Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price Head of Law & Regulation
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 94 KB Cofnodion: Cafodd y Cofnodion o 22 Hydref eu derbyn yn gofnod cywir yn amodol ar y canlynol:
Eitem 4 Adroddiad Blynyddol gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd
Y llythyren gyntaf ar gyfer y Cynghorydd M Evans a C Evans yn cael eu heithrio. Yn ogystal, gofynnodd y Cynghorydd M Evans i'r frawddeg gael ei newid i 'Ef' a wnaeth sylwadau yn lle 'nhw'.
Cyfeiriodd y Cynghorydd K Thomas at y rôl a wnawn ac roedd am i'r frawddeg gael ei dileu ar dudalen 6, ail baragraff. I egluro, gofynnodd y Cynghorydd K Thomas pam y mae gwaith y cyngor yn cael ei gynnal yn wahanol, nid pam nad oedd cynghorwyr yn gwneud eu rôl.
Materion yn Codi
Eitem 4 Adroddiad Blynyddol gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd
Gofynnodd y Pwyllgor ynghylch paragraff 2, tudalen 4 ac a oedd y swyddi wedi'u llenwi. Roedd y swydd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac un swydd Cynghorydd Craffu yn cael eu hail-hysbysebu. Roedd y dyddiad cau ar ddiwedd mis Chwefror 2021 a byddai'r gwaith o greu rhestr fer yn cael ei chynnal maes o law.
Eitem 6 Unrhyw Faterion i'w Trafod gyda'r Panel Cyflog Annibynnol (PCA)
Ynghylch tudalen 8, mae'r Pwyllgor yn rhoi gwybod am adborth Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio yr ystyriwyd yn fanylach ar y rhwystrau i bobl rhag dod yn gynghorydd. Dywedwyd y byddai'n cael ei nodi i’w fwydo'n ôl i'r PCA, ond ni chafodd hyn ei gofnodi i'w weithredu gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Cododd y Cadeirydd y pwynt hwn ac roedd y Panel Cyflog Annibynnol (PCA) wedi gwrando ar y pwynt hwn ar sail statudol ac roedd Lloegr a'r Alban yn genfigennus o Fodel Cymru a oedd yn defnyddio'r Model fel esiampl.
Dywedodd y Cadeirydd fod y mater yn fawr ar gyfarfod Zoom yn ddiweddar a bod y Panel Cyflog Annibynnol yn gobeithio mentora'r cynghorwyr hynny a bod rhai cynghorau'n mentora ymgeiswyr.
Awgrymodd y Cynghorydd Hughes y dylai rhai o'r cynghorwyr h?n fod yn fentoriaid ac y dylai cynghorwyr mwy newydd gael eu cyfeillio â chynghorwyr newydd.
Cytunodd y Cynghorydd Whitcutt â'r pwynt uchod a ddylai, yn ei farn ef, gyd-fynd â Deddf Llywodraeth Leol Cymru Newydd ac y dylid bwydo hyn i mewn i'r drafodaeth yn ogystal â bod yn drafodaeth ar wahân.
Roedd y Cynghorydd K Thomas o'r farn y byddai hyn yn cael sylw yng nghanllawiau’r Ddeddf newydd a byddai cynghorwyr yn ystyried hyn yn ystod y cyfnod sefydlu.
Cyfarfu'r Cynghorydd Hourahine â Swyddogion Gwasanaethau Democrataidd yn Llywodraeth Cymru ynghylch adborth ar hyfforddiant Cynghorwyr, a oedd, yn ei farn ef, yn eithaf da, ond ni chafodd Cynghorwyr adborth cyffredinol ar hyn.
Awgrymodd y Cynghorwyr J Hughes fod lle i ymchwilio i hyn ac roedd yn iawn i'r Cyngor gynnwys hyn fel rhan o'r broses ddemocrataidd i ddenu'r math cywir o ymgeiswyr, yn enwedig mewn dinas mor amrywiol.
Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod y ddeddfwriaeth bresennol yn narpariaethau Mesur Cymru (2011) ar waith i annog mwy o bobl i ddod ymlaen. Rhan o'r drafodaeth hon oedd rhoi gwybod ... view the full Cofnodion text for item 2. |
|
Adolygiad o'r Rheolau Sefydlog PDF 81 KB Cofnodion: Cyfarfod y Cyngor ar 26Ionawr 2021 wedi penderfynu bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn adolygu effeithiau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac unrhyw newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog ynghyd â chynllun gwaith y pwyllgor dan sylw o fewn ei adroddiadau arferol i'r Cyngor llawn.
Roedd y Cynghorydd P Hourahine o'r farn mai adroddiad dwy ran ydoedd, h.y. bod y cynnig a Deddf Llywodraeth Leol (LlL) Cymru 2021, yn bethau cwbl ar wahân.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y Pwyllgor yn fodlon â chyfnod Hawl i Holi a'i gysylltu â fframwaith Deddf LlL Cymru neu a ddylid ei newid ar lefel leol.
Roedd y Cynghorydd M Evans o'r farn y dylid ei newid ar lefel leol er mwyn caniatáu i aelodau mainc gefn ofyn cwestiynau yn ogystal â chynnwys cyfranogiad y cyhoedd gan fod hyn yn annog democratiaeth, felly roedd yn ddelfrydol gwneud argymhelliad yn y cyfarfod hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Whitcutt fod angen edrych ar y penderfyniad, a oedd yn cynghori bod y Pwyllgor wedi adolygu bwriad y penderfyniad, felly dylid eu hadolygu gyda'i gilydd yn yr un darn o waith ac ar yr un pryd.
Cytunodd y Cynghorydd T Watkins â'r Cynghorydd Whitcutt i'r Pwyllgor edrych ar Ddeddf LlL 2021 a Chwestiynau i'r Arweinydd.
Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio y byddai'r Ddeddf Newydd yn dod i rym fesul cam ac y byddai'n derbyn canllawiau ar wahanol agweddau fel y nodwyd. Roedd angen adolygu'r rheolau sefydlog yn gyffredinol oherwydd y newidiadau a ddaw. O ganlyniad i ddeddfwriaeth, gallai'r Pwyllgor gyfarfod yn amlach i drafod y newidiadau hyn mewn deddfwriaeth, felly cadarnhawyd bod angen edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd.
Credai'r Cynghorydd C Evans ei fod yn gyfle gwych i ddiwygio ac na fyddai'n cymryd llawer o amser ac yn cael effaith gadarnhaol. Felly, roedd angen ei integreiddio'n briodol yn y Rheolau Sefydlog ymhen ychydig fisoedd.
Roedd y Cynghorydd Hughes o'r farn ei fod yn fwy na mater unigol yn unig a bod angen i'r Pwyllgor wybod sut yr oedd yn gweithio yn y darlun ehangach ac edrych yn fanwl iawn a gyda'r newidiadau a oedd yn digwydd beth bynnag. Gallai hyn hefyd wella democratiaeth yng Nghasnewydd.
Myfyriodd y Cynghorydd Hourahine ar y broses Cwestiynau bresennol a dywedodd fod digon o gyfleoedd i gynghorwyr ddefnyddio'r fforwm cwestiynau agored. Egwyddorion arweiniol i gadeirio cyfarfodydd oedd bod yn fwy cryno. Felly, ni wnaeth ymestyn cwestiynau ddim i wella'r cyfarfod.
Ar nodyn ar wahân, yngl?n â'r Ddeddf Newydd a phresenoldeb o bell, gallai'r Cynghorydd Hourahine weld sut y byddai'n gweithio mewn ardaloedd gwledig ond yn ddaearyddol, nid oedd yn briodol i Gasnewydd ac roedd o'r farn bod cyfarfodydd o bell yn dad-ddynoli cynghorau.
Cytunodd y Cadeirydd â'r sylwadau diwethaf yngl?n â'r cyfarfodydd rhithwir, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni.
Cyfeiriodd y Cynghorydd M Evans at ymestyn 15 munud i Gwestiynau i'r Arweinydd ac roedd o'r farn y byddai'n ddelfrydol gwneud argymhelliad i newid hyn yn y cyfarfod heddiw. Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd M Evans yn siomedig ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Fframwaith Cymwyseddau a Hyfforddiant Sefydlu PDF 184 KB Cofnodion: Cyhoeddodd CLlLC ddrafftiau diwygiedig o'r fframwaith cymwyseddau wedi'i ddiweddaru ar gyfercynghorwyr a'r cwricwlwm ymsefydlu newydd ar gyfer aelodau yn dilyn etholiadau lleolMai 2022. Diweddarwyd y ddau ers iddynt gael eu diwygio ddiwethaf yn 2017 i adlewyrchu'rnewidiadau yn rolau aelodau a gofynion deddfwriaethol newydd. Cyflwynwyd y dogfennau drafft mewn cyfarfod o'r Aelodau Arweiniol a'r Swyddogion ar gyfer y Rhwydwaith Cymorth a Datblygu i Aelodau ar 2Chwefror 2021, a fynychwyd gan Gadeirydd yPwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a swyddogion Cymorth Llywodraethu. Gofynnwyd i’r Pwyllgorystyried y dogfennau drafft a llunio unrhyw sylwadau neu adolygiadau aawgrymir.
Roedd CLlLC yn awyddus i gyflawni hyn drwy e-fodiwlau, a byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei chyflwyno i'r pwyllgor pan fyddai’n cael ei datblygu.
Yn dilyn y cyfarfod rhwydwaith, roedd y Cadeirydd o'r farn bod y fframwaith yn drylwyr ac yn synhwyrol.
Dywedodd y Cynghorydd K Thomas fod y fframwaith yn gynhwysfawr iawn o safbwynt cynghorydd a'i fod wedi gwella'n sylweddol ar y cyfan, gyda mwy o ymdrech a meddwl adeiladol yn cael eu rhoi yn y ddogfen a oedd yn gam i'r cyfeiriad cywir.
Adleisiodd y Cynghorydd Hughes y sylwadau uchod gan ychwanegu ei bod yn ddefnyddiol i ddarpar ymgeiswyr weld y fframwaith. Fel cynghorydd newydd, y rôl bwysicaf oedd y Gwasanaethau Democrataidd ei hun a'r gwaith a'r gefnogaeth bwysig a roesant. O ran e-Ddysgu, efallai y bydd cynghorwyr y mae angen eu hwyluso, gan nad oes ganddynt ddyfeisiau, neu sydd ag anableddau, megis nam ar y golwg.
Cytunodd y Cynghorydd M Evans y dylai'r llwyfannau e-Ddysgu gael eu cynllunio'n gymharol syml ar gyfer Cynghorwyr. Roedd llawer iawn o wybodaeth a phe bai cynghorwyr yn cael eu hannog i gael mynediad i'r rhain, gellid symleiddio modiwlau. Roedd 37 modiwl, a oedd yn ormod o lawer a dylid symleiddio'r rhain. Roedd yn well gan y Cynghorydd M Evans hefyd fynychu'r ganolfan ddinesig i gyfarfod â chynghorwyr mewn sesiynau hyfforddi.
Ategodd y Cynghorydd T Watkins y sylwadau uchod a soniodd am faterion cysylltedd mewn gwahanol ardaloedd yng Nghasnewydd. Roedd maint yr hyfforddiant yn sylweddol ac awgrymodd fod cynghorwyr presennol yn cyfeillio gyda chynghorwyr newydd i roi cymorth.
Soniodd y Cadeirydd na ddylai llythrennedd TG fod yn ofyniad, gan efallai na fydd rhai pobl yn defnyddio cyfrifiaduron ond eu bod yn huawdl o hyd ac yn gweithio'n galed i'w cymuned.
Roedd y Cynghorydd C Evans o'r farn na ddylai'r rôl fod yn gyfyngol a bod gan rai cynghorwyr rwydweithiau da, hyd yn oed y rhai na allent ddarllen nac ysgrifennu. Felly, nid oedd y Cynghorydd am weld hyn yn orfodol a theimlai fod cyswllt wyneb yn wyneb hefyd yn bwysig gan ychwanegu na ddylid eithrio pobl sy'n dewis peidio â defnyddio TG. Mater i'r etholwyr felly oedd pleidleisio'r bobl hyn i'r cyngor.
Awgrymodd y Cynghorydd Whitcutt y dylid lleihau'r modiwlau i fodiwlau craidd ynghyd â chynnal asesiad i nodi'r pethau sylfaenol yr oedd yn ofynnol iddynt fod yn gynghorydd cymwys, ac yna arfer gorau i ymgymryd â modiwlau pellach.
Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Datblygu Llawlyfr Democratiaeth PDF 103 KB Cofnodion: Er gwybodaeth, roedd CLlLC wedi nodi cyfle i ailedrych ar yr holl ganllawiau presennol ar ddemocratiaeth leol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o ffurfio Llawlyfr Democratiaeth. Wrth i gynghorau weithredu mewn gwahanol ffyrdd, ategwyd gwybodaeth CLlLC ar lefel leol. Y gofyniad yn y Ddeddf Newydd oedd canllaw cryno i'r cyfansoddiad a sut y gallai'r llawlyfr gyd-fynd â hyn. Byddai canllaw rhy syml yn ddefnyddiol ar sut roedd y llywodraethu mewnol yn gweithio.
Roedd digwyddiadau'n cael eu cynnal dros fis Chwefror a mis Mawrth i dynnu sylw at y canllawiau.
|
|
Rhaglen Waith Ddrafft PDF 78 KB Cofnodion: Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod y rhaglen waith yn cwmpasu'n fras y 12 mis nesaf sy'n cyfateb i'r Ddeddf Newydd. Roedd cyfarfodydd o bell yn ymwneud mwy â darparu mynediad o bell os na allai cynghorwyr fod yn bresennol. Byddai cyfarfodydd hybrid yn mynd i'r afael â hyn lle gallai aelodau fynychu siambr y cyngor a/neu fynychu o bell.
Cafwyd Cronfa Democratiaeth Ddigidol gan Lywodraeth Cymru a byddai'r cyngor yn gwneud cais am tua £50,000 i ddatblygu'r cyfarfodydd hybrid.
Roedd y Cynghorydd Hourahine o'r farn bod y protocol yn flaenoriaeth i'r rhai a oedd yn bresennol a'r rhai a fynychodd o bell i gael eu gwahodd i siarad yn deg.
Cyfeiriodd y Cynghorydd K Thomas at y materion difrifol yr oedd wedi'u profi gyda'i band eang ac roedd yn gwerthfawrogi unrhyw gyngor TG.
Soniodd y Cynghorydd T Watkins fod pawb yn cael problemau technegol gyda chyfarfodydd o bell yn cyfeirio at Senedd Holyrood, a oedd â'i phroblemau ei hun.
Awgrymodd y Cynghorydd C Evans fod y cyngor yn talu am fand eang. Soniodd Pennaeth y Gyfraith a rheoleiddio fod band eang y cyngor yn cael ei dynnu gan fod band eang rhai perchnogion cartrefi yn fwy na digonol i aelodau wneud eu gwaith.
Soniodd y Cynghorydd Whitcutt am rif ffôn wrth gefn i helpu i ymuno. Byddai hyn yn cael ei ddarparu drwy Wasanaethau Democrataidd, y Tîm Digidol ac GRhR ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor Llawn a chyfarfodydd pwyllgor eraill.
|
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf 29 April 2021 at 10am Cofnodion: 29 Ebrill 2021 am 10am.
|
|
Gweld Digwyddiad Byw |