1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Tasker, Governance Team Leader 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Dim  

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 83 KB

Cofnodion:

Cytunwyd:  Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir.

 

4.

Materion yn codi

Cofnodion:

Derbyniwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau gan y Cyngor ym mis Tachwedd ac fe'i derbyniwyd yn ddi-gwestiwn

 

5.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau y mae'r Cadeirydd yn dymuno eu gwneud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cyhoeddiadau gan y Cadeirydd

 

6.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) pdf icon PDF 441 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio yr Aelodau at Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gan nodi un neu ddwy ran berthnasol ar gyfer y Pwyllgor Safonau. 

Y materion pwysig a nodwyd oedd:

-       Diwygio Trefniadau Etholiadol, gan ganiatáu i bobl ifanc 16 i 17 oed bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol a fyddai'n ddiwygiad radical i etholiadau. Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi deddfu i ganiatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.

-       Cyd-bwyllgorau corfforaethol - ailstrwythuro llywodraeth leol oedd hyn er mwyn hwyluso dulliau gweithio rhanbarthol mwy cyson a chydlynol a byddai'n caniatáu i grwpiau o gynghorwyr ar y cyd ddarparu rhai gwasanaethau ar sail gydweithredol. Roedd hyn yn wahanol i'r Cydbwyllgorau a oedd yn bodoli eisoes, nad oedd ganddynt unrhyw statws cyfreithiol ar wahân ac a oedd yn gweithredu fel trefniadau gwirfoddol ar y cyd rhwng cynghorau.

-       Y gwasanaethau cychwynnol i'w darparu drwy'r CJC oedd trafnidiaeth ranbarthol a chynllunio a datblygu rhanbarthol.

 

Byddai rhai darpariaethau'n dod i rym cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf ym mis Mai 2022, a oedd yn golygu newidiadau eithaf helaeth mewn Llywodraeth Leol, sut yr oeddent yn cael eu rheoli ac ati yn ogystal â chynghorau lleol. Byddai'r cyhoedd yn cymryd rhan mewn democratiaeth leol gyda mandad i bob cyfarfod Pwyllgor gael ei ddarlledu'n fyw. Ar hyn o bryd dim ond cyfarfodydd Pwyllgorau Cynllunio a Chyngor llawn oedd yn cael eu gweddarlledu o Siambr y Cyngor.

Nodwyd y byddai'n rhaid addasu ystafelloedd cyfarfod pob cyngor er mwyn caniatáu i gyfarfodydd Pwyllgorau gael eu gwe-ddarlledu felly byddai hyn yn gost sylweddol.

Yn hytrach na mynychu'n gorfforol, gallai Aelodau Pwyllgorau ddefnyddio Skype neu MS Teams a oedd yn ddefnyddiol i gynghorau anghysbell e.e. Cyngor Powys.

Trafodwyd beth fyddai'n digwydd pe bai TG yn methu yn ystod pleidlais hollbwysig a'r agweddau ymarferol ar reoli cyfarfod gyda nifer fawr o fynychwyr o bell.

 

Trafodwyd tri phwynt pwysig: 

 

- Roedd dyletswydd ar arweinwyr gr?p i hyrwyddo safonau moesegol mewn grwpiau gwleidyddol; Mae'r Pwyllgor Safonau yn monitro sut mae Arweinwyr yn gwneud hyn. Byddai Llywodraeth Cymru yn cynnig arweiniad ar hyn a byddai'n rhaid arsylwi sut y byddai hyn yn datblygu. Roedd hyn yn ddyletswydd statudol.

Dywedodd y Cynghorydd Hourahine eu bod wedi mynychu cyfarfod llywodraethwyr ysgol blaenorol a dywedwyd ynddo y gellid gwneud Skype ar gael ond nad oedd yn cael ei ganiatáu gan fod angen bod yn bresennol yn gorfforol mewn cyfarfodydd ac na allai’r ysgol dalu’r gost.  Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod hyn yn faes deddfwriaeth arall. Fodd bynnag, gallai Llywodraeth Cymru ddeddfu ar hyn ac roedd yn broblem ymarferol i'r Cyngor. 

Nid oedd cael y cyfleuster yno'n golygu y byddai pobl yn ymuno â chyfarfodydd a gallai pobl eu hosgoi petaent am wneud hynny.

 

- Erbyn hyn, mae'n ofynnol i Gynghorwyr lunio adroddiad blynyddol, ac roedd Casnewydd eisoes yn hwyluso hyn. Byddai angen i'r adroddiad hwn fod ar gael i'r cyhoedd hefyd. 

 

-Ymchwiliad yr Ombwdsmon-roeddent wedi colli rhai o'u pwerau ymchwilio yn flaenorol  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Holiadur Safonau Moesegol pdf icon PDF 168 KB

Cofnodion:

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio na ymatebodd llawer o bobl i’r Holiadur Safonau Moesegol ond yn ystadegol cafwyd yr un ymateb â’r holiadur blaenorol, oedd 20%, ac roedd hyn yn dargedig ac yn ddisgwyliedig.  Roedd ymholiadau wedi'u gwneud gyda chynghorau lleol eraill, sef Abertawe, Caerffili a Thorfaen. Cadarnhaodd cynghorau Caerffili a Thor-faen nad oeddent yn ymwybodol o'r Holiadur Safonau Moesegol. Cadarnhaodd Cyngor Abertawe eu bod wedi gwahodd eu Harweinwyr Gr?p Gwleidyddol, a chadeiryddion penodol pwyllgorau i gyfarfodydd ei Bwyllgor Safonau bob blwyddyn i gael sgwrs agored a gonest am foeseg, safonau ac ymddygiad cyffredinol yn Abertawe.

 

Gofynnodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio i Aelodau'r Pwyllgor edrych ar yr Holiadur a dywedodd fod cwestiynau 1-4 yn eithaf cadarnhaol. Cafwyd ymateb cytbwys i gwestiwn 4 ac ar gyfer cwestiwn 5 roedd mwy o ansicrwydd ynghylch a oedd y gwahanol rolau rhwng Aelodau a Swyddogion yn y Cyngor yn glir.

Dangosodd cwestiwn 6 fod y rhan fwyaf o bobl yn cytuno; a dangosodd cwestiynau 7 a 9 fod y rhan fwyaf o bobl yn cytuno gydag un ateg anghytuno.  Dangosodd cwestiwn 10 fod y rhan fwyaf o bobl yn cytuno y byddent yn cael budd o hyfforddiant. 

 

Yna trafodwyd sut yr oedd yn anodd cael Aelodau i fynychu hyfforddiant ar adegau. Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio y gallai Cynghorwyr bellach gael rhywfaint o hyfforddiant ar-lein yn hytrach na mynychu cyfarfodydd. Cadarnhawyd hefyd y byddai hyfforddiant i glercod cynghorau cymuned yn cael ei drefnu yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hourahine ei fod wedi mynychu hyfforddiant y gwasanaethau tân, na fyddai wedi gweithio cystal pe bai'r hyfforddiant ar-lein. Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio mai sesiwn wybodaeth oedd hyfforddiant y gwasanaethau tân yn hytrach na hyfforddiant ffurfiol. 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd Uwch Swyddogion yn gwybod am God Ymddygiad Cynghorwyr fel y nodwyd yn y sylwadau ar ddiwedd yr holiadur.

 

Disgwylid i'r Swyddogion fod yn gyfarwydd â chod y gweithwyr a disgwylid iddynt wybod bod cod ymddygiad ar gael. Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod hyn yn cael ei drafod yn yr hyfforddiant newydd i staff ac yn Fforwm yr Uwch Reolwyr. 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw beth wedi'i nodi yn yr adran sylwadau i weithredu arno. Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod Rheolwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu ac felly roedd fframwaith eisoes ar waith. Byddai angen i Gynghorwyr gael hyfforddiant bob 5 mlynedd. Mae aelodau'r Pwyllgor Cynllunio'n cael hyfforddiant bob 2-3 blynedd.

 

Dywedodd y Cadeirydd eu bod wedi siarad ag Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid yn flaenorol a bod angen siarad â hwy nawr er mwyn rhoi gwybod iddynt am ganlyniadau'r holiaduron.

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio y gellid ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid ar wahân ond y Cadeirydd fydd yn penderfynu hyn. Adroddwyd hefyd ar gofnodion y cyfarfod i'r Cyngor.

 

Cytunwyd:  Y Cadeirydd i ysgrifennu llythyr fel cwrteisi, at Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid i'w hysbysu am ganlyniad yr Holiaduron Safonau Moesegol. 

 

 

            Unrhyw Fater Arall:  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cwynion

Bydd y swyddog monitro yn adrodd ar unrhyw gwynion a gafwyd ers y cyfarfod diwethaf

Cofnodion:

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod un g?yn arall wedi'i gwneud i'r Ombwdsmon. Nid oedd yn gysylltiedig ag ymddygiad yn y Cyngor ond roedd yn gysylltiedig ag ymddygiad honedig Cynghorydd yn y ward. Roedd problemau personol rhwng aelod ward a chymydog ac mae'r heddlu wedi mynd ynghlwm yn y mater. Mae'r Cynghorydd yn gwrthbrofi'r camymddwyn honedig ac roedd yn aros i glywed gan yr Ombwdsmon ynghylch a fyddai'n ymchwilio i’r mater ymhellach. Bydd yr heddlu'n dweud a oedd achos i ateb iddo.

 

9.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

16 Ebrill 2020

Cofnodion:

16 Ebrill 2020