1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Cyswllt: Leanne Rowlands  Democratic and Electoral Services Manager

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd Thomas.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2022 pdf icon PDF 685 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod olaf a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2022 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

 

4.

Canllaw ar y Cyfansoddiad pdf icon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau drosolwg byr o'r gofyniad i'r awdurdod lleol gyhoeddi'r canllaw newydd ar y cyfansoddiad a fydd ar gael i’r cyhoedd a fersiwn symlach o'r cyfansoddiad, na fydd yn ddogfen dechnegol fel y gall aelodau'r cyhoedd ryngweithio ac ymgysylltu â'r ddogfen.

 

Pwysleisiwyd ei fod yn ganllaw statudol drafft, model a luniwyd gan Lywodraeth Cymru a bod y swyddogion wedi crynhoi llawer o wybodaeth o'r cyfansoddiad i ddogfen lai. Mae gan y canllaw lawer o hyperddolenni a fyddai'n cyfeirio aelodau'r cyhoedd at y rhannau hynny o'r cyfansoddiad/polisïau yr hoffent eu cyrchu.

 

Cafodd aelodau wybod bod yn rhaid i'r Cyngor fod wedi mabwysiadu a chyhoeddi'r canllaw ar y cyfansoddiad cyn gynted â phosib ar ôl Mai 2022 i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, felly yn anffodus ni fyddai digon o amser ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Awgrymwyd i'r Pwyllgor y gallent argymell i'r Cyngor ym mis Tachwedd y dylid mabwysiadu'r ddogfen hon fel dogfen gychwynnol i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth ond cytuno i adolygu'r ddogfen yn gyson a'i gwella wrth iddynt fynd ymlaen drwy’r flaenraglen waith. Gallai ymgynghoriad cyhoeddus wedyn gael ei gynnal fel rhan o'r adolygiad o'r canllaw.

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:

 

-        Gofynnodd y Cynghorydd Hourahine o ran adborth y cyhoedd; pwy fyddai'r grwpiau ehangach yr ymgysylltir â nhw a phryd fyddai'n debygol i'r pwyllgor gael y rhan gyntaf honno o adborth y cyhoedd.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth mai mater llwyr i aelodau'r pwyllgor yw penderfynu ar sut maen nhw'n dymuno ymgysylltu. Mae gan gynghorwyr wahanol ffyrdd o ymgynghori gyda'r cyhoedd, fel holiaduron ar-lein a allai fod yn rhywbeth y gallant ei ychwanegu at y flaenraglen waith.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Democrataidd a Gwasanaethau Etholiadol bod yr awdurdod, ym mis Mai, wedi mabwysiadu'r Strategaeth Cyfranogi er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n nodi sut y gall y Cyngor ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae’n cynnwys amcanion allweddol a'r adborth oedd eu bod wedi gwneud llawer i ymgysylltu ar-lein ac ymchwilio i sut i gyrraedd grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd. Soniwyd y gallent bob amser ddod â hynny yn ôl i bwyllgorau'r dyfodol i roi’r diweddaraf i'r Aelodau.

 

-        Cyfeiriodd y Cynghorydd Hourahine at ran 4.5 ar dudalen 29 lle mae'n nodi y gall Cynghorwyr ofyn am bleidlais wedi'i chofnodi. Gofynnodd yr Aelod i'r swyddogion egluro faint o Gynghorwyr fyddai eu hangen er mwyn gwneud pleidlais wedi'i chofnodi.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau ei bod yn datgan yn rheolau sefydlog y Cyngor bod angen pump o Gynghorwyr. Soniwyd bod y Rheolau Sefydlog yn rheoleiddio ymddygiad cyfarfodydd a'u bod wedi'u bwriadu ar gyfer Cynghorwyr, nid ar gyfer aelodau'r cyhoedd.  Felly, nid oedd angen ailadrodd y lefel hon o fanylion yn y canllaw cyhoeddus ar y cyfansoddiad.

 

-        Roedd y Cynghorydd Hourahine o'r farn y byddai egluro’r nifer yn helpu pawb sy’n darllen y ddogfen a chyfeiriodd hefyd at dudalen 34 yngl?n â'r Pwyllgor Safonau lle nad yw cyn-gynghorwyr yn cael eistedd ar y pwyllgor hwnnw ond nid yw'n datgan hynny yn y ddogfen.

 

Fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaeth egluro  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Diwygio'r Cyfansoddiad - Rhannu swyddi'r Cabinet a Chynorthwywyr Gweithredol pdf icon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau drosolwg byr i'r Pwyllgor o'r newidiadau deddfwriaethol sy’n cyflwyno’r hawl i rannu swydd Aelod Cabinet a'r hawl i arweinwyr benodi cynorthwywyr i'r weithrediaeth. Eglurwyd bod yr adroddiad yn diweddaru rhannau perthnasol y cyfansoddiad i adlewyrchu sut mae'n gweithio'n ymarferol.

Cafodd aelodau wybod bod Arweinydd y Cyngor yn penodi Aelodau'r Cabinet ac y gallan nhw benderfynu pa swydd allai gael ei rhannu.

 

Nododd y Swyddog fod nifer o resymau dros rannu swyddi, sef peidio â chynyddu nifer y swyddi neu rannu'r llwyth gwaith, ond yn bennaf ar gyfer gwella amrywiaeth a chynllunio olyniaeth.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth wybod i'r Aelodau sut y byddai penderfyniadau'r Aelod Cabinet yn gweithio, gan y byddai gan y ddau Aelod un bleidlais rhyngddynt. Os na all Aelodau'r Cabinet gytuno ar eu pleidlais ar y cyd, yna byddai eu pleidlais yn annilys ac yn cael ei diystyru. Gyda phenderfyniadau aelod unigol y Cabinet ar gyfer llofnodi adroddiad, byddai hyn yn cael ei ddirprwyo i Aelodau'r Cabinet fel y nodir yn y cynllun dirprwyo. Os oedd anghytuno ymysg y ddau Aelod Cabinet, byddai'r adroddiad ysgrifenedig yn mynd at Arweinydd y Cyngor am y penderfyniad.

 

Cafodd aelodau hefyd wybod sut nad oes gan gynorthwywyr i weithredwyr yr hawl i bleidleisio yn y cabinet, nac i gyflog uwch swyddogion. Mae hawl ganddynt i siarad yng nghyfarfodydd y Cabinet ond nid ydynt yn gyfrifol am benderfyniadau’r Aelod Cabinet. Pwysleisiwyd bod angen darpariaeth ar y ddeddfwriaeth i'r rheiny gael eu penodi ac i ddiweddaru'r cyfansoddiad fel bod disgresiwn. Ni fyddai gan hyn unrhyw oblygiad ariannol gan fod y swyddogion wedi diwygio rhan berthnasol y cyfansoddiad ond mae'n bwriadu adlewyrchu'r newidiadau hyn yn ymarferol.

 

Argymhellwyd i'r Pwyllgor fod yr Aelodau yn cyflwyno'r adroddiad i'r cyngor llawn ym mis Tachwedd er mwyn derbyn ac adlewyrchu'r newidiadau.

 

Dymunai'r Pwyllgor wneud yr argymhelliad canlynol:

 

Nododd y Pwyllgor gynnwys yr adroddiad a chytunodd i gyflwyno'r adroddiad i'r cyngor ym mis Tachwedd i fabwysiadu'r newidiadau i'r Cyfansoddiad.

 

 

6.

Adroddiad Blynyddol Drafft y Panel Taliadau Cydnabyddiaeth Annibynnol pdf icon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor wybod nad oedd cymaint â hynny o newid i'r adroddiad, dim ond y bydd cynnydd o 4.76% yng nghyflogau sylfaenol yr Aelodau yn unol â chwyddiant. Atgoffwyd aelodau na fyddai'r pwyllgor fel arfer yn gwneud sylw ar hyn, ond roedd y Panel wedi gofyn cwestiynau ymgynghori penodol am y broses o ymgynghori a phenderfynu, ac efallai y bydd y Pwyllgor am ei ystyried. Cafodd aelodau wybod na fydd unrhyw lwfans arall, fel yr Aelodau cyfetholedig yn newid o fis Ebrill nesaf.

 

Gwnaeth y Pwyllgor y sylwadau canlynol:

-        Gofynnodd y Cynghorydd Watkins a fyddai'n briodol i'r Pwyllgor wneud sylw ar y ddogfen gan ei bod yn effeithio ar yr holl Gynghorwyr ac y gallai fod yn wrthdaro buddiannau.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth yr Aelodau eu bod yn cael eu yngl?n â sylfaen y cyflog, nid y cyflog ei hun.

Yn dilyn cytundeb gan y Cadeirydd, aeth Pennaeth y Gyfraith a Safonau drwy bob cwestiwn ymgynghori i roi cyfle i'r Aelodau wneud sylwadau arnynt.

 

Cafodd yr aelodau wybod ei fod yn adroddiad drafft sy'n destun sylwadau ymgynghori, byddai'r adroddiad nesaf yn dod i'r Pwyllgor tua mis Chwefror/Mawrth i ffurfio'r cynllun newydd o lwfansau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd y Pennaeth Gwasanaeth yn gwerthfawrogi y gellid teimlo bod gormod o ddiddordeb yn y cwestiwn cyntaf, yngl?n â seilio lwfansau ar gyflogau cyfartalog, i fynegi eu barn ar hynny.

 

Cwestiynau’r Ymgynghoriad:

 

-          1. Cytunodd yr aelodau i ddewis yr opsiwn dim barn.

-          2. Cytunodd yr aelodau i ddewis yr opsiwn dim barn.

-          3. Cytunodd yr aelodau i ddewis yr opsiwn ie.

-          4. Dymunai'r aelodau i'r adroddiad barhau fel y mae felly dewisodd yr aelodau’r opsiwn ie.

-          5. Cytunodd yr aelodau i ddewis yr opsiwn ie.

Diolchodd y Swyddog i'r Aelodau am eu hymatebion.

 

 

 

7.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Dydd Mawrth 21 Chwefror 10am yn Ystafell Pwyllgor 1

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dydd Mawrth 21 Chwefror 10am yn Ystafell Pwyllgor 1

 

Cytunodd y Pwyllgor ar gynnal y cyfarfod nesaf yn yr ystafell bwyllgor. Mynegwyd amheuon dros y gwelededd darlledu. Cafodd yr aelodau wybod gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol bod y sgriniau bellach yn caniatáu i'r swyddogion chwyddo a fyddai'n addas i faint y pwyllgor.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth y Pwyllgor fod y Pwyllgor allan o drefn o ran cyfarfodydd gan fod cyfarfod mis Medi wedi’i ganslo, felly mae disgwyl i Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fynd i'r Cyngor ym mis Tachwedd.

 

Awgrymodd y Swyddog i'r Aelodau y gallai'r Swyddogion ddrafftio'r adroddiad a'i e-bostio at yr Aelodau am sylw i'w gynhyrchu ar y cyd trwy gytundeb i'w gyflwyno i'r Cyngor ym mis Tachwedd. Cafodd aelodau eu cynghori y byddai'n well nag aros am yr adroddiad yn y flwyddyn newydd. Fel arall byddai'n fwlch mawr o'r blynyddoedd blaenorol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Watkins y byddai hynny'n iawn o ran yr adroddiad blynyddol. Tybiodd yr Aelod, gan fod Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn gyfarfod cyhoeddus, os hoffai pobl ei wylio, a fyddai hynny'n cael ei hwyluso yn yr ystafelloedd pwyllgor?

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod gan Ystafell Bwyllgor 1 ardal eistedd gyhoeddus ar yr ochr.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.47am