Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Tasker Swyddog Llywodraethu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 114 KB Cofnodion: Nodwyd gan y Cadeirydd, ar dudalen 5 (eitem 2) mewn perthynas â’r paragraff ynghylch y sylw gan y Prif Weithredwr ar Wasanaethau’r Ddinas, y trafodwyd hyn yn eitem 13 a’i fod wedi’i weithredu.
Hefyd ar dudalen 5, cadarnhaodd y Cadeirydd, yn y frawddeg: ‘y gellir ail-enwi’r Pwyllgor Archwilio’n Bwyllgor Archwilio a Risg mewn sector arall, nid yn fforwm”…. Hefyd nodwyd gan y Cadeirydd y dylai’r frawddeg; ‘byddai angen newidiadau i’r cyfansoddiad’ nodi ‘i hyn gael ei addasu, dylid newid y cyfansoddiad a rheoliadau Cymru.’
Cytunwyd: Cadarnhau Cofnodion cyfarfod 28 Mawrth 2019 |
|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor gyflwyno eu henwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd.
Cytunwyd:
Penodi Mr John Baker yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd i’r Pwyllgor edrych ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ac Atodiad 2. Esboniodd y Partner Busnes Ymchwil a Pherfformiad mai diben y gofrestr risgiau oedd rheoli risgiau ac i dystio bod prosesau ar waith i reoli’r risgiau hynny. Prif bethau i’w hystyried: • Ar ddiwedd Chwarter 4, roedd 14 risg gorfforaethol wedi’u cofrestru’n cynnwys 5 risg uchel, 8 risg ganolig ac 1 risg isel. • Gostyngodd y risg ‘Deddfwriaethol’ o 16 i 12 yn y chwarter diwethaf a adlewyrchwyd y gwaith wedi’i wneud gyda’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. • Gostyngwyd risg Brexit yn y Chwarter blaenorol o 16 i 12 a adlewyrchwyd gohirio Brexit o fis Mawrth i fis Hydref 2019 gyda’r bygythiad o Brexit heb gytundeb gan yr UE. Byddai Risg Brexit yn parhau i gael ei monitro’n agos a byddai’r Cyngor yn cydgysylltu â Llywodraeth Cymru i fonitro unrhyw newidiadau. • Risg 5 (Rheoli Ariannol yn Ystod y Flwyddyn) - Lleihaodd y risg hon o 8 i 4 yn y chwarter diwethaf a adroddwyd tanwariant cyffredinol yng nghyllideb y Cyngor. Bydd angen monitro ac ailwerthuso’r risg o ganlyniad i bwysau parhaol ar wasanaethau’r Cyngor ar gyfer 2019/2020
Cwestiynau Cyfeiriodd aelod y pwyllgor at dudalen 14 yr Adroddiad ar Risgiau Corfforol a gofynnodd ynghylch y term ‘risgiau corfforaethol’ a’r hyn a olygir pan fo risgiau’n cael eu huwchgyfeirio i lefel gorfforaethol? Cadarnhawyd bod risgiau’n cael eu huwchgyfeirio i reolwyr gwasanaethau a’r uwch dîm rheoli.
Gofynnwyd cwestiwn mewn perthynas â sefyllfa ‘dim cytundeb’ o ran Brexit, gan fod sgoriau risgiau Brexit wedi gostwng, a ydy hyn yn golygu bod y Cyngor yn cefnogi Brexit heb gytundeb? Cadarnhawyd bod y risg wedi’i lleihau ers 29 Mawrth 2019 gan fod llawer o waith paratoi, gwaith gyda chymheiriaid ac ati. wedi bod. Pe bai sefyllfa dim cytundeb eto, byddai gwaith paratoi’n cael ei wneud yn syth. Dywedodd y Cadeirydd fod gwaith da wedi bod yn cael ei wneud ac nad oedd yn sicr a fyddai risg Brexit yn mynd i fyny neu i lawr ym mis Hydref.
Byddai’r gr?p gorchwyl yn parhau i fonitro ac addasu’r risg fel sydd angen a pha bynnag penderfyniad y byddai’r Llywodraeth yn ei wneud, gellid ei rheoli dros gyfnod hir. Roedd hyn yn cyd-fynd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Gofynnodd Aelod arall a allai risg nad ydym yn gwybod amdani effeithio ar y Cyngor, o ystyried y sefyllfa wleidyddol a byd-eang gyfredol.
Cadarnhaodd y Partner Busnes Ymchwil a Pherfformiad nad oes modd rhagweld hyn. Dywedwyd bod adolygiad o risgiau’n cael ei gynnal bob blwyddyn. Ystyriodd yr adolygiad o Risgiau Corfforaethol y cynllun gwasanaeth a’r gwasanaethau i edrych ar y tirlun risgiau. Beth oedd y risgiau posibl nawr ac mewn 10 mlynedd? Er enghraifft, beth fyddai effaith newid yn yr hinsawdd ar ddinas Casnewydd mewn 20-30 o flynyddoedd erial a sut byddai’r risg honno’n effeithio ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Archwilio Mewnol Barn Archwilio Anfoddhaol PDF 165 KB Cofnodion: Dywedwyd wrth yr Aelodau mai diweddariad 6 mis oedd hwn a rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau fod gwelliannau wedi’u gwneud. Dywedwyd wrth y Pwyllgor
-Yn ystod 2016/17, y cafodd 5 barn archwilio oedd yn Anfoddhaol ac roedd Pennaeth y Strydlun a Gwasanaethau’r Ddinas wedi’u galw i mewn i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio i ymateb i bryderon.
Yn ystod 2017/18, y cyhoeddwyd 40 barn archwilio yr oedd 6 ohonynt yn Anfoddhaol. Camau dilynol ar yr archwiliad o Asiantaeth/Goramser - Gwrthod a arweiniodd at ail farn archwilio anffafriol.
-Yn ystod 2018/19, y cyhoeddwyd 48 barn archwilio yr oedd 10 ohonynt yn Ansicr.Arweiniodd camau dilynol pellach ar Asiantaeth/Goramser-Gwrthod ym mis Mawrth 2019 at farn Archwilio Da.
-Cynigiwyd bod y Pwyllgor Archwilio’n nodi’r adroddiad a bod y Pwyllgor yn cael gwybod i’r camau dilynol ar Dripiau ac Ymweliadau yn y Gwasanaethau Addysg arwain at ail farn Archwilio Anfoddhaol olynol. O ganlyniad, y protocol cytûn oedd i’r Prif Swyddog Addysg a’r tîm rheoli Addysg gael eu galw i mewn i roi sicrwydd y byddai gwelliannau’n cael eu gwneud.
-Nodwyd bod Ysgol Uwchradd Llanwern wedi cael barn Archwilio resymol, pan gafodd un anfoddhaol yn y gorffennol. -Roedd SGO a Kinships bellach yn rhesymol.
Mae’r Prif Feysydd sy’n gwarantu Barn Archwilio Anfoddhaol fel a ganlyn:
-Rhoddwyd barn archwilio anfoddhaol i Lwfansau Mabwysiadu. -Derbyniodd Priffyrdd farn archwilio anfoddhaol o ganlyniad i nifer o faterion. Mewn perthynas â Gwasanaethau’r Ddinas, awgrymwyd bod angen galw’r rheolwyr perthnasol i mewn i esbonio pa gamau fyddai’n cael eu cymryd i roi sicrwydd ynghylch faint sydd angen gwella. -Derbyniodd Ysgol Gyfun Caerllion farn archwilio anfoddhaol o ganlyniad i faterion sylweddol. -Derbyniodd Canolfan Gyflawni’r Bont farn archwilio ansicr.
Cwestiynau:
Gofynnwyd am ddiweddariad ar adroddiad Norse y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) a chadarnhawyd bod adroddiad Drafft bellach ar gael, gyda’r fersiwn terfynol yn cael ei adolygu gan swyddogion a’r Cabinet. Y gobaith yw y byddai’n cael ei gwblhau erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio.
Trafodwyd Ysgol Gyfun Caerllion ac ystyriwyd a ddylid galw’r Pennaeth Addysg i mewn i drafod y Farn Archwilio Anfoddhaol gan y dywedwyd ei bod yn ymddangos bod y diffyg o £1.6M a ragwelir yn y gyllideb yn gwbl anghywir. Hefyd dywedwyd mai Pennaeth yr ysgol a’r Llywodraethwyr sy’n gyfrifol, nid y Pennaeth Addysg.
Dywedodd y Cadeirydd mai’r aelodau fydd bellach yn penderfynu a ddylai’r Pwyllgor alw’r Pennaeth a’r Llywodraethwyr a byddai barn gan y Pennaeth Addysg hefyd. Gofynnodd Aelod pan effaith mae’r diffyg mawr hyn wedi’i chael ar ysgolion eraill gan fod Ysgol Gyfun Bassaleg wedi cyfrannu £30,000 i helpu Ysgol Caerllion yn y gorffennol ac roedd yn bryder y byddai hyn yn digwydd eto.
Esboniodd y Pennaeth Cyllid fod gan ysgolion gyllidebau diffyg a dros ben a bod ysgolion heb arian wrth gefn. Roedd wedi’i adrodd i’r Cabinet. Hefyd cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod ysgol uwchradd arall ac eithrio Ysgol Gyfun Caerllion yn cael trafferthion ar hyn o bryd.
Wedyn trafodwyd sut y byddai cymorth Adnoddau Dynol a Chyllid yn cael ei roi ar waith gan fod ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2018/19 PDF 240 KB Cofnodion: Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor edrych ar Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2018/2019 a nododd yr holl waith wedi’i gwblhau yn y flwyddyn. Rhoddodd yr adroddiad farn gyffredinol ar effeithiolrwydd rheoliadau mewnol y Cyngor yn ystod 2018/19 oedd yn Rhesymol:Rheolir yn ddigonol er nodwyd risgiau a allai beryglu’r amgylchedd rheoli cyffredinol; lefel resymol o sicrwydd.
Hefyd cyfeiriwyd yr adroddiad at berfformiad y tîm a pha mor dda mae’r cynllun archwilio wedi’i gyflawni. Y Prif Bwyntiau i’w Nodi:
Cwestiynau: Gofynnodd aelod, mewn perthynas â’r NFI, a oedd yn bosibl gwneud taliadau i gwmni ffug a sut mae hyn yn cael ei atal. Cadarnhawyd bod parau’n cael eu gwneud gan gredydwyr ac adran y gyflogres lle bod cyfeiriadau’n cael eu paru â chyfrifon banc a nodwyd twyll caffael yn y ffordd hon. Sylwodd y Cadeirydd ar baragraffau 43 - 46 ynghylch digonedd adnoddau archwilio mewnol a gofynnodd a oedd lefel ddigonol o staff ac a oedd angen mwy o flaenoriaethu yn y tîm. Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol fod angen amser hir i greu adroddiadau a chytunwyd bod angen blaenoriaethu ond bod cael mwy o adnoddau ac ati. rhoi mwy o sicrwydd. Aildrafodir hyn yn yr eitem agenda nesaf. Sylwodd y Cadeirydd ar baragraff 52-53 ynghylch sut nad oes unrhyw ddewisiadau penodol a’r ffaith y gellid dileu paragraff 54. Gwnaethpwyd sylw ar y dreth Gyngor ac a oedd y dreth gyngor yn cael ei chasglu’n llai. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol ei bod yn broses lwyddiannus a bod y newidiadau a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2019 ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol 2019/20 PDF 219 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol Drafft i’r Pwyllgor yn y gorffennol. Y prif wahaniaeth oedd bod swm y diwrnod cynhyrchiol wedi gostwng, mae 1155 o ddiwrnod cynhyrchiol wedi’u trefnu ar gyfer 2019/20 i gynnal archwiliad. Yn 2018/19, 1214 oedd hyn. Nodwyd fod yr atodiad yn eithaf manwl a’i fod yn trafod popeth. Y Prif Bwyntiau i’w Nodi:
Dywedodd Aelod y teimlwyd nad oes digon o staff gan y tîm Archwilio a bod llawer o adrannau wedi profi toriadau ac yn lle arfer rheoli da, roedd rhai adrannau’n dibynnu ar y tîm Archwilio i ddatrys pethau ar eu rhan. Cytunwyd: -Nodi a chymeradwyo’r Cynllun Archwilio mewnol. -Ystyried peidio â gwneud i’r tîm Archwilio baratoi Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn y dyfodol. -Bod angen archwilio gwasanaethau’n fwy a bod angen i Uwch Reolwyr ystyried adnoddau staff. -Y byddai’r materion hyn yn cael eu bwydo’n ôl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio gan y dywedwyd y dylai arfer gorau fod ar waith yn lle na’r adran archwilio’n delio gyda’r materion hyn. -Dywedwyd gan y Prif Archwilydd Mewnol fod materion difrifol yn cael eu hadrodd i’r pwyllgor archwilio.
|
|
Drafft o Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2018/19 PDF 2 MB Cofnodion: Gofynnwyd i’r Pwyllgor edrych ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft a gyflwynodd drefniadau ar gyfer llywodraethu ar draws y bwrdd. Nodwyd bod angen gwella. Cwestiynau: Dywedodd y Cadeirydd fod 51 tudalen ar gyfer y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn rhy fawr a bod angen ei leihau. Hefyd dywedodd y Cadeirydd fod y fframwaith sefydliadol yn brysur a chymhleth iawn a’i fod yn wych i’w ddefnyddio’n fewnol ond roedd bach yn ailadroddus. Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 106; 3.11 a gofynnodd sut mae’r gwerthoedd Dewr yn cysylltu â’r gofrestr risgiau corfforaethol a dywedodd nad oes unrhyw beth yn bod ar risg a gofynnodd a ydy’r awdurdod yn addasu dull dim risg. Dywedodd y Cadeirydd fod yr awydd am risgiau ar gyfer 2019/20 yn dangos lefel y risg y mae’r awdurdod yn fodloni ei phrofi er mwyn darparu gwasanaeth ac er mwyn cyflawni dyletswyddau statudol. Cadarnhawyd y byddai’r Cabinet yn derbyn cyflwyniad ar y Gofrestr Risgiau ac y byddai gwybodaeth yn cael ei bwydo’n ôl i’r Pwyllgor ac ar y cyd byddai hyn yn creu archwaeth risg ffurfiol ar gyfer 2019/20. Dywedodd y Cadeirydd, o ganlyniad i nifer y staff a ddiswyddodd, fod dibyniaeth ar y system TG. Hefyd dywedwyd bod rheoliadau o bosibl yn cael eu derbyn o fewn y system, a fyddai rhywbeth yn cael ei gam-godio ac a fyddai llai o gostau’n diystyru hyn. Mewn perthynas â’r swyddfa Archwilio, os oedd arian yn cael ei arbed o ran lefelau staff ac nad oedd unrhyw wallau dieisiau gan swyddogion, oedd y Cabinet yn meddwl am y materion hyn ac yn ystyried sut mae’r adran Archwilio’n ystyried risg. Ar hyn o bryd, roedd polisïau'n dawel, ac efallai dylai’r strategaeth risg gael trafodaethau ar edrych ar yr awydd am risg. Oedd yn bosibl ymlacio rheoliadau ariannol? Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor yn edrych ar adolygu’r awydd risg a fyddai’n dod yn ôl i’r Pwyllgor a chodwyd y mater o’r blaen ond nid ystyriwyd sylwadau’n flaenorol. Dywedwyd wrth y Cabinet y byddid yn gwneud y Pwyllgor Archwilio’n ymwybodol ac roedd yn glir bod angen gwneud mwy o waith ar awydd am risg ac roedd hyn yn hwyr. Ar dudalen 117 yr adroddiad, gofynnodd y Cadeirydd a oedd yn werth rhoi Pennaeth yr Archwilwyr Mewnol yn awdur y Datganiad Llywodraethu Blynyddol Ar dudalen 120; cyfeiriodd y Cadeirydd at y ddau ddatganiad wedi’u gwneud yn 2018/19 dan y polisi chwythu’r chwiban a gofynnod nhw a yw’n cael ei ddefnyddio’n effeithiol? Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol nad yw’r adran archwilio mewnol yn ymwneud â hyn. Hefyd ar dudalen 120; 5.10 sylwodd y Cadeirydd ar nifer y cwynion ynghylch Casnewydd sydd wedi cynyddu a gofynnodd a yw hyn yn golygu Cyngor Dinas Casnewydd neu’r ddinas ei hun a dywedodd fod angen egluro hyn. Cadarnhawyd gan y Prif Archwilydd Mewnol mai ‘dinas’ oedd hyn. Nodwyd fod y grym gan y Pwyllgor Archwilio i alw Penaethiaid Gwasanaeth i mewn fel y galwyd Pennaeth y Strydlun i mewn yn 2018. Dywedodd y Cadeirydd bod angen cyfeirio at y Datganiad Llywodraethu ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli ' r Trysorlys 2018/19 PDF 108 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd i’r eitem agenda hon gael ei thrafod ar ddiwedd y Pwyllgor. Trafodwyd y canlynol: Gofynnwyd i’r Pwyllgor edrych ar yr adroddiad ar Reoli’r Trysorlys. Cadarnhaodd yr adroddiad benthyca manylion buddsoddi. Prif Bwyntiau: Roedd benthyca net y Cyngor wedi cynyddu gan £5.1 Ym mis Mawrth 2019, benthycodd y Cyngor £40m cyn ail-ariannu y stoc gwerth £40m i gael ei ad-dalu ar 10 Ebrill 2019. Cymerwyd y cam hwn yn unol â chyngor gan gynghorwyr y trysorlys yr Awdurdod a gwnaethpwyd y penderfyniad hwn o ganlyniad i ddyddiad terfyn Brexit ar ddod ac felly fe’i sicrhawyd ar 14 Mawrth er mwyn osgoi risg. Cwestiynau Gwnaethpwyd sylwadau ar a oedd y benthyca’n benderfyniad da gan ei fod yn osgoi risg ond roedd ansicrwydd gan y gallai cyfraddau llog fod wedi codi neu ostwng. Dywedwyd yr oedd yn hysbys bod y gyllideb yno a bod arwydd arbed yno i swm cyfartaledd felly roedd ail-ariannu ar gyfer cymysgedd, cymysgedd o ddyddiadau aeddfedrwydd i 16 blynedd i 28 mlynedd sy’n gyfnod hir. Roedd i gyd ar sail ad-dalu, £16m ac wedyn £4m bob 2 flynedd. Cyfeiriodd aelod at baragraff 7 ar dudalen 144 a gofynnodd pwy oedd y prif awdurdod a chadarnhawyd mai Cyngor Thurrock oedd e. Roedd Atodiadau A a B rhwng briffio a thrafodwyd yr adroddiad terfynol a’r adroddiad ar reoli’r trysorlys y pethau mawr. Byddai’r atodiadau’n cael eu- e-bostio at aelodau a byddai sylwadau’n cael eu croesawu. Gofynnwyd cwestiwn am baragraff 9 am y Cyngor yn peidio â bod ag unrhyw fuddsoddiadau tymor hir a beth sydd ei angen arnom? Cadarnhawyd bod angen hanfodol i fenthyca ac roedd angen benthyca a gwnaethpwyd y penderfyniad hwn yn unol â’r strategaeth.
|
|
Datganiadau Ariannol Drafft 2018/19 PDF 3 MB Presentation by Head of Finance Cofnodion: Cadarnhawyd i Aelodau pwyllgor dderbyn copi o’r Cyfrifon Ariannol Drafft ac roedd y Pennaeth Cyllid yn gobeithio cael mwy o sylwadau ac adborth gan y Pwyllgor. Y bwriad oedd ei gwblhau erbyn dydd llun 10 Mehefin 2019 ar yr hwyraf. Dywedwyd bod problemau fformatio mewn cwpl o adrannau. Wedyn rhoddodd cyflwyniad i’r Pwyllgor a roddodd wybod i’r Pwyllgor am y prif agweddau ar y cyfrifon. Prif Bwyntiau: -Paratowyd y cyfrifon Gr?p yn ychwanegol i’r cyfrifon unigol -Gorffennodd y Cyngor y flwyddyn gyda thanwariant o £2.4m. -Gorwariwyd y cyllidebau Anghenion Addysgol Arbennig a Gofal Cymdeithasol yn sylweddol gan bron i £5m. -Gostyngodd arian wrth gefn y Cyngor y gellir ei ddefnyddio gan £1.7m yn ystod y flwyddyn o £104.3m i £103.0m o arian wrth gefn y gellir ei ddefnyddio. - Mewn perthynas â arian cyfalaf wrth gefn, roedd arian wrth gefn cyffredinol wedi’i gadw ar £6.5m oedd y swm gofynnol. -Mae’r Datganiad Trosglwyddo Cronfeydd yn crynhoi arian wrth gefn y Cyngor yn y CIES (Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr) a gedwir gan y Cyngor. -Mae’r datganiad llif arian yn dangos symudiadau arian a’r hyn sy’n cyfateb i arian yn y Cyngor. Ar gyfer 2017/18, roedd diffyg ar ddarparu gwasanaeth o £53.5m oedd yn eithaf gwahanol i’r £21.4m dros ben ar gyfer 2017/18 a adroddwyd i’r Cabinet. Cafodd sawl Atebolrwydd Amodol eu nodi ar 31 Mawrth 2019; MMI Insurances, Cartrefi Dinas Casnewydd ac ati. Cwestiynau: Gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i wneud sylwadau ar y Datganiad. Argymhellodd y Cadeirydd gwtogi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a nodwyd hyn. Gofynnodd aelod sut mae’n cymharu â’r flwyddyn ariannol flaenorol a cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod y broses wedi mynd yn dda ac y cafodd ei chwblhau wythnos yn gynt na’r llynedd a chwblhaodd yr adran Cyllid eu gwaith yn gyflym. Sylwodd Aelod ar y cyfrifon oedd angen eu cwblhau erbyn 31 Mawrth ar ddiwedd y flwyddyn a gofynnodd a ellir gwneud unrhyw beth i gyflymu’r gwaith hwn. Dywedwyd y byddai angen i’r adran Archwilio newid prosesau, fel y drafodaeth ar risgiau ynghynt. Dywedwyd y gellir ei gyflawni pe bai 12 mis oedd yr amserlen. Gwnaethpwyd sylwadau ar weithrediadau llif arian ar gyfer contractwyr ac na fyddai’n effeithio ar waith cyllid ond y byddai’n effeithio ar anfonebau ac ati. Sylwodd y Cadeirydd ar dudalen 80 yr adroddiad ar gyfrifon ar gyfer y ffigur 755; nid oedd y bwrdd draenio’n bodoli mwyach a hefyd defnyddiodd tudalen 90 yr adroddiad y termau ‘hardcore’ a ‘topslice’ a holwyd am ystyr y rhain. Gofynnwyd am Saesneg symlach gan y Cadeirydd. Dywedodd y Cadeirydd fod angen cysondeb trwy’r adroddiad gan fod problemau fformatio; roedd y cromfach enillion a cholledion yn wrthdro ac roedd y gweddill wedi’i ddangos fel term mewn cromfach, gan y gallai ennill fod yn rhif cadarnhaol. Hefyd dywedodd y Cadeirydd ei bod yn teimlo fel mae’r adroddiad wedi’i ysgrifennu fel mae person yn siarad yn lle darllen fel dogfen ffeithiol. Ar dudalen 8, sylwodd y Cadeirydd ar y diagram gan ddweud y dylai fod ganddo dalfyriadau byr a theimlwyd bod ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
Ymateb Gan y Prif Weithredwr i Mewn yn dilyn Barn Ymchwiliad Mewnol Anffafriol PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol fod gwelliannau wedi’u gwneud sydd bellach yn ddigonol i ddelio gyda phroblemau megis ailstrwythuro a darpariaeth gwasanaeth, ond byddai problemau’n gwaethygu cyn iddynt wella o bosibl. Dywedodd y Cadeirydd y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn y cynllun Archwilio. Cwestiynodd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol y soniwyd amdano’n flaenorol y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Gwasanaeth a dangosodd ein bod yn gofyn y cwestiynau iawn o’r maes iawn.
|
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf Cofnodion: 5 Medi 2019
|