Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 15fed Rhagfyr, 2021 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at Eitem 3: Adroddiad Blynyddol Corfforaethol, tudalen 6 y paragraff olaf lle’r hyn a ddywedodd y Cynghorydd Cockeram oedd ‘disappointed’ nid ‘a disappointed’. Eitem 5: Cynllun Cydraddoldeb Strategol, tudalen 9, dylai hyn ddarllen ‘contact’ tracing nid ‘contract’ tracing.

 

Derbyniwydcofnodion 10 Tachwedd fel rhai cywir yn amodol ar yr uchod.

 

4.

Adroddiad Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y Cyfnod hyd at 30 Medi 2021 pdf icon PDF 341 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud wrth ei chydweithwyr yn y Cabinet maiadroddiad cydymffurfio oedd hwn i gadarnhau fod gweithgareddau’r Trysorlys yn hanner cyntaf 2021-22 yn unol â’r Strategaeth Trysorlys a ystyriwyd ac a osodwyd gan yr Aelodau. Yr oedd yr adroddiad yn cymharu gweithgaredd gyda’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn 2020-21 i nodi’r achosion.

 

Yr oedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth a ganlyn:

 

·        Atgoffa am y strategaeth trysorlys y cytunwyd arni

·        Manyliongweithgaredd benthyca a buddsoddi

·        Gwybodaeth am ystyriaethau economaidd ehangach fel y pandemig a’r hinsawdd economaidd

·        Cyfoesiad am y cod Trysorlys Rhyngwladol ar gyllido buddsoddi masnachol

Daeth yr adroddiad i ben gydag archwiliad o weithgaredd yn erbyn perfformiad, gan gadarnhau cydymffurfio.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a’i gadarnhau ganddynt i fynd ymlaen i’w ystyried gan y Cabinet a’r Cyngor yn y pen draw.

 

Felar 30 Medi 2021 gostyngodd lefel y benthyca o £9.1m ar lefelau 2020-21 i £144m. 

 

Yr oedd y gostyngiad hwn oherwydd:

 

·        Ad-dalu benthyciad PWLB a aeddfedodd yn hanner cyntaf 2021/22.  Fel ar 30 Medi nid oedd angen benthyca pellach i ail-gyflenwi’r benthyciad hwn. Efallai y bydd angen benthyca dros dro cyn 31 Mawrth 2022.

·        Yr oedd gan y Cyngor nifer o fenthyciadau oedd yn Rhandaliadau Cyfartal o’r Prifswm (EIP), oedd yn ad-dalu’r prifswm dros einioes y benthyciad, gyda’r llog cysylltiedig â’r benthyciad yn gostwng wrth i’r prifswm leihau.

 

·        Cynyddoddlefel y buddsoddiadau hefyd o £4.1m i £28.9m, oedd yn ostyngiad yn y benthyca net o £13.3m yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol i £115.1m. 

 

Cynhwysiryn ffigwr y buddsoddiad £13.9m a ddelir fel arian parod. Yr oedd hyn tua £6m yn llai na’r swm ar ddiwedd y flwyddyn, ond oherwydd y pandemig, yr oedd yr Awdurdod yn dal i gadw lefelau uwch na’r hyn oedd yn normal o arian parod fel y gall fod ar gael ar rybudd byr iawn i dalu am unrhyw alw annisgwyl am y llif arian.

 

Arhyn o bryd, nid oedd llawer o alw am fenthyca byr iawn yn y farchnad, ac ym mis Medi yr oedd cyfraddau ar adneuon is na 14 diwrnod gyda’r Cyfleuster Adneuo Cyfrif Rheoli Dyled (DMADF) yn dal yn isel iawn ar 0.01%. Mae gan yr Awdurdod fuddsoddiadau gydag awdurdodau lleol eraill o £15m gyda chyfraddau llog sydd fymryn yn well, ond yn dal yn isel. Rhagwelir y bydd y buddsoddiadau yn gostwng yn ystod 2021/22 fel dewis arall yn lle benthyca hyd nes i ni gyrraedd y balans o £10m, a fyddai’n parhau wedi ei fuddsoddi er mwyn cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol a Deilliannau (MiFIDII).

 

O ganlyniad i hyn, ni fydd angen benthyca tymor-hir o’r newydd yn hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, ond yr ydym yn rhagweld y bydd angen i’r Cyngor gymryd benthyciadau ychwanegol yn y tymor byr am weddill y flwyddyn er mwyn talu am weithgaredd llif  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cofrestr Risg Corfforaethol pdf icon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar Bolisi Rheoli Risg y Cyngor a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, oedd yn galluogi’r weinyddiaeth a swyddogion i nodi, rheoli a monitro yn effeithiol y risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyrraedd ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-22) a chyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

 

Byddai’r adroddiad risg Chwarter Dau hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor ym mis Ionawr (2022)  i adolygu proses rheoli risg a threfniadau llywodraethiant y Cyngor.

 

Arddiwedd chwarter dau, yr oedd gan y Cyngor 46 risg wedi eu cofnodi ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor.

 

Cafodd y risgiau hynny y tybiwyd eu bod yn fwyaf arwyddocaol i gyflwyno Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’i wasanaethau eu rhoi ar Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor i’w monitro. 

 

Arddiwedd chwarter dau, cofnodwyd 18 risg yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol:

·        UnarddegRisg Ddifrifol (15 i 25);

·        PumRisg Fawr (7 i 14);

·        Un Risg Ganolig (4 i 6); ac

·        Un Risg Isel (1 i 3).

 

Newidyng Nghyfeiriad Sgoriau Risg

O gymharu â chwarter un, arhosodd 13 risg ar yr un sgôr risg gyda phedair risg yn cynyddu ac un sgôr risg yn gostwng.

 

Yn y chwarter olaf, yr oedd cyfradd achosion Covid wedi cynyddu, gyda llacio cyfyngiadau. Yr oedd llwyddiant y rhaglen frechu wedi lliniaru’r salwch mwyaf difrifol mewn ysbytai, ond mae cyfraddau heintiad uchel wedi cael effaith ar lefelau staffio a phresenoldeb mewn ysgolion.

 

Yr oedd ansicrwydd bellach gydag amrywiolyn newydd Omicron, a bydd yn rhaid i drigolion a’r Cyngor ddal i fod yn wyliadwrus dros gyfnod y gaeaf.

 

GweloddGofal Cymdeithasol Oedolion yng Nghasnewydd fwy o alw am ei wasanaethau, ac yr oedd hyn yn effeithio ar allu’r Cyngor i wneud y ddarpariaeth angenrheidiol.

 

YngNghasnewydd a Chymru yn gyffredinol, yr oedd y sector gofal cymdeithasol yn cael trafferth recriwtio a chadw staff.  Yr oedd llawer o swyddi gwag, ac yr oedd yr holl ddarparwyr gofal yn cael anhawster denu pobl o’r newydd, tra bod y staff presennol yn cael eu denu i sectorau eraill gyda chyflog gwell a chymhellion ariannol.

 

Yr oedd y Cyngor yn rhan o drafodaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn y pecynnau gofal yr oedd arnynt eu hangen ac i fynd i’r afael â materion recriwtio a swyddi gwag.

 

Yn dilyn COP26, bu mwy o bwyslais ar genhedloedd i ddad-garboneidido a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Cynyddodd y sgôr risg i adlewyrchu mwy o debygolrwydd y bydau tymereddau’n codi ledled y byd. 

 

Yr oedd y Cyngor wedi ymrwymo i leihau ei allyriadau carbon i sero net carbon erbyn 2030, ac yr oedd wedi cychwyn ar hyn eisoes. Byddai angen i’r Cyngor wneud mwy i wireddu hyn nid yn unig i’r Cyngor ei hun ond ar draws y ddinas.

 

Drafftiodd y Cyngor  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Archwilio Cymru - Archwiliad o Dystysgrif Cydymffurfiaeth Cyngor Dinas Casnewydd pdf icon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud wrth gydweithwyr fod Archwilio Cymru yn un o gyrff rheoleiddio allanol statudol y Cyngor oedd yn archwiliol cyfrifon y Cyngor ac yn sicrhau bod y Cyngor yn rhoi gwerth wrth gyflwyno ei wasanaethau.

 

Felrhan o Fesur Llywodraeth Leol 2009, yr oedd gofyn i Archwilio Cymru gyhoeddi tystysgrif cydymffurfio i ddangos fod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau dan y Mesur.

 

Gan fod y Cyngor wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Corfforaethol yn 2020/21 ar ei gynnydd yn erbyn ei Gynllun Corfforaethol a pherfformiad, cyhoeddodd Archwilio Cymru y Dystysgrif Cydymffurfio.  Yr oedd copïau o’r Dystysgrif wedi eu cynnwys yn yr adroddiad er gwybodaeth, yn Gymraeg a Saesneg.

 

Penderfyniad:

 

Nododd y Cabinet ganlyniad cadarnhaol y Dystysgrif Cydymffurfio o ran cwrdd â’i ddyletswydd statudol dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

7.

Adroddiad Arferol Newydd pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud bod yn rhaid i staff, aelodau etholedig a’r cyhoedd ymaddasu i’r pandemig a’i bod yn debygol na fyddwn fyth yn dychwelyd i’r ffordd yr oedd pethau cyn Covid-19. Byddai staff ac aelodau etholedig yn cael cyfle i wneud mwy o ddefnydd o’r Ganolfan Ddinesig pan fyddai’n ddiogel gwneud hynny. Yr oedd canllaw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn glirdylai’r sawl sy’n gallu gweithio o gartref wneud hynny.

 

Yr oedd y Cabinet eisoes wedi derbyn adroddiad am y Normal Newydd, ac wedi gofyn am i fwy o waith gael ei wneud. Heddiw, yr oedd yr adroddiad dilynol yn gofyn am gyfres o benderfyniadau er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn.

 

Yr oedd Nod Adfer Strategol 3 ein Strategaeth Adfer wedi Covid y cytunwyd arno gan y Cabinet yn canolbwyntio ar Gynnal gweithlu Diogel, Iach a Chynhyrchiol. Yr oedd y rhan fwyaf o’r staff yn dal i gyflwyno gwasanaethau rheng-flaen wyneb yn wyneb, wedi’u hamddiffyn gan asesiadau risg priodol a mesurau lliniaru fel defnyddio PPE, profion llif ochrol, addasu gweithleoedd a systemau apwyntiad ar gyfer gwasanaethau.

 

Gofynnwydi tua 1200 o staff ac aelodau etholedig weithio o gartref yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac er mwyn eu hamddiffyn hwy, eu cydweithwyr a’r cyhoedd, ac i arafu lledaeniad y firws.

 

Mae’r adroddiad hwn yn gosod allan gamau nesaf symud at fodel newydd a hyblyg o weithio sydd yn ein galluogi i gwrdd â’r Nodau Adfer Strategol, cefnogi’r gwaith tuag at agenda Moderneiddio’r Cyngor sydd yn y Cynllun Corfforaethol a rhoi cyfle i ddwyn mwy o bobl i’r Ganolfan Ddinesig, fydd yn ei dro yn helpu i leihau ein hôl troed carbon a chefnogi canol y ddinas.

 

Yn sefydliadol, yr oeddem mewn sefyllfa gref i ymateb i’r pandemig a defnyddio ein staff yn hyblyg oherwydd y buddsoddiadau a wnaethom mewn technoleg dros y blynyddoedd a aeth heibio. Yr oedd y staff hefyd wedi arfer gweithio’n ystwyth. Mewn asesiad o faint oedd yn y Ganolfan Ddinesig cyn dechrau’r pandemig, yr oedd uchafswm o 400 o staff wrth ddesgiau. Yr oedd hyn yn sylweddol yn llai na’r hyn y gallai’r adeilad ddal.

 

Yr oedd yr adroddiad yn iawn i bwysleisio effeithiau cymudo ar newid hinsawdd, a’r manteision allai fod yn gysylltiedig ag agwedd hyblyg at weithio. Yr oedd hyn hefyd yn unol ag agwedd Gweithio o Bell Cymru Llywodraeth Cymru, oedd yn canoli ar gefnogi canol trefi a dinasoedd trwy roi lle i swyddogion y sector cyhoeddus weithio o lefydd yng nghanol trefi a dinasoedd yn agos at eu cartrefi.

 

Dymaoedd yr agwedd a gymerwyd i ddatblygu gwaith ar y Normal Newydd:

·        SwyddogaethDdemocrataidd

·        Technoleg

·        Polisïau cyflogaeth

·        Y Ganolfan Ddinesig a defnydd y cyhoedd

 

Y mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau yn mynnu bod y cyngor yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfarfodydd Cyngor a Phwyllgorau. Yr oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Blynddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol am 2020/2021.  Cwblhawyd hwn gan Chris Humphrey, fel Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol o Ragfyr 2019 - Hydref 2021. Yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â chyfnod pan ddaeth Chris i’w rôl dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol. Diolchodd yr Arweinydd i Chris am ei gwaith arbennig yn ystod ei chyfnod fel Cyfarwyddwr.

 

Yr oedd yr adroddiad yn trin y cyfnod digynsail o alw ar y Gwasanaethau Cymdeithasol ar draws Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion. Ym Mai 2021 cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru Wiriad Sicrhau oedd yn edrych yn ôl ar y cyfnod 2020/2021. Nododd y gwiriadGwelsom gefnogaeth seiliedig ar berthynas agored a gonest am y dewisiadau oedd ar gael i bobl oedd angen gofal a chefnogaeth a gofalwyr oedd angen cefnogaeth”.

 

Yr oedd gwasanaethau plant yn wynebu galw digynsail a chynnydd yn nifer yr achosion a gyfeiriwyd, ac yr oedd y gwasanaethau oedolion yn gweithio dan bwysau sylweddol. Yr oedd y canfyddiadau yn nodi diwylliant o wella a chefnogi ei gilydd, a chydnabyddiaeth o arweiniad cadarnhaol. Er bod y staff wedi eu llethu gan swm enfawr o waith achos cymhleth, yr oedd yr ysbryd ar y cyfan yn dda.

 

Ar draws Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion, parhawyd i gyflwyno gwasanaethau a chynnal pob lefel o ddarpariaeth ar waethaf effeithiau’r pandemig. O Gysylltwyr Cymunedol a gwasanaethau ataliol plant, i eiriolaeth, gofal cartref a chefnogaeth i deuluoedd hyd at ymyriadau statudol mewn cyfiawnder teulu a darparu gofal maeth a gofal mewn cartrefi preswyl, yr oedd cefnogaeth yn cael ei gynnig i ddinasyddion yn uniongyrchol. Yr oedd y staff yn dal i gyflwyno gwasanaethau wyneb yn wyneb yn ogystal â cheisio atebion arloesol i ymdrin â chyfyngiadau’r pandemig.

 

MewnGwasanaethau Oedolion, datblygwyd gwasanaeth estyn allan newydd, ac yr oedd prosesau’r Gwasanaeth o ran rhyddhau o’r ysbyty wedi eu gwreiddio’n llwyddiannus yn Ysbyty newydd y Faenor a agorodd ym Medi 2020. Yr oedd y timau ysbyty ac Ail-alluogi yn bresennol yn yr ysbytai trwy gydol yr amser.

 

MewnGwasanaethau Plant, fe wnaethom gyflwyno tîm Ymateb Sydyn a chyflwyno ‘Babi a Fi’ i gefnogi teuluoedd i ofalu yn ddiogel am eu plant yng nghartref y teulu.

 

Yr oedd gweithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus a chyda’n cymunedau yn allweddol i’n galluogi i barhau i gyflwyno gwasanaethau cadarnhaol. Ar bob lefel o’r Gwasanaethau Cymdeithasol, mae swyddogion ac Aelodau yn parhau i gynrychioli CDC ar fforymau rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys y Byrddau Diogelu, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, gr?p rhanbarthol i blant heb neb gyda hwy sy’n ceisio lloches, ac amrywiaeth o grwpiau partneriaeth a ffurfiwyd yn unswydd i ymdrin â galwadau’r pandemig a sicrhau y gellid cyflwyno gwasanaethau yn effeithiol ar draws yr holl asiantaethau.

 

Er bod 2020/2021 wedi gweld pwysau enfawr ar y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae’r adroddiad yn amlinellu’r ffyrdd eithriadol y llwyddodd y staff  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Diweddaru Covid pdf icon PDF 176 KB

Cofnodion:

Soniodd yr Arweinydd, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, yr ymddangosodd amrywiolyn Omicron yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.

 

Yr oedd nifer yr achosion positif am yr amrywiolyn newydd yn is na’r rhai yn Lloegr a’r Alban, ond mater o amser yn unig fyddai cyn i ni weld mwy o gynnydd ac achosion yng Nghasnewydd.

 

Yr oedd y cyfnod hwn yn amser i lawer yng Nghasnewydd ddod ynghyd gyda ffrindiau, cydweithwyr a theuluoedd i ddathlu cyfnod yr ?yl, yn enwedig wedi’r amser caled y buom drwyddo. Yr oedd yn bwysig cofio fod cyfyngiadau yn dal ar waith: gwisgo mygydau mewn siopau, cludiant cyhoeddus a mannau cyhoeddus eraill, cadw pellter cymdeithasol, a thrwyddedau covid wrth gymdeithasu mewn mannau ledled Casnewydd.

 

Dylid rhoi ystyriaeth i’r sawl oedd yn fregus yng Nghasnewydd ac yn fwy agored i risg Covid.  Yr oedd y system iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei hymestyn fwy fyth wrth i ni weld mwy o alw am y gwasanaethau hyn.

 

Y neges dros yr ?yl oedd i bobl fod yn synhwyrol am yr hyn yr oeddent yn wneud a meddwl am eraill wrth gymdeithasu gyda ffrindiau a theuluoedd; cymryd profion covid rheolaidd, a hunan-ynysu os profant yn bositif am covid.

 

Yn olaf, yr oedd yn bwysig i bobl gymryd y brechiad atgyfnerthu pan gânt eu llythyr gan y GIG, neu i’r sawl sydd heb eu brechu wneud hynny er mwyn amddiffyn eu hunain a’r rhai o’u cwmpas.

   

Yr oedd gwasanaethau rheng-flaen y Cyngor yn dal ar waith, a lle bo modd, yr oedd y staff yn gweithio o gartref yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru. Yr oedd hyn yn wir hefyd am aelodau etholedig y Cyngor, gyda swyddogaethau democrataidd yn digwydd yn rhithiol.
 

Yr oedd adroddiad y Normal Newydd a gyflwynwyd i’r Cabinet heddiw yn amlinellu’r agwedd a gymerid yn y dyfodol gan y Cyngor i foderneiddio gwasanaethau, gan adeiladu ar y manteision a ddangoswyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth i wasanaethau a staff y Cyngor weithio’n hyblyg.

  

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cefnogi gwerth £51 miliwn i’r trigolion mwyaf bregus a difreintiedig yng Nghymru, gyda phob aelwyd gymwys yn gallu hawlio £100 i gefnogi taliadau tanwydd y gaeaf. Anfonwyd llythyrau at bob aelwyd oedd yn derbyn Gostyngiad Treth Cyngor yn dweud sut i wneud cais ar-lein, ond fod dulliau eraill os nad oedd modd iddynt gyrchu cyfrifiadur neu ddyfais ddigidol. Yr oedd yn bwysig i aelwydydd cymwys fanteisio ar y cynnig hwn, a rhannu’r neges gyda’u cymdogion, teuluoedd a chyfeillion a all fod yn gymwys.    

 

Trwy gydol tymor yr hydref, yr oedd y gwasanaethau addysg ac ysgolion yn dal i weithredu fel arfer ar waethaf yr heriau a wynebai ysgolion gydag achosion Covid. Yr oedd y gwasanaethau addysg ac ysgolion yn cydweithio trwy fonitro presenoldeb a dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod y disgyblion mwyaf bregus a’u rhieni yn cael eu cefnogi a’u hannog i fynychu.

 

Yr oedd yr ysgolion, y Gwasanaeth Lles Addysg a Llywodraeth Cymru yn cadw golwg fanwl ar gyfraddau  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Adroddiad Diweddaru Brexit pdf icon PDF 131 KB

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod blwyddyn, bron, wedi mynd heibio ers i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd a’r farchnad sengl yn ffurfiol. Trwy gydol y flwyddyn, yr oedd y Cyngor wedi parhau i weld effeithiau, nid yn unig o adael yr UE ond o Covid ledled y byd wrth i economïau weld mwy o alw, a tharfu ar gyflenwadau. Yr oedd yr effeithiau hyn yn cael eu teimlo yma yng Nghasnewydd, gan ein bod yn gweld swyddi gwag ar draws pob sector, ond yn bennaf mewn adeiladu, gweithgynhyrchu, gweithgareddau llety a bwyd. Tarfwyd ar gyflenwadau bwyd a nwyddau, ac yr oedd hyn i’w weld ar silffoedd archfarchnadoedd. Yr oedd prosiectau mawr hefyd yn gweld cynnydd ym mhrisiau deunyddiau a llafur, a hyn yn ei dro yn cael effaith ar gyflwyno a chost y prosiectau. Yn olaf, yr oedd cost ynni (trydan a nwy) wedi codi, oedd yn golygu y byddai aelwydydd ar dariffau safonol a thalu-ymlaen-llaw yn gweld cynnydd yn eu costau. I aelwydydd ar incwm isel yng Nghasnewydd, byddai hyn yn cael cryn effaith ac yn rhoi mwy o bwysau ar aelwydydd bregus.

 

Fel yr adroddwyd yn Adroddiad Covid y Cabinet, yr oedd y Cyngor wedi lansio cefnogaeth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru i helpu aelwydydd cymwys i wneud cais am £100 tuag at wresogi gyda thrydan a nwy dros y gaeaf. Ym mis Tachwedd, dyfarnwyd £2.8m i Gasnewydd i’w ddosbarthu i saith corff allanol ar hyd y ddinas. Cyfarfu’r Cyngor a’r sefydliadau i’w helpu i osod i fyny a bwrw ymlaen gyda’r prosiectau dros yr wyth mis nesaf.

 

I ddinasyddion yr UE/EAA yn y ddinas, aeth dros chwe mis heibio ers i’r terfyn amser ddod i ben. Byddai llawer o drigolion yn y ddinas wedi derbyn naill ai statws Sefydlu Llawn neu Gyn-Sefydlu, ond yr oedd y Cyngor yn ymwybodol fod rhai trigolion yn dal i aros am benderfyniad.

 

Yr oedd y Cabinet eisiau ailadrodd eu cefnogaeth i ddinasyddion yr UE / AEE sy’n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd, gan fod gan bawb ran i’w chwarae i wneud Casnewydd yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Anogodd yr Arweinydd unrhyw un oedd yn dal i aros am benderfyniad neu’n cael anhawster cwblhau eu cais i gysylltu â’r Cyngor a mudiadau eraill fel Cyngor ar Bopeth. 

 

Yr oedd Cyngor Casnewydd yn dal i weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector i sicrhau y gallai dinasyddion yr UE gyrchu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth oedd arnynt eu hangen.

 

Yr oedd y Cyngor yn parhau i arwain prosiect rhwydwaith bwyd ledled y ddinas i asesu’r galw a’r galw fyddai’n debyg o ddigwydd dros y gaeaf.

 

Yr oedd y Cyngor hefyd yn adolygu adnoddau a’r gallu i ymateb i angen fel y byddai’n codi, ac yn gweithio gyda GAVO i wneud trefniadau i gefnogi mwy o waith  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Soniodd yr Arweinydd wrth gydweithwyr am yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith. 

 

Derbyn y rhaglen a gyfoeswyd.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith.

 

 

12.

Live Event