Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 28ain Chwefror, 2022 10.00 am

Cyswllt: Leanne Rowlands  Democracy Services Manager

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cynghorwyr M Whitcutt.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion Cyfarfod a Gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2022 pdf icon PDF 373 KB

Cofnodion:

Derbyniwydcofnodion y cyfarfod ar 18 Ionawr 2022 a’u cymeradwyo fel cofnod cywir o’r cyfarfod diwethaf.

 

Materionyn Codi:

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd M. Evans at grybwyll cynlluniau deiseb o 13 Rhagfyr 2021 a gofynnodd a oedd gan y swyddogion diweddariad i’r Pwyllgor ynghylch cyflwyno deisebau. Esboniodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai ond newydd ei dderbyn yr oedd y canllaw drafft, a chadarnhaodd y caiff y Pwyllgor adroddiad manylach am y dewisiadau yng nghyfarfod mis Mawrth.

 

4.

Hyfforddiant Cynefino Aelodau (Diweddariad am y Cyflwyniad)

Cofnodion:

Leanne Rowlands – Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd

 

RhoddoddRheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y newyddion diweddaraf i’r Pwyllgor a rhannu’r cynlluniau am Hyfforddiant Cynefino Aelodau iddynt eu hadolygu a gwneud sylwadau. Dywedwyd wrth yr Aelodau beth oedd y gofynion deddfwriaethol i Aelodau a gwaith CLlLC ar fframwaith i Aelodau yng Nghymru. Hysbyswyd y Pwyllgor y defnyddir fframweithiau cymhwysedd i Aelodau i’w helpu i ddatblygu.

 

 Pwyntiau allweddol

 

Ymdriniodd y Swyddog Arweiniol ag egwyddorion a dulliau cyflwyno’r hyfforddiant, nodi y bydd yr hyfforddiant yn canoli ar yr aelodau, a’u bod yn edrych ar ffyrdd i wneud yr hyfforddiant mor ddiddorol ag sydd modd. Pecyn Dogfennau Cyhoeddus: hysbyswyd yr Aelodau y cynhelir yr hyfforddiant ar amrywiol lwyfannau, megis hyfforddiant wyneb yn wyneb, gweithdai a modiwlau e-ddysgu, er mwyn sicrhau y gellir ei gyflwyno’n hygyrch. Bydd hyfforddi a mentora hefyd yn digwydd.

 

Rhoddwyd y dyddiadau allweddol i’r Pwyllgor, a dywedwyd y bydd 6 diwrnod gwaith clir o’r cyfrif hyd at y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 17 Mai; mae hyn yn amserlen dynn iawn, yn enwedig gydag Aelodau newydd yn dod i mewn.

 

Bydd cynnal hyfforddiant craidd a chynefino gyda’r cyfarpar yn gryn dasg er mwyn i’r Aelodau newydd fod yn barod am y CCB. Hysbyswyd yr Aelodau mai cyfarfod hybrid fydd y CCB a bod angen felly i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd ddarparu hyfforddiant yn ôl y galw fel bod Aelodau’n teimlo’n gyfforddus i gymryd rhan yn y cyfarfodydd.

 

Ymdriniodd y Swyddog Arweiniol ag amcanion y cwricwlwm, a mynd trwy’r hyfforddiant i’r Aelodau fesul wythnos. I grynhoi, mae cyfanswm o 33 modiwl, gyda 16 ohonynt yn orfodol, a 6 yn orfodol i Aelodau pwyllgorau penodol. I weddill yr Aelodau, bydd cyfanswm o 10 modiwl gorfodol, wedi eu gwasgaru dros gyfnod o amser, ac yn llai aml wedi wythnos gyntaf yr hyfforddiant cynefino.

 

Croesawodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd unrhyw gwestiynau a sylwadau gan y Pwyllgor.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn y Pwyllgor:

 

·Holodd y Cynghorydd T. Watkins a allai Aelodau’r Pwyllgor gael copi o’r cyflwyniad.

CadarnhaoddRheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y caiff ei ddosbarthu ac y bydd rhan o’r gefnogaeth i ddarpar-ymgeiswyr a gwybodaeth am hyfforddiant ar gael. Esboniwyd eu bod yn gosod disgwyliadau am yr wythnos gyntaf oherwydd y bydd llawer o waith i’w wneud, a’i bod yn bwysig felly egluro pa mor brysur y bydd yr wythnos honno. Trafodwyd y ffaith y gallai cynghorwyr a darpar-ymgeiswyr fod wedi trefnu gwyliau, ac y byddai’n syniad felly eu rhybuddio ymlaen llaw.

 

 ·Diolchodd y Cynghorydd Hourahine y swyddog am y cyflwyniad a chrybwyll nad oedd 3-4 o Aelodau’r Pwyllgor Safonau yn y gorffennol wedi cymryd rhan yn y modiwlau gorfodol; holodd a fyddai sancsiynau’n cael eu gosod ar y sawl na fyddant yn cymryd rhan.

 

Atebodd y Pennaeth Gwasanaeth trwy gadarnhau nad oes gan y cyngor sancsiynau gorfodi, ond y dywed y  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Arolygon Aelodau (Diweddariad am y Cyflwyniad)

Cofnodion:

Leanne Rowlands – Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd

 

Aeth Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd dros y gofynion am y misoedd i ddod megis cynnal arolygon gadael a fwriadwyd i gael adborth gan Aelodau er mwyn gwella’r gefnogaeth, sydd yn gysylltiedig â’r strategaeth gyfranogi ac i ddeall o brofiad yr Aelodau. Rhestrodd y rheolwr y tri arolwg arall fyddai’n cael eu cynnal: Arolwg Gadael Safonau Moesegol, Arolwg Amrywiaeth ac Arolwg Ymgeiswyr.

 

Pwyntiau allweddol

 

Aeth y Swyddog Arweiniol i fanylion am y mathau o gwestiynau y byddai’r Aelodau yn ymateb yn yr arolygon. Pwysleisiwyd wrth yr Aelodau y bydd yr atebion i’r arolygon yn hollol gyfrinachol ac y byddai’r canfyddiadau yn ddienw. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y cyngor yn cydnabod heriau cael nifer fawr o arolygon megis gofynion yn gorgyffwrdd. Nodwyd y gallai’r Aelodau brofi blinder o gael gormod o arolygon ac y gallai ceisio cael cyfradd ymateb resymol i fod yn wrthrychol am y canfyddiadau fod yn heriol.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gallai’r cyngor adolygu’r cwestiynau ac ystyried y gorgyffwrdd fel cyfle i asio o leiaf dri arolwg yn un, er hwylustod. Mae arolwg Data Cymru yn wahanol ac fe’i cynhelir yn y ffordd arferol felly nid oes modd i’r tîm gyfuno honno. Cafodd yr Aelodau wybodaeth am linell amser proses yr arolygon. Caiff cwestiynau’r arolwg eu gwneud ar 10 Mawrth, bydd Arolwg Ymgeiswyr Data Cymru yn fyw o 28 Mawrth, fel y bu trwy gydol y cyfnod ymgynghori. Yna bydd y swyddogion yn dod ag unrhyw arolygon eraill i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 30 Mawrth.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn y Pwyllgor:

 

· Cyfeiriodd y Cynghorydd K. Thomas at fater blinder gydag arolygon a holi a fyddai unrhyw gwestiynau newydd yn yr arolygon na fyddai’r Aelodau wedi dod ar eu traws ymlaen llaw.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd na fyddai meysydd newydd, ond fod rhan newydd o’r gwaith yn gysylltiedig â’r arolwg cyfranogi. Felly mae dal peth o’r data yn cysylltu i mewn â hynny, a chaiff ei fonitro.

 

· Nododd y Cynghorydd M. Evans hefyd fater blinder ag arolygon a mynegodd bryder na all y tîm gael ymatebion gan bobl o’r herwydd. Nodwyd fod cyrff ar wahân, ond holodd a allai’r Aelodau dderbyn un arolwg yn lle tri.

Awgrymodd yr Aelod y gallai’r Aelodau gael un dudalen lle byddai cyfle i roi sylwadau. Aeth yr Aelod ymlaen i amlygu, gyda chwestiwn yr arolwg gadael am hyfforddiant cynefino, na all unigolion gofio o 5 mlynedd yn ôl gan y bu amser maith ers hynny.

Awgrymodd yr Aelod a fyddai modd gofyn iddynt wneud sylwadau am hyfforddiant cyffredinol oherwydd bod llai yn fwy, gan gyfeirio at y pwynt hwnnw o’r drafodaeth flaenorol.

 

6.

Canllawiau Drafft ar Gyfansoddiadau (Gwybodaeth yn Unig) pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Gareth Price – Pennaeth y Gyfraith a Safonau

 

Hysbysodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y Pwyllgor mai dogfen ddrafft yw’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn fuan cyn i’r agenda fynd allan felly ei bod wedi ei chynnwys er mwyn gwybodaeth yn unig. Felly nid oes angen penderfyniadau gan y Pwyllgor.

 

Hysbyswyd yr Aelodau y byddai’r tîm yn falch o gymryd unrhyw gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn y Pwyllgor:

 

· Holodd y Cynghorydd Hourahine a oedd y Pennaeth Gwasanaeth yn golygu y byddai’n ateb eu cwestiynau yn uniongyrchol neu yn eu hanfon ymlaen at Lywodraeth Cymru.

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod hynny’n dibynnu ar y math o gwestiwn. Petaent yn sylwadau am y ddogfennaeth drafft, yna byddai’r cyngor yn hapus i’w trosglwyddo i Lywodraeth Cymru fel ymateb i’r ymgynghoriad.

 

· Holodd Cynghorydd T. Watkins o lle y deuai’r gyllideb ar gyfer rôl y cymorth gwleidyddol fel y trafodwyd ynghynt.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai’r cyngor fyddai’n talu am ymgynghorwyr y grwpiau gwleidyddol petaent am eu cyflogi.

 

·Aeth yr Aelod ymlaen i holi a fyddai’n rhaid i’r cyngor wedyn gael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rôl neu a fyddai’n dod allan o gyllideb y cyngor.

 

Atebodd y swyddog trwy ddweud y deuai allan o’r gyllideb staffio i dalu am gynorthwywyr gwleidyddol. Nid oes cyllid ychwanegol i hynny.

 

·Holodd y Cynghorydd Hourahine a fyddai’r cynorthwywyr gwleidyddol yn cael eu talu pro-rata i nifer y seddi.

 

DywedoddPennaeth y Gyfraith a Safonau y byddai’n rhaid i’r gr?p fod ag o leiaf 10% o’r Aelodau ar y cyngor i fod yn gymwys am ymgynghorydd. Felly o fis Mai ymlaen, gyda’r cynnydd yn aelodaeth y Cyngor i 51 o Gynghorwyr, byddai’n rhaid i bob gr?p gael o leiaf 6 o Aelodau i fod yn gymwys am gymhorthydd gwleidyddol. Os bydd digon o aelodau, yna byddai gan y  3 gr?p mwyaf ar y Cyngor hawl i benodi un cynorthwydd gwleidyddol. Ond nid yw’n gymesur a nifer y seddi, gyda mwy o Aelodau i fod yn gymwys am y cymorth.

 

·Cyfeiriodd y Cadeirydd at adran 56 y pwerau dirprwyedig a holodd a oedd hyn yn ddeddfwriaeth newydd i’r cyngor.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol mai cyngor blaenorol o fesur 2011 oedd hyn, felly nid yw’n newydd ond yn ail-ddatganiad o ganllawiau blaenorol a chyngor yn unig ydyw.

 

·Holodd y Cadeirydd a yw’r cyngor yn gweithredu adran 56.

Cadarnhaodd  Pennaeth y Gyfraith mai p?er dewisol yw adran 56 ac nad yw’r cyngor erioed wedi gweithredu’r p?er i ddirprwyo penderfyniadau i aelodau anweithredol. Mae rhai cynghorau wedi defnyddio’r p?er hwn lle mae ganddynt ardaloedd mawr a phwyllgorau ward mewn cymunedau unigol. Maent wedi rhoi pwerau dirprwyedig i’r aelodau anweithredol ar y pwyllgorau ward hynny. Fodd bynnag, yng Nghasnewydd, yr oedd y cynllun dirprwyo am benderfyniadau gweithredol unigol  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Llawlyfr Democratiaeth (Gwybodaeth yn Unig) pdf icon PDF 599 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gareth Price – Pennaeth y Gyfraith a Safonau

 

Hysbysodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y Pwyllgor fod y Llawlyfr Democratiaeth a ddarperir ar hyn o bryd yn ddogfen ddrafft ac y bydd mwy yn dilyn. Pan gyhoeddir y fersiwn derfynol, gall yr Aelodau roi sylwadau a chodi cwestiynau arni.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn y Pwyllgor:

 

· Holodd y Cynghorydd T. Watkins a oes llinell amser ar y ddwy ddogfen a grybwyllwyd.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth, o ran ymgynghori, na chafodd y  cyngor gyfnod ymgynghori ffurfiol. Esboniwyd na fyddant yn cael fersiwn derfynol y dogfennau tan ar ôl yr etholiadau ym Mai. Nodwyd, er nad oedd llinell amser, gorau po gyntaf y gall y pwyllgor ymateb.

 

· Mynegodd y Cynghorydd T. Watkins ei bryder os bydd y dogfennau yn barod ar ôl yr etholiad, y gall mwy o bwysau fod ar yr ymgeiswyr newydd a etholir ym mis Mai.

 

Dywedodd y Swyddog Arweiniol na fyddai pwysau ar yr ymgeiswyr eu hunain, gan ei fod yn canolbnwyntio mwy ar y broses lywodraethiant. Rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau fod y gwaith sy’n cael ei wneud tan fis Mai er mwyn sicrhau bod y sylfeini’n barod fel y byddai’r cyfansoddiad presennol yn cwrdd â’r gofynion angenrheidiol. Er enghraifft, gyda’r cynlluniau deiseb, gallant fod yn eu lle erbyn mis Mai gyda pholisi sylfaenol iawn, ond efallai y dymuna’r cyngor newydd adolygu a gwella hyn. Mae’r dogfennau yn cael eu mireinio a’u hadolygu yn gyson a gallai Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd newydd edrych i mewn i hyn.

 

· Cytunodd y Cadeirydd gyda’r sylw o dudalen 79 mai proses nid digwyddiad yw’r hyfforddiant a dywedodd y dylai’r cyngor edrych eto ar y cynlluniau deiseb.

 

Mewn ymateb, cadarnhodd y Pennaeth Gwasanaeth mai newydd gyrraedd yr oedd y cyngor felly pan gaiff y cynllun deiseb ei ddtablygu, y bydd hyn yn cael ei ystyried. Nid yw’r canllawiau ar eu ffurf derfynol eto o ran yr agwedd y gall fod angen ei mireinio wedi mis Mai. Fodd bynnag, hysbyswyd y Pwyllgor y bydd y swyddogion yn dod â dewisiadau gerbon i’w hystyried ym mis Mawrth.

 

8.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Cofnodion:

Mercher 30 Mawrth 10am – 12pm.

9.

Digwyddiad Byw

Cofnodion:

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, 28 Chwefror 2022 – YouTube

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10:53