Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 15fed Mehefin, 2022 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  E-bost: democratic.services@newport.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

NI chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

NI chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diweddaf pdf icon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod ar 28 Ebrill yn gywir.

 

4.

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol (Ch4) pdf icon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol (Ch4) Roedd yr adroddiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf ar ddiwedd Chwarter Pedwar (1 Ionawr 2022 hyd 31 Mawrth 2022).


Roedd Polisi Rheoli Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn nodi, yn rheoli, ac yn monitro'n effeithiol y risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-2022) a rhag cyflawni dyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.


Byddai Adroddiad Risg Chwarter Pedwar hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor ar ym mis Gorffennaf 2022 i adolygu proses rheoli risg a threfniadau llywodraethu'r Cyngor.


Ar ddiwedd chwarter pedwar roedd gan y Cyngor 44 o risgiau wedi'u cofnodi ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor.


Roedd y risgiau hynny yr ystyriwyd eu bod yn achosi'r risg fwyaf sylweddol o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol a gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu huwchgyfeirio i'w monitro ar Gofrestr Risg.


Ar ddiwedd chwarter tri roedd 16 o risgiau wedi'u cofnodi ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol; sef naw Risg Ddifrifol (15 i 25) a saith Risg Fawr (7 i 14).

 

O gymharu â chwarter tri, nid oedd unrhyw risgiau newydd nac/neu risgiau wedi'u huwchgyfeirio, ac nid oedd yr un risg wedi cau.


Roedd deuddeg risg yn dal i fod ar yr un sgôr â chwarter tri.

 

Cafodd dwy risg (Risg Diogelu a Rheoli Arian yn Ystod y Flwyddyn) eu tynnu i lawr o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol i'w monitro ar gofrestrau risg maes Gwasanaeth.
 

Cynyddodd un risg (Pwysau ar y gwasanaeth Tai a Digartrefedd) o 16 i 20.


Gostyngwyd sgoriau tair risg (Pandemig Covid-19, y Galw am Gymorth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anghenion Addysgol Arbennig, a phwysau ar Gostau / Cyllid Ysgolion).

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i amlygu risgiau eraill lle'r oedd eu sgoriau wedi gostwng, sef:

 

Risg Diogelu (Gwasanaethau Plant) a Rheoli yn Ystod y Flwyddyn (Cyllid).


Ar ddiwedd y chwarter, gostyngodd sgôr risg Pandemig Covid-19 (20 i 16) yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch llacio cyfyngiadau.

 

Cytunodd y Cabinet ar £.12m ychwanegol i fynd i'r afael â'r anghysondeb rhwng cyllid ar gyfer disgyblion â datganiad a chostau gwirioneddol y disgyblion hynny, yn gysylltiedig â'r galw am gymorth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anghenion Addysgol Arbennig (16 i 12).

 

Roedd Pwysau ar Gyllid Ysgolion / Costau yn gostwng (12-9) gan fod sefyllfa ariannol pob un o'r ysgolion hynny a oedd yn cymryd rhan mewn proses Adfer Diffyg yn llawer gwell. Roedd disgwyl i ddwy o'r tair ysgol hynny orffen blwyddyn ariannol 2021/22 gyda gwarged, a dim ond mewn un ysgol yr ystyriwyd ei bod hi'n debygol y byddai angen cyflwyno cais am drwydded bellach ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Roedd canllawiau LlC yn gysylltiedig â Covid yn parhau o ran y Pwysau ar y Gwasanaeth Tai a Digartrefedd (16 i 20). Yn gyson, roedd 400 o deuluoedd mewn llety dros dro, gyda llai nag 20 yn cael eu hailgartrefu bob mis oherwydd prinder llety parhaol. Yn absenoldeb Cronfa Galedi Covid-19 ar gyfer 2022-23, dyfarnwyd cyllid  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cynllun Ynni Ardal Leol pdf icon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Arweinydd at gyfarfod y Cyngor ym mis Tachwedd 2021, pan ddatganodd y Cyngor argyfwng Ecolegol a Hinsawdd. Yn rhan o'r datganiad hwnnw, addawodd y Cyngor i ddatblygu Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer yr holl ddinas. Gyda hyn mewn golwg, roedd yr Arweinydd yn falch o gyflwyno'r cynllun hwnnw i'r Cabinet.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu’r Cyngor yn cydweithio â rhanddeiliaid o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i ddatblygu’r cynllun a oedd yn nodi gweledigaeth a llwybr er mwyn cyrraedd system ynni leol ddi-garbon ar gyfer Casnewydd gyfan erbyn 2050.


Roedd y cynllun yn adeiladu ar gryfderau presennol y ddinas, gan gynnwys ein treftadaeth ddiwydiannol a’n hanes o arloesi, a byddai’n ein galluogi ni, fel awdurdod lleol, i helpu preswylwyr a busnesau yng Nghasnewydd i ddatgarboneiddio gwres, trydan a thrafnidiaeth leol a gwireddu ynni dulliau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol.

 

Roedd hyn yn gam cadarnhaol arall tuag at ddatgarboneiddio Casnewydd a mynd i'r afael â'r newid hinsawdd yn ein dinas.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth, y Cynghorydd Forsey, am sylwadau.

 

Roedd y Cynghorydd Forsey yn falch o weld drafft terfynol y cynllun hwn. Roedd yn gynllun uchelgeisiol, a byddai'r Aelod Cabinet yn ei ddefnyddio i fonitro cynnydd yn agos a gofyn am ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fynd rhagddo ar y cyflymder angenrheidiol.

 

Roedd rhywfaint o ansicrwydd ar y llwybr tuag at 2050, ond roedd saith maes gwaith â blaenoriaeth wedi'u nodi, a byddai camau allweddol ar gyfer pob un o'r meysydd hyn yn cael eu gweithredu dros y pum mlynedd cyntaf. Cydnabuwyd y cymorth gan ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid er mwy cyflawni'r cynllun hwn, ac edrychai'r Aelod Cabinet ymlaen i gydweithio â phreswylwyr, busnesau a'r cyhoedd a sefydliadau trydydd sector ar draws y ddinas.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

·        Soniodd y Cynghorydd Davies fod hyn yn cael ei weithredu wrth i bortffolio'r Aelod Cabinet gael ei drosglwyddo i'r Cynghorydd Hughes. Roedd hi'n gyffrous cael cymryd rhan yn y camau cyntaf gyda Chonwy. Y blaenoriaethau allweddol oedd gwneud y newidiadau yng Nghasnewydd a fyddai'n ei wneud yn lle arloesol, a rhoddwyd canmoliaeth i bawb a gyfrannodd at y cynllun. Roeddem yn arwain y ffordd yng Nghymru i fod yn garbon niwtral erbyn 2050, ond ni allem wneud hyn ar ein pen ein hunain, felly roedd hi'n bwysig cydweithio ochr yn ochr â busnesau a LlC.

 

·        Diolchodd y Cynghorydd Hughes i'r swyddogion hynny fu'n ymwneud â'r cynllun ac, fel y dywedodd y Cynghorydd Davies yn flaenorol, roedd Casnewydd wedi arwain y ffordd ar hyn, ac roedd felly'n cefnogi'r adroddiad yn llawn.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Aelodau'r Cabinet am eu cyfraniad gwerthfawr.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer holl ardal Awdurdod Lleol Casnewydd.

 

6.

Prosiect Gorsaf Wybodaeth pdf icon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd yr Arweinydd ei chydweithwyr fod y Cabinet wedi cytuno'n flaenorol i ganfod defnydd masnachol arall ar gyfer llawr gwaelod a llawr cyntaf yr Orsaf Wybodaeth ac adleoli staff a gwasanaethau i adeilad y Llyfrgell Ganolog a'r Amgueddfa. Roedd swyddogion yn gweithio i gyflawni'r prosiect hwn, a hyd yma roeddent wedi llwyddo i gytuno ar y prif delerau â TramshedTech fel gweithredwr yr hyb technolegol a'r gydweithfa arfaethedig. Roedd y Cyngor hefyd wedi sicrhau £1.3m o gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru er mwyn adnewyddu rhan o'r Llyfrgell Ganolog a'r Amgueddfa i ddarparu cyfleuster wyneb yn wyneb newydd.

 

Bu trafodaethau helaeth a maith â landlord yr Orsaf Wybodaeth ynghylch yr is-brydles i TramshedTech, ond roedd yr Arweinydd yn falch o ddweud wrth y Cabinet fod y cydsyniadau cyffredinol hynny yn eu lle. Yn y cyfamser, fodd bynnag, cafwyd cynnydd byd-eang ym mhrisiau prosiectau adeiladu. Yn anffodus, arweiniodd hyn at gynnydd o £140,000 i'r gost o gyflawni'r prosiect hwn.

 

Er gwaethaf y cynnydd mewn costau, roedd y prosiect yn rhoi cyfle i'r Cyngor ddarparu hyb technolegol a chydweithfa newydd yng Nghanol y Ddinas. Byddai hyn yn gwella ac yn adeiladu ar fynediad i ofod cydweithio, ac yn cryfhau ein huchelgais i fod yn ganolfan ar gyfer data a thechnoleg. Ar ben hyn, drwy gydleoli ein gwasanaeth wyneb yn wyneb ochr yn ochr â gwasanaeth ein llyfrgell ganolog, bydd gan ein preswylwyr fynediad gwell at ystod ehangach o gymorth a gwasanaethau, a'r cyfan yn yr un lle.


Dim ond tan 30 Mehefin 2022 yr oedd prisiau'r tendrau cyfredol yn weithredol, a byddai risg wirioneddol i gostau gynyddu ymhellach yn sgil unrhyw oedi pellach cyn cwblhau'r brydles i TramshedTech a phenodi contractwyr. Roedd yr Arweinydd yn cydnabod bod y cynnydd yng nghostau'r prosiect yn rhoi pwysau ychwanegol ar adnoddau ariannol, ond ac ystyried faint o gyllid allanol a oedd wedi'i sicrhau a'r manteision a ddeilliai o'r prosiect hwn i breswylwyr a busnesau, cynigiodd yr Arweinydd y dylai'r Cabinet gymeradwyo'r adroddiad a chefnogi'r gyllideb uwch y gwnaed cais amdano.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

·        Roedd y Cynghorydd Harvey yn croesawu'r adroddiad. Bu cymaint o oedi gyda'r prosiect, felly roedd yn ei gefnogi ac yn awyddus i weld y gwaith yn dechrau. Roedd yr Arweinydd o'r un farn â'r Aelod Cabinet.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cytuno i dalu costau uwch y prosiect fel bo modd i'r cynnig fynd rhagddo.

 

7.

Rownd 2 y Gronfa Lefelu i Fyny - Y Sefydliad Technoleg Cenedlaethol (Adroddiad i ddilyn) pdf icon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod ei chydweithwyr ar y Cabinet yn si?r o gofio bod Llywodraeth y DU wedi lansio Cronfa Codi'r Gwastad gwerth £4.8 biliwn y llynedd. Cynhaliwyd ceisiadau Cylch 1 y llynedd, a chyflwynodd Casnewydd cais a ganolbwyntiai ar gyfleoedd i fuddsoddi yn nhir y cyhoedd o amgylch ardal Gorsaf Casnewydd. Yn anffodus, ni fu cais y Cyngor yn llwyddiannus, ond roedd Llywodraeth y DU bellach wedi dechrau derbyn ceisiadau am Gylch 2. Roedd hon yn dal i fod yn broses ymgeisio gystadleuol, gyda hyd at £20m o gyllid cyfalaf ar gael ar gyfer cynlluniau adfywio a buddsoddi diwylliannol.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno oedd 6 Gorffennaf 2022.

 

Roedd Casnewydd wedi'i nodi'n ardal Blaenoriaeth 1, ac er bod hynny'n creu mantais o ran yr hierarchaeth anghenion, roedd yn dal i fod broses gystadleuol, a byddai cyllid yn cael ei ddyfarnu ar sail ansawdd y cais yn hytrach na statws blaenoriaeth.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch iawn o gyflwyno'r adroddiad hwn yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno cais i Gylch 2, a ganolbwyntiai ar greu Sefydliad Technoleg Cenedlaethol Dinas Casnewydd. Byddai'r Sefydliad Technoleg newydd hwn wedi'i leoli yng nghanol y Ddinas, a byddai'n ategu ac yn adeiladu ar gyflawniad Ardal Wybodaeth Casnewydd. Byddai'r cyfleuster hwn yn cael ei ddarparu mewn cydweithrediad â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Addysg Bellach ac Uwch, arbenigwyr o fyd busnes a diwydiant, a chyflogwyr. Byddai'r ffocws ar ddarparu cyrsiau a chymwysterau targededig a manwl lle'r oedd y galw ar ei uchaf ymhlith cyflogwyr. Roedd disgwyl iddo:

 

·        greu cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr â chymwysterau technegol lefel uwch.

·        darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr, nawr ac yn y dyfodol, a oedd yn hanfodol er mwyn sicrhau twf mewn cynhyrchiant lleol rhanbarthol a chenedlaethol.

·        denu ystod amrywiol o ddysgwyr i fynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth yn rhai rhannau o'r gweithlu technegol, er mwyn cynyddu eu heffaith gymdeithasol yn ogystal â'u heffaith economaidd hyd yr eithaf, a

·        cefnogi dysgwyr sy'n oedolion, p'un a ydynt mewn cyflogaeth neu ddim, sydd am gael mynediad hyblyg i addysg lefel uwch

 

Byddai'r cynnig yn wahanol iawn i ddarpariaeth Addysg Bellach ac Addysg Uwch sy'n bodoli eisoes, ac roedd partneriaid lleol yn cefnogi'r cais. Roedd hi'n bwysig cydnabod bod y cais hwn wedi cael ei ddatblygu yn sgil adborth parhaus gan gyflogwyr a chynrychiolwyr drwy ein partneriaethau lleol a rhanbarthol. Roedd ein cyflogwyr a'n busnesau'n dweud wrthym fod taer angen am gyflenwad o bobl a oedd wedi'u hyfforddi a'u cymhwyso'n addas yn yr ardal lleol i fodloni eu hanghenion cyfredol a galluogi twf eu busnes. Roedd Casnewydd eisoes wedi gweld sut y gallai darpariaeth amgen fel yr Academi Feddalwedd Genedlaethol a'r Academi Seiberddiogelwch lwyddo, ac roedd y cysyniad hwn yn ehangu ar y ddarpariaeth honno.

 

Ailadroddodd yr Arweinydd mai proses gystadleuol oedd hon, heb unrhyw sicrwydd o lwyddo. Nid oedd neb yn gwybod eto a fyddai trydydd cylch cyllido yn cael ei gynnal, ac roedd angen i'r Cyngor fynd ar drywydd pob cyfle a oedd ar gael am gyllid  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Rheoli'r Trysorlys pdf icon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad.  Roedd Alldro 2021/22 ar Reoli'r Trysorlys wedi'i gyflwyno gerbron y Cabinet. Roedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi adolygu'r adroddiad hwn, a heb wneud unrhyw sylwadau nac arsylwadau i sylw'r Cabinet na'r Cyngor. O'r fan hon, byddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn a oedd y gyfrifol am bennu strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor, ac am y dangosyddion a'r terfynau amrywiol i reoli'r gweithgarwch hwnnw.


Roedd yr adroddiad yn esbonio gweithgareddau benthyca a buddsoddi'r Cyngor yn 2021/22, a'i sefyllfa yn erbyn y dangosyddion a'r terfynau a osodwyd.


O ran benthyca, gellid gweld cryn wahaniaeth o gymharu â'r sefyllfa ddisgwyliedig. Roedd gan y Cyngor ofyniad hirdymor i fenthyca, ac wrth ganlyn strategaeth benthyca mewnol, dylai fel arfer gael symiau bach o fuddsoddiadau (arian parod dros ben) i'w buddsoddi dros y tymor byr.

 

Oherwydd effeithiau parhaus pandemig Covid, yn dilyn ail flwyddyn o lithriant sylweddol mewn gwariant cyfalaf, ni fanteisiwyd ar fenthyca disgwyliedig. Roedd yr 'angen' i fenthyca yn dal i fod yno, a byddai hynny'n digwydd, ond bu llithriant gan nad oedd hynny wedi digwydd mor gyflym â'r disgwyl.


Oherwydd yr ail flwyddyn o danwariant sylweddol a'r cynnydd yn sgil hynny mewn cronfeydd wrth gefn sydd yn dal heb eu gwario, roedd adnoddau arian parod hefyd yn llawer uwch na'r disgwyl. Roedd hyn yn golygu bod modd ad-dalu rhai benthyciadau bach a oedd yn aeddfedu heb ailgyllido, a bod lefelau arian parod dros ben yn uchel ac wedi'u buddsoddi.

 

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, sefyllfa dros dro oedd hon, ac wrth i'r Cyngor weithio i ddal i fyny â phrosiectau cyfalaf, a chan fod y cymorth ariannol yn gysylltiedig â Covid bellach wedi dod i ben, byddai adnoddau arian parod a buddsoddiadau'n gostwng, a'r benthycai'n ailddechrau, yn unol â gofynion dros amser.


Roedd swyddogion yn cynnal adolygiad manwl o'r rhaglen gyfalaf i gael dealltwriaeth well o amserlenni cyflawni, a byddai'r Cabinet yn cael adroddiad ar hyn cyn bo hir.

 

O ran y dangosyddion a'r terfynau, roedd yr adroddiad yn amlygu un maes lle nad oedd y rhain wedi'u bodloni, a oedd yn anghyffredin.

 

Roedd y dangosydd yn ymwneud ag amlygiad y Cyngor i newidiadau cyfradd llog. Byddai costau benthyca yn codi wrth i gyfraddau llog godi, a byddai ein hincwm o weithgarwch buddsoddi yn gostwng wrth i gyfraddau llog ostwng.

 

Gellid nodi bod y mater wedi'i amlygu oherwydd dehongliad gwahanol o'n benthyciadau LOBO (Opsiwn Rhoddwr Benthyciadau Opsiwn Cymerwr Benthyciadau) fel benthyciadau llog amrywiol yn hytrach na benthyciadau cyfradd llog sefydlog. Roedd hyn felly'n fwy o fater 'technegol' yn hytrach na mater wedi'i achosi gan benderfyniadau ynghylch benthyca. Yn wir, roedd yr adroddiad yn cadarnhau, oherwydd natur y benthyciadau LOBO hyn, pe bai'r gyfradd log yn codi; y byddai'r Cyngor yn fwy tebygol o sicrhau arbedion i'r gyllideb yn hytrach na wynebu'r risg o gynnydd mewn costau.

 

O ran y terfyn - aethpwyd heibio i hwnnw gan fod y symiau a fuddsoddwyd yn llawer mwy na'r hyn a ragwelwyd wrth bennu'r dangosydd. Er hynny,  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Diweddaru Covid pdf icon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Ebrill, dywedodd yr Arweinydd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai'n cael gwared â'r cyfyngiadau cyfreithiol olaf i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal.

 

Roedd pobl yn dal i gael cyngor i hunanynysu os oeddent yn arddangos symptomau covid ac/neu'n cael prawf covid positif. Roedd brechiadau'n cael eu cynnig i rai dros 75 oed, ac roedd hi'n dal yn bosib iddynt gael brechiad os nad oeddent wedi cael un eto. Byddai brechiadau pellach yn cael eu cynnig yn yr hydref i breswylwyr mewn cartrefi gofal (gan gynnwys y staff), gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen, ac oedolion 65 oed a throsodd; a'r rhai yn y gr?p risg glinigol (16 i 65).


Byddai cymorth ariannol i rai a oedd yn hunanynysu ac yn methu gweithio gartref yn dod i ben ddiwedd mis Mehefin.  Roedd mathau eraill o gymorth ariannol yn dal i gael eu cynnig i deuluoedd a busnesau a oedd yn profi anawsterau ar ôl y pandemig, ac yn sgil y cynnydd mewn costau byw.


Roedd cynlluniau amrywiol ar gael gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru y gallai teuluoedd a busnesau fanteisio arnynt. Ar ran y Cabinet hwn a Chynghorwyr ledled Casnewydd, roedd pobl yn cael eu hannog i gysylltu â'r Cyngor os oeddent yn profi anawsterau neu os oedd angen cymorth arnynt.

 

Roedd y cyfyngiadau ar adeiladau'r Cyngor wedi'u dileu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Roedd staff swyddfa yn dal i gael eu hannog i weithio gartref, ac ond i weithio yn adeiladau'r Cyngor os oedd angen.


Mae prosiect Normal Newydd y Cyngor wrthi'n cwblhau ei bolisi a'i weithdrefnau i gynnal trefniadau gweithio hybrid a hyblyg.


Roedd y Cyngor wedi croesawu Cynghorwyr hen a newydd yn dilyn yr etholiadau lleol, ac wedi cynnal ei gyfarfod hybrid cyntaf o'r Cyngor. Roedd y Cabinet yn edrych ymlaen at gyfarfodydd craffu a rheoleiddio pellach drwy ddefnyddio'r dechnoleg hon.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd Aelodau’r Cabinet i dynnu sylw at waith yn eu portffolios:

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

·        Pwysleisiodd y Cynghorydd Harvey fod yn rhaid i aelodau'r cyhoedd geisio gwneud cais am ryw fath o fudd-dal os oeddent yn cael trafferth a chysylltu â'r cyngor fel mater o flaenoriaeth.  Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r holl dimau a swyddogion am eu cymorth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ychwanegu na ddylai pobl byth gymryd eu ffrindiau a’u teulu yn ganiataol ac na ddylai’r Cabinet ychwaith gymryd swyddogion yn ganiataol.  Adleisiodd yr Arweinydd y sylwadau a diolchodd i gydweithwyr blaenorol yn y Cabinet am ymateb a gweithredu yn wyneb sefyllfa ddigynsail.

 

·        Ategodd y Cynghorydd Davies hefyd ddiolch yr Arweinydd a'r Cynghorydd Harvey. Dros y flwyddyn ddiwethaf pryderwyd na fyddai'r arholiadau'n mynd rhagddynt, ond roeddent bellach wedi hen ddechrau, ac roedd hi wedi bod yn gyfnod anodd i ddisgyblion gan na chawsant dderbyn addysg yn y ffordd arferol. Roedd mesurau cefnogol ar waith gan LlC ac roedd y Cynghorydd Davies yn falch o adrodd fod yr arholiadau'n mynd rhagddynt yn dda iawn ar draws Casnewydd. Diolchodd  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Adroddiad Pontio ar ôl yr UE pdf icon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y cyfnod pontio ar ôl yr UE, a'r heriau economaidd a byd-eang ehangach a oedd yn effeithio ar gymunedau ac economi Casnewydd.

 

Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Ebrill, roedd costau byw cyffredinol teuluoedd a busnesau yn parhau i godi.
 

Adroddwyd bod chwyddiant yn 7.8% hyd at Ebrill 2022, ac roedd disgwyl i hynny barhau i godi. Roedd yn rhaid i fusnesau hefyd drosglwyddo costau uwch i'r prynwr.


Roedd llawer o deuluoedd incwm isel i ganolig yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn, gan ddewis rhwng bwyd, biliau cyfleustodau a thrafnidiaeth.

 

Roedd corff rheoleiddio ynni'r DU eisoes wedi nodi y byddai'r cap ar danwydd yn codi i £2,800 ym mis Hydref.

 

Roedd tîm Treth Gyngor y Cyngor yn annog aelwydydd ym mandiau A a D i hawlio'r taliad o £150 tuag at gostau byw.

 

Byddai'r Cyngor yn gwneud cyhoeddiad pellach ynghylch darparu £1.2m o gymorth ychwanegol i'r teuluoedd mwyaf agored i niwed.

 

Roedd ymgyrch Llywodraeth Cymru 'Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi' hefyd ar gael er mwyn i bobl gael mynediad at fudd-daliadau i'w helpu gyda'u hanghenion.

 

Roedd Cyngor Dinas Casnewydd hefyd yn cynnig taliad o £500 i ofalwyr di-dâl sy'n gofalu am rywun am 35 awr neu fwy, ac sydd ar incwm isel.

 

Roedd busnesau yn y Ddinas hefyd yn gallu gwneud cais am ryddhad ardrethi gan y Cyngor. Roedd grantiau hefyd ar gael i fusnesau newydd a busnesau a oedd yn bodoli eisoes.

 

Sicrhaodd y Cyngor fod £100k ar gael yn 2022 i gefnogi banciau bwyd y Ddinas. Roedd Cyngor Casnewydd bellach yn gweithio mewn partneriaeth â GAVO i gynnig grantiau cyfalaf i fanciau bwyd a sefydliadau cymunedol gynnal prosiectau diogelwch bwyd. 

 

Roedd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn arwain y gwaith o ddarparu Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.  Roedd Cyngor Dinas Casnewydd yn datblygu ei gynllun buddsoddi lleol i gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau lleol er budd cymunedau ledled Casnewydd.  Byddai'r Cabinet hwn yn gwneud cyhoeddiad pellach maes o law ar y Cynllun.

 

Trodd yr Arweinydd ei sylw at ddinasyddion Casnewydd, dinas a oedd yn cydnabod cyfraniad ei phreswylwyr tuag at wneud Casnewydd yn ddinas gyfoethog, amrywiol a chynhwysol i fyw ynddi. Roedd dinasyddion wedi cael eu croesawu o bedwar ban byd, ac roedd yn cefnogi'r rhai a oedd yn ceisio lloches a diogelwch yng Nghasnewydd ac yng Nghymru.

 

Roedd y Cyngor a'i bartneriaid yn parhau i helpu dinasyddion yr UE/AEE gyda'i ceisiadau Statws Sefydledig ac i sicrhau bod dinasyddion yn gallu derbyn y gwasanaethau yr oedd arnynt eu hangen.

 

Yn sgil y rhyfel yn Wcrain bu'n rhaid i ddegau o filoedd o bobl adael eu cartrefi. Roedd pobl a oedd yn cyrraedd Casnewydd a Chymru o'r Wcrain yn cael cefnogaeth gan y Cyngor, iechyd, ysgolion, a grwpiau cymunedol i ymgartrefu yn y ddinas. Dros y mis diwethaf, cymeradwyodd Cyngor Casnewydd a'i bartneriaid 80 o geisiadau fisa yn gysylltiedig â 52 o leoliadau gweithredol i Wcreiniaid ar draws 22 o noddwyr.

 

Roedd gwasanaethau'r Cyngor wedi ymgymryd â chyfrifoldeb ychwanegol, gan  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dyma oedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith.

 

Cais i dderbyn y rhaglen a oedd wedi'i diweddaru.

 

Penderfyniad:

 

Bod y Cabinet yn cytuno ar y Rhaglen Waith.