Cyswllt: Leanne Rowlands Democracy and Communications Manager
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Y Cynghorydd Giles, y Cynghorydd Clarke, y Cynghorydd Whitcutt, y Cynghorydd Thomas a Leanne Rowlands.
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 128 KB Cofnodion: Derbyniwyd a chymeradwywyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2022 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
Materionyn Codi Cyfeiriodd y Cynghorydd M. Evans at dudalen gyntaf y cofnodion o'r cyfarfod diwethaf, lle roedd y pwyllgor wedi codi cynlluniau deiseb, ac roedd y swyddogion newydd dderbyn cyngor oddi wrth Lywodraeth Cymru ar y pryd. Nodwyd y byddai'r swyddogion yn derbyn rhagor o wybodaeth i'w hadrodd yng nghyfarfod mis Mawrth, a gofynnwyd a allai'r Pwyllgor gael y newyddion diweddaraf am yr wybodaeth honno gan Lywodraeth Cymru.
CadarnhaoddPennaeth y Gyfraith a Safonau y byddai'r eitem nesaf ar yr agenda yn ymdrin â'r pwynt hwnnw, ond dywedwyd nad oeddent wedi derbyn unrhyw ddiweddariad pellach o ran canllawiau. Roedd y cyfarfod diwethaf yn seiliedig ar y canllawiau drafft, ac ni fyddai'r canllawiau hynny ar gael tan ar ôl fis Mai. Dywedwyd felly fod y swyddogion yn mynd rhagddynt ar sail y canllawiau drafft i roi'r diweddaraf ar lafar i'r Aelodau.
|
|
Diweddariad ynghylch Ymgynghori ar y Strategaeth Cyfranogiad (Er Gwybodaeth yn Unig) Cofnodion: Gareth Price – Pennaeth y Gyfraith a Safonau
Rhoddodd y Swyddog Arweiniol drosolwg cryno i'r Pwyllgor ar y Strategaeth Cyfranogi a chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft y strategaeth a gymeradwywyd gan y pwyllgor. Eglurodd y Swyddog ei fod wedi cael y newyddion diweddaraf gan reolwr y Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol am yr ymgynghoriad cyhoeddus, na chafwyd ond 13-14 o ymatebion iddo drwy dudalen we'r Cyngor. O ran y strategaeth ei hun, nid oedd unrhyw sylwadau ynghylch cynnwys y strategaeth, ond yn hytrach sylwadau'n honni nad oedd y Cyngor yn gwrando ar bryderon y cyhoedd ac ynghylch ymateb y Cyngor i'r sylwadau hynny.
Dywedwyd bod rhai sylwadau'n trafod hygyrchedd y wefan. Dywedwyd wrth yr aelodau fod mynediad i'r cyhoedd dan ystyriaeth o ran ceisiadau gwasanaeth cwsmeriaid, ond roedd a wnelo hyn â hygyrchedd y broses lywodraethu, a'r ffordd mae'n gweithio, sy'n ofynnol yn y ddeddfwriaeth. Gan ei fod yn bolisi deinamig gydag amcanion i'w gweithredu, ymdrinnir â'r feirniadaeth a gafwyd yn rhan o'r cynllun gweithredu. Oherwydd graddfeydd amser y cynllun, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth na fyddai cyfarfod arall yn cael ei gynnal rhwng mis Mawrth a mis Mai. Hysbyswyd y Pwyllgor na fyddai'r ddogfen ddrafft a welwyd gan yr Aelodau yn cael ei newid yn sgil yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac y byddai'r ddogfen honno'n cael ei chyflwyno gerbron y Cyngor llawn i'w mabwysiadu ar 17 Mai. Byddai hynny wedi'i gynnwys ar raglen waith y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd newydd, er mwyn parhau i adolygu'r cynllun wrth weithredu'r strategaeth ymgysylltu.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth gyflwyniad diweddaru i'r Pwyllgor gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol, a drafodai ofynion deddfwriaethol cynllun deisebau ffurfiol. Nodwyd bod gan y Cyngor broses, ond gan nad yw wedi'i chofnodi, nid oedd modd adrodd y canlyniadau'n ôl i'r pwyllgor. Tynnodd y swyddog sylw at y ffaith bod angen i'r Cyngor ffurfioli'r broses hon. Atgoffwyd yr aelodau fod hyn yn seiliedig ar ganllawiau drafft Llywodraeth Cymru, ac y byddent yn ceisio datblygu rhywbeth i'w gyflwyno gerbron y Cyngor ym mis Mai. Ystyriwyd system hidlo fel na fyddai'r Cyngor yn gorfod ymdrin â deisebau blinderus. Gellid gwneud hynny drwy ddilysu arweinwyr deisebau, ac ystyried a fyddai'r Cyngor am gael isafswm o lofnodion cyn ymateb i ddeisebau. Trafodwyd gofynion ar gyfer yr hyn na fyddai’n cael ei ystyried yn ddeiseb ddilys, ee penderfyniadau cynllunio a thrwyddedu, cwynion yn gysylltiedig â'r cod ymddygiad ac apeliadau statudol, gan fod gan yr awdurdod eisoes brosesau ar gyfer y rheiny. Crybwyllwyd hefyd y gallai'r Cyngor ragnodi amserlen i ymateb i'r deisebau dan sylw. Roedd y swyddog yn croesawu'r sylwadau a'r cwestiynau gan y Pwyllgor.
Cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn: · Nododd y Cynghorydd Hourahine fod y deisebau y mae'n dod ar eu traws yn ei ward yn ymwneud yn bennaf â pharcio i breswylwyr a nododd y sylw olaf ynghylch yr amserlen; sef y dylai fod yn hanfodol i'r Cyngor gael amserlen ar gyfer ymdrin â deisebau. Gofynnodd yr Aelod i'r swyddog gadarnhau a oedd yn rhagweld y byddai parcio yn cael ei ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Adroddiad y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRP) (Er Gwybodaeth yn Unig) Cofnodion: Gareth Price – Pennaeth y Gyfraith a Safonau
Dywedwydwrth y Pwyllgor fod Adroddiad y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cael ei gynnwys ar yr agenda er gwybodaeth yn unig, ond ei fod yn cyffwrdd ar bwynt y Cynghorydd M. Evans ynghylch cyflwyno'r adroddiad i'w drafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth mai dyma oedd yr adroddiad terfynol ac na chafwyd unrhyw newidiadau o bwys iddo ers adroddiad drafft mis Tachwedd 2021, o ran lwfansau sylfaenol ac ail-bennu cyflogau uwch.
O ran y Cyngor Llawn ar 17 Mai 2022, byddai gofyn i'r Cyngor fabwysiadu Cynllun Lwfansau'r Aelodau yn seiliedig ar y cyflogau diwygiedig, ac ar gyfer materion cadw t?, mae'n rhaid i'r swyddogion gyflwyno'r adroddiad ym mis Mai i'w fabwysiadu gan y Cyngor newydd.
Arôl i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol wneud penodiadau o ran Aelodau'r Cabinet ac Arweinwyr y Pleidiau, byddai cynllun lwfansau cyhoeddedig yr aelodau yn gosod eu henwau yn erbyn yr atodlenni cyflogau uwch.
Cydnabu'raelodau bwyntiau'r swyddog ynghylch y dogfennau.
|
|
Cynllun Dirprwyo Swyddogion Newydd (Gwybodaeth yn Unig) PDF 273 KB Cofnodion: Gareth Price – Pennaeth y Gyfraith a Safonau Elizabeth Bryant – Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Cyfreithiol
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth drosolwg cryno i'r Pwyllgor ac ailbwysleisio mai gwaith ar y gweill yw'r Cynllun Dirprwyo Swyddogion newydd, ac y byddent yn mynd ati i'w fireinio a'i gwblhau'n derfynol. Nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau o bwys i'r trefniadau dirprwyo cyfredol, ond cafodd swyddogaethau penodol eu hailddyrannu i'r Penaethiaid Gwasanaeth newydd, ar ôl ad-drefnu'r uwch reolwyr ac ailalinio'r gwasanaethau.
Erenghraifft, roedd Diogelu'r Cyhoedd gynt wedi'i gynnwys o dan Y Gyfraith a Safonau, ac roedd tacsis/trwyddedu a'r holl is-adrannau iechyd yr amgylchedd wedi'u cynnwys o dan Bennaeth y Gyfraith a Safonau, ond roedd y swyddogaethau hynny bellach yn cael eu trosglwyddo i bennaeth newydd, sef Pennaeth yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd. Byddai'n sicrhau bod y swyddogion dirprwyol oddi mewn i'r maes gwasanaeth cywir, a dywedodd bod y gwaith yn llawer mwy cymhleth nag yr oedd yn ymddangos gan fod y Cyngor yn gorfod datgyfuno rhai o'r gwasanaethau. Rhoddodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau glod i Bennaeth Cynorthwyol y Gwasanaethau Cyfreithiol, Elizabeth Bryant, a wnaeth lawer o'r gwaith ar hynny.
Dywedwydwrth yr Aelodau mai gwaith ar y gweill oedd hyn, ac mai'r bwriad fyddai gorffen rhwng nawr a mis Mai i'r Aelodau gymeradwyo'r Cynllun ar 17 Mai.
Roedd y swyddogion yn croesawu unrhyw ymholiadau gan y Pwyllgor.
Cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn: · Holodd y Cynghorydd Watkins sut y byddai'r cynllun dirprwyo yn effeithio ar y pwyllgorau craffu.
DywedoddPennaeth y Gyfraith a Safonau nad oes a wnelo'r cynllun dirprwyo swyddogion ond â phenderfyniadau a wneir ar lefel swyddog. Mewn perthynas â'r pwyllgorau craffu; byddai'r rhan fwyaf o hynny'n dibynnu ar gyfansoddiad y Cyngor newydd a gaiff ei ethol. Arhyn o bryd, yr oedd dau Bwyllgor Craffu Perfformiad yn craffu ar gynlluniau gwasanaeth, ac roeddent wedi'u seilio ar yr hen Gyfarwyddiaethau Pobl a Lle/Corfforaethol. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod pedair cyfarwyddiaeth gorfforaethol ar hyn o bryd, a bod gwasanaethau wedi'u grwpio'n wahanol. Yn ogystal â hynny, roedd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid yn datblygu proses hunanasesu perfformiad newydd. Dywedwydwrth yr aelodau y byddai angen i'r swyddogion edrych ar hynny gyda'r cadeiryddion craffu; a fyddai'n ddarn mwy o waith yn nhermau perfformiad newydd.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at bwyntiau tri a saith yn yr is-adran Cyfrifoldeb Adfywio i wneud ceisiadau am gyllid Ewropeaidd, a gofynnodd a oedd hyn yn berthnasol bellach.
DywedoddPennaeth y Gyfraith a Safonau y gallent hepgor y cyfeiriad at 'Ewropeaidd', gan y byddai'r Cyngor yn dal i dderbyn cyllid grant allanol, cyllid codi'r gwastad a chyllid grant mewnol. Dywedwyd wrth yr Aelod y byddai hynny'n cael ei unioni'n rhan o'r broses fireinio.
Dywedodd y Swyddog Arweiniol hefyd fod y Penaethiaid Gwasanaeth yn perffeithio agweddau eraill ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Diweddariad gan yr Aelod Llywyddol/Cadeirydd y Cyngor PDF 156 KB Cofnodion: Gareth Price – Pennaeth y Gyfraith a Safonau
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth drosolwg cryno i'r Pwyllgor ac esboniodd fod yr adroddiad yn rhoi manylion pellach am drefniadau, rolau a chyfrifoldebau'r Aelod Llywyddol. Penderfynir ar benodiadau Cadeirydd y Cyngor/Yr Aelod Llywyddol a'r Is-gadeirydd/Y Dirprwy Aelod Llywyddol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 17 Mai 2022. Gofynnir i'r Cyngor hefyd gymeradwyo'r newidiadau angenrheidiol i'r Cyfansoddiad yn sgil mabwysiadu rôl newydd yr Aelod Llywyddol.
Rhoddodd y Swyddog fwy o wybodaeth ynghylch sut y byddai'r broses yn gweithio'n ymarferol; ceir ddisgrifiad diwygiedig o rôl yr Aelod Llywyddol a’r Is-Gadeirydd yn y ddogfen. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod gan 76% o gynghorau yng Nghymru Aelod Llywyddol yn ôl yr adroddiad. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cynghorau eisoes wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, ond mai'r prif bwynt oedd bod penodiad yr Aelod Llywyddol yn fater i'r Cyngor llawn, ac mai dyna fyddai'r eitem gyntaf i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mai.
Aeth y Pennaeth Gwasanaeth ati i roi esboniad manwl o'r broses o enwebu a phenodi Aelod Llywyddol yn y Cyngor, a dywedodd y byddai'r rôl yn destun adolygiad bob blwyddyn, ac na fyddai dim i atal Cadeirydd y Cyngor rhag cael ei ail-ethol. Amlygodd hefyd y gwahaniaeth rhwng y Cadeirydd a rôl seremonïol y Maer; nad yw'r Maer ond yn cynrychioli'r Cyngor fel prif ddinesydd mewn digwyddiadau mewnol ac allanol.
Cyfeiriodd y Swyddog at arferion eraill y Cyngor, drwy gytundeb partïon y Cyngor; pe bai'r Aelod Llywyddol yn cael ei benodi o'r naill gr?p, gallai'r gr?p arall benodi'r Dirprwy Aelod Llywyddol. Dywedwyd y gallai hyn fod yn rhywbeth yr hoffai'r grwpiau ei ystyried ar ôl mis Mai 2022.
Roedd y swyddog yn croesawu unrhyw sylwadau a chwestiynau gan y pwyllgor.
Cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn: · Mynegodd y Cynghorydd M. Evans bryder y gallai cyfarfod mis Mai fod yn hir i'r Aelodau a oedd newydd eu hethol. Gofynnodd yr Aelod a fyddai gan yr Aelod Llywyddol bleidlais fwrw.
Mewnymateb i hyn, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai gan yr Aelod Llywyddol ail bleidlais a phleidlais fwrw, a dywedodd fod hyn wedi'i nodi yn yr adroddiad, ond y byddai angen diwygio rheolau sefydlog y Cyngor yn sgil y newid. Byddai gan yr Aelod Llywyddol yr un hawliau â'r Maer, a gallai'r sawl a oedd yn cadeirio'r cyfarfodydd alw'r bleidlais. · Holodd y Cadeirydd a fyddai'r Maer cyfredol, y Cynghorydd David Williams, yn agor y cyfarfod fel Maer.
Dywedodd y Swyddog Arweiniol y byddai hynny'n dibynnu a fyddai'r Cynghorydd Williams yn cael ei ail-ethol. A phe bai'n cael ei ail-ethol, byddai'r Maer yn agor y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a'r eitem gyntaf ar yr agenda fyddai enwebu'r Aelod Llywyddol, ac ar ôl cael ei benodi byddai'r unigolyn hwnnw'n cadeirio gweddill y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
· Holodd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf Thursday 16 June 10am – 12pm. Cofnodion: Dyddiadposibl ar gyfer cyfarfod ad-hoc ym mis Mehefin DyddIau 16 Mehefin 10am – 12pm
|
|
Digwyddiad Byw Cofnodion: |