1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  E-bost: democratic.services@newport.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion 9 March 2022 fel rhai cywir.

 

4.

Pay and Reward Statement pdf icon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i gydweithwyr y Cabinet.

Adroddiad blynyddol oedd Polisi Tâl a Gwobrwyo’r Cyngor ar gyfer y gweithlu, ac y mae gofyn i’r Cyngor ei fabwysiadu. Mae’r polisi hwn yn gosod allan y mecanweithiau mewnol am dalu swyddogion y Cyngor ac yn nodi unrhyw newidiadau ers y tro diwethaf iddo gael ei fabwysiadu.

 

Cymeradwywyd y polisi ddiwethaf ym Mawrth 2021 ac ni chynigiwyd unrhyw newidiadau eleni. Fodd bynnag, yr oedd rhai mân gyfoesiadau deddfwriaethol o ganlyniad i Fesur Llywodraeth leol ac Etholiadau oedd yn gofyn am wneud i ffwrdd â’r cyfeiriad at y Pennaeth Gwasanaethau Taledig a rhoi term yn lle’r term cyflog gyda thâl. Y mae’r cyfoesiadau deddfwriaethol wedi eu cynnwys yn y polisi eleni. Tynnodd yr Arweinydd sylw hefyd at y bwlch tal blynyddol rhwng y rhywiau a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor.

 

Yr oedd yr Arweinydd hefyd yn falch i adrodd fod y bwlch tâl cymedrig wedi gostwng am y drydedd flwyddyn i 1.49% ers adrodd llynedd o 1.92%, tra bod y bwlch tâl cymedrig ar hyn o bryd yn 2%. Mae bwlch tâl y Cyngor rhwng y rhywiau yn dal i gymharu’n ffafriol a Chynghorau eraill ledled Cymru a chyfartaledd y DU o 15.4%, ond byddid yn dal i ymdrechu i ddileu’r bwlch tâl rhwng dynion a menywod a gyflogir gan y Cyngor.

 

Penderfyniad:

 

Cymeradwyodd y Cabinet y Polisi Tâl a Gwobrwyo er mwyn cwrdd â’r gofynion statudol am gymeradwyo a chyhoeddi datganiad polisi tâl gan y Cyngor yn flynyddol.

 

5.

Gwasanaethau Mabwysiadu/Maethu Cymru Cydweithredol Cenedlaethol pdf icon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad am y Gwasanaeth Maethu Cenedlaethol (GMC), fu’n rhedeg yn effeithiol i 22 awdurdod Cymru, wedi’i gynnal gan Gaerdydd, a’i gefnogi gan gydbwyllgor. Y bwriad oedd, gan fod Cyfarwyddwr y GMC a’r tîm canolog hefyd wedi bod yn cefnogi’r Fframwaith Maethu Cenedlaethol, sef Maethu Cymru bellach, creu cytundeb cydweithredu tebyg, er nad yn wasanaeth Maethu Cenedlaethol. Y rheswm dros fod angen cytundeb cyfreithiol am agwedd genedlaethol at faethu oedd, yn wahanol i fabwysiadu, nad oes unrhyw ddeddfwriaeth sy’n cefnogi cydweithrediad Maethu Cymru. 

 

Mae Maethu Cymru eisoes yn cefnogi Maethu Casnewydd i recriwtio a chadw gofalwyr maeth, a’r gobaith oedd y byddai’r cydweithredu hwn yn cefnogi gostyngiad mewn costau yn y tymor hir, a gwneud y gwasanaeth yn fwy hyblyg. I Faethu Casnewydd byddai hyn yn golygu y byddai recriwtio a chadw gofalwyr a gweithgareddau cysylltiedig eraill yn cael eu cefnogi’n genedlaethol gan y tîm canolog.  

 

Mae Maethu Cymru eisoes yn cefnogi Maethu Casnewydd trwy hysbysebu ac ymgyrchoedd recriwtio arbenigol sy’n estyn ymhellach na’r hyn oedd yn cael ei wneud gan Gasnewydd yn unig. Yr oedd recriwtio a chadw gofalwyr maeth yn hanfodol er mwyn cwrdd â gofynion digonoldeb Maethu Casnewydd i leihau’r defnydd o ddarparwyr gofal maeth preifat.  

 

Cefnogwyd y gweithgaredd hwn gan Lywodraeth Cymru hyd at ddiwedd Mawrth 2023, ac yr ydym yn disgwyl am ymateb Llywodraeth Cymru ynghylch opsiynau cyllid y tu hwn i gyfnod y grant. Cydnabuwyd y byddai angen ymrwymiad llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru i ddatrys hyn.

 

Y dewis oedd orau gan Gasnewydd oedd i ni gefnogi’r cydweithio hwn a dal i elwa o gefnogaeth ‘Maethu Cymru’ a dal i gefnogi cydweithio ar lefel genedlaethol.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Cockeram yn cefnogi’r cysyniad a amlinellir yn yr adroddiad, oedd yn ymddangos yn dra synhwyrol, gan y byddai’n lleihau dibyniaeth ar y sector annibynnol. Cododd ddau bwynt, er hynny: yr oedd nifer  y staff, sef 26, yn ymddangos yn ormodol, ac yn ail, rhaid i’r Cyngor gadw mewn cof mai tan 2023 yn unig yr oedd y cyllid yn bodoli. Wedi hynny, nid oedd gwarant o lle deuai’r arian.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei bod yn gadarnhaol gweld hyn yn deillio o bapur 2015 a chytunodd gyda sylwadau’r Cynghorydd Cockeram. Yr oedd y  Cynghorydd Hughes hefyd yn croesawu’r symudiad cadarnhaol o ran marchnata a recriwtio, a fyddai’n cystadlu’n well gyda’r sector preifat. Yr oedd felly yn cefnogi’r adroddiad.

 

Penderfyniad:

 

Llofnododd y Cabinet Gytundeb y Cyd-bwyllgor.

 

 

6.

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 - Hunanasesiad Corfforaethol pdf icon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad am Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Hunanasesiad Corfforaethol i’r cydweithwyr. Derbyniodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ym mis Chwefror llynedd, ac yr oedd yn mynnu bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi hunanasesiad blynyddol o’u llywodraethiant a’u trefniadau perfformio.

 

Yr oedd yr adroddiad yn cynnig yr agwedd y  buasai’r Cyngor yn gymryd tuag at ei hunanasesiad blynyddol. 

 

Y mae Deddf Llywodraeth Leol yn mynnu bod Cyngor Casnewydd yn cynnal hunanasesiad blynyddol er mwyn gwneud yn si?r eu bod yn cyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol, yn defnyddio’i adnoddau yn ddarbodus, yn effeithiol ac yn effeithlon; a bod trefniadau llywodraethiant y Cyngor yn effeithiol er mwyn sicrhau hyn.

 

Roedd gofyn i’r Cyngor hefyd ymgynghori â thrigolion a busnesau Casnewydd, staff y Cyngor a’r Undebau Llafur.

 

Llynedd, yr oedd y Cyngor yn edrych ar opsiynau i nodi’r camau gorau yng nghyswllt y gofynion hyn, o fewn yr adnoddau oedd ar gael.

 

Ystyriodd y Cyngor dri dewis, gan gynnwys:

·        cynnal hunanasesiad arunig

·        integreiddio’r hunanasesiad gyda Datganiad Llywodraethiant Blynyddol y Cyngor

·        integreiddio’r hunanasesiad gydag adroddiad Lles Corfforaethol blynyddol y Cyngor

 

Yr oedd yr adroddiad yn amlinellu’r dewis gorau, sef integreiddio’r hunanasesiad gydag adroddiad Lles Corfforaethol blynyddol y Cyngor.

 

Yr oedd adroddiad Lles blynyddol y Cyngor eisoes yn rhoi trosolwg o berfformiad y Cyngor dros y flwyddyn ariannol a aeth heibio, ac yn cynnwys trosolwg o drefniadau’r Cyngor’ am lywodraethiant, cyllid a chynnydd yn erbyn Cynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Byddai’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei wella i wneud lle i’r gofynion newydd dan y Ddeddf. Byddai trefniadau llywodraethiant am graffu ar yr adroddiad yn aros, ond bydd ystyriaeth hefyd i adborth Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor.

 

Byddai’r adroddiad hunanasesu yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni a bydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. 

 

Penderfyniad:

 

Cymeradwyodd y Cabinet yr agwedd a amlinellwyd yn yr adroddiad hwn ac i’r hunanasesiad cyntaf gael ei gwblhau fel rhan o Adroddiad Corfforaethol Blynyddol y Cyngor am 2021/22.

 

7.

Adroddiad Diweddaru Covid pdf icon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet, oedd yn rhoi cyfoesiad am ymateb y Cyngor i bandemig Covid-19 ac adferiad y ddinas, gan sicrhau bod trigolion a busnesau yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau cyfredol, a’r cynnydd a wnaed gyda Nodau Adfer Strategol y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol.

 

Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Mawrth, cynyddu wnaeth yr achosion o Covid ac yr oeddent yn dal i fodoli ymysg cymunedau Casnewydd. 

 

Mae canfyddiadau arolwg diweddar y SYG yn awgrymu bod y cynnydd mewn achosion wedi ei achosi gan yr is-deip o Amrywiolyn Omicron.

 

Dal yn isel yr oedd nifer y rhai a dderbyniwyd i’r ysbyty oherwydd Covid-19, ond er hynny, yr oedd effeithiau’r cyfyngiadau dros y ddwy flynedd a aeth heibio yn dal i daro lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Fel ar 28 Mawrth, yr oedd Cymru yn dal ar Lefel Rhybudd Sero, gyda llawer o gyfyngiadau cyfreithiol yn dal mewn bodolaeth. Yr oedd gorchuddion wyneb yn angenrheidiol o hyd mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac yr oedd gweithleoedd a mannau oedd yn agored i’r cyhoedd yn parhau i gynnal asesiadau risg Coronafirws.

 

Nid oedd angen gorchuddion wyneb bellach dan y gyfraith mewn siopau ac ar gludiant cyhoeddus.

 

Newidiodd y gofyniad i hunan-ynysu yn dilyn  prawf Covid-19 positif i ganllaw, a bydd y £500 o daliad hunan-ynysu i gefnogi pobl yn dal i fod ar gael tan fis Mehefin 2022.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fonitro’r sefyllfa iechyd cyhoeddus, ac i gynnal asesiad pellach i’r potensial i wneud i ffwrdd ag unrhyw fesurau cyfreithiol sydd weddill yn yr adolygiad 21-diwrnod nesaf erbyn 14 Ebrill 2022.

 

I Gyngor Casnewydd, y cyngor o hyd i aelodau etholedig a swyddogion i weithio o bell oni bai bod eu rôl yn mynnu i’r gwrthwyneb. 

 

Fel rhan o brosiect Normal Newydd y Cyngor, yr oedd y staff yn cael eu paratoi i weithio’n hybrid, gan sicrhau y bydd ystafelloedd a chyfleusterau ar draws stad y Cyngor yn llefydd addas a diogel i weithio a chynnal swyddogaethau democrataidd.

 

Efallai y dymunai’r Arweinydd ofyn i Aelodau’r Cabinet amlygu meysydd llwyddiannau, her a chynnydd.

    

·        Nod Adfer Strategol 1- Ymestyn prydau ysgol am ddim dros hanner tymor mis Mai a chyfnod gwyliau’r haf.

 

·        Nod Adfer Strategol 1 –Bu Cyngor Casnewydd yn gweithio ar draws ein cymunedau i gynnal sesiynau galw heibio ar gyfer sgiliau digidol sylfaenol a chyrsiau trwy addysg gymunedol i oedolion.

 

·        Nod Adfer Strategol 2 – Bydd busnesau yng Nghasnewydd yn derbyn rhyddhad ardrethi gan Lywodraeth Cymru.

 

·        Nod Adfer Strategol 2 – Cymeradwywyd ein cynllun Newid Hinsawdd gan y Cyngor a dechreuir cyflwyno yn 2022/23.

 

·        Nod Adfer Strategol 3 – Cyngor Casnewydd continue to follow the guidance for staff to work from home unless required by their role.

 

·        Nod Adfer Strategol 3 – Mae gwasanaethau llyfrgell ac amgueddfeydd yn awr yn cael eu cyflwyno fel yr oeddent cyn y pandemig gyda rhai mesurau rheoli yn dal ar gael.

 

·        Nod Adfer Strategol 4 – Mae Cyngor Casnewydd yn dal i gefnogi banciau bwyd a phrosiectau bwyd y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Diweddaru ar Ôl Pontio'r UE pdf icon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan dynnu sylw at y ffaith, ers y cyfarfod diwethaf ym mis Mawrth, fod problem yn parhau gyda chostau byw, ac yn fwy diweddar, y rhyfel yn Wcráin. 

 

Yn dilyn sawl cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am sut y byddwn yn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin i ymsefydlu yng Nghymru, mae gwasanaethau’r Cyngor yn gweithio yn ddiflino i baratoi a chefnogi ffoaduriaid yng Nghasnewydd.

 

Cyn bo hir, bydd Casnewydd yn gweld y ffoaduriaid cyntaf yn cyrraedd, a bydd gwasanaethau ar gael i’w helpu i ymgartrefu yn y ddinas.  

 

Yr oedd costau byw yn dal i gael effaith ar aelwydydd yng Nghasnewydd. Yr oedd y Cyngor yn dal i roi cefnogaeth i helpu teuluoedd oedd yn cael trafferth gyda’u biliau bwyd ac ynni.

 

Byddai Cyngor Casnewydd yn gweinyddu rhyddhad Treth y Cyngor i dai  bandiau A i D a rhyddhad ardrethi i fusnesau, yn unol â chynllun rhyddhad ardrethi busnes Llywodraeth Cymru a’n cynllun ein hunain i gefnogi busnesau lleol.

 

Yr oeddem hefyd yn parhau i gefnogi grwpiau a mudiadau tlodi bwyd  trwy ddarparu cyllid a  chefnogaeth i ddosbarthu bwyd a chyngor ar ddyledion. 

 

Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod nod mwy eto y gallai’r Cyngor wneud i gefnogi grwpiau difreintiedig a bregus yng Nghasnewydd a bydd y Cyngor yn datblygu ei waith gyda’r trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ymdrin â’r pryderon a godwyd gan y trigolion.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd a nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad, a byddant yn derbyn cyfoesiadau gan y swyddogion fel rhan o’u portffolio.

 

 

9.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 109 KB

New Work Programme for 2022/23

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddiad misol rheolaidd oedd hwn ar y rhaglen waith. 

 

Cynigiwyd derbyn y rhaglen a gyfoeswyd.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai dyma gyfarfod Cabinet olaf y weinyddiaeth, a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i gydweithwyr yn y Cabinet am eu cefnogaeth trwy gydol y cyfnod heriol.

 

Diolchodd yr Arweinydd hefyd i’r swyddogion am eu cymorth, yn ogystal ag i’r Gwasanaethau Democrataidd am eu cefnogaeth gyda chyfarfodydd o bell yn ystod y pandemig.