Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu E-bost: Cabinet@newport.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 139 KB Cofnodion: Derbyniwydcofnodion y cyfarfod ar Fedi 2021 fel rhai cywir. |
|
Adroddiad Blynyddol Corfforaethol 2020/21 PDF 150 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.
Hwnoedd y pedwerydd Adroddiad Blynyddol ar Adroddiad Corfforaethol pum-mlynedd y Cyngor.
Pwrpas yr adroddiad oedd adfyfyrio ar 2020/21 ac asesu llwyddiannau’r Cyngor hwn, gweld lle gallwn wella, ac edrych at y dyfodol yng ngweddill yr Adroddiad Corfforaethol.
2020/21 oedd un o’r cyfnodau mwyaf heriol y bu’n rhaid i’r Cabinet hwn a swyddogion ar hyd a lled y Cyngor reoli wrth i ni ymateb i bandemig Covid-19 a chefnogi cymunedau Casnewydd.
Arwaethaf yr heriau hyn, daeth cymunedau Casnewydd at ei gilydd i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, gan estyn allan at eu cymdogion a helpu ein busnesau lleol i adfer a ffynnu eto.
Mae’radroddiad yn rhoi trosolwg o’r hyn a gyflawnodd Cyngor Casnewydd a’i bartneriaid yn erbyn cenhadaeth y Cabinet hwn o ‘Wella Bywydau Pobl’ a’r pedwar Amcan Lles
1. Gwellasgiliau, deilliannau addysgol a chyfleoedd am waith 2. Hyrwyddotwf economaidd ac adfywio ac amddiffyn yr amgylchedd yr un pryd 3. Galluogipobl i fod yn iach, annibynnol a gwydn 4. Adeiladucymunedau cydlynus a chynaliadwy
Arhyd y pandemig, effeithiwyd ar lawer o wasanaethau’r Cyngor gan y cyfyngiadau, ac ymrwymodd y Cyngor i’r pedwar Nod Adfer Corfforaethol i gefnogi’r ymateb a chael gwasanaethau, cymunedau a busnesau Casnewydd i adfer. Dyma’r Nodau Adfer Corfforaethol:
1. Deall ac ymateb i’r heriau ychwanegol a ddaeth yn sgil Covid-19 gan gynnwys colli gwaith, yr effaith ar fusnesau ac ar gynnydd, llwyddiant a lles dysgwyr prif-ffrwd a bregus.
2. Deall ac ymateb i effaith Covid-19 ar nodau economaidd ac amgylcheddol y ddinas er mwyn galluogi Casnewydd i ffynnu eto.
3. Hyrwyddo ac amddiffyn iechyd a lles pobl, gan ddiogelu y rhai mwyaf bregus ac adeiladu cymunedau cryf a gwydn.
4. Rhoii bobl yr adnoddau a’r gefnogaeth maent eu hangen i symud allan o’r argyfwng, gan ystyried yn benodol effaith Covid-19 ar ein cymunedau lleiafrifol ac ymylol .
Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ym mis Medi i Bwyllgor Trosolwg a Rheoli Craffu y Cyngor. Yr oedd trafodaethau manwl am ymateb y Cyngor i Covid-19 ac adborth ar hynny yn yr Adroddiad Blynyddol. Cafodd argymhellion y Pwyllgor eu hystyried a’u cyfoesi yn y fersiwn derfynol hon o’r adroddiad a gyflwynir heddiw.
Yn dilyn cadarnhad y Cabinet, bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi a bydd ar gael yn Gymraeg.
Llynedd, bu’n rhaid i Gyngor Casnewydd ymaddasu i gyflwyno gwasanaethau a bu’n rhaid newid arferion oedd wedi hen sefydlu, er mwyn ymateb i anghenion brys yr argyfwng. Newidiodd gwasanaethau yn anhygoel o gyflym lle bo modd i ffyrdd o weithio o bell, galwadau fideo, a gwisgo dillad gwarchod i leihau lledaeniad y firws.
Erscychwyn y pandemig, blaenoriaeth y Cyngor hwn oedd amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymunedau.
Ni ellid bod wedi gwneud hyn heb yr agwedd gydweithredol a gymerodd Cyngor Casnewydd ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) PDF 751 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.
Cadarnhaodd y Cyngor llawn yr adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Casnewydd ym mis Mai eleni. Derbyniodd proses adolygu’r Cyngor hefyd gymeradwyaeth ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.
Galwyd am safleoedd ymgeisio, a bu’r Cyngor hefyd yn ymgynghori ar Adroddiad Cwmpasu Mantoli Cynaliadwyedd Integredig. Byddai’r adroddiad hwn yn fodd i sicrhau bod cynaliadwyedd wrth galon y CDLl newydd. Byddai’n cynnwys asesiadau ar gydraddoldeb, iaith, iechyd a lles, a byddai’n allweddol i asesu safleoedd ymgeisio a’r holl bolisïau newydd fyddai yn y CDLl.
Yr oedd yr Adroddiad Cwmpasu Mantoli Cynaliadwyedd Integredig arfaethedig yn cynnwys fframwaith sydd yn canoli ar ddeg thema:
· Economi a chyflogaeth · Poblogaeth a chymunedau · Iechyd a lles · Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant · Trafnidiaeth a symud · Adnoddau naturiol · Bioamrywiaeth · Amgylchedd hanesyddol · Tirwedd · Newid hinsawdd
Byddai angen ystyried safleoedd arfaethedig a pholisïau drafft yn erbyn y themâu hyn. Yr oedd y themâu yn cynnwys nifer o gwestiynau asesu, sydd i’w gweld yn Atodiad A Adroddiad y Cabinet. I grynhoi, byddai gan safleoedd a pholisïau a gafodd atebion cadarnhaol i’r cwestiynau asesu hyn fwy o gyfle o gael eu cynnwys yn y CDLl fyddai’n cael ei fabwysiadu.
Yr oedd yr Adroddiad Cwmpasu Mantoli Cynaliadwyedd Integredig a’r fframwaith yn destun ymgynghori gan y cyhoedd. Gellid gweld y sylwadau a dderbyniwyd yn Atodiad B, ynghyd a’r newidiadau a wnaed wedi’r ymgynghori.
Ymysg y materion yr ymdriniwyd â hwy yn yr ymatebion yr oedd:
· Pwysigrwydd seilwaith gwyrdd · Datganiad Llywodraeth Cymru o Argyfwng Natur · Buddsoddi yng nghanol y ddinas · Gwarchod mwy ar Wastadeddau Gwent
I grynhoi, gofynnwyd i’r Cabinet ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd a chymeradwyo’r Adroddiad Cwmpasu Mantoli Cynaliadwyedd Integredig a’r Fframwaith a gyfoeswyd wedi’r ymgynghori. Petae’n cael ei gymeradwyo, gofynnir i’r Cyngor hefyd gytuno y gallai’r swyddogion symud ymlaen i gam nesaf paratoi’r CDLl newydd. Mae hyn yn golygu ymwneud a rhanddeiliaid er mwyn paratoi drafft o weledigaeth ac amcanion arfaethedig ar gyfer y CDLl newydd, a thrafod lefel y twf, yn enwedig o ran tir ar gyfer tai a chyflogaeth y dymunwn ei gyflwyno yng Nghasnewydd.
Byddai pob cynnig ac adborth ar y cyfnod ymwneud nesaf hwn yn dod yn ôl i’r Cabinet ar gyfer trafodaeth ac ystyriaeth bellach yn y dyfodol.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet · Sylwodd y Cynghorydd Hughes ar sylwadau yn yr ymgynghoriad yn yr adroddiad gan bartneriaid a rhanddeiliaid y Cyngor, megis Cyfeillion Gwastadeddau Gwent a llawer eraill. Croesawodd y Cynghorydd Hughes yr angen i warchod y tirwedd gwledig, a bod y gwaith sy’n cael ei wneud yn cael ei gydnabod yn genedlaethol ac wedi derbyn sylw gan y BBC, a nododd fod Casnewydd ar y blaen mewn llawer maes cadwraeth.
· Cefnogodd y Cynghorydd Davies sylwadau’r Cynghorydd Hughes cam Wastadeddau Gwent gan ganolbwyntio ar fioamrywiaeth a’r adar. Yr oedd hyn yn sylfaenol i’r CDLl er mwyn lles trigolion Casnewydd at y dyfodol, ac yr oedd yn falch felly fod y CDLl yn ystyried hyn.
Penderfyniad:
Gwnaeth y Cabinet: 1. Nodi ac ystyried y sylwadau o’r ymgynghoriad a dderbyniwyd am Adroddiad MCI ynghyd ag ymatebion y swyddogion. |
|
Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20 PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.
Dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yr oedd gofyn i’r Cyngor adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaeth yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol sydd yn eu Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn mynnu bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi data am gydraddoldeb staff, ac yr oedd hyn hefyd yn yr adroddiad hwn. Mae a wnelo’r Adroddiad Blynyddol hwn â blwyddyn gyntaf cyflwyno yn erbyn Amcanion Cydraddoldeb Strategol newydd y Cyngor, a gyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2020.
Datblygwyd yr Amcanion newydd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol a buont yn destun ymwneud helaeth â’r gymuned. Bu dwyn i mewn gymunedau ar lawr gwlad yn fodd o sicrhau, tra bod y Cynllun yn cyflwyno gweledigaeth strategol am gydraddoldeb yng Nghasnewydd, y bydd hefyd yn sicrhau canlyniadau amlwg i gymunedau ar lawr gwlad.
Yr oedd y pandemig wedi rhoi heriau sylweddol o ran cyflwyno yn erbyn rhai meysydd gwaith, er enghraifft, gwasanaethau i gwsmeriaid. Fodd bynnag, yr oedd rhai ardaloedd ar eu hennill o ganlyniad uniongyrchol i effaith COVID-19. Bu’n rhaid i waith y Cyngor ar gydraddoldeb eleni fod yn hyblyg, gan ymateb i heriau oedd yn ymddangos, yn enwedig o ran mynediad at wybodaeth, addysg, ac ymdrin â throseddau casineb hiliol.
Teimloddein cymunedau oedd wedi ymfudo yma o’r UE effaith ddofn wedi i’r DU adael yr UE, ac yr oedd ein canolbwynt ar gefnogi pobl i aros yng Nghasnewydd ac amddiffyn eu hawliau yn parhau. Yr oedd y Cyngor hefyd wedi mesur pa effeithiol oedd y trefniadau monitro trwy gydol y flwyddyn, ac wedi cymryd camau i’w gwella.
Dyma rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn a aeth heibio:
· Ymunodd y cyngor â Pholisi Dim Goddef Hiliaeth Cyngor Hil Cymru, a Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr · SefydloddArweinydd y cyngor gyfarfod bord gron i’r gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig, sy’n cwrdd bob chwarter · Yr oedd dyddiadau arwyddocaol gan gynnwys Mis Balchder, 365 Hanes Du, Wythnos Ffoaduriaid, Diwrnod Coffau’r Holocost ac Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn cael eu cydnabod a’u hyrwyddo ledled y ddinas, gan gynnwys yn ein hysgolion · Sefydlwydgrwpiau cyflwyno thematig i gyflwyno yn erbyn pob Amcan Cydraddoldeb · Adolygwyd a chyfoeswyd cylch gorchwyl ac aelodaeth Gr?p Cydraddoldeb Strategol (GCS) y cyngor, ac y mae’r Gr?p bellach yn derbyn adroddiadau cynnydd bob chwarter · Yr oedd cyfrifoldebau dan y Ddyletswydd Cymdeithasol-Economaidd wedi eu gwreiddio ym mhrosesau’r cyngor, gan gynnwys penderfyniadau strategol · Yr oedd gan y cyngor rwydwaith staff Amrywiaeth (lleiafrifoedd ethnig) LGBTQ+ ac Anabledd, a’r cyfan wedi eu cynrychioli ar y GCS · Dosbarthwyd £100,000 i brosiectau cymunedol ar lawr gwlad, wedi ei oruchwylio gan Gomisiwn Tegwch Casnewydd a gr?p llywio oedd yn cynrychioli’r gymuned · SefydlwydGr?p Rhanddeiliaid Hygyrchedd, i gynghori ar brosiectau’r cyngor, gan ganolbwyntio ar hygyrchedd i bob anabl · Rhoddwydcefnogaeth i’r holl staff Profi ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Diweddariad ar Ymateb ac Adferiad Covid-19 PDF 173 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.
Yr oedd yr Adroddiad yn rhoi cyfoesiad am ymateb y Cyngor a’i bartneriaid i argyfwng Covid-19 gan gefnogi’r ddinas, yn drigolion a busnesau, i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol a bwrw ymlaen gyda Nodau Adfer Corfforaethol y Cyngor.
Yr oedd gwybodaeth fwy cyfoes ar gael ar Ddashfyrddau Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymruam y ffigyrau diweddaraf a chan Lywodraeth Cymru hefyd am y newid i’r cyfyngiadau.
Ers cyfarfod diwethaf y Cabinet ym mis Medi, yr oedd cyfradd yr achosion yng Nghasnewydd ac ardaloedd eraill yng Nghymru yn dal yn uchel wrth i’r cyfyngiadau lacio ac i bobl gymdeithasu mwy a dilyn trefn fwy normal.
Atgoffodd yr Arweinydd y sawl oedd yn bresennol ei bod yn bwysig i bobl ddal i gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru o ran gwisgo mygydau, cadw pellter cymdeithasol (lle bo modd) a bod yn ymwybodol o bobl, boed ffrindiau neu deulu, sydd yn dal yn fregus ac yn agored i’r firws.
Mae ysbytai yng Nghasnewydd a Gwent yn dal i weld pobl yn cael eu trin am Covid ac er nad oedd y niferoedd mor uchel â’r hyn a welwyd y gaeaf diwethaf, yr oeddent yn dal yn ddigon uchel i gael effaith ar wasanaethau eraill y GIG. Dywedodd Llywodraeth Cymru y gellid dal i osod cyfyngiadau ychwanegol petai’r GIG yn dweud fod amrywiolion eraill yn dod i’r amlwg.
I bobl dros 50 oed a’r rhai mwyaf bregus, yr oedd brechiadau atgyfnerthu yn cael eu cynnig yn ogystal â’r brechiad ffliw tymhorol.
Yr oedd y rhai 12 i 15 oed yn cael y brechiad.
Yr oedd yn dal yn bwysig i drigolion fanteisio ar y cynigion hyn ac i’r rhai sydd yn y grwpiau oedran eraill dderbyn y brechiad.
Yr oedd cymunedau hefyd yn wynebu effeithiau economaidd ehangach wrth i’r economi adfer o Covid. Fel y dywedwyd yn adroddiad Brexit i’r Cabinet hwn, byddai’r gaeaf yn gweld mwy o gostau ar aelwydydd oherwydd cynnydd mewn prisiau bwyd ac ynni, yn ogystal â phroblemau cyflenwi. Byddai hyn yn cael llawer o effaith ar aelwydydd ar incwm isel yng Nghasnewydd ac yn rhoi mwy o bwysau ar y Cyngor a chefnogaeth y trydydd sector.
Cyfoesiad gan Gyngor Dinas Casnewydd
Yr oedd gwasanaethau rheng-flaen yn dal i gael eu cyflwyno ac yr oedd y Cyngor yn dal i ddilyn cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru i’r staff (lle medrant) i barhau i weithio o gartref.
Yr oedd hyn yr un mor wir i Aelodau, a byddai mynediad at y Ganolfan Ddinesig a’r swyddogaethau democrataidd yn dal i gael eu cynnal yn rhithiol.
Mae’r Cyngor hefyd wedi bod yn rhoi’r gofynion technegol a’r protocolau angenrheidiol i gynnal cyfarfodydd hybrid yn y Cyngor.
Byddai’r Cyngor yn adrodd yn ôl ar y Normal Newydd i’r Cabinet ym mis Tachwedd am y newidiadau polisi, gan gynnwys y buddion, risgiau ac effeithiau cysylltiedig. Daeth yr ysgolion yn ôl ym mis Medi, ac yr oedd y gyfradd bresenoldeb yn is na’r disgwyl oherwydd achosion positif o covid, disgyblion heb symptomau yn cael eu ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Diweddariad ar ôl Brexit PDF 129 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.
Yr oedd Adroddiad nesaf y Cabinet yn gyfoesiad am drefniadau trosiannol y trefniadau wedi gadael yr UE ers i’r DU adael y r UE ym mis Rhagfyr 2020.
Cynnyddhyd yma · Ers yr adroddiad blaenorol ym Medi, tarfwyd ar economi Cymru a’r DU gan sawl digwyddiad a gafodd effaith ar aelwydydd a busnesau ledled Casnewydd. · Gwelsom yr effaith yr oedd y farchnad lafur yn gael ar draws gwahanol sectorau megis logisteg yn tarfu ar gyflenwadau bwyd a thanwydd, gofal cymdeithasol, adeiladu, ffermio a lletygarwch. · Yr oedd hyn hefyd yn cael effaith ar wasanaethau’r Cyngor gyda tharfu ar Wasanaethau’r Ddinas a gofal cymdeithasol. · Yr oedd cost ynni (trydan a nwy) wedi cynyddu, a byddai aelwydydd ar dariffau safonol a thalu-ymlaen-llaw yn gweld cynnydd mewn costau ynni. I aelwydydd ar incwm isel yng Nghasnewydd byddai hyn yn cael effaith sylweddol ac yn rhoi mwy o bwysau ar yr aelwydydd bregus hyn. · Yr oedd prisiau bwyd yn codi, a chyda tharfu ar gyflenwi, yr oedd rhai bwydydd heb allu cyrraedd archfarchnadoedd ac yn cael effaith ar fanciau bwyd ledled Casnewydd a Chymru. · Er bod y materion hyn wedi eu priodoli yn unig i’r DU yn gadael yr UE a bod effaith Covid wedi cyfrannu’n sylweddol, daeth effaith Brexit ar fusnesau yn amlycach, am eu bod yn gallu gweithredu’n effeithiol cyn gadael. · Yr oedd tîm Argyfyngau Sifil y Cyngor yn cefnogi tîm Aur y Cyngor i ymateb i’r materion hyn ac yn cydweithredu gydag awdurdodau lleol eraill fel rhan o’i Fforwm Gwytnwch Lleol ehangach. · Yr oedd timau Cyllid y Cyngor hefyd yn monitro’r sefyllfa fel rhan o’u monitro misol a chynllunio refeniw. · Aethdros dri mis heibio ers i’r terfyn amser basio i ddinasyddion yr UE/AEE wneud cais am Statws Sefydledig yr UE. · Yng Nghasnewydd derbyniwyd 10,990 cais ers i’r broses gychwyn. · Derbyniodd 5,410 o ddinasyddion yr UE/AEE Statws Sefydlu llawn tra derbyniodd 3,620 o ddinasyddion Statws Cyn-sefydlu. · Er hynny, yr oedd dros 1,000 o drigolion yn dal i aros am benderfyniad. · Yr oedd y Cabinet hwn eisiau ailadrodd eu cefnogaeth i ddinasyddion yr UE / AEE sy’n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd, gan fod gan bawb ran i’w chwarae i wneud Casnewydd yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Anogodd yr Arweinydd unrhyw un oedd yn dal i aros am benderfyniad neu’n cael anhawster cwblhau eu cais i gysylltu â’r Cyngor a mudiadau eraill fel Cyngor ar Bopeth. · Yr oeddCyngor Casnewydd yn dal i weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector i sicrhau y gallai dinasyddion yr UE gyrchu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth oedd arnynt eu hangen. · Yr oedd y Cyngor yn gweithio gyda GAVO i wneud trefniadau i gefnogi mwy o waith ar dlodi bwyd. · Yr oedd swyddogion Cydlynu Cymunedol yn awr yn canolbwyntio ar hawliau wedi Brexit ac yn gwneud yn si ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Crynodeb o Fusnes y BGC Cofnodion: Nododd y Cabinet y ddolen i’r crynodeb o fusnes.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hwnoedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith.
Penderfyniad: Nododd a derbyniodd y Cabinet y rhaglen a gyfoeswyd. |