Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Gwener, 14eg Ionawr, 2022 10.00 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Cynghorydd Truman.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 170 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion 15 Rhagfyr 2021 fel rhai cywir.

 

4.

Cyllideb Refeniw Ddrafft a Chynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC): Cynigion Terfynol 2022/23 pdf icon PDF 284 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i Aelodau’r Cabinet. Yr oedd yr adroddiad yn amlygu’r materion allweddol sy’n effeithio ar ddatblygiad cyllideb y Cyngor am 2022/23 a’r Cynllun Ariannol Tymor canol. Gofynnwyd i’r Cabinet felly gytuno i’r cynigion er mwyn galluogi proses ymgynghori ar gyllideb 2022/23 i gychwyn. 

 

Nododd yr Arweinydd nad oedd unrhyw arbedion newydd yn y gyllideb i ymgynghori arnynt ac nad oedd gofyniad am arbedion newydd neu ychwanegol er mwyn i ni gydbwyso’r gyllideb gyffredinol am y flwyddyn nesaf. Yr oedd hyn yn sefyllfa eithriadol i’r Cyngor o gymharu â

blynyddoedd blaenorol, diolch i’r setliad drafft ffafriol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ddiwedd llynedd.

 

Yr oedd balans ar hyn o bryd am flwyddyn ariannol 2022/23, ac y mae hyn yn anorfod oherwydd bod y setliad yn hwyr. Er hynny, mae mwy o waith i’w wneud i nodi’r buddsoddiad priodol fel sydd wedi ei osod allan yn y blaenoriaethau allweddol.

 

Yn gyffredinol, yr oedd y gyllideb drafft  yn cynnwys buddsoddiad o bron i £26m yn 2022/23 a £47m dros y tymor canol. Yr oedd hyn yn cynnwys chwyddiant mewn tâl a phrisiau. Fodd bynnag, soniodd yr Arweinydd yn benodol am y meysydd buddsoddi y credai hi a’i chydweithwyr yn y Cabinet oedd y rhai mewn angen, yn ogystal ag ardaloedd a welodd fwy o fuddsoddiad yn dilyn y setliad oedd yn well na’r disgwyl:

Yr oedd y gyllideb hon yn cynnig buddsoddiad mewn ysgolion o hyd at £8m yn 22/23, sef twf o  7.3% yn y gyllideb i ysgolion a hyd at £17.5m dros y tair blynedd nesaf. Mae’r buddsoddiad yn 22/23 yn cynrychioli £2m yn ychwanegol at y codiadau tâl a phrisiau sy’n gysylltiedig ag ysgolion newydd a rhai sy’n tyfu. Byddai hyn yn gynnydd yn y swm o arian fesul disgybl, a byddai’r holl ysgolion yn elwa o hyn. Diolchodd yr Arweinydd ar ei rhan ei hun a’r Cabinet am broffesiynoldeb ac ymrwymiad  staff ysgolion dros y ddwy flynedd a aeth heibio. Bu’r staff yn gweithio’n ddiflino ers cychwyn y pandemig i addasu i newidiadau mewn dysgu, a dylid eu canmol am eu hymdrechion.

 

Soniodd yr Arweinydd am fwy o gynigion am fuddsoddi ar gyfer ymyriad cynnar ac ati i leihau’r pwysau ar Gynghorau mewn lleoliadau addysg a gofal cymdeithasol. Yr oedd hyn yn cynnwys buddsoddiad i greu mwy o allu yn yr hwb diogelu i gefnogi teuluoedd, rhoi mwy o adnoddau a mynd ati yn rhagweithiol i asesu a chefnogi disgyblion bregus.

 

Rhoddwydystyriaeth hefyd i fuddsoddiadau eraill wedi eu targedu a allai gael effaith ar y gefnogaeth a roddir i deuluoedd ac unigolion bregus, wrth i’r Cyngor barhau i reoli effaith y pandemig. Byddai’r rhain yn cael eu cyhoeddi yn y gyllideb derfynol.

 

Rhoddwydystyriaeth hefyd i fuddsoddiadau  fyddai’n cael effaith ar ganol y ddinas a’r busnesau yno. Yn benodol,  y rhain oedd hyrwyddo’r ddinas  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Monitor Cyllideb Refeniw pdf icon PDF 675 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad yn amlygu’r rhagolygon am gyllideb refeniw’r Cyngor, ynghyd â’r risgiau a’r cyfleoedd ariannol oedd yn bodoli ym mis Tachwedd 2021.

 

Yn erbyn cyllideb net o £316miliwn, yr oedd y sefyllfa refeniw ym mis Tachwedd ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o £10 miliwn, a hyn wedi ystyried y cais newydd am arian wrth gefn, sef amrywiad o 3% yn erbyn y gyllideb. Yr oedd y sefyllfa hon yn cynnwys effaith ariannol pandemig COVID-19 oedd yn parhau, ac yn rhagdybio ad-dalu yn llawn yr holl gostau sylweddol a cholled mewn incwm am weddill y flwyddyn. Yr oedd hyn yn dilyn cadarnhad gan LlC y byddai’r Gronfa Caledi ar gael tan fis Mawrth 2022. 

 

Esboniodd yr Arweinydd, er bod meysydd gwasanaeth yn adrodd am danwariant yn erbyn y gyllideb oherwydd anawsterau/oedi mewn recriwtio, ad-dalu am weithgareddau cysylltiedig â Covid trwy’r Gronfa Galedi ac incwm ychwanegol o grantiau mewn Gwasanaethau plant ac Oedolion, yr oedd llawer o’r tanwariant yn deillio o gyllidebau heb fod yn rhai gwasanaeth, megis arbedion yn erbyn:

 

(i)               y gyllideb arian cyfalaf,

(ii)              CynllunGostwng Treth Cyngor a chasglu’r Dreth Cyngor,

(iii)             y gyllideb refeniw wrth gefn, nad oedd ei hangen ar hyn o bryd, a

(iv)             rhaicyllidebau eraill heb fod yn rhai gwasanaeth nad ydynt wedi eu hymrwymo ar hyn o bryd. Cyfanswm hyn yw tanwariant o £10m.

 

Er hynny, yr oedd rhai meysydd unigol yn dal i orwario yn erbyn gweithgareddau penodol, ac y mae manylion am hyn yn yr adroddiad. Yn y blynyddoedd a aeth heibio, yr oedd y gorwario hwn yn gysylltiedig â meysydd gweithgaredd oedd yn cael eu harwain gan y galw, megis Gwasanaethau Cymdeithasol; er hynny, nid oedd y ddwy flynedd ddiwethaf yn cynrychioli mewn gwirioned dyr heriau a wynebwyd yn y meysydd hyn oherwydd y pandemig ac ad-dalu costau ychwanegol a dderbyniwyd o’r Gronfa Galedi.  O gofio’r ansicrwydd yn y meysydd hyn, yr oedd risg y gallai lefelau’r galw eleni newid o’r hyn a ragwelwyd, ac y gall y tanwariant gynyddu eto. Nid oedd hyn yn golygu na fyddai’r Cyngor yn gwario’r arian, ond y byddai’n cael ei wario yn nes ymlaen.

 

Ymysg y meysydd allweddol sy’n cyfrannu at y sefyllfa a ragwelwyd o £10miliwn y mae:

 

(i)               Costau cynyddol i drin clefyd marwolaeth yr ynn, cynnydd mewn premiymau yswiriant, a’r gwaith adfer oedd ei angen ar draws y stad fasnachol a diwydiannol. Yr oedd disgwyl gorwariant mewn meysydd risg i fod ychydig yn llai na £1 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

(ii)              Diffyg a ragwelwyd yn erbyn cyflwyno yn 2021/22 ac arbedion y flwyddyn flaenorol o bron i £600k, yn bennaf oherwydd oedi cyn bwrw ymlaen â chamau angenrheidiol, oherwydd y pandemig. Er bod lefel yr arbedion na lwyddwyd i’w gwneud o ran  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Monitor Cyllideb Gyfalaf pdf icon PDF 369 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud wrth y Cabinet mai un iteraidd ydoedd, ac amlygodd y newidiadau  i’r rhaglen gyfalaf ers i’r Aelodau ystyried monitro cyfalaf ym mis Medi 2021 a cheisio ychwanegu cynlluniau newydd, sef cyfanswm o +£4.84m, yn bennaf yn gysylltiedig â grantiau.

 

Yr oedd yr adroddiad yn dangos y symudiadau a’r rhagolygon hyd at ddiwedd Tachwedd 2021.  Adroddwyd fod cyllideb rhaglen gyfalaf Medi yn £65.99m.

 

Yr oedd newidiadau (gostyngiadau net) o -£3.49m, yn bennaf, dychwelyd y grant am welliannau i’r A467 na fyddai’n mynd y tu hwnt i’r cyfnod dylunio yn y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Nododd cydweithwyr yn y gwasanaeth lithriad pellach o -£9.81m, o ran cynlluniau yn symud yn ariannol arafach na’r hyn a ragwelwyd i ddechrau pan wnaed y cynlluniau gwariant blynyddol, gan symud y rhan honno o’r gyllideb i 2022-23.

 

Pan ychwanegwyd hi at gyllideb Medi, yr oedd cyllideb ddiwygiedig y rhaglen gyfalaf am 2021/22 yn awr yn £57.53m.

 

Yr oedd canolbwynt y monitro yn  bennaf ar y flwyddyn gyfredol (2021-22).  Er hynny, yr oedd y rhaglen gyfalaf yn cydnabod y byddai gan gynlluniau mwy wariant fyddai’n croesi blynyddoedd ariannol, a’r confensiwn felly oedd sefydlu rhaglen bum-mlynedd, gyda’r un bresennol i fod i ddod i ben ddiwedd 2022-23.  Yr oedd cyflwyno tablau aml-flwyddyn hyd at 2024-25 yn yr adroddiad yn awgrymu rhaglen saith mlynedd, ond cydnabyddiaeth oedd hyn yn bennaf fod ymrwymiadau ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Fargen Ddinesig yn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd 2022-23.

 

Yn erbyn cyllideb ddiwygiedig 2021-22, rhagwelwyd gwariant o £57.58m, fyddai’n golygu gorwariant dros dro o £51k.  Rhagwelwyd y byddid yn talu am y gorwariant hwn trwy fidiau ychwanegol am grantiau, ond lle na fyddai arian o’r fath ar gael, byddent felly  yn dod yn dreth ar y symiau blynyddol y cyllidebau cynnal a chadw.

 

Llwyddodd adrannau gwasanaeth i gael arian ychwanegol ar ffurf grantiau i ategu’r rhaglen draddodiadol. Yr oedd hyn yn sicr i’w groesawu o ran gwella gallu’r Cyngor i gynnal ac uwchraddio seilwaith, ond yr oedd yn dueddol o fod yn benodol i rai blynyddoedd yn unig. Arweiniodd hyn at dreiglo ymlaen fwy o lithriad tuag at ddiwedd y rhaglen gyfredol, felly byddai cyllideb gychwynnol 2022-23 yn debyg o fod dros £100m, oedd yn llawer uwch na’r lefelau gwariant traddodiadol a’r gallu reoli’r rhaglen gyfredol. Yr oedd potensial gan y ffigwr hwn i gynyddu eto, o gofio profiad y gorffennol o ystyriaethau’r chwarter olaf megis tywydd gwael, problemau gyda’r gadwyn gyflenwi, ac yn fwy diweddar, absenoldebau oherwydd Covid oedd yn effeithio ar ragolygon cynnydd a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Gall maint y llithriad effeithio ar y gallu i gyflwyno cynlluniau newydd ym mlynyddoedd cyntaf y rhaglen newydd, oherwydd y bydd cwblhau’r rhaglen bresennol yn cael blaenoriaeth.

 

Nododdgweddill yr adroddiad falansau’r adnoddau oedd ar gael i gefnogi cynlluniau a mentrau newydd, ar  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

TOMs Cenedlaethol Cymreig ar gyfer Gwerth Cymdeithasol pdf icon PDF 246 KB

Cofnodion:

Ym mis Tachwedd 2020 lansiwyd y Fframwaith TOMs Cenedlaethol Cymreig  ar ran Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru (CLlLC), gyda chefnogaeth Tasglu Gwerth Cymdeithasol Cymru.

 

Fframwaithfesur yw’r TOMs ar gyfer gwerth cymdeithasol, a phecyn cymorth ymarferol oedd yn caniatau datgloi gwerth cymdeithasol trwy ei integreiddio i gaffael a  rheoli prosiectau ar draws y Cyngor cyfan.

 

Cynlluniwydfframwaith TOMs Cymru o gwmpas saith thema (saith nod lesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015), 35 Deilliant a 93 Mesur:

 

Themâu - Y themâu strategol cyffredinol y mae sefydliad am eu dilyn,

Deilliannau – Yr amcanion neu’r nodau y mae sefydliad am gyrraedd fydd yn cyfrannu at y themâu,

Mesurau- Y mesurau y gellir eu defnyddio i asesu a gyrhaeddwyd y Deilliannau hyn.

 

Argyfer Fframwaith TOMs, yr oedd y rhain yn seiliedig ar gamau ac yn weithgareddau y gallai cyflenwr, darparwr gwasanaeth a chontractwr wneud i gefnogi deilliant penodol.

 

Yr oedd set o 93 Mesur yn y fframwaith. Dewiswyd ystod o’r mesurau hyn, yn ôl natur y caffael, i’w cynnwys ym mhroses dendro Cyngor, fel bod cyflenwyr y tendrau yn gallu ymateb i’r mesurau hyn a rhoi gwybod i’r Cyngor sut y galli ychwanegu’r gwerth cymdeithasol hwn at y contract. Byddai ymateb yn tendrwr wedyn yn cael ei sgorio, a gwerthusiad yr elfen gwerth cymdeithasol hwn yn dod yn rhan o werthusiad llawn y bid am y tendr.

 

Yr oedd prif fanteision y fframwaith TOMs hwn yn gysylltiedig â safon adrodd cyson am Werth Cymdeithasol. Yr oedd felly yn:

 

·        rhoiagwedd gyson at fesur ac adrodd am Werth Cymdeithasol,

·        hyblyg, yn gallu cael ei addasu ac yn unswydd, oedd yn hanfodol er mwyn dangos y gall y fethodoleg lwyddo,

·        caniataugwella parhaus,

·        ynrhoi ateb cadarn, tryloyw yr oedd modd ei amddiffyn i asesu a dyfarnu tendrau,

·        caniataui sefydliadau gymharu eu perfformiad eu hunain yn ôl meincnodau sectorau a diwydiannu, a deall sut beth yw’r arfer gorau,

·        seiliedigar berfformiad heb fod yn ariannol, ond yn caniatau adrodd am werth ariannol, ac

·        ynlleihau’r ansicrwydd am fesur Gwerth Cymdeithasol i fusnesau, gan ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau gwybodus ar sail asesiadau meintiol cadarn, a thrwy hynny wreiddio gwerth cymdeithasol yn eu strategaethau corfforaethol.

 

Y bwriad oedd i Fframwaith TOMs Cenedlaethol Cymru gael ei fabwysiadu fel fframwaith cyffredinol a phecyn cymorth i’w ddefnyddio yn briodol a chymesur mewn gweithgareddau caffael, i ddechrau am gontractau gwerth dros £75,000. Yr oedd y gwerth hwn yn debyg i rai awdurdodau lleol eraill, ac yn cyfateb i’r weithdrefn dendro agored yn ôl ein Rheolau Sefydlog am Gontractio, sy’n gymwys i’r un gwerth o £75k.

 

Yr oedd Fframwaith TOMs yn fecanwaith effeithiol ac effeithlon i fesur, cofnodi a monitro Gwerth Cymdeithasol a Budd Cymunedol.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Croesawodd y Cynghorydd Davies fabwysiadu Fframwaith TOMs oedd yn cyd-fynd â deddf Llesiant cenedlaethau’r  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Dadansoddiad Perfformiad Canol Blwyddyn 2020/21 pdf icon PDF 228 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan roi gwybod i’r Cabinet am y DadansoddiadPerfformiad Canol Blwyddyn (2021/22) o ran cyflwyno cynlluniau gwasanaeth y Cyngor am chwe mis cyntaf (Ebrill i Fedi) y flwyddyn ariannol hon.

 

Gofynnwydi’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad hwn, gan nodi lle’r oedd y Cyngor yn llwyddo i gyflawni yn erbyn ei gynlluniau, a lle gallai’r Cyngor wella. Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys adborth ac argymhellion o bwyllgorau craffu perfformiad y Cyngor. 

 

Yr oedd y Cyngor ym mlwyddyn olaf y Cynllun Corfforaethol pum-mlynedd oedd yn gosod allan weledigaeth a nod i wella  bywydau pobl yng Nghasnewydd a chyflwyno gwasanaethau.  Datblygodd wyth maes gwasanaeth y Cyngor gynlluniau gwasanaeth oedd yn gosod allan sut y buasent yn cyfrannu at gyrraedd Amcanion Lles y Cyngor ac yn gwella cyflwyno eu gwasanaethau. Y canolbwynt dros y ddwy flynedd diwethaf oedd amddiffyn y gwasanaethau a rhai o’r trigolion a busnesau mwyaf bregus yn y ddinas yn ystod y pandemig. Ar waetha’r heriau, yr oedd y gwasanaethau yn ymateb ac yn ymaddasu i gwrdd â’r galwadau newydd hyn a’r pwysau ychwanegol.

 

Yr oedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynnydd oedd yn cael ei wneud ar hyd prosiectau, meysydd gwasanaeth, amcanion a gweithredoedd y Cyngor, a’r mesurau perfformiad. Yn gyffredinol, ar waethaf yr heriau sy’n wynebu gwasanaethau, yr oedd y Cyngor yn dal i wneud cynnydd da yn erbyn yr amcanion a osodwyd yn y cynlluniau gwasanaeth.

 

Yngnghanol y flwyddyn ariannol hon, yr oedd47 o 61 prosiect yn adrodd bod eu statws yn wyrdd, sef eu bod ar y llwybr iawn i gyflwyno o fewn y cwmpas, yr amser a’r gyllideb.  Dim ond un prosiect (Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol) oedd yn adrodd am statws Coch, gyda 13 prosiect yn adrodd am statws oren. Yr oedd y swyddogion yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod y perfformiad yn gwella.

 

O ran y mesur perfformiad ar draws yr wyth maes gwasanaeth, yr oedd 69% o’u camau yn adrodd am statws Gwyrdd, gyda dim ond 2% (6 cham) yn adrodd yn Goch a 17% yn adrodd am statws Oren. Adroddodd  63% (48 o 76 mesur)  o fesurau’r Cyngor am statws gwyrdd, sy’n golygu eu bod  wrthi a/neu yn llwyddo yn erbyn eu targed. Adroddodd15 o 76 mesur statws oren, sy’n golygu eu bod ar eu hôl hi o ran cwrdd â’u targed. Er hynny, yr oedd 13  mesur yn adrodd statws coch, sef bod y mesurau ymhell o’r targed. Mae mwy o wybodaeth am brosiectau, camau a mesurau perfformiad Coch y Cyngor yn atodiad 1 yr adroddiad.  Yr oedd gr?p Uwch-Swyddogion y Cyngor yn cymryd y camau angenrheidiol i wella eu perfformiad ac i gadw llygad fanwl ar y mesurau er mwyn sicrhau bod gwelliannau yn digwydd. 

 

Tynnodd yr adroddiad  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Diweddaru ar Drefniadau Gwaith CCR/CJC pdf icon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn seiliedig ar nodyn cefndir a baratowyd gan Gyfarwyddwr Bargen Ddinesig Dinas-Ranbarth Caerdydd. Yr oedd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r 10 awdurdod lleol sy’n ffurfio Cydbwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru, i roi cyfoesiad am y broses weithredu er mwyn cwrdd â gofynion statudol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Yr oedd yr adroddiad yn gosod allan fodel llywodraethiant a chyflwyno interim, cyn penderfynu ar nifer o faterion ariannol sydd heb eu datrys a throsglwyddo swyddogaethau i’r Cydbwyllgor Corfforaethol. Yr oedd hyn yn golygu dilynllwybr deuoli gydymffurfio ag isafswm y gofynion cyfreithiol gan y CBC erbyn y terfyn statudol o 31 Ionawr a byddai’n parhau gyda threfniadau Cydweithio ‘r Fargen Ddinesig, hyd nes y bydd problemau wedi eu datrys.

 

Er nad oedd gofyn i’r Cabinet na’r Cyngor gymryd unrhyw benderfyniadau pellach ar hyn o bryd, er gwybodaeth yr oedd yr adroddiad, ac yr oedd gofyn i’r Cabinet nodi’r sefyllfa bresennol am y cynllun gweithredu a’r trefniadau llywodraethiant interim. Yr oedd ffurf a rhedeg y Cyd-Bwyllgor Corfforaethol wedi eu gosod gan ddeddfwriaeth a Rheoliadau, tra bod y  trefniadau cyflwyno a llywodraethiant  yn unol â Chytundeb Cydweithio’r CBC y cytunodd y Cyngor arnynt o’r blaen. 

 

Yr oedd cydweithwyr yn ymwybodol fod Deddf 2021 yn mynnu bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol i gyflawni rhai swyddogaeth adfywio, datblygu economaidd a thrafnidiaeth ar lefel ranbarthol. Yr oedd y Cydbwyllgorau Corfforaethol hyn yn wahanol i Gydbwyllgorau blaenorol, megis CCR Cabinet Rhanbarthol am eu bod wedi eu gorchymyn gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na bod yn drefniadau gwirfoddol, a’u bod wedi eu cyfansoddi fel cyrff cyfreithiol ar wahân, gyda phwerau i osod eu cyllideb ei hun, cyflogi staff a dal eiddo ac asedau eraill. Yr oedd copi o adroddiad llawn y Cabinet Rhanbarthol yn Atodiad 2. 

 

Cytunodd y Cabinet Rhanbarthol ar 13 Rhagfyr i fabwysiadau agweddllwybr deuol”, fyddai’n cwrdd ag isafswm gofynion y ddeddfwriaeth, ond yn galluogi’r CBC i aros yn llonydd ac i drefniadau’r Fargen Ddinesig barhau yn ystod y cyfnod interim. Mae copi llawn o adroddiad y Cabinet Rhanbarthol hwnnw yn Atodiad 3.

 

Y bwriad oedd i’r CBC gynnal cyfarfod cychwynnol o’r holl Arweinyddion cyn 31 Ionawr, i osod cyllideb gychwynnol, mabwysiadu’r rheolau sefydlog arfaethedig a osodir allan yn Atodiad 1 a sefydlu fframwaith llywodraethiant sylfaenol. Y cyfan oedd y Rheolau Sefydlog yn wneud oedd adlewyrchu gofynion y ddeddfwriaeth a’r Rheoliadau, gyda phob un o’r 10 awdurdod yn cael eu cynrychioli gan eu Harweinyddion a phob aelod ag un bleidlais. Byddai penderfyniadau ar y gyllideb yn unfrydol, a phenderfyniadau eraill angen mwyafrif arbennig o 70%.  Yr oedd gofyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd fod yn aelod statudol o’r CBC ond yn unig yng nghyswllt datblygu’r Cynllun Datblygu Strategol, o gofio eu pwerau cynllunio. Yr oedd gan  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2021/25 pdf icon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cabinet fod yr adroddiad wedi ei baratoi gan y Prif Swyddog Addysg a bod gofyn i’r Cabinet ystyried priodoldeb y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg 10-mlynedd, neu’r CSAG, i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Yr oedd Deddf Safonau Ysgolion a Threfniadaeth (Cymru) 2013 yn mynnu bod awdurdodau lleol yn paratoi CSAG a chadarnhawyd bod yn rhaid i hwn gynnwys targedau a chynigion i wella’r ddarpariaeth addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a safonau addysg cyfrwng Cymraeg a dysgu Cymraeg. Yr oedd y Ddeddf hefyd yn mynnu bod awdurdodau lleol yn cyflwyno eu CSAG i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo cyn ei weithredu. Yr oedd y cyfnod CSAG 10-mlynedd newydd i fod i gychwyn ym Medi 2022, a’r terfyn ar gyfer cyflwyno i Lywodraeth Cymru oedd 31 Ionawr.

 

Yr oedd y CSAG yn dangos sut y byddai Casnewydd yn cyfrannu, dros y 10 mlynedd nesaf, at strategaeth  Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Y mae Cymraeg 2050 yn cyflwyno gweledigaeth tymor-hir o Gymru lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu, gyda’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

 

Yr oedd a wnelo’r targed cyffredinol yn y CSAG â’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant  Blwyddyn 1 oedd yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Llywodraeth Cymru oedd wedi gosod y targed hwn, a nodwyd isafswm o 6 phwynt canran ar gyfer Casnewydd. Byddai hyn yn digwydd trwy ddyblu’r ddarpariaeth oedd ar gael ym mlwyddyn academaidd 2020/21 erbyn 2032. Yn anorfod, bydd yn rhaid ategu hyn gan fwy o gyfleoedd i’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, cynyddu’r sector uwchradd cyfrwng-Cymraeg, a chynnydd yn y gweithlu.

 

Datblygwyd y drafft CSAG ar y cyd â phartneriaid o Fforwm y Gymraeg mewn Addysg Casnewydd, ac yn ôl y gofyn, yr oedd yn destun cyfnod o wyth wythnos o ymgynghori statudol. Yr oedd hyn yn cynnwys ymwneud yn helaeth â rhanddeiliaid, cryn gyhoeddusrwydd trwy sianelu cyfryngau cymdeithasol y Cyngor,  annifer o gyfleoedd i gael sylwadau gan ddysgwyr trwy drefnu sesiynau mewn nifer o ysgolion uwchradd. Disgrifiwyd hyn yn fanwl yn yr Adroddiad Ymgynghori sydd gyda’r adroddiad, ac a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor.

 

Cafodd yr adborth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ei ystyried, a gwnaed rhai mân newidiadau i ardaloedd targed penodol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, awgrymai’r ymatebion fod y CSAG yn ddigon cadarn ac uchelgeisiol, ac y dylid yn awr ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w ystyried.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Ategodd y Cynghorydd Davies sylwadau’r Arweinydd sef bod hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth gan LlC.  Yr oedd y Cyngor yn ddiolchgar am gefnogaeth Fforwm y Gymraeg mewn Addysg. Yr oedd nifer y myfyrwyr a gymerodd ran yn y cynllun yn gadarnhaol ac yn dangos cryn gefnogaeth. Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg fod cyfraniad CSAG Cyngor Dinas Casnewydd yn rhagorol.

 

§  Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes ei fod, fel siaradwr  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Adroddiad Diweddaru Brexit pdf icon PDF 141 KB

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd mai adroddiad nesaf y Cabinet oedd cyfoesiad am drefniadau trosiannol yr UE ers i’r DU adael ar 31 Rhagfyr 2020.

 

Aethblwyddyn heibioers i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd a’r Farchnad Sengl, a thrwy gydol y flwyddyn, yr oedd y Cyngor wedi dal i weld effeithiau pellgyrhaeddol nid yn unig o adael yr UE ond hefyd o effeithiau byd-eang Covid wrth i economïau weld cynnydd mewn galw, a tharfu ar gyflenwadau.

 

Cynyddoddcostau byw i aelwydydd yng Nghasnewydd a Chymru trwy gydol y flwyddyn, gyda chyflogau yn annigonol i gwrdd â’r costau ychwanegol hyn. I aelwydydd ar incwm isel, bydd y codiadau hyn yn cael yr effaith fwyaf, gyda disgwyl i brisiau ynni godi eto yn 2022.

 

Fel yr adroddwyd yn yr Adroddiad i’r Cabinet am Adfer o Covid, yr oedd y Cyngor, Llywodraeth Cymru a mudiadau nid-am-elw/elusennau eraill yn cynnig cymorth ariannol i aelwydydd yn y cyfnod anodd hwn, yn ogystal â rhoi cyngor ar ddyledion, hyfforddiant a chyfleoedd am waith.

 

Yr oedd cost a chyflenwad nwyddau yn dal i effeithio ar wasanaethau a phrosiectau oedd yn cael eu cyflwyno gan Gasnewydd.  Yr oedd prosiectau adeiladu a chyflwyno gwasanaethau fel Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn gweld cynnydd mewn costau oherwydd y ffactorau hyn.   

 

I ddinasyddion yr UE / AEE sy’n byw yng Nghasnewydd, cwblhawyd dros 10,000 cais am statws sefydlog, gyda 920 cais yn aros am benderfyniad (seiliedig ar ffigyrau’r Swyddfa Gartref hyd at fis Medi 2021).  Yr oedd y Cabinet yn cefnogi dinasyddion yr UE / AEE sy’n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd, gan fod gan bawb ran i’w chwarae i wneud Casnewydd yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Anogodd y Cabinet unrhyw un oedd yn dal i aros am benderfyniad neu’n cael anhawster cwblhau eu cais i gysylltu â’r Cyngor a mudiadau eraill fel Cyngor ar Bopeth. 

 

Yr oedd gwasanaethau addysg ynghyd ag Ysgol Gynradd Maendy yn cefnogi cymuned Roma y ddinas, gan wella gwybodaeth a dealltwriaeth y trigolion o’r gymuned Roma, eu hanes a’u traddodiadau.   

 

Yr oedd gr?p Atebion Caledi y Cyngor yn cydgordio ymdrechion y Cyngor a gwasanaethau nid-am-elw i gefnogi’r sawl oedd yn dioddef yr effeithiau, ac yn ceisio sicrhau nad oeddent yn dioddef ecsploetio. 

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at agenda codi’r gwastad, gan obeithio y byddai modd gweithredu hyn i sicrhau y gallai’r Cyngor gefnogi’r trigolion yn y ffordd orau y gallai.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Cockeram am swyddi gwag yn y sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol oedd yn cael effaith ar bobl fregus oherwydd Brexit.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn ystyried ac yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn derbyn cyfoesiadau rheolaidd wrth i gynnydd ddigwydd.

 

12.

Adroddiad Adfer Covid pdf icon PDF 185 KB

Cofnodion:

Amlygodd yr Arweinydd bwrpas yr adroddiad hwn i’r Cabinet, sef rhoi  cyfoesiad am ymateb y Cyngor i bandemig Covid a chynllun adfer y ddinas, i sicrhau fod trigolion a busnesau yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau cyfredol, a’r cynnydd sydd yn cael ei wneud gyda Nodau Adfer Strategol a Chynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Dros y mis diwethaf, daeth amrywiolyn Omicron yn fwyaf amlwg ledled Casnewydd a Chymru. Cynyddu wnaeth nifer yr achosion positif o’r amrywiolyn ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf, ac yr oedd hyn hefyd yn cael effaith ar wasanaethau’r Cyngor.

 

Mewnymateb, cymerodd Llywodraeth Cymru Gymru i Lefel Rhybudd 2 ac ail-gyflwyno nifer o gyfyngiadau er mwyn cefnogi’r gwasanaethau iechyd a gofal.  Fodd bynnag, byddai un o Weinidogion Cymru yn gwneud cyhoeddiad yn nes ymlaen am y posibilrwydd o lacio cyfyngiadau.

 

Yr oedd yr adroddiad yn amlinellu’r cyfyngiadau hyn, a byddai’r Cabinet yn dal i ofyn i drigolion a busnesau ddilyn y rhain a manteisio ar y cyfle i gael brechiad atgyfnerthu a brechu’r sawl nad ydynt eisoes wedi derbyn hynny.     

 

Gyda’rcynnydd yn nifer yr achosion yn y gymuned, yr oedd hyn yn awr yn cael effaith ar staff y Cyngor, gan gynnwys y rhai mewn ysgolion. 

 

Yr oedd tîm Aur (Argyfyngau Sifil) y Cyngor ac Aelodau Cabinets yn derbyn adroddiadau rheolaidd am y sefyllfa fel yr oedd yn datblygu, ac yr oedd nifer o staff yn absennol naill ai am eu bod yn hunan-ynysu neu wedi dal Covid. Cafodd hyn effaith ar wasanaethau rheng-flaen hanfodol y Cyngor megis gwasanaethau cymdeithasol, Gwasanaethau’r Ddinas a’n hysgolion.  Yr oedd mesurau wrth gefn ar waith ledled y Cyngor a’r ysgolion i reoli hyn.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i ddefnyddwyr gwasanaeth, trigolion a busnesau ledled Casnewydd, i gadw mewn cysylltiad â chyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor gydag unrhyw gyhoeddiadau am darfu ar ein gwasanaethau.  Os bydd unrhyw un yn poeni am gyflwyno gwasanaeth neu’n pryderu am gymdogion ac aelodau’r teulu, dylent gysylltu â’r Cyngor. 

 

Yr oedd yr Arweinydd a’r Cyngor hefyd yn deall yr anawsterau a wynebai trigolion a busnesau Casnewydd ar yr adeg hon o’r flwyddyn oherwydd costau byw, taliadau tanwydd, a methu a masnachu yn ôl yr arfer.

 

Yr oedd gan Gyngor Casnewydd a Llywodraeth Cymru lawer o becynnau cefnogaeth, ariannol ac fel arall. Yr oedd yr Arweinydd eisiau manteisio ar y cyfle hwn i annog y sawl oedd angen cymorth i gysylltu â’r Cyngor a hefyd i fynd at wefan y Cyngor i weld pa gefnogaeth oedd ar gael yn y cyfnod hwn. Yn ychwanegol at y gefnogaeth hon, cytunodd y Cabinet hwn fis diwethaf i ddarparu £100k yn ychwanegol er mwyn cefnogi banciau bwyd ac elusennau’r ddinas. Byddai’r arian hwn yn helpu’r banciau bwyd i reoli’r cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau ac yn helpu aelwydydd i geisio gwella eu hamgylchiadau.

 

Tynnodd  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith.

 

14.

Crynodeb o Fusnes Partneriaeth Casnewydd yn Un

Please click on the link below to view the One Newport Partnership summary of Business:

 

https://sway.office.com/YlsEWw5gVEcgOmLK?ref=Link

Cofnodion:

Nododd y Cabinet y Crynodeb o Fusnes Casnewydd yn Un er gwybodaeth.