Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 13eg Rhagfyr, 2021 10.00 am

Cyswllt: Leanne Rowlands  Democracy and Communications Manager

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorydd Townsend.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2021 pdf icon PDF 332 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd a derbyniwyd bod Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2021 yn gofnod gwir a chywir.

 

4.

Strategaeth Cyfranogiad (Cyflwyniad Diweddaru) pdf icon PDF 358 KB

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

Leanne Rowlands – Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd

Gareth Price - Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd y Cyngor o ran y strategaeth cyfranogiad ddrafft i annog dinasyddion i gymryd mwy o ran ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Awdurdod Lleol.

 

Pwyntiau allweddol:

Mae dau ofyniad allweddol er mwyn hyrwyddo swyddogaethau'r Cyngor; y cyntaf yw cyrraedd y cyhoedd drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth a galluogi aelodau o'r cyhoedd i gael gafael ar y wybodaeth yn hawdd. Mae'r Cyngor am roi’r cyfansoddiad mewn un canllaw hygyrch a gwella cyfleuster chwilio gwefan y Cyngor i'w wneud yn haws ei ddefnyddio i annog y cyhoedd i ymgysylltu.

 

Yr ail ofyniad yw hyrwyddo sut i ddod yn Aelod o'r Cyngor er mwyn cynrychioli trigolion eu cymuned. Mae'r Cyngor am adeiladu ar y dudalen we ar sut i ddod yn gynghorydd, trafododd y Swyddog Arweiniol y pwyntiau yn y cyflwyniad yn fanwl gyda’r Pwyllgor.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai hyn yn dod yn ôl i'r Pwyllgor ddiwedd mis Ionawr gyda dogfen ddrafft lawn cyn y cyfnod ymgynghori. Ar ôl yr ymgynghoriad, caiff y strategaeth lawn ei chyflwyno i'r Cyngor ym mis Mawrth cyn cyhoeddi'r dyddiad cau ym mis Mai.

 

Soniodd y Swyddog Arweiniol am y camau pellach y bydd y Cyngor yn eu cymryd dan y ddeddf, fel rhoi cynllun deisebau ar waith fel bod trigolion yn gwybod y broses a bod yr Aelodau'n gwybod beth y gall y Cyngor ei wneud pan fydd yn derbyn deisebau. Mae'r camau nesaf yn cynnwys hyfforddiant i aelodau yn y dyfodol ar ffurf seminarau hyfforddi gan gynnwys hyfforddiant ar bwysigrwydd llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:

·       Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn hapus am y ffaith bod y dogfennau, a oedd i fod i gael eu dychwelyd iddo ym mis Ionawr, wedi’u dychwelyd a nododd fod y cyflwyniad yn hawdd ei ddilyn.

·       Sicrhaodd y Cynghorydd Giles fod hyrwyddo'n dda ond bod angen deall iaith a geiriad y Cyngor yn hawdd. Dywedodd yr Aelod y byddai'n dda dysgu beth mae’r cyhoedd wedi’i gyfrannu at y gwaith, a yw'n cynnwys sylwadau cyhoeddus h.y. a yw’r awgrymiadau ar gyfer y wefan yn deillio o adborth ac a yw'r swyddogion wedi ystyried arferion Awdurdodau Lleol eraill.

Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ei fod  wedi'i gynnwys yn y cyflwyniad o’r hyn y mae trigolion yn edrych arno  – nid ar y wefan ar hyn o bryd ond fel arfer mae'n cynnwys arolwg adborth yn gofyn sut beth oedd eu hymweliad y diwrnod hwnnw. Mae’r Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cynnal arolygon yn rheolaidd a hefyd yn gofyn am adborth gan drigolion ar y ddarpariaeth ddigidol.

Mae'r awdurdodau lleol eraill yn yr un sefyllfa o ran datblygu strategaeth ar gyfer mis Mai 2022. Maent hefyd yn gweithio tuag at fodloni'r dyddiad cyhoeddi cyntaf ond maent yn y cam cyntaf o gyhoeddi'r strategaeth, yna ar ôl hynny byddant am wella a datblygu fel y bydd Casnewydd yn ei wneud hefyd.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth wrth y  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Diwygio'r Cyfansoddiad a'r Trefniant Staffio (Diweddariad i'r Cyflwyniad) pdf icon PDF 180 KB

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

Leanne Rowlands – Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd

Gareth Price - Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio

 

Ymdriniodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ag adran gyntaf y gofyniad i ddiweddaru'r cyfansoddiad yn rhan o'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau ac esboniodd ei fod yn barod ar gyfer adolygiad llawn.

 

Pwyntiau Allweddol:

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio wrth y Pwyllgor fod yr Aelodau eisoes wedi ystyried yr opsiwn o benodi Aelod Llywyddu am 2-3 blynedd, ond argymhellodd i'r Cyngor y dylai'r rôl faerol bresennol barhau. Gofynnodd y swyddogion i'r Aelodau heddiw ailystyried eu penderfyniad blaenorol ynghylch gweithredu model aelod llywyddu ar gyfer y dyfodol, yng ngoleuni'r adolygiad o'r trefniadau democrataidd, y newid i gyfarfodydd o bell/hybrid a'r agenda foderneiddio.

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth grynodeb o'r pwyntiau yn y cyflwyniad ynghylch cael aelod ar wahân i gadeirio cyfarfodydd y Cyngor. Fe'i cyflwynwyd drwy Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) Cymru gan Lywodraeth Cymru gan fod cadeirio cyfarfodydd y Cyngor yn gofyn am wahanol sgiliau i rai rôl y Maer.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor wedi cyflwyno cais ffurfiol i uwchraddio rôl y Maer i statws Arglwydd Faer yn rhan o anrhydeddau Jiwbilî Platinwm y Frenhines fis Mehefin nesaf. Pe bai rôl y Maer yn cael ei uwchraddio, efallai y bydd mwy o alwadau ar amser yr unigolyn hwnnw hefyd.

 

Dywedodd y Swyddogion y byddai unrhyw newidiadau'n dod i rym o fis Mai nesaf gan fod symud i gyfarfodydd hybrid yn gofyn am wahanol sgiliau a nodon nhw fod llawer o awdurdodau eraill wedi gwneud hyn gan y gall yr Aelod hwnnw gadw ei swydd i adeiladu'r lefel honno o arbenigedd.

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:

 

·       Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai swydd yr Aelod Llywyddu yn swydd â thâl ac a fyddai dwy swydd; un yn ddirprwy.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth y gallai'r Aelod Llywyddu ennill cyflog ychwanegol ond na fyddai'r dirprwy aelod yn ennill uwch gyflog. Cyflog yr Aelod Llywyddu fyddai £25,000.00 y flwyddyn. Roedd y Cyngor yn gallu talu uwch gyflog ychwanegol gan ei fod yn is na'r uchafswm o 18 o uwch gyflogau, a ragnodir gan y Panel ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai'n gwahanu rôl y Cyngor oddi wrth rôl y Maer. Ar hyn o bryd mae’n rhaid i Aelod Cabinet ymddiswyddo os yw’n dymuno bod yn Faer gan fod y gyfraith yn datgan na all Aelod Cabinet gadeirio cyfarfodydd y Cyngor llawn. Fodd bynnag, byddai cael Aelod Llywyddu ar wahân yn cadeirio cyfarfodydd y Cyngor yn rhyddhau Aelod Cabinet i fod yn Faer dan yr uwch rôl ac i gyflawni'r rôl ddinesig, er mai dim ond un uwch gyflog y byddai’n gymwys i'w gael.

 

·       Dywedodd y Cynghorydd Watkins eu bod yn hapus â'r system sydd ar waith ar hyn o bryd a nododd, pe bai rôl y Maer yn cael ei huwchraddio i statws Arglwydd Faer; fod ganddynt Ddirprwy Faer a allai fod yn Aelod Llywyddu ac felly nid yw'n gweld y pwynt o ran creu swydd â chyflog £25,000.00.

 

·       Anghytunodd y Cynghorydd Whitcutt â'r pwynt  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Cofnodion:

Dydd Mawrth 18 Ionawr - 10am - 12pm

 

7.

Digwyddiad Byw

Cofnodion: