Agenda and minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu E-bost: Cabinet@newport.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau dros Absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Jeavons a Davies eu bod yn aelodau o Fwrdd SW GCA.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 186 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion cyfarfod 18 Chwefror 2022 fel rhai cywir.
Materion yn Codi
Yr oedd yr Arweinydd yn falch
iawn i gadarnhau fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gais i newid
cwmpas cyllid yr Amlinelliad o Raglen Strategol (ARS) gyffredinol
ar gyfer rhaglen Band B y Cyngor. O ganlyniad, byddai rhaglen newydd gwerth £10m yn cael ei hychwanegu at y rhaglen i gynnal gwaith yn Ysgol Gynradd St Andrews i gymryd lle’r adeilad Cyfnod Allweddol 2 nad oedd yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd oherwydd problemau strwythurol y sylwyd arnynt yn nhymor y gwanwyn 2021.
Byddai swyddogion yn y Gwasanaeth Addysg yn gweithio gyda’n cydweithwyr yng Nghasnewydd Norse i ddatblygu dyluniadau am ateb parhaol ar y safle o fewn y cyllid hwn, gyda golwg ar gael disgyblion Cyfnod Allweddol 2 i ddychwelyd i’r safle o Fedi 2023 ymlaen.
Yn y cyfamser, diolchodd yr
Arweinydd i Gasnewydd Fyw am ganiatáu defnyddio’r
Ganolfan Gyswllt fel safle dros dro i’r disgyblion, a
diolchodd i gymuned yr ysgol am eu cefnogaeth gyson a’u
gwytnwch. Yr oedd yr Arweinydd yn si?r y cytunai’r Cabinet fod hyn yn newyddion gwych, a bod y Cabinet yn edrych ymlaen at y dyfodol agos pan fydd yr ysgol gyfan yn dychwelyd i un safle.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Teimlai’r Cynghorydd Jeavons ei bod yn newyddion gwych y byddai holl ddisgyblion a staff yr ysgol yn ôl ar un safle. Yr oedd yn drueni y byddai’n rhaid dymchwel yr adeilad ar Heol y Gorfforaeth, ac yr oedd yn deyrnged i seilwaith y gymuned. Er hynny, byddai’r adeilad newydd sbon yn ychwanegiad i’w groesawu yn Lliswerry.
§ Adleisiodd y Cynghorydd Davies sylwadau’r Dirprwy Arweinydd a diolchodd i’r swyddogion fu’n rhan o’r prosiect yn ogystal â LlC oedd wedi darparu’r cyllid, oedd i’w groesawu. Yr oedd yr adeilad yn rhan o Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac yn addas at ddiben disgyblion St Andrews.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau am eu cefnogaeth gyson.
|
|
Cynllun Busnes Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) 2022/25 PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet. Byddai’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) yn dosbarthu fersiwn derfynol y cynllun yn ystod yr wythnos yn cychwyn 21 Chwefror.
Cytunodd aelodau’r Cyd-Gr?p Gweithredol (CGG) y dylai’r GCA symud i fodel o Gynllun Busnes tair-blynedd, gyda chyfoesiad blynyddol manwl i’r Aelodau gytuno arno, yn ôl gofynion Cytundeb Cydweithredu ac Aelodau (CCAA).
Yn ychwanegol at gyfarfodydd rheolaidd CGG, byddai uwch-staff GCA yn mynychu cyfarfodydd sicrhau ansawdd misol gyda swyddogion yr Awdurdod Lleol, oedd yn rhoi gwersi proffesiynol i lywodraethwyr ysgolion, a’r rhain yn cael eu hysbysebu trwy’r GCA.
Ymysg pynciau penodol i Gasnewydd a gyflwynwyd yn ystod tymor hydref 2021 a thymor gwanwyn 2022 yr oedd:
· Cyfrifoldebau Rheoli Ariannol · Diogelu ar gyfer Llywodraethwyr Dynodedig/Cadeiryddion Llywodraethwyr · Rheoli Gwahardd Disgyblion o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion · Cefnogi dysgwyr sy’n siarad Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) · Cefnogi Plant Milwyr/Aelodau o’r Lluoedd Arfog yn eich ysgol
Yr oedd cynnig cyffredinol o gefnogaeth
dysgu proffesiynol ar gael i ysgolion ym mhob un o’r meysydd
canlynol: · Gwella Ysgolion · Arweinyddiaeth a Dysgu · Cwricwlwm i Gymru · Iechyd, Lles a Chydraddoldeb · Llywodraethwyr Ysgolion.
Yr oedd cefnogaeth
ychwanegol hefyd ar gael i ysgolion, wedi ei deilwrio i gwrdd ag
anghenion penodol ·
Mae ysgolion yn derbyn nifer penodedig o ddyddiau i
weithio gyda’u Partner Gwella Ysgol (PGY) a chynnal deialog
broffesiynol gyda’r GCA a’r ALl i gytuno ar a/neu newid
eu blaenoriaethau gwella a gofynion cefnogi. · Byddai cefnogaeth unswydd ar gael hefyd i ysgolion sydd angen cefnogaeth fwy dwys. Y mae hyn yn cynnwys mwy o gefnogaeth gan y PGY neu ddefnyddio Partneriaeth Ysgol i Ysgol y Rhwydwaith Dysgu. Nid oedd dyraniad penodol i’r gefnogaeth hon.
Dyma’r Blaenoriaethau
Drafft i Gasnewydd: ·
Datblygu a gweithredu’r cwricwlwm
newydd ·
Sicrhau dysgu ac addysgu effeithiol i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu
Ychwanegol (ADY) ·
Arolygiad Estyn R1: Gwella perfformiad cyffredinol
ysgolion uwchradd ·
Arolygiad Estyn R2: Lleihau’r amrywiaeth o ran cynnydd/deilliannau i
ddisgyblion cymwys am Brydau Ysgol am Ddim a’r rhai heb fod
yn gymwys ·
Adolygiad Thematig Estyn: Datblygu agwedd gydlynus i wella cynnydd
mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau personol a chymdeithasol
disgyblion yr effeithiwyd yn anghymesur arnynt gan y pandemig, er
enghraifft, disgyblion cymwys am brydau ysgol am ddim ·
Adolygiad Thematig Estyn: Sefydlu strategaethau i fonitro ac ymdrin ag effaith tymor-hir y
pandemig ar iechyd corfforol a meddyliol disgyblion
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Dywedodd y Cynghorydd Davies fod y cynllun busnes yn fodel, ac yr oedd yn croesawu, agwedd sensitif at well ysgolion Casnewydd. Cydnabu hefyd fod y pandemig yn her i’r modd y cynhaliwyd addysg. Yr oedd y cynllun busnes yn datgan yn glir y byddai’r holl ysgolion yn gweld gwelliant ac yn cefnogi athrawon. Yr oedd y GCA wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o bob awdurdod, ac yr oedd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau felly yn cefnogi’r adroddiad.
§ Soniodd y Cynghorydd Harvey mai da o beth oedd gweld fod bron i 800 o lywodraethwyr ysgolion, a bod hyn yn dystiolaeth o’u hymrwymiad i gefnogi eu hysgolion. Yr oedd y rhaglen hyfforddi yn gynhwysfawr iawn.
|
|
Diwygiadau i Gytundeb Cydweithrediad ac Aelodau EAS De-ddwyrain Cymru (CAMA) PDF 172 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan esbonio i gydweithwyr y bu CCAA (Cytundeb Cydweithrediad ac Aelodau) ar gael ers 2012 pan ddechreuodd y GCA. Diwygiad oedd hwn i’r cytundeb wedi 10 mlynedd.
Yr oedd y CCAA yn
disgrifio’r cytundeb rhwng y Gwasanaeth
Cyrhaeddiad Addysg (GCA) a’r pum
awdurdod lleol (Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Caerffili a Blaenau
Gwent). Yr oedd Bwrdd Cwmni GCA yn
gofyn am gyfoesiad i’r CCAA am i’w model cyllido newid
dros y ddegawd a aeth heibio. Ers dechrau’r GCA, yr oedd llai
o staff craidd yn cael eu cyflogi, a chyfradd uwch o ddirprwyo
cyllid i ysgolion. Yn gyfreithiol, rhag i’r
cwmni fynd yn fethdalwr, rhaid oedd i Fwrdd Cwmni GCA gadw 50%
o’r gwariant yr oeddent yn gyfrifol amdano. Yr oedd y CCAA newydd yn dweud
yn glir y byddai unrhyw gostau diswyddo staff GCA yn y dyfodol yn
cael eu talu o arian GCA os byddai’r gronfa yn uwch na 50%
o’r gwariant yr oeddent yn gyfrifol amdano. Pe na bai digon o
arian, byddai’r pum ALl yn talu cyfran o’r costau. Dyma
oedd y disgwyliad arferol i bartneriaeth oedd yn cael ei chyllido
ar y cyd. Yr oedd lefel y risg yn isel
gan fod y GCA wedi lleihau nifer staff contract yn sylweddol. Yr
oedd penaethiaid yn gweithio fel ‘Partneriaid Gwella
ysgol’ oedd yn cefnogi gweithio ‘ysgol i ysgol’
ac yn caniatáu i ysgolion gynhyrchu incwm a chadw mwy o
arian. Yr oedd gan Cyd-gr?p y
Swyddogion, gydag Aelod Cabinet o bob awdurdod lleol, rôl o
ran gwerthuso strwythurau staff y GCA a chronfa wrth gefn benodol a
sefydlwyd yng Nghasnewydd i reoli unrhyw gostau diswyddo nas
rhagwelwyd ond y cytunwyd arnynt i’r GCA, petai eu hangen. Petai un o’r awdurdodau
lleol yn penderfynu tynnu’n ôl o’r GCA, byddent
yn gyfrifol am 100% o’r costau diswyddo
cysylltiedig. Yr oedd y cytundeb diwygiedig hwn yn bwysig iawn am ei fod yn galluogi’r GCA, fel Cwmni Hyd Braich, i gael sefydlogrwydd ariannol heb i’r awdurdodau lleol unigol orfod sefydlu gwasanaethau gwella ysgolion drud ar wahân.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Cefnogodd y Cynghorydd Davies yr argymhelliad am y costau diswyddo mewn egwyddor, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Penderfyniad:
Cytunodd y Cabinet i’r geriad diwygiedig ym mharagraff 1.11, gan gytuno fod Cyngor Dinas Casnewydd (fel un o’r pum awdurdod lleol) yn talu pro rata gostau diswyddo GCA fyddai weddill, wedi i’r cwmni ddefnyddio 50% o’u harian wrth gefn oedd ar ôl ers y flwyddyn flaenorol i dalu rhan gyntaf y costau diswyddo hyn.
|
|
Cofrestr Risg Corfforaethol - Chwarter 3 PDF 176 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr
adroddiad am gyfoesi Cofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor am
ddiwedd Chwarter Tri, 1 Hydref 2021 tan 31 Rhagfyr 2021. Gofynnwyd i aelodau’r
Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad hwn a pharhau i fonitro’r risgiau hyn a’r
camau oedd yn cael eu cymryd i ymdrin â’r risgiau a
nodir yn yr adroddiad. Mae Polisi Rheoli Risg a
Chofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor yn galluogi’r
weinyddiaeth hon a’i swyddogion i fod yn effeithiol wrth
nodi, rheoli a monitro’r risgiau hynny a allai atal y Cyngor
rhag cyflawni ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-22) a
chyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol. Byddai’r adroddiad risg Chwarter Tri yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor ar ddiwedd Mawrth (2022) i adolygu prosesau rheoli risg y Cyngor a’i drefniadau llywodraethiant.
Ar ddiwedd chwarter tri, yr oedd gan y Cyngor 44 risg wedi eu cofnodi ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor.
Cafodd y risgiau hynny a
bennwyd fel rhai’r mwyaf arwyddocaol o ran cyflwyno Cynllun
Corfforaethol y Cyngor a’i wasanaethau eu codi i Gofrestr
Risg Corfforaethol y Cyngor er mwyn eu monitro. Ar ddiwedd chwarter dau,
cofnodwyd 18 risg ar y Gofrestr Risg Corfforaethol: · Deg Risg Ddifrifol (15 i 25); · Pum Risg Fawr (7 i 14); · Dwy Risg Ganolig (4 i 6); ac ·
Un Risg Isel (1 i 3). O gymharu â chwarter dau,
yr oedd 16 risg wedi aros ar yr un sgôr risg gyda dwy
sgôr risg yn gostwng: § Clefyd Marwolaeth yr Ynn - Ers i’r Cyngor gychwyn ar eu rhaglen waith i symud ymaith goed oedd â’r clefyd, aeth y sgôr risg i lawr o 20 i 16. Yr oedd cyflwyno’r gwaith hwn yn cael ei asesu bob chwarter, a phlannu coed newydd yng Nghasnewydd. § Cydbwyso cyllideb tymor-canol y Cyngor - Derbyniodd y Cyngor ei setliad cyllido 2022/23 gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â dyraniadau cyllido dangosol am y ddwy flynedd ganlynol. Yr oedd ffigwr setliad 22/23 yn fwy cadarnhaol na’r hyn a ragwelwyd, a chymeradwywyd cyllideb y Cyngor am 22/23. Yr oedd y cynllun ariannol tymor-canol cyffredinol yn fras yn cydbwyso, ond gallai pwysau ychwanegol ymddangos ac arwain at fwlch cyllidebol.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at ddau farc risg coch yn erbyn gwasanaethau addysg. Yr oedd a wnelo hyn â'r gal’ am gefnogaeth ADY ac AAA mewn ysgolion, a bu hyn yn bryder cyson yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gyda newidiadau deddfwriaethol a wnaed gan LlC. Y risg allweddol arall oedd gwasanaethau ariannol, ond gyda’r buddsoddiad o £8.1M, yr oedd yr Aelod Cabinet yn hyderus y gallwn gyflwyno gwell gwasanaeth.
§ Yr oedd y Cynghorydd Jeavons yn falch fod sgôr Clefyd Marwolaeth yr Ynn wedi gostwng o 20 i 13, a diolchodd Wasanaethau’r Cyngor a’r partneriaid arbenigol oedd yn symud y coed hyn.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at y gwasanaethau cymdeithasol a’r broblem staffio ledled Cymru a’r DU. Byddai’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ysgrifennu at y Gweinidog am broblemau gyda thalu staff, gan na all Cynghorau gystadlu ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Cynllun Newid Hinsawdd PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gyflwyno ein Cynllun Newid Hinsawdd sefydliadol i gydweithwyr.
Newid Hinsawdd oedd un o heriau
byd-eang ein cenhedlaeth, ac y mae angen dybryd i’r byd
ddad-garboneiddio, cyfyngu ar y codiad yn nhymheredd y byd, a
lliniaru effeithiau gwaethaf newid hinsawdd. Yr oedd angen
i’r byd hefyd ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd yn awr ac
yn y dyfodol. Fel sefydliad cyfrifol yn
fyd-eang, datganodd y Cyngor argyfwng ecolegol a hinsawdd ym mis
Tachwedd, gan ddweud y byddwn yn gwneud y canlynol: Datblygu cynllun sefydliadol Newid Hinsawdd clir, trwy ymgynghoriad â’n dinasyddion, am y pum mlynedd nesaf fyddai’n gosod allan y camau mae angen eu cymryd i wneud hyn.
Fel rhan o’r datganiad,
fe wnaethom hefyd dweud y byddwn yn: Lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net carbon erbyn 2030, ac
Adolygu’r gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor i gefnogi taith y ddinas at sero net zero ac ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd.
Mae ein Cynllun Newid Hinsawdd yn gosod allan y themâu, blaenoriaethau, camau a’r cerrig milltir oedd eu hangen dros y pum mlynedd nesaf i gyrraedd yr ymrwymiad hwnnw.
Datblygwyd y cynllun gan staff a rheolwyr ledled y cyngor a chraffwyd arno gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Hydref 2021.
Cynhaliwyd ymgynghoriad llawn â’r cyhoedd ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2021 pryd y derbyniwyd dros 600 o sylwadau unigol, sydd wedi helpu i lunio’r cynllun ymhellach.
Byddai’r cynllun yn ddogfen allweddol i’r Cyngor at y dyfodol a byddai’n tywys ein taith fel sefydliad i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a’u heffeithiau.
Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy i roi sylwadau.
Soniodd y Cynghorydd Hughes fod y Cyngor wedi gwneud cychwyn da ac eisoes wedi gostwng allyriadau carbon yn sylweddol, gan wneud yn well na’r targedau a osodwyd allan yn ein Cynllun Rheoli Carbon. Arweiniodd hyn at ostyngiad o 29% mewn allyriadau cwmpas 1 a chwmpas 2 dros y tair blynedd a aeth heibio.
Edrychai’r Cynghorydd Hughes ymlaen at fwy o ostyngiad wrth i ni barhau i ôl-ffitio adeiladau’r cyngor, a chynyddu ein fflyd o gerbydau trydan.
Er hynny, yr oedd llawer mwy i’w wneud fel sefydliad i liniaru ac ymaddasu i’r argyfwng hinsawdd a natur, a bydd ein Cynllun Newid Hinsawdd sefydliadol yn ein gosod ar y llwybr iawn ar y daith hon er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu ar ran y genhedlaeth hon a rhai’r dyfodol.
Fel Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros leihau carbon a thros genedlaethau’r dyfodol, yr oedd y Cynghorydd Hughes yn falch o weld y cynllun hwn yn dwyn ffrwyth, a byddai’n monitro cynnydd yn fanwl ac yn gofyn am gyfoesiadau rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn dal i fwrw ymlaen yn ôl y gofyn.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Ychwanegodd y Cynghorydd Davies, fel yr Aelod Cabinet blaenorol dros Ddatblygu Cynaliadwy, ei bod wedi cael tasg gan yr Arweinydd i fwrw ymlaen â’r cynllun ar ddechrau’r pandemig ac ers hynny, fod y Cynllun Newid Hinsawdd wedi datblygu’n sylweddol. Digwyddodd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Diweddariad Adferiad Covid PDF 183 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddweud, ar waethaf yr holl heriau a wynebwyd yng Nghymru a’r byd dros y mis diwethaf, fod Covid yn dal yn bresennol mewn cymunedau.
Er bod achosion yn parhau i
ddisgyn, yr oedd effeithiau’r cyfyngiadau dros y ddwy flynedd
ddiwethaf yn dal i gael effaith ar y sector iechyd a gofal
cymdeithasol. Yr oedd Cymru yn dal ar lefel
rhybudd 0 ac o 28Chwefror , byddai angen mygydau yn unig mewn
siopau, ar gludiant cyhoeddus a lleoliadau iechyd a
gofal. Parhaodd Llywodraeth Cymru i
gymryd agwedd ofalus ac ym mis Mawrth byddai'n asesu sefyllfa
iechyd y cyhoedd ac a ddylid dileu'r gofyniad cyfreithiol i wisgo
gorchuddion wyneb erbyn diwedd mis Mawrth. I Gyngor Casnewydd, y cyngor o hyd i aelodau etholedig a swyddogion i weithio o bell oni bai bod eu rôl yn mynnu i’r gwrthwyneb.
Yr oedd yr adroddiad hwn ac
adroddiad Pontio’r UE yn amlygu’r pwysau a’r
ansicrwydd sy’n cael eu hwynebu gan lawer aelwyd ledled
Casnewydd a Chymru, gyda’r argyfwng costau byw a achoswyd gan
gynnydd mewn costau ynni, bwyd a thanwydd. Yr oedd Cyngor Casnewydd a
Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd a busnesau oedd yn cael
trafferth i ymdopi a’r pwysau hyn. Yr oedd Cyngor Casnewydd wedi neilltuo £100,000 yn
ychwanegol i daclo tlodi bwyd, cefnogi elusennau a grwpiau
bwyd. Yr oedd y Cyngor hefyd yn
cefnogi cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru, a oedd
wedi ei ymestyn at 28 Chwefror, a’r symiau wedi codi o
£100 i £200. Ychwanegodd yr Arweinydd ei bod
yn bwysig fod cynghorwyr yn cefnogi aelwydydd oedd yn cael
anhawster, gan eu helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth a’r
canllawiau iawn yn ystod yr amser anodd hwn. ·
Nod Adfer Strategol 1 – Mae’r tîm
gwaith a Sgiliau yn gweithio ar y cyd ag Asiantaeth Recriwtio Acorn
i gynnig cyfleoedd i drigolion weithio yn y sector iechyd a gofal
cymdeithasol. · Nod Adfer Strategol 1 –Sicrhaodd Cyngor Casnewydd grant 3 blynedd gan Blant a Chymunedau i gefnogi teuluoedd ledled Casnewydd
·
Nod Adfer Strategol 2 – Bydd cwblhau
cynlluniau mawr fel y Farchnad Dan Do, Arcêd y Farchnad a
Th?r y Siartwyr yn cynnal adfywio canol y ddinas. · Nod Adfer Strategol 2 – Dyfarnwyd 18 o grantiau datblygu busnes Dinas Casnewydd
· Nod Adfer Strategol 3 – Gwasanaethau llyfrgell a chymuned yn ôl i’r oriau arferol
·
Nod Adfer Strategol 3 - Yr oedd gwasanaethau
oedolion yn cefnogi ein trigolion mwyaf bregus yn ystod y stormydd
diweddar, gan sicrhau bod ganddynt lety diogel a saff cyn dychwelyd
adref. ·
Nod Adfer Strategol 4 – Bu prosiectau i wella
tai a llety dros dro i’r trigolion yn parhau. · Nod Adfer Strategol 4 - Gwaith ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Diweddariad ar ôl Pontio'r UE PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad uchod. Er adroddiad diwethaf y Cabinet ym mis Chwefror, yr oedd ansicrwydd byd-eang wedi parhau i effeithio ar fywydau pobl yng Nghasnewydd a Chymru. Ar 1 Mawrth, cyflwynodd Cyngor Casnewydd gynnig a’i basio yng nghyswllt y sefyllfa bresennol yn Wcráin, a bu undod ar draws y pleidiau mewn ymateb i’r ymosodiad erchyll ar Wcráin a’i phobl. Yr oedd hon yn sefyllfa dorcalonnus i bobl Wcráin, gyda llawer yn gorfod ffoi o’u cartrefi i geisio lloches. Yr oedd yn achos pryder hefyd i ddinasyddion Wcráin oedd yn byw a gweithio yng Nghasnewydd a mannau eraill yng Nghymru, o ran eu hanwyliaid a’u gwlad. Yr oedd gan Gasnewydd draddodiad maith ac anrhydeddus o roi lloches i ffoaduriaid, a bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu’r sawl a ddioddefodd oherwydd yr ymosodiad hwn. Hefyd, i ddinasyddion Ewrop a’r byd sydd yn byw yng Nghasnewydd, yr oedd yn bwysig pwysleisio eu bod hwythau hefyd yn drigolion pwysig allai fyw, gweithio a chyfrannu at wneud Casnewydd yn lle amlddiwylliannol i fyw ynddo. Yr oedd y gwrthdaro yn Wcráin yn un yn unig o sawl sefyllfa ledled y byd oedd yn cael effaith ar gostau byw yng Nghasnewydd a Chymru. Yr oedd y cynnydd mewn costau ynni, bwyd a thanwydd yn cael effaith ar bob aelwyd, ond yn taro galetaf ar drigolion mwyaf bregus y ddinas. Yr oedd Llywodraeth Cymru a’r Cyngor yn gwneud popeth yn eu gallu i aelwydydd yn y cyfnod anodd hwn, ac yr oedd gwasanaethau ar gael allai liniaru’r pwysau hyn. Pasiodd yr Arweinydd a’r Cynghorydd Hughes cynnig yn y Cyngor ar 1 Mawrth, am yr argyfwng cenedlaethol mewn costau byw, i ysgrifennu at y llywodraeth ganolog am weithredu i atal y cynnydd arfaethedig mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, gostwng TAW ar filiau ynni, a chyflwyno cap prisiau is ar filiau ynni i warchod aelwydydd rhag cynnydd gormodol mewn prisiau. Byddai Cyngor Casnewydd yn gweinyddu rhyddhad Treth y Cyngor i dai bandiau A i D a rhyddhad ardrethi i fusnesau, yn unol â chynllun rhyddhad ardrethi busnes Llywodraeth Cymru a’n cynllun ein hunain i gefnogi busnesau lleol. Yr oeddem hefyd yn parhau i gefnogi grwpiau a mudiadau tlodi bwyd trwy ddarparu cyllid a chefnogaeth i ddosbarthu bwyd a chyngor ar ddyledion. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod nod mwy eto y gallai’r Cyngor wneud i gefnogi grwpiau difreintiedig a bregus yng Nghasnewydd a bydd y Cyngor yn datblygu ei waith gyda’r trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ymdrin â’r pryderon a godwyd gan y trigolion. Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Dymunai’r Cynghorydd Hughes gydnabod y gefnogaeth a roddodd pobl yng Nghasnewydd i’r Wcrainiaid, ac yr oedd yn falch o fod yn rhan o’r ddinas.
§ Derbyniodd y Cynghorydd Harvey neges gan Gyn-Filwyr Casnewydd oedd yn llwytho cyflenwadau ar wagen i’w hanfon i Wcrain. Mynegodd y Cynghorydd Harvey hefyd ei balchder yn y ddinas.
Adfyfyriodd yr Arweinydd ar y sefyllfa, a dymunai atgoffa’r trigolion fod y Cyngor yn eu cefnogi. Yr oedd yr Arweinydd yn falch ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |