Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 15fed Chwefror, 2023 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod ar 11 Ionawr yn gywir.

4.

Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys - 2023/24 pdf icon PDF 4 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad blynyddol a oedd yn manylu ar gynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor, effaith ariannol y rheiny yn nhermau benthyca, a'r strategaeth fuddsoddi ar gyfer y flwyddyn.

 

Roedd hi'n bwysig nodi mai'r Cyngor llawn yn y pen draw fyddai'n cymeradwyo'r terfynau benthyca a'r dangosyddion darbodus yn yr adroddiad. Roedd gofyn i'r Cabinet, fodd bynnag, gymeradwyo'r rhaglen gyfalaf fanwl ei hun.

 

Roedd hi hefyd yn bwysig nodi bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio hefyd wedi ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod diweddaraf ac wedi rhoi sylwadau. Yn yr achos hwn, dim ond sylwadau i gefnogi'r strategaethau a gynigiwyd gan y Pwyllgor, ac nid oedd unrhyw bryderon wedi'u codi.

 

O ran yr adroddiad ei hun, tynnwyd sylw at nifer o bwyntiau allweddol:

 

§  Roedd y Cyngor yn cychwyn ar ffenestr rhaglen gyfalaf newydd, gyda'r rhaglen gyfredol yn dod i ben ym mis Mawrth eleni a rhaglen bum mlynedd newydd yn dod i rym o fis Ebrill.

 

§  Yn flaenorol, byddai'r rhaglen yn cael ei hadolygu bob pum mlynedd, ond y cynnig oedd newid i ddull treigl o reoli'r rhaglen gyfalaf, gan olygu y byddai'r rhaglen gyfan, a fforddiadwyedd benthyciadau, yn cael eu hadolygu bob blwyddyn.

 

§  Byddai'r newid hwn yn ychwanegu mwy o hyblygrwydd wrth reoli'r rhaglen, ac i gyd-fynd â hyn roedd trefniadau llywodraethu cryfach yn cael eu cyflwyno, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

§  Oherwydd y cyd-destun ariannol hynod heriol, nid oedd y rhaglen arfaethedig ond yn cynnwys cynlluniau a oedd ar y gweill a chynlluniau a gymeradwywyd yn flaenorol, a oedd yn cael eu cario drosodd o'r rhaglen bresennol, a symiau blynyddol, a oedd yn cynnwys gweithgareddau fel cynnal asedau'n flynyddol ac adnewyddu fflyd.

 

§  Er nad oedd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu cynnwys, roedd hi'n dal i fod yn rhaglen sylweddol, yn enwedig ym mlynyddoedd 1 a 2, ac yn cynnwys nifer o gynlluniau blaenoriaeth uchel y Cabinet.

 

§  Oherwydd yr heriau'n gysylltiedig â fforddiadwyedd, nid oedd y strategaeth yn cynnwys unrhyw le i fenthyca o'r newydd, gan olygu nad oedd rhyw lawer o hyblygrwydd o ran cyfalaf (i'w ddefnyddio i ganlyn cynlluniau newydd neu dalu am gynnydd yng nghostau cynlluniau presennol). O ganlyniad i hynny, byddai angen achub ar bob cyfle i roi hwb i gyfalaf ychwanegol drwy ffynonellau untro er mwyn parhau i ymateb i bwysau a fyddai'n dod i'r amlwg wrth iddynt godi.

 

§  Er nad oedd unrhyw fenthyciadau newydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen hon, byddai benthyciadau a gymeradwywyd yn flaenorol yn cael eu hysgwyddo dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan gynyddu'r Gofyniad Cyllid Cyfalaf cyffredinol a lefel dyledion y Cyngor.

 

§  Roedd y terfynau benthyca a gynigiwyd yn cymryd hyn i ystyriaeth ac roedd canlyniad refeniw benthyca ychwanegol (ee llog taladwy ar fenthyciadau) eisoes wedi’i gynnwys yn y gyllideb, ar ôl buddsoddiad a wnaed i'r gyllideb yn 2021/22. Roedd y rhaglen a gynigiwyd felly yn fforddiadwy, yn ddarbodus ac yn gynaliadwy.

 

§  O ran Rheoli'r Trysorlys, roedd yr adroddiad yn manylu ar ddull y Cyngor o fenthyca  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Monitor Cyllideb Refeniw pdf icon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad nesaf i'w gyd-aelodau, sef diweddariad refeniw chwarter tri i'r Cabinet yn esbonio'r rhagolygon cyfredol o sefyllfa'r Awdurdod ym mis Rhagfyr 2022.

 

Roedd yr adroddiad yn amlygu rhagolygon cyfredol cyllideb refeniw'r Cyngor a'r risgiau a'r cyfleoedd ariannol a oedd yn dod i'r amlwg.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet:

 

(i)            Nodi'r sefyllfa gyffredinol o ran rhagolygon y gyllideb a oedd yn deillio o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad hwn, a'r elfennau o ansicrwydd a oedd yn weddill, a'r risgiau a oedd yn dal yn bresennol.

 

(ii)           Cytuno y dylai'r Prif Weithredwr a'r Bwrdd Gweithredol barhau i adolygu a herio rhagolygon meysydd gwasanaeth er mwyn ceisio rheoli'r rhagolygon cyffredinol o fewn y gyllideb refeniw craidd, gan gynnwys symiau wrth gefn y gyllideb refeniw. 

 

(iii)          Nodi'r risgiau allweddol a nodwyd drwy gydol yr adroddiad, yn enwedig yn gysylltiedig â lleoliadau digartrefedd a gofal cymdeithasol.

 

(iv)          Nodi'r sefyllfa gyffredinol mewn perthynas ag ysgolion, o gymharu â'r blynyddoedd cynt, ond nodi hefyd y risg y gallai diffygion ymddangos mewn cyllidebau yn y dyfodol heb gynllunio a rheoli arian yn dda.

 

(v)           Nodi'r newidiadau a ragwelwyd yn y cronfeydd wrth gefn.

 

(vi)          Cymeradwyo dyrannu tanwariant 2021/22 a oedd yn dal heb ei ddyrannu yn yr alldro, fel y nodwyd yn adran 4 yr adroddiad, gan nodi lefel cronfeydd cyffredinol a chlustnodedig y Cyngor yn sgil hynny.

 

Yn erbyn cyllideb net o £343 miliwn, roedd sefyllfa refeniw mis Rhagfyr ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o £1.1 miliwn, a oedd yn cynrychioli llai na 0.4% o amrywiant yn erbyn y gyllideb. Roedd y tanwariant hwn yn bodoli ar ôl defnyddio holl symiau wrth gefn y gyllideb refeniw, sef £4.7 miliwn a oedd wedi'i gynnwys yng nghyllideb refeniw 2022/23, fel y cytunwyd gan y Cabinet ym mis Chwefror 2022.

 

Er sefydlu'r symiau wrth gefn hyn ar gyfer y gyllideb ym mlwyddyn 2022/23 i ymdrin â phroblemau'n dilyn covid, cafwyd gorwariant sylweddol mewn rhai meysydd galw allweddol a risgiau eraill yn dod i'r amlwg o fewn meysydd gwasanaeth.

Gwrthbwyswyd y rhain yn erbyn (i) symiau wrth gefn y gyllideb refeniw a ddarparwyd i'r Cyngor (ii) cynllun gostyngiadau'r Dreth Gyngor a (iii) cyllidebau eraill heb fod yn gysylltiedig â gwasanaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Gwelwyd y sefyllfa a ragwelwyd yn gwella o £2.5 miliwn ers diweddariad diwethaf y Cabinet, yn bennaf yn sgil cyllid grant untro a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â chyllid dileu elw o ofal cymdeithasol plant a chyllid ar gyfer y dull Neb Heb Help o gefnogi pobl ddigartref.  Er bod y cyllid grant ychwanegol yn cael ei groesawu, roedd y Cabinet yn ymwybodol o'r prif feysydd lle cafwyd gorwariant o fewn meysydd gwasanaeth, fel y nodwyd yn yr adroddiad a'i atodiadau.

 

Dyma rai o'r prif feysydd a oedd yn cyfrannu at y gorwariant o £5 miliwn a ragwelwyd o fewn meysydd gwasanaethu:

 

§     Cynnydd yn y galw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol, gan gynnwys lleoliadau brys i blant, a lleoliadau i blant  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Monitor Cyllideb Gyfalaf pdf icon PDF 378 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r cyllidebau cyfalaf wedi’u diweddaru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ochr yn ochr â sefyllfa'r alldro a ragwelir ar ddiwedd mis Mawrth 2023.

 

Dyma oedd y trydydd adroddiad monitro cyfalaf ym mlwyddyn ariannol 2022/23.

 

Yr adroddiad diweddaraf a roddwyd i'r Cabinet oedd adroddiad Monitro ac Ychwanegiadau mis Hydref. Bu nifer o ychwanegiadau a diwygiadau i'r rhaglen ers hynny.  Roedd a wnelo'r rhan fwyaf o'r rheiny â chynlluniau penodol wedi'u cyllido drwy grant.  Mae'r rhain yn creu cyfanswm o £8.283m, a manylir arnynt yn Atodiad A. Roeddent yn effeithio ar amryw o flynyddoedd ariannol, gydag £1.4m wedi'i ychwanegu yn 2022/23.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r ychwanegiadau hyn i'r rhaglen. 

 

Effaith net yr ychwanegiadau a'r diwygiadau hyn fyddai cynyddu cyfanswm y gyllideb ar gyfer 2022/23 i £89.8m.

 

Yn erbyn y gyllideb ddiwygiedig o £89.8m yn 2022/23, rhagamcanwyd gwariant o £61.3m.  Roedd yr amrywiant hwn o £28.5m yn cynnwys £27m o lithriant ac £1.5m o danwariant a gorwariant net “gwirioneddol".

 

Bu cynnydd o oddeutu £10m yn lefel y llithriant ers yr adroddiad diwethaf, oherwydd oedi a heriau ar draws cynlluniau amrywiol.

 

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, nid oedd ond angen i'r Cabinet nodi'r rhagolygon cyfredol o lithriant, yn hytrach na'i gymeradwyo. Yn lle hynny, roedd llithriant yn cael ei nodi ym mhob adroddiad monitro, a dim ond yn adroddiad terfynol y flwyddyn y byddai gofyn i'r Cabinet gymeradwyo cyfanswm i'w drosglwyddo i'r blynyddoedd nesaf.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu'r sefyllfa gyfredol mewn perthynas â'r hyblygrwydd cyfalaf, a oedd yn cynnwys:

 

·         £57k o hyblygrwydd ar gyfer benthyg arian.

·         £258k yn y gronfa gwariant cyfalaf (mae hyn yn cynnwys ymrwymiad posibl o £1.267m ar gyfer band B)

·         £1.474m o dderbyniadau cyfalaf heb eu clustnodi

 

Roedd balans yr hyblygrwydd a oedd ar gael yn ystyriol o ymrwymiadau a oedd eisoes wedi'u hadlewyrchu yn y Rhaglen Gyfalaf, yn ogystal â chyllid ychwanegol dros dro i gynyddu cyfanswm amlen gyllido Band B i £90m. Roedd hynny'n golygu mai £1.789m oedd yr hyblygrwydd cyfalaf ar hyn o bryd.

 

Roedd angen rheoli a monitro cyfanswm yr hyblygrwydd hwn, a oedd wedi gostwng yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio pan fyddai angen ar gyfer y problemau mwyaf argyfyngus dros y tymor canolig.

 

Roedd yr heriau o'n blaenau ar hyn o bryd o ran costau cynyddol y diwydiant adeiladu a'r blaenoriaethau a oedd yn cystadlu â'i gilydd am adnoddau cyfalaf yn golygu bod yr angen hwn i fonitro a blaenoriaethu adnoddau'n ofalus yn fwy nag erioed.

 

Gan hynny, roedd angen manteisio ar gyfleoedd i wneud cyfraniadau untro i'r swm hyblygrwydd pan fyddent ar gael, er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gallu ymateb i bwysau a oedd yn dod i'r amlwg a sicrhau y gellid cyflawni'r rhaglen yn llawn.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Pwysleisiodd y Cynghorydd Batrouni fod y Cyngor yn dal i fuddsoddi yn y ddinas, ei gwasanaethau a'i hysgolion.  Roedd y Cabinet wedi cynnwys £39m  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cyllideb Derfynol a CATC: Cynigion Terfynol - 2023/24 pdf icon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd gynigion terfynol cyllideb y CATC ar gyfer 2023/24 Roedd yr adroddiad yn dilyn yr adroddiad a ystyriwyd yng nghyfarfod mis Rhagfyr, a gymeradwywyd fel sail ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion y gyllideb ddrafft. Roedd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, ac roedd yr adroddiad yn amlinellu'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad, y newidiadau i ragdybiaethau cyllidebol a gafwyd yn y cyfamser, a'r cynigion terfynol er ystyriaeth. Dyma oedd un o adroddiadau pwysicaf y flwyddyn, ac roedd yn destun ystyriaeth ofalus, yn enwedig ac ystyried y cyd-destun ariannol yr oedd y Cyngor a'i breswylwyr yn gweithredu ynddo.

 

Esboniodd yr Arweinydd gefndir y cyllideb, gan ddweud bod yr adroddiad yn cynrychioli penllanw cyfnod hynod heriol, a ddechreuodd gydag ystyriaeth yn y Cabinet o'r goblygiadau wrth inni ddod allan o gyfnod gwaethaf pandemig Covid-19. Ar ddechrau’r flwyddyn, roedd pryder ynghylch effeithiau parhaol y pandemig a chrëwyd cronfa wrth gefn dros dro ar gyfer Covid i liniaru peth o'r ansicrwydd o'n blaenau.

 

Fodd bynnag, roedd yr hyn a ddilynodd yn wahanol iawn i'r disgwyl - chwyddiant uchel oedd yr her fwyaf o flaen y Cyngor a'r economi ehangach. Arweiniodd hyn at ddyfarniadau cyflog llawer uwch nag a ragwelwyd, gan roi pwysau sylweddol yn ystod y flwyddyn ar gyllid, a phwysau parhaus yr oedd yn rhaid ei drafod yn rhan o'r gyllideb hon. Yn ogystal â hynny, roedd chwyddiant ynni ar lefel uwch nag erioed, gan effeithio ar gynlluniau'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd hyn nid yn unig yn cynnwys y costau a oedd yn cael eu hysgwyddo gan y Cyngor - roedd ei ddarparwyr gwasanaeth hefyd yn wynebu'r un pwysau, ac roedd hynny'n cael ei drosglwyddo i ni.

 

Roedd y galw am wasanaethau hefyd yn uchel, ac roedd pwysau sylweddol yn dod i'r amlwg mewn sawl maes. Roedd un enghraifft yn gysylltiedig â'r gwasanaethau digartrefedd, lle'r oedd y galw uchel parhaus am lety dros dro yn rhoi pwysau ariannol aruthrol ar y Cyngor. Roedd y gyllideb ddrafft hon yn mynd i'r afael â'r lefel gyfredol o wariant, sef £4 miliwn, ac yn ein galluogi i barhau i gefnogi rhai o'r bobl mwyaf agored i niwed yn ein dinas. 

 

O ganlyniad i'r pwysau hyn, roedd ein hadroddiad fis Rhagfyr ar y gyllideb yn amlygu bwlch digynsail yn y gyllideb, ac amlinellwyd nifer o strategaethau er mwyn ceisio cau'r bwlch hwn, gan gynnwys cynnig i godi'r Dreth Gyngor ac arbedion gan yr holl wasanaethau. Yn y cyfarfod ei hun, amlinellwyd dull penodol gennym mewn perthynas â'r ysgolion, lle byddai'r Cyngor yn talu'r gost yn gysylltiedig â pheth o'r pwysau, a'r ysgolion eu hunain yn gorfod amsugno'r gweddill.

 

Y cynigion a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad oedd y rhai a oedd yn sail i'r ymgynghoriad â'r cyhoedd a oedd wedi dod i ben yn gynharach y mis hwn. Roedd hon yn broses eithriadol o anodd, ac nid ar chwarae bach y penderfynwyd ymgynghori ar y cynigion hyn. Roedd yr Arweinydd, felly, yn falch o weld bod lefelau uchel o  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Pwysau allanol NCC - Costau Byw pdf icon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y diweddariad diweddaraf ynghylch effaith pwysau allanol ar wasanaethau Cyngor Dinas Casnewydd, gan roi crynodeb hefyd o gamau a gymerwyd â phartneriaid lleol.

 

Roedd yr adroddiad misol hwn yn rhoi trosolwg cyfredol o'r effaith economaidd ehangach yn y DU ac yng Nghymru ers yr adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Ionawr 2023.

 

I lawer o breswylwyr dyma oedd un o'r cyfnodau mwyaf anodd yr oeddent wedi'u profi, ac roedd y Cabinet yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol ar draws y ddinas.   

 

Gan y byddai'r pwysau hyn yn parhau, anogodd yr Arweinydd yr holl breswylwyr a oedd yn profi anawsterau i gysylltu â'r cyngor i gael gwybodaeth am y cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael i'w helpu gyda biliau'r cartref a rhwymedigaethau ariannol eraill.    

 

Ar adegau fel hyn, roedd y gallu i weithio mewn partneriaeth i gefnogi ein preswylwyr, ein busnesau a'n staff o'r pwys mwyaf.

 

Roedd ymrwymiad swyddogion a'n partneriaid i gydweithio i wneud gwahaniaeth, ac i helpu pobl i dderbyn cymorth, cyngor a chefnogaeth yn glir yn yr holl drafodaethau a gynhaliwyd â'r Arweinydd yn fewnol, yn lleol ac yn genedlaethol, yn ei rôl fel Arweinydd y Cyngor ac fel Cadeirydd partneriaeth Casnewydd yn Un.

 

Roedd y mater hwn yn cael ei deimlo ledled Cymru a thu hwnt. Parhaodd yr Arweinydd i godi’r angen i sicrhau cymorth ar bob cyfle, ac i sicrhau, fel cyngor, cefnogaeth i fentrau lleol a mentrau Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cymorth y gallai'r Cyngor a'i bartneriaid ei gynnig hyd yr eithaf. 

 

Wrth i'r cyfryngau'n adrodd bod elusennau yn amcangyfrif cynnydd o 30% yn y nifer a oedd yn defnyddio banciau bwyd, roedd y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â GAVO i roi cymorth i'r banciau bwyd ar draws y ddinas. 

 

Roedd yr adroddiad yn esbonio sut roedd yr ysgolion yn cynyddu'r cyllid a'r gefnogaeth y gallent fanteisio arnynt a'u darparu i blant a phobl ifanc er mwyn helpu teuluoedd mewn angen ar draws Casnewydd.

 

Yn ystod cyfnodau o dywydd oer, roedd preswylwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio mannau cynnes ar draws y ddinas i gadw'n gynnes ac i gael cymorth a chyngor.

 

Fel dinas â hanes hir o groesawu pobl sy'n ceisio lloches, drwy gynnig lle diogel i rai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, roedd y Cyngor yn parhau i helpu ffoaduriaid i ganfod llety a derbyn cymorth.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Soniodd y Cynghorydd Davies am hanner tymor yr wythnos nesaf a diolch i LlC am ei chynllun talebau, gan werthfawrogi ei bod hi'n anodd i deuluoedd ar incwm isel ac o ran darpariaeth gofal plant, i dalu'r gost tra byddai'r ysgolion ar gau am yr wythnos.  Roedd angen canolbwyntio ar gyfnod sylfaen yr ysgolion yr haf nesaf, byddai gan bob plentyn hawl i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim, drwy gynllun a fyddai'n cael ei weithredu ym mis Medi.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Lacey at gefnogaeth GAVO a banciau bwyd, a diolchodd i Raven House a  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hwn oedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith. 

 

Gofynnwyd am gael derbyn y rhaglen wedi'i diweddaru.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith.