1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cynghorydd Mayer.  Gadawodd y Prif Weithredwr yn gynnar i fynychu cyfarfod arall.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 150 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion 13 Hydref fel rhai cywir.

 

4.

Monitor Cyllideb Refeniw pdf icon PDF 681 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn amlygu’r sefyllfa a ragwelir am gyllideb refeniw y Cyngor a’r risgiau a’r cyfleoedd ariannol oedd yno ar Fedi 2021.

 

Yn erbyn cyllideb net o £316miliwn, yr oedd y sefyllfa refeniw ym Medi ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o bron i £8miliwn, sef amrywiad o 2.5% yn erbyn y gyllideb. Yr oedd y sefyllfa yn cynnwys effaith ariannol parhaus pandemig COVID-19 ac yn rhagdybio y bydd yr holl gostau arwyddocaol a’r incwm a gollwyd am weddill y flwyddyn yn cael eu had-dalu. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y Gronfa Galedi ar gael am weddill y flwyddyn, yr oedd newidiadau yn cael eu gwneud i delerau’r Gronfa a bod disgwyliad y byddai awdurdodau lleol a’u partneriaid yn dechrau symud ymaith oddi wrth ddibyniaeth ar gefnogaeth ariannol ychwanegol. Oherwydd bod posibilrwydd y byddai telerau’r Gronfa yn dal i newid dros y misoedd nesaf, yn dibynnu ar sefyllfa Covid dros yr hydref a’r gaeaf, efallai y bydd angen i’r rhagolygon newid yn unol â hynny wrth i’r newidiadau ddod yn hysbys.

 

Fel y gwelir yn yr adroddiad a’i Atodiadau, esboniwyd y sefyllfa fel a ganlyn:

 

§  Er bod meysydd gwasanaeth yn adrodd am danwariant yn erbyn y gyllideb yn deillio o anawsterau/oedi wrth recriwtio a gweithgareddau cysylltiedig â covid yn cael eu had-dalu gan y Gronfa Galedi, yr oedd llawer o’r tanwariant yn deillio o gyllidebau heb fod yn rhai gwasanaeth.

§  Daeth y tanwariant heb fod yn wasanaeth o arbedion yn erbyn (i) y gyllideb cyllido cyfalaf (ii) Cynllun Gostwng Treth Cyngor a chasglu’r Dreth Cyngor (iii)  y gyllideb refeniw wrth gefn nad oedd ei hangen ar hyn o bryd a (vi) rhai cyllidebau eraill heb fod yn wasanaeth nad oedd wedi eu hymrwymo ar hyn o bryd. Gyda’i gilydd, yr oedd y rhain wedi cynhyrchu £6m o danwariant.

 

Er i feysydd gwasanaeth adrodd am danwariant yn gyffredinol, yr oedd rhai meysydd unigol yn dal i orwario yn erbyn gweithgareddau penodol, ac y mae manylion am hyn yn yr adroddiad.  Yn ystod y blynyddoedd blaenorol, yr oedd a wnelo’r gorwariant hwn â meysydd gweithgaredd oedd yn cael eu harwain gan y galw, megis Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, nid oedd y ddwy flynedd a aeth heibio yn gwir adlewyrchu’r heriau yr oedd y meysydd hynny yn wynebu oherwydd y pandemig a’r ad-daliadau am gostau ychwanegol a dderbyniwyd o’r Gronfa Galedi.  O gofio’r ansicrwydd a’r ansefydlogrwydd yn y meysydd hynny, yr oedd risg y gallai lefelau’r galw eleni newid o’r hyn oedd yn cael ei ragweld ar hyn o bryd.

 

Ymysg y meysydd allweddol a gyfrannodd at y sefyllfa a ragwelwyd o £8miliwn yr oedd:

 

§  Yn ychwanegol at y risgiau parhaus mewn gofal cymdeithasol, daeth problemau i’r wyneb yn ystod y flwyddyn a byddid yn parhau i’w monitro. Ymysg y rhain yr oedd costau cynyddol i ddelio â chlefyd marwolaeth yr ynn, a’r gwaith adfer a thrwsio ar draws y stad fasnachol a diwydiannol. Yr oedd disgwyl i’r gorwariant yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf ac Ychwanegiadau pdf icon PDF 363 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn gosod allan y sefyllfa monitro cyfalaf ar  Fedi 2021.

 

Gosododd y Cyngor raglen gyfalaf helaeth oedd yn adlewyrchu ymrwymiadau am saith mlynedd. Dangosodd Tabl Un yr adroddiad sut y newidiodd hynny dros y flwyddyn ariannol a sut yr oedd ymrwymiadau cyfalaf y Cyngor a’u gwariant yn y ddinas yn dod i gyfanswm o £285m dros einioes y rhaglen, ar draws yr holl feysydd gwasanaeth.

 

Gofynnwyd i’r Cyngor hefyd gymeradwyo, fel arfer, ychwanegu prosiectau cyfalaf newydd neu estynedig i’r rhaglen yn gyffredinol. Yr oedd Tabl Dau yn yr adroddiad yn rhoi manylion y prosiectau cyfalaf newydd hyn, oedd yn dod i gyfanswm o £1.931m, a sut y byddid yn talu am bob un o’r prosiectau.

 

Yr oedd Tabl Tri yn yr adroddiad yn dangos y sefyllfa fel y’i rhagwelwyd ym Medi 2021, sef canolbwynt yr adroddiad hwn. Yr oedd y sefyllfa gyfredol yn dangos y disgwylid tanwariant bychan o £216k ac y mae manylion am hyn yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Dangosodd y tabl hefyd fod ail-broffilio wedi digwydd ers yr adroddiad diwethaf, sef cyfanswm o £6.550m. Yr oedd manylion am lle digwyddodd hyn hefyd yn yr adroddiad. Fodd bynnag, wedi cyfuno hyn â’r ychwanegiadau/newidiadau i’r rhaglen, yr oedd hyn yn dal i adael rhaglen gyfalaf o £65.985m ar gyfer 2021/22, oedd yn uchel iawn o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. Byddai mwy o waith yn parhau trwy weddill y flwyddyn ar ragfynegi ac ail-broffilio er mwyn sicrhau bod y rhaglen gyfalaf yn adlewyrchu amserlen fwy realistig i’r prosiectau gael eu cyflwyno, a gofynnwyd i’r swyddogion adolygu prosiectau yn gyson a chyfoesi proffil y prosiect wrth i gynlluniau fynd rhagddynt.

 

O ran monitro gwariant, cadarnhaodd yr adroddiad wariant isel o £16.465 miliwn yn erbyn cyllideb o £65.985m (25% hyd yma. Nid oedd y patrwm hwn yn anghyffredin, gan fod llawer o’r gost wedi ei broffilio ar gyfer hanner olaf y flwyddyn. Ond yr oedd risg o lithriad, ac felly yr oedd angen monitro cadarn trwy gydol gweddill y flwyddyn. Wedi dweud hyn, yr oedd cynnydd yn digwydd ar nifer o brosiectau, ac yr oedd manylion amdanynt yn yr adroddiad.

 

Yr oedd yr arian cyfalaf rhydd (cyllideb nad oedd gwariant wedi ymrwymo ar ei gyfer ar hyn o bryd), yn £6.1m, oedd yn cynnwys £1.2m o arian Cyd-Fenter nas neilltuwyd. Yr oedd y galw am wariant cyfalaf yng Nghasnewydd yn fwy na lefel yr adnoddau, ac yr oedd angen i’r Cyngor flaenoriaethu yn ofalus o ran lle i wario’r adnodd cyfalaf hwn

 

Cyfeiriodd yr adroddiad at ddarn o waith y gofynnwyd amdano gan yr Arweinydd am y risgiau ariannol a chyflwyno oedd yn deillio o bandemig COVID-19 a Brexit. Er bod gwaith ar hyn yn parhau, yr oedd yn amlwg fod ansicrwydd yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd, a heriau arbennig gyda phris deunyddiau fel dur a phren, yr oedd galw mawr amdanynt ar hyn o bryd, a dim digon yn cael eu cyflenwi. Yr oedd gofyn i reolwyr prosiectau a chyllidebau fonitro effaith  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Blynyddol: Canmoliaeth, Sylwadau a Rheoli Cwynion 2020 pdf icon PDF 498 KB

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd mai cyfoesiad oedd yr adroddiad hwn am berfformiad y Cyngor ar Ganmoliaeth, Sylwadau a Chwynion yn ystod 2020/2021. 

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Asedau ac Adnoddau i gyflwyno’r adroddiad.

 

Amlinellodd yr Aelod Cabinet bwrpas yr adroddiad hwn, sef rhoi trosolwg i’r Cabinet o’r holl Ganmoliaeth, Sylwadau a ChwynionCorfforaethol a Gwasanaethau Cymdeithasol a dderbyniwyd yn ystod 2020/2021. Yr oedd yn rhoi crynodeb o’r ganmoliaeth a dderbyniwyd ac argymhellion ar gyfer gwella, a chyfoesiad am y dyletswyddau statudol a gynhaliwyd yn unol â Deddf Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus 2019, a dderbyniodd y Cydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 2019.  Yr oedd yr adroddiad hefyd yn rhannu Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon am 2020/2021 i Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Ers yr adroddiad blynyddol diwethaf, yr oedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r Polisi Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion diwygiedig fel ei fod yn asio gyda’r canllaw a roddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Yr oedd gan yr Ombwdsmon yn awr bwerau newydd dan y Ddeddf oedd yn cynnwys derbyn cwynion yn llafar, nid dim ond yn ysgrifenedig, y gallu i gynnal ‘ymchwiliadau ar ei liwt ei hun’ pan oedd yr  Ombwdsmon o’r farn eu bod er budd y cyhoedd, a chasglu data am gwynion gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn chwarterol ar gyfer cwynion yn unig.

 

Yn ystod 2020/2021, derbyniwyd cyfanswm o 162 o sylwadau canmoliaethus Corfforaethol, a 12 i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Derbyniwyd cyfanswm o 3104 o sylwadau am wasanaethau Corfforaethol a 7 i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwnaed sylwadau pan oedd mynegiant o anfodlonrwydd neu benderfyniad gan y Cyngor wedi ei weithredu neu ei gymhwyso’n gywir. Dyma’r nifer uchaf o sylwadau a gofnodwyd, oherwydd bod angen i lawer o benderfyniadau gael eu cymryd yn sydyn yn ystod y pandemig er mwyn cadw’r cyhoedd a staff yn ddiogel, megis cyflwyno system archebu ar gyfer gwastraff ac ailgylchu. Derbyniodd y Cyngor gyfanswm o 202 o gwynion, ac aeth 14 ohonynt at yr Ombwdsmon.  Ymyrrodd yr Ombwdsmon mewn pum achos. Dadansoddodd y Tîm Cwynion yr holl sylwadau a’r cwynion i adnabod tueddiadau a chyfleoedd ar gyfer gwella, gan gysylltu gyda’r meysydd gwasanaeth perthnasol.  Yr oedd y Tîm Cwynion yn parhau i ddatblygu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu, i gwrdd â deddfwriaeth a disgwyliadau trigolion. Amcanion y tîm dros y 12 mis nesaf fyddai canolbwyntio ar barhau i godi proffil a dealltwriaeth o Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar hyd Cyngor Casnewydd a’u partneriaid a pharhau i weithio gyda meysydd gwasanaeth yn eu cynlluniau gwella parhaus.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Yr oedd y Cynghorydd Cockeram yn siomedig na chafodd y gwasanaethau plant ganmoliaeth, ac yr oedd yn gobeithio y byddai’r tri chyfarwyddwr strategol yn pwysleisio wrth uwch-reolwyr bwysigrwydd cofnodi canmoliaeth. Yr oedd yr Aelod Cabinet yn ystyried ei fod yn adroddiad da iawn, a diolchodd i Wasanaethau’r Ddinas am eu gwaith caled. Cafodd y pum cwyn at yr ombwdsmon hefyd eu dadansoddi gan yr Aelod Cabinet, a esboniodd fod dau yn rhai wedi’u dyblygu.

 

Soniodd y Cynghorydd Hughes fod yr adroddiad yn nodi fod rhai o’r staff dan  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Diweddaru Covid pdf icon PDF 185 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, sef cyfoesiad am ymateb y Cyngor a’i bartneriaid i argyfwng Covid-19 o ran cefnogi trigolion a busnesau’r ddinas i gydymffurfio â’r cyfyngiadau cyfredol a’r cynnydd ar Nodau Adfer strategol a Chynllun Corfforaethol y Cyngor. 

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cabinet ym mis Hydref, yr oedd cyfradd yr achosion am Gasnewydd ac ardaloedd eraill yng Nghymru yn dal yn uchel wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio gan ganiatáu i bobl gymdeithasu mwy a dilyn trefn fwy normal.

 

Er hynny, yr oedd yn dal yn bwysig i bobl gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru am wisgo mygydau, cadw at bellhau cymdeithasol (lle bo modd) a bod yn ymwybodol fod pobl, boed ffrindiau neu deulu, oedd yn dal yn fregus ac yn agored i’r firws.

Yr oedd ysbytai yng Nghasnewydd a Gwent yn dal i weld pobl yn cael eu trin am Covid, ac er nad oedd y niferoedd mor uchel â’r hyn a gafwyd y gaeaf diwethaf, yr oeddent yn dal yn ddigon uchel i gael effaith ar wasanaethau eraill y GIG. I ailadrodd safbwynt Llywodraeth Cymru, gellid gosod cyfyngiadau ychwanegol petai amrywiolion eraill yn ymddangos. 

 

I bobl dros 50 oed a’r rhai mwyaf bregus, yr oedd brechiadau atgyfnerthu yn cael eu cynnig yn ogystal â’r brechiad ffliw tymhorol. Yr oedd plant a phobl ifanc12 i 15 oed hefyd yn cael cynnig y brechiad. Yr oedd yn dal yn bwysig i drigolion fanteisio ar y cynigion hyn, ac i’r sawl oedd heb eu brechu yn y grwpiau oedran eraill i hefyd gael y brechiad.   

 

Mae gwasanaethau rheng-flaen yn dal i gael eu cyflwyno, ac y mae’r Cyngor yn dal i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru i staff barhau i weithio o gartref lle medrant. Yr oedd hyn yr un mor wir am Aelodau, a byddai mynediad i’r Ganolfan Ddinesig a’r swyddogaethau democrataidd yn dal i ddigwydd yn rhithiol.

Mae’r Cyngor hefyd wedi bod yn trefnu’r gofynion technolegol a’r protocolau angenrheidiol i gyfarfodydd hybrid ddigwydd yn y Cyngor.

 

Yr oedd cyfraddau presenoldeb ar draws ysgolion yn isel oherwydd Covid. Yr oedd gwasanaethau arlwyo ysgolion yn adrodd am broblemau gyda chadwyni cyflenwi i gael cynhyrchion bwyd. Yr oedd ysgolion ledled Casnewydd yn cael lefelau uchel o absenoldeb disgyblion oherwydd Covid. 

 

Yr oedd darparwr prydau ysgol y Cyngor yn adrodd am heriau gyda chadwyni cyflenwi ac yn cael anhawster cael rhai mathau o fwydydd a chyfarpar arlwyo. 

 

Y mae gwasanaethau cymdeithasol (Oedolion a Phlant) hefyd yn cael lefelau uwch o alw a phrinder staff. 

 

Bu’r Cyngor yn hyrwyddo ac yn cefnogi sefydliadau gyda chyfleoedd am waith mewn lletygarwch, HGV a gofalwyr, yn ogystal â chefnogi llawer o ffeiriau swyddi yn y ddinas. Yr oedd gwaith ar gynnal busnesau i adfer hefyd yn parhau, ac yr oedd rhaglenni datblygu tai yn dal i gael eu cyflwyno. 

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at effaith Covid ar addysg ers dechrau Hydref pan oedd y niferoedd yn codi. Yn ddiweddar, caewyd gr?p blwyddyn yn Llanwern; yn ffodus, yr oedd cefnogaeth dechnegol ar gael i  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Diweddaru Brexit pdf icon PDF 131 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad am y trefniadau trosiannol wedi gadael yr UE ers i’r DU adael ym mis Rhagfyr 2020.

 

Ers yr adroddiad blaenorol ym mis Hydref, yr oedd Cymru ac economi’r DU wedi dioddef sawl math o darfu a gafodd effaith ar aelwydydd a busnesau ledled Casnewydd.

 

Yr oedd y Cyngor wedi gweld anawsterau’r farchnad lafur ar draws sawl sector megis logisteg yn tarfu ar gyflenwadau bwyd a thanwydd, gofal cymdeithasol, adeiladu, ffermio a lletygarwch. Mae hyn bellach yn cael effaith ar wasanaethau’r Cyngor, gyda tharfu ar Wasanaethau’r Ddinas, gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill. 

 

Cynyddu wnaeth cost ynni (trydan a nwy) a thanwydd, oedd yn golygu y byddai aelwydydd ar dariffau safonol a thalu-ymlaen-llaw yn gweld cynnydd mewn costau ynni. Byddai hyn yn cael cryn effaith ar aelwydydd incwm isel yng Nghasnewydd ac yn rhoi mwy o bwysau ar aelwydydd bregus.

 

Yr oedd prisiau bwyd hefyd yn codi, yn ogystal â tharfu ar gyflenwi yn golygu nad oedd rhai bwydydd yn cyrraedd yr archfarchnadoedd, ond hefyd fod hyn yn cael effaith ar fanciau bwyd ledled Casnewydd a Chymru.

 

Yr oedd yn dod yn amlwg fod yr hyn a brofir yn gyfuniad o Brexit, Covid a ffactorau economaidd byd-eang ehangach. Mae’r ffactorau byd-eang a chenedlaethol hyn yn awr yn cael effaith ar drigolion a busnesau Casnewydd.    

 

Mewn ymateb, yr oedd  gwasanaethau’r Cyngor yn monitro’r problemau ariannol a’r rhai anariannol oedd yn peri pryder yn syth i dîm Aur y Cyngor. Gan gydweithio gyda chyrff eraill y sector cyhoeddus fel rhan o’r fforwm gwytnwch lleol, llwyddwyd i reoli ac ymateb yn effeithiol i’r problemau hyn fel yr oeddent yn ymddangos. 

 

Yr oedd posibilrwydd y gallai’r gaeaf hwn fod yn un anodd i rai o drigolion, busnesau a gwasanaethau mwyaf bregus Casnewydd sy’n cael ei roi gan y Cyngor a’n partneriaid. Yr oedd yn bwysig i drigolion a busnesau gysylltu â’r Cyngor a’n partneriaid petaent angen cymorth, boed hynny o ran ymateb i unrhyw ddigwyddiadau o dywydd garw, cyngor ar ddyledion, tai, cefnogaeth fusnes neu unrhyw fater arall lle gallai’r Cyngor helpu neu o leiaf gyfeirio at y gwasanaeth cywir.

 

Rai wythnosau’n ôl, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ganlyniad Cronfa’r Codi’r Gwastad oedd wedi ei hanelu at Codi’r Gwastad mewn cymunedau ledled y DU. Ni lwyddodd bid Casnewydd, a byddai’r Cyngor yn adolygu’r cynigion i weld a fyddai modd cael cyllid o ffynonellau eraill.  

 

Yn ddiweddar, derbyniodd y Cyngor gadarnhad fod saith o wyth o brosiectau wedi llwyddo i gael dros £2.8 miliwn o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Daeth y Cyngor i gysylltiad â’r sefydliadau perthnasol a bydd yn gweithio gyda hwy i sicrhau y cânt eu cyflwyno’n llwyddiannus.  

 

I ddinasyddion yr UE/AEE yn y ddinas, aeth dros bedwar mis heibio ers i’r terfyn amser basio. 

 

Bydd cyfran sylweddol o’r trigolion (dros 10,000 cais) yn y ddinas wedi derbyn naill ai Statws Sefydlu llawn neu Statws Cyn-sefydlu. Yr oedd y Cyngor yn ymwybodol fod dros 1,000 o drigolion yn dal i aros am benderfyniad.

 

Yr oedd y Cabinet hwn eisiau ailadrodd  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Crybwyllodd yr Arweinydd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith. 

 

Cynigiwyd derbyn y rhaglen a gyfoeswyd.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar Raglen Waith y Cabinet.