Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Iau, 21ain Tachwedd, 2024 10.00 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Simon Richards  Swyddog Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Jane Mudd.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion o'r Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Medi 2024 yn gofnod gwir a chywir.

 

  • Cododd y Pwyllgor bwynt o eglurhad nad oedd trafodaeth ynghylch aelodau'r cyhoedd yn gallu gofyn cwestiynau yn y Cyngor llawn wedi ei chynnwys yn y cofnodion. Yn dilyn y cyfarfod adolygwyd y recordiad llawn o'r trafodion, a chadarnhawyd na thrafodwyd y pwynt hwn yn y cyfarfod.

 

4.

Hyfforddiant i Aelodau pdf icon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol (RhGDE) yr eitem hon i'r Pwyllgor.

 

Trafododd y Pwyllgor yr eitem - i gael mynediad at recordiad llawn o'r sylwadau a wnaed, cyfeiriwch at sianel YouTube y Cyngor: Democratic meetings / Cyfarfodydd democrataidd. 

 

Argymhellion:

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor i Swyddogion ddarparu adroddiad yn y cyfarfod nesaf ar hyfforddiant i Aelodau gan gynnwys argymhellion ar gyrsiau y dylid eu hystyried yn orfodol.
  • Argymhellodd y Pwyllgor y dylid ystyried dulliau amgen o gyflwyno hyfforddiant ar gyfer sesiynau'r dyfodol, gan gynnwys gwahanol fformatau, mwy o e-Ddysgu ac amseroedd a dyddiadau gwahanol.
  • Argymhellodd y Pwyllgor fod Swyddogion yn ymchwilio i weld a ellid cynnwys gwiriadau a mesurau yn rhai o'r cyrsiau hyfforddi a gynigir i'r Aelodau.

 

5.

Gweithredu'r Cyfansoddiad Enghreifftiol Newid y Rheolau Sefydlog ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor Llawn Newid y Rheolau Sefydlog ar gyfer contractau pdf icon PDF 373 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr eitem - i gael mynediad at recordiad llawn o'r sylwadau a wnaed, cyfeiriwch at sianel YouTube y Cyngor: Democratic meetings / Cyfarfodydd democrataidd. 

 

Argymhelliad: 

 

  • Argymhellodd y Pwyllgor y dylid symud y newid i'r Rheolau Sefydlog presennol ynghylch Cwestiynau'r Arweinydd a amlinellir yn yr adroddiad i'r Cyngor llawn i'w hystyried a phleidleisio.
  • Argymhellodd y Pwyllgor y dylid sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen i adolygu'r newidiadau i'r Cyfansoddiad sy'n ofynnol i'w alinio â Chyfansoddiad Model Browne-Jacobson.
  • Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno'r newidiadau arfaethedig i gyrff allanol sy'n mynychu'r Cyngor Llawn a'u trafod drwy'r gr?p gorchwyl a gorffen.
  • Gofynnodd y Pwyllgor i Bennaeth y Gyfraith a Safonau ddrafftio Cylch Gorchwyl i'r gr?p gorchwyl a gorffen gael ei gadarnhau yn y cyfarfod nesaf.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Caffael a Thaliadau (RhGCTh) y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog Contract (RhSC) a argymhellwyd i'w cynnwys yng Nghyfansoddiad y Pwyllgor.

 

Trafododd y Pwyllgor yr eitem - i gael mynediad at recordiad llawn o'r sylwadau a wnaed, cyfeiriwch at sianel YouTube y Cyngor: Democratic meetings / Cyfarfodydd democrataidd. 

 

Argymhelliad:

 

  • Argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Pennaeth Cyllid adolygu’r Rheolau Sefydlog Contract (RhSCau) ac os oes unrhyw ddiwygiadau neu sylwadau pellach yn dilyn hyn, yna dylid eu trafod â Chadeirydd y Pwyllgor cyn y Cyngor Llawn ym mis Ionawr 2025.

 

6.

Adroddiad Blynyddol Drafft 2025-2026 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol pdf icon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Pwyllgor fod y cyfnod ymgynghori ar agor ar hyn o bryd os yw'r Aelodau'n dymuno gwneud unrhyw sylw. Nodwyd mai hwn fydd yr adroddiad olaf yn y fformat presennol gan y byddai'r PACGA yn stopio gweithredu dan y trefniadau presennol, ac y byddai'n trosglwyddo ei swyddogaethau drosodd i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o'r 1 Ebrill 2025.

 

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a'r cyfnod ymgynghori.

 

7.

Blaenraglen Waith pdf icon PDF 45 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd RhGDE y Pwyllgor mai'r eitemau ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer y cyfarfod nesaf fyddai Adroddiad Blynyddol Terfynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2025-2026, y diweddariad i'r adroddiad Hyfforddiant Aelodau a'r dull y cytunwyd arno i sicrhau newidiadau i'r Cyfansoddiad Enghreifftiol.

 

8.

Dyddiad y Cyfarfod nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau 20 Chwefror 2025 am 10am.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dyddiad y cyfarfod nesaf yw dydd Iau 20 Chwefror 2025 am 10am.

 

  • Gofynnodd y RhGDE i'r Cadeirydd a fyddai'n bosibl symud dyddiad y cyfarfod i ganiatáu i Adroddiad Blynyddol Terfynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol fod ar gael a dywedodd y byddent yn edrych ar ddyddiadau posibl ac yn hysbysu'r Pwyllgor.