Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 13eg Gorffennaf, 2022 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd Forsey.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Harvey fuddiant yn Eitem 9, fel Aelod o Fwrdd Trafnidiaeth Casnewydd.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diweddaf pdf icon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion 15 Mehefin 2022 yn gywir.

4.

Alldro Cyllideb Refeniw 2021/22 pdf icon PDF 804 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'r Cabinet a fanylai ar alldro terfynol yr Awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.

 

Roedd yr alldro refeniw yn dangos tanwariant o £18.4m, ar ôl trosglwyddiadau cynlluniedig i'r cronfeydd wrth gefn clustnodedig ac ohonynt, a oedd yn cynrychioli amrywiant o 6% yn erbyn y gyllideb.

 

Roedd tanwariant o £18m wedi codi yn 2021/22 o £18m, a hynny'n bennaf oherwydd newidiadau mewn darpariaeth gwasanaeth ac arferion gwaith a achoswyd gan Covid, a symiau sylweddol untro o gyllid yn ychwanegol at y symiau hynny a hawliwyd drwy'r Gronfa Galedi. Yn benodol:

 

o   Arweiniodd cymorth ariannol o'r Gronfa Galedi Frys i Awdurdodau Lleol, incwm grant annisgwyl gan Lywodraeth Cymru yn hwyr yn y flwyddyn at ddadleoli gwariant craidd a'i gyllido drwy grant allanol; roedd hynny felly'n cynyddu cyfanswm y tanwariant. Tua £6m oedd y cyllid ychwanegol.

 

o   Tanwariant sylweddol ar draws yr holl wasanaethau yn gysylltiedig ag arbedion staffio yn deillio o oedi wrth recriwtio a gwasanaethau cynlluniedig/arferol heb eu darparu yn sgil blaenoriaethu gwaith ymateb i Covid, ac:

 

o   Yn gysylltiedig â’r uchod, tanwariant yn erbyn y gyllideb refeniw wrth gefn gyffredinol a chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, a gwarged mewn perthynas ag incwm y dreth gyngor.  Roedd grantiau cyfalaf nas rhagwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn hefyd yn effeithio ar ofyniad benthyca'r Cyngor gan greu tanwariant yn erbyn y gyllideb cyllido cyfalaf. Roedd y rhain i gyd yn feysydd cyllideb nad oeddent yn gysylltiedig â gwasanaethau.

 

Er bod cyfanswm y tanwariant yn sylweddol, roedd rhai materion untro ac ailadroddus yn codi o fewn yr adroddiad, ac y byddai swyddogion yn mynd i'r afael â nhw, fel sicrhau arbedion. Er cyflawni 94% o'r targed arbedion yn 2021/22, cafwyd oedi wrth weithredu yn sgil effaith Covid, ac roedd angen cynlluniau cadarn i sicrhau bod yr arbedion hyn yn cael eu gwireddu'n llawn ar gyfer 2022/23.

 

Mae nifer o risgiau yn cael eu monitro gan Dîm y Weithrediaeth ar gyfer 2022/23, a chanddynt y potensial i effeithio ar y sefyllfa ariannol yn y flwyddyn hon. Roedd Adran 4 o'r adroddiad yn esbonio'n fanwl y meysydd sy'n achosi'r risg fwyaf sylweddol ar hyn o bryd.

 

Gan fod amrywiannau'r ysgolion yn cael eu rheoli drwy falansau ysgolion unigol, nid oedd y cyfanswm o £18m o danwariant yn cynnwys sefyllfa'r ysgolion. Ar gyfer 2021/22, tanwariodd ysgolion £6.1 miliwn gyda'i gilydd, a fyddai'n cynyddu balansau'r ysgolion o £9.6m i £15.7m ar ddechrau 31 Mawrth 2022. Sicrhaodd yr ysgolion arbedion sylweddol yn ystod y flwyddyn, yn bennaf yn sgil derbyn mwy na £4.8m o grantiau annisgwyl yn hwyr yn y flwyddyn.

 

Cafwyd gwelliant sylweddol i falansau rhagamcanol yr ysgolion yn 2021/22, yn bennaf oherwydd yr incwm grant untro hwnnw. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai ysgolion yn defnyddio cyfran fawr o'u balansau yn ystod 2022/23 i fodloni gofynion y cyllid grant hwnnw. Byddai angen i ysgolion fonitro a rheoli'u cyllidebau'n gadarn ac effeithiol i sicrhau cynaliadwyedd ariannol o hyn allan o fewn eu cyllid craidd.

 

Yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Alldro Cyfalaf ac Ychwanegiadau 2021/22 pdf icon PDF 405 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Dywedodd yr Arweinydd wrth ei chyd-aelodau fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r alldro terfynol, ac yn cwblhau'r cylch monitro blynyddol ar gyfer cyfalaf.

 

Ers yr adroddiad diwethaf, a dderbyniwyd gan y Cabinet ym mis Ionawr eleni, gwnaed nifer o ychwanegiadau a diwygiadau i'r rhaglen, a amlinellir yn Atodiad A. Roedd y rhan fwyaf o'r rhain ar ffurf cynlluniau newydd wedi'u cyllido drwy grant ac roedd eu hychwanegu'n creu cyfanswm o £67.7m yng nghyllideb 2021/22, o gymharu â chyllideb o £57.5m a gafwyd ym mis Tachwedd.

 

Roedd yr ychwanegiadau hyn yn cynnwys dyraniadau grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith ar geginau yn gysylltiedig â phrydau ysgol am ddim a thrydaneiddio bysus, lle'r oedd yn ofynnol i'r Cyngor ddefnyddio hy yn erbyn gwariant presennol, gan ddadleoli cyllid cynlluniedig y Cyngor yn sgil hynny.

 

Byddai'r cyllid hwn a oedd wedi'i ddadleoli yn cael ei gario ymlaen i 2022/23, i'w ddefnyddio'n unol â'r bwriadau a gynlluniwyd gan LlC.

 

Yn ogystal â'r ychwanegiadau a'r diwygiadau hyn, adroddwyd ar gyfanswm o £13.9m o lithriant ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y cyfanswm hwn o lithriant hefyd yn cynnwys effaith y cyllid a ddadleolwyd, y cyfeiriwyd ato uchod.

 

Roedd nifer o resymau am y llithriant hwn, gan gynnwys effeithiau tywydd gwael, heriau o fewn y gadwyn gyflenwi ac agwedd ychydig yn rhy optimistaidd wrth broffilio cynlluniau i'w hychwanegu'n wreiddiol at y rhaglen. Cyfanswm llithriant y flwyddyn gyfan, gan gynnwys yr hyn a gymeradwywyd yn gynharach yn y flwyddyn oedd £60m.

 

Arweiniodd hyn at gyllideb derfynol o £53.791m, y cofnodwyd gwariant terfynol o £52.7m yn ei herbyn, gan adlewyrchu tanwariant net o £1.12m. Roedd y tanwariant net hwn yn cynnwys symiau bach o orwariant, yr oedd tanwariant yn gwneud mwy na'u gwrthbwyso, gyda'r rhan fwyaf o'r achosion o orwario yn deillio o'r ffaith nad oedd modd gwneud defnydd llawn o gyllid grant a ddyfarnwyd gan LlC ar gyfer cynlluniau penodol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu sefyllfa gyfredol yr hyblygrwydd sydd ar gael o ran cyfalaf. Ar ôl cael diweddariad ynghylch amryw o ymrwymiadau a gymeradwywyd yn ddiweddar, mae cyfanswm yr hyblygrwydd bellach yn £2.354m, ac yn cynnwys y canlynol:

 

-         £57k o hyblygrwydd ar gyfer benthyg arian.

-         £258k o gronfa wrth gefn gwariant cyfalaf heb hymrwymo, ar ôl caniatáu ar gyfer

-         £2.040m o dderbyniadau cyfalaf heb eu hymrwymo.

 

Yn achos yr hyblygrwydd benthyca, roedd ymrwymiadau diweddar yn erbyn hyn yn cynnwys cyllideb uwch ar gyfer prosiect y Bont Gludo a'r Orsaf Wybodaeth, yn ogystal â chynllun ynni adnewyddadwy y dadrwymwyd iddo, ac nad oedd yn gyflawnadwy mwyach. Yn ychwanegol at hyn, cafodd yr ymrwymiad amodol i Gynllun Porth y Gogledd ei ddileu ac ymrwymiad amodol i gais Cylch 2 Cronfa Codi'r Gwastad ei gynnwys.

 

Mae ymrwymiadau eraill posibl yn erbyn cyfanswm yr hyblygrwydd yn cynnwys cyfran y Cyngor o gostau i ddymchwel Canolfan Casnewydd a chyllid ychwanegol i gynyddu amlen gyllido gyffredinol Band B  i £90m.

 

Byddai angen rheoli a monitro'r cyfanswm hwn o hyblygrwydd, a oedd wedi gostwng yn gyson dros y blynyddoedd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cronfa Ffyniant Gyffredin pdf icon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad cyntaf i'w chyd-aelodau ar y Cabinet.

 

Ym mis Ebrill 2022 cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion y Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd gwerth £2.6bn a oedd yn ceisio cefnogi amcanion Codi'r Gwastad y Llywodraeth, sef:

 

§  Rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflogau, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat, y enwedig mewn mannau lle'r oeddent ar ei hôl hi.

§  Ehangu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig mewn mannau lle'r oeddent ar eu gwanaf.

§  Adfer ymdeimlad o gymuned, o falchder lleol ac o berthyn, yn enwedig mewn mannau lle'r oedd yr ymdeimlad hwnnw wedi'i golli a

§  Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y mannau hynny sy'n brin o arweiniad lleol.

 

Er mwyn gwneud hyn, roedd gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin dair blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi:

§  Cymunedau a Lle

§  Cefnogi Busnesau Lleol; a

§  Phobl a sgiliau

 

Roedd cronfa o'r enw Lluosi hefyd ar gael, a anelai i wella sgiliau rhifedd oedolion.

 

Prif nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU oedd meithrin ymdeimlad o falchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU. Bwriadwyd i'r gronfa ategu â chyd-fynd â Chronfa Codi'r Gwastad. Roedd cynigion cylch 2 Casnewydd i'r Gronfa honno, i ddatblygu Sefydliad Technoleg Cenedlaethol yng nghanol ein dinas, wedi'u cymeradwyo i'w cyflwyno gan y Cabinet ym mis Mehefin.

 

Roedd Cyllid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei ddyrannu i lefydd ar draws y DU ar sail anghenion, ac roedd y 10 Awdurdod Lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi derbyn dyraniad amodol cyfun o fwy na £230m, a thros £48m drwy Lluosi. Roedd disgwyl i Gasnewydd dderbyn ychydig dros £27m ar gyfer gwariant craidd a £5.6m arall drwy Lluosi dros y tair blynedd nesaf.

 

Er mwyn tynnu'r cyllid hwn i lawr, roedd yn ofynnol i bob awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ddatblygu un cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer y rhanbarth cyfan. Byddai'r cynllun buddsoddi hwn yn pennu'r fframwaith lefel uchel o ymyriadau a fyddai'n cael eu datblygu a'u darparu ar raddfa leol.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd mai datblygu'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol oedd dechrau proses y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Cynllun strategol ydoedd a nodai'r ymyriadau trosfwaol a oedd yn gysylltiedig â thair blaenoriaeth buddsoddi'r Gronfa ar draws y rhanbarth. Ni fyddai pob ymyriad rhanbarthol yn berthnasol i Gasnewydd, ond drwy'r strategaeth drosfwaol hon bu modd inni ddechrau deall beth oedd ein blaenoriaethau lleol, a datblygu cynllun cyflawni lleol, mewn partneriaeth â'n cymunedau a'n rhanddeiliaid.

 

Byddai angen cyflwyno'r cynllun buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth y DU erbyn 1 Awst. Yn rhan o'r broses hon, roedd angen penodi un awdurdod lleol i ysgwyddo rôl 'Awdurdod Lleol Arweiniol' i ddibenion gweinyddu, a chynigiwyd mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a ddylai gyflawni'r rôl honno.

 

Roedd llawer o waith i’w wneud o hyd yn gysylltiedig ag agweddau ar lywodraethu i gyd-fynd â gweinyddu'r cyllid, a byddai Pennaeth y Gyfraith a Safonau yn goruchwylio hyn. Yr hyn sy'n amlwg yw bod Casnewydd ar fin elwa ar gyllid sylweddol i'n cymunedau, i'n busnesau ac i sicrhau bod gan  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RDLP - Gweledigaeth, Materion ac Amcanion pdf icon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Rheoleiddio Tai yr adroddiad hwn.

 

Roedd Cyngor Dinas Casnewydd eisoes wedi cytuno i ddechrau gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol newydd, ac fel yr oedd ei chyd-aelodau'n si?r o wybod, roedd hi'n cymryd o leiaf 3.5 mlynedd i fabwysiadu cynllun datblygu newydd. Roedd llawer o gamau a thasgau i'w cwblhau cyn y byddai'n bosib ei fabwysiadu, ond rhan bwysig iawn o'r broses oed ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid. Roedd angen inni wybod sut roedd pobl yn gweld ein Dinas yn datblygu ac yn gweithredu dros y 15 mlynedd nesaf, ac roedd yr adroddiad gerbron y Cabinet yn amlinellu'r cam ymgysylltu diweddaraf a oedd wedi'i gyflawni.

 

Roedd angen Gweledigaeth ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol, yn debyg i bob strategaeth arall. Roedd angen ymdeimlad clir o gyfeiriad i'n harwain at y Gasnewydd yr oedden am ei gweld yn 2036. Ond er mwyn llunio Gweledigaeth roedd yn rhaid inni ddeall beth oedd ein cyd-destun cyfredol, a rhoi ystyriaeth hefyd i'r hyn a oedd wedi newid ers mabwysiadu'r cynllun diwethaf yn 2015. Gwyddom fod llawer wedi newid. Nid oedd y cynllun presennol yn canolbwyntio ar y newid hinsawdd na theithio llesol, ond roedd y naill a'r llall yn bwysig iawn inni bellach. Yn yr un modd, er bod ansawdd yr aer a pherygl llifogydd yn rhan annatod o'r cynllun cyfredol, bu newidiadau sylweddol o ran polisi ers 2015 yr oedd angen eu hadlewyrchu'n briodol mewn cynllun newydd. Roedd yr holl faterion pwysig hyn wedi'u hadlewyrchu yn y weledigaeth a'r amcanion arfaethedig, ond roedd hi'n bwysig inni ofyn y cwestiwn - a ydym wedi anghofio unrhyw beth? - i randdeiliaid a phreswylwyr.

 

Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni buom yn gweithio gyda Chymorth Cynllunio Cymru i gynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid â grwpiau fel Cynghorau Cymuned, Datblygwyr a Grwpiau Amgylcheddol. Cynhaliom hefyd ddau ddigwyddiad i ymgysylltu â'r cyhoedd yn ein hybiau cymdogaeth ar draws y ddinas, i sicrhau ein bod yn casglu cynifer o safbwyntiau ag a oedd yn bosibl. O ganlyniad i hyn, cafwyd 33 o ymatebion ynghylch y Weledigaeth, y Materion a'r Amcanion a gynigiwyd gennym, y manylir arnynt yn atodiad A eich adroddiad. Darparodd Cymorth Cynllunio Cymru hefyd adroddiad adborth wedi'i gyflwyno'n dda iawn y gellir ei weld hefyd yn atodiad B yr adroddiad. Roedd pobl wedi rhoi o'u hamser i ymateb a rhannu eu safbwyntiau, ac roedd hi'n bwysig cydnabod a diolch i bawb am roi o'u hamser ac ymdrechu i gymryd rhan yn y broses hon.

 

Bu'r ymateb yn gadarnhaol ar y cyfan, ac roedd llawer yn cydnabod potensial ein Dinas fel ardal dwf genedlaethol. Roedd sylwadau eraill yn canolbwyntio ar newidiadau manylach i'r geiriad, ond ar y cyfan teimlwyd bod pobl yn cytuno â lefel yr uchelgais, yr hyblygrwydd a'r cwmpas. Fodd bynnag gwnaed mân newidiadau i adlewyrchu'r adborth, a nodir y rhain ar eich cyfer yn Atodiad C.

 

Roedd y Cyngor yn dal i fod ar ddechrau proses y cynllun newydd a byddai'r Cabinet yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Yr Iaith Gymraeg a'r Adroddiad Blynyddol pdf icon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddweud wrth ei chyd-aelodau ei bod hi'n ofynnol i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar ei gynnydd tuag at gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Roedd yr adroddiad blynyddol yn rhoi trosolwg o gynnydd y Cyngor tuag at gyrraedd y Safonau, yn cynnwys gwybodaeth yr oedd yn ofynnol yn gyfreithiol i'w chyhoeddi'n flynyddol, crynodeb o gyflawniadau allweddol yn ystod y flwyddyn a meysydd â blaenoriaeth i weithio arnynt yn y dyfodol.

 

Dyma rai o uchafbwyntiau 2021-22:

 

·        Ein gwaith gyda'n cymunedau o ffoaduriaid, ymfudwyr a chymunedau lleiafrifol ethnig i ymwreiddio'r Gymraeg yn well, gan greu ymdeimlad cyffredin o hunaniaeth ar draws y ddinas, yn enwedig yng nghyd-destun datblygu ein pedwaredd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

·        Gwnaethom wella, datblygu a dechrau darparu Polisi Sgiliau Cymraeg newydd. Mae prosesau bellach wedi'u sefydlu a'u gweithredu i alluogi darpariaeth y flwyddyn nesaf.

·        Buom yn ymgysylltu ac yn ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a'n cymunedau i lywio datblygiad ein strategaeth bum mlynedd newydd ar gyfer y Gymraeg, a gymeradwywyd gyda chefnogaeth lawn y Cyngor.

·        Gwnaethom ddatblygu trefniadau partneriaeth creadigol y tu allan i'r sector cyhoeddus a gwirfoddol, i godi proffil y Gymraeg ledled Casnewydd. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda Rygbi'r Dreigiaid a Chlwb Pêl Droed Cymdeithas Sir Casnewydd i hybu'r Gymraeg.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf, gan gynnwys:

 

·        Parhau i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i gyflawni strategaeth bum mlynedd y Gymraeg ac ymwreiddio fframwaith monitro perfformiad i asesu cyflawniad amcanion.

·        Ymgysylltu ymhellach â chymunedau amrywiol Casnewydd i hybu'r Gymraeg, codi ymwybyddiaeth ynghylch y Gymraeg a'i gwneud yn fwy gweladwy, a pharhau i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg a chynhwysiant yr iaith.

·        Ymwreiddio ein strwythur rheoli perfformiad newydd ar draws y Cyngor.

·        Cyflwyno fideos hyfforddi Cymraeg sydd newydd eu datblygu i bob aelod o staff

·        Parhau i gwmpasu ac ystyried cyrsiau Cymraeg i siaradwyr sydd wedi colli'r arfer o ddefnyddio'r iaith, neu rai sydd angen hwb i'w hyder.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cynghorydd Hughes ddweud ambell air.

 

Sylwadau Cabinet y Cynghorydd Hughes

 

'Fel yr Hyrwyddwr Aelod Etholedig dros y Gymraeg am y llynedd rwy'n falch o gefnogi gwaith ein swyddogion wrth hyrwyddo'r Gymraeg ac wrth godi proffil y Gymraeg o fewn y cyngor ac ar draws ein cymunedau.

 

Drwy fod yn rhan o'r broses Grant Cymraeg yn y Gymuned roedd yn arbennig o galonogol gweld faint o ddiddordeb a cheisiadau eithriadol gan grwpiau cymunedol ledled Casnewydd i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, ei hymwybyddiaeth a'i gwelededd ar draws holl ddinasyddion Casnewydd gan gynnwys y rhai sy'n newydd i’r Ddinas a Chymru.

 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at rai meysydd o gynnydd gwirioneddol ynghyd â rhai blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt ac edrychaf ymlaen at weld sut mae'r Gymraeg yn cael ei chroesawu gan holl ddinasyddion Casnewydd, a sut mae ein gweledigaeth o 'Gweld, Clywed, Dysgu, Defnyddio, Caru' yn cefnogi'r Gymraeg fel iaith fyw ym mhob rhan o fywyd ar draws y Ddinas' 

 

‘As Elected Member Champion  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn: Cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru - Ymateb NCC pdf icon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddweud wrth y Cabinet mai ymateb oedd hwn i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â'r diwydiant bysiau, o dan y teitl Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn - Cynllunio Gwasanaethau Bws yng Nghymru.

 

Yn rhan o'i hymagwedd cynllunio strategol, gan gynnwys Llwybr Newydd, strategaeth trafnidiaeth Cymru, roedd Llywodraeth Cymru yn parhau â'i hymdrechion i gefnogi ac annog pob un ohonom i deithio mewn modd mwy cynaliadwy, drwy hyrwyddo teithio llesol, a'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Roedd y Cabinet yn cefnogi'r nodau hynny, ac yn nodi'r manteision yn eu sgil i'n gwaith yn gysylltiedig â'r argyfwng hinsawdd.

 

Diwydiant masnachol yn bennaf oedd y diwydiant bysiau, ond roedd yn derbyn cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru a chan awdurdodau lleol. Er bod y diwydiant yn derbyn cyllid cyhoeddus, nid oedd hynny'n golygu bod rhyw lawer o reolaeth ar ddarpariaeth gwasanaeth. Fodd bynnag, yng Nghasnewydd roedd y Cabinet yn gweithio'n dda gyda'n gweithredwyr. I gyd-fynd â dyheadau Llywodraeth Cymru, roedd yr ymgynghoriad yn trafod newidiadau arfaethedig i'r diwydiant, o weithrediad masnachol i system freiniol.

 

Roedd y Cabinet yn hapus i gyfrannu at yr ymgynghoriad, fodd bynnag, ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael hyd yma, roedd yn pryderu bod nifer o risgiau sylweddol. Gallai gynyddu'r risg ariannol i'r sector cyhoeddus, lleihau darpariaeth gwasanaeth ac atebolrwydd lleol, a chreu goblygiadau posib o ran gweithrediadau trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol, ac o ran ein gweithredwr trafnidiaeth trefol. Roedd risgiau hefyd i ddyfodol y busnes. Prin oedd y manylion yn y papur gwyn i drafod sut y byddai'r risgiau hyn yn cael eu lliniaru'n ymarferol.

 

Roedd asesiad effaith rheoleiddio wedi'i gynnwys yn rhan o'r ymgynghoriad, ac roedd pryderon ynghylch y gwerthoedd yn yr asesiad hwnnw. Roedd gwaith ar y gweill gyda'n cydweithwyr ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a darn o waith yn cael ei gyflawni gan KPMG i gwestiynu'r asesiad, a'r bwriad oedd ymgorffori hynny yn ein hymateb i Lywodraeth Cymru.

 

Nid oedd y pryderon hyn yn golygu nad oedd y Cabinet yn cefnogi'r dyheadau yn yr ymgynghoriad. Roedd y Cabinet yn llwyr gefnogi gwella gwasanaethau a gwella profiadau teithwyr o fewn y diwydiant bysiau. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, y teimlad oedd fod angen rhagor o fanylion a gwybodaeth i sicrhau y gallai pob un ohonom fod yn gyffyrddus ag unrhyw newid, ac y byddai unrhyw newidiadau i wasanaethau'n fuddiol i'r holl randdeiliaid a'r cymunedau.

 

Ers drafftio'r adroddiad, dywedodd yr Arweinydd wrth y Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hamserlen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd y weithred o gyflwyno'r Bil Bysiau wedi'i gohirio tan y flwyddyn ganlynol, a fyddai'n cynyddu'r ansicrwydd i'r holl randdeiliaid.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Roedd y Cynghorydd Lacey o'r farn fod y model arfaethedig yn achosi risg ariannol. Nid oedd un model addas i bawb, ac roedd gwybodaeth leol yn hanfodol. Roedd Cymru yn wlad amrywiol, gyda maint ei phoblogaeth yn amrywio ar draws gwahanol ardaloedd. Yn ogystal â hynny, nid oedd unrhyw ddarpariaeth yn y papur hwn ar gyfer cludiant o'r  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Ôl Pontio'r UE a Materion Allweddol pdf icon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet a roddai grynodeb o'r gwaith yr oedd y Cyngor yn ei wneud ochr yn ochr â'i bartneriaid a'i gymunedau i ymateb i Bandemig Covid ac adfer ar ei ôl, yr effeithiau allanol ar yr economi a sefyllfa ein cymunedau yn y cyfnod ar ôl pontio o'r UE.

 

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, roedd cyfraddau trosglwyddo Covid wedi aros yn isel ar draws cymunedau. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, fodd bynnag, dechreuodd achosion Covid gynyddu eto oherwydd dau amrywiad newydd.

 

Roedd lleoliadau fel ysbytai'n cymryd camau i atal trosglwyddiad ac amddiffyn pobl agored i niwed drwy ailgyflwyno masgiau wyneb a mesurau angenrheidiol eraill.  Roedd yn bwysig i breswylwyr barhau i fod yn wyliadwrus ac, os oeddent yn profi symptomau Covid, i gymryd y camau angenrheidiol i hunanynysu a gwneud prawf Covid. Yn ogystal, roedd y rhai a oedd yn gymwys neu nad oeddent wedi cael brechiad yn cael eu hannog i wneud hynny. 

 

Roedd y Cyngor yn parhau i weithredu dull hybrid ar gyfer yr Aelodau a'r staff er mwyn iddynt weithio gartref a pheidio ymweld â'r Cyngor os oeddent yn amau bod ganddynt symptomau Covid neu os oeddent yn cael prawf Covid positif.

 

Dyma oedd adroddiad olaf ar weithgareddau'r Cyngor yn erbyn y Nodau Adfer Strategol yr ymrwymodd y Cabinet iddynt yn ôl ym mis Gorffennaf 2020.

 

Byddai adroddiadau rheolaidd yn parhau i gael eu cyflwyno i'r Cabinet ar waith ac ymateb parhaus y Cyngor i'r effeithiau allanol ar ein cymunedau a'n busnesau.

 

Roedd y Cyngor wedi profi cyfnod digynsail, ond roedd Cynghorwyr, swyddogion, ysgolion, gwirfoddolwyr a chymunedau yn dangos sut i gydweithio i gefnogi ein preswylwyr mwyaf agored i niwed. galluogi ein busnesau i barhau i weithredu a chynnig cyfleoedd newydd i bobl wella'u bywydau.

 

Roedd y Meysydd Cyflawni yn cynnwys:

·   Rhaglen EdTech a oedd yn cefnogi ysgolion, disgyblion, a theuluoedd drwy ddosbarthu dros 9,000 o ddyfeisiau fel bo modd addysgu gartref a chefnogi gweinyddiaeth y cynllun Prydau Ysgol am Ddim i blant sy'n agored i niwed.

·   Helpu'r GIG i ehangu'r rhaglen frechu a chynnal y system Profi, Olrhain, Diogelu.

·   Cefnogi dros 1,000 o staff swyddfa drwy roi cyfarpar TGCh a dodrefn swyddfa iddynt, i'w galluogi i weithio gartref/o bell.

·   Cefnogi gweithwyr rheng flaen ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau'r Ddinas ac adrannau eraill er mwyn iddynt barhau i ddarparu gwasanaethau a chymorth hanfodol i'n preswylwyr mwyaf agored i niwed yng Nghasnewydd.

·   Cymorth ariannol i gannoedd o fusnesau ledled Casnewydd.

·   Galluogi grwpiau cymunedol drwy Gyllidebu Cyfranogol er mwyn iddynt dderbyn cyllid i gefnogi eu cymunedau yng Nghasnewydd.

 

Roedd y Cabinet yn parhau i ddarparu a chefnogi prosiectau a mentrau allweddol ar draws ein Wardiau a'n cymunedau yng Nghasnewydd.


Yn sgil y Pandemig, roedd hi'n ymddangos bod effeithiau economaidd a byd eang parhaus yn effeithio ar yr economi, gan gynnwys effaith costau byw ar fusnesau ac aelwydydd. Roedd llawer o fusnesau a chartrefi yn wynebu cynnydd digynsail oherwydd chwyddiant yng nghostau bwyd, tanwydd, ynni a byw'n gyffredinol. Byddai'r 12 mis  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dyma'r adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith. 

 

Gofynnwyd am gael derbyn fersiwn wedi'i diweddaru o'r rhaglen.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cytuno ar y Rhaglen Waith.

 

12.

Rhan 2 Eitemau Eithriedig neu Gyfrinachol

To consider whether to exclude the Press and Public during consideration of the following item on the grounds that it will involve the likely disclosure of exempt or confidential information as defined in schedule 12A of the Local Government Act 1972 and exclusion outweighs the public interest in disclosure.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried a ddylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd wrth ystyried yr eitem ganlynol am ei bod yn debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig neu gyfrinachol, fel y'i diffinnir yn atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, a bod yr angen i wahardd y gwrthbwyso budd y cyhoedd wrth ddatgelu.

 

13.

Marchnad Dan Do Casnewydd - Cyflwyniad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd, y Pennaeth Cyllid/Dirprwy Bennaeth Cyllid a Phennaeth y Gyfraith a Safonau gyflwyniad ar y cyd i'r Cabinet ar y Farchnad Dan Do.

 

Cyflwynwyd cais gan ddatblygwyr i ymestyn cyfleuster benthyca'r Cyngor. Ystyriwyd tri opsiwn gan y Cabinet. Amlinellwyd yr opsiynau hyn yn y cyflwyniad, gan roi crynodeb ariannol i'r Cabinet, ynghyd â'r goblygiadau cyfreithiol.

Ystyriodd aelodau'r Cabinet yr opsiynau a gyflwynwyd ger eu bron, a gofynnwyd i bob swyddog roi manylion pellach er mwyn gallu gwneud penderfyniad. Ar sail hyn, cytunodd y Cabinet ag argymhelliad y swyddogion.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cytuno ag Opsiwn a Ffafrir 1, i roi estyniad o £500k arall ar y benthyciad, a chytuno i drosi'r benthyciad yn fenthyciad dros gyfnod o bum mlynedd, heb ohirio taliadau llog mwyach, a thalu llog yn fisol ar gyfradd llog isafswm o 5%.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am