.

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin eu derbyn fel cofnod cywir.

 

3.

Adroddiad Alldro Refeniw 2023/24 pdf icon PDF 412 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad cyntaf i gydweithwyr y Cabinet, alldro’r Cyngor ar gyfer ei gyllideb refeniw ar gyfer 2023/24 a'r materion allweddol a oedd yn codi.

  

Cynhyrchodd alldro refeniw 2023/24 danwariant net o £5.4m yn erbyn cyllideb o £374m, ar ôl cyfraniadau cyllideb craidd i/o gronfeydd wrth gefn, a gynrychiolodd amrywiant o 1.45% yn erbyn y gyllideb.

 

Roedd y sefyllfa derfynol hon yn welliant o £2.9m ar y sefyllfa a adroddwyd i'r Cabinet ym mis Tachwedd, yn bennaf oherwydd incwm gwell na'r disgwyl, dosbarthiad hwyr cyllid grant gan Lywodraeth Cymru (LlC), a chyflwyno gwarged o ran casgliadau Treth Gyngor.

 

Esbonnir y sefyllfa alldro yn bennaf gan:

 

?   Orwariant yng nghyllidebau gwasanaethau - yn bennaf oherwydd cynnydd yn y galw, costau cynyddol, a materion gwasanaeth eraill (fel y nodir yn yr adroddiad).

 

Fodd bynnag, roedd y gorwariant hwn mewn gwasanaethau yn cael ei wrthbwyso gan danwariant yn erbyn cyllidebau nad oeddent yn ymwneud â gwasanaethau, yn benodol:

 

?   Gorgyflawniad llog derbyniadwy oherwydd cyfraddau llog cynyddol ac uwch na'r hyn a ragwelwyd, a mwy o arbedion ar log a oedd yn daladwy oherwydd yr angen wedi’i oedi i fenthyca, a achoswyd gan lithriad yn y rhaglen gyfalaf.

?   Gwarged o ran casgliadau Treth Gyngor oherwydd cynnydd yn y sylfaen dreth, a dad-ddirwyn untro ddarpariaeth dyledion drwg hanesyddol.

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

?   Y gyllideb wrth gefn gyffredinol.

 

Gellid dod o hyd i esboniadau manwl o'r gorwariant a'r tanwariant yn erbyn cyllidebau yn adran 2 yr adroddiad.

 

Er bod yr alldro yn gadarnhaol i gyllid y Cyngor yn gyffredinol; roedd materion penodol a allai effeithio ar y flwyddyn i ddod. 

 

Ymdriniwyd â nifer o'r materion hyn fel rhan o broses gosod cyllideb 2024/25, ond roedd heriau yn parhau ar draws sawl maes, yn benodol, anghenion tai a digartrefedd wrth i'r galw a'r costau barhau’n fwy na’r hyn y gallai'r gyllideb ei fforddio ar hyn o bryd.

 

Roedd lliniaru o gyllidebau nad oeddent yn ymwneud â gwasanaethau ar gael yn 2024/25, ond ni fyddai hyn i'r un graddau ag a welwyd yn 2023/24.

 

Gan fod amrywiant ysgolion yn cael ei reoli drwy falansau ysgolion unigol, nid oedd y tanwariant cyffredinol o £5.4m yn cynnwys sefyllfa ysgolion.

 

Yn 2023/24, gorwariodd ysgolion £2m gyda'i gilydd, a welodd balansau ysgolion yn gostwng o £14.4 i £12.5m, ar 31 Mawrth 2024.

 

Roedd ysgolion wedi cwblhau eu cyllidebau ar gyfer 2024/25, ac roedd pob ysgol heblaw un wedi gosod cyllidebau cytbwys ar gyfer y flwyddyn. 

 

Rhoddwyd trwydded diffyg dros dro i un ysgol uwchradd ac roedd swyddogion yn rhoi cymorth ychwanegol tuag at ddatblygu cynllun adfer hyfyw. 

 

Parhaodd ysgolion mewn perygl o ddiffyg yn y dyfodol i gael eu monitro'n agos gan y tîm cyllid a chydweithwyr addysg, ac roedd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda'r Pennaeth Addysg Cynorthwyol i drafod pob ysgol yn ei thro.

 

Yn ogystal â'r tanwariant ar y gyllideb, nododd cau'r cyfrifon nifer o gronfeydd wrth gefn gyda balansau y gallai'r Cabinet eu hystyried ar gyfer ail-bwrpasu,  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Monitro ac Ychwanegiadau Rhaglen Gyfalaf - Mawrth 2024 pdf icon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd wrth ei gydweithwyr mai hwn oedd adroddiad terfynol y flwyddyn ar weithgarwch cyfalaf, a’i fod yn rhoi trosolwg o swm terfynol y gwariant cyfalaf yr aethpwyd iddo yn ystod y flwyddyn, o gymharu â'r gyllideb a ddyrannwyd. 

 

Amlinellodd yr adroddiad lefel y llithriad a'r tanwariant yr aethpwyd iddynt a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am lefel yr hyblygrwydd cyfalaf a oedd ar gael. 

 

Nododd yr adroddiad yr ychwanegiadau at y rhaglen a nodwyd a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer yr ychwanegiadau hyn.

  

Amlinellodd adran gyntaf yr adroddiad y symudiad yn y gyllideb gyfalaf ers adroddiad monitro diwethaf y Cabinet a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Ionawr. 

  

Cyfanswm gwerth yr ychwanegiadau a’r diwygiadau oedd £33.7m, ond cymeradwywyd £2.9m o hyn yn ffurfiol fel rhan o gytuno ar y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2024/25. Felly, roedd gwerth yr ychwanegiadau a’r diwygiadau yr oedd angen eu cymeradwyo, y rhan fwyaf ohonynt wedi'u cyllido gan grant allanol, yn £30.8m. Roedd £4.5m o'r ychwanegiadau hyn yn ymwneud â 2023/24 ac yn mynd â chyfanswm y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 i £97.7m.

  

Rhoddwyd dadansoddiad pellach o'r ychwanegiadau a'r diwygiadau hyn yn Atodiad A.

 

Yn erbyn y gyllideb ddiwygiedig, aethpwyd i gyfanswm gwariant o £79.452m, gan arwain at amrywiant o £18.2m. 

 

Roedd yr amrywiant hwn yn cynnwys tanwariant net o £498,000 ac, yn fwy arwyddocaol, lithriad gwerth cyfanswm o £17.7m. Roedd angen i'r llithriad hwn gael ei gario ymlaen i flynyddoedd i ddod er mwyn cwblhau cynlluniau parhaus ac a gymeradwywyd yn flaenorol. 

 

Cynyddodd gwerth cyffredinol llithriad £8.6m ers yr adroddiad monitro cyfalaf. Roedd swm y llithriad o'i gymharu â maint y rhaglen gyfalaf yn llai nag mewn blynyddoedd blaenorol, a hynny yn bennaf oherwydd y ffaith bod nifer o gynlluniau mawr bellach ar y gweill ond hefyd oherwydd ailbroffilio a wnaed yn y misoedd blaenorol. 

 

Dylid nodi, fodd bynnag, fod lefel gyffredinol y llithriad yn dal i fod yn sylweddol a'i bod yn rhywbeth yr oedd angen ei reoli'n gadarn yn y blynyddoedd i ddod. 

 

Roedd angen adolygiad pellach o raglen gyfalaf 2024/25, er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu proffil realistig. Ar hyn o bryd, roedd y gyllideb bron yn £90.7m a byddai'n her i'w chyflawni.

 

Roedd angen ail-broffilio hyn ar draws gweddill y rhaglen i gynyddu'r siawns o gyflawni yn erbyn y gyllideb a lleihau lefel y llithriad a adroddwyd yn y blynyddoedd i ddod. 

 

Nododd yr adroddiad lefel yr hyblygrwydd cyfalaf a oedd ar gael ar hyn o bryd, y gellid ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau newydd a blaenoriaethau a oedd yn dod i'r amlwg. 

 

Roedd hyn bellach yn £15.515m, ar ôl cynyddu £7.3m ers yr adroddiad monitro diwethaf, yn dilyn cymeradwyo £595k fel rhan o gyllideb refeniw 24/25: roedd hyn yn cyfateb i £7m o fenthyca, ynghyd â £193k o dderbyniadau cyfalaf a £1.2m o ddadneilltuo, a gafodd ei wrthbwyso gan £1.085m yn cael ei ddyrannu tuag at symiau blynyddol Seilwaith. 

 

Er yr oedd lefel yr hyblygrwydd yn ymddangos yn rhesymol ar hyn o bryd, roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Diweddaru ar y Gronfa Ffyniant a Rennir pdf icon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Clarke, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Gwasanaethau Democrataidd, yr adroddiad diweddaru ar y cynnydd a wnaed wrth ddyrannu a gwario cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG), rhaglen a gyflwynwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU yn 2022. 

 

Disodlodd y gronfa gyllid Undeb Ewropeaidd blaenorol ac roedd yn cynnwys £2.6 biliwn o gyllid ledled y DU.  

 

Prif nod y CFfG oedd meithrin balchder mewn lleoedd a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU.

 

Y bwriad yw:

 

?   Rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar ei hôl hi, 

?   Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle mae’r rhai gwannaf, 

?   Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder a pherthyn yn lleol, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wedi eu colli, a

?   Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol.

 

Roedd tri maes blaenoriaeth craidd - Cymuned a Lleoedd, Cefnogi Busnes Lleol, a Phobl a Sgiliau, a dyraniad ar wahân i gefnogi rhifedd oedolion o'r enw 'Lluosi'. 

 

Derbyniodd Casnewydd ddyraniad craidd o £27m gyda £5.4m ychwanegol i'w fuddsoddi trwy Luosi.

 

Cafodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ddyraniad o dros £230 miliwn ac ychydig dros £48 miliwn ar gyfer Lluosi. 

 

Sefydlwyd prosiectau blaenoriaeth drwy ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd 2022 a ffurfiwyd Cynllun Buddsoddi Lleol, a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mai 2023. Mae copi o hyn yn Atodiad 1. 

 

Rhoddodd y Cabinet awdurdod dirprwyedig hefyd i Fwrdd y CFfG, yn cynnwys uwch swyddogion o bob rhan o'r Cyngor a'r Aelod Cabinet blaenorol dros Dwf Economaidd a Buddsoddi Strategol.  

 

Roedd angen newid dirprwyaeth i'r Aelod Cabinet gyda'r portffolio Adfywio.  

 

Parhaodd diweddariadau ar brosiectau unigol a oedd yn cael eu cyflawni gan y Cyngor i gael eu rhoi gan y Gwasanaeth cyfrifol i'w Aelod Cabinet perthnasol.

 

O ran cynnydd, roedd 67 o brosiectau wedi'u cymeradwyo ac roeddent ar wahanol gamau cyflawni, gan gynnwys nifer o grwpiau a sefydliadau allanol a dderbyniodd gyllid.   

 

Dyfarnwyd dros £400,000 o gyllid grant i nifer o ddarparwyr lleol, gan gynnwys Newport Rising, Operasonic, Urban Circle a Chlwb Pêl-fasged Newport Aces.  

 

Roedd prosiectau allweddol eraill sydd wedi derbyn cyllid hefyd yn cynnwys:

 

?   Gwaith i Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.

?   Prynu Parc Tredegar a gwaith uwchraddio i ddarparu cyfleuster chwarae parc sblasio newydd.

?   Cyllid ar gyfer Cymdeithas Cymuned Yemenïaidd Casnewydd, gan helpu dros 300 o bobl.

?   Cyllid Mannau Cynnes i 27 o sefydliadau a gefnogodd 624 o sesiynau ar gyfer trigolion agored i niwed Casnewydd. 

?   Datblygu hyfforddiant annibynnol ar Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill a welodd 404 o atgyfeiriadau mewn 8 mis gyda sesiynau hyfforddiant pellach yn cael eu creu oherwydd y galw. 

?   Sefydlu’r lleoliad Cyfnewidfa ?d newydd, gan gynnig lleoliad cerddoriaeth fyw â lle i fwy na 500 o bobl yng nghanol y ddinas. 

?   Cefnogi cyflwyno Wythnos Dechnoleg Cymru, cynhadledd dechnoleg sylfaenol y genedl, gan ddenu cynulleidfa fyd-eang o filoedd.

?   Mae'r adborth hyd yma wedi bod yn gadarnhaol ac rydym yn cyflwyno Blwyddyn 3 ar hyn o bryd.  

?   Cyn yr etholiad cyffredinol diweddar, gwnaeth cyn-Lywodraeth y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Eisteddfod yr Urdd 2027 pdf icon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Stowell-Corten, yr Aelod Cabinet dros Gyfathrebu a Diwylliant, yr adroddiad i'r Cabinet yn gofyn am ymrwymiad i gynnal Eisteddfod yr Urdd yn 2027.  

 

Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop sy'n denu tua 60,000 o ymwelwyr yn ystod y digwyddiad saith diwrnod.  

 

Mae dros 15,000 o blant a phobl ifanc dan 25 oed yn cystadlu yn y rowndiau terfynol yn y digwyddiad. 

 

Cynhaliwyd digwyddiad 2024 dros hanner tymor mis Mai ym Mhowys ac roedd digwyddiad 2025 yn cael ei gynnal ym Mharc Margam.  

 

Byddai'r digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys S4C, BBC Cymru ac ITV Cymru, gan gwmpasu 80 awr darlledu ar y teledu a dros 50 awr darlledu ar y radio. 

 

Roedd sylw yn y wasg leol a chenedlaethol ac mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Urdd yn cyrraedd dros 1.2 miliwn o bobl yn ystod wythnos y digwyddiad.

 

Roedd Casnewydd wedi cynnal digwyddiadau'r Eisteddfod yn flaenorol.  Cynhaliwyd un o ddigwyddiadau cynharaf yr Eisteddfod ym Mharc Belle Vue yn 1897. Yn fwy diweddar cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nh? Tredegar yn 1988 ac yn 2004.  

 

Er mwyn cynnal y digwyddiad, roedd angen ymrwymiad a chydweithredu effeithiol rhwng pob parti. Tra bod y digwyddiad yn cael ei reoli gan yr Urdd, byddai'n cymryd o leiaf dwy flynedd o gynllunio. Byddai gweithgor ymroddedig yn cael ei ffurfio gyda chynrychiolwyr o bob rhan o'r Cyngor a phartneriaid allanol.  

 

Mae'r Urdd wedi rhoi gofynion penodol i'r Cyngor ar gyfer y safle ac roedd Swyddogion yn gweithio gyda'r Urdd i ddewis lleoliad a ffefrir. Byddai manylion y safle a ddewiswyd yn cael eu rhyddhau mewn digwyddiad cyhoeddus ym mis Medi.  

 

Roedd yr adroddiad yn rhestru nifer o ofynion eraill gan y Cyngor, gan gynnwys darparu mynediad i neuaddau ysgol a lleoliadau eraill y Cyngor i gefnogi ymarferion a chyfarfodydd.  Byddai angen rhyddhau athrawon a staff y Cyngor i gefnogi ymarferion a goruchwylio'r digwyddiad o safbwynt gweithredol.  

 

Mewn perthynas â chyfraniadau ariannol, cadarnhaodd yr adroddiad fod y digwyddiad yn costio tua

£2.4m.  Darparwyd y rhan fwyaf o hyn drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru a

nawdd, ond gofynnwyd i bob awdurdod cynnal am gyfraniad o £200,000. Nid oedd y ffigur hwn yn cynnwys unrhyw un o'r ffioedd na'r taliadau, fel llogi lleoliadau a thrwyddedau y byddai'n ofynnol eu cyllido ar wahân.

 

Byddai'r Cabinet yn cael ei ddiweddaru ar y costau hyn pan fyddai mwy o fanylion ar gael.

 

Rhoddodd yr Urdd gyfleoedd i bobl ifanc o bob rhan o Gymru gymryd rhan mewn gweithgareddau'n ymwneud â chwaraeon, diwylliant, y celfyddydau, cymuned a gweithgareddau rhyngwladol.  

 

Yn 2023, amcangyfrifwyd bod 90,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu yn Eisteddfodau Ardal, Rhanbarthol a Genedlaethol yr Urdd.

 

Roedd y cyfranogwyr yn teimlo eu bod wedi elwa o ddigwyddiadau'r Urdd o ran eu hagwedd tuag at y Gymraeg, eu sgiliau cymdeithasol a'u lles, a'u sgiliau emosiynol.  

 

Mae gan gefnogi'r digwyddiad yng Nghasnewydd fanteision ehangach hefyd, gan gynnwys:

 

?   Cysylltiadau uniongyrchol a chyfraniadau i'r pedwar diben a'r chwe Maes Dysgu yn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Hawl Tramwy Cyhoeddus 406/58 Parc Jiwbilî, Ty-du pdf icon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr R Howells, yr Aelod Cabinet dros Asedau a Seilwaith a Forsey, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth, yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gau llwybr troed 406/58/1 yn barhaol yn Nh?-du, Casnewydd, oherwydd erydiad afon a phryderon diogelwch. Sefydlwyd y llwybr troed yn 1959 fel rhan o ddatblygiad hen safle Alcan ac roedd yn boblogaidd ymhlith trigolion a phlant ysgol fel cyswllt â'r Maes Lles a chefn gwlad.

 

Cwympodd rhan o lan yr afon ym mis Ionawr 2023 ar ôl digwyddiad stormydd, gyda rhan o'r llwybr troed cyhoeddus heb ar gael mwyach ac ardaloedd yng nghyffiniau'r llwybr cwympedig yn beryglus o ganlyniad. Nid oedd gan y tir unrhyw dirfeddiannwr hysbys, nid oedd gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i adfer y rhannau o'r llwybr a oedd wedi cwympo, ac ni nodwyd ffynonellau cyllid ar gyfer adfer hyd yma.

 

Derbyniodd yr ymgynghoriad 154 o wrthwynebiadau a deiseb gyda 1500 o lofnodion, yn bennaf ar sail colli amwynder, anaddasrwydd y llwybr amgen, torri amodau cynllunio, ac effaith ar fusnesau a chyfleusterau lleol. Roedd y llwybr amgen yn ddiogel, wedi'i oleuo'n dda, ac yn cydymffurfio â'r Ddeddf Cydraddoldeb. Felly, roedd yr adroddiad o'r farn nad oedd unrhyw wrthwynebiadau dilys yn erbyn y Gorchymyn Rheoli Traffig ar sail iechyd a diogelwch.

 

Fodd bynnag, wrth ystyried cadarnhau'r gorchymyn rheoli traffig (GRhT) parhaol, ystyriodd y Cyngor hefyd ganlyniadau gwneud y gorchymyn hwn. Nodwyd y byddai'r GRhT yn gofyn am fesurau ffisegol i atal mynediad, a ystyriwyd yn gostus ac o bosibl yn aneffeithiol, ac a fyddai hefyd yn rhwystro unrhyw ailadfer yn y dyfodol gan y byddai'n rhaid gwrthdroi'r gorchymyn i adfer hawliau priffyrdd.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

  

?   Ychwanegodd y Cynghorydd Forsey ei bod yn cydnabod pwysigrwydd yr hawl tramwy cyhoeddus i drigolion Parc y Jiwbilî gan apelio ar drigolion i beidio â defnyddio'r llwybr a oedd wedi cwympo.

 

?   Cytunodd y Cynghorydd Drewett ei fod yn gam doeth ymlaen at ddibenion diogelwch.

 

?   Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau ei gydweithwyr hefyd ac ailadroddodd bwysigrwydd diogelwch trigolion.

 

Penderfyniad:  

 

Penderfynodd y Cabinet i - 

 

1.          Wrthod cadarnhau'r gorchymyn ond cadw’r rhan o'r llwybr a oedd heb ei heffeithio ar bwyntiau addas.

2.          Cynghori'r cyhoedd i ddefnyddio'r llwybr amgen gan fod yr hawl tramwy cyhoeddus wedi'i cholli ac nad oedd ar gael. 

3.          Gosod arwyddion ar y rhan o'r llwybr yr effeithiwyd arni i rybuddio am y perygl.

4.          Diwygio'r map diffiniol.

 

8.

Adolygiad Gwasanaethau Eiddo pdf icon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd yr Aelod Cabinet dros Asedau a Seilwaith, y Cynghorydd R Howells, gydweithwyr y cytunodd y Cabinet, ym mis Mawrth 2024, i sefydlu model newydd ar gyfer darparu gwasanaethau eiddo ar ddiwedd y gyd-fenter (CF) gyfredol.

 

Sefydlwyd CF Norse ym mis Gorffennaf 2014 a daeth i ben ym mis Rhagfyr 2025.  Dros y 9 mlynedd diwethaf roedd y trefniant hwn wedi ad-dalu dros £4m i'r Cyngor i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i drigolion Casnewydd.

 

Roedd y bartneriaeth gyfredol yn darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys rheoli cyfleusterau; rheoli ystadau, dylunio a chynnal a chadw adeiladau; rheoli a glanhau safleoedd.

 

Gyda chymorth adolygiad craffu dan arweiniad aelodau, cytunwyd yn flaenorol i sefydlu cwmni masnachu awdurdod lleol wedi’i berchen yn llwyr a gefnogodd ein Cynllun Corfforaethol a'n dyheadau gwerth cymdeithasol.

 

Ystyriodd yr adroddiad hwn y camau nesaf gan gynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn i ddatblygu'r model ac argymhellodd ddyddiad dechrau o 1 Ebrill 2026.

 

Mae'r adroddiad yn nodi sut yr oedd argymhellion blaenorol y Cabinet wedi datblygu a’r gwaith sylweddol gan swyddogion i ddatblygu achos busnes. 

Mae arweinwyr prosiect yn parhau i weithio gyda Norse, rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid allanol i ddadansoddi cyllidebau a gofynion darparu gwasanaethau. 

 

Pwrpas yr achos busnes ariannol oedd meintioli costau a manteision sefydlu model newydd, gan ystyried risgiau ac amrywiant posibl.  

 

Dangosodd yr adroddiad hwn gostau tebygol sefydlu a chyfnod ad-dalu pedair blynedd rhagamcanol. Amlygodd yr adroddiad ymhellach fod y costau'n niwtral o fewn yr opsiynau dros yr un cyfnod o bedair blynedd, gyda'r model newydd yn darparu potensial budd gwerth cymdeithasol ac ariannol sylweddol dros y tymor hwy.  

 

Pe bai'r Cabinet yn cytuno â'r cynnig hwn, gellid gwneud cynnydd i sefydlu'r cwmni newydd wedi’i gyllido gan gronfeydd wrth gefn, fel y cytunwyd yn yr Adroddiad Refeniw i'r Cabinet fel rhan o eitemau Agenda mis Gorffennaf.

 

Ystyriodd yr adroddiad hefyd y materion gyda dyddiad gorffen o 31 Rhagfyr 2025 a chynigiodd estyniad hyd at 31 Mawrth 2026.

 

Yn bwysig, roedd yr argymhelliad Craffu y gellid ehangu'r model i ystyried mwy o wasanaethau yn ystyriaeth yn y sefydlu hwn.

 

Y cam nesaf oedd i swyddogion ddatblygu'r Cynllun Busnes a byddai'r Cabinet yn derbyn adroddiad pellach ar hyn.

 

Dymunai'r Aelod Cabinet ddiolch i'r gr?p pwyllgor Craffu blaenorol am ei waith ar hyn, a gweithlu Norse am gydweithio â ni wrth i ni gynllunio'r newid pwysig hwn. 

  

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

  

            ?           Cyfarfu'r Arweinydd ynghyd â'r Cynghorydd Howells â Norse i drafod y cynigion hyn. 

Roedd cyflwyno'r model hwn yn uchelgeisiol, a byddai'r Cabinet yn cael ei ddiweddaru ar ei gynnydd.

 

Penderfyniad:  

  

Penderfynodd y Cabinet i: 

 

1.          Ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Strategol dros Drawsnewid a Chorfforaethol, mewn ymgynghoriad â swyddogion statudol, i gymryd y camau hynny ag sy'n angenrheidiol i barhau i sefydlu'r cwmni masnachu awdurdod lleol, gan gynnwys paratoi'r holl ddogfennau angenrheidiol, ac eithrio eu cofrestru yn Nh?'r Cwmnïau, gyda’r cam olaf hwnnw’n amodol ar ddatblygu cynllun busnes ar gyfer gweithrediadau'r cwmni masnachu awdurdod lleol.

2.          Cytuno ar ddefnyddio cronfeydd wrth gefn fel y nodir yn yr adroddiad  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Corfforaethol (Chwarter 4) pdf icon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar Gofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor ar gyfer Chwarter 4 (1 Ionawr i 31 Mawrth 2024).

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o risgiau'r Cyngor a allai atal cyflawni ei flaenoriaethau strategol a darparu gwasanaethau i gymunedau Casnewydd.

 

Cyflwynwyd sefyllfa chwarter 4 i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor ym mis Mai 2024, lle gwnaed sylwadau gan y Pwyllgor, a nodwyd y rhain yn Adroddiad y Cabinet.  

  

Ar ddiwedd Chwarter 4, roedd gan Gyngor Dinas Casnewydd 44 o risgiau wedi'u cofnodi ar draws 11 o wasanaethau’r Cyngor.

 

?   Cofnodwyd 15 allan o 44 o risgiau yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol.         

?   Risgiau Difrifol (15 i 25). 

?   Risgiau Mawr (7 i 14).

 

O gymharu â chofrestr risgiau corfforaethol Chwarter 3, digwyddodd y newidiadau canlynol:

 

?   1 risg newydd – Disodli System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (SWGCC)

?   1 risg wedi’i dad-ddwysáu – Cyflawni'r Cynllun Archwilio Mewnol

 

Gwahoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Lacey, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, i fynd i'r afael â'r risg newydd mewn perthynas â SWGCC.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Lacey at y Risg Newydd – Disodli SWGCC a oedd â Sgôr Risg o 20.

 

?   Roedd System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (SWGCC) yn cefnogi’r gwaith o ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol ledled Casnewydd ac ni fydd yn cael ei gefnogi ar ôl mis Rhagfyr 2025 mwyach.

?   Roedd Cyngor Dinas Casnewydd yn cydweithio ag awdurdodau lleol eraill a'r gwasanaeth iechyd i archwilio sawl opsiwn.

?   Byddai'r system newydd yn brosiect mawr i'r Cyngor ei gyflawni dros y 18 mis nesaf.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod sgôr risg y Risg Wedi’i Dad-ddwysau – Cyflawni'r Cynllun Archwilio Mewnol wedi gostwng o 9 i 2. 

  

?   Ar ddiwedd 2023/24, llwyddodd gwasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor i gyflawni ei Gynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2023/24.

?   Mae'r Pennaeth Cyllid hefyd wedi sicrhau cymorth Partneriaeth Archwilio’r De-orllewin wrth gyflawni Cynllun Archwilio Mewnol 2024/25 yn ogystal â phenodi Archwilwyr newydd i'r tîm. 

?   Byddai'r risg yn parhau i gael ei monitro gan y gwasanaeth Cyllid yn 2024/25.

 

Penderfyniad:  

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys diweddariad Chwarter 4 ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol.

 

10.

Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg pdf icon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Drewitt, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Lleihau Tlodi, yr adroddiad. 

 

Rydw i’n hapus i rannu'r adroddiad yma heddiw.

 

Yn dilyn gweithredu Safonau'r Gymraeg y Cyngor ym mis Mawrth 2016, roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gynhyrchu adroddiad monitro blynyddol ar gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Roedd yr adroddiad blynyddol hwn yn cynrychioli wythfed flwyddyn y Cyngor o weithredu Safonau'r Gymraeg ac, yn unol â gofynion statudol, rhoddodd drosolwg o gynnydd y Cyngor o ran bodloni'r Safonau yn ystod y flwyddyn ariannol yn dod i ben yn 2024.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth allweddol am berfformiad yr oedd Comisiynydd y Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i’w chyhoeddi yn flynyddol, yn tynnu sylw at gyflawniadau sylweddol yn ystod y flwyddyn, ac yn nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

 

Cyhoeddwyd yr adroddiad drafft ar-lein erbyn y dyddiad cau sef 30 Mehefin 2024 i fodloni gofynion statudol a byddai'n cael ei ddiweddaru'n syth ar ôl iddo gael ei gytuno gan y Cyngor Llawn.

 

Mae uchafbwyntiau allweddol y flwyddyn yn cynnwys y canlynol;

?   Menter Cymraeg Gwaith - Tiwtor dynodedig ar secondiad i hwyluso hyfforddiant iaith Gymraeg Cyngor Dinas Casnewydd o fewn Cyngor Dinas Casnewydd mewn partneriaeth â Choleg Gwent wedi’i gyllido gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

?   Gwefan, Parth Cymraeg, a Chyfeiriadau E-bost newydd - Gwefan gwbl ddwyieithog gyntaf gan ddefnyddio’r platfform Gov Drupal, gyda chymorth parth Cymraeg newydd sef www.casnewydd.gov.uk ochr yn ochr â chyfieithu holl e-byst y Cyngor gan gysylltu’r cyfeiriadau ag @casnewydd.gov.uk. 

?   Ymgyrch Ffurfiau Gwahanol ar Gymreictod - Wedi gweithio gydag Urban Circle i gynhyrchu adnoddau fideo sy'n amlygu ac yn dathlu natur amrywiol cymuned Gymraeg Casnewydd a pham fod y Gymraeg yn bwysig i bobl Casnewydd, sut mae'n cael ei defnyddio a'r opsiynau sydd ar gael i'r rhai sy'n ystyried addysg Gymraeg.

 

Nododd yr adroddiad hefyd flaenoriaethau ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf, gan gynnwys mwy o ffocws ar recriwtio, cadw a datblygu siaradwyr Cymraeg ar draws pob gwasanaeth yn y Cyngor a datblygu digwyddiad Dydd G?yl Dewi i ddathlu Cymreictod, diwylliant Cymru a threftadaeth Gymreig. 

 

Roedd rôl y Cynghorydd John Harris, Hyrwyddwr y Gymraeg, yn allweddol wrth helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd y Gymraeg ar draws y ddinas tra'n parhau i hyrwyddo'r Gymraeg o fewn y Cyngor ac ar draws ei weithlu. 

  

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

  

?   Cyfeiriodd y Cynghorydd Lacey at sut roedd y Gymraeg ar un adeg yn iaith a oedd yn marw ond ei bod bellach yn galonogol gweld bod bron i 30% o staff yn siarad y Gymraeg a bod y Cyngor yn cymryd camau pendant tuag at adeiladu ar y cyflawniad hwn.

 

?   Tynnodd y Cynghorydd Drewett sylw at bwysigrwydd siarad y Gymraeg i'r diwylliant lleol a sut roedd yn atgyfnerthu’r agweddau cadarnhaol ar yr iaith.

 

?   Dywedodd y Cynghorydd R Howells fod y Gymraeg wedi ennill llawer o fomentwm a'i gobaith oedd y byddai ei phlentyn yn ddwyieithog.  Roedd addysgu’r Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghasnewydd yn bwysig.

 

?   Roedd yr arweinydd  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hwn oedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith.

  

Penderfyniad:  

 

Cytunodd y Cabinet ar y rhaglen waith.