Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 8fed Medi, 2021 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod diweddaf pdf icon PDF 175 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion 7 Gorffennaf 2021 fel rhai cywir.

 

3.

Monitor Cyllideb Refeniw pdf icon PDF 531 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

This was the first revenue monitor presented to Cabinet this financial year and it explained the current forecast position of the Authority as at July 2021.

 

Yn erbyn cyllideb net o £316miliwn, yr oedd y sefyllfa refeniw am fis Gorffennaf ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o £5.3miliwn, sef amrywiad o 1.6% yn erbyn y gyllideb. Yr oedd y sefyllfa hon yn cynnwys effaith ariannol parhaus pandemig COVID-19 ac yn rhagdybio yr ad-delir yn llawn y gwariant ychwanegol a’r incwm a gollwyd am weddill y flwyddyn. Yr oedd hyn yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y byddai’r Gronfa Galedi ar gael tan fis Mawrth 2022.  Yr oedd hyn yn ychwanegiad i’w groesawu i’r sefyllfa a ragwelwyd am eleni, oherwydd er i gyfyngiadau gael eu codi ac i’r economi ail-gychwyn oherwydd cyflwyno’r rhaglen frechu, yr oedd yn amlwg y byddid yn dal i deimlo’r effaith ariannol ar gyllideb y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

 

Fel y gwelir yn yr adroddiad a’i Atodiadau, mae modd esbonio’r sefyllfa fel hyn:

 

-        Yn gyffredinol, yr oedd gwariant meysydd gwasanaeth fwy neu lai yn cadw at y gyllideb

-        Daeth y tanwariant o arbedion yn erbyn (i) y gyllideb gyllido cyfalaf(ii) y gyllideb refeniw wrth gefn nad oedd ei hangen ar hyn o bryd a (iii)rhai cyllidebau eraill heb fod yn rhai gwasanaeth nad oedd wedi eu hymrwymo ar hyn o bryd. Gyda’i gilydd, yr oedd hyn yn £5m o danwariant.

 

Er bod cyllidebau yn gytbwys yn gyffredinol yn y meysydd gwasanaeth, yr oedd rhai meysydd unigol yn dal i orwario yn erbyn gweithgareddau penodol. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, yr oedd a wnelo’r gorwariant hwn a meysydd lle’r oedd llawer o alw, megis Gwasanaethau Cymdeithasol, ac felly yr oedd risg y gallant newid petae lefelau’r galw yn newid o’r hyn a ragwelir ar hyn o bryd.

 

Yn ychwanegol at hyn, yr oedd llawer ffactor anhysbys o ran effeithiau tymor-hwy y pandemig, fel yr effaith ar lefelau cyflogaeth pan fydd cefnogaeth ffyrlo i weithwyr yn dod i ben. Nid oedd y sefyllfa fonitro hon yn gwneud unrhyw ragdybiaethau o ran yr effaith hon, a byddai angen cadw golwg fanwl arni wrth i sefyllfa’r pandemig barhau i ddatblygu.

 

Ymysg y meysydd allweddol  oedd yn cyfrannu at y sefyllfa a ragwelwyd o £5.3miliwn y mae:

 

(i)               Mwy o alw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol gan gynnwys lleoliadau plant y tu allan i’r ardal, asiantaethau maethu annibynnol a gofal cymunedol i oedolion. Cyfrannodd y tri maes hwn yn unig at orwariant o bron i £350k yn y gwasanaeth yn gyffredinol.

 

(ii)              Yn ychwanegol at y risgiau parhaus hyn, daeth problemau hefyd i’r wyneb yn ystod y flwyddyn, a byddid yn parhau i’w monitro. Ymysg y rhain, ond nid y rhain yn unig, yr  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Monitor Cyllideb Gyfalaf pdf icon PDF 352 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Rhoddodd yr adroddiad hwn y sefyllfa monitro cyfalaf ar Orffennaf 2021.

 

Gosododd y Cyngor raglen gyfalaf helaeth oedd yn adlewyrchu ymrwymiadau saith mlynedd.

 

Yr oedd Tabl Un yn yr adroddiad yn dangos sut y newidiodd hyn dros y flwyddyn ariannol ac yn dangos ymrwymiadau cyfalaf y Cyngor a bod gwariant yn y ddinas yn awr yn gyfanswm o £282m dros einioes y rhaglen, ar draws yr holl feysydd gwasanaeth.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo, fel arfer, ychwanegu prosiectau cyfalaf newydd at y rhaglen yn gyffredinol.

 

Yr oedd Tabl Dau yn yr adroddiad yn rhoi manylion y prosiectau cyfalaf newydd a sut y talwyd am bob un ohonynt.

 

Dangosodd Tabl Tri yn yr adroddiad y sefyllfa fel y’i rhagwelwyd ar Orffennaf 21, sef canolbwynt yr adroddiad hwn. Yr oedd y sefyllfa gyfredol yn dangos tanwariant bychan o £159k ac y mae manylion hyn yn Atodiad C  yr adroddiad.

 

Yr oedd y tabl hefyd yn amlygu’r ffaith y digwyddodd ail-broffilio hyd yma o £30.2m. Yr oedd manylion o’r lle y digwyddodd yr ail-broffilio hwn hefyd yn yr adroddiad.  Er hynny, yr oedd hyn yn dal yn gadael rhaglen gyfalaf o £70.4m am 21/22, oedd yn uchel iawn. Byddai angen gwneud mwy o waith am ragweld ac ail-broffilio er mwyn sicrhau bod y rhaglen gyfalaf yn adlewyrchu amserlen fwy realistig i gyflwyno’r prosiectau, a gofynnwyd i’r swyddogion adolygu prosiectau yn gyson a chyfoesi proffiliau’r prosiectau wrth i gynlluniau fynd rhagddynt.

 

O ran monitro gwariant, cadarnhaodd yr adroddiad wariant isel o ychydig dan £11 miliwn ar gyllideb o £70.4m. Nid oedd y patrwm hwn yn anghyffredin, oherwydd bod llawer o’r gost wedi ei ragweld ar gyfer hanner olaf y flwyddyn. Er hynny, yr oedd hyn yn dwyn gydag ef risg o lithriad, ond byddai’r gwaith pellach a amlinellwyd yn helpu yn hynny o beth. Wedi dweud hynny, yr oedd nifer o brosiectau yn mynd rhagddynt, yn benodol rhaglen ysgolion Band B, yr oedd manylion amdanynt yn yr adroddiad.

 

Yr oedd yr arian cyfalaf rhydd yr adroddwyd amdano (cyllideb nad oedd gwariant wedi ei ymrwymo ar ei gyfer), yn £7.6m, oedd yn cynnwys £1.2m o arian Cyd-Fenter nas neilltuwyd. Yr oedd y galw am wariant cyfalaf yng Nghasnewydd yn fwy na lefel yr adnoddau a rhaid oedd i’r Cyngor flaenoriaethu’n ofalus lle mae’n gwario’r adnodd cyfalaf hwn

 

Er nad ymdriniwyd â hyn yn yr adroddiad, yr oedd yn fuddiol nodi fod yr Arweinydd wedi gofyn am beth gwaith ar risgiau ariannol a chyflwyno’r rhaglen gyfalaf oherwydd ansefydlogrwydd mewn costau deunyddiau crai/llafur a phroblemau cyflenwi. Yn bennaf oherwydd Covid a Brexit, mae’r rhain yn amlwg yn cael effaith ledled y DU a bydd swyddogion yn asesu hyn i raglen y Cyngor ac yn adrodd yn ôl yn y man. Mae’r gwaith hwn yn dal i ddigwydd. 

 

Fel cabinet, mae’r adroddiad yn gofyn i ni nodi a chymeradwyo’r canlynol

-        Yr ail-broffilio a wnaed hyd yma yn y flwyddyn ariannol o £30.2m ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

-        Prosiectau cyfalaf  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Chwarter 1 2021/22 Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol pdf icon PDF 195 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Yr eitem nesaf oedd cyfoesiad o Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor am ddiwedd Chwarter Un (1 Ebrill 2021 tan 30 Mehefin 2021).

 

Gofynnwyd i’r Aelodau ystyried cynnwys yr adroddiad hwn a nodi’r newidiadau i Risgiau Corfforaethol y Cyngor.

 

Mae Polisi Rheoli Risg y Cyngor a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn galluogi’r weinyddiaeth hon a’r swyddogion i nodi, rheoli a monitro yn effeithiol y risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyrraedd ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-22) a chyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

 

Byddai adroddiad risg Chwarter Un hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor ar 30 Medi i adolygu prosesau rheoli risg y Cyngor a’i drefniadau llywodraethiant.

 

Ar ddiwedd Chwarter Un, cofnododd y Cyngor 46 risg ar draw ei wyth  maes gwasanaeth.

 

Mae’r risgiau hynny y tybir sydd fwyaf sylweddol o ran cyflwyno Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’i wasanaethau yn cael eu hanfod i Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor i’w monitro. 

 

Ar derfyn Chwarter Un, cofnodwyd 18 risg yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

·        Unarddeg Risg Ddifrifol (15 i 25);

·        Pedair Risg Fawr (saith i 14);

·        Dwy Risg Gymedrol (pedair i chwech); ac

·        Un Risg Isel (un i dri).

 

O ran y newid yng Nghyfeiriad y Sgoriau Risg, yn Chwarter Un, gwelodd y Gofrestr  Risg Gorfforaethol un sgôr risg yn gostwng, gyda’r 17 risg oedd weddill yn aros yr un fath.

 

Gostyngodd sgôr risg Pandemig Covid-19 (Gostyngodd o 20 i 15) i 15 oherwydd llwyddiant y rhaglen frechu a llacio cyfyngiadau clo, a’i gwnaeth yn bosib ail-agor gwasanaethau cyswllt wyneb yn wyneb.

 

Yr oedd y sgôr risg hon yn adlewyrchiad i risg Covid yn Chwarter Un, ac yn y cyfnod hwn, gwelodd Casnewydd a Chymru gynnydd yng nghyfradd yr heintiadau. Byddai hyn yn cael ei ystyried fel rhan o gyfoesiad Chwarter Dau y Cyngor.

 

Parhaodd gwasanaethau rheng-flaen y Cyngor i redeg fel arfer, a lle gallent, roedd staff y Cyngor yn dal i gael cyfarwyddyd i weithio o gartref. 

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Dywedodd y Cynghorydd Mayer fod y Cyngor yn wastad dan fygythiad seibr-ymosodiadau a bod systemau cadarn ar waith oedd yn cael eu gwirio’n gyson gan y staff.  Yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn gwneud popeth i sicrhau bod data wrth gefn ar gael.

 

Penderfyniad:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys cyfoesiad Chwarter Un y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

6.

Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol 2020/2021 pdf icon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Yr oedd adroddiad Diogelu Blynyddol 2020/21 yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor fod gan ei holl adrannau safonau clir i ymdrin â diogelwch. Cwblhawyd archwiliad hunanasesu diogelwch yn 2020 gan bob adran ac yr oedd yn dystiolaeth o ddeall fod diogelwch yn fater i ni i gyd o ran polisi ac arferion, amgylchedd a diwylliant y cyngor.

 

Parhaodd y tîm diogelu i weithio gyda phob adran ar draws y cyngor i ddatblygu ymhellach y camau allweddol a nodwyd yn yr archwiliad.

 

Trwy gydol blwyddyn anodd y pandemig a’i effaith ar gyflwyno gwasanaethau, rhoddwyd sicrwydd i’r Cabinet fod arferion diogelu plant ac oedolion yn dal i gael eu cyflwyno ar draws holl swyddogaethau statudol y gwasanaethau cymdeithasol. Gwnaed asesiadau wyneb yn wyneb gyda theuluoedd a dinasyddion o ran diogelu yn y fan a’r lle trwy ddefnyddio PPE lle’r oedd angen, a chadw at yr holl gyfyngiadau. Yr oedd angen rheoli crefftus ar y gwasanaethau rheng-flaen er mwyn gwneud yn si?r fod y Cyngor yn dal i warchod a diogelu ein dinasyddion mwyaf bregus a sicrhau bod ymyriad cynnar ar gael rhag i bethau waethygu mewn teuluoedd a chymunedau.

 

The cyngor recognised the impact of the pandemig on the workforce resources and the continued pressure within front-line gwasanaethau to deliver safe and accessible gwasanaethau. It was therefore crucial that the whole Cyngor was an informed workforce that recognised diogelu issues in the community and act accordingly.

 

Yr oedd y sicrwydd a roddwyd yn yr archwiliad diogelu yn waelodlin i’r Cyngor o ran y modd y cyflwynodd yr ymrwymiad fod ‘diogelu yn fater i ni i gyd’ ar draws y Cyngor. Yr oedd hyn felly yn gostwng lefel y risg i’r Cyngor, ond penderfynwyd peidio â gostwng lefel y risg ar y Gofrestr Risg ar hyn o bryd oherwydd effaith y pandemig ar y gweithlu a’r effeithiau posib ar draws gwasanaethau’r cyngor.

 

Yr oedd y paratoadau am newid mewn deddfwriaeth yn cadw at y targed wrth i’r Cyngor baratoi i newid ei arferion yn sgil symud o Gamau Diogelu Amddifadu o Ryddid i Gamau diogelu Rhyddid (newidiadau i Ddeddf Galluedd Meddyliol).  Byddai hyn yn digwydd yn awr yn 2022, fel rhan o’r strategaeth hyfforddi a nodwyd, yn fewnol ac fel rhan o’r consortiwm rhanbarthol ehangach. Byddai mwy o hyfforddiant yn digwydd ar y ddeddfwriaeth/arferion newydd i gynyddu gwybodaeth a sgiliau, a nodwyd hyn yn glir yn y Cynllun Gwaith Corfforaethol Blynyddol (2021/2022) ac yng nghynlluniau blaenoriaeth gwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion yn benodol am hyfforddiant ar y rheoliadau a’r ddeddfwriaeth newydd.

 

Yr oedd sganio sgiliau a hyfforddiant diogelu addas i bob rôl yn y Cyngor, boed fel Aelod, gweithiwr neu wirfoddolwr yn golygu y byddai pob swydd yn cael ei hadolygu gan yr adran diogelu a hyfforddiant, ac y byddai’r gwiriadau fyddai eu hangen am y rôl honno yn cael eu ‘neilltuo’ a’u hadolygu gan y rheolwr llinell priodol yn rheolaidd. Nodwyd y gwaith hwn ar y Cynllun Gwaith (2021/ 2022).

 

Fel yr amlygwyd i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Diweddaru Covid pdf icon PDF 165 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Adroddiad i’r Cabinet oedd hwn ar ymateb y Cyngor a’i bartneriaid i argyfwng Covid-19 o ran cefnogi’r ddinas (trigolion a busnesau) i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol a’r cynnydd gyda Nodau Adfer Strategol y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol. 

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cabinet ym mis Gorffennaf, amrywiolyn Delta oedd y straen amlycaf ledled Cymru a’r DU. 

 

Parhaodd cyfradd achosion Casnewydd ac ardaloedd eraill yng Nghymru yn uchel wrth i gyfyngiadau lacio, fel bod pobl yn cymdeithasu mwy a dilyn trefn fwy normal.

 

Er hynny, yr oedd yn bwysig i bobl barhau i gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru o ran gwisgo mygydau, cadw pellter cymdeithasol (lle bo modd), a bod yn ymwybodol o bobl, boed gyfeillion neu deulu, oedd yn fregus ac yn agored i’r firws.

 

Yr oedd ysbytai yn dal i drin pobl am Covid ac wrth i wyliau’r haf ddod i ben ac i bobl ddychwelyd i’r gwaith, ysgolion a phrifysgolion, byddai’r misoedd nesaf yn dal yn beryglus wrth i ni weld beth fyddai’r effaith. Fel y dywedodd Llywodraeth Cymru, gellid ail-osod cyfyngiadau petai’r cyfraddau yn codi, mwy yn mynd i’r ysbyty neu amrywiolion eraill yn dod i’r fei.

 

Mae’r rhaglen frechu yn dal yn llwyddiannus iawn yng Nghasnewydd a ledled Cymru. Yr oedd y mis diwethaf yn canoli ar bobl ifanc a’r sawl sydd heb eto dderbyn brechiad. Ni allai’r  Cabinet or-bwysleisio pwysigrwydd brechu pawb oed dyn gymwys i gael y brechiad. Nid yn unig y bydd hyn yn eich amddiffyn chi, ond y rhai o’ch cwmpas hefyd.   

 

Yr oedd y Cyngor yn dal i roi gwasanaethau i drigolion a chymunedau ar hyd a lled Casnewydd, ac y mae cyfran helaeth o staff y Cyngor yn dal i ddarparu gwasanaethau wyneb yn wyneb.

 

Byddai’r Cyngor (yn staff ac Aelodau) yn dal i weithio o gartref lle medrent. Yr oedd asesiadau risg yn cael eu cynnal i gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau  bod adeiladau, staff a’r cyhoedd yn ddiogel.

 

Dros yr wythnosau nesaf, byddai gwaith yn parhau i gyflwyno model busnes y Normal Newydd, a byddai cyfoesiadau pellach yn dod ym mis Hydref.   

 

Dros wyliau’r haf, bu timau cymunedol, ysgolion, addysg a Chasnewydd Fyw yn cefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd, gan ddarparu gwahanol raglenni a thalebau archfarchnad i ddisgyblion oedd yn cael prydau ysgol am ddim.

 

Yr oedd yn galonogol gweld busnesau a’r sector lletygarwch yn dychwelyd, gan gynnwys Theatr y Riverfront. Yr oedd y Cyngor yn dal i gynnig grantiau i fusnesau i’w helpu i adfer, a byddai’r Cabinet yn annog busnesau i fanteisio ar hyn. 

 

Yr oedd llawer o wasanaethau’r Cyngor wedi dychwelyd i waith normal wyneb yn wyneb (yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru).

 

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o weld canol y ddinas yn adfywio a llefydd fel Theatr y Riverfront yn agor.

 

Neilltuwyd £500k hefyd i’r Cyngor dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi grwpiau a phrosiectau cymunedol. Byddai’r Cyngor yn cyhoeddi mwy o fanylion yn y man am sut y gallai cymunedau wneud  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Diweddaru Brexit pdf icon PDF 128 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Cyfoesiad oedd Adroddiad nesaf y Cabinet ar drefniadau wedi Brexit / masnach.

 

Ers yr adroddiad blaenorol ym mis Gorffennaf, aeth deufis heibio ers y terfyn amser (30 Mehefin 2021) i ddinasyddion yr UE/AEE ymgeisio am Statws Sefydlog yr UE.

 

Dywedodd Llywodraeth y DU (Swyddfa Gartref) y derbyniwyd dros 98,000 cais gan ddinasyddion yr UE/AEE oedd yn byw yng Nghymru.

 

Dangosodd ystadegau Llywodraeth y DU fod mwyafrif sylweddol o geisiadau naill ai wedi arwain at ganiatáu statws sefydlu llawn neu statws cyn-sefydlu.

 

Er hynny, yr oedd llawer o bobl naill ai heb glywed canlyniad eu cais neu heb lwyddo i gael eu statws.

 

Nid oedd yn glir faint o bobl yng Nghasnewydd a fethodd derfyn amser y cais neu a fethodd ennill eu statws. 

 

Yr oedd y Cyngor yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y bobl a’u teuluoedd oedd angen cefnogaeth gan na allent bellach gyrchu arian cyhoeddus. Byddai hyn yn ychwanegol at y bobl a’r teuluoedd yr oedd y Cyngor yn eu cefnogi fel rhan o raglenni’r Swyddfa Gartref ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid.   

 

Byddai  gwasanaethau’r Cyngor yn dal i gefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt ac yn sicrhau eu bod yn gallu cyrchu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth angenrheidiol. 

 

Ers i’r DU adael y farchnad sengl ym mis Rhagfyr 2020, gwelodd rhai sectorau yn yr economi gryn effeithiau o ran cyflenwad a galw am nwyddau, a hefyd gynnydd ym mhrisiau nwyddau a gwasanaethau.  Cafodd argyfwng Covid hefyd effaith wrth i’r economi adfer o’r pandemig.

 

Soniodd llawer o fusnesau yng Nghymru eu bod yn cael problemau gyda chyflenwad llafur megis gyrwyr HGV, gweithwyr mewn adeiladu a ffermio.

 

Yr oedd timau meysydd gwasanaeth Cyllid a phrosiectau’r Cyngor yn cadw llygad fanwl ar y materion hyn ac yn asesu eu heffaith ar gyflwyno a’r gost i’r Cyngor.  Byddid yn adrodd am hyn yn y cyfoesiadau Cyllid i’r Cabinet.

 

Gyda phrisiau yn debygol o godi hefyd yn yr hydref, yr oedd yn debygol y byddai llawer o aelwydydd yn dioddef o’r newidiadau hyn, gan eu gwneud yn anodd i’r sawl oedd ar incwm isel. Yr oedd yn bwysig i’r aelwydydd hyn gysylltu â’r Cyngor a mudiadau eraill fel Cyngor ar Bopeth allai roi cyngor a chefnogaeth. 

 

Soniodd yr Arweinydd am y gefnogaeth sy’n cael ei roi i geiswyr lloches a ffoaduriaid; yr oedd Casnewydd yn ddinas noddfa ac yn croesawu pobl o bob cenedl oedd eisiau ymgartrefu yma.

 

Bu’n cymryd rhan  mewn cynllun i gefnogi pobl fregus o Afghanistan dros y pum mlynedd diwethaf, ac yr oedd yn cymryd mwy o deuluoedd yn ystod yr argyfwng, gan wneud popeth yn eu gallu i ddarparu llety i ffoaduriaid. Yr oedd llety ar gael, a chefnogaeth. Byddai gwybodaeth ar gael ar y wefan i’r sawl oedd eisiau rhoi rhyw fath o gefnogaeth, neu roi rhoddion.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Ategodd y Cynghorydd Jeavons sylwadau’r Arweinydd a sôn am y prinder gyrwyr HGV. Nid peth hawdd oedd ennill trwydded HGV, ac nid oedd y Cyngor yn gallu osgoi effaith hyn, fel gyda’r  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Crynodeb o Fusnes y BGC

Please click on the link to the PSB Summary of Business here

Cofnodion:

Nododd y Cabinet y Crynodeb o Fusnes y BGC.

 

10.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Dyma’radroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith.

 

Derbyn y rhaglen a gyfoeswyd.

 

Penderfyniad:

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith.