Cyswllt: Leanne Rowlands Democratic and Electoral Services Manager
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorydd Corten.
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Awgrymodd y Cynghorydd K Thomas fod gan bob Aelod ddiddordeb gan ei fod yn effeithio ar bob Ward.
|
|
Cofnodion y cyfarfod (ydd) diwethaf PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022 fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Cyfarfod Ward i'r Pwyllgor sy'n cynnwys newidiadau posibl i'r gefnogaeth ar gyfer cyfarfodydd ward.
Ers y pandemig, daeth y cyfarfodydd wyneb yn wyneb i ben ac ni chawsant eu hailgychwyn gan fod amrywiaeth o ffyrdd o gyflwyno sylwadau i'r cyhoedd.
Nodwyd ei bod yn ofynnol i'r cyngor o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol annog trigolion i ymgysylltu a bod y Strategaeth Gyfranogi wedi'i datblygu. Nodwyd bod pobl eisiau mwy o lais nid drwy ddulliau digidol yn unig.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau mai nod yr adroddiad yw cefnogi'r holl ofynion ar ymgynghori â'r cyhoedd mewn dull ehangach, gan gynnwys dulliau wyneb yn wyneb a hwyluso'r adborth gan y trigolion ar y penderfyniadau ar gyfarfodydd wardiau.
Pwyntiau allweddol:
Mae'r adroddiad yn cynnig hwyluso dau gyfarfod ward y flwyddyn ar gyfer pob ward. Byddai'r cyfarfod cyntaf yn ymwneud â’r ymgynghoriad ar y gyllideb a byddai'r ail chwe mis yn ddiweddarach yn canolbwyntio ar berfformiad y cyngor ac adborth ar y cynllun gwasanaeth.
Nodwyd y byddai’r cyfarfodydd ward yn cael eu cefnogi gan swyddogion i sefydlu'r cyfarfodydd a helpu gyda'r cyhoeddusrwydd i sicrhau bod presenoldeb da ynddynt.
Byddai'r cyfarfodydd yn ddewisol gan y byddai’n dibynnu ar ofynion Aelodau'r Ward. Atgoffwyd yr Aelodau, pe bai pob ward yn dymuno cynnal cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn, y byddai hynny'n 42 cyfarfod y flwyddyn a byddai angen cefnogaeth ddigonol gan swyddogion er mwyn i'r cyfarfodydd hynny ddigwydd.
Mae angen dull gweithredu cyson a bod hwn yn newid arfaethedig o ran cefnogi'r cyfarfodydd hynny, mae'n ofynnol i'r pwyllgor wneud a rhannu'r broses â Chynghorwyr eraill.
Aeth y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol drwy'r adborth ar ymgynghori gan y trigolion.
Cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:
· Teimlai'r Cynghorydd Thomas y gallai’r ddogfennaeth fod yn fwy hygyrch ac esboniadol a defnyddiodd esiampl, gan ddweud bod dogfennau'r cais cynllunio yn wrth-reddfol. Sicrhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol yr Aelodau y bydd yn diweddaru'r Pwyllgor ym mis Chwefror i rannu sut y maent wedi datblygu'r strategaeth gyfranogi.
· Gwnaed sylw gan y Cynghorydd Thomas fod naws ddig i'r sylwadau gan drigolion i’r ymgynghoriad. Dywedodd y Cadeirydd y gall pobl guddio y tu ôl i enwau defnyddwyr, gydag adborth ar-lein, ond yng nghyfarfodydd pwyllgor cymdogaeth ceir trafodaeth synhwyrol, ac felly'n atebol am eu sylwadau.
· Nododd y Cynghorydd Thomas y dylai ward Stow Hill fod â’r gallu i gael cyfarfodydd ward a theimlai ei bod yn anffodus na allent fod wedi eu hadfer yn gynt ers y pandemig. Amlygodd yr Aelod fod y cyfarfodydd ward yn un elfen ond yn un bwysig iawn o'r strategaeth gyfranogi ond yn teimlo bod cryfderau cynnal cyfarfodydd ward yn cael eu colli yn y ddogfen.
Wrth edrych ar wahanol adrannau; teimlai'r Aelod y dylai'r agenda gael ei harwain gan y trigolion ac nid y cyngor oherwydd nodwyd y byddai eu ward yn cynnal tri chyfarfod y flwyddyn lle byddai trigolion yn cael cyfle i godi materion.
Mynegodd y Cynghorydd Thomas bryder hefyd fod dau gyfarfod y flwyddyn yn ddigonol; fel y byddai Ward ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf Tuesday 21 February 2023 10am – 12pm Committee Room 1. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor i ailymgynnull ar gyfer cyfarfod ad-hoc ym mis Ionawr 2023. Bydd y cyfarfod a drefnwyd ar ôl hynny ddydd Mawrth 21 Chwefror 10am-12pm yn Ystafell Bwyllgor 1. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai'r Aelodau gael yr adroddiad i'r holl Aelodau er mwyn iddynt allu rhoi sylwadau ychwanegol drwy e-bost. Daeth y cyfarfod i ben am 10.50
|