Agenda and minutes

Pwyllgor Archwilio - Dydd Mercher, 29ain Ionawr, 2020 5.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Tasker  Swyddog Llywodraethu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019 yn gofnod gwir.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod angen ychwanegu Gwiriadau Diogelwch Cerbydau ar dudalen 9 o'r cofnodion o dan y paragraff Diogelwch Cerbydau.

 

Archwilio Mewnol
I roi gwybod i Aelodau Pwyllgor Archwilio'r Cyngor am gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol yn erbyn cynllun archwilio cytûn 2019/20 ar gyfer 9 mis cyntaf y flwyddyn, drwy ddarparu gwybodaeth am farn archwilio a roddwyd hyd yma a chynnydd yn erbyn targedau perfformiad allweddol.

 

Ar hyn o bryd, mae'r tîm yn gweithredu gydag 8 aelod o staff archwilio. Ar ddechrau'r flwyddyn roedd 7 aelod o staff archwilio yn y tîm.

 

Cafodd cynlluniau parhaus y cynllun adfer diffyg eu cyflwyno a byddant yn gysylltiedig ag adroddiad y Prif Archwilydd Mewnol.   Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai'r ffigwr hwnnw'n gostwng erbyn diwedd mis Mawrth.  Gofynnodd y Cadeirydd am y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllid am Ysgol Caerllion yn y cyfarfod nesaf.


Tudalen 12 – nodyn 8

Cymeradwywyd cofnodion gyda'r diwygiadau uchod.

 

 

3.

Cynllun Archwilio Mewnol Chwarter 3 pdf icon PDF 149 KB

Cofnodion:

Rhoi gwybod i Aelodau Pwyllgor Archwilio'r Cyngor am gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol yn erbyn cynllun archwilio cytûn 2019/20 ar gyfer 9 mis cyntaf y flwyddyn, drwy ddarparu gwybodaeth am farn archwilio a roddwyd hyd yma a chynnydd yn erbyn targedau perfformiad allweddol.

 

Nododd yr adroddiad amgaeedig fod yr Adran Archwilio Mewnol yn gwneud cynnydd da yn erbyn cynllun archwilio 2019/20 a dangosyddion perfformiad mewnol. 

 

Perfformiad o safbwyntiau tîm a lefelau barn.  

Wedi cyflawni 51% yn unol â'r targed o 50%

Mae adroddiadau terfynol yn mynd allan mewn dau ddiwrnod 

Mae dal i fod yn un swydd wag o fewn y tîm.

Rhannwyd y costau rhwng Casnewydd a Sir Fynwy 50/50

 

Cododd yr Aelodau’r ymholiadau canlynol:-

 

•Mae chwech yn y tîm ydych chi'n defnyddio adnodd allanol i helpu gyda llwyth gwaith?

•Pa feysydd sydd angen eu gwella?

•Sut mae'r costau wedi'u rhannu rhwng Casnewydd a Sir Fynwy?

•Allwn ni ymdopi â'r llwyth gwaith gyda'r niferoedd sydd gennym?

 

Cytunwyd:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.

 

4.

Adroddiad Rheoli Trysorlys pdf icon PDF 4 MB

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys y Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Reoli'r Trysorlys i'w cymeradwyo gan y Cyngor ac (i) i gadarnhau'r rhaglen gyfalaf, fel rhan o'r Strategaeth Gyfalaf a (ii) y terfynau benthyca amrywiol a dangosyddion eraill fel rhan o Strategaeth Reoli'r Trysorlys. Yn ogystal, nododd yr adroddiad gostau cynyddol ariannu benthyca allanol y Cyngor a her fforddiadwyedd hyn o ran y tymor canolig i hirdymor.    Cafodd effaith refeniw'r ddwy strategaeth ei chynnwys yn yr Amcanestyniadau Ariannol Tymor Canolig a gymeradwywyd ar wahân gan y Cabinet fel rhan o adroddiad cyllideb 2020/21.

 

Gwnaed cynnydd da o ran cyflwyno rhai cynlluniau allweddol hyd yma e.e. y Bont Cludo, Hybiau Cymdogaeth, ail-ddatblygu canol y Ddinas, ysgolion newydd. Roedd y rhaglen gyfalaf bresennol yn cynnwys tua £186m o brojectau a gymeradwywyd eisoes a thua £16m o brif le cyfalaf pellach ar gyfer projectau pellach - cyfanswm o £202m o fuddsoddiad yn y ddinas, a oedd yn cyflawni blaenoriaethau allweddol.

 

Crynodeb o’r Argymhellion

 

Amlinellodd y Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ymhellach yn yr adroddiad hwn, y rhaglen gyfalaf bresennol hyd at 2024/25 (dyma'r rhaglen gyfalaf 5 mlynedd wreiddiol hyd at 2022/23 a estynnwyd 2 flynedd ar gyfer projectau yr oedd eu cwblhau'n rhychwantu y tu hwnt i'r 5 mlynedd), cysylltiadau â phenderfyniadau rheoli'r trysorlys a barn hirdymor a dynnodd sylw at yr heriau sy'n wynebu'r awdurdod ar gyfer penderfyniadau cyfalaf yn y dyfodol.

 

Strategaeth Benthyca Rheoli’r Trysorlys

 

Roedd y gallu i fenthyca mewnol ymhellach wedi cyrraedd capasiti a byddai'n lleihau dros y tymor canolig i'r hirdymor. Yn 2020/21 roedd disgwyl i'r Cyngor ymgymryd â benthyca allanol, ar gyfer ail-gyllido benthyciadau sy’n aeddfedu ac ariannu'r rhaglen gyfalaf bresennol; byddai’n aros fel cymaint o ‘fenthyg yn fewnol’ ag oedd yn bosibl ac yn cynyddu benthyca allanol gwirioneddol dim ond pan fo angen i reoli ei ofynion arian parod. Fodd bynnag, gall y Cyngor, lle teimlai fod angen lliniaru'r risg o gynnydd yn y gyfradd llog, gan ymgymryd â benthyca'n gynnar i sicrhau cyfraddau llog o fewn cyllidebau refeniw y cytunwyd arnynt. Byddai hyn yn cael ei wneud yn unol â chyngor gan ein Cynghorwyr Trysorlys.

 

Gweithgareddau Masnachol

 

Mae Adran 6 y Strategaeth Cyfalaf yn manylu ar weithgareddau masnachol y Cyngor, gan gynnwys cymeradwyo cronfa fuddsoddi gwerth £50 miliwn ar gyfer buddsoddiadau mewn eiddo masnachol, sydd wedi'i chynnwys yn y terfynau benthyca a nodir yn yr adroddiad. Er na ddefnyddiwyd y gronfa hon ar hyn o bryd, gall y gronfa cael ei defnyddio yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am fwy o naratif wrth ddarllen drwy'r adroddiad.

 

Cododd yr Aelodau'r ymholiadau canlynol:

 

•A oes unrhyw arian wedi'i wario

•Pryd ddigwyddodd hyn - Hydref 2019

Dywedodd y Pwyllgor nad oedd yn glir pam yr oedd gofyniad i adolygu'r gronfa fuddsoddi pan fu cynnydd o 1% yng ngordrethi’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, ac ymhellach, sut y byddai cynnydd cymharol fach yn cael effaith mor fawr.  Dywedwyd felly y dylid ystyried y sylw hwn a'i adlewyrchu yn yr adroddiad i'r Cabinet.

 

Strategaeth Rheoli’r Trysorlys

 

Mae'r Cyngor yn ymwneud  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Gofrestr RIsg Gorfforaethol (Chwarter 2) & Polisi Rheoli Risg pdf icon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau ddiweddariad o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol ar gyfer diwedd chwarter 2.

 

Ar ddiwedd chwarter 2, mae gan y Gofrestr Risg Gorfforaethol 12 risg, yr ystyrir eu bod yn cael effaith sylweddol ar gyflawni amcanion y Cyngor ac yn haeddu monitro gan uwch reolwyr y Cyngor.  Roedd y gofrestr risg gorfforaethol yn cynnwys 9 risg lefel uchel (sgoriau risg 15 i 25) a 3 risg ganolig (sgoriau risg 5 i 14).  Ni nodwyd unrhyw risgiau newydd, a oedd wedi’u dwysáu o wasanaethau na'u cau ar ddiwedd y chwarter.

 

Rôl y Pwyllgor Archwilio yw adolygu a monitro'r trefniadau llywodraethu corfforaethol a rheoli risg sydd ar waith, gyda sylwadau ac argymhellion y Pwyllgor ar y broses risg yn cael eu hystyried gan y Cabinet.

 

 

 

Polisi Rheoli Risg

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau PF y bydd yr holl sylwadau a wneir yn cael eu hystyried ac y bydd y Polisi'n cael ei ddiweddaru cyn iddo fynd gerbron y Cabinet.  Gwneir adolygiad blynyddol hefyd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am rai enghreifftiau o archwaeth risg ar gyfer gwahanol fannau. 

 

Bydd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau yn anfon papur diweddaru'r Pwyllgor ar Brexit.

 

Cododd yr Aelodau’r ymholiadau canlynol:

 

•Pa fatrics maint a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ymarfer hwn.

•Ar dudalen 116 mae'n dangos 3 neu 4 person sy'n gyfrifol am y risg, oni ddylai fod yn 1 person.

•Beth sy'n digwydd gyda Brexit.

 

6.

Archwilio Mewnol Barn Archwilio Anfoddhaol pdf icon PDF 141 KB

Cofnodion:

Adroddwyd nad yw rhifau 16 a 17 wedi'u dilyn i fyny oherwydd gwaith gyda’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.


Nid yw'r contract arlwyo allanol newydd wedi'i brofi eto.


Dywedodd Aelod ei fod wedi'i ddrysu gan adroddiad Norse.  Adroddwyd bod y Rheolwyr wedi gohirio hyn nes i'r adroddiad gael ei gwblhau a'i fod wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. 

 

Cododd yr Aelodau'r ymholiadau canlynol:

·         Mae adroddiad Norse yn ddryslyd?

·         Mae teithiau ac ymweliadau yn anfoddhaol, ni all ddal i nodi'n anfoddhaol; mae angen ysgrifennu datganiad dull newydd?