1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mr Richard Morgan.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Kerry Watkins nad oedd ei ymddiheuriad wedi'i gofnodi yn eitem 1 a gofynnodd a ellid ei gynnwys.

 

Derbyniwyd a chymeradwywyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2022 yn gofnod cywir o’r cyfarfod.

 

 

4.

Materion yn codi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

5.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

To receive any announcements the Chair wishes to make.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

6.

Trafodaeth yr Arweinydd Grwp pdf icon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

Y Cynghorydd Jane Mudd – Arweinydd Plaid Lafur Casnewydd

Y Cynghorydd Matthew Evans – Arweinydd Plaid Geidwadol Casnewydd

Y Cynghorydd Allan Morris – Arweinydd Plaid Annibynnol Llyswyry

Y Cynghorydd Kevin Whitehead – Arweinydd Plaid Annibynnol Casnewydd

 

Mynegodd y Cadeirydd wrth y Cynghorydd M.Evans ei fod yn pryderu nad oedd y Cynghorydd Fouweather wedi bod i gyfarfod o'r Pwyllgor Safonau eto, er ei fod yn aelod o'r Pwyllgor hwnnw.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Evans am absenoldeb ei gyfaill.

 

Croesawyd Arweinwyr y Pleidiau gan y Cadeirydd a'r Pwyllgor, a gofynnwyd iddynt gadarnhau sut maent yn cynnal y safonau sy'n ofynnol gan eu pleidiau gwleidyddol.

 

Y Cynghorydd Jane Mudd – Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd

 

Eglurodd yr Arweinydd fod ganddi rôl ddeuol fel Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd y Gr?p Llafur. O ran ei rôl fel Arweinydd y Cyngor, esboniodd yr Arweinydd ei bod yn cyfarfod yn rheolaidd â Phennaeth y Gyfraith a Safonau a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn wythnosol i fynd drwy’r rhaglen hyfforddi a'i bod yn cynnal trafodaethau anffurfiol i fynd i’r afael â phroblemau sy'n dod i'r amlwg a rhoi camau ar waith.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at enghraifft lle'r oedd am i'w chyd-aelodau etholedig ennill mwy o hyder wrth ddefnyddio TG. Teimlai fod hyn yn bwysig, a bod angen gosod safonau nid yn unig o ran y defnydd o gyfarpar, ond hefyd o ran yr iaith a ddefnyddir gan yr Aelodau mewn negeseuon e-bost, lle gall y tôn a ddefnyddir dramgwyddo eraill yn anfwriadol.

 

Dywedodd yr Arweinydd eu bod yn bwriadu mynd i'r afael â'r mater hwn. Mae Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn mynd i gyflwyno sesiynau galw heibio o natur fwy anffurfiol i drafod agweddau nad ydynt o bosib yn teimlo’n hyderus yn eu cylch er mwyn annog awyrgylch gwell.

 

Trafododd yr Arweinydd wedyn yr agwedd gr?p yn gysylltiedig â bod yn Arweinydd Llafur Casnewydd. Yn debyg i unrhyw blaid wleidyddol, mae strwythurau ar waith i sicrhau disgyblaeth o fewn y gr?p. Mae ymrwymiad i gynnal safonau uchel yn rhan o gontract Cynghorydd Llafur Casnewydd.  Mae'r strwythur yn cynnwys Chwip y Blaid, sy'n rhoi cefnogaeth i'r aelodau a hefyd yn ymdrin â materion eraill.

 

Gan fod gan y blaid nifer fawr o Aelodau, eglurodd yr Arweinydd fod yr Aelodau newydd wedi'u paru ag Aelodau mwy profiadol i gael cefnogaeth. Eglurodd yr Arweinydd fod y blaid am i'w Chynghorwyr fod ar eu gorau er budd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethau, a chydnabod eu bod yn gallu wynebu heriau o ran ymddygiad.

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn

 

           Roedd y Cadeirydd yn deall bod pleidiau'n ceisio cyfyngu ar niwed i enw da a gofynnodd sut mae'r blaid yn ceisio cyfyngu ar achosion o dorri eu Cod Ymddygiad ymhlith eu haelodau. Gofynnodd y Cadeirydd hefyd a oedd gan y blaid bolisïau ar waith i atal niwed i'w henw da,  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Polisi Chwythu'r Chwiban pdf icon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau i Aelodau'r Pwyllgor ystyried fersiwn wedi'i diweddaru o'r polisi ac i adolygu ei effeithiolrwydd. Amlygwyd sut y gall hyn orgyffwrdd â safonau moesegol, ymddygiad a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. Eglurodd y Swyddog Monitro fod yn rhaid i bob cyngor gael polisi ac mai'r pwyllgor oedd i fod i ystyried y polisi diwygiedig a pha mor effeithiol fyddai'r polisi hwnnw o ran ei weithredu. Esboniodd fod y polisi newydd ar y fewnrwyd i'r holl staff, a bod gohebiaeth wedi'i hanfon ym mis Medi a oedd yn cynnwys dolen i'r polisi newydd, ynghyd â modiwl e-hyfforddiant gorfodol. Nodwyd bod tua 500 o aelodau staff wedi dilyn yr hyfforddiant hyd yma. 

 

Dim ond cwestiwn ynghylch a yw'r Pwyllgor yn fodlon â'r hyn a wnaed i'r polisi a'r modd y cyflwynwyd hyn i'r staff.

 

Fel cefndir, darparwyd gwybodaeth hefyd i'r Pwyllgor am ffigurau cwynion chwythu'r chwiban dros y 12 mis diwethaf. Roedd Casnewydd wedi derbyn tua 5 o gwynion dros y cyfnod, sy'n cyd-fynd â'r cyfartaledd yn ôl y tabl, gyda Rhondda Cynon Taf ar y brig gydag 18.  Ni chadarnhawyd yr un g?yn gan Gyngor Dinas Casnewydd - mân faterion disgyblu oedd y cwynion hynny yr ymdriniwyd â nhw'n fewnol.  Ni chafodd dau o'r pum mater eu cadarnhau, ac roedd a wnelo'r tri arall â staff a wnaeth ymadael cyn y gellid cymryd camau yn eu herbyn.   Mae un g?yn yn dal heb ei datrys yn gysylltiedig â chyllid TTP, ac mae'r archwilydd mewnol yn dal i ymchwilio i'r g?yn honno. Adroddir ar y g?yn yn ffigurau'r flwyddyn nesaf.  Ni cheir unrhyw bryderon yn gysylltiedig â'r cwynion ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd y Swyddog Monitro i aelodau'r pwyllgor gadarnhau a oeddent yn fodlon â'r wybodaeth a ddarparwyd iddynt, neu a oedd angen rhagor o wybodaeth arnynt.

 

           Gofynnodd y Cynghorydd Davies pwy'n bennaf fyddai'n ymchwilio i'r g?yn, a phwy a all gyrchu'r modiwl hyfforddiant ar-lein.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y sawl sy'n cynnal ymchwiliad yn dibynnu ar natur yr honiad. Byddai materion disgyblu'n cael eu trafod yn unol â chodau disgyblu penodol, lle byddai'r rheolwr llinell neu'r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol yn ymdrin â'r ymchwiliad.  Pe bai'n achos difrifol o dwyll ariannol, byddai hynny'n fater i'r heddlu.   Pe bai'n cynnwys asiantaeth allanol, byddai'n cael ei drafod ar sail wahanol.  Pe bai'n g?yn sy'n ymwneud â diogelu, byddai'n mynd drwy brosesau diogelu'r cyngor.  Mae'r hyfforddiant ar gael i'r holl staff yn unig.  Mae'n bolisi hyfforddiant mewnol i'r staff gan fod y polisi'n berthnasol i staff Cyngor.

 

           Oherwydd bod y polisi wedi'i lunio gan swyddogion, eglurodd y Cadeirydd y byddem fel arfer yn derbyn hyn, ond bod y sefyllfa hon ychydig yn wahanol.

 

           Cadarnhaodd Mr Watkins ei fod yn fodlon â'r adroddiad, a'i fod  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cylch Gorchwyl y Fforwm Safonau Cenedlaethol pdf icon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y ddogfen wedi dod o'r Gynhadledd Safonau Cenedlaethol er gwybodaeth. Amlygwyd yr ymdeimlad y byddai'n fuddiol cynnal cyfarfodydd rheolaidd ar raddfa Cymru gyfan â Chadeiryddion Pwyllgorau Safonau.

 

Drafftiwyd y ddogfen gan y Fforwm Swyddogion Monitro, gyda chylch gorchwyl er gwybodaeth ac i dderbyn sylwadau arno. Awgrymwyd y byddai'r gr?p yn cynnwys cadeiryddion pwyllgorau pob un o 21 o Gynghorau Cymru, ac y gall y Dirprwy fynd i'r cyfarfod unwaith y flwyddyn, ac y byddai cadeiryddiaeth y gr?p ar gylchdro bob 2 flynedd.  Mae'r Ombwdsmon yn awyddus i fod yn bresennol a sefydlu deialog felly byddem yn annog y Pwyllgor Safonau i gymryd rhan yn hynny.  Ceir 21 o Swyddogion Monitro, awgrym y dylai un SM o bob rhanbarth fod yn bresennol drwy gytundeb, ac i seilio hynny ar gylchdro a'i rannu. Os oedd gan y Pwyllgor unrhyw awgrymiadau, gallent eu hadrodd yn ôl.

 

           Gofynnodd Dr. Worthington am ddiffiniad o'r rhanbarth, a dywedodd y Swyddog Arweiniol mai Gwent oedd dan sylw. Aeth Dr. Worthington yn ei flaen i holi a oedd hynny'n cynnwys pedwar rhanbarth ledled Cymru.

 

Eglurodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai ôl troed ydyw, ar ffurf dinas-ranbarth estynedig. Ardaloedd fel Gwent, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Gorllewin Cymru yn bennaf.  Dywedwyd bod grwpiau o fewn y grwpiau hynny. Cytunwyd ymhlith y Swyddogion Monitro fod angen cadeirydd pob pwyllgor. Mae'r Swyddogion Monitro yn cyfarfod i drafod materion cyfreithiol sydd o ddiddordeb bob chwarter, ac mae hynny'n fwy buddiol i Gadeiryddion y Pwyllgorau Safonau.

 

           Gofynnodd y Cynghorydd Cockeram a oedd gan gadeiryddion pob un o'r Pwyllgorau Safonau fewnbwn ynghylch sut i newid canllawiau neu argymhellion i wneud newidiadau. Er enghraifft, dywedodd yr Aelod ei bod yn dda gweld canmoliaeth yn ogystal â chwynion. 

 

Esboniodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y syniad am y fforwm, lle byddai barn unol gref yn gallu dylanwadu ar yr ombwdsmon, ar CLlLC ac ar Lywodraeth Cymru. Yn y gynhadledd, cyfeiriwyd at adroddiad Richard Penn ynghyd ag adolygiad annibynnol o'r safonau moesegol yng Nghymru. Mae nifer o argymhellion yn weddill gan nad yw Llywodraeth Cymru wedi'u mabwysiadu eto.

 

Eglurwyd bod y cynnig anffurfiol a basiwyd i annog Llywodraeth Cymru i wneud y diwygiadau hynny ac am y fforwm hwn gael eu hanfon yn ôl i LlC i lobïo'r gr?p â'r grym i newid materion y Cod Ymddygiad, er enghraifft rhai yr oedd adroddiad Richard Penn yn argymell y dylid eu newid mewn safonau moesegol, ond nid materion fel presenoldeb cynghorwyr.

 

Nododd y Pwyllgor gynnwys yr adroddiad a chytuno i aros nes cynnal y cyfarfod cyntaf.

.

9.

Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon 21/22 pdf icon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod y ddolen wedi'i hatodi i'r adroddiad ac mewn dwy ran, cwynion camweinyddu yngl?n â'r Cyngor, nad oedd gan y Pwyllgor Safonau gymaint o ddiddordeb yn eu cylch a'r cwynion ynghylch y Cod Ymddygiad yr oedd ganddo fwy o ddiddordeb ynddynt.

 

Adroddiad tebyg i'r pwyllgor llywodraethu ac archwilio, lle byddai'r adroddiad nid yn unig yn trafod cwynion gan yr ombwdsmon ond hefyd gan wasanaethau cwsmeriaid, gan gynnwys canmoliaeth hefyd.

 

Rhoddodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau ddadansoddiad o ganran y cwynion camweinyddu lle cafwyd cynnydd yn y niferoedd ar ôl cyfnod tawel y pandemig. Cafodd Casnewydd 40 o gwynion yn 21/22, sef cynnydd o 29% o gymharu â'r flwyddyn gynt. Arweiniodd 4 at ymyrraeth gan yr Ombwdsmon.  O ran cwynion camweinyddu, ni chafwyd unrhyw ganfyddiadau difrifol nac adroddiadau cyhoeddus ar gamweinyddu dros y cyfnod hwnnw.

 

Cyfeiriwyd paragraff 5 i sylw'r Aelodau, sy'n dangos bod cwynion i'r Cyngor wedi cynyddu 37%.  Fodd bynnag, rydym hefyd yn cofnodi canmoliaeth, ac fe gafwyd 208 ohonynt, felly mae'n ymateb gweddol gytbwys i wasanaethau'r cyngor. Nodwyd yr ymdriniwyd â 96% o gwynion yn fewnol ac felly na ddaethant i sylw'r Ombwdsmon.  Mae gan yr Ombwdsmon fwy o ddiddordeb yn y modd y caiff cwynion eu datrys nag mewn niferoedd.

 

Yn achos cwynion ynghylch y Cod Ymddygiad ledled Cymru, cafodd y Pwyllgor wybod bod 294 o gwynion newydd yn ymwneud â chamymddwyn gan Aelodau, sy'n ostyngiad o 5% o gymharu â'r flwyddyn ddiwethaf. Fel cafeat i hynny, roedd y niferoedd wedi codi'n gyflym yn y flwyddyn gynt, felly mae hyn yn dal i fod yn llawer uwch na'r blynyddoedd cynt.

 

Prif bryder yr Ombwdsmon oedd bod y cwynion o natur fwy difrifol.  Dros 50% yn fethiant i ddangos ystyriaeth a pharch, ac achosion o dorri rheolau cydraddoldeb, a gallant fod yn fwy difrifol o ran bwlio ac aflonyddwch.  Mae hyn ar gyfer blwyddyn ariannol 21/22 felly nid yw hynny yr un peth â blwyddyn Tachwedd i Dachwedd y pwyllgor safonau. 

 

Roedd casgliadau'r Ombwdsmon o ran yr hyn yr hoffai ei weld yn gwella yn cynnwys sesiynau hyfforddi yn uchel ar yr agenda i bob Cynghorydd er mwyn gwella materion ymddygiad.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddog am y cyflwyniad a'r adroddiad.

10.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Pennaeth y Gyfraith a Safonau’n gwerthfawrogi bod yr adroddiad blynyddol wedi cael ei gyflwyno'n gynnar i'r Pwyllgor, gan fod cyfarfod y Cyngor yn cael ei gynnal ar 22 Tachwedd a'r agenda'n cael ei chyhoeddi yfory. Oherwydd yr amseru, mae'r swyddogion wedi gorfod cyflwyno'r adroddiad drafft heno, sy'n grynodeb o waith y pwyllgor dros y 12 mis diwethaf ar ffurf adroddiad statudol, gan ei bod hi bellach yn ddyletswydd i adrodd yn flynyddol, gan gynnwys cyfeiriadau at drafodaethau ag arweinwyr gr?p.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai Cynghorydd sy'n eistedd ar y Pwyllgor fel arfer yn gwirfoddoli i gyflwyno'r adroddiad gerbron y Cyngor llawn.

 

Cytunodd y Cynghorydd Cockeram i'w gyflwyno yng nghyfarfod y Cyngor Llawn fel Aelod Llywyddol.

 

           Gofynnodd Mrs Nurton am bwynt o gywirdeb ynghylch y niferoedd a ddarparwyd ar gyfer hyfforddiant, oherwydd nodwyd bod 34 yn cymryd rhan o bell, a 10 yn bresennol, a gofynnodd a allem wirio hynny.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth eu bod ar fin cywiro hynny a bod y ffigurau hynny'n anghywir, a sicrhaodd y pwyllgor y byddent yn cywiro'r niferoedd ar gyfer yr adroddiad terfynol. Ar eu cofnod, mae ganddynt gyfanswm o 35, gyda 4 yn bresennol a'r gweddill yn cymryd rhan o bell.

 

           Dywedodd Dr Worthington ei fod yn tybio y byddai'r adroddiad yn symud tuag at batrwm adroddiad ariannol, yn hytrach na Tachwedd i Dachwedd.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth mai mater i'r Pwyllgor yw hynny, gan ei bod hi'n bwysig iddynt gael cyfle i gwrdd ag Arweinwyr gr?p y pleidiau, ac mai'r Aelodau eu hunain oedd i benderfynu a fyddent yn hoffi i'r cyfarfodydd fod yn gyson â'r flwyddyn ariannol.  Mis Tachwedd oedd y cyfle cynharaf y gallai'r Cyngor drafod yr adroddiad ers etholiadau mis Mai, oherwydd y cylch adrodd.  Os yw'r Pwyllgor yn dymuno ei newid i adroddiad ar y flwyddyn ariannol ar ôl mis Ebrill, gall wneud hynny ac anelu i'w gyflwyno yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf, gan fod cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal bob chwe wythnos.  Byddai angen iddo ffitio i raglen waith y Cyngor.

 

           Nododd Dr. Worthington ei fod yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd wedi'i wneud a mynegodd ei bryder nad oedd yn dymuno rhoi pwysau ar staff wrth benderfynu a ddylid defnyddio naill ai mis Tachwedd i Dachwedd neu'r flwyddyn ariannol, ac nad oedd yn teimlo'n gryf ynghylch hynny. 

 

           Nododd Mrs Nurton y gall agendâu'r Cyngor fod yn eithaf llawn ym mis Gorffennaf ac awgrymodd y byddai cadw at gylch mis Tachwedd yn fodd i sicrhau bod yr adroddiad yn derbyn ystyriaeth ddigonol, ond roedd yn croesawu unrhyw sylwadau gan swyddogion ynghylch hynny.

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth nad yw'r Cyngor yn derbyn adroddiad yr ombwdsmon tan fis Medi beth bynnag gan fod cyfarfod nesaf y Cyngor ym mis Tachwedd, felly ni fyddai mor chwith â hynny i'r  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Diweddariad ar Gwynion pdf icon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod yr adroddiad yn cael ei lunio fel cofnod ysgrifenedig o hyn allan, ac fel y soniwyd yn flaenorol, gallwn rannu'r wybodaeth hon ag arweinwyr gr?p fel eu bod yn ymwybodol o unrhyw gwynion sy'n weithredol, ac esboniodd eu bod yn cael eu cadw'n anhysbys gan y byddai modd adnabod yr unigolion dan sylw yn rhwydd. Amlygwyd bod y canlyniadau'n cael eu cofnodi, ac awgrymodd felly yn y dyfodol y gellid defnyddio'r fformat hwn wrth adrodd, gan gynnwys cofnod cyfredol o gwynion, ac awgrymodd y gallai'r Pwyllgor ei ychwanegu i greu rhestr gyfansawdd.

 

           Dywedodd y Cynghorydd Davies na allai weld llawer am y cwynion ynghylch Cyngor Cymuned Trefesgob, a gofynnodd a oedd y rheiny wedi'u cynnwys yn y flwyddyn gynt.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai'r rheswm am hyn oedd fod yr atodlen yn cynnwys cwynion sy'n weithredol. Gan hynny, dechreuwyd rhestr newydd eleni, a byddwn yn ychwanegu at y rhestr honno.

 

           Nododd y Cynghorydd Davies ei bod hi wedi cymryd 18 mis i'r Ombwdsmon ymdrin â'r g?yn.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau wrth y Pwyllgor y gall gymryd 12 mis i ymdrin â chwynion ombwdsmon. Dywedwyd y gallai un g?yn ar yr atodlen ddyddio o gyfnod pellach na hynny gan ei bod hi'n cymryd cyfnod sylweddol i gynnal yr ymchwiliadau.

 

Dylid darllen y llythyr oddi wrth yr ombwdsmon sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad ochr yn ochr â'r adroddiad, gan eu bod yn cynnal peilot o system frysbennu newydd ar gyfer cwynion. Drwy'r system byddant yn edrych ar gwynion i ddechrau ac yn penderfynu a oes angen ymchwilio iddynt cyn hysbysu'r Swyddog Monitro a'r Cynghorydd perthnasol. Cyn cyflwyno’r system, roedd yn bosib derbyn cwyn annilys y byddai rhaid hysbysu’r Swyddog Monitro a’r Cynghorydd amdani, a byddai’r Cynghorydd yn cael ei wahodd i wneud sylwadau arni. Byddai'r system frysbennu'n fodd i hidlo rhai o'r cwynion a'u hysbysu ynghylch y canlyniad.

 

           Gan ei fod yn aelod o'r Pwyllgor Safonau, gofynnodd y Cynghorydd Cockeram am eglurder ynghylch beth fyddai ei sefyllfa pe bai'n eistedd mewn gwrandawiad ynghylch cwyn yn erbyn Cynghorydd yn yr un gr?p gwleidyddol.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth y Cynghorydd mai mater i'w benderfynu'n llwyr ganddo ef fyddai hynny. Pe bai'r Cynghorydd yn gyfaill personol agos, dywedwyd wrth yr Aelod y byddai'n rhaid iddo ddatgan buddiant a pheidio cymryd rhan yn y gwrandawiad. Nodwyd nad oedd bod yn yr un blaid wleidyddol yn atal rhywun rhag mynegi barn mewn gwrandawiad, na rhag cynnal gwrandawiad. Yr hyn sydd angen ei ystyried yw a ellir eich ystyried yn deg a di-duedd.  Pe bai'r aelod yn gyfaill personol agos, mae'n debyg y byddech yn eich esgusodi eich hun o'r gwrandawiad, ond bydd hynny'n seiliedig ar ddewis a barn bersonol.  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Thursday 12 January 5.30pm – Committee Room 1

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dydd Iau 12 Ionawr – 5.30pm – Ystafell Bwyllgor 1

 

Roedd y Cadeirydd a'r Pwyllgor yn dymuno achub ar y cyfle i ddiolch i Bennaeth y Gyfraith a Safonau am ei holl gefnogaeth ar hyd y blynyddoedd, a dymuno ymddeoliad hir a hapus iddo.

 

Mynegodd y Pennaeth Gwasanaeth ei ddiolch i'r Aelodau hwythau am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.

.

13.

Gwe-ddarllediad y Pwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cliciwch yma i wylio fideo o'r cyfarfod

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:34