Agenda and minutes

Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 15fed Gorffennaf, 2021 5.30 pm

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Y Cynghorydd D. Wilcox a Mr Kerry Watkins

 

Croesawyd Mr Richard Morgan i'w gyfarfod cyntaf gyda’r Pwyllgor Safonau ac fe'i cyflwynwyd i’r aelodau eraill o’r Pwyllgor.

 

2.

Datgan Buddiannau pdf icon PDF 96 KB

Cofnodion:

Dim.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod

Cofnodion:

Blaenorol 15 Ebrill 2021

 

Cytunwyd: Cymeradwyo’r cofnodion yn gofnod gwir a chywir.

 

Ar dudalen 4, cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod Mrs Gill Nurton wedi'i phenodi i'r Pwyllgor Safonau mewn perthynas â chynllunio ar gyfer olyniaeth ond na fyddai yn ei swydd tan fis Hydref 2021. Cadarnhawyd hyn yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ym mis Mai 2021.

 

4.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Dim.

5.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

To receive any announcements the Chair wishes to make.

Cofnodion:

Dim.

6.

Cwynion

The Monitoring Officer will report on any complaints received since the last meeting.

Cofnodion:

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod un g?yn arall wedi'i derbyn a’i chyfeirio at yr Ombwdsmon ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor. Roedd y g?yn ynghylch cynghorydd dinas ond gwrthododd yr Ombwdsmon ymchwilio iddi. 

 

Anfonodd y g?yn hon yn ôl yn dweud ei bod yn ymwneud â chyfathrebu rhwng 2 gynghorydd ac felly’n fater i’w datrys trwy brotocol datrys lleol. Anfonwyd y g?yn yn ôl i’r cynghorydd ac nid oes sôn wedi bod amdani ers hynny o ran y protocol datrys.

 

Mae un g?yn heb ei phenderfynu eto’n ymwneud â chynghorydd cymuned lle derbyniodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio adroddiad gan yr Ombwdsmon, a ganfu fod y Cod Ymddygiad wedi’i dorri’n dechnegol, gan fod y cynghorydd dan sylw’n pleidleisio ar grantiau gan fethu â datgan bod ei wraig yn aelod o bwyllgor yr oedd disgwyl i grant gael ei roi iddo. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon o'r farn nad oedd yn ddigon difrifol i unrhyw gamau gael eu cymryd neu i unrhyw sancsiynau gael eu gosod. Byddid yn ysgrifennu at y cynghorydd, i orfodi'r angen am dryloywder ond ni fyddai unrhyw gamau pellach. Mae rhai o’r ffactorau a arweiniodd at y penderfyniad yn cynnwys y ffaith i’r aelodau eraill bleidleisio o blaid y grant beth bynnag ac felly ni ddylanwadodd y diffyg tryloywder ar y penderfyniad ac nid oedd unrhyw amhriodoldeb. 

 

Roedd tri chwyn arall gan y cyngor cymuned yn dal heb unrhyw ganlyniad eto. Byddai'r Swyddog Monitro yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

 

Cadarnhaodd John Davies ei fod wedi siarad â'r Ombwdsmon mewn perthynas â'r g?yn gyntaf a'i fod yn fodlon ar y canlyniad ac na ddylai ddigwydd eto.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Swyddog Monitro esbonio i'r pwyllgor ac er budd yr aelod newydd o'r pwyllgor pam mae cwynion weithiau'n mynd at yr Ombwdsmon ac nid i’r Pwyllgor Safonau.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y caiff pob cwyn sylweddol ei hanfon at yr Ombwdsmon yng Nghymru a bod protocol datrys lefel isel hefyd i ddelio â chwynion lefel isel e.e., swyddog yn erbyn cynghorydd lle mae problem perthynas ac efallai diffyg parch. Roedd hyn fel proses gyfryngu leol i setlo gwahaniaethau'n gyfeillgar.

 

Os na ellir gwneud hyn, yna roedd modd cyflwyno hyn i'r Pwyllgor Safonau, ond gan ei bod yn g?yn lefel isel ac nad yw'r Ombwdsmon wedi ymwneud â hi, y mwyaf a allai ddigwydd yw y gellid ceryddu'r aelod am unrhyw achosion o dorri'r Cod. Dim ond pan dderbyniwyd cwyn gan gynghorydd arall neu swyddog arall y defnyddiwyd hyn.

Rhaid cyfeirio unrhyw g?yn gan y cyhoedd at yr Ombwdsmon a rhaid i unrhyw faterion mwy difrifol fel torri cod fynd at yr Ombwdsmon. 

 

Mewn egwyddor, gallai'r Ombwdsmon ddechrau'r ymchwiliad a'i gyfeirio at y Swyddog Monitro i’w orffen ac i adrodd i'r Pwyllgor Safonau. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd fel arfer. Os yw'r Ombwdsmon yn teimlo bod y g?yn yn ddigon difrifol i gyfiawnhau ymchwiliad, bydd yn cyfweld â’r tystion ac yn llunio adroddiad  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Dim.

8.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

11 November 2021 at 5:30pm

Cofnodion:

11 Tachwedd 2021 am 5:30pm.

 

9.

Gweddarllediad

Cofnodion: