Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau dros Absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Fouweather. |
|
Datganiadau o ddiddordeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ddydd Iau 14 Ebrill 2022 yn gofnod gwir a chywir.
|
|
Materion yn codi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion sy’n codi. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd To receive any announcements the Chair wishes to make. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Doedd gan y Cadeirydd ddim cyhoeddiadau i'w gwneud.
|
|
Adroddiad ar y Flaenraglen Waith PDF 121 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau aelodau'r pwyllgor i'r cyfarfod safonau cyntaf yn dilyn yr etholiad, a chyflwynodd y cynghorydd Cockeram i'r [pwyllgor] yn ogystal â diolch i'r cynghorydd Davies am ei gyfranogiad parhaus fel cynrychiolydd y cyngor cymuned. Nodwyd aelodaeth a chylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau yn adran gyntaf yr adroddiad.
Amlygodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau i'r Cyngor yn nodi’r rhaglen waith ddrafft ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod bob blwyddyn. Fodd bynnag, mater i'r Pwyllgor oedd penderfynu beth sy'n bwysig i'w codi a phryd i'w codi.
Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod dwy Eitem i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd, a'r cyntaf oedd y gofynion newydd i'r pwyllgor gyfarfod ag arweinwyr grwpiau gwleidyddol o fewn 6 mis i'r etholiad i adolygu cydymffurfiaeth â'u dyletswydd newydd i hyrwyddo moeseg o fewn eu grwpiau gwleidyddol.
Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod hyn wedi'i wneud yn wirfoddol ers blynyddoedd, ond mae bellach yn ddyletswydd ofynnol. Yr ail eitem oedd ystyried eu hadroddiad blynyddol i'r Cyngor, oedd bellach yn ofyniad statudol ac roedd rhaid anfon copïau at yr Ombwdsmon a'r cynghorau cymuned. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau bod hyblygrwydd o ran sut y gellid gwneud hyn – yn anffurfiol neu mewn lleoliad ffurfiol – a gallai gynnwys cwrdd ag arweinwyr unigol neu eu cyfarfod fel rhan o gr?p, yn ogystal â chael yr arweinwyr i greu dogfen ysgrifenedig. Nodwyd hefyd bod llawlyfr llywodraethu yn ddyledus ym mis Mai ond roedd dal disgwyl am y fersiwn derfynol gan Lywodraeth Cymru.
O ran yr adroddiadau, nodwyd gan Bennaeth y Gyfraith a Safonau bod pwyllgorau eraill yng Nghymru yn gofyn i'r arweinwyr am adroddiad ysgrifenedig. Yna aeth Pennaeth y Gyfraith a Safonau ymlaen i ddatgan nifer y grwpiau gwleidyddol a'u cyfansoddiad megis y gofyniad am ddau aelod i ffurfio gr?p.
Gofynnodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau am eglurhad gan y pwyllgor ar sut y byddai’n dymuno cyflawni’r gofyniad hwn?
· Gofynnodd y Cynghorydd Cockeram yngl?n â’r ffaith bod 4 aelod annibynnol yn Llyswyry yn hytrach na'r tri a nodwyd gan Bennaeth y Gyfraith a Safonau pan roddwyd dadansoddiad o’r grwpiau gwleidyddol. Gofynnodd y Cynghorydd hefyd a allai proses ffurfiol ac anffurfiol ddigwydd gydag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol. Yn olaf gofynnwyd pam mai dim ond cwynion yr oedd y pwyllgor yn delio â nhw ac nid canmoliaeth sy’n cael ei rhoi i'r Cyngor.
Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai dim ond tri aelod annibynnol o'r pedwar oedd wedi grwpio gyda'i gilydd. Aeth Pennaeth y Gyfraith a Safonau hefyd ymlaen i ddweud bod y pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn gyfrifol am ganmoliaethau a chwynion o dan reoliadau newydd
· Cytunodd G. Nurton hefyd gyda chyfarfod ffurfiol gyda'r arweinwyr yn ogystal ag adroddiad ysgrifenedig.
· Cytunodd R. Morgan hefyd â'r Cynghorydd Cockeram gan ofyn a allai cyfarfod cyntaf yr arweinwyr gwleidyddol gael ei ddefnyddio i egluro eu meddyliau a sicrhau eu bod yn deall yn iawn beth oedden nhw eisiau.
· Cytunodd y cadeirydd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
The Monitoring Officer will report on any complaints received since the last meeting. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau ddiweddariad cyffredinol ar nifer y cwynion gan dynnu sylw at ddau achos penodol o'r cyfarfod blaenorol. Roedd un o'r rhain wedi cael ei datrys, ac roedd ymchwiliad yn parhau i’r llall. Nodwyd dwy g?yn adran 69 pellach yn yr adroddiad. Ni chafodd yr un ohonynt eu hymchwilio gan yr Ombwdsmon.
Roedd yr adroddiad yn yr agenda yn rhoi crynodeb o'r cwynion. Roedd y g?yn gyntaf yn ymwneud â chyn-aelod o'r cyngor cymuned. Ym marn yr Ombwdsmon nid oedd ymchwilio i’r aelod er budd y cyhoedd gan ei fod wedi ymddiswyddo ac ni chanfuwyd digon o dystiolaeth i ddelio â'r g?yn.
Roedd yr ail g?yn hefyd yn cynnwys cyn-aelod o'r cyngor cymuned ac yn ymwneud ag ymosodiad corfforol o fewn ward yr aelod, a oedd wedi cael ei gyfeirio at yr heddlu. Roedd yr Ombwdsmon yn cytuno bod y ffrwgwd wedi digwydd o fewn bywyd preifat yr aelod ac nid oedd yn gysylltiedig â'i swyddfa na'r Cyngor.
· Gofynnodd y Cynghorydd Davies yngl?n â chwyn o gyfarfod blaenorol, ac fe dynnodd sylw at ei siom na weithredodd yr Ombwdsmon ar y g?yn gan ei fod yn teimlo bod y niwed a achoswyd i'r Clerc sef yr achwynydd yn sylweddol. Gofynnodd y Cynghorydd Davies a oedd modd cymryd camau ar hyn.
Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai'r Ombwdsmon sydd â'r gair olaf yn yr hyn y dylen nhw ei ystyried a'i ddwyn i’r pwyllgor, ac yna cyfeiriodd at y broses o sut mae'r ombwdsmon yn penderfynu beth sy'n ddigon sylweddol i'w gyfeirio.
· Fe wnaeth y Cynghorydd Davies ei gweld yn rhyfedd nad oes hawl apelio yn erbyn penderfyniad yr Ombwdsmon.
· Cytunodd y Cynghorydd Cockeram hefyd, ac amlygodd pam nad oedd proses mewn lle i gosbi aelodau o gyngor gan gyfeirio at ddileu eu gallu i ddod yn gynghorydd yn y dyfodol.
· Cyfeiriodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau at brosesau'r Ombwdsmon a sut mae'n gweithredu, yn ogystal â datgan nad oedd ymddiswyddiad yr aelod yn yr achos penodol hwnnw yn chwarae rhan yn y penderfyniad i beidio ag ymchwilio i'r g?yn.
· · Roedd R. Morgan yn deall nad oedd apêl ffurfiol, ond gofynnodd a oedd adborth anffurfiol y gellid ei ddarparu. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau bod yr hawl i gywiro ffeithiau fel eu bod yn wir a ddim yn cynnwys diffyg gwybodaeth yn cael ei ganiatáu, ond mae'r hawl i adborth ar benderfyniad yn rhywbeth nad oes ei angen.
· · Gofynnodd R. Morgan eto a ellid rhoi unrhyw fath o adborth. Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y gellir darparu holiadur boddhad cwsmeriaid. Nodwyd hefyd bod gan yr Ombwdsmon ormod o rym a does dim digon o gyfle i bwyllgorau weithredu.
Fe wnaeth Pennaeth y Gyfraith a Safonau hefyd dynnu sylw at un g?yn newydd arall yn ymwneud â chynghorydd y ddinas, ond nid oedd y g?yn yn cael ei hystyried gan yr Ombwdsmon gan nad oedd y cynghorydd yn gweithredu fel aelod o'r cyngor pan ddigwyddodd y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf 10th November 2022 at 5:30pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal am 5.30pm ar 15 Tachwedd 2022.
|