Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 14eg Rhagfyr, 2022 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Tachwedd 16 fel rhai cywir.

4.

Monitor Cyllideb Refeniw pdf icon PDF 919 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i gydweithwyr, sef y cyfoesiad refeniw canol-tymor a gyflwynwyd i’r Cabinet ac esboniodd sefyllfa’r Awdurdod a ragwelwyd fel ar Hydref

 2022.

 

Yn erbyn cyllideb net o £343 miliwn, yr oedd y sefyllfa refeniw ym mis Hydref yn rhagweld gorwariant o £1.4 miliwn, sef llai na 0.5% o amrywiad yn erbyn y gyllideb. Yr oedd y gorwariant hwn ar ôl defnyddio’r holl arian wrth gefn yn y gyllideb refeniw o £4.7 miliwn a gynhwyswyd yng nghyllideb refeniw 2022/23, fel y cytunodd y Cabinet arni ym mis Chwefror 2022.

 

Er bod cryn arian wedi ei neilltuo wrth gefn yn y gyllideb ar gyfer 2022/23 er mwyn mynd i’r afael a phroblemau wedi  covid, daeth problemau newydd i’r amlwg ers cytuno ar y gyllideb:

 

·         Mae cytundeb tâl yr NJC a’r athrawon y cytunwyd arnynt am 2022/23 yn uwch na’r hyn y gwnaed darpariaeth ynddynt (ar gyfartaledd +2.4% yn uwch i’r NJC a +1% yn uwch i athrawon)

·         Mwy o alw ac felly gorwariant ar gyllidebau tai yn benodol yng nghyswllt darpariaeth digartrefedd, a

·         Mwy o alw mewn gofal cymdeithasol i blant yn benodol o ran costau lleoliadau.

 

Fel y gwelir yn yr adroddiad a’i atodiadau, ynghyd ag effaith y dyfarniad tâl, esboniwyd y sefyllfa gyfredol fel a ganlyn:

 

·         Bu cryn orwariant mewn rhai meysydd galw allweddol a risgiau eraill yn dod i’r amlwg mewn meysydd gwasanaeth

·         Gwrthweithiwyd hyn yn rhannol gan arbedion yn erbyn (i) arian wrth gefn yn y gyllideb refeniw a oedd ar gael i’r Cyngor (ii) cynllun gostyngiad treth y Cyngor a (iii) cyllidebau eraill heb fod yn rhai gwasanaeth

 

Yr oedd rhai o feysydd yn yr Awdurdod yn adrodd am gryn orwariant yn erbyn gweithgareddau penodol. Yr oedd a wnelo’r gorwariant hwn â meysydd gweithgaredd oedd yn cael eu harwain gan y galw, megis Gwasanaethau Cymdeithasol, ac felly yr oedd risg ymhlyg yn hyn y gallant newid petai lefelau galw yn newid o’r hyn a ragwelwyd ar hyn o bryd yn ystod gweddill y flwyddyn.

 

Ymysg y meysydd allweddol a gyfrannodd at y sefyllfa o £1.4 miliwn a ragwelwyd:

 

(i)            Mwy o alw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol gan gynnwys lleoliadau plant mewn argyfwng ac allan o’r ardal. Cyfrannodd y ddwy ardal hon yn unig at orwariant o bron i £3.4 miliwn i sefyllfa gyffredinol y gwasanaeth.

(ii)           Cadarnhawyd effaith dyfarniad tâl yr NJC am 2022/2. Bydd y cynnydd cyfartalog i staff y Cyngor oddeutu 6.4% o gymharu â darpariaeth o ddim ond 4% yn y gyllideb. Yr oedd hyn yn orwariant a ragwelwyd o £2.4 miliwn i staff heb fod mewn ysgolion.

(iii)          Yr oedd cryn bwysau yn amlwg mewn Tai a Chymunedau, o ran digartrefedd. Rhagwelir gorwariant o £3.1 miliwn.  Y prif broblemau yw:

 

a.     Nifer fawr yr unigolion/aelwydydd mewn llety dros dro, sy’n arwydd o barhad y sefyllfa ers cyfnod Covid.

b.     Diffyg dewisiadau o lety addas sy’n arwain at ddefnydd arwyddocaol o westai a llety gwely a brecwast, sy’n costio llawer mwy na dewisiadau mwy traddodiadol.

c.     Y  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cyllideb Refeniw Cyllideb Ddrafft a CATC: Cynigion Terfynol 2023/24 pdf icon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, sydd yn amlygu’r prif faterion sy’n effeithio ar ddatblygu cyllideb y Cyngor am 2023/24 a’r Cynllun Ariannol Tymor Canol. 

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gytuno a’r cynigion fel y byddai modd cychwyn y broses ymgynghori ar gyllideb 2023/24. Byddid yn adrodd am ganlyniadau’r ymgynghoriad wrth y Cabinet yn Chwefror 2023, pan fyddwn ni fel Cabinet yn cytuno ar gyllideb derfynol fanwl a lefel treth y cyngor yn sgil hynny i’r Cyngor llawn.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet wneud y canlynol:

 

(i)            Cytuno ar y cynigion drafft i ymgynghori arnynt;

(ii)           Cymeradwyo gweithredu’r penderfyniadau dirprwyedig a osodir allan yn atodiad 3 ac atodiad 11 yr adroddiad yn syth, a

(iii)          Nodi’r sefyllfa o ddatblygu cyllideb gytbwys am 2023/24, a nodi y byddid yn adolygu ac yn cyfoesi’r sefyllfa rhwng nawr a’r Cabinet ym mis Chwefror pan gytunir ar y gyllideb derfynol.

 

Yn anffodus, y mae heriau penodol o ran paratoi’r gyllideb eleni. Nid yn unig y mae gofyniad i adeiladau ar amgylchiadau digynsail yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond wynebir ni hefyd â newid economaidd sylweddol mewn cyfnod byr iawn o amser. 

 

Mae’r her hon yn cael ei theimlo ledled y DU, ac y mae’r cyngor a’r trigolion yn wynebu pwysau ar raddfa nas gwelwyd erioed o’r blaen. Y mae chwyddiant uchel, cynnydd enfawr mewn biliau ynni, a mwy o alw am wasanaethau yn arwain at gryn bwysau ariannol, ac y mae’r Cyngor, yn gweld diffygion sylweddol yn y gyllideb dros y tymor byr a chanol.

 

Arweiniodd hyn at fwlch sylweddol yn y gyllideb o £27miliwn rhwng yr arian sydd ar gael i’w wario a’r hyn y mae angen i’r Cyngor ei wario.

 

Er bod Datganiad Hydref Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y byddai codiadau mewn cyllid dros y ddwy flynedd nesaf, yr oedd effaith costau cynyddol yn golygu bod bwlch yn y gyllideb o hyd.

 

Yr oedd hyn yn wir hyd yn oed â chaniatáu am y ffaith fod Llywodraeth Cymru, ar 14 Rhagfyr, wedi cadarnhau y byddai cynnydd o 8.9% mewn cyllid craidd i’r Cyngor, oedd yn setliad gwell o gymharu â’r ffigwr dangosol am y setliad a roddwyd  flwyddyn yn ôl.

 

Y mae’r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn gosod cyllideb gytbwys bob blwyddyn. Yr oedd angen felly ystyried yr holl ddewisiadau posib i ymdrin â’r blwch yn y gyllideb o £27m yn 2023/24. Y mae hyn yn erbyn cefndir o arbedion sylweddol i’r gyllideb dros y ddegawd ddiwethaf o lymder.

 

Yn gyffredinol, mae’r gyllideb drafft yn cynnwys buddsoddiad o £45m yn 2023/24 a £94m dros gyfnod y cynllun ariannol tymor-canol, er bod 77% o hyn i dalu am godiadau mewn tâl a chynnydd mewn chwyddiant. Soniodd yr Arweinydd yn benodol am y meysydd buddsoddi lle’r oedd yr angen fwyaf. Dymuniad yr Arweinydd oedd i’r Cyngor feddu ar yr adnoddau ychwanegol i fuddsoddi mewn llawer maes arall, ond y gwir yw nad yw hyn yn ddewis gyda’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i ni.

 

Y mae ysgolion yn wynebu llawer o bwysau oherwydd chwyddiant a chynnydd mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf ac Ychwanegiadau pdf icon PDF 385 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet, oedd yn rhoi trosolwg o’r cyllidebau cyfalaf wedi eu cyfoesi am y flwyddyn ariannol hon a gweddill cyfnod y rhaglen gyfalaf, ochr yn ochr â’r rhagolwg am y sefyllfa fel ar Hydref eleni.

 

Dyma ail adroddiad monitro cyfalaf blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Yr adroddiad diwethaf a dderbyniwyd gan y Cabinet oedd adroddiad monitro ac ychwanegiadau mis Gorffennaf, a oedd, ynghyd â’r sefyllfa gyffredinol o ran monitro, yn crybwyll yr ymarferiad a wnaed gan y swyddogion i adolygu’r proffil gwariant a ragwelwyd ar gyfer pob cynllun, gyda’r nod o sicrhau adrodd cyllideb gychwynnol fwy realistig am y flwyddyn.

 

Bu nifer o ychwanegiadau a newidiadau i’r rhaglen ers hynny, gyda’r rhan fwyaf yn ymwneud ag ychwanegu cynlluniau penodol a gyllidwyd â grantiau. Cyfanswm y rhain oedd £8.512m, ac y mae manylion amdanynt yn Atodiad A, ac y maent yn cael effaith ar draws sawl blwyddyn ariannol, gyda £6.996m yn cael ei ychwanegu i 2022/23 yn unig. Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r ychwanegiadau hyn i’r rhaglen. 

 

Effaith net yr ychwanegiadau a’r newidiadau hyn oedd cynyddu cyfanswm y gyllideb am 2022/23 i £88.4m.

 

Yn erbyn y gyllideb ddiwygiedig o £88.4m yn 2022/23, rhagwelwyd gwariant o £71.1m.

 

Yr oedd yr amrywiad hwn yn cynnwys £17.1m o lithriad a £191k o “wir” danwariant a gorwariant net.

 

Gofynnwyd yn unig i’r Cabinet nodi’r llithriad cyfredol a ragfynegwyd, yn hytrach na chymeradwyo llithriad yn y cyfnod hwn o’r flwyddyn. Yn hytrach, byddai llithriad yn cael ei nodi ym mhob adroddiad monitro, a dim ond yn adroddiad terfynol y flwyddyn y byddai gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cyfanswm i’w drosglwyddo i’r blynyddoedd i ddod.

 

Yr oedd nifer o gynlluniau oedd yn rhagweld ffigyrau llithriad uchel, gan gynnwys Ysgolion Band B, y Bont Gludo, a’r Ganolfan Hamdden.

 

Amlinellodd yr adroddiad hefyd y sefyllfa bresennol o ran cyfalaf, sef:

·         £57k o gyfleuster benthyca

·         £1.525m o wariant cyfalaf wrth gefn  nas ymrwymwyd

·         £1.474m o dderbyniadau cyfalaf nas ymrwymwyd

 

Yr oedd balans yr hyn oedd ar gael yn cymryd i ystyriaeth ymrwymiadau a adlewyrchwyd eisoes yn y Rhaglen Gyfalaf, yn ogystal â chyllid ychwanegol darpariaethol i ddwyn cyfanswm cyllid cyffredinol Band B i £90m ond nid oedd wedi ei gynnwys ar hyn o bryd yn y rhaglen gyfalaf. Cyfanswm y cyfalaf oedd ar gael felly oedd £1.789m.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

·         Diolchodd y Cynghorydd Batrouni i’r staff cyllid am gadw’r rhaglen gyfalaf yn gyfoes, o ran chwyddiant a’r pandemig. 

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn

 

1.         Cymeradwyo’r ychwanegiadau i’r Rhaglen Gyfalaf y gofynnwyd amdanynt yn yr adroddiad (Atodiad A).

2.         Nodi’r sefyllfa o ran gwariant cyfalaf a ragwelwyd am 2022/23.

3.         Nodi’r adnoddau cyfalaf sydd weddill, a’r defnydd a glustnodwyd ar ei gyfer.

 

7.

Adroddiad Rheoli'r Trysorlys pdf icon PDF 463 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd yr adroddiad cydymffurfio i gadarnhau bod y gweithgareddau Trysorlys yn cyd-fynd â’r Strategaeth Trysorlys a ystyriwyd ac a osodwyd gan yr Aelodau.

 

Ei bwrpas oedd rhoi gwybod i’r Cabinet am weithgareddau trysorlys a wnaed yn ystod y cyfnod o fis Ebrill 2022 tan ddiwedd Medi 2022 a chadarnhau, (ac eithrio am fod yn agored i amrywiadau mewn cyfraddau llog), y parheir i gadw at yr holl ddangosyddion trysorlys a darbodus.

 

Cyflwynwydyr adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a’i gadarnhau ganddynt i’w ystyried gennym ni yn y Cabinet, a’r Cyngor yn y pen draw.

 

Yroedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth a ganlyn:

 

·                Atgoffa am y strategaeth trysorlys y cytunwyd arni

·                Manylion am weithgaredd benthyca a buddsoddi

·                Ystyriaethaueconomaidd ehangach, e.e., y pandemig, hinsawdd economaidd

·                Cyfoesiadar god Rhyngwladol y Trysorlys ar gyllid buddsoddi masnachol

·                Gorffengydag archwiliad o weithgaredd yn erbyn perfformiad, gan gadarnhau cydymffurfio

 

O ran yr agwedd fenthyca, amlygodd yr adroddiad fod benthyca, fel ar 30 Medi 2022, yn £140.6m, gostyngiad o £1.5m o gymharu â lefelau 2021-22 levels.

 

Yroedd y gostyngiad hwn wedi ei achosi yn bennaf gan ein benthyciadau Rhanddaliadau Cyfartal y Prifswm (EIP), oedd yn talu’r prifswm yn ôl dros einioes y benthyciad (ac o’r herwydd yn denu llai o gostau llog), fel dewis arall yn lle ein benthyciadau aeddfedu lle’r ad-delir y prifswm ar ddiwrnod olaf y benthyciad.

 

Dywedodd y swyddogion wrth y Cabinet, wrth i gyfraddau llog godi, mae’n debyg y bydd ein benthyciadau LOBO (Cynnig sawl sy’n rhoi benthyg cynnig y sawl sy’n benthyca) yn cael eu galw i mewn. Ystyr hyn yw bod y sawl sy’n rhoi benthyg yn gofyn am newid cyfraddau y cyfleusterau hyn tuag i fyny, a’r benthyciwr (y Cyngor) naill ai’n derbyn y gyfradd uwch neu yn ad-dalu’r ddyled. Ni wnaed unrhyw geisiadau o’r fath yn hanner cyntaf 2022-23, ond petaent yn cael eu gwneud yn ail hanner y flwyddyn, oni fyddai digon o gymhelliant i dderbyn y newid yn y gyfradd llog, yr oedd y swyddogion yn rhagweld y byddai benthyca mwy traddodiadol yn cymryd eu lle yn y man.

 

Y mae’r rhagolygon gwariant cyfalaf cyfredol yn golygu peth llithriad, felly nid oedd disgwyl y byddai angen  cymryd mwy o fenthyciadau tymor-hir yn y flwyddyn ariannol hon, er nad oedd hynny’n cau allan ystyried benthyca allanol petai’r sefyllfa yn fanteisiol fel  ffordd o warchod er mwyn rheoli risgiau cyfraddau llog, gan gydnabod fod rheidrwydd ar y Cyngor o hyd i fenthyca yn y tymor hwy. Byddai unrhyw benderfyniad i wneud hyn yn cael ei wneud yn unol â chyngor gan ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor ac yn unig lle byddai budd ariannol clir o wneud hynny.

 

O ran buddsoddiadau, yr oedd lefel y buddsoddiadau ar 30 Medi yn £50m, gan ostwng o £8.2m ers canlyniad 2021-22, wrth i ni ddefnyddio adnoddau o’r  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Diweddariad am y Gofrestr Risg Gorfforaethol pdf icon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd yr adroddiad i roi cyfoesiad am Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor am ddiwedd Chwarter dau (1 Gorffennaf hyd 30 Medi 2022).

 

Gofynnwydi aelodau’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad hwn a pharhau i fonitro’r risgiau hyn a’r camau a gymerwyd i ymdrin â’r risgiau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Yroedd Polisi Rheoli Risg y Cyngor a’r GofrestrRisg Gorfforaethol yn galluogi’r weinyddiaeth hon a’r swyddogion i nodi, rheoli a monitro yn effeithiol y risgiau hynny fyddai’n atal y Cabinet rhag cyrraedd ei flaenoriaethau strategol ac i gyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

 

Byddai’radroddiadrisg Chwarter dau hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor ym mis Ionawr 2023 i adolygu prosesau rheoli risg y Cyngor a’r trefniadau llywodraethiant.

 

Arderfyn chwarter dau, yr oedd gan Gyngor Casnewydd 42 risg wedi eu cofnodi ar draws unarddeg maes gwasanaeth y Cyngor.

 

Mae’rrisgiau y tybir fel y rhai mwyaf arwyddocaol i gyflwyno Cynllun Corfforaethol a gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu rhoi ar GofrestrRisg Gorfforaethol yCyngor i’w monitro. 

 

Arderfyn chwarter dau, cofnodwyd 14 risg ar y GofrestrRisg Gorfforaethol.

·         Wyth Risg Difrifol (15 i 25);

·         Chwe Risg  Mawr (saith i 14);

 

O gymharu â chwarter un, nid oedd unrhyw risgiau newydd a/neu rai a godwyd, a chaewyd dau risg.

 

Yroedd deg risg ar yr un sgôr ag yn chwarter un.

 

Cynyddoddsgôr tri risg, ac aeth un i lawr ar y GofrestrRisg Gorfforaethol.

 

Gyda sgôr risg wedi codi o 20 i 25, yr oedd cryn alw ar wasanaethau cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd ac yn y chwarter olaf, yr oedd Gwasanaethau Plant  Casnewydd wedi gorfod rhoi mesurau ar waith i reoli’r cynnydd yn nifer yr achosion a gyfeiriwyd o’u canolfan ddiogelu. 

 

Yroedd pwysau hefyd ar y staff, rheoli eu lefelau salwch a recriwtio i swyddi gwag.

 

Yroedd y gwasanaeth yn gweithio er mwyn sicrhau blaenoriaeth o’r rhai oedd fwyaf bregus ac yn wynebu risg, a hyn trwy asesiadau risg a sicrhau bod gwasanaethau statudol yn cael eu cyflwyno.   

 

Cynyddoddsgôr risg Cyllideb Tymor-Canol y Cyngor o 12 i 20, fel y crybwyllwyd eisoes yn y Cabinet, oherwydd bod y Cyngor yn wynebu bwlch cyllideb sylweddol yn ei Gynllun Ariannol Tymor-Canol.

 

Yroedd Adroddiad Cyllid y Cabinet a chyflwyno cynigion y gyllideb yn dangos y camau y mae’r Cyngor yn gymryd i adnabod arbedion ar draws meysydd gwasanaeth er mwyn lleihau effaith y bwlch cyllideb. 

 

ByddaiCyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori â’r cyhoedd ar gynigion y gyllideb ac yn ystyried yr adborth gan y cyhoedd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol yn y Flwyddyn Newydd.

 

Y mae effaith bosib seibr-ymosodiadau yn dal yn amlwg; gostyngodd y sgôr risg o 16 i 12.  Trwy gydol y flwyddyn, bu gwasanaeth TG Cyngor Casnewydd (dan arweiniad y Cyd-Wasanaeth Adnoddau) yn cynnal profion, yn monitro ac yn adrodd  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cynllun Lles Gwent pdf icon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau am Gynllun Lles Gwent 2023-28, gan geisio sylwadau gan y Cabinet fel rhan o’r broses ymgynghori statudol.

 

Yr oedd gofyniad statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i Gyrff gwasanaethau Cyhoeddus gynhyrchu cynllun lles fyddai’n gosod allan amcanion sut i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd i gyfrannu at gyrraedd y saith Nod Llesiant Cenedlaethol

 

Ym mis Gorffennaf 2021 cytunwyd y dylai’r pump BGC lleol, gan gynnwys UnCasnewydd, uno i ffurfio BGC Gwent, a thrwy hynny gryfhau trefniadau partneriaeth ar draws y rhanbarth. Yr oedd y cynllun lles felly wedi ei seilio ar asesiadau angen ar draws Gwent gyfan, gan gynnwys chwe ardal leol Casnewydd

 

Fel cadeirydd partneriaeth UnCasnewydd, a ddaeth yn gr?p cyflwyno lleol, byddai’r Cyngor yn cydweithio’n agos gyda’r holl bartneriaid i gyflwyno amcanion y cynllun terfynol yn rhanbarthol a lleol 

 

Dangosodd dadansoddiad mo’r asesiadau angen y tair thema allweddol yr oedd ein trigolion am eu blaenoriaethu, wedi eu grwpio dan yr amcanion drafft isod o’r ymgynghoriad:

·         Yr ydym eisiau creu Gwent deg a chyfartal i bawb

·         Yr ydym eisiau creu Gwent sydd â chymunedau cyfeillgar, diogel a hyderus

·         Yr ydym eisiau creu Gwent lle mae’r amgylchedd naturiol yn cael ei warchod a’i wella er mwyn cael y manteision lles mwyaf a rydd natur i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw cydweithwyr y Cabinet at bob un o’r amcanion drafft a’r camau cysylltiedig.

 

Caeodd y cyfnod 12-wythnos statudol o ymgynghori ar y cynllun drafft ar 31 Rhagfyr, ac wedi hynny byddai’n cael ei newid, a chyflwyno fersiwn derfynol i’r Cyngor i’w gymeradwyo a’i fabwysiadu ym mis Chwefror 2023. 

 

Byddai’n rhaid i bob sefydliad arall sy’n bartneriaid hefyd gytuno i’r Cynllun, ac y mae cytuno i gynllun terfynol BGC Gwent i ddigwydd ganol Ebrill 2023, a’i gyhoeddi ym Mai 2023.

 

Ochr yn ochr â hyn, yr oedd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid UnCasnewydd a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu’r cynllun gweithredu lleol er mwyn mynd i’r afael ag anghenion penodol cymunedau ledled y ddinas.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

·         Paratôdd y Cynghorydd Batrouni ddau gwestiwn i’r Arweinydd am ba feysydd eraill y gallai cynghorau Gwent wella gwasanaethau.  Yng ngoleuni hyn, gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol a oeddem yn rhannu data, neu ddadansoddiad manwl o batrymau, neu ragolygon at y dyfodol gyda’n partneriaid, a pha gamau oedd yn cael eu cymryd i gyrraedd yr amcanion. Rhoddwyd enghraifft, sef lleihau tlodi plant: dan bennawd rheoli perfformiad, crybwyllwyd sut yr oeddem yn gwneud cynnydd, ond nid oedd dim wedi ei nodi dan hyn, a theimlai’r Aelod Cabinet fod hwn yn bwynt allweddol ddylai gael ei gwblhau. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd fod hyn wedi ei grybwyll yng nghyfarfod Partneriaeth UnCasnewydd y diwrnod cyntaf, a bod y blaenoriaethau angen eu pwysleisio. Yr oedd yr amcan drafft cyntaf, sef creu Gwent deg a chyfartal, yn ymrwymiad uchelgeisiol iawn i’r holl bartneriaid ar draws BGC Gwent. Yr oedd gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Athro  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cyd-fenter Norsaidd pdf icon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd yr adroddiad yn amlygu’r bartneriaeth a grëwyd rhwng Casnewydd Norse yn 2014 fel menter ar y cyd rhwng Cyngor Dinas Casnewydd a gr?p Norse, cwmni gwasanaethau cyhoeddus ym mherchenogaeth Cyngor Swydd Norfolk. 

 

Yroedd y bartneriaeth yn darparu gwasanaeth Rheoli Eiddo a Chyfleusterau integredig, ac yn cynnwys gwasanaethau proffesiynol megis rheoli a dylunio stadau; cynnal adeiladau, rheoli eiddo a glanhau, gyda chefnogaeth llafurlu uniongyrchol.

 

Tymorcychwynnol y contract oedd deng mlynedd, yn dod i ben ym Mehefin 2024, gyda’r cyfle i’w ymestyn am hyd at ddeng mlynedd. Rhaid cymryd unrhyw benderfyniad o’r fath erbyn 30 Rhagfyr 2022.

 

Yroedd hyn yn gyfle i adolygu’r trefniant ac ystyried gofynion y dyfodol.

 

Cyflwynoddgwaith y Cyngor gyda Norse amrywiaeth o fanteision i’r Cyngor a’r gymuned yn ehangach. Cynhyrchodd y bartneriaeth gryn wariant yn lleol gyda chyflenwyr yn ardal cod  post NP, ac y mae Norse yn cyflogi tua 320 o staff gan gynnwys prentisiaid a hyfforddeion.

 

Yroedd Norse Casnewydd yn rheoli amrywiaeth o asedau adeiledig i Gyngor y ddinas gyda chyfanswm gwerth yr asedau yn rhyw £320m.  Y mae’r Gydfenter Norsaidd ynsiop un stopi’r holl wasanaethau eiddo, ac yn gweithredu fel Landlord Corfforaethol y Cyngor’, gan sicrhau fod polisïau’r Cyngor yn cael eu dilyn a bod y Cyngor yn gwneud y defnydd gorau o’i asedau eiddo.

 

Yroedd y bartneriaeth yn destun adroddiadau craffu blynyddol, yn fwyaf diweddar ym mis Tachwedd 2022.   Yn y cyfarfod, nodwyd y cynnydd cadarnhaol a wnaed, er bod materion a godwyd yn cynnwys y cytundeb gwasanaeth a phwyslais ar werth cymunedol a chymdeithasol ehangach. Yr oedd hyn yn cyd-fynd â dyheadau Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor i roi gwerth cymdeithasol wrth graidd ein gweithgareddau.

 

O ystyried y gwaith sylweddol a wnaed gan Norse Casnewydd, y risgiau a’r manteision posib ar derfyn y bartneriaeth, yr oedd yr adroddiad yn cynnig ymestyn y contract presennol am gyfnod byr, gyda gwell manteision ariannol, fyddai’n caniatáu amser i adolygu’r model cyflwyno.

 

Byddaihyn hefyd yn rhoi cefnogaeth i raglen o resymoli asedau fel sy’n cael ei osod allan yn ein Cynllun Corfforaethol ac yn ystyried sut y cawn y budd cymunedol mwyaf o unrhyw drefniant yn y dyfodol.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet i ymestyn y Cytundeb Gwasanaeth gyda Chydfenter Norsaidd tan 31 Rhagfyr 2025 yn amodol ar gytuno ar well manteision ariannol ac adolygu’r model cyflwyno a gofynion y dyfodol.

 

11.

Cynllun Ariannol y Gronfa Integreiddio Ranbarthol pdf icon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yreitem nesaf ar yr agenda a gyflwynwyd gan yr Arweinydd oedd adroddiad yn amlinellu’r rhwymedigaethau ariannol yn deillio o’r cynnig i leihau Cronfa Integreiddio Ranbarthol Gwent, gan ddisgrifio sut y sefydlwyd y gronfa fel rhan o’r Rhaglen Lywodraethu i arwain a chefnogi trawsnewid mewn gofal cymdeithasol ac iechyd ar draws y sector cyhoeddus.

 

Sefydlwyd y Gronfa Integreiddio Ranbarthol fel rhaglen bum-mlynedd i greu newid cadarnhaol ac arloesedd er mwyn gwella gwasanaethau i’n dinasyddion mwyaf bregus. Yr oedd cyfanswm y Gronfa Integreiddio Ranbarthol  yr un fath am y pum mlynedd gyfan, ond y cynnig oedd ei lleihau er mwyn rhyddhau arian bob blwyddyn i brosiectau newydd tra bod prosiectau a gyllidwyd yn flaenorol yn cael eu prif-ffrydio.

 

Foddbynnag, yr oedd y gronfa yn olynydd i raglenni blaenorol a gyllidwyd gan grantiau y Gronfa Gofal Integredig.

 

Yroedd llawer o’r rhaglenni yr arferid eu cyllido gan y Gronfa Gofal Integredig ac a gyllidir yn awr gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol yn hanfodol er mwyn parhau i gyflwyno gofal cymdeithasol yn ddiogel i wasanaethau plant ac oedolion.

 

Ymysgrhai o’r amryfal wasanaethau a gefnogir gan y gronfa y mae gwasanaethau ymyriad cynnar i bobl â dementia, cefnogaeth i ofalwyr di-dâl, gofal Gwarcheidwaeth Arbennig a gwelyau camu i fyny / camu i lawr.

 

Y mae llawer o’r gwasanaethau yn cael eu rheoli a’u rhedeg yn rhanbarthol, ond y mae gwasanaethau ar gyfer ein trigolion ni yn unig yn derbyn cyfanswm o £2,049,655 mewn Cyllid Rhanbarthol Integredig. Yn 2023/2024, blwyddyn gyntaf y lleihau, bydd yn rhaid i ni sicrhau £396,719 er mwyn cynnal y gwasanaethau presennol.

 

Yroedd cydweithwyr yn y Cabinet yn cefnogi’r uchelgais i allu parhau i gyflwyno arloesedd a sicrhau bod gwersi cadarnhaol yn rhan allweddol o gyflwyno ein gwasanaethau. Byddai’r cynnig i leihau’r cyllid yn raddol yn fecanwaith i ryddhau carian grantiau wedi treialu modelau newydd fel cynlluniau peilot.

 

Gwaetha’rmodd, byddai’r newid yn y rhagolygon ariannol  yn golygu y byddai mabwysiadu’r lleihau graddol yn golygu diwedd ar wasanaethau allweddol gan na fyddai modd i ni eu cyllido o gyllidebau eraill.

 

Y mae pob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd yn rhoi ystyriaeth i’r trefniadau lleihau graddol presennol a’r heriau y mae model o’r fath yn gynrychioli. Y mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent yn ceisio barn y partneriaid er mwyn dod i gytundeb.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

·         Soniodd y Cynghorydd Hughes, sy’n cynrychioli’r Cabinet ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, fod Casnewydd yn dal wedi ymrwymo i amcanion y GIR a’r cynnydd sylweddol a wnaed eisoes. Yr ydym eisiau gweld newid trawsnewidiol yn digwydd ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol er budd dinasyddion Cymru, Casnewydd a rhanbarth Gwent. Bu cryn newidiadau economaidd ers sefydlu’r gronfa, oedd wedi dod a heriau o ran gweithredu’r lleihau. Yr ofn oedd y byddai hyn yn tanseilio’r galwadau craidd ac elfennau o’r ddarpariaeth. Bydd lleihau’r arian  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Adroddiad Blynddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yreitem nesaf ar yr agenda a gyflwynwyd gan yr Arweinydd oedd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Yroedd gan y Cyfarwyddwr Strategol, fel y Cyfarwyddwr dynodedig dros Wasanaethau Cymdeithasol, ddyletswydd statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ac fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i gynhyrchu adroddiad blynyddol i’r Cyngor.

 

Rhaidi’r adroddiad osod allan asesiad personol ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol o berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyni ei swyddogaethau gofal cymdeithasol yn ystod y 12 mis a aeth heibio.

 

Yroedd yr adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod 2021 i 2022 ac wedi ei osod allan yn y fformat a nodwyd dan y canllawiau.

 

Gwahoddoddyr Arweinydd y Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol i ddweud ychydig o eiriau.

 

Crybwyllodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol waith caled y staff oedd yn dal i roi gwasanaeth i ddinasyddion bregus ar waethaf yr amgylchiadau heriol. Dylem ymfalchïo yn ein cydweithwyr a’r gwaith maent yn wneud. Diolchodd y  Cyfarwyddwr Strategol i’r Arweinydd am y cyfle i siarad.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, yr oedd y Cyngor wedi gweld ailstrwythuro ein tîm Uwch-reoli a phenodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol parhaol. Wrth gwrs, effeithiwyd yn enfawr ar gyflwyno gofal cymdeithasol yn 2021 2022, yn gyntaf gan covid a chyfyngiadau’r pandemig, ac yn fuan wedyn, problemau costau byw.

 

 

Ychwanegoddyr Arweinydd hefyd fod staff ar draws yr holl Wasanaethau Cymdeithasol yn parhau i roi’r rhan fwyaf o’u darpariaethau wyneb yn wyneb, er yn manteisio ar weithio hybrid mewn rhai meysydd allweddol. Yr ydym yn parhau i ddysgu a gwella arferion o ran y dull hwn o weithio.

 

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

·         Nododd y Cynghorydd Hughes mai adroddiad ôl-weithredol oedd hwn, a dymunodd ymddeoliad hapus i Chris Humphries. Yr oedd gan y gwasanaethau cymdeithasol dîm rheoli eithriadol oedd yn cwrdd â heriau’r pandemig yn ogystal â’r newidiadau strwythurol. Y mae’r maes gwasanaeth yn dal i gadw trigolion Casnewydd yn ddiogel, ac yr oedd yr Aelod Cabinet felly’n teimlo bod yr adroddiad hwn yn amlygu eu rhagoriaeth. Byddai’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn dal i wynebu mwy fyth o alwadau, ac yr oedd y staff yn glod i’r ddinas. Diolchodd y  Cynghorydd Hughes hefyd i’r Cynghorydd Cockeram, y cyn-Aelod Cabinet, yn ogystal â Sally-Ann Jenkins, y Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol gan gydnabod ei gwaith caled a’i chyfraniad i bob rhan o’r ddinas.

 

·         Diolchodd y Cynghorydd Marshall i’r Arweinydd am y gefnogaeth ariannol ychwanegol o ran y newidiadau a ddigwyddodd adeg yr adroddiad. Teimlai’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol fod yr Arweinydd yn iawn i dynnu sylw at y mentrau arloesol yn y gwasanaeth, megis y gwaith Babi a Fi, oedd yn arfer da yng Nghasnewydd.  Yr oedd yr adroddiad yn glir, mawl, agored a thryloyw, a diolchodd i’r Cyfarwyddwr, y rheolwyr a’r holl staff am eu parodrwydd i helpu eraill  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Adroddiad Pwysau Allanol pdf icon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd yr adroddiad uchod, sef ymateb y Cyngor i’r pwysau allanol oedd yn cael effaith ar eu gwasanaethau.

 

Mae’radroddiad yn rhoi trosolwg o’r effaith economaidd ehangach ar lefel y DU a Chymru ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf i’r Cabinet ym mis Tachwedd 2022.

 

Yroedd y sefyllfa yn heriol, ac y mae’n bwysig i bawb gydweithio gyda phartneriaid er mwyn gallu cynnal ein trigolion mwyaf bregus gymaint ag y gallwn. 

 

Yroedd cymunedau ledled Casnewydd yn wynebu pwysau ariannol digynsail oherwydd cynnydd mewn chwyddiant ym mhrisiau ynni, bwyd, morgeisi, rhent a chostau eraill i aelwydydd. 

 

Yn ychwanegol at hyn, yr oedd y sector cyhoeddus gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, busnesau, elusennau a mudiadau nid-am-elw hefyd yn wynebu costau cynyddol ac yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd o ran y gwasanaethau a ddarperir ac yn pasio’r costau hyn ymlaen i’r cwsmer. Rhagwelir y bydd mwy o heriau yn y gaeaf, a mwy o effaith ar gymunedau a busnesau. 

 

Diolchoddyr Arweinydd i’r staff am eu gwaith caled cyson. Y mae  Casnewydd yn ddinas noddfa a byddai’n rhoi cefnogaeth i’r sawl fydd ei angen.

 

Yroedd gan Gasnewydd hanes maith o groesawu pobl oedd yn chwilio am nodded, ac y mae’n parhau i gynnig lle diogel i’r sawl sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, ac y mae’r Cyngor yn llawn gefnogi cynlluniau Llywodraethau’r Du a Chymru i roi nodded ddiogel.

 

Yroedd hyn,  fodd bynnag, yn rhoi mwy o alw ar wasanaethau’r Cyngor ac yn enwedig ar y stoc tai preifat a gwasanaethau gofal cymdeithasol.

 

Yroedd trigolion oedd yn cael anhawster felly’n cael eu hannog i gysylltu â’r Cyngor a fyddai’n darparu cymorth a chefnogaeth i bobl dalu eu biliau a cheisio eu hatal rhag mynd i drafferthion ariannol. 

 

Yroedd gweithio gyda phartneriaid yn bwysig i gyrraedd y nod hwn. Fel Cadeirydd UnCasnewydd, yr oedd yr Arweinydd yn hyderus am y partneriaethau cryf ledled y ddinas, ac y mae ymrwymiad ac ymroddiad yr holl bartneriaid i wneud popeth yn eu gallu yn galonogol, fel y gwelwyd mewn uwch-gynhadledd costau byw ym mis Tachwedd, a gynhaliwyd gan yr Arweinydd.

 

Byddaiswyddogion yn parhau i hwyluso digwyddiadau cymunedol ledled y ddinas gydag amrywiaeth o bartneriaid er mwyn rhoi cyngor a chyfarwyddyd arm y gefnogaeth sydd ar gael o ffynonellau lleol a chenedlaethol, a byddant yn parhau i gefnogi mentrau Llywodraeth Cymru gan gynnwys mannau cynnes a chymorth i hawlio’r hyn sy’n ddyledus

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

·         Soniodd y Cynghorydd Davies am waith caled y gwirfoddolwyr oedd yn mynd â bwyd i’r rhai hynny yng Nghasnewydd oedd mewn angen. Gwnaeth y Cynghorydd Spencer Siôn Corn arbennig i blant yn ei ward.  Diolchodd yr Aelod Cabinet i ysgolion yng Nghasnewydd am weithio’n galed yn ogystal ag am ddarparu talebau bwyd ar gyfer prydau ysgol.

 

·         Soniodd y Cynghorydd Clarke ei fod  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hwnoedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith. 

 

I dderbyn y rhaglen a gyfoeswyd.

 

Penderfyniad:

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith.