Agenda and minutes

Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 11eg Gorffennaf, 2019 5.30 pm

Lleoliad: Committee Room 4 - Civic Centre. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Tasker  Governance Support Officer

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Dim

 

2.

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Dim

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 82 KB

Dated 11 April 2019.

Cofnodion:

Nododd aelod y Pwyllgor y dylid rhoi atalnod llawn ar dudalen 5, eitem 6, Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i Gynghorwyr, ar ôl y frawddeg “Cyhoeddwyd bwriad Ms Britton i ddod i gyfarfod llawn y Cyngor ar 30 Ebrill 2019” a gofynnwyd tynnu gweddill y frawddeg.

 

Cytunwyd:  Bod cofnodion y cyfarfod ar 11 Ebrill 2019 yn gofnod gwir. 

 

 

 

4.

Materion yn codi

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd o ran ymateb i’r Holiadur Safonau Moesegol y caiff yr holiadur diwygiedig wedi’i gwblhau ei ddosbarthu i’r wyth pennaeth gwasanaeth a’r un aelod ar ddeg yr uwch dîm rheoli. Gofynnwyd hefyd anfon yr holiadur i swyddogion cynllunio a thrwyddedu.

 

5.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

To receive any announcements the Chair wishes to make.

Cofnodion:

Ni chafwyd cyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

6.

Cwynion

The Monitoring Officer will report on any complaints received since the last meeting.

Cofnodion:

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio nad oedd cwynion ychwanegol ac na chymerwyd camau pellach o ran y cwynion presennol. Roedd y cwynion yn ymwneud â Chynghorwyr ac nid oeddent yn fater cod ymddygiad.

 

Soniodd aelod o’r pwyllgor am gwestiynau gan aelodau Ward i Gynghorwyr dros y blynyddoedd a bod rhai aelodau ward wedi gwylltio os nad oedd yr ymateb iawn iddynt wedi ei dderbyn ac o ganlyniad roeddent yn dymuno cwyno.

 

Cadarnhawyd petai y gwneid cwyn i’r Ombwdsmon ynghylch Cynghorydd y byddai’r Cynghorydd dan sylw yn cael gwybod am y g?yn a ph’un a yw’r Ombwdsmon wedi derbyn y g?yn i ymchwilio ynddi ai peidio.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio y byddai Cyngor Dinas Casnewydd yn cynghori’r achwynydd i gysylltu â’r Ombwdsmon gan nad oedd yn bosibl i’r Cyngor gofnodi’r mater fel cwyn gan na all y Cyngor ddelio â chwynion yn ymwneud â Chynghorwyr. Pe byddai aelod o’r cyhoedd yn cwyno byddai’n cael ei gyfeirio at yr Ombwdsmon a byddai’n cael ei fanylion cyswllt ac wedyn penderfyniad yr unigolyn fyddai a fyddai yn parhau â’r g?yn ai peidio.

 

Gofynnodd aelod o’r Pwyllgor p’un a fyddai’r Cyngor byth yn ymwybodol o g?yn a wnaed pan nad yw Cynghorydd yn ymwybodol ohoni. Pwysleisiwyd eto y byddai’r aelod o’r cyhoedd yn cael gwybod nad oedd yn bosibl derbyn y g?yn gan Gyngor Dinas Casnewydd ac felly byddent yn cael eu cyfeirio at yr Ombwdsmon.

 

Nodwyd bod rhagor o bobl wedi dweud y dymunent gwyno yn y ddwy flynedd ddiwethaf.  Nodwyd hefyd bod cwynion wedi bod ymysg grwpiau gwleidyddol ond y byddai hyn yn fater disgyblaeth yn y blaid a nad oedd yn berthnasol i’r Cyngor.

 

Trafodwyd sut y byddai’r Ombwdsmon yn hysbysu’r Cyngor pe byddai aelod o’r cyhoedd yn cwyno i’r Ombwdsmon, ac yna trafodid p’un a yw cod ymddygiad wedi’i dorri. Eglurwyd na fyddai’r Ombwdsmon yn ymchwilio sut y mae Cynghorwyr yn cyflawni eu dyletswyddau i’r etholwyr.

 

Dywedodd Aelod fod cwyn wedi’i wneud pan oedd yn Gadeirydd Llywodraethwyr a phetai’r mater yn ymwneud â chod ymddygiad byddai’n cael ei godi mewn ffordd wahanol - h.y. yn yr ysgol ac ni fyddai’r Cyngor yn ymwybodol o’r g?yn. Pe byddai cwyn yn codi yngl?n â Llywodraethwr yna byddai’n cael ei thrin gan banel o lywodraethwyr.

 

Trafodwyd sut mae cwynion wedi eu cyflwyno yn y gorffennol, yngl?n â Llywodraethwyr a benodwyd gan yr AALl ac roedd y corff llywodraeth wedi ymateb ynghylch ymddygiad Llywodraethwr a’u gwaredu oherwydd ei ymddygiad. Byddai hyn yn digwydd i lywodraethwyr a benodwyd gan yr AALl yn unig. 

 

Nodwyd bod adroddiadau am gwynion yn y Blaid Lafur yn ddiweddar o ran gwrth-semitiaeth nad ymdriniwyd â hi yn briodol. Nodwyd bod yr holl awdurdodau cyhoeddus yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd.

7.

Drafft Cwestiynna Moesegol: Safonau pdf icon PDF 110 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor edrych ar Holiadur Safonau Moesegol. Adroddwyd mai’r un holiadur a ddosbarthwyd y tro diwethaf ond wedi ei ailddrafftio yw hwn. Roedd yn cyfeirio at God Ymddygiad ac ati.

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn ddarn o waith da. Nododd Dr Worthington yr astudiwyd Cynghorau eraill a bod hyfforddiant yn bendant yn broblem.

Argymhellodd aelod o’r Pwyllgor y dylid ychwanegu dewis arall rhwng ‘cytuno’ ac ‘anghytuno’ ar gyfer yr achosion pan nad yw person yn cytuno nac yn anghytuno. Trafodwyd na ddylid cynnig dewis arall o bosibl gan y byddai pobl yn cymryd safiad yn y canol.

Cytunwyd bod y dewis o ychwanegu testun rhydd ar y diwedd lle y gallai pobl wneud sylwadau yn hynod ddefnyddiol ar gyfer adborth.

Nododd y Cadeirydd mai dyma ddechrau o geisio amlygu problemau a’r gobaith oedd y byddai ymateb sylweddol.

Petai’r holiadur yn bodloni’r Pwyllgor Safonau, gellid anfon cymeradwyaeth wedyn.

Nodwyd pe byddai aelodau yn mynychu’r holl seminarau y dylid bod yn eithaf rhwydd ond nad oedd yr holl aelodau yn mynychu.

Dywedodd y Cadeirydd y dylai fod hyfforddiant ychwanegol o bosibl ar y Cod Ymddygiad ond gan fod llawer o broblemau, efallai y dylid ehangu’r cwestiwn. Fodd bynnag, nodwyd po fwyaf yr ehangir y cwestiynau yr anoddaf y byddai’n mynd a chytunwyd na ddylid ehangu yr holiadur er mwyn peidio â mynd yn rhy hir.

 

Cytunwyd:  Cytunwyd y dylai’r Swyddog Llywodraethu ddosbarthu’r Holiadur Safonau Moesegol i’r holl Aelodau, Penaethiaid Gwasanaeth, Cyfarwyddwyr a’r holl uwch reolwyr, yn ogystal â Swyddogion Iau cynllunio a thrwyddedu i’w dychwelyd erbyn 26 Medi 2019.

 

8.

Llywodraeth Leol: Adroddiad Safonau Moesegol (Loegr) pdf icon PDF 744 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor edrych ar Adroddiad Safonau Moesegol Llywodraeth Leol (Lloegr) a allai fod o ddiddordeb i aelodau. Trafodwyd yn yr adroddiad Cod Ymddygiad Lloegr a roddwyd cefndir i hyn.

Nodwyd bod y broses wedi gwneud cylchdro llawn gan nad oedd yn gweithio felly bod angen dull safonol ynghyd â sancsiynau ac ati.

Nodwyd yn yr argymhellion y dylai clercod gael rhyw fath o gymwyster. Fodd bynnag nodwyd o ran Cynghorau Tref fod rhai â chyllidebau mawr a hyd at 20 o aelodau staff. Roedd gan rai Cynghorau Cymuned glerc rhan amser a staff rhan amser.

Nodwyd bod rhai Cynghorau Cymuned wedi cael trafferthion recriwtio pobl am y swydd clerc a bod hon yn swydd rhan amser yn aml.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 20 ac 21  o’r adroddiad o ran Deddf Lleoliaeth 2011 a gofynnodd p’un a ddylai Cynghorau Cymunedol yng Nghymru addasu’r Cod Ymddygiad?

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod Cynghorau Cymuned yng Nghymru yn glynu at yr un Cod Ymddygiad â Chyngor Dinas Casnewydd.

Soniwyd am y pwynt penodol hwn gan y trafodwyd mewn cyfarfod cyswllt Cynghorau Cymuned blaenorol p’un a ddylai aelod adael yr ystafell wrth ddatgan buddiannau ac nid oedd y clercod yn ymwybodol ar y pryd bod angen llenwi ffurflen yn y cyfarfod.

 

O ganlyniad i’r cyfarfod cyswllt, dosbarthwyd gwybodaeth yngl?n â  Datgan Buddiannau i bob clerc Cyngor Cymuned er cysondeb.

Nododd Un Llais Cymru y dylid cadw cofrestr o fuddiannau aelodau ac y dylai’r aelod dan sylw lofnodi ffurflen berthnasol.

Ynghylch y gofrestr, nodwyd bod rhai Cynghorau yn cael datganiadau o fuddiant ymlaen llaw a bod cod model yr Adolygiad yn cyfeirio at cynghorwyr dinas yn unig. Ym marn Un Llais Cymru, roedd yn anghyfreithlon i Gynghorydd wrthod llofnodi ffurflen.

Cadarnhawyd nad oed yn anghyfreithlon ynghylch Cynghorwyr Cymuned, fodd bynnag mewn cyfarfod Cyngor Cymuned, roedd yn rhaid datgan buddiannau ar lafar ac yna byddai’r Cynghorydd yn gadael yr ystafell a byddai angen iddo wneud datganiad ysgrifenedig hefyd ac aiff hyn i’r gofrestr gyhoeddus.

Gofynnwyd p’un a oedd angen sicrhau hyfforddiant pellach i glercod.

Trafodwyd pam yr oedd mai’r broblem oedd nad oedd clercod yn gwybod y dylai Cynghorydd adael ystafell wrth ddatgan buddiant mewn cyfarfod

 

Cyngor Cymuned. Roedd yn ymddangos hefyd nad oeddent yn ymwybodol bod angen llenwi ffurflen hefyd.

 

Roedd Clercod Cymuned yn credu ei bod yn ddigon llenwi’r gofrestr ond nad oedd yn ddigon cofnodi hyn yn unig petai problem yn codi mewn cyfarfod. Cyhyd ag y byddai’r person sy’n datgan buddiant yn gadael yr ystafell ar yr adeg honno, dyma oedd y brif broblem gan y byddai’n ei gwneud yn drylwyr a’i bod yn broblem dechnegol pe na chaiff ei dilyn.

Gofynnodd y Cadeirydd p’un a oedd gofyn unrhyw hyfforddiant ychwanegol ar Gynghorau Cymuned i’w helpu i ddilyn canllawiau. Nodwyd hefyd bod holiadur wedi ei ddosbarthu i Gynghorau Cymuned ond ni ddychwelwyd dim un. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd p’un a oedd angen dilyn datblygiad cod ymddygiad gan nad oedd wedi’i nodi bod angen llenwi ffurflen ychwanegol.  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Thursday 7 November 2019 at 5.30pm in Committee Room 1.

Cofnodion:

7 Tachwedd 2019