Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Iau, 22ain Hydref, 2020 10.00 am

Lleoliad: Canolfan Dinesig

Cyswllt: Gareth Price  Head of Law & Regulation

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cytunwyd:

 

Cafodd cofnodion cyfarfod 20 Chwefror 2020 eu derbyn fel cofnod cywir.

 

3.

Adroddiad Blynyddol gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio i'r pwyllgor fod dwy ran i'r eitem hon ar yr agenda, a oedd yn cynnwys Adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ogystal ag Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cyfeiriodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio yr aelodau at Adroddiad Blynyddol Pennaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, eitem 4a ar yr agenda. Roedd yr adroddiad hwn yn crynhoi'r gefnogaeth a roddwyd i'r pwyllgor ac mewn blwyddyn ddigynsail gyda phandemig Covid 19, roedd yn drosolwg o ran gyntaf y flwyddyn ac ailstrwythuro’r Gwasanaethau Democrataidd.

 

Y llynedd, y bwriad oedd ailstrwythuro'r rheolwyr o fewn y Tîm Llywodraethu gan ganolbwyntio mwy ar y rôl statudol. Roedd Cyfnod Cloi Covid wedi effeithio ar y broses hon ac roedd deiliad blaenorol y swydd yn cwmpasu’r Gwasanaethau Democrataidd a swyddogaethau eraill sy'n ymwneud â chysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu a digwyddiadau.  Pan adawodd deiliad blaenorol y swydd, teimlwyd bod angen i’r swydd  ganolbwyntio mwy ar y rôl statudol. Felly cafodd y swydd hon ei huno â rôl y Rheolwr Craffu a Llywodraethu,   a oedd hefyd yn wag. Felly, roedd un swydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar gael a oedd yn ymdrin â chymorth aelodau, llywodraethu a maeryddiaeth.   Roedd rhannau eraill o'r gwasanaeth i'w trin ar wahân. 

 

Hysbysebwyd y swydd hon y llynedd a bu dwy swydd Cynghorydd Craffu wag ers hynny. Fodd bynnag, ym mis Mawrth, daeth y cyfnod cloi, felly ni chafwyd cyfweliadau yn y cyfnod hwnnw wrth i'r broses recriwtio gael ei hatal.

 

Roedd cyfweliadau i fod i gael eu cynnal ar gyfer y swydd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd pan ddaeth y cyfnod cloi lleol i rym felly byddai'r cyfweliadau hynny bellach yn cael eu cynnal mewn modd rhithwir a'r gobaith oedd y gellid penodi rhywun i’r swydd yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

Yna, byddai’r cyfweliadau ar gyfer y swyddi Cynghorydd Craffu yn cael eu cynnal a'r swyddi'n cael eu llenwi cyn diwedd Rhagfyr 2020. Yn y cyfamser, gwnaed trefniadau i gyflenwi. Roedd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio wedi bod yn cyflenwi’r rôl Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, gyda chefnogaeth y Tîm Llywodraethu o ran cyfarfodydd Craffu.

 

Roedd cyfarfodydd a gafodd eu hatal ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig Covid 19 nawr yn cael eu cynnal o bell a byddai angen mwy o gymorth ar aelodau wrth i'r cyfarfodydd o bell hynny fod yn fwy diffiniedig. 

Diolchodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio i'r Tîm Llywodraethu am eu gwaith caled dros y 9 mis diwethaf wrth sefydlu cyfarfodydd o bell o ran hyfforddi aelodau, technoleg a sefydlu gweithdrefnau ac ati.

 

Cwestiynau:

 

·       Rhoddodd y Cynghorydd C. Evans deyrnged i'r holl staff a oedd wedi bod yn gweithio'n galed iawn mewn cyfnod anodd. Mynegodd bryder am y swydd Rheolwr wrth i ddeiliad blaenorol y swydd adael yn 2018 ac roedd yn teimlo nad oedd digon o staff yn yr adran a hynny am gyfnod rhy hir.  Cwblhawyd y cyfweliad ar gyfer y swydd Prif Weithredwr o bell yn yr haf a dylid parhau â'r cyfweliadau o bell hynny yn y cyfamser. Dywedodd hefyd y dylid llenwi'r  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021 pdf icon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Pennaeth y Gyfraith Rheoleiddio fod yr adroddiad hwn yn dod i law ar yr adeg hon bob blwyddyn gan yr IRP a gwahoddwyd sylwadau erbyn 23 Tachwedd 2021.

 

Roedd yr adroddiad clawr yn crynhoi’r adroddiad IRP llawn, a oedd ynghlwm, rhag ofn i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ddymuno gwneud unrhyw sylwadau i'r IRP.

 

Prif Bwyntiau:

 

-Mae lwfansau aelodau wedi'u codi eto yn unol â chwyddiant - cynnydd safonol o £150 yn yr holl gyflogau sylfaenol i bob aelod.

-Bydd pob cyflog uwch hefyd yn cael ei godi a bydd yn codi 1.06%, a restrwyd yn yr atodlen.

-Mae'r lwfansau ar gyfer aelodau cyfetholedig hefyd wedi cynyddu o ganran debyg.

 

Yr unig wahaniaeth arall oedd bod adran o'r adroddiad wedi'i neilltuo i ad-dalu costau gofal i Aelodau. Rhoddwyd teitl newydd arall arno y tro hwn i Cyfraniad tuag at Gostau Gofal a chafodd y cap ei ddileu ar yr hyn y gellid ei hawlio, gan yr argymhellwyd y dylid ad-dalu'r Aelodau'n llawn am y costau a hawliwyd.

 

Roedd adran hefyd ynghylch sut y dylid rhoi cyhoeddusrwydd i hyn i'r Aelodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas, mewn perthynas â Phenderfyniadau 34-39 sy'n hepgor 38 lle nododd y gallai Aelodau ddymuno cytuno ar gynigion; dywedodd y Cynghorydd Thomas eu bod yn hapus i gytuno ar y cynigion hyn. Cydnabuwyd bod yr Aelodau eisoes yn dilyn yr argymhellion hyn.

 

Cytunwyd:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi a'i gymeradwyo gan Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor.

 

 

 

5.

Unrhyw Faterion i'w Trafod gyda'r PANEL

Cofnodion:

 

Roedd y Cadeirydd i fod i gyfarfod â'r IRP ar 27 Hydref 2020 a gofynnodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor a oedd gan unrhyw Aelodau unrhyw faterion yr oedd angen eu cyflwyno i'r cyfarfod.

Gofynnodd y Cynghorydd T. Watkins a oedd gan yr IRP unrhyw bryderon yn eu rôl ac a oes ganddynt unrhyw bryderon neu amheuon ynghylch a oedd Cynghorau'n cadw at eu hargymhellion.

 

Nododd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio nad oedd dewis, a bod rhaid i ni, yn ôl y gyfraith, gadw at yr argymhellion ynghylch lwfansau a bod eu rôl yn ddeddfwriaethol ac felly bod rhaid i ni eu dilyn.

 

·       Holodd y Cynghorydd T. Watkins a oedd yr IRP am fynd ymhellach ond nad oedd ganddo'r awdurdod i wneud hynny ac a oedd gan yr IRP unrhyw bryderon ynghylch peidio â gallu mynd ymhellach ac a oedd ganddynt bryderon am eu cyfyngiadau eu hunain.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n cyflwyno’r mater i Gadeirydd yr IRP yn eu cyfarfod.

 

Nododd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio, cyn Covid, bod yr IRP yn arfer cyfarfod â Chynghorwyr i sicrhau eu bod yn cael digon o gymorth i gyflawni eu rôl, bod y lwfansau'n ddigonol a bod digon o gymorth a darpariaeth TG ac ati.

Dywedodd y Cadeirydd fod lwfansau gofalwyr wedi'u codi’n flaenorol a nododd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio mai'r agenda Cydraddoldeb oedd hon a'i bod yn ymwneud ag amrywiaeth a sicrhau nad oedd rhai Cynghorwyr o dan anfantais oherwydd cyfrifoldebau ac ymrwymiadau gofalu. O ran cyfarfodydd o bell, roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus i barhau â'r rhain, gan y gallai hyn gynorthwyo aelodau na allent deithio i mewn bob amser.

 

·       Holodd y Cynghorydd Hughes beth oedd y rhwystrau o ran dod yn Gynghorydd a beth oedd y rhwystrau i gael gafael ar y cymorth.  A allai'r Pwyllgor edrych yn fanylach ar rwystrau. 

 

Trafodwyd sut roedd cymysgedd o Gynghorwyr yng Nghasnewydd ond efallai nad oedd digon i ddod â mwy o aelodau o gefndiroedd ethnig a Chynghorwyr ag anabledd i mewn.

 

Cytunodd y Cadeirydd hefyd i gyflwyno hyn i'r cyfarfod gyda'r IRP.

 

Holodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio a oedd unrhyw aelodau o'r Pwyllgor am sôn am unrhyw beth penodol i fynd ar y flaenraglen waith i'w adolygu. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Evans y gellid edrych ar gynnwys y bobl a gynrychiolwn a gan bod cyfarfodydd ward wedi cael eu hatal efallai y gellid cynnal cymorthfeydd o bell yn y dyfodol i gysylltu â phobl.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Watkins am adborth i'r pwyllgor gan yr IRP yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd nesaf.

 

 

6.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

18 February 2021 at 10am

Cofnodion:

18 Chwefror 2021 am 10am

 

 

7.

Gweld Digwyddiad Byw